Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

278.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

279.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 213 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 09/09/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cadarnhau cofnodion 09/09/2021 a’u bod yn wir a chywir

280.

Cofnod Gweithredu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gyda manylion diweddaraf y Cofnod Gweithredu.

 

Cynghorodd fel a ganlyn: er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i sicrhau bod penderfyniadau’r Pwyllgor yn cael eu gweithredu a’u cyflawni, ychwanegir y Cofnod Gweithredu at Atodiad A. Bydd y Cofnod Gweithredu yn cael ei gyflwyno ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgor er mwyn iddo gael ei gymeradwyo.

 

Holodd un Aelod am y camau sy’n ymwneud â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (GCA) a’r sylw ynghylch gwybodaeth am ddata ‘os yw hyn ar gael’. Credai y dylai’r data fod wedi bod ar gael ar gyfer y blynyddoedd a restrwyd.

 

Nododd un Aelod fod yr eitem Cwynion Corfforaethol i fod i ymddangos yn y cyfarfod hwn ond nid oedd wedi ei gynnwys yn yr agenda.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y lòg gweithredu yn adrodd am y data ac anawsterau’r 18 mis diwethaf wrth ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodaeth y gweithgor a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf gael ei gymeradwyo ar hyn o bryd, gyda’r Cynghorydd Amanda Williams, y Cynghorydd Cheryl Green a’r Cynghorydd Lyn Walters. Cynigiodd y cadeirydd y dylid darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses gwyno yng nghyfarfod mis Mawrth 2022, gan roi digon o amser i’r broses MTFS ddigwydd a hefyd gyfnod y Nadolig.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi talu sylw i’r Cofnod Gweithredu a gwneud sylwadau priodol.

 

281.

Newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 408 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn gofyn i’r Aelodau sylwi ar y newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a ddaw i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022.

 

Eglurodd fod aelodaeth bresennol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys 12 Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac un Aelod Annibynnol (Lleyg). O ran Aelodaeth Leyg y Pwyllgor hwn, ailbenodwyd yr Aelod Lleyg presennol, Ms J Williams, am dymor pellach yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2017 ac yn unol â’r Mesur, caniateir iddi fod yn y swydd hon ar y Pwyllgor am uchafswm o ddau dymor. Daw’r tymor hwn i ben ym mis Mai 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd hi’n ofynnol o 5 Mai 2022, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, i draean aelodaeth y Pwyllgor fod yn Aelodau Lleyg ac i’r Cadeirydd fod yn Aelod Lleyg. Ar 20 Hydref 2021, cymeradwyodd y Cyngor newid i aelodaeth y Pwyllgor i 12 Aelod sy’n cynnwys 8 Aelod CBSP a 4 Aelod Lleyg a chymeradwywyd ymhellach benodiad Aelodau Lleyg ychwanegol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth o 5 Mai 2022 ymlaen. Bydd seddi’r Pwyllgor yn cael eu penodi yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022 yn unol â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor bryd hynny. Cafwyd rhagor o wybodaeth am yr hyn a olyga i fod yn aelod lleyg yn 4.3 a 4.4 yn yr adroddiad.

 

Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth, eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod hysbysebion cenedlaethol wedi’u gosod ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal ag ar wefan y Cyngor, i hysbysebu’r swyddi. Bydd angen i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais. Yna bydd yr holl geisiadau a dderbynnir yn cael eu cyflwyno i Banel Swyddogion sy’n cynnwys y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid a’r Pennaeth Archwilio Mewnol er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld. Roedd rhagor o wybodaeth yn 4.5 a 4.6 yn yr adroddiad.

 

Soniodd un Aelod am y pryderon oedd ganddi pan drafodwyd hyn mewn cyfarfod diweddar o’r Cyngor, sef beth fyddai’n digwydd pe na bai digon o ymgeiswyr ar gyfer swyddi’r Aelodau Lleyg. Gan fod y ceisiadau bellach wedi cau, a ydym yn fodlon bod digon o bobl wedi ymgeisio er mwyn llenwi’r swyddi gwag. Aeth â hyn ymhellach drwy ofyn, pe bai gennym 8 cais allan o 8, a fyddai’r ymgeiswyr yn cael y swyddi aelodau lleyg, neu a fyddai angen iddynt basio’r meini prawf o hyd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod 4 swydd aelod lleyg ar gael a bod ceisiadau wedi dod i law ond nad oeddent wedi cael eu hasesu eto.

 

Gofynnodd hefyd, petai 5 aelod o blaid wleidyddol, er enghraifft, yn gadael y blaid honno, a fyddai hynny’n cael ei ystyried fel buddiant anffafriol posibl petaent yn gwneud cais am swyddi’r Aelodau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 281.

282.

Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Archwilio Cymru pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru adroddiad am yr wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad Ariannol a Pherfformiad a wnaed, ac sydd ar fin cael ei wneud, gan Archwilio Cymru. Cafwyd amlinelliad gan gynrychiolydd Archwilio Cymru o’r rhaglen waith a’r amserlen y mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol ei gynhyrchu yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Esboniodd fod Archwiliad datganiad cyfrifon 2020-21 y Cyngor ac Archwiliad Ffurflenni 2020-21 Awdurdod Harbwr Porthcawl wedi’u hardystio erbyn 31 Gorffennaf 2021, ac Amlosgfa Llangrallo erbyn 30 Medi 2021

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru waith yr Archwiliad Grantiau a Ffurflenni 2020-21 a oedd newydd ddechrau. Roedd disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2021 ac roedd 5 cais yn gynwysedig yn yr archwiliad.

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru waith archwilio perfformiad 2020-2021 a dywedodd fod y gwaith ar fin cael ei orffen ac mai’r Crynodeb Archwilio Blynyddol oedd y gwaith olaf. Roedd i fod i gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2021.

 

Tynnodd sylw at waith archwilio perfformiad 2021-2022 a dywedodd fod y gwaith Asesiad Risg a Sicrwydd bron wedi’i gwblhau. Roeddent wedi cysylltu â’r Cyngor er mwyn cael dyddiad i ddod â’r canfyddiadau gerbron y  Bwrdd Rheoli Corfforaethol rywbryd ym mis Chwefror 2022, gyda’r nod o ddarparu adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ddiweddarach yn 2022.

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru y gwaith datblygu a dywedodd fod y ffocws yn olrhain dau drywydd, sef asedau a’r gweithlu. Roedd hyn ar fin cael ei sefydlu gyda’r nod o ddechrau ym mis Rhagfyr 2021.

 

Ychwanegodd fod adolygiad y Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar y gweill ac y byddai'r adroddiad ar yr agenda yn helpu gyda hyn. Roedd gwaith adolygu partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg ar y gweill ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda rheoleiddwyr allanol ar y broses adborth a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr 2022 ar ôl i’r gwaith maes gael ei gwblhau.

 

Rhoddodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru grynodeb o’r adran Cynaliadwyedd Ariannol a oedd yn rhoi cefndir gwaith cynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol 2020-21, gan gynnwys y pwysau ariannol, strategaethau, sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn a pherfformiad mewn perthynas â’r gyllideb. Tynnodd sylw at rif 4 a oedd yn amlinellu cymorth ariannol llywodraeth Cymru a fu o gymorth gyda’r costau ynghlwm â Covid-19. Fodd bynnag, roedd ansicrwydd ynghylch ariannu yn y dyfodol.

 

Yn ôl Cynrychiolydd Archwilio Cymru, ystyrir bod y sefyllfa ariannol yn well yng Nghymru nag yn Lloegr ond bod pryder o hyd o ganlyniad i ansicrwydd.

 

Esboniodd cynrychiolydd Archwilio Cymru mai canfyddiad y gwaith yn 2020-21 oedd bod Cynghorau wedi derbyn cyllid ychwanegol sylweddol i ddelio â’r pandemig, ond bod cynaliadwyedd y sector llywodraeth leol yn y dyfodol yn parhau i fod yn heriol, gyda phwysau ariannol eraill o hyd ar y gorwel. Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad cenedlaethol cryno ym mis Hydref 2020, edrychodd Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol pob prif Gyngor yng Nghymru cyn cynhyrchu adroddiad lleol ar gyfer pob un ohonynt. Oherwydd y cyllid ychwanegol a dderbyniodd y Cynghorau yn sgil y pandemig, mae sefyllfa ariannol pob un o’r 22  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 282.

283.

Adolygiad Hanner Blwyddyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, adroddiad i’r Pwyllgor gyda’r manylion diweddaraf am y Cynllun Gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB) terfynol a gynhwyswyd yn Natganiad Cyfrifon 2020-21, a’r materion arwyddocaol sy’n ymddangos o ganlyniad i adolygiad 2021-22 y DLlB.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid ofynion llunio adolygiad llywodraethu blynyddol ac adrodd ar reolaeth fewnol. Cyflwynwyd Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21 i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Mehefin 2021 ac fe’i cynhwyswyd wedyn yn Natganiad Cyfrifon terfynol 2020-21 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Gorffennaf 2021.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod cyfranogiad gweithredol Aelodau a Swyddogion yn allweddol wrth ddarparu llywodraethu corfforaethol da a bod y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn niwylliant llywodraethu corfforaethol y Cyngor. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad, gyda’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol terfynol yn Atodiad A yr adroddiad, a’r cynllun gweithredu sy’n tynnu sylw at y cynnydd mewn perthynas â phob mater llywodraethu sylweddol yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Soniodd y Cadeirydd y byddai carfan newydd o Gynghorwyr yn etholiadau mis Mai 2022 ac fe holodd a oedd cynaliadwyedd ariannol yn rhan o’r rhaglen sefydlu.

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai’r rhaglen sefydlu yn cynnwys gwybodaeth am y drefn ariannol. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro fod rhaglen sefydlu aelodau gynhwysfawr a oedd yn cael ei datblygu’n barhaus cyn yr etholiadau. Byddai’r rhaglen ar gael yn fuan a dywedodd bod croeso i unrhyw Aelod ychwanegu ati.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn ystyried Cynllun Gweithredu Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22 a’r cynnydd i’r camau gweithredu hyd at 30 Medi 2021.

 

284.

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - Adroddiad Cynnydd a Datganiad Sefyllfa pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gyda’r manylion diweddaraf am y camau a gymerwyd i wella’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) a rhoi gwybodaeth am y sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Esboniodd fod nifer o adroddiadau wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor dros y 3 blynedd diwethaf yn tynnu sylw at yr heriau a’r diffygion o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Cynhaliodd y Cydwasanaethau Archwilio Mewnol Rhanbarthol archwiliad hefyd a derbyniwyd eu hadroddiad ym mis Gorffennaf 2020 gydag argymhellion. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol fod y Cyngor, ar 1 Ebrill 2021, wedi rhoi’r gorau i’r model cyflenwi drwy asiantau a’u bod wedi cymryd rheolaeth lawn, o’r dechrau i’r diwedd, o’u Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Fodd bynnag, gallai’r defnyddiwr ddewis gwasanaeth allanol o hyd, petai’n dymuno.

 

Ychwanegodd fod Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Addasiadau Tai 2018 wedi gwneud 9 argymhelliad (A1 – A9). Swyddfa Archwilio Cymru (SAC): Gwnaeth Persbectif Defnyddwyr Gwasanaeth Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl 2018 10 argymhelliad (P1 – P10) a gwnaeth y Cydwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2019/20 7 argymhelliad (SS1 – SS7). Roedd nifer o’r argymhellion yn debyg a chawsant eu grwpio yn adran 4 yr adroddiad, a’r canfyddiadau llawn wedi’u rhestru yn atodiadau 1-3 yr adroddiad.

 

Soniodd un Aelod fod un o’i etholwyr wedi colli aelod o’i chorff ac yn teithio mewn cadair anfecanyddol. Nid oes llawer o balmentydd gydag ymyl isel yn ei hardal ac mae hynny’n golygu nad yw’n gallu teithio i rai mannau penodol. Gofynnodd yr Aelod a ellid ystyried sicrhau bod y gwasanaeth GCA yn gweithio mewn partneriaeth â’r adran briffyrdd gan nad oedd y mater hwn, yn ogystal â llawer o faterion eraill, wedi’i gyfyngu i un maes gwasanaeth. 

 

Nid oedd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth yn ymwybodol o’r achos penodol hwn ond byddai’n ystyried y mater ar ôl y cyfarfod ac yn cysylltu â’r Aelod. Ychwanegodd fod y gwasanaeth GCA wedi gwella’n sylweddol ers i’r Cyngor ddod yn gyfrifol amdano a bod modd cydweithio gyda gwasanaethau mewnol eraill i sicrhau bod gofynion trigolion lleol yn cael eu bodloni.

 

Tynnodd un Aelod sylw at bwynt a wnaed yn yr adroddiad ynghylch prinder contractwyr oherwydd bod llawer o ddatblygiadau tai yn yr ardal. Holodd a oedd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol wedi cael cyfle i gyflwyno hyn gan ein bod wrthi’n datblygu sylfeini Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y 10 mlynedd nesaf ar hyn o bryd. Nid oedd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol yn si?r a oedd y materion hyn yn rhan o’r CDLl ond byddai’n holi’r adran gynllunio yngl?n â’r peth. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod gwaith datblygu’r fframwaith yno hefyd er mwyn sicrhau cysylltiadau gwaith da ac ymrwymiad yr adeiladwyr a chontractwyr i wneud y gwaith angenrheidiol.

 

Gofynnodd un Aelod a oedd unrhyw gostau i’r awdurdod am weithredu’r cynllun hwn.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 284.

285.

Datganiad Cyfrifon 2020-21: Llythyr Materion sy’n Codi, Archwilio Cymru pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi llythyr ynghylch materion sy’n codi Archwilio Cymru i’r Pwyllgor mewn perthynas ag archwilio Datganiad Cyfrifon 2020-21 y Cyngor i’w nodi.

 

Esboniodd fod y Datganiad Cyfrifon 2020-21 archwiliedig wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor ar 22 Gorffennaf 2021, ac ar ôl hynny llofnodwyd y cyfrifon gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn y dyddiad cau statudol, sef 31 Gorffennaf 2021.

 

Yn unol â’r Safon Archwilio Ryngwladol (SAR) 260, roedd hi’n ofynnol i’r archwilydd allanol gyfleu materion perthnasol yn ymwneud ag archwilio’r datganiadau ariannol i’r sawl sy’n ‘gyfrifol am lywodraethu’. Er mwyn llwyddo i gyhoeddi’r cyfrifon erbyn y dyddiad statudol, sef 31 Gorffennaf 2021, ni lwyddwyd i gyflwyno’r materion sy’n codi na’r meysydd i’w gwella gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2021.

 

Eglurodd fod y llythyr Materion sy’n Codi a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad yn cadarnhau bod y datganiadau ariannol wedi derbyn barn ddiamod ac nad oedd gan Archwilio Cymru unrhyw bryderon am agweddau ansoddol arferion cadw cyfrifon ac adroddiadau ariannol y Cyngor. Cyfeiriodd yr archwiliad at dri maes posibl i’w gwella – fe’u hystyriwyd a daethpwyd i gytundeb, ac fe fyddwn yn rhoi sylw iddynt cyn proses cau cyfrifon 2021-22, fel y nodir yn Atodiad A.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw i lythyr Materion sy’n Codi yr archwilydd penodedig yn Atodiad A.

 

 

286.

Rheoli’r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2021-22 pdf eicon PDF 537 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am yr adolygiad canol blwyddyn a sefyllfa hanner blwyddyn gweithgareddau rheoli’r trysorlys a dangosyddion rheoli'r trysorlys 2021-22, gan danlinellu cydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor a adroddwyd i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Eglurodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi’i enwebu i fod yn gyfrifol am archwiliad effeithiol o Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (SRhT) a pholisïau. Hyd yn hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22, yn ogystal â’r adroddiadau rheoli’r trysorlys rheolaidd i’r Cabinet a’r Cyngor, derbyniodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Adroddiad Alldro Rheoli Blynyddol y Trysorlys 2020-21 ym mis Gorffennaf 2021. Roedd rhagor o gefndir yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod hanner cyntaf 2021-22. Cymeradwywyd SRhT 2021-22 gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021 gyda’r Adroddiad Hanner Blwyddyn wedi’i gyflwyno ar 20 Hydref 2021. Amgaewyd Crynodeb o weithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 yn nhabl 1 Atodiad A.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro fod y Cyngor, ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, wedi derbyn dau randaliad o gyllid craidd Llywodraeth Cymru (Grant Setliad Refeniw) yn ystod mis Ebrill, sef £12.6 miliwn y rhandaliad a’i fod yn gallu cario arian grant ychwanegol ymlaen o 2020-21. O ganlyniad, y balans ar fuddsoddiadau ar 30 Medi 2021 oedd £79.84 miliwn gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.06%. Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, pan oedd y gyfradd gyfartalog yn 0.24% ac yn dangos effaith gostyngiadau y cyfraddau llog o ganlyniad i’r pandemig.

 

Ychwanegodd nad oedd y Cyngor wedi cymryd benthyciadau hirdymor ers mis Mawrth 2012. Roedd SRhT 2021-22 yn rhagweld y byddai’n rhaid i’r Cyngor fenthyca £30.37 miliwn yn ystod y flwyddyn, fodd bynnag, gan gymryd yn ganiataol y byddai gan y Cyngor £43 miliwn mewn cronfeydd defnyddiadwy i’w defnyddio yn y tymor byr i ariannu gwariant. Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd defnyddiadwy wrth gefn y Cyngor yn £114 miliwn, cynnydd o £83 miliwn i’r hyn oedd ar 31 Mawrth 2020; ni ragwelwyd hyn pan gymeradwywyd y SRhT. Derbyniodd y Cyngor £20.6 miliwn gan Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, a oedd yn fwy na’r disgwyl yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â grantiau ychwanegol pellach o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn chwarter olaf 2020-21 a £2.9 miliwn o dderbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, fel yr adroddwyd i’r Cyngor yn adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw 2020-21 ar 23 Mehefin 2021. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Tynnodd Rheolwr y Gr?p – y Prif Gyfrifydd Dros Dro sylw at dabl 4 Atodiad A a oedd yn rhoi manylion symud y buddsoddiadau yn ôl mathau cyfatebol ac yn dangos y balansau cyfartalog, y llog a dderbyniwyd, hyd gwreiddiol a chyfraddau llog yn ystod hanner cyntaf 2021-22. Dangosir manylion amcangyfrifon 2021-22 sydd yn SRhT y Cyngor, mewn perthynas â’r rhagamcaniadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 286.

287.

Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22 pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i’r Pwyllgor a oedd yn rhoi’r manylion diweddaraf am y newidiadau i’r Asesiad Risg Corfforaethol, yn unol â llinell amser rheoli risg y Cyngor a gynhwysir ym Mholisi Rheoli Risg y Cyngor.

 

Eglurodd fod yr Asesiad Risg Corfforaethol yn Atodiad 1 wedi’i adolygu mewn ymgynghoriad â CMB, a’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a’r Cabinet (CCMB). Nododd y prif risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, eu cysylltiad â’r amcanion llesiant corfforaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, effaith debygol y risgiau hynny ar wasanaethau’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol ehangach, gan nodi’r hyn sy’n cael ei wneud i reoli’r risgiau a phwy sy’n gyfrifol am ymateb y Cyngor.

 

Hysbysodd fod Tabl 1 yr adroddiad yn amlinellu’r diwygiadau i’r Asesiad Risg Corfforaethol a oedd yn nodi manylion risgiau 1 i 16. Bydd y risgiau sydd wedi’u hysgafnhau yn cael eu dileu o’r Asesiad Risg Corfforaethol. Bydd 3 o’r risgiau’n cael eu hysgafnhau i gofrestrau priodol y gyfarwyddiaeth a dau risg yn uno yn ôl yr awgrym ar ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei gymeradwyo. Yna bydd gan yr Asesiad Risg Corfforaethol 11 o risgiau..

 

Ychwanegodd bod 7 o’r risgiau yn rhai uchel, 3 yn ganolig, ac 1 yn risg isel o ran eu dosbarthiad.

 

Cwestiynodd yr Aelod Lleyg resymeg symud Risg 3 i lefel gyfarwyddiaeth, a oedd yn seiliedig ar gydymffurfio â deddfwriaeth. Credai fod hyn yn dal i fod yn risg gorfforaethol, yn enwedig gan fod y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 newydd, yn ei barn hi, yn bryder corfforaethol.

 

Nododd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r rhesymeg y tu ôl i’w symud i risg cyfarwyddiaeth oedd bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r ddeddf newydd. Nid oedd yn credu bod y Cyngor mewn perygl o beidio â chydymffurfio gan nad oedd unrhyw dystiolaeth yn awgrymu hyn. O ystyried Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yr oedd hyn yn fater corfforaethol gwirioneddol, ond rhoddwyd manylion rhoi’r cynlluniau ar waith gerbron bwrdd y cyfarwyddwyr i’w datrys.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd sgôr risg 3 wedi gostwng cyn i’r risg gael ei hysgafnhau i lefel gyfarwyddiaeth. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid fod archwiliad mewnol wedi’i gynnal yn ystod haf 2021 ac mai un o’r argymhellion oedd ceisio sicrhau bod cofrestrau risg y gyfarwyddiaeth yn cyd-fynd â’r gofrestr risg gorfforaethol. Mae canllawiau rheoli risg wedi cael eu datblygu er mwyn ceisio symleiddio’r broses o ysgafnhau a dwysáu risgiau.

 

Soniodd yr Aelod Lleyg ei bod wedi sylwi bod 3 o’r risgiau wedi cael adolygiadau archwilio mewnol i gofnodi’r rheolaeth risg. Gofynnodd am sylw penodol i hyn wrth gofnodi’r risgiau a’r camau a gymerwyd.

 

O ran risg 12, gofynnodd yr Aelod Lleyg a oedd cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer hyn, ac os felly, a ellid cofnodi hynny gyda’r risg.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod rhywfaint o arian ychwanegol ar gael ar gyfer rhai o’r materion a godwyd yn risg 12  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 287.

288.

Datblygiadau mewn perthynas â’r Cynllun Archwilio Mewnol yn Seiliedig ar Risg 2021-22 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio adroddiad i’r Pwyllgor a oedd yn rhoi’r manylion diweddaraf am y datblygiadau mewn perthynas â’r gwaith archwilio a gynhwyswyd ac a gymeradwywyd yn y Cynllun Archwilio Mewnol yn Seiliedig ar Risg 2021-22.

 

Esboniodd fod manylion y Datblygiadau a wnaed mewn perthynas â’r cynllun a gymeradwywyd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref 2021 yn Atodiad A. Roedd hyn yn cynnwys manylion am statws pob adolygiad arfaethedig, y farn archwilio a nifer yr argymhellion blaenoriaeth uchel, canolig neu isel a wnaed i wella’r amgylchedd rheoli. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Archwilio - yn dilyn sylwadau’r Aelodau mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch yr archwiliadau gyda themâu tebyg yn cael eu rhestru gyda’i gilydd - fod colofn ychwanegol wedi’i hychwanegu i ddangos sut yr oedd yr archwiliadau yn cael eu cyfarwyddo.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio fod 8 archwiliad wedi’u cwblhau erbyn 31  Hydref 2021, gyda barn yn cael ei rhoi hefyd. Mae 3 archwiliad arall wedi’u cwblhau a chyhoeddwyd adroddiadau drafft gan ddisgwyl am adborth yr Adrannau Gwasanaeth. Mae cyfanswm o 10 archwiliad ar y gweill ar hyn o bryd ac 8 arall wedi’u rhannu i archwilwyr a ddylai fod yn dechrau’r gwaith cyn bo hir.

 

Yn seiliedig ar asesu cryfderau a gwendidau’r meysydd a archwiliwyd drwy brofi effeithiolrwydd amgylchedd y rheolaeth fewnol, rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd sylweddol i 2 adolygiad a gwblhawyd, a barn o sicrwydd rhesymol i’r 6 adolygiad arall a gwblhawyd. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw un yn poeni am allu’r tîm a datblygiad y cynllun wrth iddo fynd yn ei flaen weddill y flwyddyn ariannol.

 

Eglurodd y Rheolwr Archwilio fod y gwasanaeth ar ganol cael ei ailstrwythuro ac felly nid oes unrhyw staff ychwanegol wedi cael eu cyflogi   hyd yma. Fodd bynnag, pan luniwyd y cynllun archwilio fe roddwyd ystyriaeth i hynny ac felly, wrth gynllunio lefel y gwaith, dim ond y staff presennol a gafodd eu cynnwys.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod y broses ailstrwythuro ar fin dod i ben. Roedd swyddi wedi cael eu pennu i’r holl staff, gyda 3 apêl gan staff a oedd yn teimlo nad oeddent wedi cael swyddi addas. Amcangyfrifwyd y byddent yn dod i gytundeb o fewn yr wythnosau nesaf.  Yna byddai’r Gwasanaeth yn dechrau ar broses recriwtio er mwyn llenwi’r swyddi gwag.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw i gynnwys yr adroddiad a’r datblygiadau mewn perthynas â’r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol yn Seiliedig ar Risg 2021-22

 

 

289.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i Diweddaru 2021-22 pdf eicon PDF 587 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a oedd yn disgwyl am sêl bendith ar gyfer y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i diweddaru ar gyfer 2021-2022

 

Eglurodd fod y Rhaglen a ddiweddarwyd wedi’i chynnwys yn Atodiad A yr adroddiad a gofynnodd i unrhyw eitemau arfaethedig eraill gael eu cymeradwyo.

 

Tynnodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro sylw at y tabl ym mhwynt 4.2 yr adroddiad, sef yr eitemau arfaethedig ar agenda’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nesaf ar 27 Ionawr 2022. Eglurodd efallai y byddai eitemau ychwanegol wrth i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddod i rym, yn enwedig o ran cyfrifoldebau newydd y Pwyllgor mewn perthynas â pherfformiad a hunanasesu ac y byddai’r rhain yn cael eu hychwanegu yn ôl yr angen.

 

Tynnodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro sylw at wall teipio lle gwelir "Crynodeb Archwilio Blynyddol" ar res 1 eitemau arfaethedig yr agenda ar hyn o bryd ond fe ddylai fod ar res 2.

 

Holodd y Cadeirydd a ellid cyflwyno adroddiad cwynion gerbron y cyfarfod ym mis Mawrth 2022. Gofynnodd hefyd am adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yng nghyfarfod cyntaf neu ail gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar ôl etholiadau mis Mai 2022, pa un bynnag fydd fwyaf addas.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i diweddaru ar gyfer 2021-22.

 

290.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z