Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 19eg Rhagfyr, 2017 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

122.

Datganiadau o Fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim.

123.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 106 KB

To receive for approval the Minutes of the meeting of Cabinet of 28 November 2017

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 28 Tachwedd 2017 fel cofnod gwir a chywir. 

124.

Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol - Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 pdf eicon PDF 67 KB

To present Cabinet with the recommendations of the Subject Overview and Scrutiny Committee 1 on the subject of ALN Reform; and to ask Cabinet to forward a small number of recommendations from the Committee to Welsh Government for consideration as part of the implementation of the Bill and ALN Reform.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd M Jones argymhellion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 ar ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a gofynnodd iddynt gael eu hystyried mewn egwyddor hyd nes ceir  canlyniad y Bil.  Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd gyflwyno nifer o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru i'w hystyried fel rhan o weithredu Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru) a diwygio ADY. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gofnodi ei ddiolch i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 am y gwaith a wnaethpwyd wrth gynhyrchu argymhellion ar ddiwygio ADY. Dywedodd y byddai'r Cabinet yn ystyried yr argymhellion maes o law pan fyddai hefyd yn derbyn adroddiad ar ddiwygio ADY gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn:

 

(1)          Ystyried yr argymhellion ym mharagraff 4.2 yr adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 mewn egwyddor hyd nes ceir canlyniad y Bil mewn perthynas ag ymateb yr Awdurdod i'r Bil ADY a Diwygio ADY;

 

Cytuno i gyflwyno'r argymhellion ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 i Lywodraeth Cymru, i'w hystyried fel rhan o weithredu'r Bil Tribiwnlys ADY ac Addysg (Cymru) a Diwygio ADY.       

125.

Canlyniad yr Ymgynghoriad 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' pdf eicon PDF 97 KB

To inform Cabinet of the outcome of the ‘Shaping Bridgend’s Future’ 2017 consultation which asked citizens to share their views on a number of key budget proposals being considered over the Medium Term Financial Strategy period and provide an overview of the budget consultation activities, analysis and key findings.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet am ganlyniad ymgynghoriad 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' 2017 a oedd yn gofyn i ddinasyddion rannu eu barn ynghylch nifer o gynigion cyllidebol allweddol sy'n cael eu hystyried dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS ).

 

Eglurodd y gofynnwyd i'r ymatebwyr rannu eu barn ynghylch ystod o gynigion cyllidebol, a oedd yn cael eu hystyried rhwng 2018-19 a 2021-22, gan gynnwys: cynnydd arfaethedig i'r dreth gyngor; pa wasanaethau i’w diogelu a /neu eu torri yn hytrach na rhai eraill; buddsoddiadau a gwasanaethau masnachol, gwasanaethau rheoleiddio; gweinyddu swyddfeydd cefn; gwasanaethau hamdden a diwylliannol; gwasanaethau cymdeithasol ac addysg feithrin.  Nododd fod trosolwg o’r ymgynghoriad ar y gyllideb, dogfennau ac arolygon wedi bod ar gael ar-lein drwy wefan y Cyngor rhwng 12 Hydref a 3 Rhagfyr 2017.  Roedd yr ymgynghoriad wedi ei anelu at gyrraedd rhanddeiliaid allweddol oedd yn cynnwys dinasyddion, ysgolion, Aelodau'r Cabinet/Cynghorwyr, busnesau lleol, y trydydd sector, staff y cyngor, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau partner, grwpiau cymunedol a chydraddoldeb, gwasanaethau ieuenctid/cyfryngau'r cyngor a lleol.  Roedd yr ymgynghoriad yn cael ei gefnogi gan gynllun cyfathrebu a hyrwyddo llawn.  Yn ogystal, roedd dulliau ymgysylltu yn cynnwys arolwg, a oedd ar gael ar-lein ac ar ffurf copi caled; digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, gweithdai aelodau etholedig; cyfarfodydd eraill / digwyddiadau rhwydweithio; dadleuon a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac arolwg Panel Dinasyddion penodol.       

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 wrth y Cabinet y derbyniwyd 2619 o ymatebion ac roedd yr ymatebion a gafwyd yn cynrychioli cynnydd o 3.4% ar y llynedd.  Dywedodd mai o'r pum dewis, yr ymateb mwyaf poblogaidd oedd nad oedd pobl yn barod i gynyddu treth y cyngor er mwyn helpu i ddiogelu lefelau gwasanaeth cyfredol, gyda 25% o ymatebwyr yn cytuno'n gyffredinol.  Dywedodd hefyd fod 17% o ymatebwyr yn barod i gynyddu treth y cyngor 5% ac yn ddemograffig, roedd mwy o ymatebwyr dros 65 yn barod i gynyddu’r dreth gyngor o 5% a bod y rhai dan 65 oed yn barod i'w chynyddu o 1% yn unig.  Dywedodd wrth y Cabinet fod 21% o ymatebwyr  yn dewis diogelu gofal pobl h?n a gwasanaethau i bobl anabl trwy gynyddu'r dreth gyngor gan wybod y byddai'n rhaid i'r cyngor gwtogi ar wasanaethau eraill yn fwy difrifol i gyflawni hyn.  Dilynwyd hyn yn agos gan 19% o'r ymatebwyr a oedd am ddiogelu ysgolion, gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau cymdeithasol i blant.  Yn seiliedig ar yr ymatebion o'r arolwg,  er mwyn lleihau'r cynnydd i'r dreth gyngor a chadw gwasanaethau eraill, gwasanaethau diwylliannol yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau celf a theatrau a gwasanaethau chwaraeon a hamdden oedd y ddau brif wasanaeth y mae'r cyhoedd yn fodlon eu cwtogi o 39% a 31% yn y drefn honno.  Dywedodd fod 30% o'r cyfranogwyr hefyd yn dweud nad oeddent am dorri unrhyw wasanaethau.  Tynnodd sylw hefyd at y canfyddiadau allweddol eraill sy'n codi o'r ymgynghoriad.     

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r staff a fu’n gweithio ar yr ymgynghoriad a chydnabu'r cyfraniad a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 125.

126.

Estyn Contract y System Gwybodaeth Ariannol pdf eicon PDF 70 KB

To inform Cabinet of the intention to go out to tender for the provision of a financial information system with a contract start date of 1 April 2018; subject to this, and if the award is to a new supplier, authorise the Corporate Director – Operational and Partnership Services to enter into a fixed term contract of 12 months with the current provider, Advanced Business Software and Solutions Limited, to allow for the mobilisation and build of a new financial information system.

 

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol fod y system wybodaeth ariannol bresennol, E5, yn darparu cyfres o fodiwlau cydrannau integredig llawn sy'n cynnwys cyfriflyfr cyffredinol, cyfrifon sy'n daladwy, cyfrifon a dderbynnir a gwybodaeth am reoli prynu i dros 500 o ddefnyddwyr ar draws y Cyngor.  Dywedodd mai'r cyflenwr presennol, Advanced Business Software and Solutions Limited (ABS) yw unig berchennog a datblygwr system wybodaeth ariannol E5. 

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol hefyd fod y Cabinet ym mis Mai 2015 wedi cymeradwyo'r defnydd parhaus o system wybodaeth ariannol E5 ond yn fewnol ar ôl i'r trefniant a oedd yn cael ei gynnal ddod i ben ar 31 Mawrth 2016.  Hefyd, cymeradwyodd ymestyn y drwydded a chymorth cynnal a chadw gydag ABS hyd at 31 Mawrth 2018.  Dywedodd fod y symudiad o drefniant oedd yn cael ei gynnal i drefniant mewnol yn cyfrannu at arbedion o £200,000 o fewn y gyllideb feddalwedd o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol ar gynnig i anfon gwahoddiad i dendro am ddarparu gwasanaethau gwybodaeth ariannol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i gynnwys, cyfriflyfr cyffredinol, cyfrifon sy'n daladwy, cyfrifon a dderbynnir a rheoli prynu.  Bydd y broses yn defnyddio cystadleuaeth fach gan ddefnyddio Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron sydd â phedwar ar ddeg o gyflenwyr cofrestredig, gan gynnwys y cyflenwr presennol, ABS.  Dywedodd y bydd y ffurflenni'n cael eu gwerthuso gan ddefnyddio rhaniad o 60/40 rhwng pris ac ansawdd.  Cynigiwyd y bydd y Cyngor yn ymrwymo i gontract gyda'r cyflenwr llwyddiannus am dair blynedd gydag opsiwn o estyniad blwyddyn + blwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2018.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth gymeradwyo'r cynnig y byddai arbedion yn cael eu gwneud trwy ddod â'r system yn fewnol.  Dywedodd yr Arweinydd fod dod â'r system yn fewnol wedi cynhyrchu arbedion o £200,000 y flwyddyn. 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn:

 

(1)          Nodi’r bwriad i ail-dendro ar gyfer y System Gwybodaeth Ariannol;

 

Awdurdodi Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i ymrwymo i estyniad i'r contract am gyfnod o 12 mis gyda darparwr presennol y System Gwybodaeth Ariannol, os oes angen, i ganiatáu ar gyfer symud a chreu system newydd o'r fath, pan fydd y Contract cyfredol yn dod i ben ym mis Mawrth 2018.    

127.

