Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonnau - Dydd Iau, 30ain Tachwedd, 2017 11:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

 

11.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 42 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22 Mehefin a 27 Gorffennaf 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:Bod cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau

a gynhaliwyd ar 22 Mehefin a 27 Gorffennaf 2017 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

12.

Coflyfr yr Ombwdsmon pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth grynodeb o'r achosion a gyflawnwyd gan Swyddfa'r Ombwdsmon. Roedd Llyfr Achos yr Ombwdsmon yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac roedd yn cynnwys crynodebau o'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y chwarter, yn ogystal â detholiad o grynodebau yn ymwneud â phenderfyniadau cyflym a setliadau gwirfoddol.

 

Nododd y Pwyllgor ei bod yn ymddangos fod cynnydd yn nifer y cwynion o ran iechyd ac yn arbennig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod yr Ombwdsmon yn ymddangos fel pe bai’n canolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd ac ar gamweinyddu a bod llai o gwynion yn cael eu hymchwilio.

 

Dywedodd y Cadeirydd, pe na bai digon o staff i ymchwilio i gwynion yn drylwyr, yna gallai Betsi Cadwaladr fod yn fwy tueddol o setlo, ac y gallai nifer anghymesur y cwynion fod o ganlyniad i'r ffaith y credid y byddai'r Bwrdd Iechyd yn talu.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn faes lle roedd trigolion yn cael eu hannog i gwyno gyda chynigion "dim ennill, dim ffi".

 

PENDERFYNWYD               Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

13.

Un Llais Cymru - Protocol Enghreifftiol pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y Protocol Enghreifftiol i Aelodau ar gyfer ymdrin â chwynion lefel isel a gyhoeddwyd gan Un Llais Cymru. Roedd y Protocol Enghreifftiol i fod yn fan cychwyn ar gyfer cynghorau Tref a Chymuned a gallent ychwanegu at neu ddiwygio'r model hwn i ddiwallu eu hanghenion penodol.

 

Cytunodd yr Aelodau fod hon yn broses dda i'r Cynghorau Tref a Chymuned ei mabwysiadu.   

 

PENDERFYNWYD               Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.      

 

14.

Panel Dyfarnu ar gyfer Adroddiad Blynyddol Cymru pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru 2014-15 / 2015-16 i'r Aelodau (ar y cyd).

 

Roedd Panel Dyfarnu Cymru (APW) yn dribiwnlys annibynnol a sefydlwyd i bennu achosion honedig o dorri rheolau yn erbyn Cod Ymddygiad statudol awdurdod gan aelodau etholedig a chyfetholedig cynghorau sir, bwrdeistrefi sirol a chymunedau Cymru, awdurdodau tân a pharciau cenedlaethol .

 

Nododd yr Aelodau y data perfformiad a chynnydd a gynhwyswyd yn yr adroddiad a'r gostyngiad yn lefel y gwaith a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD               Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.      

 

15.

Adolygiad o Ddisgrifiadau Rolau'r Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad ar Ddisgrifiadau Rôl Aelodau Etholedig i'w ystyried.

 

Roedd gan Aelodau Etholedig ystod eang o rolau a chyfrifoldebau y disgwylir iddynt eu cyflawni. Roedd Disgrifiadau Rôl Aelodau Etholedig yn rhoi fframwaith a oedd yn disgrifio’r dibenion, y gweithgareddau a'r cyfrifoldebau ynghylch amrywiaeth y rolau allweddol yr oeddent yn eu cyflawni. 

 

Eglurodd fod yr holl ddisgrifiadau rôl yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn ymdrin yn effeithiol â'r amrywiaeth o rolau a gyflawnir ac yn bodloni gofynion Aelodau Etholedig a Siarter CLlLC ar gyfer Datblygu a Chefnogi Aelodau. Byddai unrhyw bryderon a fyddai’n cael eu codi yn cael eu hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. 

 

PENDERFYNWYD               Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.      

16.

Strategaeth Dysgu a Datblygu'r Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 51 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig er gwybodaeth.

 

Cymeradwywyd Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig 2012-17 gan y Cyngor yn 2013. Roedd yn rhoi fframwaith sy'n nodi strwythur dysgu a datblygu yr holl Aelodau Etholedig o’r adeg y maent yn cael eu hethol ac yn ystod eu tymor yn y swydd. Yn y Cyngor ar 6 Medi 2017, cymeradwywyd y bwriad i gyflwyno cais i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cynorthwyo a Datblygu Aelodau. Un o ofynion y Siarter oedd i Strategaeth Datblygu Aelodau gael ei chymeradwyo gan y Cyngor.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod hyn yn arbennig o ddefnyddiol i Aelodau newydd sydd â dim ond ychydig o brofiad neu ddim profiad o gwbl. Pan fyddent wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol, yna gellid cwrdd â'u hanghenion unigol gyda hyfforddiant parhaus.   

 

Dywedodd un Aelod newydd ei fod o'r farn fod yr hyfforddiant a roddid yn dda ond roedd yn pryderu am amharodrwydd rhai Aelodau i ymgymryd â hyfforddiant i gyflawni eu rolau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod hyn yn parhau i fod yn her a chroesawai’r farn gryfach sef na allai Aelodau eistedd ar rai Pwyllgorau cyn iddynt gael eu hyfforddi. Trefnwyd nifer o sesiynau hyfforddi ar ddiwrnodau gwahanol ar wahanol adegau ac roedd yn siomedig bod rhai aelodau yn dal heb wneud unrhyw hyfforddiant o gwbl.

 

Roedd gofyniad i Aelodau dderbyn hyfforddiant ar y Gronfa Weithredu Gymunedol, cronfa ar gyfer gwariant yn eu wardiau etholiadol a oedd o fudd i'r boblogaeth leol ac roedd rhai Aelodau wedi methu â mynychu'r hyfforddiant hwn hefyd.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth ei bod yn anodd pan oedd newid mawr yn yr aelodaeth a nifer sylweddol o aelodau di-brofiad.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr hyfforddiant a ddarparwyd gan CBSP (BCBC) yn gynhwysfawr ac yn atal Aelodau rhag mynd i anawsterau gyda datganiadau o fuddiant ac ati.

 

PENDERFYNWYD               Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a'r Strategaeth oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.       

17.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

18.

Gwahardd y Cyhoedd

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhelliad yr adroddiad ar y sail ei/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Osbydd yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd y Pwyllgor penderfynu unol â Deddf i ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD:     O dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf: -

 

Yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem a grybwyllir isod yn breifat gyda'r cyhoedd yn cael ei eithrio o'r cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig iddynt fel y nodwyd uchod.  

19.

Cymeradwyaeth Cofnodion Gwahardd

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion Gwahardd cyfarfod y 22 Mehefin a 27 Gorffennaf 2017

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau ar 22 Mehefin a 27 Gorffennaf 2017 fel cofnod gwir a chywir.