Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Llun, 18fed Chwefror, 2019 09:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd D Owen

Y Cynghorydd J Lewis

Cynghorydd G Thomas

24.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

25.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 185 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/05/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod pwyllgor trwyddedu'r 22/05/2018 yn gofnod gwir a chywir.

26.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus pdf eicon PDF 121 KB

Gan cynnwys cyflwyniad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad a oedd yn amlinellu manylion Cynigion Llywodraeth Cymru o ran trwyddedu tacsis, a gofynnodd i'r Pwyllgor roi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch trwyddedu tacsis.

 

Hysbysodd yr Aelodau y byddai'n rhoi cyflwyniad iddynt a oedd yn dadansoddi manylion y cynigion presennol a restrir yn adran 3 a 4 yr adroddiad.

 

Tywysodd aelodau drwy adran 3 yr adroddiad a rhoddodd beth cefndir i'r sefyllfa bresennol. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan Gomisiwn y Gyfraith rhwng 2011-2014, ac ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn ystyried cynigion i ddiwygio'r gyfundrefn trwyddedu tacsis a thrwyddedu llogi preifat yng Nghymru.

 

Yna, eglurodd pa faterion allweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u priodoli i'r polisi trwyddedu presennol. Esboniodd fod safonau anghyson ar draws pob awdurdod lleol wedi arwain at amrywiadau o ran ansawdd cerbydau yn ogystal â'r gost sy'n cael ei chodi, gan ddibynnu ar ba awdurdod lleol y daeth y tacsi.

 

Aeth ati hefyd i egluro materion gorfodi, a nododd wrth yr Aelodau nad oedd unrhyw fecanwaith statudol ar hyn o bryd ar gyfer gorfodi cerbydau sydd wedi’u trwyddedu mewn awdurdodau gwahanol.

 

Disgrifiodd hefyd faterion diogelu, a nododd wrth yr Aelodau nad oes unrhyw rannu gwybodaeth rhwng awdurdodau ar hyn o bryd ynghylch trwyddedu gyrwyr tacsi. Mae hyn yn fygythiad i’r cyhoedd oherwydd y gallai gyrrwr dderbyn trwydded tacsi gan un awdurdod hyd yn oed os yw eu trwydded wedi cael ei dirymu mewn awdurdod arall.

 

Gwnaeth Aelod sylw ar y materion, gan egluro fod y pryderon yn rhai dilys, a chytunodd fod angen gweithredu arnynt mewn rhyw ffordd.

 

Aeth y Swyddog Polisi Trwyddedu i egluro'r cynigion presennol, gan ddweud eu bod yn cael eu cyflwyno, er eu bod ond yn nyddiau cynnar y broses, er mwyn i Aelodau roi eu barn arnynt.

 

Opsiwn 1 –

  • Sefydlu safonau cenedlaethol, gan gynnwys safonau gyrwyr a safonau cerbydau, yn ogystal â chronfa ddata genedlaethol.
  • Ailgyfeirio swyddogaethau trwyddedu presennol y 22 awdurdod lleol o ran Cerbydau Hackney a cherbydau Llogi Preifat er mwyn sefydlu 1 awdurdod trwyddedu ar y cyd.
  •  

 

Opsiwn 2 –

  • Sefydlu safonau cenedlaethol gan gynnwys safonau gyrwyr a safonau cerbydau.
  • Sefydlu system orfodi fwy trylwyr lle gall unrhyw awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded yrru os oes angen, waeth ble y cafodd y gyrrwr ei drwyddedu'n wreiddiol.
  • Sefydlu cronfa ddata ganolog o fanylion am ddirymiadau trwyddedau sydd ar gael i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Cadw swyddogaethau trwyddedu o fewn yr awdurdodau lleol.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon am opsiwn 1, gan nodi ei fod yn newid sylweddol i'r system bresennol.

 

Dywedodd Aelod, er ei fod yn credu y byddai opsiwn 1 yn haws ac o bosibl yn fwy effeithlon yn yr hirdymor, y byddai’r newid yn y tymor byr a’r tymor canolig yn enfawr, ac yn achosi aflonyddwch i'r gwasanaethau trwyddedu yn ogystal â gyrwyr tacsis. Gallai hefyd fod yn gostus i'r awdurdod pe byddai angen i BCBS gydymffurfio â newidiadau unffurf.

 

Dywedodd Aelod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26.

27.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim