Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

93.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

 

94.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 191 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  29/06/2021

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                  Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 29 Mehefin 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

95.

Ailbenodiadau i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 494 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a'i ddiben oedd nodi bod cyfnod swydd dau Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau wedi cael eu hymestyn.

 

Cadarnhaodd na fydd y Pwyllgor Safonau yn cynnwys llai na phump na mwy na naw o aelodau, ac y bydd o leiaf dau ohonynt yn Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol, yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001.  Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor yn cynnwys saith aelod, fel y nodir ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro y bydd cyfnod swydd dau o'r Aelodau Annibynnol yn dod i ben ym mis Hydref 2021.  Roedd yr Aelodau'n gymwys i gael eu hailbenodi am dymor pellach.  Ar ôl hynny, mae’r Rheoliadau’n datgan bod yn rhaid iddyn nhw ymddiswyddo gan na chant wasanaethu yn y swydd am fwy na dau dymor.  Yn ogystal, mae'r Rheoliadau'n nodi mai pedair blynedd yw uchafswm hyd yr ail dymor y swydd. Mae'r Aelodau wedi gwneud cyfraniad buddiol i lywodraethu'r Cyngor ac wedi cytuno i wasanaethu am dymor pellach. 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor, ar 15 Medi 2021, wedi cymeradwyo ailbenodiad Mrs Judith Kiely a Mr Clifford Jones OBE am gyfnod pellach o bedair blynedd ar y Pwyllgor.  

 

PENDERFYNIAD:                Bod y Pwyllgor wedi nodi ailbenodiad Mrs Judith Kiely a Mr Clifford Jones OBE i'r Pwyllgor am dymor pellach.

 

96.

Polisi Chwythu'r Chwiban pdf eicon PDF 361 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i alluogi'r Pwyllgor Safonau i adolygu gweithrediad Polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor. 

 

Dywedodd y byddai’r Aelodau yn ymwybodol o Bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor (sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1 i'r adroddiad), sydd wedi'i gynllunio i osod fframwaith i annog a galluogi gweithwyr i ddatgelu os ydyn nhw â phryderon gwirioneddol, ac i roi sicrwydd y byddent yn cael eu diogelu rhag dial ac erledigaeth yn sgil gwneud hynny. 

 

 

 

Mae monitro a gweithredu'r polisi yn un o'r swyddogaethau a ddirprwyir i'r Pwyllgor Safonau.  Adolygwyd y polisi i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben, a daethpwyd i'r casgliad bod y fersiwn bresennol yn foddhaol ac yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a'r arferion gorau.  O ganlyniad, ni chynigir gwelliant i'r Polisi ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi cyhoeddiad y polisi ar wefan y Cyngor ac y bydd pob gweithwyr newydd yn cael gwybod amdano fel rhan o'u proses sefydlu. 

 

PENDERFYNIAD:                           Bod y Pwyllgor wedi nodi'r adroddiad.

 

97.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z