Cynllun Adfywio Porthcawl pdf eicon PDF 102 KB

To update Members on the Porthcawl Regeneration Scheme; advise that a proposal has been received from the Evans’ families, to sell to the Council their leasehold interest in Phase 1 – land at Salt Lake Car Park; present the terms of this proposal, and set out the consequential impact on the remainder of the Porthcawl Regeneration Scheme.  To advise members of the ‘due diligence’ that has been undertaken to date, and the further measures which will be put in place to protect the public interest; recommend that the offer be accepted; and seek agreement from Cabinet to present a report to Council for approval for a revised capital programme for 2017-18 to 2026-27.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Adfywio Porthcawl a dywedodd fod cynnig wedi’i dderbyn gan y teuluoedd Evans, i werthu eu budd prydlesol yng Ngham 1 - tir ym Maes Parcio Salt Lake - i'r Cyngor.  Dywedodd wrth y Cabinet am delerau'r cynnig hwn, a  nododd yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar weddill Cynllun Adfywio Porthcawl.  Dywedodd wrth y Cabinet hefyd am y 'diwydrwydd dyladwy' a gyflawnwyd hyd yma, a'r mesurau pellach i'w rhoi ar waith i amddiffyn budd y cyhoedd. 

 

Dywedodd fod perchnogion tir datblygu ym Mhorthcawl yn 2006 wedi cytuno i weithio ar y cyd, trwy ddwyn ynghyd y buddiannau rhydd-ddaliadol a phrydlesol a oedd yn troshaenu daliadau sylweddol o dir yn y dref.  Y nod oedd dwyn ymlaen y tir ar werth, darparu derbynebau gwerthu i'r perchnogion i'w rhannu ar sail gytunedig yn amodol ar sicrhau’r prisiau isaf; a chyflwyno cyd-destun cynllunio clir i waredu safleoedd ar gyfer datblygiad gan drydydd parti.  Yn dilyn mabwysiadu Canllaw Cynllunio Atodol Adfywio Porthcawl yn 2007, neilltuwyd tir ar gyfer cartrefi newydd o fewn yr ardal gyffredinol, ynghyd â darpariaeth gymunedol yn cynnwys datblygiadau manwerthu a hamdden mawr, systemau ffyrdd newydd, tir a neilltuwyd ar gyfer darpariaeth iechyd, ac amwynderau cyhoeddus, gan gynnwys amddiffynfeydd môr newydd ar hyd Promenâd y Dwyrain a ffryntiad Sandy Bay.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Cytundeb Perchnogion wedi'i lofnodi yn 2011 rhwng y Cyngor a'r Teuluoedd Evans, a'r egwyddor sylfaenol oedd yn sail i hynny oedd gwaredu tir a byddai'r holl elw net yn cael ei rannu mewn cyfran 60:40 o blaid y Cyngor (yn amodol ar gael y prisiau isafswm).  Cam 1, yn cynnwys deunyddiau manwerthu, cymunedol, hamdden a thai, fyddai’r cam cyntaf ar gyfer gwaredu tir.  Byddai Cam Dau y safle (preswyl yn bennaf) yn dilyn yn nes ymlaen.         

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd am hanes gwaredu'r tir.  Yn 2014, yn dilyn methu â gwerthu’r safle i Morrisons (a chynigion i werthu'r safle yn 2010 i Tesco / Chelverton), gwnaed amryw o gynigion i gaffael buddiant y Cyngor.  Gwrthodwyd y rhain gan nad oedd unrhyw amlygiad i'r farchnad (o ran sicrhau'r ystyriaeth orau) ac oherwydd nad oedd natur y cynnig naill ai’n bodloni'r gofyniad o ran yr isafswm pris nac o ran amcanion adfywio'r Cyngor.  Yn 2015, cytunodd y partïon i adolygu'r cynigion datblygu oherwydd bod yr adwerthwyr bwyd mawr yn cilio o'r farchnad, a chomisiynwyd Prif Gynllun newydd i gefnogi'r Canllawiau Cynllunio Atodol presennol.  Fodd bynnag, ni allai'r perchnogion gytuno ar ffurf derfynol y cynigion datblygu cyffredinol.  Yn ystod haf 2016 aeth y trafodaethau ynghylch y Prif Gynllun i drafferthion, a chynigiodd y teuluoedd Evans wedyn fod y Cyngor yn ystyried prynu eu buddiant prydlesol o fewn Cam 1.

 

Dywedodd o fewn telerau'r Cytundeb Perchnogion  fod y Cyngor wedi cytuno i ariannu "gwariant angenrheidiol" megis costau cynllunio, er mwyn galluogi'r cynllun datblygu i fwrw ymlaen, ar y sail y byddai'n cael ei ad-dalu o'r derbyniadau cyfalaf a fyddai’n cael eu cynhyrchu o werthiannau tir.  Dywedodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 127.

128.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Canlyniad Rhybudd Cyhoeddus ar y Cynnig i Wneud Newidiad Rheoledig i Ysgol Gynradd Coychurch ar ffurf Ehangiad pdf eicon PDF 66 KB

To inform Cabinet of the outcome of the Public Notice on the proposal to make a regulated alteration to Coychurch Primary School, by permanently enlarging the school with effect from 1 January 2018; and to request that Cabinet issue a Determination as per the proposal.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chefnogaeth Deuluol ar ganlyniad y Rhybudd  Cyhoeddus ynghylch y cynnig i wneud newid rheoledig i Ysgol Gynradd Coychurch trwy ehangu'r ysgol yn barhaol o 1 Ionawr 2018, a gofynnodd i'r Cabinet gyflwyno Penderfyniad yn unol â'r cynnig. 

 

Adroddodd fod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf 2017 wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid rheoledig ar ffurf ehangiad a chynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 6 Medi ac 17 Hydref 2017 yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol.   Cyhoeddwyd rhybudd cyhoeddus ar 6 Tachwedd 2017 yn para 28 diwrnod, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod hwn.  

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet yn:

 

(1)    Ystyried canlyniad y Rhybudd Cyhoeddus fel y manylir yn yr adroddiad;

 

Cymeradwyo gweithredu'r cynnig i wneud newid rheoledig i Ysgol Gynradd Coychurch ar ffurf ehangiad a ddaw i rym o 1 Ionawr 2018.   

129.

Polisi Anghenion Gofal Iechyd pdf eicon PDF 57 KB

To seek Cabinet approval of the Healthcare Needs Policy.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd am gymeradwyaeth i'r Polisi Anghenion Gofal Iechyd. 

 

Adroddodd o ganlyniad i Ganllawiau gan Lywodraeth Cymru, ei bod yn ofynnol i bob ysgol feithrin, gynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu Polisi Anghenion Gofal Iechyd. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd a fydd cyrff llywodraethu ysgolion yn cael eu hysbysu fel y gallant weithredu'r polisi.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth Teuluol y byddai penaethiaid yn cael gwybod am weithredu'r polisi mewn cyfarfodydd traws-gyfnod a byddai angen i lywodraethwyr gefnogi'r polisi. 

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi Anghenion Gofal Iechyd yn Atodiad A i'r adroddiad.

130.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 63 KB

To inform Cabinet of the progress made on the Bridgend ‘Welsh in Education Strategic Plan’ (WESP) and to seek approval of the publication of the document in line with Welsh Government requirements.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chefnogaeth Deuluol am y cynnydd a wnaed ynghylch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) a gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd fod Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 wedi dod yn gyfraith ar 4 Mawrth 2014 ac yn gosod gofyniad statudol ar

awdurdodau lleol i baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP).  Dywedodd fod y WESP cyntaf wedi cael cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Mawrth 2014 ac ers hynny mae wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n flynyddol cyn cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer WESP, 2017-2020.  Mae hyn yn darparu cyswllt clir â gwaith y WESP i Safonau’r Gymraeg ac yn sbarduno awdurdodau lleol tuag at nod datganedig Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Roedd y WESP bellach yn ddogfen fwy cryno gyda nodau ac amcanion clir iawn i gwrdd â'r saith canlyniad. 

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim  dros Addysg a Chymorth Teuluol y Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cymeradwyo pob cynllun erbyn diwedd Ionawr 2018. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wrth gymeradwyo'r WESP am y targed uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.      

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r WESP newydd, ac awdurdododd gyhoeddi’r WESP diwygiedig ar wefan BCBC o 1 Mehefin 2018.

131.

Mr Randal Hemingway

Cofnodion:

The Leader announced that this would be the last meeting of Cabinet to be attended by Mr Randal Hemingway, Head of Finance and Section 151 Officer prior to him leaving the authority to take up a new position.  He thanked Mr Hemingway on behalf of Cabinet for the advice and support he had given to the Cabinet and he left the authority with robust management processes in place.  He wished him every success in his new position with Carmarthenshire County Council.

 

All members of Cabinet also thanked Mr Hemingway for his guidance and for the quality of advice he had given and for enabling projects such as the Porthcawl Regeneration Scheme come to fruition.      

 

Mr Hemingway suitably responded and thanked the Cabinet for their support in his role.      

132.

Eitemau Brys

To consider any items of business that by reason of special circumstances the chairperson is of the opinion should be considered at the meeting as a matter of urgency in accordance with paragraph 2.4 (e) of the Cabinet Procedure Rules within the Constitution.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.