Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

328.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

329.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 86 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/2/19 a 19/2/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo bod Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 ac 19 Chwefror 2019 yn gywir.

330.

Y Diweddaraf am Brexit a'r Gofrestr Risg pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol adroddiad y Prif Weithredwr Dros Dro ar effaith bosibl Brexit ac ar y modd y mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer hynny, ac yn sail ar gyfer penderfyniadau'r Cyngor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn pleidlais y mwyafrif i ymadael yn refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016, mae llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio tuag at ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar 29 Mawrth 2019.  Dywedodd fod Deddf Ymadael 2018 sydd bellach yn gyfraith yn cynnwys darpariaethau a olygai fod holl gyfreithiau'r UE yn cael eu cynnwys yng nghyfraith y DU er mwyn rhoi sicrwydd cyfreithiol i fusnesau a phreswylwyr.  Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio sicrhau cytundeb (y Cytundeb Ymadael) â'r UE fydd yn trafod ei pherthynas â'r UE o hyn allan, a lefel ei chyfranogiad ym Marchnad Sengl ac Undeb Tollau yr UE.  Dywedodd nad oedd cytundeb wedi'i sefydlu ar hyn o bryd, ac felly mai ychydig o eglurder yr oedd ynghylch union effaith hyn ar y Cyngor ac ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar raddfa ehangach.

 

Hysbysodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol y Cabinet y byddai'r Llywodraeth yn gwneud cais i'r Senedd i estyn Erthygl 50.  Fodd bynnag, y sefyllfa ar hyn o bryd os na cheir unrhyw newid yw y bydd y DU yn ymadael â'r UE ar 29 Mawrth 2019. 

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol fod y Cyngor wedi sefydlu Fforwm Brexit mewnol ar draws y cyfarwyddiaethau, wedi'u cadeirio gan y Prif Weithredwr dros dro.  Cylch gwaith y Fforwm yw archwilio effaith bosibl Brexit ar ddarpariaeth gwasanaeth ynghyd â chamau i liniaru rhag risgiau, a bydd hefyd yn archwilio unrhyw gyfleoedd posibl a allai godi yn sgil Brexit.  Dywedodd fod asesiad risg wedi cael ei lunio, a'i gynnwys yn seiliedig ar gyfraniad arweinwyr maes gwasanaeth sy'n gweithio o fewn y Fforwm.  Yr oedd hefyd yn seiliedig ar waith a gyflawnwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Cymru a phartneriaid eraill allweddol.  Dywedodd mai dogfen fyw yw'r asesiad risg i raddau helaeth, a'i fod yn rhoi cipolwg o waith ar adeg benodol.  Mae'r asesiad yn parhau i gael ei ddatblygu ymhellach ac yn cael ei adolygu'n ffurfiol yn holl gyfarfodydd y Fforwm Brexit.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet fod Pecyn Gwaith Parodrwydd am Brexit, a luniwyd gan CLlLC mewn partneriaeth â Grant Thornton, yn rhan o'u Rhaglen Gymorth Pontio Brexit, wedi bod yn ganllaw defnyddiol wrth geisio deall y risgiau a'r cyfleoedd posibl a geir yn sgil Brexit.

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol nad oedd y testun yn gyflawn yn Risg 33, ac er mwyn cwblhau'r adran honno ychwanegwyd y geiriau canlynol:  "rhoi cyfle i negodi prisiau, a pheidio llesteirio'r contract. 

 

Ymdriniaeth - Gan nad oedd unrhyw dariffau WTO wedi'u cytuno, amcangyfrifir y bydd prisiau bwyd yn codi - awgrymir y dylid darparu ar gyfer isafswm o 20% o gynnydd i'r gyllideb ar gyfer bwyd."

 

Mynegodd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 330.

331.

Atal Rheolau'r Weithdrefn Gontractau a Dyfarnu Contractau'r Gwasanaeth Landlord Corfforaethol pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract ar gyfer trefniadau rheoli dros dro a chefnogaeth ymgynghori i'r Gwasanaeth Landlord Corfforaethol o fewn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau; atal rhannau perthnasol o Reolau'r Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i aildendro'r contractau cyfredol a gaffaelwyd ar gyfer y gwasanaethau hyn ac awdurdodi'r Prif Weithredwr Dros Dro i ymrwymo i gontractau â'r darparydd presennol am gyfnod pellach o ddeunaw mis yn unol â thelerau diwygiedig.

 

Dywedodd fod Peopletoo Limited wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor dros y 18 mis diwethaf i drawsnewid y gwasanaethau Amgylchedd Adeiledig, ac er mwyn helpu'r Cyngor i symud tuag at wasanaeth Landlord Corfforaethol integredig, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy o oddeutu  £500,000 y flwyddyn.   Mae gwelliannau ansawdd wedi cael eu cyflwyno yn gyffredinol, gan gynnwys gwelliant nodedig o ran cydymffurfiaeth asedau a bodlonrwydd cwsmeriaid, Dywedodd fod y Cyngor yn gallu dangos enillion cryf ar fuddsoddiad gan fod Peopletoo wedi cael eu comisiynu fel ymgynghorwyr yn wreiddiol drwy broses gaffael gystadleuol.  Yn ogystal â hynny, roedd y Cyngor wedi caffael Peopletoo ar wahân drwy broses gaffael gystadleuol i ddarparu Rheolwr Dros Dro i'r Gwasanaeth Landlord Corfforaethol ar gyfer y 14 mis diwethaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol - fod y Cyngor wedi ceisio penodi Rheolwr Dros Dro parhaol ar dri achlysur gwahanol, ond na fu modd iddo benodi unigolyn o safon ddigonol â sgiliau arwain uwch reolwr. Mae cyfnod contract y gwasanaeth ymgynghori gan Peopletoo bellach wedi dod i ben, ac mae'n bryd dirwyn y contract ar gyfer y swydd Rheolwr Dros Dro hefyd, ond heb gael hyd i ddatrysiad ymarferol arall ceir perygl difrifol na cheir arweinyddiaeth ar lefel uwch i'r  gwasanaeth Landlord Corfforaethol, a hynny ar adeg lle mae llawer o heriau ariannol a gweithredol yn bodoli o hyd. Pe bai'r gefnogaeth uwch reoli yn dod i ben o fewn y gwasanaeth Landlord Corfforaethol, gallai hynny olygu na ellir cyflawni'r arbedion pellach a nodwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Gallai'r gwasanaeth hyd yn oed gymryd cam yn ôl a dad-wneud rhai o'r newidiadau cadarnhaol a gafwyd dros y deunaw mis diwethaf.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad ar gynnig i benodi Peopletoo am gyfnod pellach o ddeunaw mis i reoli'r broses o weithredu, ac o fod yn atebol am gyflawni'r mentrau newydd hyn, gan weithio'n agos gyda thimau presennol i sicrhau'r canlyniadau gofynnol o ran cyllid a pherfformiad. Yn ogystal â hyn, byddai Peopletoo yn cymryd drosodd y gwaith o reoli'r maes gwasanaeth yn uniongyrchol yn ystod y cyfnod dan sylw, drwy ddarparu Rheolwr Dros Dro ac unrhyw gefnogaeth arall sydd ei hangen. Yr hyn a gynigir yn ei hanfod yw gwasanaeth rheoli am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd y Cyngor yn derbyn gwasanaeth cryf sefydlog ac wedi cyflawni'r swm sylweddol o arbedion ychwanegol.  Rhan bwysig o'r comisiwn newydd fyddai penodi Rheolwr Landlord Corfforaethol parhaol llawn-amser cyn diwedd comisiwn Peopletoo er mwyn sicrhau cyfnod pontio hwylus.  Dywedodd mai'r cyfanswm a fyddai'n daladwy i Peopletoo am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 331.

