Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy Microsoft Teams

Media

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd P Davies fuddiant rhagfarnus yn Eitem 7 ar yr Agenda gan ei fod yn gydweithiwr/cyfaill i ddau o'r ymgeiswyr. Gadawodd y Cynghorydd Davies y cyfarfod tra oedd y cais hwn yn cael ei ystyried.

 

62.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 78 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/12/19

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau dyddiedig 12 Rhagfyr 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

63.

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2019-2020 pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a'i ddiben oedd cyflwyno Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2019-2020 i'r Pwyllgor.

 

Esboniodd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn adrodd yn flynyddol ar nifer y cwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus a dderbynnir gan ei swyddfa.

 

Swyddog Cwynion yr Awdurdod oedd Swyddog Cyswllt Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a'r Swyddog Monitro oedd yn gyfrifol am gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch cwynion Cod Ymddygiad Aelodau. 

 

Roedd Atodiad A i'r adroddiad yn darparu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2019-2020.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai 34 oedd nifer y cwynion yn erbyn yr Awdurdod ar gyfer y cyfnod 2019-2020 o'i gymharu â 33 yn 2018-19. Roedd y ffigur ar gyfer 2019-20 yn cynrychioli 0.23 o g?ynion a dderbyniwyd fesul 1000 o breswylwyr, ac nid oedd yr un o'r cwynion yn erbyn yr Awdurdod yn mynd rhagddynt i ymchwiliad. Ymyrrodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn 1 o'r achosion hyn yn unig.

 

Y Gwasanaethau i Blant a ddenodd y nifer fwyaf o gwynion gyda 15 cwyn, ac yna'r Gwasanaethau i Oedolion gyda 4. Yn ôl ei natur, mae'r Gwasanaethau i Blant yn denu nifer uwch o gwynion na meysydd gwasanaeth eraill, ac roedd nifer o'r cwynion a dderbyniwyd yn ymwneud â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant o dan ddeddfwriaeth diogelu, a oedd yn faes gwasanaeth cyfnewidiol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod 7 cwyn yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad yn erbyn Cynghorwyr yr Awdurdod wedi dod i law Swyddfa'r Ombwdsmon yn ystod y cyfnod hwn a bod pob un wedi'u cau ar ôl yr ystyriaeth gychwynnol. Derbyniwyd 3 ch?yn yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad yn erbyn Cynghorau Tref a Chymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac nid oedd angen cymryd camau pellach ar 2 ohonynt, gyda'r llall yn cael ei gau ar ôl yr ystyriaeth gychwynnol.

 

Nododd y Cadeirydd fod nifer y cwynion a wnaed ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymddangos yn isel a braf oedd nodi hyn. 

 

PENDERFYNWYD:                      Bod y Pwyllgor wedi nodi Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

64.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

65.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                          O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, fod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

Ar ôl cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd o ran cynnal yr esemptiad ym mhob amgylchiad yn drech na budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth, oherwydd bod y wybodaeth yn y ddau adroddiad o natur bersonol a/neu gyfrinachol ac y byddai'n niweidiol i'r personau a restrir yn yr eitemau hyn, pe bai'r wybodaeth a grybwyllir felly yn ymwneud â hwy yn cael ei datgelu. 

 

66.

Rhestr Fer o Ymgeiswyr ar gyfer y Swydd Cynghorydd Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau.

67.

Atgyfeirio Ymchwiliad gan yr Ombwdsmon o dan Adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z