Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonnau - Dydd Iau, 12fed Rhagfyr, 2019 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

53.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Yn absenoldeb y Cadeirydd, etholwyd Mr Jeff Baker yn Gadeirydd y cyfarfod.

 

                                    (Mr Jeff Baker fel Cadeirydd)

54.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

55.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 57 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  07/03/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 07/03/2019 fel rhai gwir a chywir.

56.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn amlinellu prif gynigion y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

Dywedodd fod y Bil wedi'i gyhoeddi ym mis Tachwedd eleni, ac wedi cyflwyno nifer o gynigion, fel a ganlyn:

 

Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

 

  • Bydd yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn cael ei ostwng o 18 i 16, a bydd yr hawl i sefyll a phleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn cael ei ymestyn i breswylwyr cymwys sy'n ddinasyddion tramor yng Nghymru.

 

  • Caiff awdurdodau lleol a chynghorau cymunedol eu rhoi ar gylch etholedig pum mlynedd parhaol, gan drosglwyddo'r pwerau i Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu cofrestr ddigidol Cymru gyfan, sy'n caniatáu i dreialu ffyrdd newydd o gynnal etholiadau lleol (e.e. pleidleisio drwy'r post, oriau pleidleisio newydd, pleidleisio'n electronig, cyfrif yn electronig).

 

Meini prawf gwahardd rhag sefyll fel cynghorydd

 

  • Gwaherddir pobl sydd wedi cael eu dyfarnu'n fethdalwyr, yn droseddwyr rhyw cofrestredig neu wedi treulio cyfnod o 3 mis neu fwy yn y carchar (dedfryd ohiriedig neu beidio).

 

  • Caniateir i staff y cyngor sefyll mewn etholiadau ar ran awdurdod lleol maent yn gweithio iddo, ond bydd gofyn iddynt ymddiswyddo os cânt eu hethol.

 

Trefniadau Llywodraethu

 

  • Bydd y Bil yn cyflwyno p?er o gymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol a chynghorau cymunedol cymwys, gan roi p?er iddynt weithredu dros lesiant eu priod gymuned, annog effeithiolrwydd a gwerth gorau posibl am arian.

 

  • Bydd angen i awdurdodau lleol benodi Prif Swyddog Gweithredol gan gyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli eu perfformiad. Mae'r Bil yn cyflwyno swyddogaethau i'w rhannu rhwng y gwahanol lefelau o fewn y Cabinet, ac yn gofyn i gynghorau ddarparu ar gyfer cyfnodau mamolaeth i gynghorwyr.

 

  • Bydd gofyn i Bwyllgorau Safonol gyhoeddi Adroddiad Blynyddol, a bydd angen i gynghorau cymunedol ddrafftio a chyhoeddi cynllun hyfforddi ar gyfer cynghorwyr a staff

Cwmnïau sydd wedi uno

 

  • Bydd cyfle i fwy nag un awdurdod lleol weithio ar draws y rhanbarth drwy bwyllgorau cyfunedig corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi p?er i Lywodraeth Cymru ymyrryd neu ofyn i un awdurdod lleol gynorthwyo awdurdod arall os credir nad yw cyngor penodol yn bodloni gofynion perfformiad (yn seiliedig ar hunanasesiad ac adolygiad cyfoedion).

 

  • Bydd unrhyw gwmnïau sy'n uno yn gwneud hynny'n wirfoddol. Gall dau awdurdod lleol, neu fwy, gyflwyno cais i Llywodraeth Cymru i uno cwmnïau. Mae'r Bil yn nodi'r broses a rheoliadau ymgynghori cyhoeddus ffurfiol gofynnol i greu awdurdod lleol cyfun. Mae modd i gynghorau wneud cais i'w diddymu.

 

Ymgysylltu â'r cyhoedd

 

  • Bydd gofyn i awdurdodau lleol gyhoeddi strategaeth gyfranogi gyhoeddus. Rhoddir dyletswydd ar awdurdodau lleol i annog y bobl leol i gyfrannu i lywodraeth leol.

 

  • Bydd awdurdodau lleol angen cyflwyno cynlluniau ar gyfer deisebau cyhoeddus, gweddarlledu'r holl gyfarfodydd cyhoeddus (yn ddibynnol ar reoliadau) a gwneud trefniadau i gynghorwyr fod yn bresennol o bell. Ni fydd y darpariaethau hyn yn berthnasol i gynghorau cymunedol.

