Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Mehefin, 2019 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

372.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

373.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 132 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/05/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  I dderbyn Cofnodion cyfarfod y Cabinet â'r dyddiad 21 Mai 2019 fel cofnod gwir a manwl gywir.     

374.

Perfformiad Ariannol 2018-19 pdf eicon PDF 689 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Dros Dro adroddiad yn darparu'r Cabinet â diweddariad ar berfformiad ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31ain Mawrth 2019. Cyfeiriodd at gyllideb refeniw net ac alldro terfynol y cyngor ar gyfer 2018-19 (Tabl 1 yn yr adroddiad) ac eglurodd bod yr alldro cyffredinol ar 31ain Mawrth 2019 yn danwariant o £429,000 a oedd wedi'i drosglwyddo i Gronfa'r Cyngor, gan dod â chyfanswm balans y Gronfa i £8.776 miliwn yn unol â'r egwyddorion a sefydlwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Darparodd cyllidebau'r gyfarwyddiaeth danwariant net o £1.142 miliwn, ar ôl tynnu i lawr o gronfeydd o £7.7 miliwn, a chyllidebau Ar Draws y Cyngor â thanwariant o £6.711 miliwn, ar ôl tynnu i lawr o gronfeydd o £2.3 miliwn. Roedd y rhain wedi'u gosod yn erbyn y gofyniad i ddarparu cronfeydd newydd a glustnodwyd am ystod o risgiau newydd ac ymrwymiadau gwariant y dyfodol. Roedd sefyllfa'r net hefyd yn ystyried incwm cronedig y dreth gyngor o £670,000 yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Bu i'r Pennaeth Cyllid Dros Dro adrodd bod y Cyngor wedi derbyn nifer o grantiau un tro gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys grantiau i ysgolion sydd werth cyfanswm o £1 miliwn, sydd wedi esmwytho'r pwysau ar y cyllidebau hyn i 2018-19 yn unig. Roedd hyn yn ogystal ag unrhyw gyfleoeddd eraill a gymerwyd i uchafu ffrydiau cyllid grant presennol. Heb y rhain, byddai'r tanwariant net ar gyllidebau'r Gyfarwyddiaeth ac Ar Draws y Cyngor wedi bod yn llawer is.

 

Darparodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ddiweddariad ar ostyngiadau cyllideb y flwyddyn flaenorol ac atgyfeirio aelodau at Atodiad 1, a thabl 2 sy'n darparu crynodeb fesul cyfarwyddiaeth. O'r £2.604 miliwn o gynigion cyllidebau'r flwyddyn flaenorol yn weddill, roedd £1.593 miliwn wedi'i wario, gan adael balans o £1.011 miliwn. Amlinellodd y safle gyda Gostyngiadau Cyllideb ar gyfer 2018-19 a'r cam gweithredu sy'n ofynnol i'w cyflawni nhw yn 2019-20.

 

Bu i'r adroddiad ddarparu sylwebaeth ar sefyllfa ariannol bob prif faes gwasanaeth a sylwadau ar yr amrywiaethau mwyaf sylweddol. Roedd hefyd yn cynnwys cyllidebau, darpariaethau a gwasanaethau a oedd Ar Draws y Cyngor ac heb eu rheoli gan Gyfarwyddiaeth unigol.     

 

Darparodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro ddiweddariad ar raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2018-19 sydd ar hyn o bryd werth £35.474 miliwn, ac fe fodlonwyd £31.933 miliwn gan adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw gan gronfeydd wedi'u clustnodi, gyda'r £4.224 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol. Yna rhoddodd ddiweddariad i Aelodau ar y cronfeydd a glustnodwyd ac egluro bod y tynnu i lawr terfynol o gronfeydd yn £9.996 miliwn fel a fanylir yn nhabl 5 yr adroddiad.    

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro am gyflwyno'r adroddiad a diolchodd i'r Tîm Cyllid am gadw'r awdurdod yn ddiogel. Da oedd dangos arian dros ben yng ngoleuni'r heriau a phwysau ac ni ellir dibynnu ar yr "un-troeon" hyn yn y dyfodol. Roedd angen i'r awdurdod wneud arbedion sylweddol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 374.

375.

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad ar y cyd â'r Prif Weithredwr yn gofyn i'r Cabinet nodi canlyniadau'r ymgynghoriadau ar greu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, a nodi bod y seiliau wedi'u bodloni a bod 4 PSPO newydd yn cael eu creu.

 

Eglurodd y gallai Awdurdod Lleol greu PSPO os byddai'n fodlon ar seiliau rhesymol ei bod yn debygol y byddai gweithgareddau yn parhau mewn man cyhoeddus yn yr ardal honno ac y byddant yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd y rheiny yn y gymdogaeth a oedd yn debygol o fod o natur barhaus neu barhaol megis i wneud y gweithgareddau yn afresymol a chyfiawnhau'r cyfyngiadau a achoswyd gan yr hysbyseb. Ychwanegodd y cafodd PSPO eu dylunio i sicrhau y gallai'r rhan fwyaf sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ddefnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus, heb fygythiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd torri amod PSPO yn drosedd a gallai swyddogion gorfodi'r gyfraith roi rhybudd o dâl cosb penodedig o hyd at £100 neu yn dilyn euogfarn, dirwy o hyd at £1000.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y 5 Gorchymyn Mannau Cyhoeddus Dynonedig a'r 2 Orchymyn Gatio sydd eisoes wedi'u sefydlu. Ym mis Hydref 2017 ymfudodd y DPPO a'r Gorchmynion Gatio dan y Ddeddf 2014 i ddod yn PSPO. Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet ar 24ain Mehefin 2017 yn gofyn am gymeradwyaeth ar y PSPO newydd ac i ystyried a ellir gwneud unrhyw PSPO eraill ai peidio. Daeth yr ymgynghoriad deuddeg wythnos cyntaf dod i ben fis Tachwedd 2017. Amlinellodd y broses ymgynghori a chrynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd. Yna cytunwyd i oedi adroddiad i'r Cabinet i ymgymryd ag ymgynghoriad pellach ar faw c?n. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ym mis Chwefror 2019 ac fe gynhwyswyd manylion y broses ymgynghori yn yr adroddiad, yn cynnwys yr ymateb gan The Kennel Club.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y goblygiadau ariannol am weithredu'r pedwar gorchymyn ac ychwanegodd yr anfonir cais at bartneriaid yn gofyn am gyfraniad ariannol at y costau.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau mai fel yr adroddwyd i'r Cabinet ym mis Ebrill, dyma ail ran y broses a oedd yn mynd i'r afael â materion baw c?n. Ychwanegodd bod y gorchmynion wedi'u cymhwyso i'r holl ardaloedd lle'r oedd gan y cyhoedd fynediad atynt. Cyfeiriodd at bwynt 4.35a a phleser oedd nodi bod un o'r amodau yn gysylltiedig â symud a chael gwared ar ysgarthion c?n mewn bag neu fodd addas arall i'w gasglu ac y dylai wedyn gael ei adael mewn bin gwastraff neu fin pwrpasol neu fynd ag o adref. Dylai hyn fynd i'r afael â'r mater o fagiau yn cael eu gadael mewn llwyni neu'n hongian oddi ar goed.          

 

Gofynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a oedd gan yr awdurdod ddigon o finiau yn y mannau dynodedig. Atebodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol gan ddweud bod detholiad dda o finiau yn y fwrdeistref a bod y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer dau ddefnydd. Petai preswyliwr mewn ardal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 375.

376.

Adran 123 (2a) Deddf Llywodraeth Leol 1972 : Gwaredu Tir yn y Maes Parcio Gwyrdd / Salt Lake, Porthcawl pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn gofyn i'r Cabinet benderfynu a ddylid gwneud tir y Cyngor uchod, a oedd yn cael ei ddosbarthu fel man agored, ar gael ar gyfer gwaredu.  Darparodd gefndir i'r gwaith a ymgymerwyd ag o i ddod â gwaith ailddatblygu cynhwysfawr y safle ymlaen. Amlinellodd y gwrthwynebiadau i'r cynigion a godwyd gan unigolion a sefydliadau lleol a'r ymateb i'r gwrthwynebiadau hynny a'r rheswm pam y byddai'n briodol dyfarnu cymeradwyaeth i'r cais i gael gwared ar y safle.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r swyddog am gyflwyno'r adroddiad ac eglurodd bod hwn yn adroddiad galluogi a oedd yn caniatáu'r awdurdod i symud ymlaen a datblygu'r tir yn unol â'r Comisiwn Dylunio, Pwyllgor Rheoli Datblygiad ac Aelodau.   

 

Cytunodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol a dywedodd ei fod yn credu bod elfen o ddryswch a chadarnhaodd bod y PSPO yn ymdrin â'r ardal. Dyweododd y Dirprwy Arweinydd ei fod wedi darllen y gwrthwynebiad ac yr ymddengys bod peth dryswch. Ychwanegodd ei fod yn hapus ac nad oedd yr adroddiad yn ymrwymo'r awdurdod ar hyn o bryd, ac fe gefnogodd yr argymhelliad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau nad oedd y Cyngor wedi rhoi'r safle hwn ar werth hyd yn hyn ac y byddai'r pecyn marchnata yn darparu manylion ar y defnyddiau cynllunio derbyniol tebygol, y sail yr oedd y Cyngor yn barod i waredu ar y tir ac unrhyw amodau a gofynion cyfreithiol. Nododd y byddai hyn yn darparu amddiffyniad y byddai unrhyw ddatblygiad yn unol â'r Uwchgynllun.

 

Gofynodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a oedd yr aelodau lleol wedi'u ymgynghori yngl?n â'r cynigion. Atebodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethu Cymunedol eu bod wedi'u hymgynghori a'i fod wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r aelodau lleol.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd penderfyniad wedi'i wneud i waredu ar y safle. Petaent yn penderfynu parhau gallai hyn fod yn rhydd-ddaliadol neu brydlesol a byddai hyn wedi'i gynnwys ym mhenawdau'r telerau. Byddai angen caniatâd cynllunio hefyd a byddai'r Pwyllgor Rheoli Datblygiad yn gosod amodau o ran maint y safle etc i ddiogelu'r datblygiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddant yn parhau i ymgysylltu ag aelodau lleol.

 

PENDERFYNWYD:             Bu i'r Cabinet, ar ôl ystyried yr adroddiad a'r gwrthwynebiadau a dderbynwyd mewn ymateb i'r Hysbysebion a gyhoeddwyd yn unol ag Adran 123(2A) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gymeradwyo i waredu'r tir ym Maes Parcio Gwyrdd, Salt Lake, Porthcawl.

 

377.

Partneriaeth Ranbarthol Grant Cydlyniad Cymunedol Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar gais rhanbarthol am gyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chydlyniad Cymunedol Brexit UE a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau cytundeb partneriaeth gyda Chyngor Dinas a Sir Abertawe (Cyngor Abertawe) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Port Talbot (NPTCBC) mewn perthynas â'r cyllid grant. Amlinellodd gefndir y cynnig, y safle cyfredol a'r ystod o weithgareddau y byddai'n cael eu darparu i ddeall a lleddfu tensiynau cymunedol. Eglurodd hefyd oblygiadau y pum ffordd o weithio mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddai'r costau yn cael eu hariannu'n llawn gan Grant Cydlyniad Llywodraeth Cymru. 

 

Bu i'r Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol groesawu'r adroddiad a gofyn a oedd y mecanweithiau monitro y tu ôl i'r cynigion yn adnabyddus. Ychwanegodd os nad oeddynt wedi'u sefydlu hyd yn hyn, byddai'n ddefnyddiol cyflwyno adroddiad yn manylu'r rhain a'r cynnydd a wnaed i Bwyllgor y Cabinet - Cydraddoldeb bob chwe mis. 

 

Gofynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar beth oedd mewn lle ar ôl 2020. Adroddodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformio os nad oedd y seilwaith mewn lle byddai rhaid iddynt dryfalu tan ei fod mewn lle. Roedd hyn yngl?n â chydlyniad cymunedol ac nid yngl?n â Brexit yn unig a byddant yn parhau i adrodd i Bwyllgor y Cabinet - Cydraddoldeb.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau bod y ddadl gyfan wedi dod â'r elfennau a ddymunai allan, rhai a oedd wedi'u gadael heb eu trafod. Cyflwynwyd adroddiadau o densiynau yn y gymuned i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Roedd y wlad wedi'i hollti ac roedd y tensiynau wastad yno. Waeth beth oedd am ddigwydd, byddai 50% o'r boblogaeth yn cael siomedigaeth fawr ac roedd hwn yn adroddiad hanfodol yr oedd yn ei groesawu.

 

PENDERFYNWYD:            Y Cabinet:

 

         Wedi nodi cymeradwyaeth cyllid rhanbarthol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Grant Cydlyniant Cymunedol 2019 - 2020; a

         Wedi dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, i drefnu a dechrau cytundeb partneriaeth mewn perthynas â chyllid Grant Cydlyniant Cymunedol gyda Chyngor Abertawe a NPTCBC ac unrhyw ddogfennau ategol mewn perthynas â'r trefniant partneriaeth hwnnw.

         Wedi cytuno y cyflwynir adroddiad i Bwyllgor y Cabinet - Cydraddoldeb bob chwe mis yn diweddaru'r Pwyllgor hwnnw ar gynnydd ac yn arbennig, y mecanweithiau monitro sydd mewn lle.

 

 

 

378.

Gweithredu Rhaglen Buddsoddiad Adfywiad Targedig (TRI) pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithredoedd - Cymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet ar y cynigion ar gyfer y rhaglen Buddsoddiad Adfywiad Targedig (TRI) sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Gwella Eiddo Canol Trefi (UCPEF) a Grant Byw yng Nghanol Trefi (UCLG), 11a Stryd Nolton a Phrosiectau Annibynnol TRI y dyfodol. Amlinellodd gefndir y rhaglen, y broses a'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r tri prosiect, y risgiau a'r problemau, y camau nesaf a'r goblygiadau ariannol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau bod y ffynhonnell hon o gyllid wedi bod yn llwyddiant. Roedd y safleoedd hyn yn dinistrio'r tirlun a byddai'r gwaith hwn yn rhoi defnydd buddiol iddynt hyd y gellir ei ragweld. Roedd risgiau yn codi ond gyda rheolaeth briodol a'r cydweithrediad cywir, byddai hwn yn llwyddiant.

 

Adroddodd yr Arweinydd bod y CHG wedi'u cymeradwyo ar y gwaith yr oeddynt yn ei wneud. Roedd y safleoedd wedi bod yn wag am gyfnod hir a byddai hyn yn darparu cyfle i ddechrau bywyd newydd mewn cartref newydd. Byddai hefyd yn caniatáu'r awdurdod wneud cynnydd gyda chynlluniau eraill nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond hefyd ym Mhorthcawl a Maesteg i roi defnydd eto i eiddo gwag.

 

PENDERFYNWYD:          Y Cabinet:

 

·                  Wedi cymeradwyo'r cynigion amlinellol ar gyfer TRI yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, fel a sefydlwyd yn yr adroddiad;

·                  Wedi nodi a derbyn y risgiau a'r materion a gafodd eu pwysleisio ym mharagraff 4.5;

·                  Wedi awdurdodi'r Prif Swyddog Cyllid i dderbyn y grant TRI ar ran yr Awdurdod. 

·                   Wedi dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gweithrediadau / Cymunedau, mewn ymgynghoriad â Swyddog yr Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i drefnu a dechrau cytundeb lefel gwasanaeth gyda Rhondda Cynon Taf fel a sefydlwyd ym mharagraff 4.2 yr adroddiad;

·                   Wedi dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gweithrediadau / Cymunedau, i ddyfarnu'r cronfeydd grantiau TRI UCPEF ac UCLG i ymgeiswyr cymwys yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr;

       Wedi dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gweithrediadau / Cymunedau, mewn ymgynghoriad â Swyddog yr Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i drefnu a dechrau cytundeb cyllid a phridiant cyfreithiol gyda CHG.

379.

Comisiynu a Dyfarnu Cytundebau mewn perthynas â'r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformio a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn am ganiatâd i barhau i ddarparu gwasanaethau ar sail y cytundebau contractau sydd eisoes mewn lle i ddarparu trefniadau cytundeb a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020. Ar y sail y rhoddir caniatâd, roedd yn ceisio gwahardd Rheolau Gweithdrefn Cytundeb y Cyngor (CPR) ac awdurdodi'r Pennaeth Perfformio a Phartneriaethau i ddechrau cytundebau tymor byr fel y manylir yn yr adroddiad. Rhoddodd amlinelliad o gefndir y Cytundebau Teuluoedd yn Gyntaf, y sefyllfa bresennol, canlyniad yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a'r goblygiadau ariannol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol bod hyn yn rwystredig i staff ac y byddai'n croesawu rheolaeth hirdymor.   

 

Ychwanegodd yr Arweinydd bod llawer o hyn wedi bod y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.

