Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

431.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

R Young

432.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 10 yr Agenda am y rhesymau a welir isod:-

 

Cynghorydd D Patel – Fel Llywodraethwr Ysgol yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen

Cynghorydd CE Smith – Fel Llywodraethwr Ysgol yng Ngholeg Penybont

Cynghorydd PJ White – Fel Llywodraethwr Ysgol Gyfun Maesteg

433.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 123 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/10/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Bod cofnodion cyfarfod y Cabinet dyddiedig 22 Hydref 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

434.

Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gweithredol, y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir adroddiad, a’r diben oedd darparu Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir i’r Cabinet ei nodi.

 

Dechreuodd yr adroddiad gyda rhywfaint o wybodaeth gefndir, ac wedi hynny, amlinellodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir rai agweddau allweddol ar berfformiad gweithredol ar draws y rhanbarth oedd yn codi o’r Adroddiad Blynyddol, yn enwedig cyn belled ag yr oedd yn gysylltiedig â Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd mai’r lefelau salwch ar gyfer 2018/19 oedd 7.55 diwrnod fesul unigolyn CALl. Roedd hyn islaw cyfartaledd y Cyngor o 11.90 diwrnod CALl, ond roedd yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol lle cofnodwyd y cofnodion absenoldeb fel 6.89 fesul unigolyn CALl. Fodd bynnag, roedd ffactorau lliniarol ar gyfer hyn, gyda sawl Swyddog yn mynd trwy ymyriadau meddygol cynlluniedig. Nid oedd tueddiadau amlwg naill ai yn y ffigurau absenoldeb tymor byr na hir.

 

Aeth ymlaen trwy ddweud mai sefyllfa’r Gyllideb Refeniw Gros ar gyfer 2018/19 ar gyfer y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir oedd tanwariant o £496,000 yn erbyn y gyllideb refeniw gros o £8.504m. Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, arweiniodd hyn at danwariant net o £129,000 yn erbyn cyllideb net o £1.328m. Tanwariodd Gwasanaethau Penodol yr Awdurdod ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan £57,000, sef canlyniad rhannol tanwariant o £29,000 yn yr Adran Drwyddedu a thanwariant o £28,000 yn yr Adran Cynelu a Milfeddygon, lle mae’r gweithgarwch islaw’r gyllideb. 

 

Atgyfnerthodd y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir hefyd gyflwyniad gwasanaethau, yn unol â safonau cytûn a chyflawnodd yr arbedion ariannol angenrheidiol. Fodd bynnag, dynododd yr adroddiad fod mwy o ofynion yn cael eu gosod ar y gwasanaeth ar adeg lle’r oedd llai o adnoddau. Cyflawnwyd y targedau a’r camau gweithredu a ddynodwyd yng Nghynllun 2018/19 i raddau helaeth.

 

Roedd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn falch o ddweud wrth y Cabinet y bu’r Gwasanaeth yn weithgar yn y Llysoedd a gosododd Atodiad 2 yr Adroddiad Blynyddol yn gosod yr ymyriadau llwyddiannus a gynhaliwyd yng nghyfnod 2018/19.

 

Yna, amlinellodd paragraff 4.2 yr adroddiad oblygiadau gweithredol allweddol ar gyfer CBSP a rhoddodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir drosolwg o’r rhain er lles yr Aelodau.

 

Gan gydnabod bod Cynllun Busnes y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir hefyd yn gyson â Chynllun Corfforaethol y Cyngor, myfyriodd rhan nesaf yr adroddiad ar rai o’r gweithgareddau nodedig ar gyfer y Fwrdeistref yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd uchod.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hi’n falch o nodi bod safonau hylendid bwyd mewn sefydliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gwella ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2018/19 a chafwyd rhai erlyniadau llwyddiannus yn erbyn busnesau oedd wedi torri’r gofynion hylendid bwyd ac yn y blaen.

