Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonnau - Dydd Iau, 8fed Mawrth, 2018 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

21.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 51 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  30/11/2017

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 30 Tachwedd 2017, i’w cymeradwyo fel rhai gwir a chywir, yn amodol ar ddileu’r gair ‘Cynghorydd’ o deitl y Cadeirydd yn y rhan hwnnw o’r Cofnodion yn ymwneud â mynychwyr y cyfarfod.

22.

Polisi Chwythu'r Chwiban pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a roedd y diweddaraf i Aelodau ar weithredu’r Polisi Chwythu'r Chwiban ar draws yr Awdurdod.

 

Rhoes yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir oedd yn atgoffa Aelodau mai diben y Polisi Chwythu'r Chwiban, oedd annog a sicrhau cyflogeion sydd yn gwirioneddol ac yn rhesymol gredu bod yna bryderon y dylid eu datgelu ganddynt drwy eu galluogi i wneud hynny o fewn fframwaith sy’n sicrhau eu bod wedi eu diogelu rhag dialedd neu erledigaeth.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y Polisi Chwythu'r Chwiban bellach wedi ei adolygu, a bod copi o’r polisi diwygiedig wedi ei atodi fel Atodiad 1. Ychwanegodd fod monitro a gweithrediad y Polisi Chwythu'r Chwiban yn un o’r swyddogaethau oedd wedi eu dirprwyo i’r Pwyllgor.

 

Amserlenwyd y polisi i’w gyflwyno i’r Cabinet i’w gymeradwyo, wedi hynny byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Cynghorodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw gwynion chwythu’r chwiban yn bod ar hyn o bryd, ac eithrio un a oedd dan ymchwiliad, a oedd yn profi i raddau helaeth , fod y Polisi yn gweithio’n effeithiol.

 

Holodd Aelod pa ddiwygiad(au) a wnaed i’r Polisi Chwythu'r Chwiban fel rhan o’i adolygiad.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro mai yn bennaf, y dylai unrhyw bryder chwythu’r chwiban gael ei adrodd iddo ef yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Monitro, a’i fod yntau yn rhannu hyn gydag aelodau eraill y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (BRhC), cyn penderfynu pa gamau (os o gwbl) i’w cymryd parthed y mater a godwyd.

 

PENDERFYNWYD:                 Nododd yr Aelod yr adroddiad.   

23.

Adroddiad Monitro – Cwynion, Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a amlinellai berfformiad yr Awdurdod yn prosesu Cwynion Corfforaethol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, a cheisiadau gwybodaeth cysylltiedig o’r math.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad bod gofyniad deddfwriaethol er mwyn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn cyfnod o 20 diwrnod gwaith, ac ymateb i geisiadau gwrthrych am wybodaeth a wnaed dan y Ddeddf Diogelu Data 1998 mewn 40 diwrnod calendr.

 

Dywedodd hefyd nad oes dyddiad cau statudol i ymateb i geisiadau gan gyrff cyhoeddus, fodd bynnag, byddai'r tîm yn ymdrechu i ymateb i'r ceisiadau hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Ychwanegodd yn unol â’r Polisi Cwynion Corfforaethol, dylai’r Awdurdod ymateb i g?yn ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith.

 

Wedi ei atodi i’r adroddiad yn Atodiad A roedd Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2017.

 

Er budd Aelodau, rhoes y Swyddog Monitro grynodeb o’r elfennau allweddol a oedd wedi eu cynnwys yn yr Atodiad A atodedig, yn enwedig parthed:-

 

·         Y gwahaniaeth rhwng camau Cwynion ffurfiol ac Anffurfiol;

·   Roedd nifer y cwynion a dderbyniwyd yn y flwyddyn galendr 2017, gan gynnwys rhannu’r rhain fesul Cyfarwyddiaeth a faint oedd wedi eu halinio i bob gwasanaeth yn yr Awdurdod a phob Ward Cyngor Bwrdeistref Sirol.

·   Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

·   Cwynion Cod Ymddygiad;

·   Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth;

·   Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth

·   Ceisiadau Gwybodaeth gan Gyrff Cyhoeddus

 

Roedd Aelodau o’r farn bod adroddiadau’r dyfodol i’r Pwyllgor Safonau ar y pwnc yma yn cynnwys dadansoddiad pellach ar wybodaeth, er enghraifft, o le roedd y cwynion yn deillio, natur y rhain, y nifer a wnaed gan Gynghorau Tref/Cymuned, ac os oedd unrhyw rai gan Gynghorydd yn erbyn cyd Gynghorydd, ayb. Roedd yr aelodau hefyd yn teimlo y dylid cymharu’r wybodaeth â’r flwyddyn flaenorol er mwyn gweld a oedd cwynion ac unrhyw geisiadau eraill yn dilyn unrhyw fath o batrwm, yn enwedig parthed nifer y cwynion a gaiff eu derbyn o flwyddyn i flwyddyn.

 

Cytunodd y Swyddog Monitro â’r cais, gan ychwanegu yn ddibynnol ar hyd a lled y wybodaeth ehangach yma, efallai y byddai’n angenrheidiol i’r Pwyllgor ystyried adroddiadau o’r fath yn y dyfodol mewn sesiwn gaeedig, os oeddent yn cynnwys gwybodaeth o natur y dylid ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD:                 Nododd yr Aelod yr adroddiad.    

24.

Achosion yr Ombwsmon pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Monitro i’r Pwyllgor er mwyn rhoi crynodeb i Aelodau o achosion y mae Swyddfa’r Ombwdsmon wedi mynd i’r afael â nhw.

 

Fel gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd bod Achosion yr Ombwdsmon i’w cyhoeddi’n chwarterol ac yn cynnwys crynodebau o’r holl adroddiadau a gyhoeddwyd yn y chwarter, yn ogystal â detholiad o grynodebau yn ymwneud ag ‘atebion sydyn’ a setliadau gwirfoddol.

 

Roedd rhestr achosion Ionawr 2018 wedi ei atodi ar Atodiad 1 yr adroddiad, gan ddangos yr achosion a gaewyd rhwng Hydref a Rhagfyr 2017.

 

Nododd y Cadeirydd o’r Rhestr Achosion na dderbyniwyd nifer sylweddol o’r cwynion a oedd wedi eu cynnwys, a bod cyfran go lew o’r rhain wedi eu gwneud yn erbyn amrywiol Fyrddau Iechyd.

 

Roedd yn bleser gan Aelodau nodi hefyd nad oedd unrhyw gwynion wedi eu gwneud yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

PENDERFYNWYD:               Nododd yr Aelod yr adroddiad.

25.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.