332.

Newid Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol yn gysylltiedig â'r Rhaglen Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth am gymeradwyaeth i dynnu'n ôl yn ffurfiol o Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin; i ymuno'n ffurfiol â Phwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf ac i enwebu a phenodi Aelod Cabinet i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf.

 

Dywedodd ei bod hi'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol fod yn aelod o Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol, a chymryd rhan yn y pwyllgor hwnnw, yn ôl Canllawiau Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Mae'n ofynnol i bob PCRh gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn o leiaf, ac mae 6 PCRh yn weithredol ar draws Cymru. 

 

Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth am gymeradwyaeth i dynnu'n ôl yn ffurfiol o Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin; i ymuno'n ffurfiol â Phwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf ac i enwebu a phenodi Aelod Cabinet i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf.

 

Dywedodd ei bod hi'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol fod yn aelod o Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol, a chymryd rhan yn y pwyllgor hwnnw, yn ôl Canllawiau Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Mae'n ofynnol i bob PCRh gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn o leiaf, ac mae 6 PCRh yn weithredol ar draws Cymru. 

 

Dywedodd hefyd mai aelod o'r Tîm Cefnogi Pobl a'r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol sydd yn cynrychioli'r awdurdod ar hyn o bryd ar PCRh Bae'r Gorllewin.  Gan y bydd y cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn yr ardal hon yn trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o 1 Ebrill 2019, cynigiwyd y dylai'r Cyngor hwn drosglwyddo o PCRh Bae'r Gorllewin i PCRh Cwm Taf yn unol â'r newid hwn i ffin y Bwrdd Iechyd.  Roedd angen cymeradwyaeth i roi rhybudd ffurfiol i adael PCRh Bae'r Gorllewin o 1 Ebrill 2019 yn unol â'r newid i ffin y Bwrdd Iechyd.  Gofynnwyd hefyd am gymeradwyaeth i benodi Aelod Cabinet i fod yn bresennol ac i gymryd rhan yn PCRh Cwm Taf, ac i'r penodiad fod yn gysylltiedig â'r rôl yn hytrach na'r Aelod unigol.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

           Gymeradwyo i'r Awdurdod dynnu'n ôl o Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin a rhoi cymeradwyaeth i ymuno'n ffurfiol â Phwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf yn unol â'r newid i ffin y Bwrdd Iechyd;

           Enwebwyd a phenodwyd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf.

333.

Gwasanaethau Cymunedol Integredig - Cytundeb Adran 33 pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gynnydd o ran gweithredu'r achos busnes i gyflenwi gwasanaethau gofal canolraddol integredig ar raddfa optimaidd, a gofynnodd am gymeradwyaeth i ymrwymo i gytundeb adnewyddu ar gyfer darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) gydag Ymddiriedolaeth y GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (BI PABM) ar gyfer 2018/2019.  Gofynnodd hefyd am awdurdod dirprwyedig mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i negodi ac ymrwymo i gytundeb partneriaeth ffurfiol er mwyn darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (BI Cwm Taf) ar ôl newid ffin y bwrdd iechyd ym mis Ebrill 2019.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod cyllid wedi'i fuddsoddi, yn sgil yr achos busnes, mewn model gwasanaeth gofal canolraddol optimaidd, a oedd yn cynnwys 3 elfen: Pwynt Mynediad Cyffredin; Ymateb Brys ac Ailalluogi.  Dywedodd fod yr achos busnes wedi denu buddsoddiad drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol.  Wrth ymrwymo i'r Achos Busnes, cefnogodd y Cabinet argymhelliad i 'gymeradwyo mewn egwyddor sefydlu trefniant i gyfuno adnoddau â phartneriaid yn Rhaglen Bae'r Gorllewin, yn amodol ar greu cytundeb ffurfiol yn unol ag Adran 33 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 erbyn mis Ebrill 2015'. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, wrth gymeradwyo'r Achos Busnes ar gyfer Gwasanaethau'r Haen Ganolraddol, y cafwyd cymeradwyaeth i sefydlu cronfa gyfun ffurfiol yn unol ag Adran 33 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.  Daeth y cytundeb hwnnw i rym o 1 Hydref 2015, a daeth i ben ar 31 Mawrth 2018.  Parhaodd y partïon i ddarparu'r gwasanaeth o dan lywodraeth y Cyd-fwrdd Partneriaeth, fel pe bai darpariaethau'r Cytundeb Adran 33 gwreiddiol yn dal mewn grym tra bo'r partïon yn cytuno ar delerau'r cytundeb diwygiedig.  Mae cytundeb bellach wedi'i sefydlu â BI PABM ynghylch telerau'r Cytundeb Adran 33 diwygiedig, a ddaw i rym o 1 Ebrill 2018 hyd at yr adeg pan fydd ffin y bwrdd iechyd yn newid ar 1 Ebrill 2019. 

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod BI Cwm Taf, yn ystod y trefniadau pontio ar gyfer newid ffin y bwrdd iechyd, wedi dangos ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflenwi gwasanaethau gofal canolraddol i'r Gwasanaethau Oedolion a Phobl H?n.  Mae trafodaethau ar y gweill gyda'r nod o ymrwymo i gytundeb partneriaeth ffurfiol a ddaw i rym o 1 Ebrill 2019.  Bwriedir i'r gwasanaethau integredig hyn gael eu cynnwys yn rhan o'r cytundeb partneriaeth diwygiedig â BI Cwm Taf.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:   

 

  • Gymeradwyo ymrwymo i adnewyddu Cytundeb Adran 33 o Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 â BI PABM ar gyfer darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) ar gyfer 2018/19. ac

 

           Y dylid rhoi awdurdod dirprwyol i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, negodi ac ymrwymo i gytundeb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 333.

334.

Newid Ffiniau’r Byrddau Iechyd – Y Diweddaraf pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y newyddion diweddaraf am sefyllfa gyfredol ffin newydd y Bwrdd Iechyd ym mis Ebrill 2019.

 

Er na fydd y newid yn tarfu ar wasanaethau cyffredinol i'r un graddau â gwasanaethau'r Byrddau Iechyd, hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet, fod y newidiadau i'r ffiniau yn effeithio ar nifer o wasanaethau'r Cyngor.  Oherwydd yr angen i ddiogelu gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cyfnod hwn o aflonyddwch posibl, ac er mwyn sicrhau parhad yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg ar ôl 1 Ebrill 2019, mabwysiadwyd dull strwythuredig o ddatgyfuno gwasanaethau rhanbarthol. Er mwyn gwneud hynny bu'n rhaid gweithio'n agos ag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn sicrhau, lle bo cyllid rhanbarthol yn ariannu gwasanaethau integredig, y rhoddir cyfrif am y gwasanaethau hynny rhwng Bae'r Gorllewin, Bwrdd Iechyd PABM a'r Cyngor.

 

Er mwyn cynllunio ar gyfer newid ffiniau rhanbarthol, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cabinet fod Rhaglen Bontio wedi'i sefydlu a oedd yn cynnwys swyddogion o'r ddau Fwrdd Iechyd, y Cyngor a'r Trydydd Sector. Tynnodd sylw at strwythur llywodraethu'r cytundebau partneriaeth newydd a fyddai'n weithredol o 1 Ebrill 2019.  Dywedodd fod y partneriaid wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion o'r cychwyn cyntaf a fyddai'n tanategu gwaith y Rhaglen Bontio ac yn sail er mwyn i'r holl bartneriaid ddwyn eu hunain, a'r naill a'r llall, i gyfrif am gyflawni'r newidiadau gofynnol.  Pennwyd yr egwyddorion yng nghyd-destun ymrwymiad i sicrhau'r cyfle gorau posib i wella iechyd a llesiant y boblogaeth a wasanaethir gan y sefydliadau.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd fod yr holl drefniadau cyd-ariannu rhwng CBS Pen-y-bont ar Ogwr a BI PABM wedi'u nodi, ac amcangyfrifwyd bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn derbyn mwy na £5 miliwn gan BI PABM yn gysylltiedig â'r trefniadau hyn.  Cytunwyd mewn egwyddor na fyddai'r newid ffin a gynlluniwyd na chynlluniau pontio yn cael unrhyw effaith andwyol ar unrhyw drefniadau cyd-ariannu.  Bydd y Cyngor yn parhau i fod â threfniadau cyd-ariannu â rhanbarthau Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg ar ôl i'r ffiniau newydd ddod i rym.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cabinet fod Cyllid Gofal Integredig a Chyllid Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau wedi'u datgyfuno er mwyn gwahanu dosraniad ardal Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai wedyn yn mynd i ranbarth Cwm Taf Morgannwg mewn pryd ar gyfer blwyddyn ariannol newydd 2019/20, ac roedd cytundeb wedi'i geisio ynghylch hyn oddi wrth y ddau Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £30 miliwn yn ychwanegol o gyllid refeniw y Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer Cymru gyfan, ac amcangyfrifir y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £1.3 miliwn o'r swm hwn.  O ran cyllid cyfalaf, roedd £1.5 miliwn yn 2019/20 ac £11.8 miliwn yn 2020/21 wedi'i nodi ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y rhagwelwyd na cheid unrhyw oblygiadau ariannol niweidiol o ran y ddwy gronfa gyfunol yn sgil newid ffiniau. Tynnodd sylw at  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 334.

335.

Gofal Cymdeithasol Plant – Pecynnau Cymorth Prifysgol ar gyfer Ymadawyr Gofal pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am gymeradwyaeth ar gyfer Polisi ynghylch Pecynnau Cymorth Prifysgol ar gyfer ymadawyr gofal. 

 

Dywedodd fod y polisi a oedd wedi'i ddatblygu yn amlinellu'r trefniadau i gyflawni'r ymagwedd a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2018, lle byddai ymadawyr gofal yn cael cefnogaeth i ymgeisio am fenthyciadau a grantiau i dalu am eu ffioedd addysgu.  Byddai gofal cymdeithasol plant yn darparu lwfans wythnosol i'r myfyriwr a bwrsari yn ychwanegol at y grantiau y mae ganddynt hawl i'w derbyn.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod pobl ifanc sydd eisoes yn y Brifysgol yn parhau i dderbyn cymorth yn unol â'r trefniadau cyfredol.   Dywedodd fod yr Awdurdod yn talu cymhelliant wythnosol am 40 wythnos (ee, £25 yr wythnos); bydd y myfyriwr yn derbyn £9,000 o'r Benthyciad Ffioedd Addysgu ar gyfer y ffi addysgu, ac yn defnyddio'r Grant Costau Byw i dalu am lety a chostau cynhaliaeth.  Bydd taliadau dewisol hefyd yn cael eu hystyried.  Bydd y myfyriwr yn elwa ar y taliad cymhelliant wythnosol yn ychwanegol at y benthyciadau a'r grantiau sydd ar gael iddo. Darperir y Bwrsari (traean o £2,000) ar ôl cwblhau pob blwyddyn ac academaidd i gynnal y myfyriwr dros wyliau'r haf.

 

Wrth ganmol y polisi, dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg fod y gefnogaeth i'r polisi gan Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet wedi bod yn galondid iddo. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod nifer yr ymadawyr gofal sy'n mynd i addysg uwch, a'r ffaith bod un o'r rheiny wedi ymrestru ar gwrs Meistr, yn galonogol.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:  

 

·           gymeradwyo'r Polisi Pecynnau Cymorth Prifysgol ar gyfer Ymadawyr Gofal

nodi y dylid adolygu'r effaith ariannol o fewn 12 mis ac adrodd yn ôl ar y canfyddiadau wrth Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet er mwyn cael sylwadau.

336.

Cynnig i ddatgyfuno'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid o drefniadau Bae'r Gorllewin pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am gymeradwyaeth i ddatgyfuno'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr oddi wrth gynllun cydweithredol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai partneriaeth aml-asiantaeth statudol yw'r gwasanaeth/timau troseddau ieuenctid a chanddynt ddyletswydd gyfreithiol i gydweithredu er mwyn sicrhau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid sy'n briodol i'w hardal ac a ariennir o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a phartneriaid statudol. Dywedodd fod Timau Troseddau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi bod yn rhan o wasanaeth cydweithredol gwirfoddol ers 2014, a bod holl weithgarwch y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ar draws rhanbarth Bae'r Gorllewin wedi cae lei oruchwylio a'i fonitro gan Fwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin.

 

Gan fod ffin y bwrdd iechyd yn newid, gyda hynny'n dod i rym o 1 Ebrill 2019, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod holl bartneriaid Bwrdd Rheoli'r Gwasanaeth wedi cytuno y byddai'n adeg dda i ddirwyn y cynllun cydweithredol i ben.  Mae swyddogion wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i ofyn am gael dosbarthu'r grant Hyrwyddo Ymgysylltu Cadarnhaol i bob awdurdod lleol, ac rydym yn disgwyl cadarnhad ynghylch hyn.  Os cymeradwyir datgyfuno, bydd y gwasanaeth yn gweithio fel gwasanaeth unigol unwaith eto, er bod trafodaethau wedi cychwyn â GTI Cwm Taf, gyda chyfleoedd i gydweithio ar draws y ffin ar brosiectau penodol.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

1)     gymeradwyo datgyfuno Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr oddi wrth Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin erbyn is Mawrth 2019, fel y nodwyd yn adran 4 o'r Adroddiad; a

dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Chymorth i Deuluoedd) i gytuno ar delerau Cytundeb Lefel Gwasanaeth ag Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ynghylch y grant PPE ar gyfer un flwyddyn bontio os na allai Llywodraeth Cymru rannu'r grant ar gyfer 2019-2020 ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio.                 

337.

Gwahodd Tendrau ar gyfer Contractau Gwasanaeth Bws Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) am gymeradwyaeth i gynnal ymarfer caffael i wahodd tendrau i ymgeisio am gontractau ar gyfer amryw o wasanaethau bws o'r cartref i'r ysgol am gyfnod o 5 mlynedd, gyda dewis i ymestyn am ddau gyfnod arall o flwyddyn. Cyfanswm gwerth dangosol y cyfnod llawn fyddai £17.9 miliwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) y bydd y contractau bysus mawr cyfredol ar gyfer trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2019.  Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor, ac i geisio sicrhau gwerth am arian, gofynnwyd am ganiatâd i gychwyn ymarfer caffael newydd i gystadlu am gontractau bws mawr, a dyfarnu'r contractau hynny. Bydd hyn yn cynnwys 79 o lwybrau teithio ar wahân a dull cystadleuaeth agored, wedi'i gynnal gan y Tîm Caffael Corfforaethol.  Dywedodd mai'r nod, wrth ddyfarnu contractau am gyfnod o 5 mlynedd gyda'r dewis i ymestyn am ddau gyfnod pellach o flwyddyn, oedd annog buddsoddiad, cryfhau trefniadau contractio presennol a'r posibilrwydd o agor y farchnad i gyflenwyr newydd.  Dywedodd wrth y Cabinet, o dan Reolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor, mai un o swyddogaethau'r Cabinet yw penderfynu caffael gwasanaethau yr amcangyfrif bod eu gwerth yn uwch na £5 miliwn.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am esboniad ynghylch sefyllfa'r Cyngor o ran adolygu trafnidiaeth ysgol, ac ynghylch y gallu i derfynu contract. Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) wrth y Cabinet y gall y Cyngor dynnu'n ôl o gontract ysgol drwy roi mis o rybudd, os yw'r llwybr yn troi'n llwybr diogel i'r ysgol yn ddiweddarach ac nad yw dysgwyr felly'n gymwys i gael eu cludo i'r ysgol. Dywedodd fod yr adolygiad strategol o drafnidiaeth i'r ysgol wedi'i ohirio yn sgil Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, ac y gallai rhai llwybrau presennol gael eu tynnu'n ôl.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet ei bod hi'n anodd cyfuno llwybrau ysgol mewn sypiau gan fod ysgolion yn dechrau ac yn gorffen ar amseroedd gwahanol, er y byddai swyddogion yn gwneud hynny wrth ddefnyddio cerbydau llai. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a fyddai'r adolygiad strategol o drafnidiaeth ysgol yn ystyried dichonadwyedd defnyddio fflyd y Cyngor o gerbydau ar gyfer trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) fod angen i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddefnyddio'r fflyd o gerbydau drwy gydol y dydd, ond bod rhai ysgolion yn defnyddio fflyd y Cyngor.  Dywedodd wrth y Cabinet hefyd fod potensial i ddefnyddio cerbydau deulawr, ac y byddai hynny'n cael ei ystyried fesul achos. Fodd bynnag, nid yw'r cerbydau hynny gan lawer o weithredwyr.  Gallai defnyddio bysus deulawr fod yn fwy economaidd.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet y ceir trefniadau i gyfathrebu â chontractwyr cyfredol. Gofynnodd yr Arweinydd am gael hysbysu darpar ddarparwyr trafnidiaeth i'r ysgol ynghylch yr adolygiad ac o'r posibilrwydd y bydd y contract yn newid yn sgil hynny.     

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

·      awdurdodi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 337.

338.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 am gymeradwyaeth i derfynu penderfyniad y Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018 i fynd ar drywydd Opsiwn 2 er mwyn cyflawni agweddau ariannol Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.  Rhoddodd wybod i'r Cabinet am y newid i gyfradd ymyrraeth grant Llywodraeth Cymru ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol; gofynnodd am gymeradwyaeth i fynd ar drywydd Opsiwn 3 er mwyn cyflawni agweddau ariannol Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, cyn cyflwyno gerbron y Cyngor, ac i'r Cyngor gymryd rhan ym mhroses gaffael y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.  

 

Dywedodd fod gwaith moderneiddio ysgolion wedi'i sefydlu fel un o brif raglenni strategol y Cyngor. Esboniodd gefndir yr ysgol wrth y Cabinet.  Yn 2010, cymeradwyodd y Cabinet y cynlluniau a argymhellwyd ac a oedd wedi'u cynnwys ym mhob un o bedwar band y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion (A-D), ac y manylwyd arnynt yn sgil hynny yn Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif. Ym mis Gorffennaf 2017, terfynodd y Cabinet y cynlluniau Band B gwreiddiol a oedd wedi'u nodi ym mis Tachwedd 2010, a chymeradwyo rhestr ddiwygiedig, yn seiliedig ar y galw cynyddol am leoedd, y gofyniad i hyrwyddo'r Gymraeg a chyflwr adeiladau.  Er mwyn paratoi am Fand C y rhaglen, rhoddodd y Cabinet hefyd gymeradwyaeth i gynnal adolygiadau ardal ac arfarniad o opsiynau yn ystod cyfnod Band B. Ym mis Ionawr 2017, cafwyd cymeradwyaeth mewn egwyddor oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer ail don o fuddsoddiad o £68.2 miliwn.  Ym mis Ionawr 2018, rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer yr ymrwymiad ariannol yr oedd ei angen ar gyfer Band B.  Cyfradd ymyrraeth Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru ar y pryd oedd 75%, wedi'i thalu i'r awdurdod ar ffurf grant refeniw. Hysbyswyd y Cabinet ym mis Tachwedd 2018 fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

           

