Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonnau - Dydd Iau, 18fed Chwefror, 2021 10:00

Lleoliad: o bell trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

73.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

 

74.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 57 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/11/2020 a 21/12/2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Bod cofnodion 19/11/2020 a 21/12/2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

75.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r graddau y mae'n effeithio'n uniongyrchol ar swyddogaethau'r Pwyllgor.

 

Eglurodd fod y Senedd wedi pasio'r Mesur ar 18 Tachwedd 2020 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021, ac roedd yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth â nifer o rannau sy’n effeithio ar Lywodraeth Leol, ar Gynghorau Tref a Chymuned, a rhai elfennau yn effeithiol y Pwyllgor Safonau. Ychwanegodd fod yr amserlen weithredu yn gymhleth, ac na fyddai pob agwedd o’r Mesur yn cael ei gweithredu ar unwaith.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol y byddai rhannau o'r Mesur yn cael eu cyflwyno ym mis Mai 2021, gyda'r rhan fwyaf o'r Mesur yn cael ei weithredu ochr yn ochr ag amserlen Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

 

Aeth y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol ati i egluro pa adrannau o'r Mesur a oedd yn effeithio ar y Pwyllgor Safonau, sef:

 

 

  • Dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad – cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau'r gr?p, a rhaid iddynt gydweithredu â'r Pwyllgor wrth arfer swyddogaethau'r Pwyllgor. Monitro cydymffurfiaeth arweinwyr â'u dyletswyddau o dan yr adran hon, a chynghori, hyfforddi, neu drefnu i hyfforddi arweinwyr am faterion sy'n ymwneud â'r dyletswyddau hynny.

 

  • Dyletswydd ar y pwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol – gan ddisgrifio sut y mae swyddogaethau'r Pwyllgor wedi'u cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol. Hyn i gynnwys hyfforddiant a ddarparwyd i Aelodau'r Pwyllgor Safonau a chrynodeb o'r ymchwiliadau a gynhaliwyd.

 

  • Mae rhai ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Atodlen 8 i'r Mesur yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a Deddfau eraill, ynghylch ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon ynghylch methiannau i gydymffurfio â chod ymddygiad.

 

 

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol y disgwylid mwy o fanylion am y rhain ac y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu i'r Pwyllgor Safonau yn ôl yr angen.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd cyflwyno'r Mesur yn ei olygu i Gynghorau Tref a Chymuned a'u harweinwyr.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol, a Rheoleiddiol nad oedd canllawiau penodol wedi'u darparu hyd yma ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned gan eu bod yn disgwyl rheoliadau a chanllawiau sylweddol ynghylch hyn.

 

Dywedodd Aelod fod llawer o wrandawiadau'r Pwyllgor Safonau wedi cynnwys Aelodau Annibynnol. Gofynnodd beth fyddai’r Mesur newydd yn ei olygu i Aelodau Annibynnol a phwy oedd yn gyfrifol am sicrhau safonau uchel yn eu plith.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio nad oedd y canllawiau presennol yn rhoi manylion am hyn ond unwaith y derbynnir canllawiau sylweddol byddai'n darparu adroddiadau pellach yn amlinellu'r canllawiau ar gyfer Aelodau Annibynnol.

 

PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor Safonau wedi nodi'r adroddiad.

 

76.

Pwyllgor Safonau - Y Broses Gwrandawiadau pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad i ofyn i'r pwyllgor nodi'r weithdrefn a fabwysiadwyd i benderfynu ar gwynion Cod Ymddygiad a gyfeiriwyd at y Pwyllgor, i sicrhau ymdriniaeth deg ac yn effeithlon o faterion.

 

Eglurodd fod Atodiad 1 i'r adroddiad yn nodi'r weithdrefn y byddai'r pwyllgor yn ei dilyn lle'r oedd yn ofynnol iddo wneud penderfyniadau am ymddygiad Cynghorwyr yn dilyn ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu Swyddog Monitro'r Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol fod pob aelod etholedig wedi derbyn hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, ac mor ddiweddar â mis Ionawr 2021 cafodd hyfforddiant gloywi ei ddarparu i aelodau'r pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai unrhyw sesiynau hyfforddi pellach ar y Cod Ymddygiad yn cael eu darparu, gan nad oedd yn bresennol yn yr un a gynigwyd yn flaenorol.

 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol y byddai dwy sesiwn hyfforddi gloywi arall yn cael eu darparu, ond nid oedd y dyddiadau wedi'u cadarnhau eto, gan fod y darparwr ar wyliau ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y sesiynau'n debygol o gael eu cynnal tua diwedd Mawrth/dechrau Ebrill, ac y byddent yn sicrhau y byddai unrhyw aelodau nad fynychodd y sesiynau blaenorol yn cael eu gwahodd i'r sesiynau hyn.

 

Ychwanegodd Aelod ei fod wedi mynychu sesiwn a ddarparwyd gan Un Llais Cymru yn ddiweddar a oedd yn drylwyr iawn, ac er ei fod yn darparu ar gyfer cynghorwyr tref a chymuned, roedd ar gael i unrhyw aelod.

 

PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor Safonau wedi nodi'r adroddiad ar y weithdrefn fabwysiedig i'w chymhwyso mewn gwrandawiadau gerbron y Pwyllgor, sydd ynghlwm yn Atodiad 1.

 

77.

Panel Dyfarnu Cymru - Canllawiau Sancsiynau pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am y Canllawiau Cosbau a dderbyniwyd gan Banel Dyfarnu Cymru (APW) a oedd wedi'u diwygio a'u moderneiddio'n ddiweddar.

 

Eglurodd fod Canllaw Cosbi newydd wedi’i gyhoeddi gan Banel Dyfarnu Cymru yn dilyn ymgynghoriad diweddar i wella a moderneiddio eu Canllawiau Cosbi. Prif ddiben y Canllawiau oedd cynorthwyo tribiwnlysoedd achos Panel Dyfarnu Cymru, wrth ystyried y gosb briodol i'w gosod lle gwelwyd bod Cynghorydd wedi torri'r Cod Ymddygiad.

 

Dywedodd fod y canllawiau cosbi ynghlwm yn atodiad 1 i'r adroddiad a dywedodd mai Panel Dyfarnu Cymru yn unig, nid y pwyllgor safonau, allai ddefnyddio'r cosbau. Fodd bynnag, roedd yn bwysig i aelodau ddeall y gweithdrefnau ac i’w cefnogi yn eu rôl o gynnal, hyrwyddo, a dyfarnu ar y Cod.

 

PENDERFYNIAD: bod y Pwyllgor wedi nodi'r Canllawiau Cosbi a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru sydd ynghlwm fel Atodiad 1

 

78.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

79.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol  (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Nid yw'r Cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem ganlynol i'w cyhoeddi gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i eithrio fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4, a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

Os bydd y Pwyllgor, ar ôl cymhwyso'r prawf budd cyhoeddus, yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hon yn breifat, caiff y cyhoedd eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

80.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y cofnodion eithriedig cyfarfod y 19/11/2020 a 21/12/2020

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Bod cofnodion sydd wedi’u heithrio rhwng 19/11/2020 a 21/12/2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.