Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Y Cynghorydd Farr – Eitem 10, Rhagfarnus |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 254 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/06/23 Cofnodion: |
|
Monitro Cyllideb 2023-24 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1 PDF 347 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi diweddariad i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor fel ar 30 Mehefin 2023 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau dros £100,000 sydd angen cymeradwyaeth gan y Cabinet yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor.
Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o'r sefyllfa bresennol. Mae'r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol i'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad. Nododd fod yna orwariant sylweddol y byddai'n rhaid mynd i'r afael ag ef ac y byddai angen gwneud asesiad fforensig o'r pwysau a'r effaith lawn ar yr awdurdod.
Nododd ei fod wedi bod mewn cyfarfod rhwydwaith aelodau cabinet cyllid ac er na roddodd fawr o gysur, ei fod ychydig yn galonogol bod y pwysau hyn i'w cael ledled Cymru. Nododd ei gefnogaeth i'r trosglwyddiadau a'r argymhelliad.
Cafwyd trafodaeth yn dilyn, wedi’i hysgogi gan gyfres o gwestiynau gan Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Llesiant, ynghylch taliadau uniongyrchol, p’un a oedd teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd â phecynnau dyblyg (h.y. taliadau uniongyrchol a phecynnau gofal cartref) ac os felly, pam, a oedd y Cyngor yn hawlio taliadau uniongyrchol yn ôl os nad oeddent wedi cael eu defnyddio, a’i bod yn ymddangos bod gorwariant mewn rhai meysydd staffio a thanwariant mewn eraill.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn adennill taliadau uniongyrchol nas defnyddiwyd. Nododd hefyd fod tanwariant yn codi oherwydd swyddi gwag er enghraifft, a gorwariant oherwydd pethau fel costau asiantaeth. Fel ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 206. |
|
Diweddariad ar Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf 2023-24 PDF 182 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad hwn. Ei ddiben oedd:
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol dempled newydd yr adroddiad a nododd, er ei fod yn croesawu grantiau Llywodraeth Cymru, ei fod yn dyfalu ynghylch goblygiadau refeniw gwirioneddol mentrau fel prydau ysgol am ddim. Soniodd hefyd am y gwariant ar gerbydau fflyd ac a oedd yn gwbl angenrheidiol eu newid yn awr.
Ymatebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid drwy nodi y byddai goblygiadau refeniw yn ffurf costau rhedeg ar gyfer y cerbydau fflyd newydd, ond roedd yn tybio bod y rhan fwyaf o'r fflyd fyddai'n cael ei brynu yn cymryd lle'r hen gerbydau ac y byddai costau rhedeg yn gostwng mewn gwirionedd. Nododd ymhellach y byddai effaith ar y cyfrif refeniw oherwydd bod hynny'n cael ei ariannu drwy fenthyca ac felly bod angen i wasanaethau wneud yn si?r cyn iddynt brynu'r fflyd honno y byddent yn gallu fforddio i ad-dalu'r benthyciadau y byddai rhaid eu cymryd allan er mwyn eu hariannu nhw. Ychwanegodd y byddai'n werth gwneud rhai o'r canlyniadau hynny'n fwy amlwg mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw at ddau fater:
Gofynnodd Aelod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 207. |
|
Rheoli’r Trysorlys - Chwarter 1 2023-24 PDF 172 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad hwn. Ei ddiben oedd:
Ar 30 Mehefin 2023 roedd gan y Cyngor £99.79 miliwn o ddyled tymor hir, £13.80 miliwn o rwymedigaethau tymor hir eraill a £94.00 miliwn o fuddsoddiadau tymor byr, yn gwneud safle net y ddyled gyffredinol yn £19.59 miliwn.
Y gyfradd llog ar gyfartaledd ar gyfer dyled oedd 4.69% (ac eithrio benthyca Salix sy'n ddi-log) ac ar gyfer buddsoddiadau roedd yn 4.16%.
Mae gan y Cyngor strwythur aeddfedrwydd hylaw o fenthyca, gyda'i ddyled gyfredol yn daladwy ar wahanol bwyntiau dros y 30 mlynedd nesaf.
Mae'r Cyngor wedi cydymffurfio â Chod Rheoli Trysorlys CIPFA a Chanllawiau Buddsoddi Llywodraeth Cymru.
Croesawodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol yr adroddiad a thynnu sylw at y materion canlynol:
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
yn nodi Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 30 Mehefin 2023 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-24. |
|
Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad PDF 1014 KB Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Weithredwr a Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus. Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
- Bod y 7 amcan llesiant yn cael eu hadlewyrchu’n gynhwysfawr gan 44 nod, 101 o ymrwymiadau a 99 o Ddangosyddion Perfformiad (DP). - Cael nodau clir y cytunwyd arnynt i roi manylion o dan bob amcan llesiant a chynorthwyo’r Cyngor i fonitro cynnydd / perfformiad yn effeithiol. - Cael dangosyddion perfformiad sy’n mesur cynnydd y Cyngor ar ei nodau yn fwy effeithiol, sy’n canolbwyntio’n well ar ganlyniadau, a rhai y gellir eu meincnodi. - Rhoi ffocws cryfach ar fesur Ffyrdd Newydd y Cyngor o Weithio.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a diolchodd i'r tîm bychan oedd yn gyfrifol am ei ysgrifennu am eu gwaith. Pwysleisiodd fod gweithredu yn dasg fawr.
Tynnwyd sylw at nifer o faterion yn y drafodaeth a ddilynodd:
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a Phennaeth Partneriaethau. Roedd ei bwrpas fel a ganlyn:
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yr adroddiad a diolchodd i’r tîm tai “bychan ond penderfynol iawn” ym Mhen-y-bont ar Ogwr am yr holl waith oedd wedi cael ei wneud i’w gynhyrchu. Aeth ymlaen i nodi bod pwysau sylweddol ar dai a digartrefedd o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd dros 2500 o bobl ar y gofrestr tai gyffredin, dros 250 o bobl mewn llety dros dro yn disgwyl am gartrefi ac mae 51% o’r llety dros dro hwnnw mewn llety twristiaid ar hyn o bryd.
Nododd ymhellach ei fod wedi gofyn i'r tîm am gynllun ymgysylltu ar gyfer yr ymgynghoriad 12 wythnos. Roedd yna brofiadau bywyd go iawn yr oedd angen eu clywed ac roedd angen sicrhau bod Cyd-aelodau mewn pwyllgorau craffu ac ar draws y Siambr yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed ac wedi cael gwrandawiad.
Adleisiodd yr Arweinydd y gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan y tîm Tai. Nododd mai nhw oedd y bobl oedd yn delio'n ddyddiol â'r cyflwyniadau yr oedd y Cyngor yn eu derbyn gan bobl oedd yn ddigartref ac oedd mewn dirfawr angen am ein cymorth.
Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod wedi cael ei chalonogi gan yr adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at farn y rhanddeiliaid. Roedd nifer o randdeiliaid yn canmol nifer ac amrywiaeth y llety â chymorth sydd ar gael yn y Fwrdeistref, ond roedd angen mwy o ddewisiadau. Roedd hi hefyd yn meddwl mai un o'r dewisiadau y mae angen tynnu sylw ato yw ein plant sy'n derbyn gofal. Roedd angen elfen o ofal a chymorth hefyd, ac roedd hynny’n bwysau pellach ar gyllidebau.
Amlygodd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd nifer o faterion arwyddocaol eraill fel rhan o’r drafodaeth ynghylch yr eitem hon ar yr agenda, gan gynnwys y canlynol:
|
|
Prosiect Meithrin Perthynas Gyda'n Gilydd (RBT) PDF 755 KB Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Ei ddiben oedd:
Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Addysg
i’r Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiolch i’r
tîm a’u llongyfarch am yr holl waith caled i sicrhau
cyllid ar gyfer y prosiect hwn. Roedd y ffaith mai dyma'r unig un
yng Nghymru i sicrhau cyllid yn gamp ryfeddol. Aeth ymlaen i bwysleisio bod hwn yn brosiect cydweithredol enfawr, gyda thimau'n gweithio ar draws y Cyngor, nid yn unig ym meysydd addysg a thrafnidiaeth, ond yn y gwasanaethau cymdeithasol a lles. Roedd hwn yn ddull cydweithredol un Cyngor gwirioneddol.
Credai, o ran monitro cynnydd, mai'r lle gorau fyddai Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet (CCCP).
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi'r cynnig bod y prosiect yn adrodd i'r CCCP. Credai fod hwn yn brosiect peilot arloesol ac roedd yn gyffrous iawn yn ei gylch. Credai hefyd y byddai angen monitro'r canlyniadau'n ofalus, ond roedd yn sicr y byddent yn gadarnhaol ac mai un o gryfderau'r prosiect hwn oedd yr asesiad a'r gwerthusiad parhaus gan Brifysgol Caint.
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles y prosiect a gofynnodd sut y byddai’r canlyniadau’n cael eu cynnal unwaith y deuai’r cyllid ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 211. |
|
Trefniadau Cludiant Coleg Ôl-16 2023-24 PDF 259 KB Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Ei ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth i ddefnyddio gwasanaeth bws masnachol presennol ar gyfer darparu cludiant o’r cartref i’r coleg o fis Medi 2023, yn unol â Pholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg yr awdurdod lleol.
Y prif reswm am hyn oedd na allai’r awdurdod lleol gontractio gwasanaeth cludiant penodol mewn pryd ar gyfer mis Medi 2023, oherwydd ansicrwydd y farchnad yn gysylltiedig â Chynllun Argyfwng Bysiau newydd Llywodraeth Cymru.
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg yr adroddiad a chynigiodd nifer o welliannau i'r argymhelliad.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn hapus i gefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd. Roedd hi’n meddwl bod hyn yn rhywbeth y gallai ein trigolion ei wneud i gefnogi ein trefniadau cyllidebol a’i bod yn llawer gwell i bobl ifanc fod yn fwy annibynnol, er mwyn dysgu rhai sgiliau da iawn, ac i fedru mynd o gwmpas pan fyddent yn mynd i fyd gwaith.
Derbyniwyd y diwygiadau arfaethedig i'r argymhelliad gan y Cabinet ac fe'u nodir isod.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
diwygio Paragraff 3.4 i “mae’r awdurdod lleol bellach yn cynnig darparu tocynnau bws cludiant coleg i bob dysgwr cymwys ar gais.” |
|
Gweithdrefn ar gyfer Penodi a Diswyddo Llywodraethwyr Ysgol yr ALl PDF 338 KB Cofnodion: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg fod angen rhywfaint o fireinio a choethi ar yr adroddiad a chafodd ei dynnu'n ôl o ystyriaeth tan gyfarfod y Cabinet ym mis Medi. |
|
Blaenraglenni Gwaith y Cyngor, y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’i ddiben oedd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo eitemau i gael eu cynnwys ar Flaenraglen Waith y Cabinet am y cyfnod o 1 Gorffennaf 2023 hyd 31 Hydref 2023 ac i'r Cabinet nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am yr un cyfnod.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am yr un cyfnod, fel y dangosir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3 yr adroddiad, yn y drefn honno. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a’i ddiben oedd:
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol yr adroddiad a nododd ei bod yn gyffrous partneru â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn safle allweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Disgrifiodd yr Arweinydd y prosiect fel un cyffrous iawn ac atgoffodd aelodau’r Cabinet mai hwn oedd y buddsoddiad unigol mwyaf yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn prosiect addysg yn y fwrdeistref sirol. Dyna oedd maint, cwmpas ac effaith bosibl y prosiect.
Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am sicrwydd ynghylch prisiad Bracla Un. Nododd Cyfarwyddwr Corfforaethol - y Cymunedau fod angen i CBS Pen-y-bont ar Ogwr fel awdurdod lleol, pryd bynnag yr oedd yn gwerthu asedau, gymryd cyngor gan brisiwr yr ardal. Y prisiad a roddwyd ar y safle hwn oedd £310 mil ond roedd hynny'n seiliedig ar safle wedi'i glirio. Felly, byddai'n costio mwy i wneud y safle'n barod i'w ailddatblygu na'r prisiad presennol.
Croesawodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd y ffaith y byddai datblygiad Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei adeiladu i safon di-garbon net.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
yn awdurdodi swyddogion i gwblhau’r ddogfennaeth gyfreithiol ofynnol i drosglwyddo’r ddau safle i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr am ddim ystyriaeth yn unol â Phrotocol Cydleoli a Throsglwyddo Tir Ystadau LlC a Rheolaeth y Ddeddf Cymhorthdal er mwyn cefnogi a hwyluso datblygiad Campws Canol y Dref yn unig, lle, os na fydd y datblygiad hwnnw yn mynd rhagddo y bydd y tir yn trosglwyddo'n ôl i CBS Pen-y-bont ar Ogwr. |
|
Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’i ddiben oedd rhoi adroddiad i’r Cabinet er gwybodaeth i’r Aelodau, a’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau Arolygiadau Estyn mewn Ysgolion Cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod Tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf 2023.
Roedd yr ysgolion fel a ganlyn:
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg yr adroddiad a gwnaeth sylwadau ar rywfaint o'r gwaith da oedd yn digwydd ym mhob un o'r ysgolion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi’r adroddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3.1 yr adroddiad. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd y Cyhoedd Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD:
O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitemau busnes canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.
Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitem, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth. |
|
Ail-gaffael Gwasanaeth Dylunio ac Ymgynghori Peirianneg Cyd-fenter |
|
Adfywio Glannau Porthcawl: |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 20/06/2023 |