Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

444.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

445.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 106 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/11/19 a 19/11/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cabinet yn wir a chywir:-

 

Cyfarfod arbennig - 13 Tachwedd 2019

Cyfarfod arferol - 19 Tachwedd 2019

446.

Strategaeth Eiddo Gwag pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu'r Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023 sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad yn ffurfiol.

 

Wrth esbonio'r cefndir, cadarnhaodd fod defnyddio eiddo gwag o'r newydd yn flaenoriaeth i'r Awdurdod Lleol, a bod arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i hynny. Mae'r Strategaeth yn nodi'r bwriad y bydd "y Cyngor" a'i bartneriaid yn ceisio lleihau nifer yr adeiladau gwag ar draws y Fwrdeistref sirol a helpu i gyfrannu at gynyddu nifer y tai sydd ar gael i'w gwerthu neu eu rhentu.

 

Er mwyn cyflawni'r flaenoriaeth hon, mae Gweithgor Eiddo Gwag wedi cael ei ffurfio, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob gwasanaeth o fewn yr Awdurdod sy'n gweithio gydag eiddo gwag. Prif amcan y Gweithgor yw cyflawni'r amcanion strategol, sef gwneud defnydd o'r newydd o eiddo preswyl sydd wedi bod yn wag ers cyfnod hir.

 

Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Cofrestredig yn cydnabod effaith eiddo gwag ar ardal a'r gymuned, ac roeddent yn croesawu'r cynigion, ac yn cadarnhau bod angen strategaeth gadarn sy'n egluro'r sancsiynau a'r mesurau gorfodi sydd ar gael.

 

Mae sawl diweddariad wedi cael eu cyflwyno i'r Strategaeth ddrafft, ac amlinellwyd y rhain ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

O ran y cynnydd hyd yma, dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth, yn ogystal ag adrodd yn flynyddol ar y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus cenedlaethol ar gyfer eiddo gwag, y bydd y gwaith sy'n deillio o'r Strategaeth yn cael ei fesur ac yn destun adroddiadau ynghylch ansawdd y gwaith ymgysylltu a gorfodi a gyflawnwyd. Y nod fydd dangos yr ymdrechion i sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio o'r newydd. Bydd hyn yn cynnwys cofnodi nifer y llythyrau a ddosbarthwyd, yr ymatebion a gafwyd a'r camau gorfodi a gymerwyd. Dangoswyd peth o'r wybodaeth ystadegol hyd yma yn gysylltiedig â hyn ym mharagraff 4.7 yr adroddiad.

 

O ganlyniad i'r gweithgareddau hyn, o blith y 20 eiddo mwyaf problemus a aseswyd ac y dyfarnwyd sgôr iddynt gan y Cyngor drwy ddefnyddio'r meini prawf yn y Strategaeth, mae:-

 

5 - bellach yn cael eu defnyddio

2 - wedi'u rhestru ar ocsiwn y mis hwn

5 - yn destun trafodaeth ar gyfer camau gweithredu Adran 215 posib

2 - ar werth yn dilyn ymgysylltu helaeth

1 - yn cael ei ddal gan yr Adran Gynllunio gan fod ystlumod yn clwydo ynddo. Bydd angen Arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch hyn.

3 - ceisiadau grant wedi'u cyflwyno ond wedi'u gwrthod gan na fodlonwyd y meini prawf cymhwysedd

2 - yn destun trafodaeth â'r adran gyfreithiol ynghylch camau gorfodi pellach. 

 

Bydd ymyrraeth y Strategaeth yn cael ei mesur, ac adroddiadau'n cael eu llunio ar hynny, er mwyn esbonio maint y gwaith ymgysylltu a gorfodi a gyflawnwyd.

 

Cwblhaodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth ei gyflwyniad drwy gadarnhau bod 1296 o dai'r sector preifat yn wag am chwe mis neu fwy ym mis Ebrill 2019. Mae hyn i gyfrif am 2% o eiddo preswyl.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 446.

447.

Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet am gais am gyllid o Gronfa Her economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn cynnig am gyllid ac ymrwymo i gytundebau â phartneriaid darparu fel bo'n briodol.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru o'r farn fod yr economi sylfaenol yn cynnwys gwasanaethau a chynnyrch sylfaenol y bydd pobl yn dibynnu arnynt i gadw'r boblogaeth yn ddiogel, yn gysurus a gwâr. Dangoswyd enghreifftiau o'r economi sylfaenol yr oedd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio atynt ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod ymagwedd Llywodraeth Cymru at gefnogi a datblygu'r economi sylfaenol yn canolbwyntio ar dri maes, fel y manylwyd ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

I gefnogi hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r canlynol: -

 

·       Cynllun Gweithredu Economaidd (CGE) a oedd wedi pennu'r cyfeiriad ar gyfer ymagwedd ehangach a mwy cytbwys at ddatblygu economaidd, gan symud tuag at ffocws ar 'le' a chryfhau a chynyddu cydnerthedd cymunedau.

 

·       Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi Sylfaenol er mwyn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch ymyraethau ac arfer gorau cyfredol a'r dyfodol; cefnogi ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid yn yr economi sylfaenol; a hyrwyddo cydgysylltu mentrau perthnasol o fewn y llywodraeth a thu hwnt.

 

Roedd hyn yn cynnwys cronfa £4.5 miliwn i gefnogi Cronfa'r Economi Sylfaenol.

 

Yn dilyn lansiad y gronfa, cyflwynodd Swyddogion gais i ariannu prosiect B-Ridges ym mis Gorffennaf 2019.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru fod y cynnig ar gyfer prosiect B-Ridges wedi'i gymeradwyo.  Bydd gan y prosiect B-Ridges is-bennawd: Sir Pen-y-bont ar Ogwr - Manwerthu | Buddsoddi | Datblygu | Tyfu | Esblygu | Cynnal.

 

Nod y prosiect B-Ridges yw creu pecyn cymorth i ganiatáu i fusnesau sy'n cychwyn yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg ddod yn gynaliadwy. Caiff yr ardaloedd hyn eu targedu am eu bod o fewn ardal Tasglu'r Cymoedd ac felly'n gymwys i dderbyn y cyllid sydd wedi'i glustnodi. Fodd bynnag, bydd swyddogion yn ymgysylltu â chyllidwyr eraill er mwyn chwilio am gyfleoedd i ehangu'r dull a fabwysiadwyd gan y prosiect B-Ridges ymhellach i ardaloedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol. 

 

Ar gyfer cais prosiect B-Ridges cynigiwyd grant o £75k tuag at gyfanswm cost prosiect o £100k, gyda'r bwlch o ran cyllid wedi'i gyflenwi drwy raglen gyllido 'Kickstart'.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio y byddai'r cyllid o fudd i fusnesau sy'n ystyried eu sefydlu eu hunain yn nhrefi Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg. Llongyfarchodd y Swyddogion am chwilio am y fath gyfleoedd cyllido.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd, pe bai'r cynllun yn llwyddiannus a mwy o gyllid yn cael ei sicrhau hyn y dyfodol, y byddem yn ystyried gweithredu hynny mewn trefi eraill yn y Fwrdeistref Sirol, hy, Porthcawl a Phencoed.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet:

 

(1)            Yn nodi'r cyllid a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 447.

448.

Canlyniad yr Ymgynghoriad 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog A151 Dros Dro adroddiad a hysbysai'r Cabinet ynghylch canlyniad ymgynghoriad 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' 2019, a ofynnai i ddinasyddion rannu eu barn ynghylch nifer o gynigion allweddol yn gysylltiedig â'r gyllideb sydd dan ystyriaeth dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gweithgarwch ymgynghori, dadansoddi a'r prif ganfyddiadau.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod Cyngor bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng ei gyllideb o £27.07miliwn dros y pedair blynedd diwethaf, ac mai'r disgwyl oedd y byddai angen gostyngiadau sylweddol pellach dros y pedair blynedd nesaf.

 

Ychwanegodd fod ymarfer ymgynghori cyhoeddus wedi cael ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos o 9 Medi 2019 hyd 3 Tachwedd 2019. Gofynnwyd i'r ymatebwyr rannu eu barn ar ystod o gynigion yn gysylltiedig â'r gyllideb sydd dan ystyriaeth rhwng 2020-21 a 2023-24, gan gynnwys cynnig i godi'r dreth gyngor ac ystyried cwtogi gwasanaethau gan gynnwys glanhau strydoedd, TCC, rheoli pla, digwyddiadau canol y dref, gwasanaethau dysgu i oedolion, gwasanaethau cymorth addysg, yn ogystal â chau un o'i dair canolfan ailgylchu gymunedol.

 

Disgrifiai'r adroddiad sut yr oedd proses ymgynghori'r gyllideb, yn nhermau ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch hyn, wedi esblygu ers cyflwyno'r broses honno yn 2013-14, gan gynnwys ymgynghori â grwpiau oedran amrywiol a oedd yn cynnwys y genhedlaeth iau mewn cymdeithas.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A yr oedd Adroddiad Ymgynghori a nodai'r farn a fynegwyd gan rai a oedd wedi cymryd rhan yn y broses eleni, ynghyd â'r gyfradd ymateb a'r dulliau rhyngweithio a ddefnyddiwyd gan ymatebwyr ar ffurf tabl ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Ar ôl hynny, roedd paragraff 4.4 yn esbonio'r prif ffigurau a themâu a godai o'r ymgynghoriad cyhoeddus, a rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r rhain er budd yr Aelodau.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod 3,417 o ymatebion i'r arolwg wedi dod i law, a bod hynny'n cynrychioli cynnydd o 27% o gymharu â chyfanswm y llynedd o 2,677 o ymatebion. Teimlai fod hyn yn welliant sylweddol yn y broses ymgynghori. Roedd hyn yn rhoi darlun cywirach i'r Cyngor o'r hyn yr oedd y cyhoedd am wario arian arno/ei gwtogi yn nhermau'r gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod ac ati.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ddiolch i sefydliadau fel Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a Halo am gynnal rhai o'r sesiynau hefyd, a hynny dros ardaloedd eang sy'n rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Nododd fod 3,417 o arolygon wedi cael eu cwblhau, a gofynnodd faint o'r arolygon hynny a gwblhawyd yn Gymraeg.

 

Dywedodd y Swyddog Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod 12 o ymatebion wedi dod i law yn Gymraeg, a 5 o'r rheiny o'r Panel Dinasyddion.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol hefyd, o'r holl Ganolfannau Cymuned ac Ysgolion yr ymwelwyd â hwy, a oedd unrhyw brif wahaniaethau yn nhermau'r adborth a gafwyd rhwng gwahanol grwpiau.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod yr adborth gan bobl iau yn adlewyrchu barn fwy cytbwys na barn rhai aelodau o'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 448.

449.

Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i ymrwymo i gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ("RhCT"), Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ynghylch Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2019/20.

 

Roedd gwybodaeth gefndir yn yr adroddiad yn cadarnhau mai cynllun grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw'r Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2019/20 ("y Grant ADY"). Pwrpas y cynllun yw cynorthwyo i gyflenwi'r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys paratoi i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2019 ("Deddf ADYTA") a rheoli gweithrediad y Ddeddf honno.

 

Roedd RhCT, a oedd yn gweithredu fel Awdurdod Arweiniol, wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am y grant ADY ar ran y Cyngor, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a darparwyr trydydd parti (sef y sector addysg uwch a byrddau iechyd lleol yn rhanbarthau'r cyngor).

 

Bu'r cais am Grant ADY yn llwyddiannus a dyfarnwyd cyllid o hyd at £949,656.00 i RhCT fel Awdurdod Arweiniol. Bydd y cyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu i bob Cyngor yn unol â'r Cynllun Trawsnewid ADY.

 

Fel Awdurdod Arweiniol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod hi'n ofynnol i RhCT dderbyn telerau ac amodau'r Grant ADY fel y nodwyd yn llythyr cynnig Llywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni'r prosiect a sicrhau cydymffurfiaeth â'r telerau ac amodau a nodwyd yn y llythyr cynnig, mae RhCT yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor, ynghyd â'r 3 awdurdod lleol arall a restrir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad, ymrwymo i gytundeb yn gysylltiedig â'r Grant ADY hwn. Bydd y cytundeb hwn yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r cynghorau a sut y dyrennir y cyllid.

 

Ychwanegodd fod arweinwyr y Gwasanaeth Cynhwysiant o bob awdurdod lleol yn cyfarfod yn fisol â'r Arweinydd Trawsnewid ADY o'r Bwrdd Trawsnewid. Yn ystod y cyfarfod hwn, bydd y Cynllun Gweithredu ADY a gwariant y grant yn cael eu monitro.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio, fod y cyllid a sicrhawyd yn gwneud llawer i gefnogi rhai o ddarpariaethau Deddf ADYTA a'r maes angen cynyddol ar gyfer pobl ag ADY.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet:

 

(1)      Yn cymeradwyo y dylai'r Cyngor ymrwymo i'r cytundeb â RhCT, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

 

Yn rhoi awdurdod dirprwyol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio i negodi a chytuno ar delerau'r cytundeb ac ymrwymo i'r cytundeb. 

450.

Deddf Trwyddedu 2003, Datganiad Polisi Trwyddedu ac Asesiad Effaith Gronnus pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu adroddiad a drafodai rôl y Cyngor fel awdurdod trwyddedu, fel corff rheoleiddio ar gyfer tafarndai, clybiau, siopau diodydd trwyddedig a siopau cludfwyd sydd ar agor yn hwyr yn y nos.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd, ac i gymeradwyo Polisi ac Asesiad Effaith Gronnus arbennig yn rhan o'r broses honno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yn rhaid i'r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a ganlyn:

 

            Atal trosedd ac anhrefn;

            Atal niwsans cyhoeddus;

            Diogelwch y cyhoedd;

          Amddiffyn plant rhag niwed

 

Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi dod yn Awdurdod Trwyddedu yn 2005, a'i bod hi bellach yn bryd cynnal adolygiad pum mlynedd o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu.  Proses ffurfiol yw hon, ac amlinellwyd y broses statudol ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.  Esboniodd fod yr Ymgynghoriad ar hyn yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 17 Mehefin 2019 a 9 Medi 2019.  Roedd yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys yr Heddlu, yr Awdurdod Tân, y Cydwasanaethau Rheoleiddio, y Bwrdd Iechyd Lleol, adrannau eraill y Cyngor a'r Swyddfa Gartref.

 

Yr oedd hefyd yn cynnwys yr holl Aelodau Etholedig, Cynghorau Tref a Chymuned, Rheolwr Canol y Dref a chynrychiolwyr masnach.

 

Yn Natganiad y Polisi Trwyddedu nodir sut mae'r Cyngor yn arfer ei swyddogaethau a'i ymagwedd at benderfyniadau. Nodir hefyd yr hyn y mae'n disgwyl i ddarpar ymgeiswyr ei ystyried wrth baratoi ceisiadau am drwyddedau newydd neu amrywiadau o bwys.  Yn adran 9 y polisi hwn nodir nifer o fesurau y gellid eu hystyried, yn dibynnu ar natur yr eiddo. Cynghorodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, ar wahân i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, nid oedd unrhyw dueddiadau na materion newydd yn deillio o'r ymgynghoriad a fyddai'n teilyngu newid polisi.  O ganlyniad i hynny, roedd y Datganiad cyffredinol arfaethedig wedi'i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad. Dywedodd fod y newidiadau i'r datganiad hwnnw wedi'u hamlygu yn goch.  Roedd a wnelo'r diweddariadau cyntaf ag amcanion corfforaethol y Cyngor. Roedd siâp neu lefelau meysydd cyfrifoldeb nifer o Gyfarwyddiaethau wedi newid, ac ar sail hynny, roedd angen edrych ymhellach ar rai diwygiadau ar dudalen 40 yr adroddiad, hy, lle'r oedd angen diweddaru rhai o gyfeiriadau'r cyrff a restrwyd yno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod a wnelo'r ail fater â'r Polisi Effaith Gronnus Arbennig sydd ar waith yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Effaith Gronnus yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sut y gall dwysedd eiddo trwyddedig mewn ardal neilltuol gael effaith negyddol ar drosedd ac anhrefn, sbwriel wedi'i ollwng, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a niwsans. Os bydd y Cyngor yn gweld bod tystiolaeth o broblem mewn ardal, gall gynnwys polisi i ymdrin ag Effaith Gronnus o fewn y prif Ddatganiad Polisi.  Bu polisi o'r fath yn weithredol ar Strydoedd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ers 2005. Effaith y polisi yw rheoli faint o eiddo newydd neu newidiadau o bwys i eiddo a geir o fewn yr ardal. Mae'r polisi i bob  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 450.

451.

Y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynnwys eitemau ar y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr hyd 30 Ebrill 2020.

 

Cadarnhaodd, yn unol â darpariaeth yng Nghyfansoddiad y Cyngor, y byddai'r Flaenraglen Waith yn cael ei llunio gan y Swyddog Monitro ac yn trafod cyfnod o bedwar mis fel rheol. Byddai hefyd yn cynnwys materion yr oedd y Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cyngor yn debygol o'u hystyried.

 

Dangoswyd y Blaenraglenni Gwaith ar gyfer y cyfnod nesaf a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad, fel a ganlyn:-

 

·       Cabinet - Atodiad 1

·       Cyngor - Atodiad 2

·       Trosolwg a Craffu - Atodiad 3

 

Nododd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, o'r wybodaeth a gyflwynwyd i gefnogi'r adroddiad, fod rhai testunau diddorol ar Flaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac, oherwydd hynny, y gallai fod yn werth ystyried gwe-ddarlledu rhai o'r cyfarfodydd hyn er budd y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cabinet:-

 

·        Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr hyd 30 Ebrill 2020 yn Atodiad 1 yr adroddiad.

Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a'r Pwyllgorau Trosolwg Chraffu, fel y'u dangoswyd yn Atodiad 2 a 3 yr adroddiad, yn y drefn honno.  

452.

Adroddiadau i'w Nodi er Gwybodaeth pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad a hysbysai'r Cabinet ynghylch Adroddiad Gwybodaeth i'w nodi (wedi'i atodi i'r adroddiad), a oedd wedi cael ei gyhoeddi ers ei gyfarfod diwethaf.

 

Dangoswyd manylion yr Adroddiad Gwybodaeth ym mharagraff 4.1 yr adroddiad cyflwyno.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio, a'r Arweinydd yn ei dro, bob un o'r tair ysgol yn dilyn adolygiad diweddar Ysgol Gynradd West Park; ailymweliad ag Ysgol Gynradd Tynyrheol a'r adolygiad o gynnydd yn Ysgol Gyfun Cynffig.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet yn cydnabod bod y ddogfen a restrwyd yn yr adroddiad wedi'i chyhoeddi.

453.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z