 

  • Bydd gofyn i Gynghorau Cymunedol ganiatáu i aelodau'r cyhoedd wneud cynrychiolaethau yn ystod cyfarfodydd a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai Cynghorau yn cael dewis  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 56.

57.

Hyfforddiant Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried rhaglenni hyfforddi priodol ar gyfer y Pwyllgor.

 

Dywedodd bod holl Aelodau'r Pwyllgor wedi dilyn rhaglen gynefino gynhwysfawr oedd yn cynnwys hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Cafodd yr Aelodau gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai yng Nghynhadledd Safonau Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru yn 2018. Roedd yn mynd i'r afael â phynciau megis: rhannu arfer gorau o fewn rôl y pwyllgor safonau, diddordebau a goruchwyliaethau personol a niweidiol; elfennau ymarferol o gynnal Gwrandawiad Safonau a Chyfryngau Cymdeithasol a Bwlio.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnal sesiynau hyfforddi ar y cyd gyda Phwyllgorau Safonau eraill ar draws Cymru, ac i Aelodau'r Pwyllgor oruchwylio Pwyllgorau Safonau gan awdurdodau lleol eraill.   Eglurodd y Cadeirydd y byddai'n fanteisiol i aelodau'r Pwyllgor hwn allu goruchwylio'r gweithdrefnau a gwrandawiadau gan Bwyllgorau Safonau awdurdodau lleol eraill. 

 

Eglurodd un Aelod bod yr Ombwdsmon wedi cynghori'r Swyddogion Monitro y byddai Cynghorwyr yn destun beirniadaeth oedd wedi arwain at gwynion yn cael eu hanwybyddu. 

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod angen i Aelodau ddeall sut i ymddwyn mewn cyfarfodydd gan fod angen iddynt fod yn gadarn a ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD: Y byddai'r Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

58.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon 2018/19 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn darparu'r Aelodau gyda chopi o Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2018/19.

 

Eglurodd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) yn adrodd yn ôl yn flynyddol ar y nifer o gwynion a dderbyniwyd gan ei swyddfa yn erbyn cyrff cyhoeddus.  Roedd nifer y cwynion yn erbyn yr awdurdod wedi lleihau yn ystod 2018-19, o 40 yn 2017-18 i 33 yn 2018-19. Dywedodd nad oedd unrhyw o'r cwynion a dderbyniwyd wedi gofyn am archwiliad, gyda'r PSOW yn ymyrryd yn 6 o'r achosion.

 

Gofynnodd Aelod am y manylion ynghylch y cwynion o 2017/18 nad oeddynt wedi gweithredu arnynt. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei fod am ofyn i'r Swyddog Monitro ddarparu manylion am y cwyn hwn ar gyfer y Pwyllgor.

Gofynnodd un Aelod am fanylion ynghylch y cwynion nad oedd wedi eu datblygu, gan y byddai'n rhoi blas ar y mathau o gwynion sy'n cael eu gwneud.

 

 

PENDERFYNWYD: Y byddai'r Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad.

59.

Llyfr Achosion Ombwdsmon pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn crynhoi'r achosion a ymgymerywd â nhw gan Swyddfa'r Ombwdsmon.

 

Dywedodd fod yr ymgynghoriad ar egwyddorion a gweithdrefnau ar agor mewn perthynas â'r pwerau newydd a grëwyd gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, a ddaeth i rym ar 23 Gorffennaf 2019.

 

Dywedodd fod yr amrywiaeth o bwerau a luniwyd i ehangu'r mynediad at gyfiawnder a lleihau darpariaeth o wasanaethau gwael, wedi ei gwneud hi'n haws i wneud cwynion yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus. Bellach, mae'r Ombwdsmon yn derbyn cwynion ar lafar, ac mae ganddo'r hawl i gynnal archwiliadau 'Annibynnol'. Sefydlwyd Awdurdod Safonau Cwynion Cymru gan y Ddeddf newydd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at Atodiad 1 yn yr adroddiad sy'n darparu'r Llyfr Achosion ar gyfer Ebrill - Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD: Y byddai'r Aelodau yn nodi'r adroddiad.

60.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim