Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees 

Eitemau
Rhif Eitem

281.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

282.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 118 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/11/18

Cofnodion:

DATRYSWYD:           Dylai cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018 gael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

283.

Canlyniad Ymgynghoriad 'Llywio Dyfodol Pen-y-Bont' pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Dros Dro Cyllid a Swyddog Adran 151 gyflwyno adroddiad oedd yn hysbysu'r Cabinet am Ganlyniad ymgynghoriad 'Llywio Dyfodol Pen-y-Bont' 2018 a ofynnodd i ddinasyddion rannu eu barn ar nifer o gynigion cyllideb allweddol sy'n cael eu hystyried dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).  Nododd, yn dilyn gostyngiadau pellach mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog, bod yr holl Gynghorau yn parhau i newid y ffordd maen nhw'n gweithio a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu er mwyn iddynt allu ymdopi gyda llai.  Mae'r Cyngor wedi gwneud gostyngiadau o'i gyllideb o £30.7 miliwn dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda disgwyl gofyn am ostyngiadau pellach sylweddol. 

 

Esboniodd y gofynnwyd i ymatebwyr rannu eu barn ar amrywiaeth o gynigion cyllideb, sy'n cael eu hystyried rhwng 2019-2020 a 2022-23, gan gynnwys: cynnydd arfaethedig i dreth cyngor; pa wasanaethau i'w hamddiffyn a / neu eu torri dros eraill; trafnidiaeth ôl 16, addysg feithrin, cyllidebau ysgol, gwasanaethau hamdden a diwylliannol, ailgylchu a gwastraff, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau bws.  Y ffordd mae'r ymgynghoriad ar y cynigion cyllideb wedi cael ei ddatblygu i gynnwys ffyrdd newydd i bobl gymryd rhan ac ymgysylltu gyda'r Cyngor, gan gynnwys arolygon, cyfryngau cymdeithasol a sesiynau galw heibio gyda phadiau clicio.  Hefyd, casglwyd barn pobl ifanc, gyda disgyblion o'r naw ysgol gyfun yn cymryd rhan mewn sesiynau padiau clicio ac arolygon papur.  Cynhaliwyd sesiynau rhyngweithio mewn 15 ysgol gynradd hefyd.  Nododd bod trosolwg, dogfennau ac arolygon yr ymgynghoriad cyllideb ar gael ar-lein drwy wefan y Cyngor rhwng 24 Medi ac 18 Tachwedd 2018.  Nod yr ymgynghoriad oedd cyrraedd rhanddeiliaid allweddol oedd yn cynnwys dinasyddion, ysgolion, Aelodau'r Cabinet/Cynghorwyr, busnesau lleol, y trydydd sector, staff y cyngor, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau partner, grwpiau cydraddoldeb a grwpiau cymunedol, gwasanaethau ieuenctid a'r cyfryngau lleol.  Ategwyd yr ymgynghoriad gan gynllun cyfathrebu a hyrwyddo llawn.  Yn ychwanegol at hyn, roedd dulliau ymgysylltu yn cynnwys arolwg, ar gael ar-lein ac mewn fformat copi caled; digwyddiadau ymgysylltu cymunedol, gweithdai aelodau etholedig; digwyddiadau rhyngweithio / cyfarfodydd eraill; dadleuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac arolwg Panel Dinasyddion pwrpasol.       

 

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid a Swyddog Adran 151 hysbysu'r Cabinet eu bod wedi derbyn 5,228 o ymatebion oedd yn cynrychioli cynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol.  Nododd bod 48% o'r ymatebwyr wedi nodi nad oeddent yn barod i dalu mwy o dreth cyngor er mwyn amddiffyn gwasanaethau (na'r cynnydd arfaethedig o 4.9%).  Y gwasanaethau mwyaf poblogaidd i'w hamddiffyn oedd ysgolion, gofal pobl h?n, gwasanaethau ar gyfer pobl anabl a gwasanaethau hamdden.  Nododd fod 53% o ymatebwyr yn anghytuno gyda'r cynnig i ofyn i ysgolion wneud arbedion cyllid o 1% y flwyddyn am y pedair blynedd nesaf.  Fe wnaeth 66% o ymatebwyr anghytuno gyda'r cynnig i wneud arbedion drwy leihau canolfannau dydd neu wasanaethau.  O ran cynyddu refeniw, nododd 79% o ymatebwyr y dylai deiliaid Bathodyn Glas dalu am barcio, nododd 48% y dylai deiliaid Bathodyn Glas dalu'r un faint â phobl nad ydynt yn ddeiliaid Bathodyn Glas.  Nododd 31% pellach y dylai deiliaid Bathodyn Glas dalu cyfradd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 283.

284.

Rhaglen Cyfalaf 2018-19 i 2027-28 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid geisio cytundeb i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen cyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-19 i 2027-28. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod nifer o gynlluniau wedi symud ymlaen ers cymeradwyo'r rhaglen cyfalaf sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor.  Hysbysodd y Cabinet mewn perthynas â Rhaglen Band A Ysgolion y 21ain Ganrif, er gwaethaf gwaith ymchwilio ar y safle yn cael ei gyflawni cyn gosod contract adeiladu Ysgol Gynradd Pencoed, bod angen gweithgareddau torri a llenwi sylweddol ar y safle nad oeddent wedi'u rhagweld yn wreiddiol, gan arwain at gynnydd o £200,000 yng nghostau'r prosiect.  Cynigiwyd i ddiwallu'r gost ychwanegol hon o dan-wario arfaethedig mewn cynlluniau Band A eraill.  Hysbysodd Pennaeth Dros Dro Cylidd y Cabinet fod cyllideb o £165,000 wedi'i gynnwys yn y rhaglen cyfalaf ar gyfer darparu llety ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.  Fodd bynnag, yn dilyn datblygiad dylunio, tybiwyd fod amcangyfrif gwreiddiol y prosiect yn annigonol, ac er gwaethaf cynnal ymarfer peirianneg gwerth, derbyniwyd cost prosiect diwygiedig o £235,000, oedd yn arwain at gyllid ychwanegol o £70,000 yn fwy na'r gyllideb a gymeradwywyd, ac awgrymwyd y dylid cael hwn o gyllideb cadw moderneiddio ysgolion.

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod buddsoddiad cyfalaf o £205,000 wedi'i gymeradwyo ar gyfer sefydlu MASH.  Fodd bynnag mae'r MASH wedi'i symud yn lle i Raven's Courth, gan arwain at gostau sylweddol is nag a ragwelwyd, a fyddai'n rhyddgau £45,116 o arian ar gyfer cynlluniau eraill.  Adroddodd hefyd fod cyllid cyfalaf o £1.217m ar gyfer buddsoddiad TGCh wedi'i gymeradwyo i gyflawni gwaith ystwyth, a oedd yn amodol ar sicrhau tenant ar gyfer Raven's Court.  Yn dilyn penderfyniadau ar ble i osod y MASH, ni fyddai marchnata gweithredol ar gyfer Raven's Court yn cael ei gyflawni bellach ac o ganlyniad nid oedd angen y buddsoddiad a nodwyd yn wreiddiol, oedd yn gadael balans o £1.201m i'w ddad-ymrwymo a'i ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill.

 

Fe wnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid hefyd adrodd am £360,000 o gyllid tuag at estyniadau mynwentydd ym Mhorthcawl a Gogledd Corneli, fodd bynnag oherwydd ymchwilio pellach a gwaith dichonoldeb roedd angen £170,000 ychwanegol i'w ariannu drwy fenthyca darbodus.  Adroddodd hefyd bod angen cyllideb cyfalaf o £1.64m ar gyfer prynu cerbydau cynnal a chadw priffyrdd newydd i'w ariannu o gyllidebau refeniw cleientiaid presennol, drwy gyfraniadau i gyfalaf neu fenthyca darbodus.  Gwnaeth Pennaeth Dros Dro Cyllid sylw ar yr angen yn dilyn adolygiad o'r ystâd TGCh am gynnydd o £226.375 i'w ariannu o gyfraniad refeniw o gyllideb y rhaglen dreigl TGCh gyfredol.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cyllid fod yr ymarfer caffael ar gyfer prosiect Ffocws Buddsoddiad Arhosfan Portchawl wedi'i gwblhau a'i fod wedi cynyddu i £2,924,000; roedd angen diwygio'r gofyniad cyfatebol i £1,358,060.  Roedd yr arian cyfatebol yn cynnwys ffynonellau allanol a chronfeydd Cyngor amrywiol.  Nododd pe byddai cyfleoedd yn codi i fanteisio ar arian allanol pellach, naill ai drwy ERDF neu ffynonellau eraill yna y byddai'r rhain yn cael eu targed mewn ymdrech i leihau'r gofyn ymhellach am adnoddau'r Cyngor. 

 

Adroddodd Pennaeth Dros Dro Cyllid hefyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 284.

285.

Rheoli Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cynffig pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Mae Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wedi ceisio awdurdod i beidio ag adnewyddu Prydles Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cynffig pan fydd yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr 2019 ac i roi'r rhybudd priodol ar Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig.  Bydd y Cytundeb Rheoli gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2019 a cheisiwyd awdurdod i gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru i roi gwybod y byddai'r Cyngor yn gadael Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cynffig ar 31 Rhagfyr 2019.

 

Dywedodd fod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2010 wedi awdurdodi swyddogion i weithio gydag Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig i ddatblygu opsiynau amgen ar gyfer rheoli'r Gwarchodfa Natur.  Yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2018 fe wnaeth y Cabinet gytuno ar newidiadau i'r ffordd mae'r gwarchodfa'n cael ei redeg oherwydd diffyg ymateb gan yr Ymddiriedolaeth i geisiadau'r Cyngor i roi caniatâd i alluogi sefydliad cymwys a phrofiadol addas i reoli'r warchodfa a manteisio i'r eithaf ar ei botensial fel atyniad ymwelwyr.  Rhwng 14 Rhagfyr 2010 a chyfarfod y Cabinet ar 11 Tachwedd 2014, fe wnaeth swyddogion gyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi'r Ymddiriedolaeth i nodi asiant rheoli newydd ddigon ymlaen llaw cyn i'r Cyngor adael y safle. Yn anffodus ni chafwyd penderfyniad gan yr Ymddiriedolaeth. 

 Yn ei gyfarfod ar 11 Tachwedd 2014, fe wnaeth y Cabinet awdurdodi Pennaeth Adfywio a Datblygu i ddod â'r broses o ymchwilio i opsiynau rheoli'r Warchodfa i ben ac i'w redeg yn unol â threfniadau cyfredol, gan flaenoriaethu rhwymedigaethau statudol y Cyngor i warchod nodweddion ecolegol y Warchodfa.  Ers mis Chwefror 2015 mae swyddogion wedi datblygu a chyflawni nifer o brosiectau a ariannwyd yn allanol i ychwanegu gwerth at y gweithgareddau â blaenoriaeth yn y Cynllun Rheoli. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod rhaid i'r Cyngor gydymffurfio gyda'r holl delerau prydles a chyfamodau tenant hyn a nodwyd yn y Brydles a'r Cytundeb Rheoli nes y dyddiad dod i ben ar y Brydles.  Yn dilyn dyddiad dod i ben y Brydles, nododd fod rhaid i'r Cyngor sicrhau fod y safle yn y cyflwr sy'n ofynnol yn ôl y Brydles, a bod y Cyngor yn gadael y safle'n briodol gan gael gwared ar ei holl offer, peiriannau ac unrhyw arwyddion.  Mae'r Brydles hefyd yn nodi y dylai'r Cyngor gael gwared ar unrhyw adeiladau ychwanegol, ychwanegiadau, newidiadau neu welliannau a wnaeth i'r safle ar ddiwedd y tymor ac i wneud iawn am unrhyw ddifrod a achoswyd drwy gael gwared ar y rhain.  Gallai fod yn ofynnol i'r Cyngor ddymchwel adeilad y ganolfan ymwelwyr cyn i'r Brydles ddod i ben, er nad yw hyn wedi'i godi gan yr Ymddiriedolaeth.  Os gwneir cais, bydd asesiad o'r gost yn cael ei gyflawni ac adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet os oes angen.  

 

Adroddodd hefyd fod Cyngor Cymunedol Corneli ar hyn o bryd yn cyfrannu yn ariannol tuag at gostau'r Cyngor ar gyfer glanhau toiledau'r ymwelwyr yn y Warchodfa.  Pan fydd y Cyngor yn gadael y safle ni fydd ganddo unrhyw gyfrifoldeb mwyach ac ni fydd yn darparu unrhyw wasanaeth mewn perthynas  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 285.

286.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig / Proses Tawelu Traffig a Chroesfan Cerddwyr pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adrodd ar newidiadau arfaethedig i benderfyniadau gwrthwynebiadau parhaol a wnaed mewn perthynas â chynigion i gyflwyno Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a Phroses Tawelu Traffig a Chroesfan Cerddwyr.

 

 Rhoddodd wybod i'r Cabinet am y broses ar gyfer gwneud y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO) ac ar y gofynion ymgynghori i'w dilyn gan yr Awdurdod sy'n Gwneud y Gorchymyn (OMA).  Fe wnaeth hefyd roi gwybod i'r Cabinet am y broses ar gyfer cyflwyno Proses Tawelu Traffig/Croesfannau Cerddwyr.  Mae gwrthwynebiadau sy'n barhaol mewn perthynas â'r materion hyn ar hyn o bryd yn cael eu datrys yn yr un modd â TRO, fodd bynnag o ran y darpariaethau hyn ni wneir unrhyw Orchymyn.

 

 Adroddodd yn yr awdurdod hwn fod gwrthwynebiadau parhaol i TROS a Phroses Tawelu Traffig a Chroesfannau Cerddwyr yn cael eu datrys drwy broses y Panel Apêl sy'n cynnwys:  

 

·             Ffurfio panel o 3 aelod lleol a threfnu cyfarfod. Oherwydd ymrwymiadau calendr gallai hyn gymryd nifer o wythnosau i'w drefnu gan fod angen i'r panel gael ei gefnogi gan swyddogion gwasanaethau cyfreithiol a democrataidd.  

·              Gwahoddir y gwrthwynebwyr i fynychu er mwyn cyflwyno eu hachos. 

·              Gallai paneli wneud cais am ragor o wybodaeth ac yna bydd y panel yn ail-ymgynnull.

 

 Golygai hyn y gallai cyflwyno cynigion traffig newydd gael eu hoedi am nifer o fisoedd tra fod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer trefnu a chefnogi'r broses.  Nododd fod hyn yn gofyn am lawer o adnoddau o'i gymharu â'r hyn a fabwysiadwyd gan Awdurdodau Gwneud Gorchmynion eraill.  Gofynnwyd i Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru ar gyfer Gr?p Gwasanaethau Traffig Cymru ddarparu gwybodaeth ar y broses a fabwysiadwyd gan OMAs eraill yng Nghymru ac ystyriwyd y wybodaeth a ddarparwyd ynghyd â deddfwriaeth / cylchlythyrau perthnasol. 

 

Adroddodd ar gynnig a wnaed i ddiwygio'rbroses ar gyfer datrys gwrthwynebiadau i'r TRO/Proses Tawelu Traffig a Chroesfannau Cerddwyr o'r broses Panel Apeliadau i swyddogaeth ddirprwyedig yr Aelod Cabinet - Cymunedau. 

 

Diwygiad i'r Cynllun Dirprwyaethau a bod paragraffau newydd 3.5 a 3.6 yn cael eu hychwanegu at Atodlen A y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau fel swyddogaethau sydd wedi'u dyrannu i'r Aelod Cabinet - Cymunedau.

 

 Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod y broses gyfredol yn gallu arwain at oedi a bod angen iddi fod yn fwy effeithiol.  Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol gais i'r broses gael ei mireinio i ganiatáu sylwadau llafar mewn amgylchiadau eithriadol ac i sicrhau hygyrchedd ar gyfer y dinasyddion hynny nad ydynt yn gallu gwneud sylwadau ysgrifenedig.
   

 DATRYSWYD:            Bod y Cabinet:

 

(1)    Wedi cymeradwyo mabwysiadu'r broses a amlinellwyd ym mharagraff 4.10 yr adroddiad;

 

(2) Wedi cymeradwyo diwygio Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau fel sydd wedi'i amlinellu ym mharagraff 4.11 yr adroddiad;

 

(3) Wedi nodi'r penderfyniad a wnaeth mewn perthynas â chyhoeddi gwrthwynebiad parhaol gan yr Adran Gwasanaethau Democrataidd a'i fod yn amodol ar sesiwn Galw;

 

(4)    Wedi nodi y bydd Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio yn Rhan 3 i gael gwared ar swyddogaethau TRO o gyfrifoldeb y Panel Apeliadau;

 

Wedi cymeradwyo y bydd sylwadau llafar yn cael eu caniatáu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 286.

287.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogi Teuluoedd geisio cymeradwyaeth i derfynu gyda Phenderfyniad y Cabinet ar 21 Tachwedd 2018 mewn perthynas â mynd ar drywydd Opsiwn 3 ar gyfer cyflwyno Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ariannol.  Rhoddodd wybod i'r Cabinet am y newid i gyfradd grant ymyriad cyfalaf Band B; a cheisio cymeradwyaeth i fynd ar drywydd Opsiwn 2 ar gyfer cyflwyno Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ariannol, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

Adroddodd fod y Fframwaith Cynllunio a Pholisi yn nodi meysydd lle dylid rhoi egwyddorion ar waith yn ymarferol.  Yr egwyddorion sy'n berthnasol i Band B yw maint yr ysgolion cynradd a gwerth am arian, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.  Fe wnaeth hysbysu'r Cabinet am y cefndir i'r rhaglen moderneiddio ysgolion lle bu i'r Cyngor gymeradwyo gweledigaeth ar gyfer ei ysgolion ym mis Medi 2006 i'w gwneud yn addas i'r diben ar gyfer y 21ain ganrif.  Ers hynny, mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi'i sefydlu fel un o brif raglenni strategol y Cyngor.  Nododd fod disgwyl i Gynlluniau Band A, a ariannwyd ar sail 50/50 gyda Llywodraeth Cymru gael eu cwblhau yn 2018-19 ac amlinellodd y cynlluniau oedd wedi'u cwblhau.  Roedd gwaith bron â gorffen ar y cynllun oedd yn weddill ym Mand A yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd.

 

Adroddodd fod rhestr blaenoriaeth o gynlluniau i'w cyflawni o fewn amserlen Band B wedi'i nodi.  Ym mis Hydref 2017 derbyniodd y Cabinet adroddiad ar ganlyniad gwaith llif gwaith moderneiddio ysgolion a'r cyflwyniad SOP diwygiedig, ac fe wnaeth gymeradwyo i derfynu'r cynlluniau Band B gwreiddiol a chymeradwyo cynlluniau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a chyflwr adeiladau.  Fe wnaeth hefyd roi cymeradwyaeth i ymgymryd â gwaith gwerthuso opsiynau yn ystod cyfnod Band B er mwyn paratoi ar gyfer Band C. Cyflwynodd y Cyngor gynnig i Lywodraeth Cymru i greu cyfleusterau gofal plant cyfrwng Cymraeg, mae'r Cyngor wedi derbyn cymeradwyaeth ar ffurf cyllid gweithredol o £2.6m.  Ar 6 Rhagfyr 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyo ail don buddsoddiad y Cyngor o £68.2m mewn egwyddor.  Ym mis Ionawr 2018, fe wnaeth y Cyngor gymeradwyo mewn egwyddor yr ymrwymiad ariannol oedd yn ofynnol ar gyfer Band B. Nododd fod y Cabinet wedi'i gynghori ym mis Tachwedd 2018 am adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.  

          

Adroddodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newid i'r gyfradd grant ymyrraeth cyfalaf lle mae ei gyfraniad ar gyfer Band B wedi cynyddu i 75% ar gyfer ysgol arbennig ac unedau atgyfeirio disgyblion a 65% ar gyfer yr holl gynlluniau eraill.  Byddai cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn parhau ar 75%.  Nododd fod swyddogion wedi adolygu goblygiadau ariannol yr opsiynau a bod cais wedi'i wneud am £23m o arian cyfatebol i ddiwallu'r pedair ysgol gynradd a nodwyd gan ddefnyddio cyllid cyfalaf cyffredinol, gyda'r balans yn cael ei ddiwallu gan gyllid Adran 106.  Fe wnaeth amlinellu cymhariaeth o MIM a chynlluniau grant cyfalaf ynghyd â'r 4 opsiwn cyllid a dadansoddi opsiynau 2 a 3. 

 

Wrth gefnogi mynd ar drywydd opsiwn 2 fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 287.

288.

Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogi Teuluoedd gyflwyno diweddariad ar ganlyniad y cais a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg a rhoi cyngor ar y ffordd ymlaen o ran datblygu'r cynllun.

 

Adroddodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi gwneud £30m ar gael dros Gymru ym mis Mawr 2018 ar gyfer prosiectau pwrpasol i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg.  Byddai'r cyllid hwn yn cynorthwyo i gyflawni ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac roedd yn ychwanegol at y dyraniad presennol a gyhoeddwyd ar gyfer Band B y Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Rhoddwyd ystyriaeth i'r ffordd orau i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Fwrdeistref.  Nodwyd fod diffyg darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, ac arweiniodd hyn at benderfyniad i ganolbwyntio cynigion ar ofal sesiynol, gofal plant a gofal cofleidiol cyfrwng Cymraeg. 

 

Adroddodd fod cynnig £2.6m wedi'i gyflwyno i greu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mettws, Cwm Ogwr, Tref Pen-y-bont a Phorthcawl.  Nododd fod gwaith rhagarweiniol wedi dechrau ar ddatblygu pob un o'r prosiectau a bod tîm prosiect a gr?p llywio wedi'u sefydlu.  Bydd tîm y prosiect yn cyflawni'r elfen adeiladu ar y cynllun ac mae gwaith wedi dechrau ar gamau cychwynnol y prosiect yn canolbwyntio ar werthuso opsiynau mewn perthynas â thir datblygadwy.  Diben y gr?p llywio fydd cefnogi gwaith datblygu a chyflawni'r rhaglen cyfalaf cyfrwng Cymraeg. 

 

Wrth ganmol y cynigion dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod llawer o waith cynllunio wedi mynd i nodi'r lleoliadau a'i fod yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau.  Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion gwych ar gyfer yr awdurdod ac roedd yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi cyfateb eu dyhead a dyhead yr awdurdod wrth ddyfarnu cyllid.

 

DATRYSWYD:          Bod y Cabinet:

 

(1)  Wedi nodi canlyniad y cais a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cais am grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg; ac

 

(2) Wedi cymeradwyo'r ymagweddu tuag at datblygu'r cynllun.   

289.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Leol pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chefnogi Teuluoedd geisio cymeradwyaeth ar gyfer penodi Llywodraethwyr Awdurdod Leol i'r cyrff llywodraethu ysgolion a restrwyd. 

 

DATRYSWYD:           Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo'r penodiadau fel oedd wedi'u rhestru ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

290.

Eiriolaeth - Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Plant geisio awdurdod i ddechrau Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCT) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Merthyr) i reoli a goruchwylio comisiynu gwasanaeth rhanbarthol Cwm Taf ar gyfer gwasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol (IPA) a gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc cymwys.

 

Adroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc cymwys, yn enwedig Plant Mewn Gofal, Plant mewn Angen a'r Plant hynny sy'n cael eu hamddiffyn.  Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu 'Dull Cenedlaethol' tuag at Eiriolaeth Plant yn seiliedig ar gomisiynu rhanbarthol, darpariaeth Cynnig Gweithredol o ran eiriolaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc cymwys, ac opsiwn i gynnwys gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ategol.  Er mwyn parhau i gydymffurfio, fe wnaeth Gwasanaeth Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc ei gwneud yn ofynnol i gael newid mewn comisiynu rhanbarthol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.  Nodon fod Cwm Taf ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaeth gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol fel eu darparwr a'u bod yn ail-dendro i'r gwasanaeth hwn ddechrau o fis Ebrill 2019.  Mae'r cynnig yn cynnwys IAA rhanbarthol gyda chaffael gwasanaethau ar y cyd yn dechrau o 1af Ebrill 201 gyda RCT yn gweithredu fel y Prif Awdurdod ar gyfer yr ymarfer caffael rhanbarthol, gyda swyddogion BCBC yn ymwneud â'r broses dendro a'r panel gwerthuso.   

 

Fe wnaeth yr Arweinydd groesawu cynnwys y Gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ar gyfer

plant yn yr ymarfer caffael. 

DATRYSWYD:           Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo'r cynnig i ddechrau Cytundeb Rhyng-Awdurdod gyda RCT a Merthyr, a nodi y bydd cymeradwyaeth i ddyfarnu contract y gwasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol ac Ymwelwyr Annibynnol yn cael ei geisio drwy Bwerau Dirprwyedig (o dan Gynllun Dirprwyo BCBC) unwaith mae'r broses caffael a gwerthuso wedi'i chwblhau.

291.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) Adran 65 Pŵer i Osod Pris Siwrnai ar gyfer Cerbydau Hacni Gwrthwynebiadau I'r Cynnig I Ddiwygio Tarrif Pris Siwrnai ar gyfer Cerbydau Hacni pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio Cyffredinol ar wrthwynebiadau i'r cynigion oedd wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet i amrywio cyfradd cyfredol Prisiau Siwrnai Cerbydau Hacni.  Nododd fod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 5 Medi 2017 wedi ystyried 3 chynnig i amrywio'r tabl prisiau siwrnai hacni cyfredol a phenderfynu gwrthod y cynigion hynnyac argymell archwilio i nodweddion cyfreithiol ac ymarferol ymgynghori ar ffioedd cerbydau hacni gyda'r fasnach tacsi a'r fasnach gyhoeddus.

Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio fod swyddogion wedi gofyn i bob un o'r ymgeiswyr ystyried cynigion eraill gyda'r bwriad o gyflwyno cais sengl pellach gyda chefnogaeth gan yr holl bleidiau.  Fodd bynnag, ni lwyddwyd i ddod i gytundeb rhwng yr ymgeiswyr ac yn ystod y cyfnod hwn derbyniwyd cais ychwanegol gan Mr Peter Renwick o Premier Cars (Caerdydd) Ltd. Cynhaliwyd ymgynghoriaeth gyda phob un o'r gyrwyr cerbydau huriant preifat/cerbydau hacni trwyddedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gofyn am eu barn a p'un a oeddent yn ffafrio un o'r 3 opsiwn ar y cynigion ac ystyried yn flaenorol gan y Cabinet, a'r cynnig dilynol a dderbyniwyd.  Cyflwynwyd canlyniadau'r ymgynghoriaeth i'r Cabinet ar 23 Hydref 2018.  Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo Cynnig 1, a gyflwynwyd gan Mr James Borland a Richard Parrott, yn amodol ar gyhoeddi hysbysiad cyhoeddus mewn papur newydd lleol yn gwahodd gwrthwynebiadau.

 

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio hysbysu'r Cabinet fod yr adroddiad a gyflwynwyd iddo r 23 Hydref 2018 yn cynnwys ffigyrau anghywir am gost siwrnai 5 milltir a 15 milltir ar gyfer Cynnig 1, ond fod y wybodaeth a ddarparwyd i'r fasnach drwyddedig yn ystod y cyfnod ymgynghori yn gywir ac o'r herwydd mae canlyniadau'r ymgynghoriaeth yn seiliedig ar y ffigyrau cywir.   

 

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio hysbysu'r Cabinet fod 3 gwrthwynebiad wedi'u derbyn yn dilyn yr hysbysiad ac fe wnaeth amlinellu'r ymatebion hynny.  Nododd fod gofyn i'r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau a phenderfynu p'un a yw'n parhau'n fodlon gyda'r penderfyniad i gadarnhau Cynnig 1 fel yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn seiliedig ar y ffigyrau cywir, neu wedi adolygu'r wybodaeth ynghylch y ffigyrau diweddaraf, i ddewis cynnig gwahanol. 

 

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol gynnig fod y Cabinet yn cefnogi Cynnig 1 gan mai dyma oedd wedi derbyn y mwyaf o gefnogaeth gan y fasnach.  Nododd ei bod yn fodlon gyda'r ymgynghoriad oedd wedi'i gynnal a bod y fasnach wedi derbyn y ffigyrau cywir a'i bod yn credu y gellid adfer costau ail-galibradu.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol hefyd fod hwn yn rhoi cap ar y pris siwrnai uchaf y gellir ei godi, ac nid oedd yn rhaid i yrwyr godi eu prisiau os nad oeddent yn dymuno.  Dywedodd yr Is Arweinydd ei fod yn fodlon gyda'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ac nad oedd ail-galibradu offer yn anorchfygol.        

 

DATRYSWYD:           Bod y Cabinet:

a)  Wedi nodi sylwadau a dderbyniwyd yn Atodiad B yr adroddiad wrth ystyried y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 23 Hydref 2018 i ddiwygio'r tariff prisiau siwrnai;

Wedi penderfynu i barhau gyda Chynnig 1 a chyflwyno tariff cerbydau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 291.

292.

Datganiad Egwyddorion Deddf Gamblo 2005 pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio Cyffredinol adrodd ar ganlyniad yr adolygiad tair blynedd ar Ddatganiad Egwyddorion Gamblo, sef y fframwaith sy'n llywodraethu'r ffordd mae'r awdurdod yn ymgymryd â'i ddyletswyddau fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer gamblo.  Mae cymeradwyo'r Datganiad Egwyddorion ar gyfer y cyfnod o dair blynedd nesaf o 2019 yn swyddogaeth i'r Cyngor. 

 

Adroddodd fod gofyn i'r Cyngor gyhoeddi datganiad polisi dan yr enw Datganiad Egwyddorion Gamblo bob tair blynedd sydd wedi'i adolygu, ac ymgynghoriad drafft wedi'i gynnal.  Nododd fod rhaid i'r Cyngor ymgymryd ag ymarfer ymgynghori statudol, sy'n cael ei ragnodi gan reoleiddiadau gydag ymgynghorai statudol fel y Comisiwn Gamblo, Prif Swyddog yr Heddlu, un neu fwy o bobl sydd yn debygol o gael eu heffeithio gan y swyddogaethau mae'r awdurdod yn eu hymarfer o dan y Ddeddf.  Mae hyn yn cynnwys Aelodau etholedig, Cynghorau Tref a Chymunedol, cynrychiolwyr masnach, cyflenwyr peiriannau, sefydliadau diogelu (gan gynnwys gamblo problemus), y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 31 Awst 2019 a 9 Tachwedd 2019, ac arweiniodd at dderbyn tri ymateb dilys.  Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio amlinellu'r diwygiadau arfaethedig i'w gwneud i'r Datganiad Egwyddorion.  

 

Wrth ganmol y Datganiad Egwyddorion dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod yn falch o nodi fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi newid i'r arian betio mewn peiriannau gemau a elwir yn "Beiriannau Betio Ods Sefydlog".  Fe wnaeth sylw hefyd ar effaith negyddol gamblo ar iechyd meddyliol ac ar deuluoedd. 

 

DATRYSWYD:            Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo'r Datganiad Egwyddorion Gamblo, gan ymgorffori diwygiadau arfaethedig 1-3 y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau 4.8 i 4.9.2 yn yr adroddiad a'i anfon ymlaen i'r Cyngor i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi yn unol â'r rheoliadau.   

293.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys. 

294.

Darren Mepham

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd mai dyma fyddai cyfarfod olaf y Cabinet i Darren Mepham, Prif Weithredwr ei fynychu.  Fe wnaeth ef ac Aelodau'r Cabinet ddiolch i'r Prif Weithredwr am y gefnogaeth a'r cyngor yr oedd wedi'u rhoi iddyn nhw a dymuno'n dda iddo yn ei yrfa yn y dyfodol.  Dywedodd yr Arweinydd y gellid mesur amser y Prif Weithredwr ym Mhen-y-bont yn ôl llwyddiant y sefydliad a'i gefnogaeth i'r cymunedau yn y Fwrdeistref Sirol.    

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Cabinet am eu geiriau caredig ac am ei groesawu i Gymru.  Nododd y byddai'n ddiolchgar am ei amser yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ac y byddai'n dilyn ffawd y Cyngor o ochr arall y Bont.  Nododd mai nodwedd o'i amser yn yr awdurdod oedd y berthynas wych rhwng swyddogion ac Aelodau.        

295.

Eithrio'r Cyhoedd

Nid oedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

DATRYSWYD:          O dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, dylai'r cyhoedd gael ei eithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem busnes canlynol gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel sydd wedi'i ddiffinio ym Mharagraff 14 Rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

Yn dilyn rhoi'r prawf diddordeb cyhoeddus ar waith wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, y dylid ei ystyried yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod gan y byddai'n cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig o'r natur a nodwyd uchod.

296.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 20/11/18

Cofnodion:

DATRYSWYD:           Bod cofnodion eithriedig cyfarfod y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z