Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 27ain Mawrth, 2018 14:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

173.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau/Swyddogion yn unol a darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

174.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 67 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodian cyfarfodydd  y 13/2/2018 a 27/2/2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Cyngor ar 13 Chwefror 2018 a 27 Chwefror 2018 fel rhai gwir a chywir.

 

175.

Cyfundeb Dinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd - Cynllun Busnes Cytundeb Gwaith ar y Cyd pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad ar y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd drafft a argymhellwyd gan Gabinet Prifddinas-ranbarth Caerdydd, i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu fel y "Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd” swyddogol.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai’r Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd yn mynd i’r afael â’r Amlen Fforddiadwyedd ddiweddaraf, y fethodoleg ar gyfer cytuno ar natur, cwmpas a blaenoriaeth projectau i’w datblygu er budd cyffredinol Prifddinas-ranbarth Caerdydd, methodoleg a chyfrifoldeb dros unrhyw archwiliadau allanol, a monitro perfformiad ac adroddiadau monitro cyfalaf a refeniw i’w paratoi gan y Cydbwyllgor, a pha mor aml y gwneir yr adroddiadau hyn.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cyd-destun strategol a blaenoriaethau gofodol y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd drafft, a nododd y cyfleoedd oedd yn codi o fewn cyfnod y cynllun. Eglurodd fod y cytundeb â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.2 biliwn, ac roedd £734m ohono wedi’i neilltuo i’r Metro, a rhoddwyd y £495m a oedd yn weddill i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach. Roedd y Cabinet Rhanbarthol wedi nodi bod uchelgeisiau uchel y Gronfa Fuddsoddi Ehangach wedi arwain at 25,000 o swyddi newydd a £4bn o fuddsoddiad sector preifat. Cafodd y buddsoddiad cyntaf ei wneud yn y Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd drwy roi benthyciad o £38.5m gyda’r posibilrwydd o greu 2,000 o swyddi a thros £380m o fuddsoddiad sector preifat. Eglurodd fod y Cabinet Rhanbarthol, yn dilyn y buddsoddiad cychwynnol hwn, wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogi Project Metro Canolog, Cronfa Buddsoddi Tai Rhanbarthol, Strategaeth Ddigidol a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y goblygiadau ariannol ac eglurodd fod angen i’r Cyngor dalu £2,299,950 cyn diwedd blwyddyn ariannol 2017-18, yn sgil y newid yn y proffil ariannu. Byddai hyn yn lleihau'r taliadau yn hwyrach a bydd angen ail-broffilio'r cyllido o fewn y rhaglen gyfalaf, ond o fewn yr un amlen rhaglen gyffredinol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y byddai angen cymeradwyaeth gan y Cyngor i drosglwyddo arian o’r gyllideb hon i gyllideb y Gorfforaeth Cymunedau lle byddai’r taliad yn cael ei wneud, ac ail-broffilio’r gwariant a'r cyllid ar gyfer y cynllun o fewn y rhaglen gyfalaf.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y cytundeb mewn egwyddor i gefnogi'r Gronfa Buddsoddi Tai Rhanbarthol a’r nod o greu 25,000 o swyddi newydd.                   

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r argymhellion ac ychwanegodd ei fod yn ffodus o fod wedi ymweld â'r Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a oedd â gweithwyr o bob un ardal ac wedi’i leoli 35 munud i ffwrdd o Ben-y-bont. Ei nod oedd arwain y ffordd yn y maes hwn, gan greu mwy na 8,000 o sglodion haenell yr wythnos ar gyfer y farchnad Tsieineaidd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus ym Mhorthcawl er mwyn cynghori preswylwyr ar doriadau i gymorthdaliadau y gwasanaethau bysys. Rhoddodd hyn gyfle i edrych ar ffyrdd newydd o gynnig cludiant a swyddi.  

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 175.

176.

Disgount Ymadael Gofal Treth Gyngor pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad yn argymell y dylid cymeradwyo’r meini prawf a gynigiwyd ar gyfer gweithredu Gostyngiad i Bobl sy’n Gadael Gofal. Eglurodd fod modd i’r Cyngor ostwng y dreth gyngor ar gyfer achosion unigol neu grwpiau o achosion. Nid oedd unrhyw eithriad ar gyfer pobl sy’n gadael gofal mewn deddfwriaeth Treth Gyngor ar hyn o bryd felly yr unig fodd o gyflawni eithriad oedd rhoi gostyngiad dewisol. Datganodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod camgymeriad yn Atodiad A i’r adroddiad, ac y byddai’r gostyngiad yn cael ei weithredu hyd at 25 oed, ac nid 21 oed.  

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y byddai’r gostyngiad yn cael ei weithredu i bawb sy’n gadael gofal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac y dylai fod yn weithredol o 1 Ebrill 2018. Ar hyn o bryd, roedd 22 wedi’u nodi yn gymwys o bosibl. 

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o gefnogi’r argymhellion, a oedd yn swm digon bach i’r Cyngor ond yn swm sylweddol i’r unigolion dan sylw.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar groesawu’r adroddiad a dywedodd y gallai weld, yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol, y byddai hyn yn rhoi dechrau da i bobl sy’n gadael gofal.   

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod pobl sy’n gadael gofal wedi cael dechrau anodd i fywyd a’i fod yn anodd bod yn annibynnol mor ifanc.

 

PENDERFYNWYD:             Argymhellodd y Cabinet y dylai’r Cyngor:

·                    Gymeradwyo’r meini prawf a gynigiwyd ar gyfer gweithredu'r Gostyngiad i bobl sy’n gadael gofal fel y nodwyd yn Atodiad A;

Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cyllid i benderfynu ar geisiadau dilys sy'n dod i law sy'n bodloni'r meini prawf yn Atodiad A.   

177.

Cynllun Rheoli Cyrchfan Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chynllun Gweithredu Cyrchfan pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Rheoli Cyrchfan a Chynllun Gweithredu Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gweithredu’r camau sy’n deillio ohonynt.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod cynnydd graddol wedi bod yn effaith economaidd twristiaeth ym mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2013, gyda chynnydd yng ngwerth economaidd twristiaeth, niferoedd yr ymwelwyr ac yn nifer y diwrnodau y mae ymwelwyr yn treulio yno. Roedd yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o’r cynnydd yng ngwerth twristiaeth i’r economi leol, a’r cynnydd yn nifer y swyddi ar gyfer y cyfnod.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Cynllun Rheoli Cyrchfan 2018-2022 yn gosod y fframwaith ar gyfer rheoli gweledigaeth twristiaeth tan 2022. Roedd y Cynllun Gweithredu Cyrchfan yn manylu ar weithgareddau penodol ac ar y sail tystiolaeth a oedd yn cynnig cyd-destun. Amlinellodd weledigaeth y Cynllun Rheoli Cyrchfan a sut fyddai’r Cynllun Gweithredu Cyrchfan yn helpu i gyflawni’r weledigaeth hon drwy ganolbwyntio’r camau gweithredu yn erbyn cefnogi’r datblygiad o gynnyrch twristiaeth, cefnogi’r datblygiad o seilwaith twristiaeth a chodi proffil a denu mwy o ymwelwyr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd y byddai ymdrechion i godi'r proffil yn canolbwyntio yn bennaf ar ymagwedd y DU ar gysylltiadau cyhoeddus, marchnata ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol a chyfleoedd i farchnata ar y cyd â phartneriaid ledled Cymru.

 

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y swyddogion ac ychwanegodd fod y swyddogion wedi gallu cynnal cynllun dichonadwy er gwaethaf y toriadau. Roedd Pen-y-bont yn “gawr cwsg” gyda photensial anferth.      

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod wedi darllen y cynllun a’i fod yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond roedd yn pryderu o ran buddsoddiad mewn hybiau lleol eraill. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y cynllun wedi ceisio rhoi digon o hyblygrwydd a chyfeiriwyd at hybiau lleol eraill lle gallai cyfleoedd godi dros y 4 blynedd. Roedd y cynllun fod ar gyfer y fwrdeistref gyfan.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn bwysig myfyrio ar lwyddiannau diweddar ac adeiladu arnynt. Roedd y cynnig i ddatblygu man gwyliau antur Parc Afan ar drothwy Cymoedd Llyfni yn mynd rhagddo a gofynnodd a oedd y cynllun yn cefnogi’r fenter hon. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cyfeirir yn benodol at Barc Afan yn y cynllun, bod y cynllun wedi’i gynllunio i' w ddefnyddio mewn modd hyblyg ac y byddai’n cefnogi datblygiadau o'r fath.

 

PENDERFYNWYD:             Gwnaeth y Cabinet:

·                Gymeradwyo’r Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Cynllun Gweithredu Cyrchfan;

Awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedol i weithredu'r Cynllun Rheoli Cyrchfan sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1, a'r Cynllun Gweithredu Cyrchfan sydd wedi'i atodi fel Atodiad 2.

178.

Rhaglen Cyflogadwyedd pdf eicon PDF 188 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn ceisio caniatâd i wneud cais am gyllid newydd ac i ymestyn y cyllid presennol ar gyfer projectau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Sgiliau Gwaith ar gyfer Oedolion 2, Meithrin Cymhwyso Ffynnu a Phontydd i Gyflogaeth 2 a fyddai’n eistedd dan y Rhaglen Gyflogaeth newydd. Ychwanegodd y byddai’r tri phroject yn cael eu gweithredu ar sail partneriaeth is-ranbarthol dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai datblygu’r rhaglen newydd yn helpu i wireddu'r uchelgais o greu gwasanaeth syml a chyfun i gyfranogwyr, i roi’r cymorth cywir iddynt yn y modd cywir ac ar yr adeg gywir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys tabl a oedd yn gosod yr holl gyllid a oedd ei angen ar gyfer y tri phroject gan gynnwys ffynhonnell yr arian cyfatebol.   

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn cefnogi’r argymhellion a chynigiodd y dylid darllen y ddwy astudiaeth achos i weld sut y mae addysg ac adfywio yn gorgyffwrdd a sut allai rhai achosion gael eu hanghofio. Roedd themâu o iselder, gorbryder a rhwystrau eraill at waith, ond gellir rheoli'r rhain gydag arweiniad proffesiynol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Sue Whittaker, ynghyd â’i thîm, wedi nodi rhaglenni cadarnhaol, ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn un o'r cynghorau cryfaf o ran trefniadau partneriaeth i'w cyflawni.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod y gwaith sydd wedi’i gyflawni a sut y mae’r preswylwyr wedi ymgysylltu â’r rhaglenni a newid eu bywydau wedi gwneud argraff da arni. Roedd hi’n falch o weld bod y broses wedi’i symleiddio ar gyfer y rhai sydd angen cymorth.     

 

Nododd yr Arweinydd ei fod yn falch o’r cynnydd hyd yn hyn ac y gellir gwneud mwy, a byddai mwy yn cael ei wneud. Roedd pob cymuned o fewn y Fwrdeistref wedi elwa ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:          Gwnaeth y Cabinet:-

1.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i wneud cais ac i dderbyn estyniad i’r rhaglen Pontydd i Gyflogaeth 2, hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unol â pholisi Grantiau’r Cyngor, ac yn amodol ar fod yn fodlon bod unrhyw amodau grant a oedd yn gysylltiedig ag ymestyn y cyllid yn dderbyniol;

2.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i wneud cais am a derbyn estyniad i’r rhaglen Sgiliau Gwaith ar Gyfer Oedolion 2, o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unol â pholisi Grantiau’r Cyngor, ac yn amodol ar fod yn fodlon bod unrhyw amodau grant a oedd yn gysylltiedig ag ymestyn y cyllid yn dderbyniol;

3.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i wneud cais am a derbyn estyniad i’r rhaglen Meithrin Cymhwyso Ffynnu, o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unol â pholisi Grantiau’r Cyngor, ac yn amodol ar fod yn fodlon bod unrhyw amodau grant a oedd yn gysylltiedig ag ymestyn y cyllid yn dderbyniol;

4.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 178.

179.

Darparu Gwasanaethau Traeth a Diogelwch Dwr mewn partneriaeth â'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Achub Bywyd (RNLI) pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn gofyn am ganiatâd i sefydlu trefniant partneriaeth hirdymor â'r RNLI i gynnal gwasanaeth achub bywydau tymhorol ar draethau lleol ac wrth wneud hynny, ceisio hawl ildiad o ran Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor o'r angen i gael dyfynbrisiau neu dendrau drwy agor cystadleuaeth a chytundeb i wneud contract â’r RNLI.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cynigir y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r RNLI ddechrau cytundeb partneriaeth tymor hwy i weithredu gwasanaethau achub bywydau tymhorol ar y traeth yn Trecco Bay, Traeth Coney, Rest Bay a Pink Bay. Byddai’r cytundeb am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, yn cynnwys blynyddoedd ariannol 2018/2019 tan 2020/2021. Cafodd manylion ynghylch y cyllid craidd a chyllid gan Gyngor Tref Porthcawl a Parkdean eu cynnwys yn yr adroddiad, gan roi gwerth o £154,000 i’r contract arfaethedig â'r RNLI.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn falch o'r cynnig ac atgoffodd yr Aelodau Cabinet o'r adeg pan oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflogi achubwyr bywydau ei hun. Roedd hefyd wedi talu teyrnged i Gyngor Tref Porthcawl a Parkdean am gyfrannu at y ddarpariaeth.

 

Roedd yr Arweinydd wedi diolch i’r holl bartneriaid ac roedd yn falch o gael gweithio gyda phartneriaid mor fawreddog â'r RNLI a oedd yn cynnig gwasanaeth a oedd yn achub bywydau pobl.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Clarke ddiolch i Gyngor Tref Porthcawl.

 

PENDERFYNWYD     Awdurdododd y Cabinet Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gwblhau’r trafodaethau â’r RNLI a gwneud trefniant partneriaeth hirdymor a chytundeb lefel gwasanaeth cysylltiedig â'r RNLI, ac wrth wneud hynny, gytuno i ildiad dan baragraff 3.2.3 o Reolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor.

180.

Taliadau Intermet i Blant pdf eicon PDF 160 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o ran mabwysiadu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn swyddogol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol ledled Cymru fel yr atodwyd i’r adroddiad. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gosod dull cyson mewn perthynas â ffioedd claddu plant.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedol fod y CLlLC wedi gofyn am ymrwymiad gan Awdurdodau Lleol ym mis Awst 2017 i weithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth lle na fyddai awdurdodau claddu yn codi tâl mewn perthynas â chladdu neu losgi safonol plentyn dan 18 oed. Nid oedd hyn yn cyfeirio at unrhyw gostau angladd ehangach megis blodau, costau coffa neu ffioedd y trefnydd angladdau.  Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £600,000 i gydnabod y costau a byddai'r arian yn cael ei ddyrannu rhwng yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru a fabwysiadodd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Byddai hyn yn cael ei adolygu ar ôl dwy flynedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bob amser wedi bod yn sensitif yn hynny o beth ac y byddai’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gosod yr un dull cyson ledled Cymru.

 

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyodd y Cabinet y cynnig i fabwysiadu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn swyddogol fel yr atodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.  

 

181.

Dyraniad Cronfa Gyfalaf Cyngor Tref a Chymuned 2018/2019 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i neilltuo cyllid o Gronfa Gyfalaf Cyngor Tref a Chymuned yn unol ag argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Eglurodd fod y cynigion a ddaeth i law ar gyfer dyraniad 2018/2019 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Gyda’r awydd i alinio’r Gronfa Cyngor Tref a Chymuned yn agosach at y broses CAT, yr ardaloedd a gynigiwyd i'w cymeradwyo oedd Llansanffraid ar Ogwr, Cwm Garw, Pencoed a Chorneli. 

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod gweddill o £135,000 ar gael i’w ddyrannu ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/2019. Ar ôl darganfod lefel y galw ar gyfer 2018/2019 byddai'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i bennu a oes angen edrych ar gynyddu'r gyllideb sylfaen i £100,000 yn 2019/2020. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2019/2020 byddai mis Chwefror 2019 a rhagwelwyd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud ym mis Mawrth 2019.  

 

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y Cyngor Cymuned ar ddatblygu’r cais. Nid oedd yn sicr i ba raddau y deallwyd y cynllun i gychwyn, ond roedd yn dechrau dwyn ffrwyth a hoffai weld nifer y ceisiadau yn cynyddu. 

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod wedi synnu ar gyn lleied o geisiadau oedd wedi’u cyflwyno er bod y meini prawf yn glir. Derbyniodd fod ffynonellau eraill o gyllido a bod ganddynt i gyd bwerau i godi trethi. Roedd yn falch o weld cydbwysedd wrth symud ymlaen ac roedd yn gobeithio y ceir cynnig yn y dyfodol ar gyfer canolfan gymunedol ym Mryntirion.

 

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyodd y Cabinet y projectau y cyfeiriwyd atynt yn adran 4.4 o’r adroddiad ar gyfer y gwerthoedd y manylwyd arnynt.

182.

Polisi Chwythu'r Chwiban pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p, y Gyfraith, adroddiad ar ran y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau, yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Polisi Chwythu'r Chwiban diweddaraf. Roedd newid bach i'r polisi – ychwanegwyd bod angen i Reolwyr roi gwybod i'r Swyddog Monitro yn amserol am yr holl bryderon a godwyd dan y polisi hwn ac am y canlyniadau. Eglurodd Rheolwr Gr?p, y Gyfraith, fod y Polisi Chwythu'r Chwiban wedi’i lunio i annog a rhoi tawelwch meddwl i weithwyr a oedd wir yn credu bod pryderon y dylent eu datgelu, drwy eu galluogi i wneud hynny o fewn fframwaith oedd yn eu hamddiffyn rhag bod yn destun dial ac erledigaeth.   

 

Dywedodd yr Arweinydd y dylai'r polisi fod ar gael i bob aelod o staff, a dylid eu hatgoffa mai diben y polisi i'w hamddiffyn. Dylid hefyd gael ei rannu â’r Undebau Llafur. 

 

PENDERFYNWYD:             Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi diweddar a atodwyd fel Atodiad 1 i'r adroddiad.

183.

Comisiynu a Dyfarnu Contractau mewn Perthynas a'r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p, y Gyfraith, adroddiad ar ran Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau, yn ceisio cymeradwyaeth i barhau i ddarparu gwasanaeth o amgylch trefniadau contract sydd ar waith ar hyn o bryd i gyflawni trefniadau contract sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf. Ceisiwyd cymeradwyaeth hefyd i ddod â Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor i ben ac i roi awdurdodaeth i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau i wneud contractau â’r darparwyr presennol.

 

Er mwyn sicrhau dilyniant o ran gwasanaethau hanfodol i unigolion a theuluoedd, eglurodd Rheolwr Gr?p, y Gyfraith, y cynigiwyd y dylai’r Cabinet ddod â rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor i ben mewn perthynas â thendro a dyfarnu contractau yn seiliedig ar drefniadau contract presennol am gyfnod cychwynnol o chwe mis. Petai oedi pellach yn atal comisiynu’r contractau o fewn y cyfnod chwe mis, yna gofynnwyd i’r Cabinet alluogi Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol i estyn y contractau am hyd at chwe mis arall.

 

Eglurodd Rheolwr Gr?p, y Gyfraith, fod yr holl wasanaethau drwy’r trefniadau contract hyn yn cael eu hariannu gan Grant Llywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod bod ei lefelau ariannu dangosol ychydig yn is o leiaf tan ddiwedd mis Mawrth 2019.    

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod yn ymwybodol o bwysigrwydd y rhaglenni hyn, yn arbennig ar gyfer teuluoedd difreintiedig ac nid oedd y maes hwn yn cael y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu. 

 

Cytunodd yr Arweinydd a dywedodd mai un maes o bwys oedd iechyd a chymorth emosiynol i bobl ifanc.