 

Cydnabyddodd y Dirprwy Arweinydd y lefelau gwelliannau sylweddol a wnaed yn y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir er 2014, ond gwnaeth y pwynt fod yna heriau wrth symud ymlaen, yn enwedig mewn perthynas â chyfraddau recriwtio a chadw staff wrth symud ymlaen.

 

Cytunodd Rheolwr Gweithredol, y Gwasanaethau Rheoleiddio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 434.

435.

Diwygiad i’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir adroddiad er mwyn hysbysu’r Cabinet ynghylch deddfwriaeth newydd sef y ddeddfwriaeth uchod a cheisio diwygio’r Cynllun Dirprwy Swyddogaethau i fod yn unol â hyn.

 

Cadarnhaodd fod Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 wedi dod i rym ar 5 Mai 2019. Er 1 Medi 2019, caiff asiantau gosod a landlordiaid sy’n rheoli eu heiddo eu hunain eu hatal rhag codi unrhyw ffioedd cyn, yn ystod neu ar ôl tenantiaeth, oni iddynt gael eu heithrio’n benodol dan ddarpariaethau’r Ddeddf. Gelwir y fath daliad yn ‘daliad gwaharddedig’. Ychwanegodd fod Asiantau Gosod a Landlordiaid Hunan-Reoli wedi’u gwahardd hefyd rhag gofyn i denant godi benthyciad neu ddechrau ontract am wasanaethau.

 

Gellir ymgymryd â gorfodaeth gofynion newydd o’r fath dan y Cyngor a Rhentu Doeth Cymru (fel yr Un Awdurdod Trwyddedu). Byddant yn cyfrannu at brofiad tecach a mwy tryloyw i denantiaid sy’n dibynnu ar y sector rhent preifat.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir fod Llywodraeth Cymru’n credu y dylai unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â rhentu yn y sector preifat fod yn rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw.

 

Diffiniodd paragraff 3.5 yr adroddiad y gwahanol ddulliau y gellir gofyn am daliad gan asiantau gosod a landlordiaid hunan-reoli, wrth i ran nesaf yr adroddiad amlygu materion eraill mewn perthynas â thaliadau, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u gwahardd.

 

Aeth ymlaen ymhellach, trwy gadarnhau bod troseddau wedi’u cyflawni lle methodd landlordiaid ac/neu asiantau gydymffurfio â’r Ddeddf ac roedd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth hon, mewn partneriaeth â Rhentu Doeth Cymru.

 

At hynny, ychwanegodd mai awdurdodau lleol oedd yn bennaf gyfrifol am orfodi gofynion y Ddeddf a bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu Rhentu Doeth Cymru petaen nhw’n cymryd camau gorfodi. Bydd gan Rentu Doeth Cymru ddyletswydd hefyd i roi gwybod i Awdurdodau Lleol, os cyflwynant hysbysiad cosb benodedig neu’n erlyn dan y Ddeddf newydd. Roedd dau ddewis gorfodi ffurfiol fel y disgrifir ym Mharagraff 4.3 yr adroddiad, wrth i baragraff 4.4 amlinellu’r ddarpariaeth newydd arfaethedig i’w rhoi i mewn yng Nghynllun B2 y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau.

 

Cwblhaodd ei gyflwyniad trwy gadarnhau y bydd angen i’r Cytundeb Cydweithio ar gyfer y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir gael ei amrywio hefyd, oherwydd bod nifer y dirprwyaethau i’r Gwasanaeth yn cael eu hymestyn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol wybod mai adroddiad newyddion da oedd hwn - roedd yn atal tenantiaid rhag cael eu cam-fanteisio arnynt yn y dyfodol gan landlordiaid ac yn y blaen.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at baragraff 3.5 yr adroddiad mewn perthynas â thaliadau a ganiateir. Dywedod pan oedd yn aelod o Fwrdd V2C, roedd problem mewn perthynas â gwahanu ffioedd rhent wrth rai costau eraill oedd yn gysylltiedig â’r tenant, er enghraifft, torri glaswellt neu broblemau fel codi am osod inswleiddiad gwrthsain rhwng eiddo rhent dan unrhyw Gytundeb Rheoli a allai fod ar waith. Gofynnodd sut byddai materion fel hyn yn cael eu hystyried dan y Ddeddf newydd a thaliadau a ganiateir gan fod y rhain yn daliadau ychwanegol uwchlaw’r rhent.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 435.

436.

Strategaeth Ddigartrefedd 2018 - 2022 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth adroddiad i gael cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a chyflwyno Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018 – 2022 i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

 

Cadarnhaodd cefndir yr adroddiad fod Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i gyflawni Adolygiad Digartrefedd ar gyfer ei ardal a mabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd, ar sail canlyniadau’r adolygiad hwnnw. Dylai’r strategaeth edrych ar:

 

• Atal digartrefedd;

·  Bod llety addas ar gael ac mi fydd llety addas ar gael i bobl sy’n ddigartref neu a allai fynd yn ddigartref;

·  Bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu a allai fynd yn ddigartref.

 

Rhoddodd wybod i Aelodau fod cyd-gynhyrchu’n egwyddor allweddol wrth ddatblygu’r Strategaeth, ac yn ystod hynny, cafodd safbwyntiau’r defnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol oedd ynghlwm â darparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl ddigartref eu coladu. Ychwanegodd fod ymgynghorydd annibynnol hefyd wedi’i gomisiynu i ymgymryd â’r Adolygiad Digartrefedd.

 

Llenwyd 76 holiadur gan ddefnyddwyr gwasanaeth, a ddarparodd wybodaeth allweddol a arweiniodd at lywio’r amcanion a’r camau a fabwysiadwyd gan y Strategaeth. Rhoddodd y rhyngweithio â’r defnyddwyr gwasanaeth gyfle i drafod gydag unigolion a’u galluogodd i leisio’u blaenoriaethau allweddol i weithredu arnynt, yn ogystal ag amlygu eu profiadau. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniadau o’r rhesymau am fod yn ddigartref, y canlyniadau a gyflawnwyd ac a ddymunir a demograffeg cefndir. Ymhlith y gweithgareddau eraill y cymerwyd rhan ynddynt i gasglu gwybodaeth oedd:

 

• Cynhaliwyd gweithdy hanner diwrnod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) a’r Timau Cefnogi Pobl ac Atebion Tai i archwilio’u safbwyntiau ar ddarpariaeth leol a’u perfformiad yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014;

·  Cynhaliwyd gweithdy hanner diwrnod gyda Gwasanaethau Statudol CBSP; Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Darparwyr;

·  Ymgynghoriad gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

 

Ymhlith yr ymgyngoreion proffesiynol oedd yn rhan o’r broses oedd:

 

Statudol:

• CBSP – Atebion Tai

• CBSP – Y Tîm Cefnogi Pobl

• CBSP – Y Gwasanaethau Cymdeithasol

• CBSP – Iechyd yr Amgylchedd

• CBSP – Aelod Lleol gyda Phortffolio Lles

• Heddlu De Cymru

• Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Darparwyr:

• The Wallich

• Pobl Care & Support

• Llamau

• Calan DVS

• Shelter Cymru

 

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig:

• Hafod Housing

• Linc Cymru

• United Welsh

• Valleys to Coast

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod ymgynghoriad cyhoeddus yn amlinellu’r Strategaeth wedi’i gynnal dros gyfnod o chwe wythnos, yn dilyn cyflwyniad o’r Strategaeth i’r Cabinet ar 22 Ionawr 2019.

 

Cyfeiriodd at Atodiad A yr adroddiad, a oedd yn cynnwys crynodeb o’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd, tra cafodd y Strategaeth ei hun ei dangos yn Atodiad B.

