Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonnau - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 1 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim. 

46.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 51 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  10/10/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau, dyddiedig 10 Hydref 2018, fel cofnod gwir a chywir.

47.

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol CLlLC i Gynghorwyr pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r canllawiau a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol gan Gynghorwyr. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor bod CLlLC yn cydnabod bod y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl gynyddol bwysig ym myd gwleidyddiaeth a’u bod felly wedi paratoi canllawiau ar gyfer Aelodau Etholedig o ran defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol hynny. Nododd mai pwrpas y canllawiau yw galluogi Aelodau i fanteisio ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ond gan leihau’r risgiau cysylltiedig fel niwed i enw da a thorri’r cod ymddygiad. Mae canllawiau hefyd ar gael sy’n cynghori Aelodau sut i reoli neu roi gwybod am gamdriniaeth neu aflonyddwch ar-lein. 

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn nodi canllawiau CLlLC.   

48.

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer  2017/18 i’r Pwyllgor sy’n cynnwys manylion am berfformiad yr awdurdod yn erbyn perfformiad cyfartalog awdurdodau lleol yng Nghymru, a hefyd yr adroddiad sector cyhoeddus ehangach sy’n cynnwys gwybodaeth ystadegol ynghylch cwynion a gafodd sylw yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod nifer y cwynion a dderbyniodd yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r Cyngor hwn wedi gostwng 10% yn y cyfnod hwn, o 44 i 40. Ni fu unrhyw adroddiadau er budd y cyhoedd yn erbyn y Cyngor a dim ond un achos yn unig aeth ymlaen i gael ei ymchwilio ymhellach. Roedd cwynion ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wedi haneru o 12 i 6 yn ystod y flwyddyn aeth heibio, fodd bynnag, roedd cwynion yn erbyn yr Amgylchedd ac Iechyd Amgylcheddol wedi codi o 3 i 9.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.               

49.

Llyfr Achosion yr Ombwdsmon a Chod Ymddygiad pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro adroddiad cryno o’r achosion yr oedd Swyddfa’r Ombwdsmon wedi ymgymryd â hwy rhwng Gorffennaf a Hydref 2018.   Cyhoeddir Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yn chwarterol ac mae’n cynnwys crynodeb o’r holl adroddiadau yn ogystal â detholiad o grynodebau sy’n ymwneud â datrys yn sydyn a setliadau gwirfoddol. Mae’r Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yn cynnwys crynodebau o’r achosion hynny y mae gwrandawiadau gan Banel Dyfarnu Cymru o’r Pwyllgorau Safonau wedi’u cwblhau, a lle mae canlyniad y gwrandawiad yn hysbys am y cyfnod Hydref i Ragfyr 2018. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor bod yr Ombwdsmon yn mynychu cyfarfodydd chwarterol gyda Gr?p Swyddogion Monitro Cymru Gyfan a hefyd yn mynychu nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus i hybu gwaith swyddfa’r Ombwdsmon.     

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.               

50.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

51.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

52.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y 10/10/2018