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newid i'r gyfradd ymyrraeth ar gyfer grant cyfalaf, lle'r oedd ei chyfraniad ar gyfer Band B wedi cynyddu i 75% ar gyfer ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion a 65% ar gyfer pob cynllun arall.  Byddai cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) yn parhau ar 75%.  Ym mis Rhagfyr 2018, cefnodd y Cabinet ar y penderfyniad a wnaed ym mis Tachwedd 2018 a rhoi cymeradwyaeth i fynd ar drywydd opsiwn lle byddai'r holl ysgolion ym mand B yn cael eu hariannu drwy grant cyfalaf, yn amodol ar ganfod a neilltuo digon o adnoddau i fodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod Llywodraeth Cymru, ym mis Chwefror 2019, wedi cyflwyno newid i'r gyfradd ymyrraeth ar gyfer cynlluniau MBC Band B, ac y byddai'r model diwygiedig yn elwa ar gynnydd o 6% yn y gyfradd ymyrraeth, o 75% i 81%.  Yn sgil y gyfradd newydd, roedd swyddogion wedi ailgyfrifo'r ffigurau. Wrth symud ymlaen ag MBC Band B, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ffurfioli'r broses o gaffael Partner Cyflenwi'r Sector Preifat, y gofynnwyd cyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 338.

339.

Comisiynu a Dyfarnu Contractau mewn perthynas â'r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth am gymeradwyaeth i barhau i gyflenwi'r gwasanaeth yn seiliedig ar y trefniadau contract sydd ar waith ar hyn o bryd i gyflawni contractau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf am gyfnod o 3 mis o 1 Ebrill 2019 hyd 30 Mehefin 2019. Gofynnodd hefyd am gael atal y rhan honno o Reolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor y gysylltiedig â'r Contractau arfaethedig a restrwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad a oedd yn gysylltiedig â'r gofynion i aildendro'r Contractau hyn, a gofynnodd am awdurdod i ymrwymo i gontractau byrdymor â'r darparwyr cyfredol.

 

Dywedodd y byddai'r contractau estynedig presennol a oedd yn gysylltiedig â'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019, a byddai disgwyl i'r Cyngor fod wedi aildendro am wasanaethau newydd bryd hynny.  Er ei bod hi'n hanfodol cynnal ymarfer aildendro, dywedodd fod y cyfnod pontio presennol o ran trefniadau ariannu yn atal y Cyngor rhag cynnal yr ymarfer comisiynu gofynnol ar hyn o bryd. Dywedodd wrth y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gynlluniau cyflawni newydd gael eu cyflwyno yn fuan ym mis Chwefror, na fyddai'n caniatáu digon o amser i aildendro gwasanaethau o 1 Ebrill 2019. Gan hynny byddai angen ymrwymo i gontractau byrdymor newydd a fyddai'n golygu bod angen atal Rheolau'r Weithdrefn Gontractau a dyfarnu contractau'n seiliedig ar y trefniadau contract cyfredol am gyfnod dros dro o 3 mis.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

a.   atal y rhannau perthnasol yn Rheolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor yn gysylltiedig â'r gofyniad i aildendro'r contractau arfaethedig a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

b. awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth i ymrwymo i gontractau byrdymor 3 mis o hyd â'r darparwyr cyfredol o ran y Contractau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

340.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio ar yr adroddiadau gwybodaeth a ganlyn a oedd wedi cael eu cyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y Cabinet:

 

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2017-18

Adroddiad Monitro - Cwynion, Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet gydnabod bod y dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad wedi'u cyhoeddi.

341.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

342.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem a ganlyn, o dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, gan fod yr eitem honno'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 ac ym Mharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

                                Ar ôl cymhwyso’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, er mwyn trafod yr eitem a ganlyn yn breifat, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir uchod.

343.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 19/02/2019

Cofnodion:

RESOLVED:              That the exempt minutes of the meeting of Cabinet of 19      February 2019 be accepted as a true and accurate record.  

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z