 

Yna, casglodd yr adroddiad, gan ddatgan mai nod y Strategaeth oedd cydweithio’n gorfforaethol gyda phartneriaid allanol a defnyddwyr gwasanaeth, mewn ffordd ymatebol, greadigol ac amserol, er mwyn atal a lleddfu digartrefedd ar hyd y Fwrdeistref Sirol. Byddai hyn yn sicrhau y gall pobl droi at lety addas, gyda’r gefnogaeth briodol sy’n ofynnol i fodloni eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 436.

437.

Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a geisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu Polisi Gorfodaeth diwygiedig at y diben o gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer Troseddau Amgylcheddol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol wybod ar 16 Ebrill 2019, cymeradwyodd y Cabinet ymarfer ymgynghori i geisio safbwyntiau’r cyhoedd, mewn perthynas â Pholisi Gorfodaeth diwygiedig. Roedd y ddogfen hon yn cynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig, lefel y dirwyon a gostyngiad am dalu’n gynnar.

 

Cadarnhaodd fod arolwg ymgynghori â’r cyhoedd seiliedig ar Bolisi Gorfodaeth diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gynnal dros gyfnod o ddeuddeg wythnos rhwng 17 Mehefin 2019 ac 8 Medi 2019. Roedd yr arolwg ar gael i’w lenwi ar-lein, ar dudalennau ymgynghori gwefan y Cyngor a gallai’r trigolion hefyd ofyn am gopi papur neu fformat arall dros y ffôn neu drwy e-bost. Yn ogystal, gwahoddwyd sylwadau mewn perthynas â’r ymgynghoriad trwy lythyr, e-bost a dros y ffôn.

 

At ei gilydd, roedd angen ymateb gan ymatebwyr i ddeuddeg cwestiwn. Roedd pob cwestiwn yn yr arolwg yn ddewisol a chynigiwyd anhysbysedd i’r ymatebydd. Cafodd set safonol y Cyngor o gwestiynau monitro cydraddoldeb eu cynnwys gyda’r arolwg hefyd, oherwydd argymhellir ei bod hi’n arfer da ar gyfer pob arolwg sy’n wynebu’r cyhoedd ac a gynhelir gan yr Awdurdod.

 

Esboniodd fod cyfanswm o 18 arolwg wedi’u cwblhau, gan gynrychioli 0.01% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn destun gwall safonol uchaf o fwy/llai na 23.10% ar y lefel hyder o 95%. Felly, ceir hyder o 95% fod yr ymatebion hyn yn cynrychioli’r rhai a fyddai’n cael eu rhoi gan y cyfanswm poblogaeth oedolion. 

 

Cafodd manylion llawn yr ymgynghoriad cyhoeddus a’i ganfyddiadau eu cysylltu yn Atodiad A i’r adroddiad er mwyn i’r Cabinet eu hystyried, tra cafodd gopi o’r Polisi Gorfodaeth ei gysylltu yn Atodiad B.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol ei bod hi’n bwysig cydnabod y bydd cyhoeddi pob Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant unigol a materion yn ymwneud â chymesuredd, gwrthrychedd, tegwch a rhesymoldeb. Roedd system ar waith i gynnig apêl neu i wrthwynebu’r hysbysiad ac i gadw hygrededd y broses. Ni ddylid dod â phwysau allanol gormodol, naill ai gan aelodau’r Cyngor neu gan Uwch Swyddogion, a allai gael eu camddehongli i ddylanwadu’n ormodol ar y penderfyniadau yn rhinwedd eu sefyllfa nhw yn unig. Roedd hon yn broses debyg a fabwysiadwyd gan Farsialiaid y Meysydd Parcio wrth gyhoeddi dirwyon am droseddau parcio.

 

Clôdd ei gyflwyniad, trwy ehangu ar rai pwyntiau amlwg iawn a amlinellwyd yn yr Adroddiad Ymgynghori oedd ynghlwm â’r adroddiad eglurhaol.

 

Teimlai’r Dirprwy Arweinydd fod dull teg iawn a fyddai’n cael ei gymryd mewn perthynas ag unigolion. Ailadroddodd fod y rhai sy’n torri’r polisi yn cael eu hatgoffa o ddarpariaethau hyn; yn cael rhybudd, ac yna’n cael eu dirwyo pe bydden nhw’n ailadrodd unrhyw drosedd o’r fath.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol at y Tabl Dirwyon ar dudalen 114 yr adroddiad, a gofynnodd sut roedd y Cyngor yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 437.

438.

Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a’r diben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fynd i gytundeb lefel gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd ac i ddirprwyo awdurdod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS RhCT) i gyflwyno a rheoli Grantiau Cartrefi Gwag i berchnogion eiddo yn Nhasglu’r Cymoedd Ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno cefnogi tasglu’r Cymoedd trwy gyflwyno Grant Cartrefi Gwag i bob awdurdod lleol yn ardaloedd y tasglu, fel peilot ar gyfer y cyfnod o fis Hydref 2019 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020. Mae £10 miliwn wedi’i roi i’r naill ochr ar gyfer eiddo gwag dros y ddwy flynedd nesaf yn yr ardaloedd hynny.

 

Clustnodwyd £4,500,000 ar gyfer y cyfnod peilot i gyflwyno’r rhaglen. Ni ddisgwylir cyfraniad ariannol gan awdurdodau lleol ar gyfer y cam hwn o’r rhaglen Grant Cartrefi Gwag. Ar gyfer Cam 2, bydd disgwyl i Awdurdodau Lleol wneud cyfraniad o 35% tuag at y gronfa. Yn ariannol, cefnogwyd Cam 1 y prosiect yn llawn trwy gyllid grant.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y bydd y grant hwn yn cefnogi cyflawniad y Cyngor a blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o adfer y defnydd o eiddo gwag yng Nghymoedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn helpu adfywio cymunedau, rhoi mwy o ddewis o lety a llety addas i drigolion.

 

Rhoddodd y rhan nesaf o’r adroddiad drosolwg o’r sefyllfa sydd ohoni, ynghyd â’r cymhwyster ac amodau cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, a dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, y byddai CBS RhCT yn cyflawni ac yn rheoli’r Cynllun yn ardal Tasglu’r Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, gyda CBSP wedyn yn mynd i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Awdurdod hwn i droi at y cyllid dynodedig.

 

Mewn perthynas â Cham 2 y Cynllun, pwysleisiodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai hyn yn dechrau ym mis Ebrill 2020 gyda chynnig o’r cynllun sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Byddai adroddiad pellach yn cael ei ddarparu i’r Cabinet mewn perthynas â Cham 2 os bydd y Cyngor yn edrych i fynd i mewn i hyn.

 

Mewn perthynas â’r camau nesaf, cadarnhaodd y byddai angen i’r Cabinet ystyried y cynigion y manylir arnynt yn yr adroddiad a chadarnhau p’un ai i symud ymlaen â Cham 1 y Cynllun ac os bydd yn cael ei gytuno, yna byddai’r Awdurdod yn arwyddo’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i weinyddu’r grant.  

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y pwynt ei bod hi’n falch o nodi fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn mynd i’r afael â’r broblem o Eiddo Gwag yn aros yn wag. Nododd hefyd fod yr amserau targed ar gyfer Cam Un a Dau (petai’r olaf yn cael cymeradwyaeth y Cabinet) y Cynllun i weld yn uchelgeisiol. Gofynnodd pryd byddai Cam 1 yn cael ei gwblhau a pha feysydd yr oedd y Cynllun yn eu cwmpasu.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol wybod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 438.

439.

Ail-gomisiynu Gwasanaethau Byw Gyda Chymorth pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu’r cynllun ail-gomisiynu arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Byw Gyda Chymorth ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) ymgymryd ag ymarfer caffael i wahodd tendrau i sefydlu Cytundeb Fframwaith o ddarparwyr gwasanaeth a gomisiynwyd.

 

Esboniodd fod y Cyngor wedi cynnal ymarfer caffael yn 2016, a arweiniodd at benodi tri darparwr gwasanaeth annibynnol i gyflwyno gwasanaethau Byw gyda Chymorth i unigolion cymwys gydag anabledd dysgu.

 

Yn ystod 2018-19, cynhaliwyd adolygiad manwl dan arweiniad tîm Trawsnewid ac Adolygu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a ganolbwyntiodd ar effeithiolrwydd cyflwyno gwasanaethau a chanlyniadau i unigolion ar draws y tri darparwr gwasanaeth annibynnol.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ei flaen trwy gadarnhau bod y contractau cyfredol mewn perthynas â Gwasanaethau Byw gyda Chymorth yn rhai Ledled y Sir, gan olygu bod rhaid i un o’r tri darparwr gwasanaeth dyledus reoli nifer o gynlluniau Byw gyda Chymorth wedi’u gwasgaru ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan, a wnaeth esgor ar rai heriau i ddarparwyr gwasanaeth.

 

Rhoddodd y rhan nesaf o’r adroddiad wybod fod lleoliad cynlluniau cyfredol yn syrthio i ardaloedd naturiol lleol, sy’n cefnogi symudiad tuag at gontractau cymunedol yn yr ardaloedd daearyddol a welir ym mharagraff 4.2 yr adroddiad. Roedd hyn yn fwy hyblyg ac yn seiliedig ar yr hyn yr oedd ar ddefnyddwyr gwasanaeth eu hangen a’u heisiau.

 

Esboniodd Paragraff 4.6 yr adroddiad y byddai’r uchod yn cael ei gynnal ar ddull mewn camau am nifer o resymau, gan gynnwys i sicrhau bod cyn lleied o ymyrraeth â phosibl ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y newid.

 

Aeth ymlaen i esbonio na fyddai darparwyr gwasanaeth ar y Cytundeb Fframwaith yn cael sicrwydd o ddyfarniad Gwasanaeth Ardal Lleol, y bydd pob un yn destun ei broses dendro a’i werthusiad ei hun. Er mwyn lliniaru risg effaith methiant busnes i’r dyfodol, ni fydd yr un darparwr yn cael contract Gwasanaeth(au) Ardal Leol wedi’i ddyfarnu iddynt, lle bydd ganddynt gyfran o dros 50% o’r farchnad.

 

Roedd paragraff 4.11 yr adroddiad yn cynnwys tabl a osododd yr amserlenni caffael Cam 1 petai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i weithredu’r Cynllun Ail-gomisiynu.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, fel rhan o Gam 2 y broses gaffael, y bwriedir i bawb sy’n byw mewn cynllun Byw Gyda Chymorth hefyd allu dweud beth sy’n bwysig yn y gwasanaeth a ‘beth sy’n bwysig’ iddynt hwy.

 

Aeth ymlaen gan gadarnhau bod rhai digwyddiadau ymgysylltu wedi’u cynnal a bod prif ganfyddiadau’r rhain wedi’u dangos ym mharagraff 4.14 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd Paragraff 4.18 yr adroddiad (fel yr amlygwyd ym mharagraff 3.3) fod y Gwasanaeth Byw gyda Chymorth Anabledd Dysgu’n wasanaeth a ariennir ar y cyd, gyda rhyw 75% o’r costau’n cael eu hariannu trwy gyllidebau craidd Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer elfennau gofal y gwasanaeth, ac ariennir oddeutu 25% trwy Grant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 439.

440.

Adolygiad o’r Ddarpariaeth Ôl-16 ar draws Pen-y-bont ar Ogwr (Adroddiad Cam 4) pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu yr Aelodau, ym mis Ebrill 2019, rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i waith gael ei wneud i baratoi cynigion dewisiadau penodol dan Gam 4 yr adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Darparodd yr adroddiad diweddaru hwn fanylder i’r Cabinet o’r cynigion dewis hynny, ac mae’n gofyn am gymeradwyaeth i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar sail y cynigion yn Atodiad 1 a gwybodaeth gefnogol yn Atodiadau 2 i 4.