 

Bu i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Gynnar eilio hyn a gofyn am rhagor o wybodaeth ar yr amlygiad i herio a sut byddant yn monitro perfformiad a chanlyniadau. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth bod hyn wedi'i adnabod gan y CPA a Llywodraeth Cymru. Byddant yn darparu yn erbyn fframwaith canlyniadau unigol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i'r Cabinet a dweud mai fel rheol byddant yn cydymffurfio ond roedd adegau pan fu rhaid iddynt ddod i'r Cabinet i hepgor neu wahardd Rheolau Gweithdrefn Cytundeb, ond byddant yn ceisio gwneud hyn cyn lleied â phosibl. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd bod y swyddog monitro wedi monitro'r broses yn ofalus ac mai anarferol oedd cael nifer o'r adroddiadau hyn heblaw lle'r oedd amgylchiadau eithriadol i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD:                 Y Cabinet:

 

·     Wedi cytuno i wahardd rhannau perthnasol o CPR y Cyngor o ran y gofyniad i ail-dendro y cytundebau arfaethedig a restrir yn Atodiad 1 o'r adroddiad hwn, gan ganiatáu'r gwaith i weithredu'r cerrig milltir ail-dendro y manylir arnynt yn Atodiad 2.

·     Wedi awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaethau Perfformio a Phartneriaeth i ddechrau cytundebau tymor byr hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020, gyda'r darparwyr cyfredol mewn perthynas â'r Cytundebau a restrwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

380.

Gwahardd Rheolau Gweithdrefn Cytundeb ar gyfer Cytundebau Gwasanaeth Bws Cartref-i'r-Ysgol pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn i'r Cabinet am gymeradwyaeth i wahardd y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Cytundeb y Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i ail-dendro'r cytundebau arfaethedig a restrwyd yn yr adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Chymorth i Deuluoedd) i ddechrau cytundebau â'r gweithredwyr a restrwyd yn yr adroddiad. Amlinellodd y cefndir, y sefyllfa bresennol a bod y Cyngor yn cael ei amlygu i'r risg o herio posibl gan ddarparwyr gwasanaethau o'r fath eraill. Adroddodd hefyd y goblygiadau ariannol ac y byddai arbedion posibl i'r gyllideb trafnidiaeth dysgwyr o fis Medi 2019 yn dal i fod yn cael ei darparu o fis Medi 2020.   

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau bod hwn yn adroddiad daliad oherwydd eu bod yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth ac na allant ragflaenu'r canlyniad. Gallai'r Cyngor fod yn agored i heriau ond er mwyn eglurder, gallai gael ei gyfiawnhau ac roedd hon yn ffordd synwyrol ymlaen. 

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd bod hwn yn ffordd o weithredu yn ystod yr adolygiad. O ystyried y sefyllfa ariannol, teg oedd ymgymryd â'r adolygiad cyn y dyfarnwyd y cytundebau ac ar y sail honno roedd yn hapus cefnogi'r cynigion.

 

Cytunodd yr Arweinydd y byddai'n anghyfrifol tendro ac yna ceisio newid y cytundebau hynny tan ei bod yn glir pa newidiadau oedd eu hangen oherwydd y pwysau ariannol yr oedd yr awdurdod yn eu hwynebu.

 

PENDERFYNWYD:               Y Cabinet:

 

         Wedi cytuno i wahardd rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Cytundeb y Cyngor o ran y gofyniad i ail-dendro y cytundebau arfaethedig a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn ar gyfer gwasanaethau bws cartref-i'r-ysgol; ac

            Wedi awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Chymorth i Deuluoedd) i ddechrau'r cytundebau gyda'r gweithredwyr a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad o 2 Medi 2019 tan 20 Gorffennaf 2020.

381.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am ganiatâd gan y Cabinet i benodi llywodraethwyr llywodraeth lleol i gyrff llywodraethu'r ysgol a restrwyd yn yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chymorth i Deuluoedd y cefndir ar gyfer y 14 ysgol ar y bwrdd, bu i'r 17 ymgeisydd fodloni'r meini prawf i'w penodi'n lywodraethwr awdurdod lleol. Adroddod bod cais Mr William Bond ar gyfer Ysgol Heronsbridge wedi'i dynnu'n ôl ac felly bydd Mrs Marjorie Nash yn cael ei phenodi.

 

Adroddodd yr Arweinydd bod 20 swydd wag eto i'w llenwi ar draws y fwrdeistref a'u bod yn parhau i chwilio am recriwtiaid. 

 

PENDERFYNWYD:                Y Cabinet wedi cymeradwyo'r penodiadau a restrwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad a bod Mrs Marjorie Nash wedi'i phenodi ar gyfer Ysgol Heronsbridge (wedi i Mr William Bond dynnu'n ôl yn hwyr, a adroddwyd yn y cyfarfod gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd).

382.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim