Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Andrew Rees Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau a Mr PA Jolley Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Cyflwynwyd aelodau'r Pwyllgor i Kelly Watson, Dirprwy Swyddog Monitro/Arweinwyr Gr?p y Gyfraith a fydd yn olynu Mr Andrew Jolley fel y Swyddog Monitro o 9 Gorffennaf 2018 ymlaen.
Cofnododd y Pwyllgor yn ffurfiol ei ddiolchiadau i Mr Jolley am ei arweiniad a’r cyngor y rhoddodd i’r Pwyllgor a’r Awdurdod ac am yr hyfforddiant o ansawdd y rhoddodd ar y Cod Ymddygiad. |
|
Datgan Buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 57 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 08/03/18 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 8 Mawrth 2018 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Penodi i’r Pwyllgor Safonau PDF 60 KB Cofnodion: Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y swydd Cynghorydd Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau yn wag a bod angen penodi rhywun i’w llenwi.
Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor fod y Swyddog Monitro wedi cael awdurdod wedi’i ddirprwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 16 Mai 2018 i oruchwylio'r broses recriwtio a phenodi. Dywedodd y byddai’n cysylltu â’r holl Gynghorau Tref a Chymuned yn ardal weinyddiaeth y Fwrdeistref Sirol yn ceisio datganiadau o fuddiant.
PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Standards Conference Wales -June 2018 PDF 51 KB Cofnodion: Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y caiff Cynhadledd Safonau Cymru 2018 ei chynnal ar 14 Medi 2018 ym Mhrifysgol Aberystwyth a gofynnodd am enwebiadau gan aelodau’r Pwyllgor sydd am fynychu. Nid yw manylion am raglen y gynhadledd wedi’u derbyn eto, er mai Mr N Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fyddai’r prif siaradwr.
PENDERFYNWYD: Bod Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd M Clarke a’r Cynghorydd G Walter yn dod i'r Gynhadledd gyda'r Swyddog Monitro. |
|
Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon PDF 53 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Dirprwy Swyddog Monitro ar grynodeb o achosion a gyflawnwyd gan Swyddfa’r Ombwdsmon. Cyhoeddir Llyfr Achosion y Cod Ymddygiad bob tri mis ac mae’n cynnwys y crynodebau o’r achosion hynny y mae’r gwrandawiadau gan Bwyllgor Safonau Panel Dyfarnu Cymru wedi’u cwblhau a lle y gwybyddir canlyniad y gwrandawiad ar gyfer y cyfnod Hydref i Ragfyr 2017.
Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybod i’r Pwyllgor fod cyhoeddiad wedi’i wneud yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor yn cynghori'r Aelodau i fod yn ofalus wrth ddefnyddio'r cyfyngau cymdeithasol a chymryd pwyll cyn cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein. Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybod i’r Pwyllgor hefyd fod Clercod i Gynghorau Tref a Chymuned wedi’u cynghori i fynd at y Swyddog Monitro pan fod cwynion posibl yn dod i law yn erbyn Cynghorwyr ac nid i’r Cynghorwyr Tref a Chymuned fynd at y Swyddog Monitro’n uniongyrchol.
PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd materion brys. |