 

Cadarnhaodd trwy wybodaeth gefndir, yn 2016, sefydlwyd Bwrdd Adolygu Strategol.

 

Yn ei dro, sefydlodd y Bwrdd Adolygu Strategol Fwrdd Gweithredol Ôl-16 i adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynodd y Bwrdd hwn ei adroddiad yn ôl i’r Bwrdd Adolygu Strategol ac yna i’r Cabinet ym mis Hydref 2017. Argymhellodd y Bwrdd Adolygu Strategol y chwe chysyniad i’w hystyried ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 ac argymhellodd ddau ddewis ffafriol. Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion hyn a gofynnodd am gael mwy o waith manwl wedi’i wneud. Cwblhawyd hwn ac adroddwyd yn ôl i’r Cabinet ym mis Ebrill 2018 lle rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth am ymgynghoriad cyhoeddus ar y chwe chysyniad a’r dewisiadau dethol ar gyfer darpariaeth ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn codi o’r uchod a thrwy ymgynghoriadau pellach a gynhaliwyd yn dilyn hynny, cymeradwyodd y Cabinet ddadansoddiad pellach fis Ebrill diwethaf o’r tri dewis o’r 6 chysyniad gwreiddiol ac amlinellwyd manylion y rhain ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Gwybodaeth gefnogol mewn perthynas â phob un o’r rhain, cafodd Dewisiadau eu cynnwys yn y wybodaeth gefnogol sydd ynghlwm â’r adroddiad, ar ffurf cyfres o Atodiadau.

 

Clôdd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu ei adroddiad trwy roi gwybod bod cymeradwyaeth y Cabinet bellach yn cael ei cheisio i gymryd y cynigion dewis y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad, allan am ymgynghoriad cyhoeddus o 2 Rhagfyr 2019 i 21 Chwefror 2020, gyda’r bwriad o ddod â chanlyniadau’r ymgynghoriad yn ôl i’r Cabinet ym mis Ebrill 2020. Yn ogystal, bydd astudiaethau dichonoldeb yn cael eu paratoi, yn enwedig lle mae goblygiadau cyfalaf, ac yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriad, os bydd y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i fynd allan i ymgynghoriad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio i’r Swyddog Arbenigol – Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 am roi adroddiad mor llawn o wybodaeth at ei gilydd. Ychwanegodd mai Dewis 3 yn yr adroddiad fu’r dewis mwyaf ffafriol i fynd ar ei drywydd yn y gorffennol, ond byddai ymgynghoriad pellach yn dilyn a fyddai’n cael ei ddatgelu os dyma oedd yr achos o hyd, neu a fyddai dewis arall yn cael ei ffafrio.

 

Roedd yn llwyr ddeall barn nifer fawr, sef mai’r dewis poblogaidd fyddai cadw 6ed dosbarth ym mhob Ysgol Gyfun yn y Fwrdeistref Sirol, ond byddai angen cydweithredu ac adnoddau ariannol sylweddol i wneud hyn. Croesawodd y cyfraniad gan Drosolwg a Chraffu Pwnc 1 y Cyngor ar adolygu Ôl-16, lle bu Aelodau’r Pwyllgor hwn yn gefnogol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 440.

441.

Grant Dysgu Cymunedol – Canolfan y Dwyrain pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cymunedol – Addysg a Chymorth i’r Teulu adroddiad, gyda’r bwriad o ddarparu gwybodaeth i’r Cabinet mewn perthynas â Grant Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru a phrosiect Canolfan y Dwyrain.

 

Amlinellodd adran gwybodaeth gefndir yr adroddiad, fod llety wedi’i ddiogelu ar gyfer Canolfan y Gogledd yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ac ar gyfer Canolfan y Gorllewin yng Nghanolfan Bywyd y Pîl. Fodd bynnag, nid oedd cyllideb ar gael i alluogi ar gyfer canolfan amlasiantaeth wedi’i theilwra ar gyfer ardal y dwyrain ac fel mesur dros dro, sicrhawyd lle yn y Swyddfeydd Dinesig ar gyfer wyth desg nesaf at Dîm Diogelu’r Dwyrain. Ers hynny, ehangodd y Tîm Help Cynnar o 14 i 23 aelod o staff, a gyflwynodd heriau o ran gweithio/rhannu desg yn effeithiol, gan arwain wedyn at gynnydd mewn gweithio oddi ar y safle a gweithio gartref, sydd wedi, yn ei dro, cael effaith andwyol weithiau ar faterion fel rhannu gwybodaeth a chydweithio.

 

Ym mis Rhagfyr 2018, cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd awdurdodau lleol ar draws Cymru i gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb yn erbyn cyllideb cyfalaf o £15m, er mwyn creu canolfannau dysgu cymunedol. At hynny, cydnabuwyd y byddai symud Canolfan y Dwyrain o’r Swyddfeydd Dinesig i Ysgol Brynteg yn gwella’n sylweddol weithio integredig a chyllid at y diben hwn, a gymeradwywyd yn dilyn hynny.

 

At hynny, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu fod cynllun wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, oedd yn cynnwys adeilad un llawr, ar wahân ar safle ysgol Brynteg.

 

Er y bu problem gyda’r broses dendro mewn perthynas â bwrw ymlaen â’r cynllun, ychwanegodd fod hyn bellach wedi’i oresgyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod yr adroddiad wedi dangos gweithio trawsgwricwlaidd effeithiol rhwng meysydd Addysg, y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Er y cafwyd problemau cynllunio a mynediad yn safle’r Ganolfan newydd, roedd yn falch o gadarnhau bod y rhain bellach wedi’u goresgyn, a diolchodd i Bennaeth Ysgol Gyfun Brynteg am gynorthwyo yn hyn o beth.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol er gwaetha’r uchod, roedd hi wedi gofyn am dawelwch meddwl fod yr holl broblemau diogelu yn yr ysgol wedi’u datrys, o gofio nad oedd gan yr ardal dan sylw lle’r oedd y Ganolfan yn cael ei symud lai na 7 pwynt mynediad/ffordd allan.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i’r Teulu mai’r prif bryder oedd sicrhau bod y safle’n cael ei wneud yn ddiogel a chyflawnwyd hyn trwy godi ffens o’i gwmpas mewn ambell i fan strategol, yn ogystal â darparu llwybr troed ger mynedfa Heol Ewenni. Yn ogystal, darparwyd lle parcio ar y safle i’r disgyblion 6ed dosbarth a byddai Strategaeth Ddiogelu’n cael ei rhoi ar waith yn yr ysgol, a fyddai’n cynnwys amserau cyfyngedig penodedig i gau gatiau’r ysgol ac ail-leoli ardal y Dderbynfa i ardal fwy canolog yn yr ysgol.

 

Clôdd yr Arweinydd y ddadl, gan ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol yr oedd wedi’i ymroi i’r cynllun.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 441.

442.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu adroddiad a’i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i gyrff llywodraethu’r ysgolion a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Amlinellwyd manylion y penodiadau angenrheidiol yn y rhan hon o’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio at Atodiad A yr adroddiad a restrodd y rhestr bresennol (a’r rhestr ar ddod) o leoedd gwag am lywodraethwyr Awdurdod Lleol a gofynnodd a ellid dosbarthu hon i bob Cynghorydd; y cyfryngau, staff yn yr Awdurdod a phobl gymunedol eu meddylfryd, er mwyn cael cymaint o ddiddordeb â phosibl er mwyn i’r swyddi hyn gael eu llenwi yn y dyfodol gweddol agos gobeithio.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r penodiadau a restrwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.   

443.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z