Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 21ain Mai, 2019 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyng. J McCarthy, Cyng. J Lewis

29.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

30.

Penodi Is-bwyllgorau Trwyddedu a Dirprwyo i Swyddogion pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn cynnig aelodaeth o'r Is-bwyllgorau Trwyddedu yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, 2019.

 

Eglurodd fod y cynigion yn ofynnol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â cheisiadau trwyddedu cyffredinol, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â thrwyddedu tacsis. Gellir dod o hyd i'r ystod o swyddogaethau o fewn Cyfansoddiad y Cyngor yn rhan 3.

 

Eglurodd y derbyniwyd adroddiad yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 15 Mai, a oedd yn nodi aelodaeth o Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 a'r Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cynigodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, felly fod y Pwyllgor yn parhau â'r trefniadau presennol ac yn cymeradwyo ffurfio'r ddau banel yn eistedd ar sail rota.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth Aelodau am ymholiad diweddar gan Aelod ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yr Is-bwyllgorau ond eglurodd nad oedd hynny'n ofynnol i Is-bwyllgorau gan fod y prif Bwyllgor eisoes yn cydymffurfio â'r cydbwysedd gwleidyddol gofynnol.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor:

 

(1)  Yn cymeradwyo ffurfio'r Is-bwyllgorau fel a ganlyn;

 

Is-bwyllgor (A)

            Cyng. D Lewis (Cadeirydd)

            Cyng. T Beedle

            Cyng. R Collins

            Cyng. M Kearn

            Cyng. D Owen

            Cyng. A Pucella

            Cyng. J Williams

 

Is-bwyllgor (B)

            Cyng. PA Davies (Is-gadeirydd)

            Cyng. RM James

            Cyng. B Jones

            Cyng. JE Lewis

            Cyng. J McCarthy

            Cyng. G Thomas

            Cyng. A Hussain

 

(2)  Yn parhau â'r trefniadau presennol o ddau banel yn eistedd ar sail rota.

 

Pe bai'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd yn methu â mynychu eu cyfarfodydd Is-bwyllgor priodol, byddai Cadeirydd yn cael ei ethol gan y rhai hynny sy'n bresennol.

31.

Canllawiau Diwygiedig ar Benderfynu ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau yn y Masnachau Hacni a Hurio Preifat pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad a oedd yn darparu manylion yngl?n â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y sefydliad trwyddedu ar benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau yn y masnachau hacni a hurio preifat, a gofynnodd am gymeradwyaeth i roi'r canllawiau ar waith.

 

Nododd fod y Sefydliad Trwyddedu, ym mis Ebrill 2018, wedi cyhoeddi dogfen yn dwyn y teitl 'Canllawiau Diwygiedig ar Benderfynu ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau yn y Masnachau Hacni a Hurio Preifat' ("Y Canllawiau") a oedd ynghlwm â'r adroddiad fel Atodiad A.

 

Eglurodd fod ymgynghori eang ledled y wlad ar gynnwys y canllawiau gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Cynghorwyr, Swyddogion Trwyddedu, Cyfreithwyr, y Masnachau Hacni a Hurio Preifat, Academïau, y Gwasanaeth Prawf a'r Heddlu.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y bydd y polisi hwn yn cael ei ddefnyddio ynghyd â'r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir ac mai Pen-y-bont ar Ogwr fyddai'r Awdurdod lleol cyntaf i wneud hynny.

 

Gwnaeth y Swyddog Polisi Trwyddedu gyfeirio Aelodau at argymhelliad 9.1 o'r adroddiad a chroesawodd unrhyw gwestiynau.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yna unrhyw newid yngl?n â'r ffordd y mae'r Swyddogion Trwyddedu yn dod i wybod am euogfarnau.

 

Eglurodd y Swyddog Cyfreithiol na fyddai yna unrhyw newid ac y byddai'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r gwiriad Trwyddedau drwy'r DVLA yn cael eu defnyddio fel y dulliau safonol.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Trwyddedu yn tynnu'r polisi cyfredol yn ôl a oedd yn ymwneud â pherthnasedd euogfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr, ac yn defnyddio'r canllawiau newydd AR benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau yn y masnachau hacni a hurio preifat sydd ynghlwm fel Atodiad B ar gyfer ceisiadau trwyddedu a dderbynnir ar ôl y cyfarfod hwn (nid ar ôl 3 Mehefin 2019 fel y nodwyd yn yr adroddiad)

32.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim