Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonnau - Dydd Mawrth, 29ain Mehefin, 2021 10:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

86.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

87.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 68 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/02/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 25 Chwefror 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

88.

Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod y Cadeirydd yn ei chael yn anodd cysylltu â'r cyfarfod o bell, cadeiriodd Mr Jeff Baker y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a’i ddiben oedd i’r Pwyllgor nodi fersiwn ddrafft o’r Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.

 

Cadarnhaodd fod y Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig wedi gosod y fframwaith i’r ddarpariaeth Datblygu Aelodau ar gyfer Aelodau Etholedig, o’r cyfnod ymsefydlu a thrwy gydol eu cyfnod yn y swydd hyd yn hyn. Roedd y Strategaeth yn dod tua diwedd ei hoes effeithiol, ac wrth baratoi ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2022 a chyfnod ymsefydlu’r Aelodau newydd yn sgil hynny, cynhaliwyd adolygiad bwrdd gwaith o'r Strategaeth i sicrhau ei bod yn addas i'r diben ac fe’i diweddarwyd i adlewyrchu nifer o ffactorau sydd wedi newid ers cymeradwyo'r Strategaeth wreiddiol.

 

Rhannwyd y Strategaeth yn 5 cam fel y nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Dylid nodi hefyd, yn y flwyddyn gyntaf ar ôl yr etholiad, fod gweithgareddau datblygu aelodau yn bennaf ar gyfer darparu gwybodaeth a datblygu prosesau y dylid eu darparu'n fewnol neu gan sefydliadau priodol fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd ffocws y ddarpariaeth datblygu aelodau yn symud at ddarpariaeth o bynciau manwl ehangach ar lefel leol, a mwy o bynciau sy'n ymwneud â materion rhanbarthol a chenedlaethol, ychwanegodd y Swyddog Monitro. Cyfeiriodd yr adroddiad hefyd at y cyfleoedd e-ddysgu i fod ar gael i'r Aelodau wrth symud ymlaen ac i dymor nesaf y swydd.

 

Roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y corff sy'n arwain ar nifer sylweddol o fentrau datblygu aelodau, wedi penderfynu bod nodau ac amcanion hyfforddi a datblygu, yn bodloni'r disgwyliadau a'r canlyniadau a restrir ym mharagraffau 4.5 a 4.6 o'r adroddiad. Byddai adroddiad ar hyn hefyd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol.

 

Byddai sesiynau Ymgeiswyr Posibl hefyd yn cael eu trefnu gan yr Awdurdod, ar gyfer unigolion a oedd â diddordeb mewn dod yn Gynghorydd yn yr etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022. 

 

Rhagwelwyd y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor yn rhoi cyfeiriad ar gyfer y gweithgareddau Datblygu Aelodau y mae angen eu cynnal ac i sicrhau bod anghenion datblygu Aelodau Etholedig yn cael eu diwallu. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Datblygu Aelodau ac unrhyw werthusiad o'r Strategaeth a gynhelir, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Canmolodd yr Aelodau'r hyfforddiant diweddar ar bwnc y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau a oedd ar gael i Aelodau, ac a ddarparwyd gan ddarparwr allanol.

 

PENDERFYNWYD:                                  Bod y Cyngor yn nodi fersiwn ddrafft o’r Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.

 

89.

Llyfr Achosion yr Ombwdsmon pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a roddodd grynodeb i'r Aelodau o'r achosion a gynhaliwyd gan Swyddfa'r Ombwdsmon rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020.

 

Esboniodd fod Llyfr Achosion yr Ombwdsmon yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae’n cynnwys crynodebau o'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y chwarter, yn ogystal â detholiad o grynodebau sy'n ymwneud â datrysiadau cyflym a setliadau gwirfoddol. Roedd y Llyfr Achosion ar gyfer Hydref – Rhagfyr 2020 ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod wedi clywed bod cyfnod swydd yr Ombwdsmon presennol yn cael ei ymestyn ymhellach. Pan gadarnheir hyn yn swyddogol, byddai'n hysbysu'r Aelodau yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD:                                  Bod yr Aelodau’n nodi’r adroddiad.

 

90.

Adroddiad Monitro – Cwynion, Rhyddid Gwybodaeth, a Diogelu Data pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diben yr adroddiad hwn a gyflwynwyd gan y Swyddog Monitro oedd rhannu gyda'r Aelodau berfformiad y Tîm Gwybodaeth wrth brosesu Cwynion Corfforaethol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a cheisiadau eraill am wybodaeth.

 

Dywedodd fod y Polisi Cwynion Corfforaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Tîm Gwybodaeth adrodd i'r Cabinet o leiaf bob blwyddyn ar berfformiad.

 

Roedd Atodiad A i'r adroddiad yn cynnwys data perfformiad mewn perthynas â'r meysydd ychwanegol a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan fod y rhain yn rhan sylweddol o waith y tîm.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod gofyniad deddfwriaethol i ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn cyfnod o 20 diwrnod gwaith ac i geisiadau Cyrchu Gwrthrych Data mewn 1 mis calendr. Nid oedd gan geisiadau am wybodaeth gan gyrff cyhoeddus derfyn amser ymateb statudol, fodd bynnag, mae'r tîm yn ceisio ymateb i'r ceisiadau hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Yn unol â'r Polisi Cwynion Corfforaethol, dylai'r Awdurdod ymateb i g?yn ffurfiol mewn 20 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod y Tîm Gwybodaeth yn cynnwys dau weithiwr, fodd bynnag, oherwydd y nifer cynyddol o gwynion, ymholiadau/ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data, bydd y tîm yn cael ei ymestyn yn fuan drwy recriwtio gweithiwr arall, oherwydd y cynnydd hwn mewn gwaith, a oedd bron wedi dyblu.

 

Darparodd Atodiad A adroddiad monitro ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2020. Mae hyn yn cynnwys data ar nifer y cwynion, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, ceisiadau Cyrchu Gwrthrych Data a cheisiadau am Wybodaeth a brosesir gan y tîm yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod cwynion a dderbyniwyd wedi'u dadansoddi yn adran 2.2 o'r adroddiad. Roedd hyn yn adlewyrchu bod 51 o gwynion wedi'u derbyn, ac roedd 48 ohonynt wedi'u cydnabod o fewn y cyfnod rhagnodedig ar gyfer gwneud hynny, gyda dim ond 3 yn disgyn y tu allan i'r ffenestr hon.

 

Yn adran 3.6 o'r adroddiad, cafodd y Cwynion a dderbyniwyd eu dadansoddi fesul Adran, gyda'r meysydd Tai, Cludiant i'r Ysgol a Phriffyrdd yn derbyn y nifer mwyaf o gwynion.

 

Dangosodd Adran 3.7 fod Cwynion o'r fath wedi'u dadansoddi fesul Ward ac roedd hyn yn adlewyrchu lledaeniad eithaf cyfartal. Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd oedd wedi derbyn y nifer mwyaf o gwynion ac yna Cymunedau. Roedd gweddill y Cwynion a dderbyniwyd ar gyfer meysydd gwasanaeth eraill yn llawer is, ond disgwylid hyn o ystyried bod yr uchod yn Gyfarwyddiaethau sy’n wynebu'r cyhoedd.

 

Yn 2020 derbyniodd y Cyngor 877 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dim ond dwy g?yn a dderbyniwyd i'r ymatebion i'r rhain gan yr Awdurdod. Bu 95 o geisiadau Cyrchu Gwrthrych Data, ychwanegodd.  

 

PENDERFYNWYD:                                   Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Monitro sydd ynghlwm wrth yr adroddiad eglurhaol yn Atodiad A.

   

91.

Adroddiad Blynyddol pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a oedd yn nodi gwaith y Pwyllgor ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2020 a Mai 2021.

 

Esboniodd y byddai'r adroddiad hwn hefyd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol.

 

Er gwybodaeth gefndirol, mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu Pwyllgor Safonau i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad a gonestrwydd uchel ymhlith Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn manylu ar gyfansoddiad presennol y Pwyllgor, telerau swydd ei Aelodau unigol, rôl a chylch gwaith y Pwyllgor, nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2020/2021, manylion y gwaith yr oedd wedi'i ystyried yn ystod y cyfnod hwn, cyfleoedd hyfforddi a datblygu ac enghreifftiau o waith y bydd y Pwyllgor yn cael cyfle i edrych arnynt wrth symud ymlaen.

 

Ymhelaethodd y Swyddog Monitro ar bob un o'r meysydd hyn, er budd yr Aelodau.

 

Cadarnhaodd hefyd y byddai cyfnod swydd rhai o’r Aelodau yn dod i ben ar adegau penodol yn y dyfodol ac y cysylltir â'r Aelodau hyn yngl?n â’r mater hwn, er mwyn canfod a oedd ganddynt ddiddordeb mewn cael eu hystyried am gyfnod pellach yn y swydd.

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd – Pwyllgorau o ddyddiadau dau gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau yn 2021, fel y gallent eu nodi yn eu dyddiaduron. 

 

PENDERFYNWYD:                                   Bod y Pwyllgor wedi nodi'r adroddiad ac wedi nodi ymhellach y caiff ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2021.

 

92.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.