Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 27ain Chwefror, 2018 14:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

158.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R Young fuddiant personol yn yr adroddiad gwybodaeth, Arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Litchard, oherwydd ei fod yn llywodraethwr ysgol yn yr ysgol honno.    

Datganodd y Cynghorydd P White fuddiant personol yn yr adroddiad gwybodaeth, Arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Betws, oherwydd ei fod yn llywodraethwr ysgol yn yr ysgol honno.     

159.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 111 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/01/18

 

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :  Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 ain Ionawr 2018 fel cofnod gwir a chywir.  

160.

Adnewyddu Yswiriant pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i adnewyddu rhaglen yswiriant y Cyngor ac yn hysbysu'r Cabinet am ganlyniad yr ymarferiad ail-dendro ar gyfer y polisi difrod perthnasol a gwaith contract. Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet hefyd i awdurdodi Marsh UK Limited fel brocer yswiriant penodedig y Cyngor i dderbyn gwarchodaeth ar gyfer ystod lawn y polisïau ar ran y Cyngor.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y polisi difrod perthnasol a gwaith contract yn destun cytundeb tymor hir a oedd yn dod i ben ar 30 Mawrth 2018. Felly, cynhaliwyd ymarfer ail-dendro trwy Gytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro y newidiadau i'r premiymau net fel y dangosir yn nhabl 1 yr adroddiad. Cadarnhaodd fod cynigwyr wedi cael gwybod y rhoddir dyfarniadau i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd yn seiliedig ar bwysiad o 60% am bris a 40% am ansawdd.  Ar ôl ystyried y ceisiadau a dderbyniwyd, argymhellodd Marsh UK Limited gytundeb tymor hir pum mlynedd gyda gostyngiad mewn premiwm o £120,940.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a'r gostyngiad yn y premiwm am yr un lefel o warchodaeth a oedd yn fargen dda i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD :Cymeradwyodd y Cabinet dderbyn y dyfynbrisiau ym mharagraffau 4.1 a 4.15 ac adnewyddu'r rhaglen yswiriant trwy Marsh UK Limited fel Brocer Yswiriant penodedig y Cyngor.     

161.

Ailfodelu Llety Pobl Hŷn pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn tendro un o gartrefi gofal preswyl mewnol CBSP a oedd ar hyn o bryd yn gymwys am gynlluniau cynllun Tai Gofal Ychwanegol (ECH), fel busnes gweithredol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gefndir y cynigion a manylion am amserlen y prosiect a ddarparwyd gan Linc Cymru ar gyfer y safleoedd ym Maesteg ac Ynysawdre. Eglurodd fod gwerthusiad wedi’i wneud yn dilyn y cyfle i ddarparwr annibynnol brynu un o dri chartref gofal y Cyngor fel busnes gweithredol. Nodwyd T? Cwm Ogwr fel yr un mwyaf priodol ac ym mis Gorffennaf 2017 rhoddodd y Cabinet awdurdod ar gyfer ymgysylltu wedi’i dargedu ac ymgynghori gydag unigolion, teuluoedd a staff yr effeithir arnynt gan y cynnig. Ym mis Ionawr 2018, croesawodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau y cynnig gan gynnwys cyfraniad Undeb Llafur yn ystod y broses ymgysylltu ac ymgynghori. Mynegodd yr Aelodau bryderon yngl?n â chyfraddau ymateb yr arolwg ac argymhellodd, wrth adrodd i'r Cabinet, y dylid darparu manylion ychwanegol yngl?n ag arbedion posibl a phrosesau diogelu yr ymdriniwyd â hwy yn yr adroddiad diweddaraf.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y broses ymgysylltu ac ymgynghori, gan gynnwys ailgysylltu gyda thrigolion nad oeddent yn sicr ynghylch y cynigion neu lle gofynnwyd am wybodaeth bellach. Eglurodd y dull caffael gan ddefnyddio'r Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd gyda meini prawf sefydledig a phwysiad priodol yn cael eu cymhwyso at ansawdd / pris. Eglurodd y rhagwelir y byddai tua 40 o staff sy’n cael eu cyflogi yn Nh? Cwm Ogwr cyn ei drosglwyddo yn symud ar draws wrth gychwyn y contract yn dibynnu ar sut yr oedd y darparwr llwyddiannus yn bwriadu cyflwyno'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fanteision a risgiau'r cynnig gan gynnwys y camau a gymerwyd i liniaru'r risgiau. Yng ngoleuni'r ymateb cadarnhaol i'r cynnig a dderbyniwyd gan y rhai a effeithir yn uniongyrchol a'r buddion cysylltiedig, argymhellwyd bod cartref gofal T? Cwm Ogwr yn cael ei dendro fel busnes gweithredol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles na fyddai goblygiadau ariannol i GBSP mewn ymsefydlu modelau gofal newydd dros amser gan y byddai cyllid ychwanegol lleoliadau Nyrsio / Nyrsio EMI yn cael eu talu trwy daliadau Gofal Nyrsio a Ariennir.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyflwyniad cynhwysfawr ac yn arbennig am y sylw a roddwyd i’r elfennau risg a chyllid. Byddai'r cynnig hwn yn sicrhau darpariaeth gofal nyrsio y byddai croeso mawr iddo a byddai'n sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o welyau ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn hapus bod T? Cwm Ogwr yn ei ward a bod y stori hon yn newyddion da i'r staff a'r preswylwyr. Ni fyddai unrhyw newidiadau o ran perfformiad a byddai CBSP yn dal i fod ynghlwm wrth fonitro contractau. Roedd llawer o ddarparwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 161.

162.

Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaethau Preswyl i Blant pdf eicon PDF 427 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am y gwaith a wnaed fel rhan o'r prosiect Ail-fodelu Gwasanaethau Preswyl i Blant a gofynnodd am gymeradwyaeth i weithredu model newydd arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Preswyl i Blant.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant yn darparu lleoliadau preswyl ar hyn o bryd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal trwy ddau gartref, Sunnybank a Newbridge House yn y Fwrdeistref Sirol. Eglurodd fod adborth gan staff yn ystod sesiynau ymgysylltu wedi nodi nifer o broblemau gyda'r model gwasanaeth presennol a'r ffyrdd yr oedd cartrefi yn cael eu strwythuro ar hyn o bryd fel y'u rhestrir yn yr adroddiad. Roedd y Gyfarwyddiaeth hefyd yn darparu gwasanaeth llety â chymorth mewnol i bobl ifanc nad ydynt eto'n barod i fyw'n gwbl annibynnol. Cyfeiriwyd hefyd at leoliadau preswyl costus y tu allan i'r sir, gyda 10 o bobl ifanc ar gyfartaledd yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir ar unrhyw adeg. Gallai nifer o unigolion fod wedi aros yn y sir pe bai model gwasanaeth mwy effeithiol ar gael.

 

Cynhaliwyd cryn dipyn o ymgysylltu i roi sylw i'r model arfaethedig, gan gynnwys ymchwil i arloesedd ac arferion gorau ar draws y DU ac ymgysylltu â phreswylwyr presennol a chyn-breswylwyr y cartrefi preswyl. 

Ym mis Tachwedd 2017 a mis Ionawr 2018, bu'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau yn ystyried adroddiadau a chyflwyniad ar y model arfaethedig. Canmolodd y Pwyllgor Craffu yr adroddiad a gofynnodd am roi ystyriaeth i hyfforddiant rhanbarthol ar y cyd, contractau gofalwyr maeth a datblygiad gyrfa a chynllunio wrth gefn wrth weithredu’r broses cynllunio.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y model delfrydol a oedd yn creu amrywiaeth ehangach o leoliadau mewnol a oedd yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion cynyddol gymhleth y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal. Roedd y model hefyd yn creu mwy o ddewisiadau i blant a phobl ifanc gael eu lleoli yn nes at eu cartrefi gan sicrhau bod opsiwn o ddod â phobl ifanc sy’n cael eu lleoli y tu allan i'r sir yn ôl. Esboniodd fod cynllun gweithredu llawn wedi'i ddatblygu, gyda'r nod o weithredu'r model yn llawn erbyn diwedd 2018/19.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles elfennau allweddol y model newydd arfaethedig, y cynnydd mewn gwariant ar wasanaethau therapiwtig, cyflwyno gofalwyr trosiannol a'r rhaglen hyfforddi newydd. Eglurodd hefyd y goblygiadau ariannol yn seiliedig ar ragdybiaethau sylfaenol yr oedd swyddogion yn rhagweld fyddai’n arwain at y gostyngiadau mewn costau a nodwyd yn yr adroddiad.         

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad a dywedodd ei fod yn falch o'r ymgysylltiad a'r sylwadau a dderbyniwyd.  Roedd yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud o hyd ar ôl i berson ifanc adael gofal.  

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn falch bod y cynigion wedi cael eu harchwilio ddwywaith a bod cefnogaeth gan aelodau'r meinciau cefn. Ymgynghorwyd â phobl ifanc yn gynnar yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 162.

163.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i benodi llywodraethwr yr awdurdod lleol i gorff llywodraethu'r ysgol a restrir yn yr adroddiad. Oherwydd gwall gweinyddol, nid ystyriwyd y cais gyda'r penodiadau eraill ar ddiwedd Ionawr 2018.

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr argymhelliad a chymerodd y cyfle i dynnu sylw'r cyhoedd at swyddi gwag a oedd yn bodoli i bobl sy'n gweithio yn y gymuned ddod yn llywodraethwyr awdurdodau lleol gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

 

PENDERFYNWYD :     Cymeradwyodd y Cabinet y penodiadau a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad

164.

Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi cyfle i'r Cabinet ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 o ran Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro fod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 wedi ystyried adroddiad ar ADY ym mis Medi 2017. Ym mis Rhagfyr 2017 derbyniodd y Cabinet adroddiad gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 mewn perthynas ag ADY a wnaeth nifer o argymhellion i'r Cabinet. Yna amlinellodd argymhellion y pwyllgor ac ymatebion y swyddogion fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau am yr argymhellion ac i'r swyddogion am eu hymatebion. Cytunai â'r argymhellion a chredai fod swyddogion hefyd yn cytuno'n llwyr ac o bosibl eu bod ychydig o gamau ar y blaen Croesawodd yr ymateb yn arbennig yngl?n â chynlluniau interniaeth gyda chefnogaeth a dysgu seiliedig ar waith.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau am y set fanwl o argymhellion ac ymatebion a dywedodd na fyddai goblygiadau llawn y ddeddf yn dod yn glir nes iddi gael ei gweithredu'n llawn. Awgrymodd yr Arweinydd y dylid cyflwyno adroddiad pellach ymhen 12 mis.

 

PENDERFYNWYD :  Fe wnaeth y Cabinet:

·                ystyried a chymeradwyo ymatebion y swyddogion i'r argymhellion ym mharagraff 4 o'r adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 mewn perthynas ag ymateb yr awdurdod lleol i'r Bil Diwygio ADY.

gofyn am adroddiad pellach ymhen 12 mis pan fyddai effaith lawn y Bil ar ddysgwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hysbys.

165.

Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Cynnig i wneud Newidiadau i Ganolfan Adnoddau Dysgu ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd - Adroddiad am Wrthwynebiadau pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am ganlyniad y broses wrthwynebiadau statudol a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) mewn perthynas â'r cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gyfun Gymraeg.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg Gorfforaethol a Chymorth Teuluol Dros Dro, er mwyn symud ymlaen â'r cynnig, y cynhaliwyd ymarferion ymgynghori rhwng 6 Medi a 21 Hydref 2017 gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a hefyd y gymuned ehangach yn unol â'r Cod Statudol ar gyfer Trefniadaeth Ysgolion. Cyhoeddwyd y cynnig wedyn am gyfnod o 28 diwrnod a gwahoddwyd gwrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn. Dywedodd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus hwn ac felly gellid gweithredu'r cynnig gyda chymeradwyaeth y Cabinet.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio mai dyma oedd diwedd proses ffurfiol hir a bod angen symud ymlaen ynghylch yr agwedd hon ar addysg.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi ei galonogi o  ddarllen y sylwadau cadarnhaol iawn a gafwyd gan yr holl randdeiliaid a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Roedd yn falch fod dros chwarter miliwn o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi mewn dosbarthiadau newydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ar lefel gynradd ac uwchradd.

 

PENDERFYNWYD : Fe wnaeth y Cabinet:

 

• Nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus ac o ganlyniad;

 

• Cymeradwyo gweithredu’r cynnig.

166.

Comisiynu a Dyfarnu Contractau ar gyfer Rhaglen Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i barhau i ddarparu 3 chontract a gyllidir o dan Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd hefyd am gymeradwyaeth i atal rhannau perthnasol ‘CPR’ y Cyngor ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i ymrwymo i'r contractau gyda'r darparwyr a restrir yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth gefndir i'r tri chontract, Cynllun Adleoli Pobl Agored i Niwed Syria, Prosiect Grymuso Rhyddhau Carcharorion a Llety Dros Dro gyda Chymorth ar gyfer Pobl Ddigartref ac amlinellodd y sefyllfa bresennol a'r cynnig ar gyfer pob un.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod angen i'r Cabinet fod yn ymwybodol ei fod trwy ymrwymo i gontractau tymor byr gyda'r darparwyr presennol a restrir yn yr adroddiad, yn peri bod y Cyngor yn agored i'r risg o her bosibl gan ddarparwyr eraill gwasanaethau o'r fath. Ychwanegodd fod anawsterau wrth gomisiynu'r gwasanaethau hyn oherwydd bod y cyllid ar gyfer contractau o'r fath o dan raglenni ariannu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn anhysbys. Roedd hyd arfaethedig y contract Llety Dros Dro gyda Chymorth i Bobl Ddigartref yn gymharol fyr ac roedd ganddo werth isel. Roedd angen i’r risg a nodwyd yn yr adroddiad gael ei bwyso yn erbyn yr angen i ddarparu gwasanaeth ataliol i atal digartrefedd rhag digwydd.

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yr argymhellion a phwysleisiodd ei bod yn bwysig nodi y byddai hyn yn sicrhau parhad gwasanaeth i bobl agored i niwed.  

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y rhesymau dros atal ‘CPRs’ y Cyngor wedi'i gyflwyno’n dda yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod y cynllun Adleoli Pobl Agored i Niwed Syria yn cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref ac nad oedd unrhyw gost ychwanegol i'r awdurdod.

 

PENDERFYNWYD :Fe wnaeth y Cabinet:

·                atal rhannau perthnasol ‘CPRs’ y Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i aildendro'r contractau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

·                cymeradwyo parhau â chyflwyno gwasanaeth 3 chontract a gyllidir dan Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i ymrwymo i'r contractau gyda'r darparwyr a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

167.

Argymhelliad Panel Trosolwg a Chraffu Ymgysylltu ag Aelodau ac Ysgolion pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 adroddiad ar ganfyddiadau ac argymhelliad cyfarfod Panel Ymgysylltu ag Aelodau ac Ysgolion (MSEP) â Maesteg.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod Ysgol Maesteg wedi cael ei hamlygu fel ysgol i'r Panel ei hystyried gyda'r rhesymeg bod yr awdurdod lleol wedi anfon llythyr achosi pryder at yr ysgol ym mis Hydref 2016.  Roedd gwybodaeth gan y Gyfarwyddiaeth yn egluro y mynegwyd pryder am ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr ysgol oherwydd yn 2016, yn seiliedig ar ddata a adroddwyd gan yr ysgol, bu gostyngiad ym mron pob dangosydd perfformiad allweddol yng nghyfnod allweddol 4. Roedd y dirywiad yn sylweddol mewn mathemateg ar lefel 2 a'r trothwy lefel dau mewn Saesneg / Cymraeg a mathemateg.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y MSEP wedi cyfarfod â'r Pennaeth, Mrs Helen Jones a Chadeirydd y Llywodraethwyr, y Cyng. Keith Edwards, ynghyd â Swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar 22 Tachwedd 2017. Derbyniodd y Panel wybodaeth fanwl i'w cynorthwyo yn eu trafodaethau ac wrth ddatblygu cwestiynau gan gynnwys data diweddar yr ysgol, y cynllun Gwella Ysgol, Adroddiad Ymchwiliad Ysgol Consortiwm Canolbarth y De ac Adroddiad Cynnydd Tymor 2 yr Haf.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r pwyllgor am eu trafodaethau a'u hargymhelliad a chadarnhaodd fod swyddogion wedi ymateb yn briodol a’u bod eisoes yn gweithredu ar y pwyntiau allweddol. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth Teuluol Dros Dro fod cyfarfod cadarnhaol iawn wedi bod ym mis Tachwedd yn Ysgol Maesteg lle ystyriwyd nifer o faterion. Roedd yr holl argymhellion wedi'u derbyn ac roedd yr ysgol yn cael ei chefnogi yn unol â hynny. Un her oedd broceru lefel ddigonol o gefnogaeth gan y Consortiwm. Roedd yr adborth a gafwyd gan y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr ers y cyfarfod wedi bod yn gadarnhaol iawn.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei ddiolch i’r Panel Trosolwg a Chraffu ar Ymgysylltu ag Aelodau a’r Ysgol a'r Cadeirydd. Teimlai’n fodlon fod llawer iawn o gefnogaeth eisoes wedi'i rhoi ar waith. Cytunodd â'r argymhelliad y dylid rhoi cefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol a'r Consortiwm ar gyfer ysgolion yn syth ar ôl cyhoeddi llythyr achos i bryderu.    

 

PENDERFYNWYD :   Fe wnaeth y Cabinet:

 

     Nodi sylwadau a phwyntiau allweddol y Panel Ymgysylltu ag Aelodau a’r Ysgol mewn perthynas ag Ysgol Maesteg.

 

     Cymeradwyo argymhelliad y Paneli fel y nodwyd yn 4.2 yr adroddiad.

168.

Y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynnwys eitemau ar y Flaenraglen Waith am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2018.

 

Dywedodd, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, y byddai'r Flaenraglen Waith yn cael ei pharatoi i gynnwys cyfnod o 4 mis ac y byddai'n cynnwys materion y byddai'r Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cyngor yn debygol o'u hystyried.

 

PENDERFYNWYD :   Fe wnaeth y Cabinet:

 

(1)       Gymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

(2)       Nodi Blaenraglen Waith y Cyngor a’r Pwyllgor Craffu, fel y’u dangosir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad, yn y drefn honno.</AI10>

<AI11>

 

169.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am yr Adroddiadau Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cabinet: -

 

Canlyniadau Arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Litchard

Canlyniadau Arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Betws

Adroddiad Monitro - Cwynion, Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data.

 

O ran adroddiadau Arolygiad Estyn, cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei longyfarchiadau i Ysgol Gynradd Litchard am eu perfformiad, a geiriau o anogaeth i Ysgol Gynradd Betws. Cydnabu fod Betws yn symud o un adeilad i'r llall adeg yr arolygiad ac y byddai cefnogaeth addas yn cael ei rhoi ar waith nawr. 

 

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau'r holl staff sy'n ymwneud ag Ysgol Gynradd Litchard am y canlyniadau ardderchog. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r Aelod Cabinet yn ymweld â'r ddwy ysgol i'w llongyfarch. 

 

PENDERFYNWYD :  Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi'r dogfennau a restrir yn yr adroddiad.    

170.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

171.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :O dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael ei eithrio o'r cyfarfod gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth esempt o fath fel y nodwyd uchod.

172.

Cymeradwyo Cofnodion Esempt

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 30/01/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :  Bod cofnodion esempt cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 ain Ionawr 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.