Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 30ain Ionawr, 2018 14:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

133.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd D Patel fuddiant personol yn eitem 10 ar yr agenda, Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol, gan iddi wneud cais i fod yn llywodraethwr awdurdod lleol yng Ngholeg Cymunedol Y Dderwen ac eitem 13 ar yr agenda, Canlyniadau Arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Ogmore Vale gan ei bod yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Ogmore Vale.

134.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 78 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/12/17

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cabinet 19eg Rhagfyr 2017 fel cofnod gwir a chywir.                       

135.

Monitro Cyllideb 2017-18 - Rhagolwg Chwarter 3 pdf eicon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd yr Arweinydd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 Dros Dro i'w chyfarfod cyntaf o'r Cabinet. Yna, rhoddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ddiweddariad i'r Cabinet ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 ainRhagfyr 2017. 

 

Roedd yr adroddiad monitro cyllideb yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa ariannol bresennol a'r alldro rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2017.

 

Ar 1af Mawrth 2017, cymeradwyodd y Cyngor gyllideb refeniw net o £258.093 miliwn ar gyfer 2017-18, ynghyd â rhaglen gyfalaf am y flwyddyn o £63.854 miliwn, a gafodd ei diweddaru ers hynny i £49.893 miliwn gan gymryd cynlluniau newydd a gymeradwywyd a chynlluniau yn llithro i 2018-19 i ystyriaeth.

 

Y sefyllfa a ragwelid yn gyffredinol ar 31ain  Rhagfyr 2017 oedd tanwariant net o £1.245 miliwn, yn cynnwys £947,000 o orwariant net ar gyfarwyddiaethau a £5.336 miliwn o danwariant net ar gyllidebau ar draws y Cyngor. Roedd hon yn sefyllfa resymol i fod ynddi heb unrhyw drosglwyddiadau sylweddol rhwng cyllidebau ers y rhai a adroddwyd i'r Cabinet ar ddiwedd chwarter 2 ym mis Hydref 2017.

 

Eglurodd fod y pwysau ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â chynnydd ym mhrisiau ynni ar gyfer nwy a thrydan yn dal i fod yn anhysbys a byddai unrhyw addasiadau'n cael eu prosesu wrth i ffigyrau ddod yn fwy sicr.

 

Lle'r oedd cynigion ar gyfer lleihau cyllideb y flwyddyn gyfredol wedi cael eu hoedi neu lle na ellid eu cyflawni, roedd cyfarwyddiaethau'n gweithio'n ddiwyd i nodi camau lliniaru i gwrdd â balans y diffygion yn y flwyddyn ariannol hon.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro y wybodaeth ddiweddaraf am raglen gyfalaf y Cyngor a’r symud o fewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn ystod chwarter 3.

 

Croesawodd yr Arweinydd y tanwariant cyffredinol rhagamcanol. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am y pwysau y tu ôl i'r gorwariant ar wasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a'r cynigion a ddygwyd ymlaen i reoli costau.

 

Eglurodd yr Arweinydd Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad ariannol llawn ac yn llunio cynllun ariannol i nodi cyfleoedd amgen i leihau costau. Yn y gwasanaeth Gofal Preswyl i rai ag Anabledd Dysgu, cafwyd gorwariant rhagamcanol o £127,000 o ganlyniad i gynnydd yng nghymhlethdod anghenion ynghyd â'r galw am wasanaethau seibiant preswyl. Roeddent yn ceisio osgoi lleoliadau drud y tu allan i'r sir ond roedd rhan sylweddol o'r gorwariant yn digwydd o ganlyniad i gymhlethdod y bobl yr oeddent yn eu cefnogi.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y pwysau ar y gyfarwyddiaeth yn cael eu nodi’n fanwl yn yr adroddiad. Roedd mwy o bobl ag anghenion cymhleth ac anableddau dysgu ac roedd niferoedd yn cynyddu. Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld adolygiad o'r gyllideb yn ychwanegol at y cynllun ariannol.  

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r swyddog cyllid am gadw’r cyllid ar y trywydd iawn a gofynnodd am ragor o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 135.

136.

Ail-ddatblygu Neuadd y Dref Maesteg pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Neuadd y Dref Maesteg oedd yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn cynnig adolygiad i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2016-27. Yn dilyn trosglwyddo rheolaeth Neuadd y Dref i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn 2015, comisiynwyd gwaith i ystyried ymarferoldeb adfer ac adnewyddu'r adeilad a chreu canolfan diwylliant a chelfyddydol aml-bwrpas.  Roedd y cynnig wedi ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyllid Adeiladau ar gyfer y Dyfodol ac roedd angen achos busnes llawn ar gyfer y prosiect yn awr.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Mace Group wedi cael ei gomisiynu ym mis Awst 2017 i ddatblygu'r cysyniad dylunio, cyflawni gwaith ychwanegol i ystyried ymarferoldeb a darparu amcangyfrifon cost mwy cywir ar gyfer y prosiect. Trefnwyd i gwblhau’r gwaith manwl i ystyried ymarferoldeb erbyn mis Mawrth. Rhagwelir mai cost y cynllun yn seiliedig ar yr uchelgais gwreiddiol fyddai £5-6 miliwn, cynnydd o’r amcangyfrif cychwynnol o £4-5 miliwn a wnaed cyn i'r gwaith manwl i ystyried ymarferoldeb gael ei wneud. Roedd adnewyddu hen adeiladau hanesyddol fe eglurodd bob amser yn gymhleth a hyd nes bod y gwaith i ystyried ymarferoldeb yn gyflawn a bod yr holl faterion perthnasol wedi’u nodi roedd yn anodd rhagfynegi amcangyfrif cyfalaf yn gywir.  Aeth ymlaen i egluro hyd nes y derbynnir y tendrau terfynol y byddai amcangyfrif y gost yn parhau i fod yn ddangosol gydag adroddiad pellach i'w gyflwyno i'r Cabinet pan fyddai’r gwaith a chynllun y costau wedi'u cwblhau.

 

Roedd y Cabinet eisoes wedi neilltuo £800,000 o'r arian y disgwylid ei dderbyn o werthu tir yn Heol Ewenny ar gyfer adfywio yng Nghwm Llynfi a thybid bob amser y byddai'r swm hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ailddatblygu Neuadd Dref Maesteg. Ond nid oedd y tir wedi ei werthu eto ac felly roedd hyn yn golygu bod yna broblem o ran amseru gan fod angen cadarnhau'r dyraniad ychwanegol o £800,000 i'r cynllun at ddibenion ceisiadau am gyllid allanol yn awr.  Roedd hyn oherwydd bod y Cyngor wedi cael gwybod bod gwell siawns i'r rhai hynny fod yn llwyddiannus pe bai swm llawn arian cyfatebol y Cyngor yn cael ei gadarnhau cyn i'r ceisiadau hynny gael eu hystyried yn ffurfiol. Ond roedd hyn yn golygu bod angen i'r Cyngor nodi'r £800,000 yn ei raglen gyfalaf yn awr a fyddai'n cael ei offsetio unwaith y byddai’r gwaith o werthu Heol Ewenny wedi'i gwblhau. Roedd hyn yn golygu rhywfaint o risg i'r Cyngor gan fod perygl na fyddai'n gwerthu ac os byddai'n gwerthu gallai werthu am lai na £800,000.  Ond sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau'r Cabinet fod y gwaith o werthu'r tir yn mynd rhagddo’n dda.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod trigolion Cwm Llynfi yn ymwybodol o’r trafodaethau ond byddai o gymorth i aelodau newydd pe gellid dosbarthu enghreifftiau o'r cynigion. Mynegwyd pryderon na allai'r prosiect fynd rhagddo heb werthu tir yn Heol Ewenny. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, mewn sefyllfa  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 136.

137.

Ysgol Gynradd Croesty ac Ysgol Gyfun Pencoed - Cynnydd yng Ngwariant y Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynyddu gwariant y contract ar gyfer Cam 2 Cynllun Cyfalaf Ysgol Gynradd Croesty ac Ysgol Gyfun Pencoed a oedd yn cael ei ariannu gan raglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru. Gofynnodd yr adroddiad hefyd am hepgoriad o dan Reoliadau Gweithdrefn Contractau Rheol 3.2.5 o'r gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau i ganiatáu estyn y contract gyda'r contractwr presennol.

 

Rhagwelid y byddai’n bosibl cyflawni costau llawn y cynllun gwreiddiol a'r gwaith ychwanegol a nodwyd, gan gynnwys unrhyw gynnydd pellach mewn costau a allai ddigwydd o ganlyniad i broblemau a wynebir ar y safle, o fewn y dyraniad cyllid diwygiedig o £675,000, yn amodol ar gyflwyno a chymeradwyo dyfynbris derbyniol i ymgymryd â'r gwaith ychwanegol gan Alun Griffiths (Contractwyr) Limited.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau'r cynnig a dywedodd ei bod yn hanfodol i'r cynnig hwn gael ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:               Fe wnaeth y Cabinet:-

 

a)     Gymeradwyo’r gwariant ychwanegol ar y cynllun;

Awdurdodi hepgoriad o dan Reol Gweithdrefn Contract 3.2.5 o'r gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau am yr uchod er mwyn gallu ymestyn y contract gyda'r contractwr presennol.    

138.

Gofal Cymdeithasol Plant - Ffioedd Prifysgol pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am yr adolygiad a oedd ar y gweill mewn perthynas â chymorth ariannol sy’n cael ei roi i rai sy'n gadael gofal gyda ffioedd prifysgol a chostau cysylltiedig. Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth i ymgynghori'n ffurfiol ar y tri dewis ariannol arfaethedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal sy'n mynd i'r Brifysgol.  

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod yr Awdurdod yn rhoi cymorth ariannol i bobl ifanc a oedd yn flaenorol yn blant oedd yn derbyn gofal i fynychu cyrsiau prifysgol ac addysg uwch. Roedd y cymorth hwn yn cael ei roi yn absenoldeb polisi a gytunwyd ac nid oedd unrhyw gyllideb benodol y gellid tynnu'r gefnogaeth ariannol ohoni. Roedd yr adroddiad hefyd yn adlewyrchu'r pecyn o argymhellion a gynhwyswyd yn 

adroddiad terfynol Arolwg o Gyllid Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru. Ar hyn o bryd roedd yr Awdurdod yn cefnogi naw o bobl oedd yn gadael gofal i fynychu'r brifysgol ac roedd y nifer hwn yn debygol o gynyddu dros y tair blynedd nesaf.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y tri dewis gwahanol i'r sefyllfa bresennol yn gyson o ran sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (SSWBA). Amlinellodd y tri opsiwn a risgiau a manteision pob un.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bwysigrwydd rhoi'r gefnogaeth orau bosibl a sicrhau nad oedd myfyrwyr yn cael eu trin yn wahanol. Roedd mwy o blant oedd yn derbyn gofal yn mynd i'r brifysgol ac roedd yn bwysig cael polisi a chyllideb ar eu cyfer.

 

Cytunai’r Arweinydd ei bod hi'n bwysig cael polisi a chyllideb ar gyfer hyn a bod y polisi’n cael ei gymhwyso'n gyson. Roedd yn bwysig i fyfyrwyr gael cyfle i symud ymlaen mewn bywyd ac roedd yn edrych ymlaen at weld canlyniad yr ymgynghoriad.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y cyfle i ddatblygu polisi i gefnogi plant oedd yn derbyn gofal sy’n mynd i'r brifysgol. Awgrymodd y dylid ystyried unrhyw awgrymiadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad ac nid dim ond y tri opsiwn a gynigiwyd eisoes.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gyda'r awgrym a bod angen polisi i ymdrin â swm sylweddol o arian mewn maes lle'r oedd niferoedd yn debygol o gynyddu.    

 

PENDERFYNWYD:           Fe wnaeth y Cabinet

·                     Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad

·                    Cymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol 12 wythnos ar yr opsiynau a nodwyd yn yr adroddiad;

Cytuno i dderbyn adroddiad gyda chanlyniad yr ymgynghoriad, (gan gynnwys diwygiadau / ychwanegiadau i'r tri dewis), a fyddai'n cynnwys aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, er mwyn i'r Cabinet wneud penderfyniad terfynol.

139.

Safonau Llyfrgelloedd Cymru - Perfformiad pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles berfformiad y Cyngor i'r Cabinet yn erbyn Pumed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (WPLS) ar gyfer y cyfnod 2016-17 ac i gael cymeradwyaeth i egwyddorion strategol y Gwasanaeth Llyfrgell. Roedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno ffurflen Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn flynyddol i'w hystyried gan aseswyr. Yna roedd adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (MALD) a atodir fel Atodiad 1 yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hwn yn egluro bod y Gwasanaeth Llyfrgell ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach yn cwrdd â phob un o'r deunaw o'r hawliau dinesydd craidd yn llawn a hefyd mewn perthynas â'r saith dangosydd ansawdd yn seiliedig ar dargedau, roedd pump wedi’u cyflawni’n llawn ac un wedi’i gyflawni’n rhannol.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn galonogol derbyn yr adroddiad gan fod yr awdurdod am y tro cyntaf yn bodloni pob un o’r deunaw hawl.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hi'n falch o weld yr adroddiad a bod pob un o'r deunaw hawl wedi'u bodloni a bod cwsmeriaid yn hapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.

 

PENDERFYNWYD:           Fe wnaeth y Cabinet:-

1)     Ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad a'r atodiad, a chydnabod blwyddyn lwyddiannus o gynnydd yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

2)         Cymeradwyo’r egwyddorion strategol ar gyfer datblygu, gan gynnwys y posibilrwydd o gydleoli cyfleusterau a'r opsiynau i'r gwasanaeth llyfrgell deithiol gael eu datblygu fel rhan o gynllun datblygu’r gwasanaeth ar gyfer 2018/19.        

140.

Cynnig i Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASD) yn Ysgol Gynradd Pencoed pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Dro - Addysg a Chymorth Teuluol adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori'n ffurfiol â rhieni, staff a chorff llywodraethu Ysgol Gynradd Pencoed a phartïon eraill â diddordeb ynghylch y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag ASD yn 

Ysgol Gynradd Pencoed.

 

Eglurodd fod y Cyngor yn cefnogi'r egwyddorion y dylai plant gael eu haddysgu, lle bo modd, mewn amgylchedd ysgol brif ffrwd mor agos â phosib at eu cartrefi. Byddai'r cynnig i agor Canolfan Adnoddau Dysgu ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Pencoed yn rhoi cyfle i blant ag ASD sy'n byw yn ardal ddwyreiniol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael eu haddysgu'n lleol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro y gofynnid am farn pobl ifanc hefyd fel rhan o'r ymgynghoriad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod ef yn cefnogi'r cynigion a oedd yn fuddsoddiad sylweddol ym Mhencoed ac yn y sir gyfan.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn falch o weld y cynigion a'r ymgynghoriad oedd ar y gweill a phan ymgynghorwyd â rhanddeiliaid ynghylch agor canolfan adnoddau dysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd y cafwyd ymateb hynod gadarnhaol gan gymuned yr ysgol ac roedd yn hyderus y byddai ymateb yr un mor gadarnhaol ym Mhencoed.  

 

PENDERFYNWYD: Cytunodd y Cabinet i ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag ASD yn Ysgol Gynradd Pencoed ac i ganlyniad yr ymgynghoriad gael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet fel y gellid gwneud penderfyniad gwybodus ar y cynnig o 1 Medi 2018.

141.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdodau lleol i gyrff llywodraethu’r ysgolion a restrir yn yr adroddiad.

 

Ar gyfer 12 o'r ysgolion a restrwyd, roedd 15 ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf cymeradwy ar gyfer eu penodi fel llywodraethwyr ALl ac nid oedd unrhyw gystadleuaeth am unrhyw rai o'r swyddi gwag hyn. Ar gyfer y 4 ysgol arall, roedd cystadleuaeth am 5 o swyddi gwag ac archwiliodd panel y swyddogion y ceisiadau a gwnaed yr argymhellion sydd i'w gweld yn yr adroddiad.

 

Gwahoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio unrhyw drigolion oedd ag awydd gwasanaethu eu cymuned i gadw golwg am swyddi gwag yn y dyfodol a dywedodd y byddai hyfforddiant am ddim yn cael ei ddarparu.

 

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyodd y Cabinet y penodiadau a restrir ym mharagraffau 4.1 a 4.2 yr adroddiad.    

142.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth Teuluol adroddiad gyda'r Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r rhaglen ariannol sy'n ofynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion cyn ei chyflwyno i'r Cyngor.

