Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 13eg Awst, 2019 09:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Cyng. JE Williams, Cyng. JE Lewis, Cyng. D Lewis, Cyng. A Hussain, Cyng. B Jones

34.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

35.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 69 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/02/2019 and 21/05/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo bod cofnodion y cyfarfodydd dyddiedig 18/02/2019 a 21/05/2019 yn gywir.

36.

Prawf Gwybodaeth Gyrwyr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu adroddiad a oedd yn cynnwys manylion y weithdrefn ymgeisio gyfredol er mwyn cael trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat, a gofynnodd am gymeradwyaeth i roi Prawf Gwybodaeth i bob ymgeisydd newydd ar waith fesul cam.

 

O dan Adrannau 51 a 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, mae'n ofynnol i awdurdodau trwyddedu sicrhau bod unigolion sy'n derbyn trwyddedau i yrru cerbydau hacni a hurio preifat yn "addas a phriodol", a bod ganddynt y sgiliau a'r gallu priodol i ddarparu gwasanaeth teithio hurio a thalu i'r gymuned gyfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO).

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu fod llawer o'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru eisoes yn gosod prawf gwybodaeth i ymgeiswyr newydd. Mae'r rhain yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Powys, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent.

 

Esboniodd y dylid cynnwys amrywiaeth o feini prawf wrth asesu cymhwysedd gyrwyr. Rhestrir y rheiny yn adran 3.4 o'r adroddiad.

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu fod y cynnig cyfredol ar gyfer cynnwys y Prawf Gwybodaeth i yrwyr tacsi fel a ganlyn:

 

·         Cwestiynau Rhifedd/Llythrennedd

·         Deddfwriaeth Cerbydau Hacni a Hurio Preifat

·         Lleoliad Adeiladau a Lleoedd o Ddiddordeb / Lleoliad Strydoedd yn y Fwrdeistref Sirol

·         Ymwybyddiaeth o Anabledd a Chydraddoldeb

·         Diogelu

·         Llwybrau o fewn y Fwrdeistref Sirol ac i fannau pwysig o ddiddordeb y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol, ee meysydd awyr, lleoliadau diwylliannol a chwaraeon.

 

Esboniodd y byddai deunydd hyfforddi yn cael ei ddarparu yn rhan o'r broses ymgeisio. Dywedodd y byddai nifer o gwestiynau'n cael eu gosod yn gysylltiedig â phob testun.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu adran 4.3 o'r adroddiad i sylw'r aelodau. Roedd yr adran honno'n manylu ar nifer o gynigion yn gysylltiedig â'r prawf gwybodaeth ac yn croesawu unrhyw gwestiynau yn eu cylch.

 

Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol am eglurder ynghylch ffioedd yn adran 4.8 o'r adroddiad. Gofynnodd y Swyddog a oedd ffi sengl o £25 yn cael ei chodi am y prawf, a'r ddau ymgais dilynol, neu a oedd y ffi honno'n gysylltiedig â phob prawf unigol.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) fod y ffi o £25 yn cael ei chodi am bob prawf a fyddai'n cael ei sefyll, a chytuno i aralleirio'r paragraff hwn er mwyn creu eglurder ynghylch y ffioedd ac osgoi unrhyw ddryswch.

 

Gofynnodd Aelod sut y byddai'r Swyddogion Trwyddedu yn mynd i orfodi'r ffi archebu o £10 pe na bai ymgeisydd yn dod i'r prawf.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu), pe bai'r ymgeisydd yn archebu ail brawf, y byddai'r tâl yn cael ei godi arno bryd hynny. Ychwanegodd, pe bai'r ymgeisydd yn penderfynu nad oedd am fynd rhagddo â'r cais, ee, pe bai'n cael swydd wahanol, ni fyddai unrhyw ffordd syml na chyfleus o godi'r tâl.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'n rhaid i'r ymgeisydd dalu'r ffi archebu o £10 pe bai'n wirioneddol sâl.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y byddai'r achosion hynny'n cael eu cyflwyno i'w hadolygu gerbron y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, er mwyn penderfynu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 36.

37.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.