Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 19eg Chwefror, 2019 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

313.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Cynghorydd HM Williams – Diddordeb personol yn eitem Agenda 10, oherwydd bod ganddo ddau o wyrion sy’n ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd.

 

Cynghorydd CE Smith – Diddordeb personol yn eitem Agenda 11, fel aelod o Fwrdd Rheoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion.

314.

Adnewyddu Yswiriant pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro adroddiad. Diben yr adroddiad oedd hysbysu’r Cabinet o ganlyniad yr ymarfer ail-dendro ar gyfer polisïau atebolrwydd ac indemniad swyddogion ac i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i awdurdodi Marsh UK Limited, fel brocer yswiriant penodedig y Cyngor, i drefnu yswiriant ar gyfer yr ystod lawn o bolisïau, ar ran y Cyngor.  

 

Roedd Tabl 1 yn yr adroddiad yn cadarnhau’r premiymau net, ac eithrio treth premiwm yswiriant, ac ychwanegodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro bod Marsh UK Limited wedi ymgymryd â’r trafodaethau adnewyddu yswiriant blynyddol ar gyfer y polisïau sy’n rhan o gytundebau hirdymor. 

 

Nododd bod y trafodaethau gyda Marsh UK Ltd wedi arwain at ostyngiad cyffredinol yn y premiymau o 2018-19 o £18,512.

 

Roedd paragraff 4.8 yr adroddiad yn rhoi manylion am y broses dendro a ddilynwyd, a hefyd yr ymatebion i’r tendr, y sgôr buddugol yn ogystal â’r yswiriwr a argymhellir. Roedd hyn yn ymwneud â’r cytundeb hirdymor pum mlynedd. Roedd Tabl 3 yn yr adroddiad yn nodi’r premiwm a chostau trin hawliadau presennol ynghyd â phremiwm newydd y tendr a chostau trin hawliadau newydd. Nodwyd bod gostyngiad o £2,936 yng nghyfanswm y gost.

 

Daeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro a’i chyflwyniad i ben trwy amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad gyda chostau ar gyfer 2019-20 i’w gweld yn Nhabl 4 yr adroddiad. Mae’r costau hyn yn dangos gostyngiad o £21,448 (3.0%) mewn cymhariaeth â’r llynedd. Byddai’r costau’n cael eu talu o gyllideb Refeniw Yswiriant 2019-20.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn falch iawn gweld bod gostyngiad yng nghostau yswirio’r Cerbydau Fflyd, er ein bod nawr yn gwasanaethu poblogaeth fwy gyda llai o gerbydau. 

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet yn cymeradwyo y dylid derbyn y dyfynbrisiau ym mharagraffau 4.1 a 4.9 yr adroddiad ac y dylid adnewyddu’r rhaglen yswiriant drwy March UK Limited fel Brocer yswiriant penodedig y Cyngor. 

315.

Polisïau Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo a Pholisïau Gwrth-wyngalchu Arian pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro adroddiad, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo a mabwysiadu’n ffurfiol y Polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo a’r Polisi Gwrth-wyngalchu Arian, sydd wedi’u hatodi yn Adroddiad A ac Atodiad B yn y drefn honno. 

 

Rhoddodd yr adroddiad ychydig o wybodaeth gefndir, gan nodi bod angen i’r Cabinet adolygu a chymeradwyo’r Polisïau Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo a Gwrth-wyngalchu Arian yn rheolaidd, er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol a’u bod yn cyfeirio at ddeddfwriaeth gyfredol, ac er mwyn lleihau’r risg o dwyll, llwgrwobrwyo neu wyngalchu arian yn digwydd. 

 

Mae’r Polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ac i gryfhau’r diffiniad o ‘dwyll’ i gynnwys dichell, ffugiad, cribddeiliaeth, lladrad, cynllwyn, embeslad a chynrychiolaeth ffug, ystumio cyfrifon a chofnodion, trefniadau contract anonest ac afreoleidd-dra ariannol. Mae’r polisi hefyd yn nodi bod angen i Aelodau ddatgelu unrhyw Drafodion Pleidiol Perthnasol, sy’n ffurfio rhan o’r prosesau Datgan Cyfrifon ar ddiwedd blwyddyn. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro bod y Polisi Gwrth-wyngalchu Arian wedi’i ddiweddaru er mwyn diffinio Gwyngalchu Arian yn gliriach ac adlewyrchu deddfwriaeth newydd gan gynnwys Deddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian 2018; Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgwyr a Throsglwyddo Arian (Gwybodaeth am y Talwr) 2017; a Deddf Cyllid Troseddol 2017. Mae prosesau newydd wedi’u cynnwys ar gyfer rhoi gwybod am achosion posibl o Wyngalchu Arian i’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol ac mae trefn y polisi wedi’i newid fel bod y cynnwys yn llifo’n rhwyddach. 

 

Roedd yr Aelodau’n cydnabod y ffaith mai bwriad y Polisïau oedd diogelu’r Awdurdod rhag gweithgareddau twyllodrus. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro bod y CMB wedi ystyried yr adroddiad yn ddiweddar ac y byddai hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Dwyll yn cael ei gyflwyno drwy’r Cyngor i staff priodol.  

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cabinet yn nodi ac yn cymeradwyo’r polisïau diwygiedig sydd ynghlwm fel Atodiadau A a B i’r adroddiad. 

316.

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019-20 ac Ymlaen pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro adroddiad. Diben yr adroddiad yw cael cymeradwyaeth y Cabinet i’r canlynol:-

 

            Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019-20 sy’n cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys

            Strategaeth Gyfalaf 2019-20 sy’n cynnwys y Dangosyddion Darbodus 

            Polisi Darpariaeth Ariannol Leiaf Blynyddol 

            Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru ar gyfer eu hymgorffori o fewn y Cyfansoddiad

 

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 fel y’u diwygiwyd yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheoliadau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu gan gynnwys y defnydd o dderbyniadau cyfalaf a’r hyn sydd i’w drin fel gwariant cyfalaf.   

 

Yn Rhagfyr 2017, cyhoeddodd CIPFA rifynnau newydd o’r Cod Ymarfer ar Reolaeth Trysorlys a’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. O fewn y Cod Darbodus, mae gofyniad newydd ar awdurdodau lleol i gynhyrchu Strategaeth Gyfalaf y mae’n rhaid ei chymeradwyo gan y Cyngor.  

 

Dyma brif nodweddion y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys arfaethedig:-

 

            Mae’n strategaeth integredig lle caiff benthyciadau a buddsoddiadau eu rheoli yn unol â’r arfer proffesiynol gorau;

            Mae’r Cyngor yn benthyg arian naill ai i fodloni anghenion llif arian tymor byr neu i ariannu cynlluniau cyfalaf o fewn y rhaglen gyfalaf ond nid yw’r benthyciadau a drefnir yn gysylltiedig ag asedau penodol;

            Un o Amcanion Benthyg y Cyngor yw cynnal sefyllfa o dan-fenthyg, sy’n golygu nad yw’r angen sylfaenol i fenthyg ar gyfer dibenion cyfalaf wedi’i lwyr ariannu gyda dyled benthyg. Yn hytrach, mae’r Cyngor yn benthyg yn fewnol gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor, balansau a llif arian fel mesur dros dro fel y dangosir yn Nhabl 3;  

            Mae’r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli arian a fuddsoddwyd ac effaith cyfraddau llog newidiol ar refeniw. 

 

Nododd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro mai prif nodweddion y Strategaeth Gyllid arfaethedig yw:-

 

1)         Gosod y cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi; 

 2)         Sicrhau bod holl gynlluniau cyfalaf a buddsoddi, a holl fenthyg yn ddarbodus a chynaliadwy;

 3)         Cynnwys y Dangosyddion Darbodus rhagnodedig ar gyfer rhaglen dreigl tair blynedd; 

 4)         Rhoi trosolwg lefel uchel o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli’r drysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau.

 

Defnyddiwyd egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf wrth ddyrannu adnoddau a chynlluniau cyfalaf gyda’r Rhaglen Gyfalaf o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Yna amlinellodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro egwyddorion  arweiniol y Strategaeth Gyfalaf, yn ogystal ag ymhelaethu ar rai o brif bwyntiau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (Cyfeiriwyd at Atodiad A i’r adroddiad).

 

Roedd manylion rhai o brif bwyntiau’r Strategaeth Gyfalaf yn Atodiad B i’r adroddiad a chyfeiriodd yr Aelodau atynt yn ôl yr angen.

 

Mae’r Strategaeth Gyfalaf hefyd yn cynnwys Darpariaeth Ariannol Leiaf Blynyddol 2019-20 a’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (Atodiad C), sydd wedi’u diweddaru er mwyn ymgorffori’r gofyniad newydd i gynhyrchu Strategaeth Gyllid y mae’n rhaid ei chymeradwyo gan y Cyngor yn flynyddol. Dangosir y newidiadau a wnaed yn Atodiad C.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd bod yr eitem hon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 316.

317.

Strategaeth Ynni Ardal Leol a Chynllun Ynni Clyfar pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cyflwyno i’r Cabinet a chael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cynllun Ynni Clyfar.

 

Amlinellodd ychydig o’r wybodaeth gefndir a oedd yn gosod y cyd-destun i Aelodau, a dywedodd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd un o’r 3 awdurdod lleol arddangos a ddewiswyd yn y DU ar gyfer y rhaglen Gwres Systemau Clyfar (SSH).

 

Rhannwyd y rhaglen yn dri cham fel y dangosir ym mharagraffau 3.4 i 3.6 o’r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol bod datblygiad Strategaeth Ynni Ardal Leol yn gonglfaen pwysig i’r rhaglen SSJ, a bod y Strategaeth Ynni Ardal Leol a’r Cynllun Ynni Clyfar yn cynnig llwybr tuag at ddatgarboneiddio gwres o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wedyn, rhoddodd wybodaeth bellach a thechnegol mewn perthynas â’r Strategaeth a’r Cynllun uchod, a nododd paragraff 4.8 o’r adroddiad rai manteision y byddai’r Cynllun Ynni Clyfar yn ei ddarparu. Roedd paragraff 4.9 yn amlinellu rhai prosiectau yr ystyriwyd bod modd eu gwireddu o fewn y Cynllun Ynni Clyfar.

 

Daeth a’i gyflwyniad i ben trwy ychwanegu nad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fyddai’n ariannu’r Strategaeth/Cynllun gan fwyaf, a chyfeiriodd yr Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad a oedd yn amlinellu rhagor o wybodaeth ynghylch dulliau ariannu.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau bod y Strategaeth Ynni Ardal Leol yn cynnwys gweledigaeth a nodau hirdymor Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y dyfodol hirdymor (2050), a bod y Cynllun ynni Clyfar yn gwneud yr un peth, ond ar gyfer cyfnod byrrach (hyd at 2025). 

 

Byddai’r rhain yn galluogi’r Awdurdod i:-

 

·       Datgarboneiddio gwres o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

·       Darparu cyfleoedd cyflogaeth newydd

·       Denu busnesau newydd a rhai sydd yma eisoes i dreialu mentrau o fewn y Fwrdeistref Sirol 

 

Nid oedd yn realistig disgwyl i Ben-y-bont ariannu a chyflenwi’r holl brosiectau hyn. 

 

O ran y ddwy Strategaeth, y bwriad oedd cael y sector cyhoeddus a phreifat i fuddsoddi i greu’r offer, modelau a’r cadwyni cyflenwi y gellir wedyn eu hail-adrodd ledled y DU, er mwyn sicrhau bod modd cyflawni targedau datgarboneiddio 2050 y DU ac er mwyn i Ben-y-bont allu elwa ar y manteision economaidd a ddaw wrth bontio o fewn marchnad ynni’r DU.

 

Felly ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ariannu a chyflenwi’r Cynllun Ynni Clyfar, ond yn hytrach bydd yn mabwysiadu rôl  hwylusydd gan ddarparu’r mannau a’r amodau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn denu partneriaid sector preifat a’r buddsoddiad sydd ei angen i gyflenwi’r Cynllun Ynni Clyfar. 

 

Byddai hynny’n golygu fod Pen-y-bont yn dod yn chwaraewr amlwg o ran ail-ddylunio’r modd gaiff ynni ei gynhyrchu a’i gyflenwi yn y dyfodol, gan sicrhau bod y defnyddiwr wrth galon hynny. 

 

Yn olaf, dywedodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal cynhadledd ar y cyd ag Energy Systems Catapult ddydd Mercher diwethaf. Llywodraeth San Steffan sydd wedi sefydlu’r corff  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 317.

318.

Data Presenoldeb Ysgol pdf eicon PDF 835 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad, er mwyn rhannu data presenoldeb ysgol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2015-2106 i  2017-2018, a hefyd i gael cytundeb ar newid arfaethedig i Strategaeth Presenoldeb Ysgol yr Awdurdod Lleol a oedd wedi’i gymeradwyo’n flaenorol gan y Cabinet ar 15 Mai 2018. 

 

Gan roi ychydig o wybodaeth gefndir, dywedodd bod cysylltiad clir a phrofedig rhwng lefelau uchel o bresenoldeb a chyrhaeddiad addysgol da.  Ymhellach, gallai presenoldeb gwael a chyrraedd yr ysgol yn hwyr gael effaith andwyol ar ddysgu plentyn yn ogystal ag effeithio ar les plant. 

 

Mae Strategaeth Presenoldeb yr awdurdod lleol nawr hefyd yn ymgorffori canllawiau diweddar Llywodraeth Cymru ar systemau gwobrwyo. Mae’r canllawiau hyn yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi bod ysgolion yn ystyried Deddf Cydraddoldeb 2010.  Dywedodd bod angen i ysgolion sicrhau nad ydynt yn achosi anfantais i ddisgyblion y mae anabledd neu gyflwr meddygol profedig yn effeithio’n negyddol ar eu presenoldeb. 

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn amlinellu data mewn perthynas â: 

 

·      Presenoldeb ysgolion cynradd

·      Cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim (a data presenoldeb – Ysgolion Cynradd)

·      Absenoldeb cyson mewn Ysgolion Cynradd

·      Presenoldeb ysgolion uwchradd

·      Cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim (a data presenoldeb – Ysgolion Uwchradd)

·    Absenoldeb cyson mewn Ysgolion Uwchradd

·    Gwybodaeth arall debyg mewn perthynas ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, mewn perthynas â:-

 

1.    Plant sy’n derbyn gofal (LAC)

2.    Disgyblion â Saesneg yn iaith ychwanegol (EAL)

3.    Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA) – Datganiad (S) a Gweithredu Ysgol a Mwy (SA+)

 

Nododd bod y ffigurau presenoldeb mewn perthynas â’r uchod yn gyffredinol uwchlaw cyfartaledd Cymru Gyfan.

 

Yn Atodiad A i’r adroddiad, roedd copi o Strategaeth Presenoldeb Ysgol ddiwygiedig yr awdurdod lleol ar gyfer 2018-2021, a dynnai sylw (yn rhan 13.3 y ddogfen) at y newid arfaethedig a oedd yn cael ei awgrymu. 

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd a’i adroddiad i ben drwy ddweud bod asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi’i gwblhau a bod hwnnw i’r gael yn Atodiad 2 i’r adroddiad. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio yn falch gweld o baragraff 13.3 y Strategaeth, bod ysgolion yn ystyried darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2013, a ddim yn achosi anfantais i ddisgyblion ag anabledd neu gyflwr meddygol. Mae hyn yn golygu na ddylai person ifanc gyda record presenoldeb dan 100% oherwydd rhesymau iechyd neu resymau y tu hwnt i reolaeth y plentyn unigol, ddioddef anfantais mewn perthynas â systemau gwobrwyo ysgolion. 

 

Llongyfarchodd yr Arweinydd holl ysgolion, Swyddogion Lles Ysgolion a holl staff y timau cymorth i deuluoedd a chymorth cynnar am y canlyniadau positif a gadarnhawyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â data presenoldeb ysgolion. Nododd bod ffigurau yn dangos y byddai presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn gostwng ychydig, ond y byddai presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn cynyddu ychydig.   

 

Awgrymodd bod y strategaeth yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Ysgol yn ogystal â Phenaethiaid drwy’r sianeli cyfathrebu arferol. 

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet:

 

1)                Yn cymeradwyo Strategaeth Presenoldeb yr Awdurdod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 318.

319.

Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi llywodraethwyr o’r awdurdod lleol i gyrff llywodraethu’r ysgolion a restrwyd ym mharagraffau 4.1 a 4.2 yr adroddiad.

 

Roedd paragraff 4.1 yr adroddiad yn cadarnhau bod pob un o’r 9 ymgeisydd i’r 8 ysgol yn y tabl yn cyflawni’r meini prawf cymeradwy ar gyfer eu penodi’n llywodraethwyr o’r awdurdod lleol, gan nad oedd cystadleuaeth am unrhyw rai o’r seddi gwag. Felly cadarnhawyd yn adran hon yr adroddiad bod yr unigolion ar y rhestr wedi’u penodi’n llywodraethwyr i’r ysgolion. 

 

Roedd paragraff 4.2 yr adroddiad wedyn yn cadarnhau bod cystadleuaeth am un sedd wag mewn un ysgol, a nodwyd manylion yr ymgeiswyr yn y tabl yn yr adran hon o’r adroddiad. 

 

Cadarnhaodd yr adroddiad mai Mrs Karen Jones oedd yr ymgeisydd llwyddiannus mewn perthynas â’r ysgol hon (Ysgol Gynradd Llangewydd).

 

Nododd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio y gallai’r Adran Addysg o bosibl edrych ar gynnal ffurflenni ymgeiswyr blaenorol ar ffeil yn barod ar gyfer seddi gwag yn y dyfodol, yn hytrach na’u bod yn gorfod llenwi ffurflen ar bob achlysur. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai’n edrych ar y posibilrwydd o weithredu’r cais hwn. 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r penodiadau a restrwyd ym mharagraffau 4.1 a 4.2 yr adroddiad.    

320.

Polisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion 2020-21 pdf eicon PDF 539 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cael cymeradwyaeth y Cabinet i Bolisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion 2020-2021, sydd wedi’i hatodi i’r adroddiad. 

 

Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod Fforwm Derbyniadau Pen-y-bont, ar 15 Tachwedd 2018, wedi cytuno ar Bolisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion drafft ar gyfer 2020-2021, yn ôl y gofynion dan God Derbyn i Ysgolion 2013.  

 

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau derbyn i’r ysgolion hynny y maen nhw’n gyfrifol amdanynt fel yr awdurdod derbyn. 11 Rhagfyr 2018 tan 31 Ionawr 2019 oedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer polisi derbyn 2020-2021.

 

Yn ystod yr ymgynghoriad, derbyniwyd pum sylw gan rai rhanddeiliaid a oedd yr union yr un fath â’i gilydd neu bron yn union yr un fath, ac fe’u nodwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad, gydag adran nesaf yr adroddiad yn amlinellu’r ymateb i’r sylwadau hynny a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. 

 

Roedd rhan nesaf yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ynghylch Rhifau Derbyn Cyhoeddedig (PAN) ysgolion, ac roedd Tabl 2 yn yr adroddiad yn cadarnhau diwygiadau PAN ar gyfer y flwyddyn 2020-2021 yn Ysgolion Cynradd Mynydd Cynffig ac Oldcastle.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod asesiad wedi dangos bod modd caniatáu cynnydd yn y Rhifau Derbyn Cyhoeddedig i’r ddwy ysgol, gyda chynnydd o’r fath o fudd i’r awdurdod lleol, ysgolion a rhieni, yn enwedig gan y byddai’r newidiadau yn golygu mwy o lefydd i ddisgyblion yn y ddwy ysgol.

 

Daeth â’i gyflwyniad i ben drwy amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio yn falch o weld y byddai cynnydd o 13 yn nifer disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd a chynnydd o 10 yn Ysgol Gynradd Oldcastle, gyda’r buddion y byddai hyn yn ei olygu i deuluoedd. 

 

Ychwanegodd na fyddai’r darpariaethau o fewn yr adroddiad yn cael unrhyw effaith ar rieni disgyblion yn nhermau eu gallu i ymgeisio am Leoliadau Tu Allan i’r Sir, yn unol â’r polisi presennol ynghylch y broses ar gyfer gwneud hyn.

 

Wrth gloi’r drafodaeth, cadarnhaodd yr Arweinydd na fyddai argymhellion yr adroddiad yn effeithio ar blant yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol sydd ar hyn o bryd yn mynychu Ysgol Gynradd Dolau ac Ysgol Gyfun Llanhari, gan y byddent yn parhau i dderbyn Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol. Ychwanegodd y byddai’r cynigion yn cynorthwyo yn y dyfodol i hybu presenoldeb yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y Fwrdeistref Sirol, ac ysgol sydd â digon o leoedd dros ben.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Cabinet:

 

1)            Yn cymeradwyo Polisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion 2020-21 (Atodiad A i’r adroddiad) gan gynnwys dileu’r cyfeiriadau hanesyddol at Ysgol Gynradd Dolau ac Ysgol Gyfun Llanhari fel y dangosir yn Nhabl 1 yr adroddiad. 

 

  Yn cymeradwyo newidiadau i’r rhifau derbyn cyhoeddedig ar gyfer 2020-2021 (gweler Tabl 2) i Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ac Ysgol Gynradd Oldcastle.    

321.

Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer Disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd (Arferai gael ei hadnabod fel Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw) pdf eicon PDF 438 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad. Diben yr adroddiad oedd hysbysu’r Cabinet o ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu i ddisgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd (arferai gael ei hadnabod fel Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw).

 

Yn Rhagfyr 2011, derbyniodd y Cabinet ddiweddariad ar adolygiad o’r cymorth a’r ddarpariaeth ar gyfer cynnwys plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mewn cysylltiad â’r cynnig hwn, agorwyd Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer Disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd y mis Mawrth 2018.

 

Er mwyn symud ymlaen gyda chynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer Disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, cynhaliwyd ymarferion ymgynghori yn ystod cyfnod rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2018, gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd a hefyd gyda’r gymuned ehangach, yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion Statudol.

 

Roedd Adroddiad Ymgynghori ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1, a thynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at bwyntiau amlwg yr adroddiad er budd yr Aelodau. 

 

Cyfeiriodd wedyn at oblygiadau ariannol yr adroddiad, gan nodi y byddai cyllid ar gyfer y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn cael ei ddyrannu drwy gyllideb ddirprwyedig yr ysgol brif ffrwd, drwy ddyraniad fformiwla’r ysgol, gan ddefnyddio cyfuniad o ddyraniad dosbarth a’r elfen uned disgybl wedi’i bwysoli o ran oed (AWPU).

 

Byddai lefelau cyllid yn deillio o anghenion staffio presennol tybiannol ac maent yn seiliedig ar gyflog athro a dau aelod o staff cynorthwyol. Byddai’r costau sefydlu untro yn £10k.

 

Fel rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer 2017-18 dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, dyrannwyd cyfanswm o £263k dan bwysau cyllidebol i sefydlu Canolfannau Adnoddau Dysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg o’r flwyddyn 2017-2018 ymlaen. Fel rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer 2018-2019, dyrannwyd £51k pellach i dalu am effaith pwysau blwyddyn lawn y dyraniad blaenorol. Defnyddir y dyraniadau hyn i ariannu’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, gan gynnwys y costau sefydlu, yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, pe byddai’r cynnig yn mynd yn ei flaen.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ei fod ef a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ymweld ag ysgolion, a bod rhan o’u hymweliad bob amser yn golygu edrych ar lefel y gefnogaeth oedd ei hangen ar ddisgyblion gyda’r math yma o anghenion. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd mai’r ysgol sy’n destun yr adroddiad oedd yr Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol i gynnwys Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer plant ag awtistiaeth. Ychwanegodd hefyd ei fod yn falch iawn gyda’r ymateb hynod bositif a dderbyniwyd gan ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod yr ymgynghoriad. 

 

Daeth â’r drafodaeth ar yr eitem i ben drwy nodi y byddai darpariaeth arbenigol debyg ar gael i’r un disgyblion pan fyddent yn cyrraedd oedran  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 321.

322.

Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – Newidiadau i Ysgol Gynradd Betws pdf eicon PDF 452 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad, a oedd yn hysbysu’r Cabinet o ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i ddod â darpariaeth anogaeth yr awdurdod lleol (ALl) i ben yn Ysgol Gynradd Betws. 

 

Er mwyn symud ymlaen gyda chynnig i ddod â darpariaeth anogaeth yr awdurdod lleol i ben yn Ysgol Gynradd Betws, cynhaliwyd ymarferion ymgynghori yn ystod cyfnod rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2018, gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion Ysgol Gynradd Betws a hefyd gyda’r gymuned ehangach, yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion Statudol.

 

Roedd Adroddiad Ymgynghori ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1, a thynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at bwyntiau amlwg yr adroddiad er budd yr Aelodau.  Ychwanegodd na dderbynion unrhyw wrthwynebiad i gynigion yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd wedyn at oblygiadau ariannol yr adroddiad, gan gadarnhau y bydd arbedion arfaethedig blwyddyn gyfan o £51,378 o gau darpariaeth anogaeth yr ALl yn Ysgol Gynradd Betws. Bydd yr arian hwn wedyn yn cael ei ail-ddyrannu o fewn Cyllidebau Ysgolion Unigol yr ysgolion cynradd.

 

O ganlyniad i’r cau, bydd cyllid yr uwch swyddog cefnogi yn Narpariaeth Anogaeth Ysgol Gynradd Betws yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cyllid sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflwyno’r cyfnod sylfaenol yn The Bridge. Nid oes unrhyw gostau diweithdra gorfodol yn gysylltiedig â’r cynnig hwn. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod canlyniad ymweliad dilynol Estyn ar ôl iddynt arolygu The Bridge ynghynt, yn dda iawn ac yn rhywbeth positif i’w ddarllen.

 

Llongyfarchodd yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio y staff yn The Bridge am eu gwaith caled sydd wedi cyfrannu at Arolwg Dilynol positif, gan nodi bod hyn yn galonogol iawn o gofio bod anghenion cymhleth gan y bobl ifanc sy’n cael eu cefnogi yno. Roedd adborth Estyn hefyd rhoi sicrwydd bod The Bridge mewn sefyllfa dda i allu cynnig y ddarpariaeth cyfnod sylfaen arfaethedig. 

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Cabinet:

 

1)    Yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad gyda phartïon â chanddynt ddiddordeb fel y manylir yn Adroddiad yr Ymgynghoriad sydd ynghlwm wrth y prif adroddiad.

2)    Yn cymeradwyo’r Adroddiad Ymgynghori ar gyfer ei gyhoeddi.

Yn awdurdodi cyhoeddiad Hysbysiad Cyhoeddus Statudol ar y cynnig

323.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad. Diben yr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i eitemau gael eu cynnwys yn y Blaenraglen Waith ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 31 Gorffennaf 2019.

 

Disgrifiwyd y Blaenraglenni Gwaith arfaethedig ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, fel a ganlyn:-

 

  • Cabinet 1 Ebrill i 31 Gorffennaf 2019 – Atodiad 1
  • Cyngor 1 Ebrill i 31 Gorffennaf 2019 – Atodiad 2
  • Trosolwg a Chraffu – Atodiad 3

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet, roedd bwriad cyhoeddi’r Blaenraglen Waith ar 18 Mawrth 2019. 

 

Byddai angen costau cyfieithu o tua £60 am bob diweddariad chwarterol o’r Blaenraglen Waith pan fyddent yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai’r costau hyn yn dod o gyllidebau presennol. 

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cabinet:-

 

(1)  Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 31 Gorffennaf 2019, fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a Chraffu fel y dangosir yn Atodiad 2 a 3 yr adroddiad, yn y drefn honno. 

324.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, a oedd yn hysbysu’r Cabinet o’r Adroddiad Gwybodaeth ar gyfer ei nodi a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod diwethaf.  

 

Roedd yr adroddiad hwn ynghlwm wrth y prif adroddiad, a’i deitl yw ‘Amrywiad i Bolisi a Threfniadau Derbyn i Ysgolion 2020-21’.

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi’r ddogfen a restrir yn yr adroddiad. 

325.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

326.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr adroddiad sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r eitemau fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.  

 

                                               Yn dilyn gweithrediad prawf lles y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ei bod yn cael ei hystyried yn breifat, a gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod gan y byddai’n golygu datgelu gwybodaeth iddynt sydd wedi’i heithrio o’r natur a nodwyd uchod.

327.

Cynllun Rhannu Bywydau Pen-y-Bont ar Ogwr - Cynnig am Drefniadau Cyflawni yn y Dyfodol