Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 20fed Tachwedd, 2018 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

265.

Datganiadau o fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a  rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau/Swyddogion yn unol a darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008

Cofnodion:

Ni wnaed dim datganiadau o fuddiant.

266.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y Cabinet 23/10/2018

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Bod Cofnodion cyfarfod y Cabinet, dyddiedig 23 Hydref 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

267.

Strategaeth Ariannol y Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad, a phwrpas hwn oedd cyflwyno i'r Cabinet Strategaeth Ariannol y Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 (SATC), sy'n egluro blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllido a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y Strategaeth hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol am 2019-2023, a Chyllideb Refeniw Ddrafft fanwl ar gyfer 2019-20.

 

Cychwynnodd ei chyflwyniad, drwy ddweud bod y  SATC wedi cael ei harwain gan dair blaenoriaeth y Cyngor, fel y cawsant eu cynnwys yn ei Gynllun Corfforaethol.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn cynnwys cyllideb naratif, oedd yn anelu at gyfleu'r buddsoddiad parhaus a sylweddol y bydd y Cyngor yn ei wneud yn y gwasanaethau cyhoeddus. Roedd hefyd yn egluro sut roedd y Cyngor yn bwriadu newid rhai meysydd darparu gwasanaethau arbennig a beth fyddai canlyniadau ariannol hyn.

 

Wedyn, rhoddai’r adroddiad drosolwg ariannol, ac yn dilyn hyn rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro esboniad o faint o'r gyllideb oedd yn cael ei ddyrannu i bob un o'r meysydd gwasanaeth allweddol fel a ganlyn:-

 

·         Addysg

·         Gofal Cymdeithasol a Chymorth Buan

·         Tir Cyhoeddus

·         Cefnogi'r Economi

·         Gwasanaethau Eraill

 

Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod Strategaeth Ariannol Tymor Canol (SATC) y Cyngor wedi ei gosod yng nghyd-destun cynlluniau economaidd a gwariant cyhoeddus y DU, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'i rhaglen ddeddfwriaethol.

 

Rhoddodd esboniad yngl?n â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar 2 Hydref 2018, a sut yr oedd hon yn effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Ers hynny cafwyd cyllideb hydref y Llywodraeth Ganolog ar 29 Hydref, oedd yn cadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £550 miliwn dros y blynyddoedd 2018-19 i 2020-21.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn egluro beth yr oedd y setliadau uchod yn ei olygu i'r Awdurdod hwn, oedd yn adlewyrchu ar gyfer 2019-20 ostyngiad o £1.616 miliwn neu -0.84%. Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd fod y setliad yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol i liniaru'r pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. Pe cymerid hyn hefyd i ystyriaeth, y wir sefyllfa i Ben-y-bont ar Ogwr oedd gostyngiad o -1.3% neu £2.5 miliwn. Roedd y setliad hefyd yn cynnwys £2.5 miliwn o gyllid gwaelodol i sicrhau nad oes rhaid i'r un Awdurdod ymdopi â gostyngiad o fwy nag 1% yn ei Grant Cynnal Refeniw y flwyddyn nesaf.

 

Ar y cyfan roedd y setliad amodol yn cyd-fynd â'r rhagdybiaeth "fwyaf tebygol" o -1.5% sydd wedi ei gynnwys yn SATC 2019-20 gwreiddiol y Cyngor, ond nid oedd yn cydnabod nifer o bwysau newydd y byddai’n rhaid i'r Cyngor eu hwynebu.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn amlinellu'r rhesymau pam yr oedd angen mynd i'r afael â'r pwysau ariannol, y byddai'n rhaid i'r Cyngor eu hwynebu yn y flwyddyn sydd i ddod, drwy ystyried cynnydd o 5.4% yn y Dreth Gyngor.

 

Wedyn, dangosai paragraff 4.11 yr adroddiad, yn Nhabl 1, gymhariaeth rhwng y gyllideb a'r canlyniad a ddisgwylid ar 30 Medi 2019, oedd yn adlewyrchu tanwariant net o 2,551 miliwn.

 

Dangosai Tabl 2, ym  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 267.

268.

Parc Afon Ewenni pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a bwriad hwn oedd datblygu Depo Priffyrdd modern yn Waterton ar ôl troed llai i ganiatáu i gynnig safle adfywio Parc Afon Ewenni (PAE) fynd yn ei flaen a sicrhau gofynion y depo i'r dyfodol ar gyfer y Cyngor fel rhan o'r broses gyffredinol o resymoli'r depo. Gofynnai’r adroddiad am gymeradwyaeth bellach i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn cynnig diwygiad i'r Rhaglen Gyfalaf i swm cyfalaf pellach o £4,944,000 gael ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf er mwyn llwyr ailddodrefnu a datblygu'r depo.

 

Rhoddai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndir oedd yn cadarnhau bod cymeradwyaeth wedi ei roi gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2016, fel mesur dros dro, i barhau i weithredu Depo ar ôl troed llai yn Waterton am y 4-5 mlynedd nesaf ac amlinellai'r adroddiad rai dewisiadau y gellid eu dilyn er mwyn cyflawni hyn.

 

Tynnodd sylw’r Aelodau at baragraff 3.5 yr adroddiad, lle roedd yn sôn yr ystyrid ei fod yn debygol y byddai unrhyw ffurfwedd ar ad-drefnu llywodraeth leol yn y dyfodol yn dal i fod angen Depo Priffyrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wasanaethu'r Fwrdeistref Sirol. Roedd y gost o ddarparu Depo Priffyrdd newydd mewn lleoliad newydd yn debygol o gostio swm sylweddol fwy na'r £6.5 - £7.5 miliwn a amcangyfrifid yn ôl yn 2016. Amcangyfrifid yn awr y byddai cost Depo newydd mewn lleoliad newydd o gwmpas £9 - £12 miliwn, o ganlyniad i ofynion newidiol (tebygol) a thrymach Cyfoeth Naturiol Cymru. Gan gydnabod hyn, roedd y dewis o redeg depo oedd heb ei newid ers 4/5 mlynedd fel mesur dros dro ac wedyn adeiladu depo newydd mewn lleoliad gwahanol yn edrych yn fwyfwy anfforddiadwy.

 

Wedyn, rhoddai paragraff 3.6 yr adroddiad wybodaeth ynghylch ymchwiliad a gynhaliwyd i nodi'r gwahaniaethau rhwng parhau i redeg y depo ar ôl troed llai am 4-5 mlynedd, gyda depo newydd yn cael ei adeiladu mewn lleoliad newydd wedi hynny a'r dewis arall o ddatblygu depo gweithredol parhaol ar ôl troed llai yn Waterton.

 

Wedyn cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau at adrannau dilynol yr adroddiad ar y dewisiadau a awgrymwyd, gan gynnwys yr hyn yr oedd Bwrdd PAE wedi ei gytuno, a bod cyfanswm y gyllideb gyfalaf bresennol ar gyfer y cynllun yn £4.376 miliwn. Fodd bynnag, roedd peth o'r gyllideb hon wedi ei rwymo eisoes i waith yn Nepo Bryncethin, o ganlyniad i symud rhai o weithrediadau'r parciau a'r amgylchedd adeiledig i'r lleoliad hwn, gan adael balans o £3.2 miliwn.

 

A throi at y sefyllfa bresennol, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr amcangyfrifid mai cost cynllun yr hyn oedd y dewis gorau ar hyn o bryd, oedd oddeutu £8.144 miliwn. Fodd bynnag, oherwydd costau ychwanegol eraill, roedd yna bellach ddiffyg rhwng cost gyffredinol y gwaith cynnal a chadw/cydymffurfio a'r cyfanswm net yr amcangyfrifid a geid am y tir a'r gyllideb gyfalaf bresennol. Er mwyn symud ymlaen gyda'r dewis hwn, roedd angen buddsoddiad cyfalaf pellach o oddeutu £4.944 miliwn yn ychwanegol at y cyfalaf yr amcangyfrifid oedd yn weddill o £3.2 miliwn, fyddai'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 268.

269.

Ein Mannau Gwyrdd - Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cyflwyno cais llawn i'r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) ac, os byddai'n llwyddiannus, derbyn y cynnig o gyllid a fyddai'n dilyn a gwneud unrhyw gytundebau cyfreithiol a rheolaethol fyddai'n ofynnol i weithredu'r prosiectau a ariennid gan y grant.

 

Dywedodd fod y Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac yn cefnogi prosiectau sy'n gwneud gwelliannau mewn ardaloedd preswyl drwy ddod â buddion i bobl, busnesau a chymunedau.

 

Ychwanegodd fod y cynnig uchod wedi cael ei rannu gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ac yna aeth ymlaen i esbonio mai prosiect oedd Ein Mannau Gwyrdd ar gyfer rheoli seilwaith gwyrdd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er lles y bobl, busnesau a chymunedau. Rhannwyd y prosiect yn bedair thema oedd yn cydredeg gyda Chynllun Lles y BGC, ac wrth gael ei gyflawni, byddai'n nodi cyfleoedd i gynyddu buddion ar draws ystod o safleoedd, megis:-

 

  • Galluogi'r cychwyn gorau mewn bywyd
  • Galluogi cymunedau diogel a chydlynol
  • Galluogi cydraddoldeb
  • Galluogi dewisiadau iach mewn amgylchedd iach.

 

Gyda golwg ar oblygiadau ariannol yr adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y bwriedid i'r cyfnod o amser dan sylw gychwyn yng ngwanwyn 2019 a dod i ben yng ngwanwyn 2022, yn amodol ar brosesau penderfynu LlC. Cyfrifid ar hyn o bryd mai £734,579 fyddai cost y prosiect. Roedd dadansoddiad o'r pecyn cyllido fel y'i drafftiwyd ar y pryd yn cael ei ddangos ym mharagraff 8.2 yr adroddiad. Roedd hyn, fodd bynnag, yn amodol ar drafodaeth derfynol gyda LlC ac efallai y câi ei newid.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet - Addysg ac Adfywio fod yr adroddiad yn cynnwys swm sylweddol o gyllid i gefnogi mathau amrywiol o raglenni mannau agored, gan gynnwys cysylltu ag ysgolion hefyd, iddynt annog disgyblion i wneud y gorau o'r mannau hyn er mwyn hybu iechyd a lles.  Roedd yna raglenni eraill, er enghraifft y Cynllun Rheoli Cynaliadwy a'r Rhaglen Refeniw Sengl 18-19 oedd i gyd yn cyfrannu i fuddsoddiad gwerth £1.1 miliwn (i fannau agored).

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth i ben, drwy ailadrodd bod y rhan fwyaf o'r adnodd yn dod o gyllid grant, ac y byddai hefyd yn lles i fywyd gwyllt ac ecoleg yn ogystal â'r unigolion eu hunain.

 

PENDERFYNWYD       Bod y Cabinet:

 

(1)  Yn cymeradwyo cyflwyno cynnig Ein Mannau Gwyrdd fel yr amlinellwyd am y Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles;

 

(2)  Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau gwblhau a chyflwyno'r cais llawn, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, a derbyn unrhyw gyllid a gynigid o ganlyniad. 

 

(3)  Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, ar ôl iddo dderbyn unrhyw gynnig o gyllid a ddeuai o ganlyniad, i osod yn eu lle y cytundeb cyfreithiol a’r cytundeb rheoli mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol a Swyddog Adran 151.

270.

Diweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad i'r Cabinet am Gynllun Adfywio Porthcawl, a gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn cynnig adolygu'r rhaglen gyfalaf er mwyn buddsoddi'r cyfalaf y disgwylid ei dderbyn drwy werthu tir o gwmpas Maes Parcio Salt Lake. 

 

Gofynnai'r adroddiad hefyd am gymeradwyaeth i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor er mwyn sicrhau ariannu cyfatebol ar gyfer gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol fyddai’n datgloi cyfnodau datblygu yn y dyfodol.

 

Amlinellai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndir, ac wedyn cadarnhâi'r amrywiol gyfnodau o waith oedd yngl?n â'r cynllun.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod angen prosesu'r cynllun yn y ffordd hon, gan fod yn rhaid cymryd materion eraill i ystyriaeth yn gyntaf, er enghraifft, dadansoddi'r farchnad, cyfyngiadau seilwaith allweddol, yn ogystal â llif arian. Roedd cynllun oedd yn gysylltiedig â'r adroddiad yn egluro'r strategaeth o gyflawni'r cynllun fesul cyfnod.

 

Wedyn disgrifiodd er budd y Cabinet, Gyfnodau 1-7 y cynllun, fel y'u hamlinellwyd ym mharagraffau 4.2 i 4.10 yr adroddiad.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r gwahanol gyfnodau, oedd yn ymdrin â'r meysydd canlynol. Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn ymestyn dros 4 i 5 mlynedd:-

 

·         Cyfnod 1 - Safle'r Siop Fwyd

·         Cyfnod 2 - Tai

·         Cyfnod 3 - Maes Parcio Hillsboro Place

·         Cyfnod 4 - Y Promenâd Dwyreiniol a gwaith ehangach o amddiffyn yr arfordir rhag llifogydd

·         Cyfnodau 5 a 6 - Safleoedd Tai

·         Cyfnod 7 - Safle Hamdden

 

Wedyn ehangodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ar fuddsoddi'r Cyfalaf a dderbynnid a rhoddodd grynodeb o'r Derbyniadau Cyfalaf oedd wedi dod i law a'r ffyrdd y cynigid ailfuddsoddi'r rhain.

 

Byddai hyn yn arwain at barcio ceir yn fwy effeithlon ym Maes Parcio Hillsboro Place; gwelliannau i Salt Lake er mwyn iddo gael ei redeg fel maes parcio cyhoeddus yn y cyfamser, cyn i'r ardal hon gael ei datblygu (sef Cyfnodau 5 a 6 y Cynllun). Ychwanegodd fod yna welliannau arfaethedig hefyd i wneud Portway yn fwy hygyrch, gan gynnwys mannau croesi a'r posibilrwydd o barcio ar y stryd i'w gwneud yn haws cyrraedd canol y dref.

 

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn fwriad hefyd gwneud gwaith ffisegol i'r safle hamdden er mwyn ei gwneud yn bosibl defnyddio'r fan hon dros dro fel rhan o'r Strategaeth Hamdden interim, ac yn olaf, cyfres o welliannau ffisegol mewn mannau allweddol eraill, megis y giât i'r safle (o bosibl mewn partneriaeth â Chyngor y Dref), y promenâd a'r cysylltiadau â chanol y dref i gerddwyr.

 

Wedyn cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod y cynigion yn yr adroddiad wedi cael eu hasesu yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod crynodeb o’r asesiad i'w weld ym mharagraff 7 yr adroddiad.

 

Wedyn daeth â'i gyflwyniad i ben drwy sôn am oblygiadau ariannol yr adroddiad a gofynnodd am i £2.64 miliwn o gostau'r prosiect oedd yn gysylltiedig â Chynllun Adfywio Strategol Porthcawl gael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet - Addysg ac Adfywio fod y Cyngor yn wastad wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 270.

271.

Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Ardal Rheoli Ansawdd Aer Arfaethedig pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad ar y mater uchod a chyflwynodd Reolwr Gweithredol y Cydwasanaethau Rheoleiddio (SRS), y Rheolwr Gweithredol - Menter a Gwasanaethau Arbenigol a Swyddog y Gwasanaethau Arbenigol i esbonio materion technegol yr adroddiad.

 

Pwrpas yr adroddiad, oedd yn cael ei ategu gan y dystiolaeth a amlinellwyd yn y Nodyn Technegol atodedig yn Atodiad 1, oedd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo gorchymyn yn dynodi Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA). Roedd yn ofynnol i'r Cabinet gymeradwyo dynodi'r gorchymyn AQMA cyn cyflwyno fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru, ac i'r gorchymyn fod ar gael yn gyhoeddus.

 

Gofynnai’r adroddiad hefyd am gymeradwyaeth ar gyfer ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd gyda’r trigolion a’r busnesau y byddai'r gorchymyn yn effeithio arnynt, cyn y dyddiad gweithredu sef y 1af o Ionawr, 2019.

 

Rhoddai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndir, ac yn dilyn hynny cadarnhaodd fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2018, wedi cymeradwyo Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar Reoli Ansawdd Aer Lleol 2018 (APR) ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, fel y'i cynhyrchwyd gan SRS ar ran BCBC. Roedd yr adroddiad hwn wedi archwilio setiau data a gasglwyd yn ystod 2017 ac wedi nodi bod Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ardal o bryder neilltuol ac o ganlyniad bod angen AQMA.

 

Nodwyd wedi hynny, fod dau leoliad monitro nitrogen deuocsid (NO2) oedd ar ffasâd tai ar Stryd y Parc, fel y dangosid yn yr adroddiad, wedi cofnodi lefelau uwch o NO2, oedd yn fwy na'r lefelau cyfartalog blynyddol o gymharu â'r lefelau normal.

 

O dan Adran 83 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, roedd yn ofynnol i BCBC ddatgan AQMA yn gyfreithiol ar gyfer Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, a thrwy wneud hynny, codi gorchymyn AQMA oedd yn diffinio manylion a lleoliad yr AQMA.

 

Dywedodd y swyddogion fod gorchymyn AQMA drafft ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad, a chynigiwyd bod y gorchymyn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2019.

 

Fel rhan o ddatblygu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP), byddai SRS/BCBC yn ffurfio gweithgor trawsadrannol, fyddai’n archwilio ac asesu nifer o fesurau lliniaru, oedd wedi eu bwriadu i wella/lleihau lefelau NO2 mor rhesymol ag oedd yn ymarferol.

 

Yn olaf, dywedwyd wrth y Cabinet fel rhan o'r drefn AQAP, y cynhelid ymgynghoriad cyhoeddus, fyddai’n caniatáu i drigolion wneud sylwadau ar y mesurau lliniaru oedd mewn golwg yn ogystal â gwneud eu hawgrymiadau lliniaru eu hunain hefyd.

 

Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad, a disgwyliai am adroddiad pellach ar ganlyniad y cynigion uchod.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet:

 

(1)        Yn cymeradwyo’r penderfyniad i weithredu Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) ar Stryd y Parc ar sail y dystiolaeth a roddwyd.

(2)       Yn cymeradwyo manylion y Gorchymyn AQMA arfaethedig, fel y'i rhoddwyd yn Atodiad 2, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i roi ar gael i'r cyhoedd.

(3)       Yn cymeradwyo'r penderfyniad i gynnal ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus gyda'r trigolion a'r busnesau y byddai'r gorchymyn yn effeithio arnynt, cyn gweithredu'r Gorchymyn AQMA.

Y disgwylid adroddiad pellach ar y mater hwn maes o law.

272.

Rhaglen Waith i'r Dyfodol pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, er mwyn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo eitemau i'w cynnwys ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol (FWP) am y cyfnod o 1 Ionawr i 30 Ebrill 2019.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y Cabinet (Atodiad 1 i'r Adroddiad), y Cyngor (Atodiad 2) a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu (Atodiad 3).

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet:

 

1.      Yn cymeradwyo Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet am y cyfnod o 1 Ionawr i 30 Ebrill 2019, fel y dangoswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 2.        Yn nodi Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor a’r Pwyllgor Craffu, fel y dangoswyd yn Atodiad 2 a 3 yr adroddiad, yn y drefn honno.

273.

Enwebiadau i Gyrff Allanol pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i'r Cabinet gymeradwyo penodi'r Cynghorydd C A Green i Gyngor CLlLC i gymryd lle'r Cynghorydd N Clarke.

 

Amlinellai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndir ac yn dilyn hynny dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo argymhelliad yr adroddiad, y cynigid bod penodiad y Cynghorydd Green yn aros mewn grym tan Fehefin 2019, ac y gofynnid i'r Cabinet bryd hynny benodi neu ailbenodi i nifer o gyrff allanol a chydbwyllgorau yn ôl yr arfer.

 

Cynigwyd y penodiad ar y sail fod y sawl a benodid yn cynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phe bai hi'n peidio â bod yn Aelod o'r Awdurdod, y byddai ei phenodiad yn cael ei ollwng fel y byddai'n addas.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cymeradwyo penodi'r Cynghorydd C A Green i Gyngor CLlLC, i gymryd lle’r Cynghorydd N Clarke.

274.

Adroddiadau gwybodaeth i'w nodi pdf eicon PDF 51 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, er mwyn hysbysu'r Cyngor am yr Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi, oedd wedi cael eu cyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd.

 

Amlinellwyd y rhain ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Nododd yr Arweinydd, gyda golwg ar yr adroddiad ynghylch Arolygiad Estyn ar Ysgol Gynradd Tanyrheol, ei fod yn fwriad gan Estyn fonitro cynnydd fesul tymor oherwydd canfyddiadau'r Arolygiad.

 

I'r diben hwn, gofynnodd am i adroddiad pellach gael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law yn amlinellu'r cynnydd, gyda golwg ar y Cynllun Gweithredu a luniwyd gan Estyn i fynd i'r afael â'r argymhellion yr oeddent wedi eu gwneud er mwyn gwella perfformiad yr Ysgol.

 

Dymunai hefyd longyfarch Ysgol Maes yr Haul am yr adroddiad ardderchog yr oedd wedi ei dderbyn yn dilyn arolygiad tebyg a gynhaliwyd gan Estyn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

275.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 151 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 adroddiad ar y cyd, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad i'r Cabinet gyda golwg ar ganlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o fecanwaith ariannu Band B y Model Buddsoddi Cilyddol (MIM), a hefyd i ofyn am gymeradwyaeth y cabinet i ddilyn Dewis 3, ar gyfer ariannu Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

Fel cefndir i brif ddarpariaethau'r adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei sefydlu er mwyn cyflawni nifer o amcanion gan gynnwys:-

 

·         datblygu amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf;

·         lleoli'r nifer gywir o ysgolion, o faint hyfyw, yn y lleoedd gorau i wasanaethu eu cymunedau;

·         gwneud ysgolion yn rhan annatod o fywyd ac addysg yn eu cymunedau;

·         lleihau nifer y lleoedd dros ben a chyflawni gwerth gorau am arian; a

·         gwneud ysgolion yn fwy effeithlon a chynaliadwy.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 31 Rhagfyr 2018, wedi cymeradwyo mewn egwyddor yr ymrwymiad ariannol oedd yn ofynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Byddai'r gymeradwyaeth yn amodol ar y gallu i ganfod digon o adnoddau a'u dyrannu i ateb yr ymrwymiad o ariannu cyfatebol. Amcangyfrifid bod y rhaglen yn gyffredinol o gwmpas £68.2 miliwn ac o hyn disgwylid y byddai oddeutu £43.2 miliwn yn derbyn cyllid cyfalaf (oddeutu £23 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), a chynigid bod y balans yn cael ei gyllido drwy Fodel Buddsoddi Cilyddol Llywodraeth Cymru.

 

 

Ers i'r Bwrdd Adolygu Strategol Trosfwaol gael ei gymeradwyo ac wedyn ei gyflwyno ym mis Mai 2016, roedd Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r cynlluniau oedd wedi eu cynnig ar gyfer ei Model Buddsoddi Cilyddol (MIM), ac asesodd yr adolygiad hwn:-

 

  1. Dichonolrwydd cyflawni'r ysgolion unigol fel prosiectau MIM;
  2. Yr agweddau ymarferol cysylltiedig â grwpio ysgolion ynghyd fesul rhanbarth a gwerth cyfalaf; a
  3. Y llwybr caffael gorau.

 

Wedyn cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd at baragraff 4.6 yr adroddiad, oedd yn nodi rhai adeiladau newydd fel cyfleusterau delfrydol ar gyfer eu cyflawni drwy MIM.

 

Aeth ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oedd cynnwys cynlluniau bychain neu gynlluniau cymhleth iawn drwy MIM yn rhoi gwerth am arian. O ganlyniad, roedd Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr yn awr yn cael ei hystyried yn anaddas i'w chyflawni dan y model cyllido hwn. Penderfyniad Llywodraeth Cymru yn unig oedd hwn ar sail adolygiad diweddar. Yng ngoleuni'r penderfyniad hwn, mae angen ailystyried dull BCBC o gyllido cynlluniau Band B er mwyn dod i benderfyniad yngl?n â'r ffordd ymlaen.

 

Roedd prosiectau oedd yn cael eu symud ymlaen drwy MIM yn destun nifer o wahaniaethau o'u cymharu â chynlluniau yr ymgymerid â hwy drwy lwybr grant cyfalaf, gan gynnwys y broses gaffael a'r cyfraddau ymyrryd. Darparwyd cymhariaeth uniongyrchol rhwng pob llwybr yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Wedyn rhoddai'r adroddiad rai goblygiadau ariannol, ac ar ôl hynny dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 275.

276.

Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd Integredig (GCTI) y Bae Gorllewinol pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a phwrpas hwn oedd gofyn am gymeradwyaeth i lunio cytundeb cydweithredu diwygiedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas a Sir Abertawe, mewn perthynas â Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Integredig (IFSS) y Bae Gorllewinol.

 

Fel gwybodaeth gefndir, cadarnhâi'r adroddiad fod yr IFSS yn canolbwyntio ar deuluoedd lle roedd gan y rhieni broblemau camddefnyddio sylweddau oedd yn effeithio ar les y plant, ac mai rhaglen Llywodraeth Cymru ydoedd, oedd yn unigryw i Gymru.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau bod Bwrdd y Prosiect a'r partïon cysylltiedig, bellach wedi cytuno ar delerau cytundeb cydweithio diwygiedig ar gyfer y cyfnod o Ebrill 2017 i fis Mawrth 2019.

 

Amlinellai paragraff 3.6 yr adroddiad bwrpas y cytundeb diwygiedig, oedd yn cynnwys darpariaeth fyddai’n ei gwneud yn ddyletswydd ar y partïon i gydweithio i geisio sicrhau bod unrhyw aelodau perthnasol o staff yn cael eu trosglwyddo i'w hawdurdod mewn ffordd drefnus.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y gwasanaeth yn un pwysig iawn ac nad oedd BCBC yn troi cefn arno a'i fod yn un oedd yn gymorth i'r Awdurdod o ran trefniadau gofal. 

 

Ychwanegodd ymhellach, oherwydd y newid yn y ffiniau oedd i ddigwydd, y disgwylid i ran y BCBC yng nghydweithrediad rhanbarthol y Bae Gorllewinol ddod i ben ym mis Ebrill 2019, ac felly y byddai darpariaethau'r TUPE newydd yn amddiffyn BCBC rhag cyllido rhan anghymesur, neu’r cyfan, o unrhyw gostau diswyddo posibl.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cymeradwyo llunio cytundeb cydweithredu diwygiedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas a Sir Abertawe, mewn perthynas â Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Integredig (IFSS) y Bae Gorllewinol.

277.

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gysyniadau Posibl ar gyfer Darpariaeth Ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygiad addysg ôl-16 yn y dyfodol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ("Y Sir"). Roedd yr adroddiad diweddaraf hwn oedd gerbron yr Aelodau, yn rhoi'r Papur Ymgynghori Ôl-16 i'r Cabinet ac yn egluro'r dulliau a gynigid ar gyfer ymgynghori, ynghyd ag Asesiad Effaith Cychwynnol ar Gydraddoldeb ac Asesiad o ran Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Dywedodd fod y Cabinet ar 24 Ebrill 2018 wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar chwe chysyniad o ddarpariaeth addysgol ôl-16, fel y'u hamlinellwyd ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y papur ymgynghori, ar gysyniadau ar gyfer darpariaeth ôl-16 ar draws y Sir, erbyn hyn wedi cael ei baratoi a'i fod ynghlwm yn atodiad A yr adroddiad. Hefyd wedi eu cynnwys fel atodiadau i'r adroddiad roedd Asesiad Effaith cychwynnol ar Gydraddoldeb ac Asesiad o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). O'r cysyniadau a restrwyd ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad, Cysyniadau 4 a 5 oedd y dewisiadau oedd orau gan y Cabinet ar ôl adroddiad y Cabinet ym mis Ebrill 2018.

 

Amlinellwyd mwy o wybodaeth am y ddau Gysyniad hwn yn adrannau nesaf yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedyn at baragraff 4.5 yr adroddiad, oedd yn rhestru amrywiaeth o wybodaeth am gyd-destun yn ymwneud â darpariaeth ôl-16 fel yr oedd wedi ei gynnwys yn y papur ymgynghori. Byddai'r ymgynghoriad yn rhedeg o 26 Tachwedd 2018 hyd 22 Chwefror 2019.

 

O ran prif oblygiadau ariannol yr adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cyllid ar gyfer darpariaeth chweched dosbarth yn BCBC yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel un dyraniad grant ôl-16 bob blwyddyn. Roedd yna ddyraniad craidd, oedd yn seiliedig yn bennaf ar nifer y dysgwyr, gyda dyraniadau ychwanegol i gymryd amddifadedd dysgwyr ac addysg gyfrwng Cymraeg i ystyriaeth. Cyfanswm y cyllid ar gyfer 2018-19 oedd £5,829,430, ac o'r swm hwn roedd dros 97% yn cael ei ddosrannu i ysgolion uwchradd. Yn y tair blynedd ddiwethaf roedd y grant craidd wedi ei ostwng o £672,427 o ganlyniad i effeithiau cyfunol niferoedd llai o ddysgwyr a gostyngiadau gan Lywodraeth Cymru i'r grant ôl-16 canolog ar gyfer ysgolion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet - Addysg ac Adfywio nad oedd penderfyniadau pendant wedi eu gwneud hyd yma o ran cysyniadau posibl yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth ôl-16.

 

Gobeithiai'r Aelod o'r Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr ymgynghoriad yn cael ei ledaenu ar hyd ac ar led, ar draws ystod eang o sefydliadau, yn enwedig y rheiny oedd yn gysylltiedig â phobl ifanc, megis y Coleg Paratoi Milwrol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'r ymgynghoriad yn ymwneud ag ystod eang o sefydliadau a sectorau ac yn y blaen, yn enwedig busnesau lleol, gan gynnwys yr holl ddarparwyr hyfforddiant 16-18 mlwydd oed.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd, ei fod ef yn gobeithio y byddai'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 277.

278.

Eitemau Brys

I Ystyried unrhyw eitemau o fusness y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o’r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol a pharagraff 2.4 (e) o’r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

279.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Dan adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru) 2007, dylid eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem fusnes canlynol oherwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 14 o Rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

                                    Yn dilyn y cais am brawf buddiant y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, datryswyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ei bod yn cael ei hystyried mewn preifat, gyda’r cyhoedd yn cael ei wahardd o’r cyfarfod gan y byddai’n cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r natur a nodir uchod.

280.

Y Strategaeth Ddiwydiannol Yn Ymlaen o'r Chwyldro Ynni