 

Ym mis Rhagfyr 2017 rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth mewn egwyddor i ail don buddsoddiad Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r amcangyfrif o gost ‘amlen y rhaglen’ yn £68.2m. Efallai y bydd angen costau pellach sydd heb eu pennu eto a fydd yn gysylltiedig â chapasiti ychwanegol o ran isadeiledd. Roedd y gwaith cychwynnol wedi dechrau ar y rhaglen ac roedd timau prosiect yn cael eu sefydlu. Byddai gwaith y timau prosiect yn pennu unrhyw ofynion ychwanegol i'w cyflawni ar y cynlluniau unigol megis gwelliannau i'r priffyrdd.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth Teuluol y goblygiadau ariannol, yr angen am achosion busnes manwl ar gyfer pob prosiect a sut y byddai'r arian cyfatebol yn cael ei ddarparu. Dywedodd hefyd y byddai’r prosiectau a gynhwyswyd yn rhaglen gyfalaf y Cyngor yn cael eu cadarnhau unwaith y byddai Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r achosion busnes terfynol a bod digon o gyllid wedi’i gynhyrchu.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod hwn yn gynllun uchelgeisiol ond cyraeddadwy.

 

PENDERFYNWYD:            Fe wnaeth y Cabinet:-

 

(1)       gymeradwyo’r ymrwymiad ariannol sy'n ofynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion mewn egwyddor. Byddai'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i nodi a dyrannu adnoddau digonol i fodloni'r ymrwymiad i gael arian cyfatebol;

 

(2)     cymeradwyo bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i ddiwygio'r rhaglen gyfalaf ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.          

 

143.

Canlyniadau Arolygiad Estyn ynghylch Ysgol Gyfun Cynffig pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gwella Ysgolion, adroddiad ar ganlyniadau arolygiad Estyn diweddar ar Ysgol Gyfun Cynffig. Arolygwyd yr Ysgol gan Estyn ym mis Hydref 2017 a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 4 Rhagfyr 2017. Rhoddodd yr arolygwyr 4 dyfarniad "Digonol ac angen gwella" ac un "Da" a gwnaed nifer o argymhellion. Byddai'r ysgol yn llunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad a fyddai'n manylu sut y byddai'n ymdrin â'r argymhellion.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod yn falch fod rhaglen gefnogaeth ragweithiol yn cael ei chynnig yn dilyn y canlyniadau cymysg.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gr?p, Gwella Ysgolion y gefnogaeth a roddwyd ar waith, gan gynnwys cefnogaeth ynghylch sgiliau ymarfer da o bob rhan o'r rhanbarth, cefnogaeth gan arbenigwyr mewn perthynas ag ymddygiad a thystiolaeth gan ysgolion a phartneriaethau eraill i helpu i ddatblygu systemau a phrosesau.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hyderus y byddai'r ysgol yn gwneud cynnydd ac roedd yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad yn ôl maes o law.  

 

PENDERFYNWYD:            Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad.   

144.

Canlyniadau Arolygiad Estyn ynghylch Ysgol Gynradd Ogmore Vale pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gwella Ysgolion, adroddiad ar ganlyniadau arolygiad diweddar Estyn ar Ysgol Gynradd Ogmore Vale. Arolygwyd Ysgol Gynradd Ogmore Vale gan Estyn ym mis Hydref 2017 a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 4 Rhagfyr 2017. Rhoddodd yr arolygwyr 4 dyfarniad "Digonol ac angen gwelliant" ac un "Anfoddhaol ac angen gwelliant ar frys" a gwnaed nifer o argymhellion. Byddai'r ysgol yn llunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad a fyddai’n dangos sut y byddai'n ymdrin â'r argymhellion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai Estyn yn adolygu'r sefyllfa ar 13eg a 14eg  Chwefror 2018 ac yna'n darparu diweddariadau bob tymor am y cynnydd a wneir.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y bu ymweliad diweddar i'r ysgol cyn i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi ac roedd gan yr Aelodau ddealltwriaeth dda o'r hyn oedd yn digwydd yn yr ysgol ac roedd yn obeithiol y byddai'r ysgol yn ateb yr her.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p, Gwella Ysgolion fod yna lefel bellach o gategori dilynol i’r ysgol hon. Roedd y cynllun gweithredu ôl-arolygiad yn mynnu bod datganiad yn cael ei anfon o'r Awdurdod Lleol  o fewn 10 diwrnod. Roedd yr ysgol wedi cyflwyno'r dogfennau perthnasol ac roedd Estyn yn gweithio drwy'r datganiad gweithredu ar hyn o bryd. Roeddent yn disgwyl gweld gwelliannau o fewn y flwyddyn academaidd a byddent yn adrodd bob hanner tymor ar gynnydd. Byddai'r cynnydd yn cael ei fonitro trwy'r gr?p gwella ysgolion a byddai adroddiadau pellach yn cael eu rhoi i'r Cabinet.   

 

PENDERFYNWYD:            Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad.   

145.

Polisi Adnewyddu'r Sector Preifat pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygio Polisi Adnewyddu Tai ac Addasiadau i'r Anabl y Sector Preifat i adlewyrchu newidiadau Llywodraeth Cymru i delerau ac amodau cynllun benthyciadau eiddo gwag "Troi Tai yn Gartrefi".

 

Eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi newid telerau ac amodau'r cynllun benthyciad trwy gynyddu cyfnod y benthyciad ar gyfer eiddo gwag y bwriedir eu rhentu o uchafswm o 3 blynedd i 5 mlynedd. Cynyddwyd uchafswm y benthyciad a gynigir i bob ymgeisydd ar gyfer eiddo gwag hefyd o £150,000 i £250,000 (10 uned yn ôl £25,000 yr uned).

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol y newidiadau a fyddai'n helpu gyda'r agenda eiddo gwag. 

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y newidiadau hefyd a'r gallu i ailgylchu arian a buddsoddi mewn adeiladwyr a chyflenwyr lleol.

 

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyodd y Cabinet Bolisi Adnewyddu Tai ac Addasiadau i'r Anabl y Sector Preifat diwygiedig ac yn benodol, y newidiadau i'r cynllun benthyciadau eiddo gwag 'Troi Tai yn Gartrefi' fel yr amlinellir yn adran 4.1 yr adroddiad.        

146.

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod yr eitem hon wedi'i dileu o'r agenda oherwydd nad oedd yr adroddiad yn cynnwys cynlluniau'r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd y gofynnir i'r Aelodau eu creu.

 

PENDERFYNWYD:              Dileu'r eitem o'r agenda.

 

147.

Polisi Cadw Data pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad i'r Cabinet gymeradwyo'r Polisi Cadw Data a fyddai'n nodi cyfrifoldebau a gweithgareddau'r Cyngor mewn perthynas â'r data roedd yn ei gadw gyda phwyslais ar gyflwyno amserlen cadw data a fyddai’n cael ei chytuno gan yr holl Gyfarwyddiaethau.

 

Eglurodd y byddai'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn dod i rym ym mis Mai 2018 a byddai'n cyflwyno gofynion ychwanegol o ran cadw data personol o'i gymharu â Deddf Diogelu Data 1998. Gallai torri'r darpariaethau hyn arwain at osod dirwyon sylweddol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a  Phartneriaeth fod y Polisi Cadw Data yn anelu at ddiffinio rhwymedigaethau a chyfrifoldebau'r Awdurdod wrth drin a storio data mewn perthynas â Deddf Diogelu Data 1998.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol i'r swyddogion a fu'n gweithio ar ddatblygu’r polisi.

 

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi Cadw Data a atodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.   

 

148.

Comisiynu a Dyfarnu Contractau mewn perthynas â'r Rhaglen Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i lunio contract peilot am 12 mis gyda dewis i ymestyn am 12 mis arall ar gyfer Rhaglen Cyflawnwyr (Perpetrators) i ategu'r Gwasanaeth Cam-drin Domestig Integredig presennol. Pe bai caniatâd yn cael ei roi yna byddai rhan o Reol Sicrhau Contractau'r Cyngor mewn perthynas â chontract peilot ar gyfer Rhaglen Cyflawnwyr yn cael ei hatal a byddai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth yn cael ei awdurdodi i ymrwymo i gontract peilot 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod cyfle wedi codi i ddatblygu cynllun peilot i redeg ochr yn ochr â'r ddarpariaeth bresennol i weithio gyda chyflawnwyr troseddau.  Byddai'r rhaglen ymyrraeth i gyflawnwyr yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol at ddarparu gwasanaethau gyda'r ymrwymiad i ddileu trais yn erbyn dynion a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gefnogi'r agenda atal, amddiffyn a chefnogi trwy Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

 

Eglurodd fod yna anawsterau wrth gomisiynu'r gwasanaethau hyn oherwydd yr ansicrwydd ynghylch ariannu contractau o'r fath yn y dyfodol o dan raglenni ariannu Llywodraeth Cymru. Roedd hyd arfaethedig y contract hwn yn gymharol fyr a gwerth isel oedd iddo. Roedd angen pwyso'r risg hon yn erbyn yr angen i ddarparu gwasanaeth ataliol i atal neu leihau cam-drin domestig, trais rhywiol a risg o niwed difrifol neu laddiad rhag digwydd.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod hwn yn adroddiad diddorol oedd yn ymdrin â mater cam-drin domestig mewn ffordd wahanol. Byddai'r gwasanaeth craidd yn parhau i weithio gyda dioddefwyr yn y ffordd arferol ac roedd hwn yn gyfle i dreialu'r cynllun.

 

Cytunodd yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau â hyn a dywedodd fod hwn yn wasanaeth hynod arbenigol na allai ond nifer gyfyngedig o sefydliadau ei ddarparu.

 

PENDERFYNWYD:          Fe wnaeth y Cabinet:-

 

(1)Wahardd y rhannau perthnasol o Reolau Sicrhau Contractau'r Cyngor mewn perthynas â'r gofynion i dendro ac ymrwymo i gontract peilot am 12 mis, gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall ar gyfer y Rhaglen i Gyflawnwyr a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

(2)          Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i ymrwymo i Gontract peilot 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall ar gyfer Rhaglen i Gyflawnwyr.       

     

149.

Adroddiadau er Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad a hysbysodd y Cabinet am yr Adroddiadau er Gwybodaeth i’w nodi a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod diwethaf, fel y'u cynhwysir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi'r pedair

dogfen sydd yn yr adroddiad cyffredinol.

150.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyniodd y Cadeirydd yr eitem ganlynol fel mater brys yn unol â pharagraff 2.4 (e) Rheolau Gweithdrefn y Cabinet o fewn y Cyfansoddiad, er mwyn rhoi digon o amser i'r Cabinet ystyried canfyddiadau'r Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb (BREP), ynghyd ag ymatebion pob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau ar gynigion drafft y Gyllideb a gynhwysir yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor (MTFS).

151.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 a'r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. M Jones, Cadeirydd y Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb, ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol mewn perthynas â chanfyddiadau'r Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb (BREP) i'r Cabinet a'r ymatebion o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau mewn perthynas â chynigion cyllideb ddrafft y Cabinet. Roedd y Cyng. C Green, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i fod i gyflwyno'r adroddiad ond anfonodd ymddiheuriadau am absenoldeb oherwydd ei bod yn sâl.

 

Diolchodd y Cynghorydd M Jones i'r Dirprwy Arweinydd a'r swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod y broses. Bu'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ystyried canfyddiadau'r Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb (BREP) ar 25 Ionawr 2018 i benderfynu a ddylid anfon yr argymhellion i'r Cabinet fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Eglurodd, yn ogystal â chynnig argymhellion mewn perthynas â'r cynigion cyllideb drafft ar gyfer 2018-19 i 2021-22 a'r broses ymgynghori, fod y Panel hefyd wedi gwneud sawl argymhelliad ynghylch cynllunio cyllideb ar gyfer y dyfodol ac wedi cynnig argymhellion arfaethedig i fforymau eraill o fewn yr Awdurdod.      

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyng. M Jones am gadeirio BREP ac am wneud y gwaith o ddifrif ac yn frwdfrydig. Byddai'r Cabinet yn rhoi diwydrwydd dyladwy i'r argymhellion ac yn rhoi adroddiad pellach ymhen amser.

 

Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r Cyng. M Jones a'r Panel am yr amser a gymerwyd i ystyried yr holl gynigion yn ofalus. Roedd hwn yn banel trawsbleidiol a diolchodd i'r aelodau am y ffordd adeiladol yr oeddent wedi cymryd rhan yn y broses. Byddai'r Cabinet yn awr yn ystyried yr argymhellion ac yna'n adrodd yn ôl i'r pwyllgor craffu a BREP.

 

PENDERFYNWYD:   Cytunodd y Cabinet i ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, mewn ymateb i  Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 a'r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft

152.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir hynny ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

                                Yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael ei wahardd o'r cyfarfod gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig o natur fel y nodwyd uchod.

153.

Gwaredu Tir ym Mharc Afon Ewenni (Cyn Storfa John Raymond Transport)