Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

297.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o fuddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda gan yr aelodau canlynol, oherwydd eu cysylltiad â’r Gronfa Gweithredu Cymunedol

298.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 108 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/12/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod Cofnodion y cyfarfod o’r Cabinet dyddiedig 18 Rhagfyr 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

299.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 a’r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb adroddiad, er mwyn rhannu â’r Cabinet ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol mewn cysylltiad â:-

a)    sylwadau Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb (BREP) a amgaeir yn Atodiad A ac Atodiad A1 o’r adroddiad;

b)    yr ymatebion gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc mewn cysylltiad â chynigion cyllideb ddrafft y Cabinet, a amgaeir yn Atodiad A2.

 

Cadarnhaodd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi ystyried canfyddiadau’r BREP a’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc ar 14 Ionawr 2019, i benderfynu a ddylai’r argymhellion gael eu hanfon ymlaen at y Cabinet fel rhan o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.

 

Er hwylustod, cafodd yr argymhellion eu rhannu’n atodiadau ar wahân. Mae’r rhain fel a ganlyn:

 

A1 – Argymhellion BREP mewn cysylltiad â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 – 2022-2023

A2 – Sylwadau Trosolwg a Chraffu Pwnc ac argymhellion ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23

 

Eglurodd fod y Pwyllgor wedi derbyn yr argymhellion a’r sylwadau a gafwyd gan y BREP a’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc a chytunwyd i’w cyflwyno i’r Cabinet, yn amodol ar gyfres o newidiadau sydd wedi’u hymgorffori yn yr Atodiadau i’r adroddiad.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod proses y gyllideb wedi bod yn un faith a chynhwysfawr, a bod y broses a ddilynir ym Mhen-y-bont yn un unigryw, yn yr ystyr nad oes yr un Awdurdod arall yng Nghymru’n craffu ar gynigion ei gyllideb i’r fath raddau â’r Awdurdod hwn. Roedd y broses hon yn enghraifft o ddull ‘Un Cyngor’, gyda phob gr?p gwleidyddol yn cymryd rhan ac yn cyfrannu.

Adleisiwyd hyn gan y Dirprwy Arweinydd, gan ychwanegu y byddai’r Cabinet yn edrych ar yr argymhellion a wnaed drwy’r broses Graffu ac yn ymateb iddynt cyn pennu’r Gyllideb.

PENDERFYNWYD:                      Bod y Cabinet yn cytuno i ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, mewn ymateb i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 a’r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft.

300.

Monitro’r Gyllideb 2018-19 Rhagolygon Chwarter 3 pdf eicon PDF 433 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb adroddiad, i ddiweddaru’r Cabinet ar berfformiad y Cyngor yn ystod Chwarter 3, 31 Rhagfyr 2018.

 

Roedd yr adroddiad yn cymharu’r rhagolwg o wariant y Cyngor yn erbyn y refeniw a gymeradwywyd a chyllidebau cyfalaf am y flwyddyn. Roedd hefyd yn adolygu cyflawni gostyngiadau blaenorol a chyfredol yn y gyllideb ac yn dadansoddi’r defnydd o gronfeydd wrth gefn a’r balansau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

 

Mae Tabl 1 ar dudalen 36 o’r adroddiad yn dangos rhagolwg o alldro refeniw’r Cyngor am y flwyddyn ariannol, gan amlinellu rhagolwg o wariant yn erbyn y gyllideb refeniw gytunedig o £266 miliwn ac roedd hyn yn dangos cyfanswm o danwariant o £5.312 miliwn am y flwyddyn ariannol. Roedd yn bwysig nodi bod y tanwariant hwn wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i ddau grant hwyr a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, sef £620,000 ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a bron i £719,000 tuag at gost dyfarniadau cyflog athrawon. Heb y grantiau hyn byddai’r tanwariant wedi bod yn £3.973 miliwn. Yn gyffredinol rhagwelir tanwariant (ac nid gorwariant fel y nodwyd yn yr adran hon o’r adroddiad) ar gyllidebau Cyfarwyddiaethau o £592,000 a thanwariant o £6.6 miliwn yng nghyllidebau’r cyngor cyfan. Hyd yma, cafwyd cronfeydd wrth gefn newydd a glustnodwyd o £1.922 miliwn ac mae rhagor o fanylion am y rhain yn Nhabl 5 o’r adroddiad, (paragraff 4.5.4.)

 

Mae paragraff 4.1.4 o’r adroddiad yn nodi dau faes lle darparwyd cyllid oherwydd gwasgfa ar y gyllideb, yr ?yl Ddysgu a’r Grant Gwisg Ysgol, ond nid oedd eu hangen bellach ac roedd yr arian hwn wedi’i gymryd yn ôl yn gorfforaethol i leddfu gwasgfeydd eraill.

 

Mae paragraffau 4.1.5 i 4.1.8 o’r adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am sefyllfa ariannol y cyngor wrth edrych i’r dyfodol, gyda chyfeiriad at y setliad terfynol a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor.

 

Gan gyfeirio at dudalen 38 o’r adroddiad a chysylltu hynny â’r rhagolwg o’r sefyllfa o ran refeniw, mae Adran 4.2 yn adolygu cyflawniad yn erbyn y Cynigion ar gyfer Gostyngiadau yn y Gyllideb am y flwyddyn gyfredol a blaenorol. Yn ystod 2018-19 mae’r Cyngor wedi monitro perfformiad i gyflawni gostyngiad yng nghyllidebau 2016-17 a 2017-18 na chafodd eu cyflawni, ochr yn ochr â gostyngiad newydd yn y gyllideb ar gyfer 2018-19.

 

Mae Atodiad 1 (tudalen 53) yn dangos sefyllfa’r alldro ar gyfer cynigion 2016-17 a 2017-18 sydd heb eu cwblhau, a nodwyd camau lliniaru sydd i’w cymryd gan y Cyfarwyddiaethau i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n llawn. Roedd hefyd yn amlinellu’r cynigion newydd sy’n cael eu gweithredu gan Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant o dan eu cynllun cyflenwi gwasanaethau, i fynd i’r afael â’u gorwariant hanesyddol. Er y bydd cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn 2018-19 i gau’r bwlch, bydd diffyg o hyd i wneud iawn amdano yn 2019-20.

 

Mae Atodiad 2 o’r adroddiad (tudalen 54 ymlaen) yn edrych ar y sefyllfa yn erbyn yr holl ostyngiadau yng nghyllideb 2018-19. Roedd hyn yn dangos diffyg o £379,000 ar draws y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 300.

301.

Ymgynghoriad ar y Strategaeth Eiddo Gwag pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad er mwyn cael cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y Strategaeth Eiddo Gwag ddrafft 2019-2023.

 

Cyflwynodd wybodaeth gefndir ac yna dywedodd fod y Strategaeth Eiddo Gwag wedi’i llunio a’i bod wedi’i hamgáu gyda’r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Eglurodd mai un o’i phrif nodweddion yw’r bwriad i fabwysiadu dull ‘cymysg’ i sicrhau bod y pwyslais wrth weithredu ar ffeithiau a gwybodaeth allweddol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i eiddo ar sail meini prawf fel gwerth niwsans, niwed, lleoliad a’r galw am dai ac nid yn unig yn ôl pa mor hir mae eiddo wedi bod yn wag. Ar ôl blaenoriaethu, bydd y Gweithgor Eiddo Gwag yn penderfynu ar y camau mwyaf priodol i geisio defnyddio’r eiddo unwaith eto.

 

Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar eiddo preswyl gwag yn y sector preifat. Gan fod angen dull mwy penodol i allu defnyddio eiddo masnachol unwaith eto fel eiddo masnachol, nid ydynt yn rhan o’r Strategaeth hon. Fodd bynnag, os cyfyd cyfleoedd i ddefnyddio eiddo masnachol gwag unwaith eto fel llety preswyl, yna bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r Strategaeth.

 

Ychwanegodd y byddai’r Awdurdod Lleol a’i bartneriaid yn ceisio cydweithredu â pherchnogion er mwyn gallu defnyddio eiddo gwag o’r fath unwaith eto.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth hefyd fod Gweithgor Eiddo Gwag wedi cael ei sefydlu ac y bydd yn helpu i gyflawni nodau’r Strategaeth, a bod cydweithredu â rhanddeiliaid allweddol eraill yn ffactor allweddol i sicrhau llwyddiant y Strategaeth.

 

Dywedodd hefyd y byddai’r ymgynghoriad yn para am 12 wythnos ac efallai y bydd angen newid y Strategaeth mewn ymateb i sylwadau a geir yn sgil yr ymgynghoriad.

 

Daeth y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth â’i gyflwyniad i ben drwy nodi’r goblygiadau ariannol.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant ei bod yn falch o weld y cynigion positif yn y Strategaeth a fyddai’n helpu i alluogi dros 1,000 o eiddo preswyl yn y sector preifat a oedd yn wag ar hyn o bryd i gael eu meddiannu unwaith eto.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod nifer fawr o eiddo gwag yng nghymunedau’r cymoedd yn y Fwrdeistref Sirol a’i fod yn edrych ymlaen at weld tystiolaeth bellach fel rhan o’r Strategaeth, o’r math o eiddo a fyddai’n cael eu targedu i gael eu hailfeddiannu.

 

Dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth fod cydweithredu’n fewnol ac yn allanol yn rhan bwysig dros ben o’r Strategaeth, ac roedd hynny’n cynnwys cydweithio’n agos â pherchnogion yr eiddo. Ychwanegodd y byddai matrics marcio’n cael ei gyflwyno er mwyn cyflawni nodau tymor hir y Prosiect.

 

Gofynnodd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar am gadarnhad mai bwriad y Strategaeth oedd sicrhau bod eiddo preswyl cael eu rhoi mewn cyflwr i alluogi pobl i fyw ynddynt o flaen eiddo masnachol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad mai nodau’r Strategaeth oedd targedu eiddo preswyl gwag er mwyn i bobl allu byw ynddynt. Fodd bynnag, pe  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 301.

302.

Strategaeth Ddigartrefedd 2018-2022 pdf eicon PDF 299 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cael cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Ddigartrefedd ddrafft a amgaewyd fel Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i gynnal Adolygiad o Ddigartrefedd yn ei ardal ac yna i lunio a mabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd.

 

Eglurodd fod yr adolygiad o ddigartrefedd wedi canfod yr wybodaeth angenrheidiol i lunio’r Strategaeth arfaethedig am y cyfnod 2018-2022 yn unol â Chanllaw Llywodraeth Cymru. Dangoswyd prif ganfyddiadau’r adolygiad ym mharagraff 3.3 o’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth yr Aelodau at y Strategaeth ddrafft, a dywedodd ei bod wedi cael ei datblygu mewn ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad. Roedd wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gyda’r amod ei fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus (a chymeradwyaeth derfynol y Cabinet).

 

Ychwanegodd fod yr adolygiad wedi amlygu nifer o feysydd sydd angen eu datblygu ymhellach, er mai un o’r negeseuon oedd yr angen i bwysleisio bod digartrefedd yn fater cymhleth, trawsbynciol, sy’n gofyn nid yn unig am ymagwedd gorfforaethol ond hefyd un sy’n seiliedig ar bartneriaethau. Mae bwriad i ddatblygu Cynllun Gweithredu i ategu’r Strategaeth.

 

Yn dilyn y broses ymgynghori, rhagwelir y bydd Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet i gael eu cymeradwyaeth ym mis Ebrill 2019.

 

Nododd yr Aelod o’r Cabinet - Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant fod nifer sylweddol o randdeiliaid allweddol wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Strategaeth ddrafft a oedd wedi cael ei chyd-gynhyrchu’n unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Act 2015.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn teimlo bod peth o’r wybodaeth ystadegol yn y Strategaeth ddrafft yn achos tristwch. Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai’r holl bartneriaid yn cydweithio’n effeithiol er mwyn lleihau problem digartrefedd, ac y byddai hynny’n cynnwys Landlordiaid Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet – Cymunedau’n teimlo y dylid ychwanegu at y categori o grwpiau ac unigolion agored i niwed a all fod mewn perygl o fod yn ddigartref i gynnwys cyn aelodau’r lluoedd arfog.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y gellid addasu’r Strategaeth i gynnwys y gr?p hwn.

 

Roedd yr Arweinydd yn teimlo ei bod yn ddiddorol nodi mai’r ail reswm mwyaf cyffredin pam fod pobl yn ddigartref oedd am nad oedd rhieni’n gallu neu nad oeddent yn fodlon rhoi cartref i oedolion ifanc yn y categori 16 i 18 oed. Ychwanegodd hefyd ei bod yn bwysig bod digon o ofod llawr/gwelyau mewn llety a drefnir ar gyfer y bobl a oedd yn ddigartref yn y Fwrdeistref Sirol ac a hoffai gael to uwch eu pen, a’u bod wedyn yn gallu cael gafael ar rai gwasanaethau cymorth allweddol a all fod eu hangen arnynt.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn teimlo y dylai’r broses ymgynghori gael ei hymestyn i gynnwys cynulleidfa mor eang â phosibl, gan fod digartrefedd yn broblem fawr sydd angen sylw gyda golwg ar wella’r sefyllfa bresennol. Ychwanegodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 302.

303.

Diweddariad ar y Gronfa Gweithredu Cymunedol 2018-19 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr Dros Dro a oedd yn cynnwys diweddariad ar y defnydd o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol (CAF) a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 5 Medi 2017; i roi diweddariad ar argymhellion y Pwyllgor Archwilio ac i gael cymeradwyaeth i ddirwyn y Gronfa Gweithredu Cymunedol i ben.

 

Roedd Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2017-2021, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017, yn cynnwys cyllideb newydd o £285,000 i greu Cronfa Gweithredu Cymunedol. Nodau cyffredinol y gronfa oedd creu cyfleoedd ar gyfer ymyriadau lleol gan Aelodau yn eu wardiau eu hunain er budd y gymuned. Y gobaith oedd ymestyn yr effaith y byddai arian y cyngor yn ei chael ar gymunedau unigol a bod yn ffynhonnell cyllid y gallai Aelodau Etholedig ei defnyddio fel unigolion i fod o fudd uniongyrchol i’w ward leol.

 

Aeth ymlaen i ddweud bod gan Aelodau Etholedig gryn ddisgresiwn yngl?n â sut mae’r arian wedi cael ei wario, gyda’r amod cyffredinol bod yn rhaid i’r gwariant fod yn gyfreithlon ac na ddylai fod yn groes i bolisi’r Cyngor. Yn yr un modd, ni ddylai arian gael ei ddyfarnu i sefydliadau sy’n cynhyrchu elw nac i ddibenion gwleidyddol. Ni ddylai gael ei ddefnyddio ychwaith ar gyfer gwariant sy’n rheolaidd ac a fyddai felly angen am arian eto yn y dyfodol.

 

Roedd yn rhaid i Aelodau Etholedig gael hyfforddiant gorfodol cyn iddynt gyflwyno ceisiadau am daliadau i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu’n ddidrafferth, bod y costau gweinyddu ac ymholiadau mor isel â phosibl, a bod Aelodau’n gallu cydymffurfio ag amodau’r cynllun a rheoleiddio’u hunain.

            

Yn ystod y cyfnod pan oedd y cynllun yn weithredol dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod cyfanswm o £231,667.24 o’r £270,000.00 (85.8%) a oedd ar gael wedi’i ddosbarthu o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol i ariannu 156 o brosiectau ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd paragraff 4.1.4 o’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o amrywiaeth o brosiectau a oedd wedi cael nawdd, gyda rhestr lawn o’r prosiectau wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Roedd yr adran nesaf o’r adroddiad yn rhoi manylion am y cymorth gweinyddol roedd ei angen ar gyfer y cynllun, a bod hynny’n fwy cymhleth nag oedd wedi’i ragweld ar y dechrau. Roedd y cymorth i’r Gronfa’n cael ei ddarparu’n bennaf gan staff Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyllid a Democrataidd, ac roedd yn mynd â llawer o’u hamser.

 

Roedd paragraff 4.3 yn cadarnhau fod yr Archwilwyr Mewnol wedi cynnal adolygiad o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol, ac mae canfyddiadau’r adolygiad i’w gweld yn yr adran hon o’r adroddiad.

 

Daeth â’i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau gan fod peth o’r adborth a gafwyd i’r cynllun, yn enwedig gan Aelodau, yn gymysg, ac y gallai fod yn fwy buddiol yn y dyfodol i’r Cabinet ystyried dirwyn y Gronfa i ben ac i drosglwyddo’r £285,000.00 yn ôl i’r MTFS.

 

Er bod y Cabinet yn teimlo bod y nifer sylweddol o Brosiectau a ariannwyd drwy’r Gronfa’n werth chweil ac o fudd i’r gwahanol gymunedau, roeddent hefyd yn cydnabod bod y Cyngor yn parhau i wynebu anawsterau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 303.

304.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol a’r Swyddog Monitro, a oedd yn cynnwys manylion am y Polisi uchod sy’n weithredol o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA).

 

Nododd fod y RIPA yn cynnwys fframwaith sy’n galluogi cyrff cyhoeddus penodol, gan gynnwys awdurdodau lleol, i ddefnyddio pwerau cuddwylio i gasglu gwybodaeth am unigolion heb yn wybod iddynt, i gyflawni swyddogaethau statudol mewn cysylltiad ag atal a chanfod troseddau.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol a’r Swyddog Monitro bod gofyniad ar Aelodau i adolygu’r defnydd o RIPA ac i bennu’r Polisi o leiaf unwaith y flwyddyn. Er na all Aelodau Etholedig fod yn rhan o benderfyniadau ar awdurdodaethau penodol, caniateir iddynt i gael trosolwg o’r broses.

 

Cadarnhaodd mai’n anaml iawn yr oedd y Cyngor wedi defnyddio RIPA yn draddodiadol, ac roedd wedi’i ddefnyddio yn yr achosion hynny’n unig lle’r oedd yn bwysig cael gwybodaeth i helpu achosion troseddol a dim ond mewn achosion lle nad oedd modd cael yr wybodaeth drwy ddulliau eraill. Ychwanegodd na fu dim awdurdodaethau ar gyfer RIPA ers Ebrill 2014.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol a’r Swyddog Monitro yr Aelodau at baragraff 4.3 o’r adroddiad, a oedd yn nodi rhesymau eraill a allai fod yn gyfrifol am y gostyngiad yn nifer yr awdurdodaethau y gofynnwyd amdanynt.

 

Yn olaf, cyfeiriodd at y rhestr o swyddi dynodedig a enwebwyd fel Swyddogion Awdurdodi i awdurdodi cuddwylio yn y Cyngor (Atodiad 1 o’r Polisi sydd wedi’i amgáu gyda’r adroddiad yn Atodiad A) sydd wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru.

 

Gofynnodd yr Arweinydd drwy ba ddulliau yr oedd gweithgarwch RIPA yn cael ei fonitro yn y Cydwasanaethau Rheoliadol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol a’r Swyddog Monitro fod hyn yn cael ei fonitro gan Gyngor Bro Morgannwg, a’i oruchwylio’n annibynnol gan y Llysoedd (Ynadon).

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad ac yn cymeradwyo’r Polisi a amgaeir fel Atodiad A, ynghyd â’r rhestr ddiwygiedig o Swyddogion Awdurdodedig.    

305.

Polisi Ymddygiad Afresymol/Achwynwyr Blinderus pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad a oedd yn cyflwyno i’r Aelodau y Polisi Ymddygiad Afresymol neu Achwynwyr Blinderus i’w gymeradwyo (amgaeir yn Atodiad 1 o’r adroddiad).

 

I esbonio’r cefndir, roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd gan yr Awdurdod Bolisi ar hyn o bryd a oedd yn delio ag ymddygiad a chwynion afresymol gan gwsmeriaid, gan gynnwys rhai blinderus eu natur.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol y byddai Polisi o’r fath yn helpu Swyddogion i ddeall beth yn union a ddisgwylir ganddynt; pa opsiynau i weithredu sydd ar gael iddynt a phwy all awdurdodi camau o’r fath. Gellir hefyd ei rannu â chwsmeriaid a’u helpu i reoli eu disgwyliadau ac egluro na ddylai rhai ymddygiadau’n cael eu goddef.

 

Cymeradwyodd yr Aelod o’r Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant y polisi gan bwysleisio er bod gan y cyhoedd yr hawl i gwyno ac y bydd cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif, ni fydd yr awdurdod yn goddef ymddygiad ymosodol na threisgar tuag at staff.

 

Roedd paragraff 4.2 yn crynhoi prif ddarpariaethau’r Polisi.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi uchod sydd wedi’i amgáu yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

306.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 51 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, er mwyn hysbysu’r Cabinet o’r Adroddiad Gwybodaeth i nodi’r hyn a amlinellir ym mharagraff 4.1 o’r adroddiad, a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi’r ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

307.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z