 

PENDERFYNWYD:             Gwnaeth y Cabinet

·      dirwyn rhannau perthnasol Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor i ben mewn perthynas â’r angen i dendro’r contractau arfaethedig a restrwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn

awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau i wneud contractau chwe mis â'r darparwyr presennol o ran y Contractau yn Atodiad 1 i'r adroddiad, gyda'r dewis i ymestyn contractau am chwe mis arall h.y. tan 31 Mawrth 2019;

184.

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn rhoi gwybodaeth i’r Cabinet am Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo i weithredu gofynion y Ddeddf ac am gymeradwyaeth i ddynodi Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fel Unigolion sy’n Gyfrifol am wasanaethau rheoledig Gofal Cymdeithasol Pen-y-bont.

 

Eglurodd mai’r bwriad y tu ôl i gyflwyno RISCA oedd sicrhau lles pobl Cymru a gwella ansawdd gofal a chymorth. Byddai Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyflwyno system newydd o archwilio a rheoleiddio gwasanaeth a byddai’n dod i rym ym mis Ebrill 2018 a’r bwriad oedd iddo fod yn gwbl weithredol erbyn mis Ebrill 2019.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ofynion Darparwyr Gwasanaethau, trefniadau cofrestru, Datganiad o Ddiben a chyfrifoldebau fel comisiynydd gwasanaethau. Eglurodd reoliadau’r gweithlu, gofynion hyfforddiant a chymwysterau a sefydlogrwydd marchnad a darpariaethau asesiad ariannol dan RISCA a’r goblygiadau ariannol. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai costau ychwanegol yn gysylltiedig â ffioedd cofrestru, ffioedd cymhwyso a chostau hyfforddi sydd wedi’u hystyried ym mhroses trefnu cyllideb y Cyngor. Byddai cyfrifoldeb ychwanegol yn cael ei roi ar Benaethiaid Gwasanaeth gan arwain at fwy o bwysau a chynnydd yn llwyth gwaith. Bwriad y Ddeddf oedd cael gweithlu cymwysedig wedi’i hyfforddi ar gyfer y dyfodol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn bwysig cydnabod statws gweithwyr yn y sector hwn a phwysigrwydd fod yn gofrestredig.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y dylid cefnogi'r gweithlu. Dywedodd ei bod yn pryderu y byddai'r cynnydd arfaethedig yn y ffioedd rhwng 2018 a 2022 yn gweld y ffioedd yn codi i £80, sef cynnydd o 167%.  

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd gan yr unigolion cyfrifol y gallu i ymweld â phob un gwasanaeth bob tri mis o leiaf. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei fod yn bryder, ond ymgymerir ag ymweliadau cyson eisoes felly gellir defnyddio’r rhain i fodloni’r canllawiau.

 

PENDERFYNWYD:             Gwnaeth y Cabinet:

·                Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i weithredu gofynion y Ddeddf a chanllawiau statudol o ran arfer gwaith;

·              Cymeradwyo’r cynnig i ddynodi Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fel yr Unigolyn Cyfrifol o fewn eu gwasanaeth ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

Nodi y byddai pwysau costau ychwanegol yn gysylltiedig â chofrestru a hyfforddi y byddai angen eu hystyried fel rhan o’r broses o drefnu’r gyllideb dros y blynyddoedd i ddod.

185.

Cynllun Ardal a Chronfa Gronedig Rhanbarthol pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn rhoi’r diweddaraf i’r Cabinet ynghylch safbwynt Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â’r Cynllun Ardal rhanbarthol a gofynion y Cronfeydd ar y Cyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gofynnodd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Ardal Bae’r Gorllewin 2018/23 a Chynllun Gweithredu 2018-19, i awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi dolen at y Cynllun Ardal a’r Cynllun Gweithredu ac i awdurdodi cynrychiolwyr o Ddinas a Sir Abertawe i gyflwyno’r cynlluniau i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd yn rhanbarth Bae’r Gorllewin.

 

 Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr amserlen gweithredu, yr ymgynghoriad ar y newid arfaethedig yn y ffiniau iechyd a chytundebau ar lafar mewn perthynas â threfniadau dros dro. Eglurodd sut roedd barn defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a rhanddeiliaid ehangach wedi cael ei chynnwys a sut roedd yn cysylltu â chynlluniau strategol eraill. Rhoddwyd gwybodaeth hefyd am y gofynion cymeradwyo a chyhoeddi, y camau nesaf a’r goblygiadau ariannol.    

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y cyfarfodydd ymgysylltu â dinasyddion yn ddiddorol. Roedd canlyniad yr ymgynghoriad ynghylch y newid arfaethedig yn y ffiniau iechyd dal yn anhysbys, ond pwysleisiodd fod penderfyniad cynnar yn bwysig oherwydd nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am fod ar ymylon y broses cynllunio neu benderfynu.

 

PENDERFYNWYD:       Gwnaeth y Cabinet:

·      Nodi safbwynt Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â’r Cynllun Ardal rhanbarthol a gofynion y Gronfa ar y Cyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·      Cymeradwyo Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin 2018/23 (Atodiad 1) a Chynllun Gweithredu 2018-19 (Atodiad 2);

·      Awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i gyhoeddi dolen at y Cynllun Ardal a'r Cynllun Gweithredu ar wefan y Cyngor; ac

Awdurdodi Cyfarwyddwr Pobl, Cyngor Abertawe, i gyflwyno’r Cynllun Ardal a’r Cynllun Gweithredu i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd yn rhanbarth Bae’r Gorllewin, wedi’u cydlofnodi gan Arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Abertawe a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

186.

Polisi Derbyn a Threfniadau Ysgol 2019-2020 pdf eicon PDF 165 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer polisi derbyn i ysgolion y Cyngor a'r niferoedd derbyn cyhoeddedig ar gyfer ysgolion. Eglurodd fod angen i’r awdurdod lleol gyhoeddi polisi derbyn a chanllawiau o ran trefniadau derbyn i'w ysgolion. Amlinellodd y broses ymgynghori o ran y trefniadau derbyn a chadarnhaodd nad oedd unrhyw sylwadau wedi dod i law.  

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd Dros Dro y broses ymgynghori ar gyfer y Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig ar gyfer pob ysgol ym Mhen-y-bont. Cadarnhaodd y cafwyd un ymateb gan Ysgol Gynradd Maes yr Haul, yn gofyn am gynnydd o 70 i 75. Asesodd swyddogion effaith y cynnig i sicrhau bod gan yr ysgol ddigon o le a chytunodd ei fod yn bosibl ac y byddai'r awdurdod lleol yn elwa arno, yn ogystal â'r ysgol a rhieni.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd Dros Dro y goblygiadau ariannol a dywedodd y byddai rhaid i’r Gyllideb Ysgolion Unigol gyffredinol bresennol ariannu unrhyw gynnydd yn niferoedd disgyblion.

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y cynigion a dywedodd nad oedd unrhyw sylwadau wedi nodi bod y cyhoedd yn cydnabod bod yn ddogfen yn deg ac yn rhesymol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gadarnhad nad oedd unrhyw sylwadau wedi dod i law gan unrhyw Aelodau, Aelodau'r Cynulliad, ysgolion, penaethiaid, rheini na llywodraethwyr ac eithrio’r ymateb gan Ysgol Gynradd Maes yr Haul.  Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd Dros Dro fod hyn yn gywir.

 

PENDERFYNWYD:            Gwnaeth y Cabinet

 

·                    gymeradwyo Polisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion 2019-2020;

·                     cymeradwyo’r newidiadau i niferoedd derbyn cyhoeddedig ysgolion ar gyfer 2019-2020 (gweler tabl 1);

·                    dileu cyfeiriadau at drefniadau pontio ar gyfer ysgolion cynradd Maes yr Haul, Trelales a Phencoed o Bolisi Derbyn 2019-2020 a pholisïau yn y dyfodol; a

dileu cyfeiriadau at y datblygiad Linc Cymru (Trem-y-Castell) o Bolisi Derbyn 2019-20 a holl bolisïau derbyn yn y dyfodol.

187.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusness y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o’r farn y dylid eu hystyried yn y cyfardol fel mater o frys yn unol a Rhan 4 (pharagraff 4) o’r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.