Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

209.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

210.

Perfformiad Ariannol 2017-18 pdf eicon PDF 543 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim adroddiad a diben yr adroddiad rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet ar berfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

Rhoddodd yr adroddiad beth gwybodaeth gefndir, gan gadarnhau bod y Cyngor ar 1 Mawrth 2017 wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £258.093m ar gyfer 2017-18, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn o £63.854m, oedd wedi ei diweddaru yn ystod y flwyddyn ariannol er mwyn ystyried cymeradwyaethau newydd a llithriant cynlluniau i 2018-19.

 

Gwnaeth adran nesaf yr adroddiad, amlinellu yn Nhabl 1 gymhariaeth o gyllideb yn erbyn alldro gwirioneddol ar 31 Mawrth 2018, gan gadarnhau bod yr alldro cyffredinol ar y dyddiad uchod yn danwariant o £387k sydd wedi ei drosglwyddo i Gronfa’r Cyngor.

 

Roedd Tabl 2 yn yr adran nesaf yr adroddiad, yn cynnwys Trosglwyddiadau ac addasiadau technegol a broseswyd yn ystod Chwarter 4, ac roedd paragraff 4.2 o’r adroddiad yn tynnu sylw at Ostyngiadau Cyllideb ar gyfer 2016-17 a 2017-18 a monitro parhaus y rhain gan y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn rhoi sylwadaeth ar sefyllfa ariannol prif feysydd gwasanaeth yr Awdurdod (gweler Atodiad 3 am ragor o fanylion), yn gystal â sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf arwyddocaol ym mhob un o wahanol feysydd Cyfarwyddiaethau’r Cyngor.

 

Yna rhoddodd paragraff 4.4 o’r adroddiad ddiweddariad i’r Cabinet ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2017-18, gan gynnwys cymeradwyaethau newydd sydd nail ai’n cael eu cyllido gan grant neu’n ymwneud â chynlluniau a ariannwyd gan refeniw ond sydd wedi eu hail ddosbarthu fel gwariant cyfalaf, yn unol â gofynion cyfrifo, er enghraifft offer TGCh (£151k) a mân waith. Dangosodd paragraff 4.4.3 fanylion am y prif gynlluniau lle roedd angen llithriant, a’r rhesymau dros y llithriant.

 

Roedd Atodiad 4.4.4 wedyn yn amlinellu manylion y cynlluniau unigol yn y Rhaglen Gyfalaf, gan ddangos y gyllideb oedd ar gael yn 2017-18 o gymharu â’r gwariant gwirioneddol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim mai cyfanswm y gwariant ar 31 Mawrth 2018 oedd £36.584 miliwn, a arweiniodd at danwariant bach o £39k ar adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), a fyddai’n cael ei ddychwelyd i’r gronfa derbyniadau cyfalaf.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad wedyn at Gronfeydd wrth gefn wedi eu Clustnodi’r Cyngor, gan gynnwys yr arian a dynnwyd i lawr o’r rhain yn ystod 2017-18. Roedd tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi symudiad manwl pellach ar y rhain ar gyfer y cyfnod uchod. Darparwyd manylion llawn am y sefyllfa’n ymwneud â Chronfeydd wrth gefn a Glustnodwyd yn Atodiad 5 i’r adroddiad.

 

Yn olaf, dangosodd Tabl 7 yn 4.5.3 o’r adroddiad y Dyraniadau Net i/o Gronfeydd wrth gefn wedi eu Clustnodi yn ystod Chwarter 4.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 12 o’r adroddiad a thynnu sylw at y ffaith bod  £1.183m o orwariant ym maes Plant sy'n Derbyn Gofal (LAC) yn ystod y 3 blynedd diwethaf, a gofynnodd hi a oedd y sefyllfa yma yn gwella.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod niferoedd y Plant sy'n Derbyn Gofal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 210.

211.

Cynnig i Gynnwys y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a Rennir (RIASS) mewn Gwasanaeth Mwy a Gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg i Gynnwys Dau Gyngor Ychwanegol pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 adroddiad, oedd yn nodi cynnig ar gyfer Gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor sydd eisoes yn rhan o'r Cydwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (RIASS) a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg, i ddod yn rhan o gydweithrediad mwy.

 

Tynnodd cefndir i’r adroddiad sylw at drefniant sydd wedi bodoli ers 2012, lle roedd gan CBSP a Cyngor Bro Morgannwg drefniant partneriaeth yn ei le o ran darparu Cydwasanaeth Archwilio Mewnol.

 

Cynghorodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 fod, fel roedd yr adroddiad yn awgrymu, cynnig bellach i ymestyn y bartneriaeth hon er mwyn cynnwys dau awdurdod lleol arall,  h.y. Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Byddai hyn yn cynorthwyo’r Gwasanaeth i allu darparu’r Cynllun Archwilio, drwy lenwi swyddi gwag a oedd ar hyn o bryd yn rhy anodd recriwtio ar eu cyfer.

 

Eglurodd y byddai ymestyn y cydweithio hwn hefyd yn gwella gwydnwch y gwasanaeth ymhellach drwy gael tîm mwy o staff, o gymharu â'r drefn bresennol o dimau llai ar wahân ar draws llai o awdurdodau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg fyddai’n parhau i fod yr awdurdod cyflogi unigol ar gyfer staff, ac y byddai staff priodol yn y ddau Awdurdod newydd fyddai’n ehangu’r Gwasanaeth yn agored i drefniadau TUPE ac yn cael eu trosglwyddo i’r Awdurdod cynnal. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn effeithio ar staff CBSP, ychwanegodd.

 

Cynghorodd yr Arweinydd bod hwn yn enghraifft ardderchog o awdurdodau lleol yn cymryd yr awenau er mwyn gweithio gyda’i gilydd drwy drefniant cydweithredol, o gymharu â chael ei arwain gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet yn:

 

(1)     Cymeradwyo’r cynnig i’r RIASS ehangu i gynnwys RhCT a Merthyr gyda Chyngor Bro Morgannwg yn parhau i weithredu fel yr awdurdod cynnal;

 

(2)   Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, i wneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod yn rhan o RIASS estynedig yn amodol ar Drefniant a Chytundeb Partneriaeth;

 

(3)  Nodi y byddai’r adroddiad hwn, yn amodol ar ei gymeradwyo, yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ac y byddai’r Pwyllgor yn derbyn o dasg o oruchwylio’r trefniadau gweithredu sydd eu hangen yn ystod 2018/19.

 

212.

Cyfraddau Annomestig: Rhyddhad Dewisol: Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd 2018-19 pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 adroddiad, yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19.

 

Cadarnhaodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai’r fenter hon ar gael ar gyfer 2018-19 i gynorthwyo busnesau yn y sector manwerthu yng Nghymru. Roedd y cynllun yn gosod allan y categorïau gwahanol o safleoedd fyddai’n cael budd o Ryddhad a chafodd y rhain eu nodi mewn manylder yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

Cadarnhaodd ymhellach y byddai’r Cyngor yn ariannu cost gychwynnol y Cynllun, ond yna byddai’n derbyn ad-daliad yn unol â hynny gan Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 y byddai angen, er mwyn gweithredu’r Cynllun, rhoi dirprwyaeth i’r Prif Weithredwr o dan Gynllun Dirprwyo’r Cyngor, ar hyd y llinellau a ddangosir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Wedi i’r cynllun gael ei fabwysiadu, byddai’r Cyngor yn gorfod cydymffurfio â rheolau Llywodraeth Cymru wrth ddefnyddio’r Cynllun, ychwanegodd.

 

 Roedd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn teimlo bod hon yn fenter dda, y gallai tua 391 o fanwerthwyr elwa ohoni, a gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn ysgrifennu at y manwerthwyr i’w hysbysu am y Cynllun, neu a fyddai’n rhaid iddyn nhw fynd at y Cyngor er mwyn elwa ohono.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 ei bod yn si?r y byddai’r Cyngor yn hysbysu busnesau lleol am y cynllun, yn hytrach na'u bod nhw yn mynd at y Cyngor eu hunain, er y byddai hi’n gwirio mai dyma oedd y broses.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, ychwanegodd fod y Cynllun hefyd yn rhoi gwybod i berchnogion busnes os ydynt yn cyfranogi yn y Cynllun, na ddylent dorri Rheolau Cymorth Gwladwriaethol.

 

Cynghorodd yr Arweinydd ei bod yn gobeithio bod modd mabwysiadu’r Cynllun cyn gynted â phosibl fel bod busnesau lleol yn gallu elwa ohono heb oedi.

 

Cynghorodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 y byddai hi’n sicrhau mai dyma fyddai’r achos, ond ychwanegodd na fyddai awdurdodau lleol yn gwybod a fyddai’r Cynllun yn digwydd yn fynych tan fis Ebrill 2019.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:

 

(1)       Mabwysiadu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig Stryd Fawr fel y gwelir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

(1)           Cymeradwyo’r diwygiad i’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau fel y nodir ym mharagraff 4.3 o’r adroddiad. 

 

213.

Polisi Rheoli Coed Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mai pwrpas yr adroddiad oedd tynnu sylw at werth poblogaeth Coed Trefol Sir Pen-y-bont ar Ogwr a gwneud gwaith rheoli coed sy’n flaenoriaeth a chymeradwyo Polisi Rheoli Coed hirdymor CBSP.

 

Eglurodd fod y gwaith yn digwydd yn erbyn cefndir o ystyried iechyd a diogelwch, yn ogystal ag arfer gorau mewn perthynas â chadwraeth a gwella amgylcheddol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod CBSP yn 2005 wedi llunio polisi corfforaethol i ddelio â chwynion a dderbynnir yng nghyd-destun coed ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, ac eithrio coed sy’n effeithio ar y briffordd. Ers hyn, mae protocol a rhestr wirio coed wedi eu paratoi a’u defnyddio fel asesiad coed cychwynnol.

 

Roedd paragraffau 3.8 a 3.9 o’r adroddiad wedyn yn tynnu sylw at wybodaeth ystadegol benodol yn ymwneud a choed a leolir yn y Fwrdeistref Sirol a sut yr oedd y rhain yn cynorthwyo'r amgylchedd.

 

Yna cadarnhaodd fod Gweithgor ar draws Cyfarwyddiaethau wedi ei sefydlu yn sgil hyn, er mwyn ystyried opsiynau ar gyfer dull yn y dyfodol tuag at reoli coed ar dir sy’n eiddo i CBSP. Y ffocws yma oedd adolygu dull presennol y Cyngor o ran rheoli coed a chreu Cynllun Polisi, Gweithdrefnau a Rheoli newydd gyda ffocws deuol ar elfennau iechyd a diogelwch a chadwraeth a gwella amgylcheddol.  Cafodd yr opsiynau hyn eu cynnwys ym mharagraff 4.2 o’r adroddiad.

 

Yna cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.7 o’r adroddiad, ble roedd yn cadarnhau bod Polisi Rheoli Coed newydd wedi ei ddatblygu, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod CBSP wedi derbyn nifer mawr o geisiadau gan y cyhoedd i wneud gwaith ar goed a ystyrir yn ddianghenraid. Ychwanegodd na fyddai gwaith a ystyrir felly yn digwydd yn y Polisi hwn.

 

Ychwanegodd ymhellach fod y Polisi Rheoli Coed yn nodi y byddai CBSP yn ceisio arwain drwy enghraifft ar safleoedd o fewn ei reolaeth, drwy blannu a lle y bo’n ymarferol bosibl, ceisio annog plannu coed a choetiroedd ar safleoedd nad ydynt yn eiddo i CBSP.

 

Yn achos goblygiadau ariannol yr adroddiad, cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod swm o £70k ar gael drwy gronfa wrth gefn a glustnodwyd i ymgymryd â rhannau (a), (b), (d) ac € a amlinellir ym mharagraff 4.2 o’r adroddiad. Gwariwyd £21,355 yn 2017/18 a £13,615 pellach yn 2018/19. Roedd yn hyn gadael £35,030 i weithredu ar y coed mwyaf peryglus (ar gael yn y gronfa wrth gefn a glustnodwyd).

 

Cymeradwywyd yr adroddiad gan Aelodau'r Cabinet.

    

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:

 

(1)  Nodi canfyddiadau’r adroddiad Gwerthuso Coed Trefol.

 

(2)  Nodi’r cynnydd a wnaed i sefydlu dull newydd tuag at reoli coed presennol CBSP a chymeradwyo’r dull o ran plannu coed.

 

(3)  Cymeradwyo Polisi Rheoli Coed newydd CBSP.

 

214.

Darparu Cyfleusterau Cyhoeddus pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar ddarparu cyfleusterau cyhoeddus ledled y Fwrdeistref Sirol fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad.

 

Eglurodd fod arbedion y cytunwyd arnynt wedi eu neilltuo fel rhan o gynigion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, mewn perthynas yn achos darparu toiledau a berchnogir ac a weithredir gan y Cyngor.

 

Ar gyfer gwybodaeth gefndirol, atgoffodd ef y Cabinet wedyn bod y Cyngor wedi cysylltu yn 2015 â’r cyhoedd yngl?n â’r ddarpariaeth o gyfleusterau cyhoeddus, ac yn dilyn hyn, lleihawyd nifer y toiledau yng nghanol trefi’r Cyngor Bwrdeistref Sirol o 9 i 6 a digomisiynwyd y troethfeydd i ddynion yn unig.

 

Dangosodd paragraff 4.1 o’r adroddiad ar ffurf tabl wedyn leoliad y toiledau cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol a’u hamserau agor, tra bod paragraff 4.2 yn cynghori am arolwg ymgynghori cyhoeddus a wnaed dros gyfnod o 8 wythnos rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2018, ac roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn amlinellu manylion am ganfyddiadau a chasgliadau hyn. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, tra bod adborth yn cael ei ystyried, roedd rhaid ystyried rhai gweithredoedd o ran cau cyfleusterau cyhoeddus er mwyn gwneud yr arbedion a amlinellir yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Roedd manylion llawn yr ymgynghoriad cyhoeddus a’i ganfyddiadau wedi eu cyplysu i Atodiad A i’r adroddiad, tra bod paragraff 4.21 yn cynnwys manylion am ddarpariaeth cyfleusterau cyhoeddus presennol sydd wedi'i chynllunio a threfniadau gweithredu ar gyfer toiledau a weithredir gan y Cyngor ym Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl gan gynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu'r rhain yn y dyfodol.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei gyflwyniad drwy gynghori aelodau ynghylch goblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Cynghorodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn gadarnhaol gweld rhai Cynghorau Tref/Cymuned yn ymrwymo i gefnogi rhai cyfleusterau cyhoeddus mewn ymdrech i’w cadw mewn gweithrediad, trwy CAT ac ati.

 

Gorffennodd yr Arweinydd y drafodaeth drwy ddiolch i Trosolwg a Chraffu am eu mewnbwn ac am yr argymhellion yr oeddent  wedi eu cyflwyno’n flaenorol yng nghyd-destun y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:

 

(1)       Cymeradwyo’r trywydd gweithredu arfaethedig a ddisgrifir yn yr adroddiad, yn benodol y gweithredoedd a gyflwynir yn adran 4.21 yr adroddiad.

 

(2)       Cymeradwyo rhoi arwyddion ar y toiledau yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig er mwyn iddynt gael eu defnyddio gan y cyhoedd (i’w ariannu gan gyllideb refeniw strydlun), fel yr argymhellwyd gan yr aelodau Craffu yn adran 4.22 yr adroddiad.

 

215.

Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr - Cynllun Gwella pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

The Corporate Director – Communities submitted a report, so as to recommend to Cabinet the approval and implementation of a Management Improvement Plan for Bridgend Market.

 

He confirmed that many traders had cited the high relative rents (as compared to both retail units in Bridgend town centre and those at other similar markets in Wales) and the resultant current high vacancy as their main reasons for leaving the market.

 

The report also advised that Watts and Morgan had advised that vacant plots in the market were available and not being filled, as the rents for these were being set too high. This factor was also having an effect on the amount of rent that BCBC were recouping, which was not as good as it could be, if rental levels for spaces there were reduced to a more reasonable level that would increase the interest of traders to take up these spaces. This would also then assist in increasing footfall in Bridgend town centre he added.

 

The next section of the report, then referred to marketing proposals for the Indoor Market together with some proposals regarding future terms of leasing.

 

With regard to the report’s financial implications, the Corporate Director – Communities advised that a permanent reduction in existing traders rents of 25% frozen until April 2020, will increase the rental shortfall at the market by £43,500 per annum. A rental reduction for new traders was proposed to attract them to the market. This reduction will result in less income on an individual stall basis, from current rates, but collectively this may not result in a dramatic overall fall in income if the number of stalls occupied and hence paying rent increases.

 

The Officer concluded by stating that the proposed changes will result in a budget shortfall that will be addressed corporately through earmarked reserves in 2018/19. However, a longer term solution will need to be developed once the earmarked reserve had been exhausted.

 

The Leader advised that the Rhiw Shopping Centre, Bridgend Town Council and Bridgend Improvement District had been working with Cabinet and local Members to support the reports proposals, as well as traders also having a major input, with a view to improving the current position. He further added that it was important for the public to be aware that BCBC actually leased rather than owned the Indoor market at a cost of £120k per annum.

 

RESOLVED:                   That Cabinet agreed to:

 

(1)  Introduce a permanent reduction in the Bridgend Market rent for current traders of 25%, effective as at 1st July 2018, with rents to be frozen until April 2020.

 

(2)  Reduce asking rents quoted by Watts & Morgan. The new proposed rents would be dependent on the size of the individual stall and would reflect Watts & Morgan’s advice.

 

(3) Allow new traders tenancies which offer more flexible terms of occupation. It is anticipated that these specific changes will increase the number of lettings and in turn, improve the vibrancy and occupancy of Bridgend market.

 

(4) Embark on a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 215.

216.

Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru, Prosiect Morlun Porthcawl (Darganfod Porthcawl) pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

The Corporate Director – Communities presented a report, to update Cabinet on an application for funding to the Visit Wales Regional Engagement Fund (RTEF) and to seek Cabinet approval to enter into agreements with delivery partners Credu Charity Ltd (formerly Harbourside Community Interest Company (CIC)) and Awen Cultural Trust to support the delivery of the Porthcawl Seascape Project.  

 

He confirmed that BCBC had a strong track record in delivering partnership projects through Visit Wales Regional Tourism Engagement Fund (RTEF), as well as understanding the value of tourism in the Bridgend County Borough not just within coastal areas but in other parts of the Borough also.

 

He advised that the Council had been successful with a bid, and had been awarded £78k towards a total project cost of £90k for the above. The project was also being funded by others as illustrated in paragraph 4.6 of the report, while paragraphs 4.4 and 4.5 outlined the type of activities and experiences the project would produce.

 

Finally, the Corporate Director – Communities advised that BCBC would be the lead organisation in the co-ordination and support of the Porthcawl Seascape Project, and that BCBC’s contribution of £12k had been secured within the Directorates budget for 2018/19.

 

RESOLVED:                 That Cabinet:

 

(1)   Noted the approval of funding through RTEF for the delivery of the Porthcawl Seascape Project.

 

(2)   Authorised the Corporate Director Communities in consultation with the Solicitor for the Council (and Monitoring Officer), to enter into agreements with Credu Charity Ltd and Awen Cultural Trust, for the delivery of their respective aspects of the project.

 

217.

Darpariaeth i Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol:- Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu i Ddisgyblion sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Pencoed - Adroddiad Gwrthwynebiadau pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

The Interim Corporate Director – Education and Family Support presented a report, that informed Cabinet of the outcome of the statutory objections process conducted by BCBC in respect of the proposal to establish an ASD LRC at Pencoed Primary School.

 

He confirmed to Members, that in order to progress a proposal to establish this as of 1 September 2018, consultation exercises were carried out between 9 February and 23 March 2018, with staff, governors, parents and pupils of Pencoed Primary School, as well as the wider community in accordance with the statutory School Organisation Code 2013.

 

The Interim Corporate Director – Education and Family Support confirmed that no objections were received during this public notice period.

 

 The Cabinet Member for Future Generations and Wellbeing was pleased to see that more children with ALN will be supported to continue in mainstream schools.

 

RESOLVED:                 That Cabinet:

 

(1)  Noted that no objections were received to the above during the public notice period, and as a consequence.

 

(2)  Approved the implementation of the proposal.

 

218.

Prosiect Cyfalaf Ysgol Gynradd Cwmfelin pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad ar y cyd i geisio cael cymeradwyaeth gan y Cabinet i argymhell i’r Cyngor ddiwygiad i’r Rhaglen Gyfalaf 2018 i 2028, i gynnwys cyllideb o £165k i adeiladu ystafell ddosbarth newydd yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.

 

Cynghorodd fod cymeradwyaeth y Cabinet wedi ei derbyn ar 3 Mawrth 2015 er mwyn i’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion diwygiedig fel fframwaith ar gyfer trefnu ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gosodwyd 5 prif egwyddor er mwyn hysbysu’r sefydliad a moderneiddio ysgolion, fel y nodwyd ym mharagraff 3.1 o’r adroddiad.

 

Eglurodd fod set o egwyddorion oedd yn berthnasol i ysgolion cynradd, er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon mawr i bwrpas, ac ar gyfer effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd o ran disgyblion yn dysgu, ac addysgu. Roedd y sefyllfa o ran meintiau annigonol y dosbarthiadau yn yr ysgol benodol hon yn rhoi pwysau ar addysgu a dysgu’r rhain, ac fe gadarnhaodd darpariaethau’r adroddiad sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim - Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai’r amcangyfrif o gost y prosiect, h.y. darparu gofod dosbarth newydd sbon ar gyfer 20 disgybl yw £165k, ac roedd cronfa wrth gefn a glustnodwyd o £150k ar gyfer hwn.

 

Ychwanegodd y byddai’r diwygio yn cael ei ddarparu ar y cyd gan y Gyfarwyddiaeth Cymorth Ysgol, Addysg a Theulu ar sail 1 50:50.

 

 Nododd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar argymhellion yr adroddiad, a gofynnodd a oedd y gofod ychwanegol arfaethedig oedd yn cael ei ddarparu gan yr Ysgol wedi ei seilio ar y niferoedd arfaethedig o ddisgyblion ar gyfer y dyfodol; a oedd hyn yn briodol, ac os felly am ba hyd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofod ychwanegol wedi ei ystyried ar sail y twf a amcangyfrifir ar gyfer y dyfodol yn yr ardal ynghyd ag ystyried hefyd ddemograffeg yr ardal lle mae’r ysgol wedi'i lleoli.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth i ddiwygio’r Rhaglen Gyfalaf er mwyn cynnwys cyllideb o £165k i ariannu’r gofod dosbarth newydd sbon yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, gan ddefnyddio adnoddau wrth gefn wedi eu clustnodi a chyllidebau'r ysgol a'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd.

219.

Ailddyrannu Cynllun Dirprwyo'r Cyngor o Swyddogaethau sy'n ymwneud â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, gan geisio cymeradwyaeth y Cabinet am drosglwyddo swyddogaethau Gweithredol yn y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau sydd wedi'u dyrannu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol ar hyn o bryd.

 

Cynghorodd yr adroddiad, er mwyn cynnal prosesau gwneud penderfyniadau effeithiol cynigiwyd bod yr holl Swyddogaethau Gweithredol yng Nghynlluniau B1 a B2 o'r Cynllun yn cael eu dyrannu o'r swydd uchod nad yw'n bodoli mwyach, i'r Swyddog Monitro, ac eithrio'r swyddogaethau hynny a amlinellwyd ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad yn ymwneud â Swyddogaethau Tai, a gaiff eu hailddyrannu i'r Prif Weithredwr.

 

Cynghorodd y Cyfreithiwr i'r Cyngor a'r Swyddog Monitor wrth y Cabinet y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yfory gan gynnig newidiadau tebyg i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau ar gyfer y Cyngor (yn hytrach na'r Cabinet) o fewn Cynlluniau B1 a B2.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet yn:

 

(1)  Cymeradwyo trosglwyddo swyddogaethau Gweithredol yng Nghynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor o'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol i'r Swyddog Monitro.

 

     (2)  Cymeradwyo trosglwyddo swyddogaethau'r Gweithredol a amlinellwyd ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad o'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol i'r Prif Weithredwr.

 

     (3)   Nodi y caiff adroddiad ei gyflwyno i'r Cyngor yn cynnig newid tebyg i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau ar gyfer penderfyniadau'r Cyngor.

220.

Rheolau Gweithdrefnau Contractau (CPR) diwygiedig pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet:

 

  • I'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau diwygiedig ddod i rym o 1 Awst;
  • I'r Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â Swyddogaethau Gweithredol gael ei ddiwygio yn unol â pharagraff 4.8 o'r adroddiad; a
  • Nodi y caiff adroddiad ei gymryd i'r Cyngor i ddiwygio'r Cyfansoddiad i ymgorffori'r diwygiadau i'r CPR

 

Gwnaeth y Cyfreithiwr i'r Cyngor a'r Swyddog Monitro gadarnhau drwy wybodaeth gefndir, fod y Cyngor yn y broses o adolygiad corfforaethol ac fel rhan o hyn, roedd y CPR wedi'u hadolygu a'u diweddaru.

 

Aeth ymlaen drwy gynghori bod nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r CPR presennol er mwyn sicrhau bod cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ac i foderneiddio'r ffordd mae'r Cyngor yn caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Cafodd copi o'r CPR ei atodi i'r adroddiad yn Atodiad 5.

 

Cafodd y newidiadau i'r rhai eu cynnwys ym mharagraffau 4.2 i 4.21 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:

 

(1)   Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau diwygiedig a atodir yn Atodiad 5 i ddod i rym o 1 Awst 2018.

(2)  Cymeradwyo bod y Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â Swyddogaethau Gweithredol yn cael ei ddiwygio yn unol â pharagraff 4.8 o'r adroddiad.

Nodi y caiff adroddiad ei gymryd i'r Cyngor i ddiwygio'r Cyfansoddiad i ymgorffori'r diwygiadau i'r CPR.

221.

Blaenraglen Waith y Cabinet pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad, a diben yr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer eitemau i'w cynnwys ar y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf tan 31 Hydref 2018.

 

Yn unol â darpariaeth o Gyfansoddiad y Cyngor bydd y Flaenraglen Waith yn cwmpasu cyfnod o bedwar mis, ac yn cynnwys materion y mae'r Pwyllgorau Cabinet, Trosolwg a Chraffu a'r Cyngor yn debygol o'u hystyried, ar ffurf cynlluniau, polisïau a strategaethau sy'n ffurfio rhan o Fframwaith Polisi'r Awdurdod.

 

Caiff y Flaenraglen Waith ei hystyried yn chwarterol gan y Cabinet a'i chyhoeddi ar y dyddiadau a ddangosir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Cafodd y Flaenraglen Waith ar gyfer y Cabinet ar gyfer y cyfnod a nodwyd uchod ei hatodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a gwnaeth Atodiadau 2 a 3 amlinellu Blaenraglen Waith y Cynfor ar gyfer yr un cyfnod a'r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu, yn y drefn honno.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:

 

(1)       Cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf tan 31 Hydref 2018, fel y dangosir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

(2)        Nodi Blaenraglen Waith y Cyngor a Chraffu fel y dangosir yn Atodiad 2 a 3 i'r adroddiad, yn y drefn honno. 

222.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Chydbwyllgorau pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol a'r Swyddog Monitro adroddiad, a geisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi Aelodau i'r Cydbwyllgorau a Chyrff Allanol.

 

Roedd rhestr o'r rhain wedi'i hatodi i'r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr i'r Cyngor a'r Swyddog Monitro, y cynigiwyd bod penodiadau Aelodau am dymor o un flwyddyn, ac eithrio lle mae dirymu penodiad cynharach o benodiad yn briodol.

 

Nododd yr Arweinydd mae'r enwebiad a gynigir ar gyfer Ymddiriedolaeth Neuadd y Dref oedd y Cynghorydd Charles Smith nid y Cynghorydd Stephen Smith fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn penodi'r nifer gofynnol o Aelodau i'r Cydbwyllgorau a Chyrff Allanol eraill fel y rhestrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

223.

Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad, a diben yr adroddiad oedd hysbysu'r Cabinet am yr Adroddiadau Gwybod i'w nodi sydd wedi'u cyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf.

 

Rhoddwyd manylion am yr Adroddiadau Gwybodaeth ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:   Cydnabu'r Cabinet gyhoeddi'r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad cwmpasu.

224.

Caffael Gwasanaethau Rheoli Gwastraff a Ddarperir yn y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) yn Nhwyni Crymlyn, Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a Phennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r mater uchod.

 

Cynghorodd fod gan y Cyngor sefyllfa gytundebol bresennol a hirsefydlog gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot (“CNPT”) o ran y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (“MREC”) a leolir ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a chanddi dros 10 mlynedd ar ôl i redeg. Caiff rhai swyddogaethau gwaredu gwastraff eu cyflawni gan CNPT ar ran Pen-y-bont ar Ogwr, fel y nodir mewn cytundeb rhwng awdurdod  (“y Penodiad Gwreiddiol”) a drefnwyd gan y ddau awdurdod ar adeg y Fenter Cyllid Preifat rheoli gwastraff wreiddiol yn 2000, ac fel y cafodd ei amrywio gan gytundeb dyddiedig 8 Medi 2010 (“y Cytundeb Amrywio”). 

 

Mae'r ffi waredu bresennol a godir gan y cyfleuster MREC yn sylweddol uwch na chyfraddau marchnad a dderbynnir. Felly, mae Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot fel rhan o'u cynlluniau ariannol tymor canolig wedi nodi arbedion yn erbyn y gost weithredol a atodir wrth y cyfleuster MREC. I gyflawni'r arbedion hyn mae'r ddau barti wedi cytuno i derfynu'r trefniadau presennol rhwng yr Awdurdod contractio (CNPT) a'r MREC, a rhoi contract wedi'i brofi gan y farchnad yn ei le, unwaith eto gyda CNPT fel yr Awdurdod contractio ac i ddisodli unrhyw benodiad/contract rhwng CBSP a CNPT i adlewyrchu'r trefniadau newydd hyn.

 

Wedi hynny gwahoddwyd cynigion yn seiliedig ar y dogfennau tendro gwreiddiol, a mynegodd dau gwmni ddiddordeb, ac wedyn cyflwyno cynigon. Fodd bynnag, wedyn gwnaeth un o'r cwmnïau hyn dynnu ei gynnig yn ôl.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau mai'r cynigydd sy'n weddill yw Walters Plant Hire Limited (“Walters”). Gwnaethant gadarnhau ar ddiwedd 2017 eu bod yn dymuno parhau i gael eu hystyried ar gyfer y dyfarniad contract yn unol â'u cynnig tendro.

 

Yna amlinellodd Paragraff 4.1 o'r adroddiad nifer o bwyntiau a chrynhoi'r cynigion wrth gymharu â threfniadau presennol, gan gynnwys manylion am y broses gaffael sydd wedi'i dilyn yn ogystal â threfniadau'r Cytundeb Amrywio rhwng CBSP a Chastell-nedd Port Talbot.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, fel gyda phob proses gaffael, fod bob amser risg o her.  Fodd bynnag, mae CNPT a Phen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu lliniaru risg o'r fath drwy gyhoeddi Hysbysiad VEAT i ddileu'r risg o'r contract yn cael ei roi i'r neilltu ar ôl ymrwymo iddo ac unrhyw risg gysylltiedig o ddirwyon (ond nid y risg o hawl am iawndal os bydd her ddilynol).

 

Yn ogystal, ceir amrywiaeth o faterion eraill y bydd angen i CNPT ymdrin â hwy fel perchnogion y safle MREC.

 

Ar yr un pryd ag ymrwymo i'r cytundeb gwasanaethau gwastraff, cynigir bod CNPT a Walters yn ymrwymo i brydles ar gyfer safle MREC, ar hyd y llinellau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Parhaodd ei gyflwyniad drwy gynghori bod trefniadau gyda NPTRL ar gyfer darparu gwasanaethau gwastraff yn dod i ben ar ôl dechrau'r gwasanaethau i'w darparu gan Walters. Ar y pwynt hwnnw bydd yn ofynnol i Gyfarwyddwyr NPTRL ddirwyn y cwmni i ben.

 

Roedd copi o'r Asesiad Deddf Llesiant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 224.

225.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

226.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     O dan Adran 100a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Awdurdod Lleol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol am ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi'i heithrio fel y diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

                                     Yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ei fod yn cael ei ystyried yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod oherwydd byddai'n cynnwys datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio o'r natur fel y nodwyd uchod.

 

227.

Caffael Gwasanaethau Rheoli Gwastraff a Ddarperir yn y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) yn Nhwyni Crymlyn, Castell-nedd Port Talbot

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z