Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 25ain Chwefror, 2020 09:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

39.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 70 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/08/2019

Cofnodion:

CYTUNWYD:                Bod cofnodion cyfarfod dyddiedig 13 Awst 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

40.

Cofrestr Genedlaethol Diddymu a Gwrthod Trwyddedau Tacsi (Nr3) pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir adroddiad yn cynghori’r Pwyllgor am ymarferoldeb Cofrestr Genedlaethol Diddymu a Gwrthod Trwyddedau Tacsi (NR3). Eglurodd fod y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) wedi comisiynu datblygu cofrestr genedlaethol o wrthodiadau a diddymiadau trwyddedau gyrwyr cerbydau hacni/llogi preifat i gynorthwyo awdurdodau lleol i benderfynu p’un ai bod ymgeiswyr yn “gymwys a phriodol” i dderbyn trwydded.

 

Esboniodd Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod yr NR3 yn fecanwaith i alluogi awdurdodau trwyddedau i rannu manylion am unigolion sydd â’u trwyddedau gyrwyr cerbydau hacni/llogi preifat  wedi’u diddymu neu gais am un wedi’i wrthod. Ar hyn o bryd, oni bai bod ymgeisydd yn datgelu hynny, doedd dim modd cyson gwybod oes oedd ymgeisydd wedi’i ddiddymu neu’i wrthod yn flaenorol gan Awdurdod Trwyddedu arall. Rhagwelwyd y byddai cofrestr NR3 yn darparu trefn gyson tuag at drwyddedu, gan gynyddu hyder yn addasrwydd ymgeiswyr a’r gobaith o gynnydd yn niogelwch y cyhoedd trwy gynorthwyo gwrthod ymgeiswyr anaddas i’r fasnach dacsis/llogi preifat.

 

Amlinellodd Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y newidiadau i’r weithdrefn bresennol. Pan dderbynnir cais am grant neu adnewyddu, fe fyddai swyddogion yn ymgymryd â chwiliad o gofrestr NR3. Os oedd canlyniad positif, fe wneid cais i’r awdurdod lleol a gyflwynodd y cofnod, am wybodaeth bellach er mwyn penderfynu ar addasrwydd yr ymgeisydd. Rhoddwyd manylion polisi drafft yn atodiad B yr adroddiad. Gan y byddai Cofrestr NR3 yn golygu prosesu data personol, fe fyddai gofyn dilyn egwyddorion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Pwysleisiodd na fyddai ymgeisydd yn cael ei wrthod yn awtomatig oherwydd bod cofnod ar Gofrestr NR3. Fe fyddai cofnod yn nodi fod gwybodaeth bellach i’w gael er mwyn caniatáu i’r pwyllgor ddod i benderfyniad ar b’un ai a ydy ymgeisydd yn “gymwys a phriodol” i dderbyn trwydded ai peidio.

 

Cododd aelod bryderon ynghylch y ffaith fod Cofrestr NR3 yn cynnwys Cymru yn unig a bod gan nifer o yrwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr gofrestriad deuol gydag ardaloedd eraill y tu allan i Gymru. Ateb Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir oedd bod Cofrestr NR3 yn cynnwys Cymru a Lloegr ond ei fod yn wirfoddol ar hyn o bryd. Y gobaith oedd y byddai canllawiau rheoliadol drafft newydd yn datgan y dylai pob awdurdod lleol yn Lloegr a Chymru’n mabwysiadu NR3.

 

Gofynnodd aelod pa drefniadau oedd mewn lle i wirio ymgeiswyr o du allan i’r DU. Eglurodd Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir bod gwiriadau safonol yn eu lle ynghylch cofnodion troseddol, yr hawl i weithio a’r broses fewnfudo.

 

Gofynnodd aelod beth fyddai’n digwydd petai cais yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio gwybodaeth person arall. Atebodd Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod swyddogion yn gofyn am wybodaeth pasbort a gwiriadau eraill er mwyn cadarnhau pwy ydy’r ymgeisydd.

 

PENDERFYNWYD:                Y byddai’r Pwyllgor Trwyddedu’n mabwysiadu:

 

a)    defnydd y gofrestr NR3 a’r

 

b)    Polisi NR3 a fanylir yn Atodiad B ar unwaith.  

                 

41.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim