Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 13eg Chwefror, 2018 14:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

154.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

155.

Cynllun Corfforaethol 2018-22 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth i Gynllun Corfforaethol newydd y Cyngor 2016-20 i 2018-22 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol a oedd yn cwmpasu 2018-2020 yn nodi'r tair blaenoriaeth gorfforaethol, a oedd yn seiliedig ar ymgynghoriad cyhoeddus helaeth o'r enw "Siapio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr", a gynhaliwyd yn 2015.  Rhoddodd wybod i'r Cabinet am yr angen i adeiladu ar y cynllun corfforaethol cyfredol a nododd eto’r tair  blaenoriaeth gorfforaethol gyfredol ar gyfer y pedair blynedd sydd i ddod.  Mae'r Cynllun hefyd yn nodi egwyddorion a fydd yn llywodraethu sut mae'r Cyngor yn gweithredu a'r dyhead i weithio fel un Cyngor.     

 

Dywedodd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi ystyried y cynllun drafft ac wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu'r cynllun.  Roedd cyfres o sylwadau adeiladol ar gyfer gwelliant ac i'w cynnwys wedi'u gwneud gan y broses graffu, a oedd wedi'u hystyried a lle bynnag y bo'n ymarferol, wedi'i gynnwys yn y Cynllun drafft.  Dywedodd y bydd y Cynllun yn cael ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cynlluniau busnes a chynlluniau gwasanaeth y gyfarwyddiaeth.  Mae'r Cynllun yn nodi blaenoriaethau ac ymrwymiadau'r Cyngor a fyddai'n cael eu hadolygu'n flynyddol i ystyried amgylchiadau newidiol a'r cynnydd a wnaed ac i sicrhau bod gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  (Cymru) 2015 yn cael eu bodloni 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar ganlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd.  Dywedodd fod 15 digwyddiad ymgysylltu wedi’u cynnal ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd fod y canlyniadau'n dangos cytundeb cryf gyda'r tair blaenoriaeth.  Cynhaliwyd ymgynghoriad "Siapio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr" arall yn 2017, a wnaeth gadarnhau canfyddiadau 2015.  Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori mawr gan y Cyngor a'i bartneriaid yn 2017, ar yr Asesiad Llesiant a'r Asesiad Poblogaeth.  Canfu’r rhain fod blaenoriaethau'r Cyngor yn adlewyrchu blaenoriaethau dinasyddion ac felly mai dyma’r rhai cywir i'r Cyngor ganolbwyntio arnynt yn y pedair blynedd nesaf. 

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cabinet am ddyletswydd y Cyngor i osod amcanion llesiant a gwelliant.  Unwaith y byddent wedi’u cymeradwyo, y tair blaenoriaeth gorfforaethol fyddai amcanion lles y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  Dywedodd fod y Datganiad Lles, sy'n ofynnol gan y Ddeddf, wedi'i ymgorffori yn y cynllun a'r ymrwymiadau yw'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion gwella a llesiant integredig.  Hysbysodd y Cabinet fod y cynllun hefyd yn nodi sut mae'r amcanion hyn yn cyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol.    

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y broses Trosolwg a Chraffu wedi bod yn drylwyr iawn wrth graffu ar y Cynllun Corfforaethol ac roedd y rhan fwyaf o'r awgrymiadau wedi'u cynnwys yn y Cynllun.  Dywedodd fod dau ymarferiad ymgynghori wedi cael eu cynnal ar y Cynllun.  Ar y ddau achlysur roedd mwyafrif llethol aelodau'r cyhoedd a ymatebodd o blaid blaenoriaethau'r Cyngor.                 

 

Roedd Aelod Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y Cabinet yn falch o weld bod y dangosyddion newydd yn y Cynllun Corfforaethol yn adlewyrchu nodau'r Cyngor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 155.

156.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2018-19 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28.  Dywedodd fod y Strategaeth hefyd yn cynnwys y gofyniad Treth Gyngor arfaethedig   ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol, i'w gymeradwyo gan y Cyngor, a fyddai'n cael ei gyflwyno ynghyd â gofynion Comisiynydd Heddlu a Throseddau De Cymru a’r Cynghorau Tref/Cymuned. 

 

Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-22. Roedd y ddwy ddogfen yn cyd-fynd â'i gilydd, gan ei gwneud yn bosibl i greu cysylltiadau pendant rhwng blaenoriaethau'r Cyngor a'r adnoddau a gyfeirir i'w cefnogi.  Rhoddodd y Prif Weithredwr Drosolwg Ariannol Corfforaethol a dywedodd er mai’r nod yw  bod â’r gyllideb refeniw net ar £265.984m ar gyfer 2018-19, fod y gwariant cyffredinol yn llawer uwch na hyn.  Gan gymryd i ystyriaeth wariant a gwasanaethau a ariennir trwy gyllid grantiau neu ffioedd a thaliadau penodol, byddai cyllideb gros y Cyngor oddeutu £400m yn 2018-19.  Dywedodd fod tua £170m o'r gwariant hwn yn cael ei wario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cefnogi ysgolion.  Roedd llawer o gost y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol hefyd yn gysylltiedig â chyflogau, a oedd yn cynnwys gweithredwyr casglu gwastraff, gweithwyr gofal cartref a gofalwyr maeth.  Hysbysodd y Cabinet hefyd fod y Cyngor yn wynebu derbyn llai o incwm i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig.  Dywedodd fod y Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy'n nodi'r dulliau y bydd yn eu cymryd i reoli'r pwysau hwn wrth barhau i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau, cyn belled ag y bo modd, sy'n bodloni anghenion y gymuned.    

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cabinet fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd o 0.1% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cyfateb i £115k. Roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan gyfrifoldebau newydd sy'n wynebu'r Cyngor o ganlyniad i'r cynnydd i'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl o £30,000 i £40,000 a fyddai'n costio £300,000 i’r Cyngor a chyfrifoldebau atal digartrefedd yn costio £236,000.  Roedd y sefyllfa wirioneddol yn debygol o fod yn ostyngiad o 0.25% sy'n cyfateb i £500,000, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £42m i ymdrin â phwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol a £62 miliwn ar gyfer cyllid ysgolion yn ei setliad i lywodraeth leol ledled Cymru ond nid oedd yr arian hwn wedi'i neilltuo.    

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn bwriadu gwario £108m ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Yn 2017-18, roedd y Cyngor wedi cyflwyno arbediad effeithlonrwydd blynyddol o 1% ar gyfer ysgolion am bob blwyddyn o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ond ar gyfer 2018-19, nid yw lefel y gostyngiadau cyllideb sy'n ofynnol mor fawr ag a ragwelwyd.  Felly, bu'n bosib amddiffyn ysgolion rhag yr arbediad o 1% am flwyddyn, ond ni fyddai modd osgoi hwn ar gyfer 2019-20  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 156.

157.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.