Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 15fed Mai, 2018 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

201.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

202.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 113 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/04/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 fel rhai gwir a chywir.   

203.

Swyddog Eiddo Gwag pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd N Clarke argymhellion Pwyllgor Trosolwg Testun a Chraffu 3 mewn perthynas â recriwtio Swyddog Eiddo Gwag a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2018. Nododd bod yr adroddiad a ystyriwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’n trafod rôl y Gweithgor Eiddo Gwag ac yn benodol y buddion o greu Swyddog Eiddo Gwag a pha gylch gwaith fyddai’n berthnasol i’r swydd. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Clarke wybod i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2017 roedd 1233 o eiddo preswyl sector preifat oedd wedi bod yn wag ers 6 mis neu hirach, roedd 50% o’r eiddo hyn wedi bod yn wag ers 6 i 12 mis, fodd bynnag, roedd 31% i’r eiddo wedi bod yn wag ers o leiaf 2 flynedd.  Rhoddodd y Cynghorydd Clarke wybod i’r Cabinet bod 18 o gapeli ac eglwysi adfeiliedig ledled y bwrdeistref sirol, ac mae’r rhan fwyaf (72%) yn y dyffrynnoedd a gellid eu hystyried ar gyfer trosi’n llety preswyl. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 3 am y gwaith yr oedd wedi’i wneud wrth gyflwyno argymhellion ar y broses o recriwtio Swyddog Eiddo Gwag, a rhoddodd wybod y byddai’r Cabinet yn ystyried yr argymhellion maes o law.  Nododd y byddai angen ystyried lle mae’r adnodd Swyddog Eiddo Gwag yn ffitio orau gan ei fod yn un fydd yn berthnasol i bob Cyfarwyddiaeth.  Nododd y Dirprwy Arweinydd hefyd y byddai’r Cabinet yn ystyried yr argymhellion a bod taclo eiddo gwag yn rhan o faniffesto’r Cabinet a’r Gr?p Llafur.  Nododd nad oedd y broblem o eiddo gwag yn y Bwrdeistref hwn yn unig, ond yn hytrach yr oedd ledled y rhanbarth gyda dulliau gwahanol i daclo’r broblem, ac roedd angen edrych i mewn i arfer gorau mewn lleoedd eraill yn y rhanbarth.               

 

PENDERFYNWYD:      Y byddai’r Cabinet yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 3 a derbyn adroddiad pellach gan swyddogion ar yr argymhellion canlynol:

 

recriwtio Swyddog Eiddo Gwag dynodedig i fynd ar ôl y problemau o ran Tai Gwag ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

 

ar ei benodiad, y dylai’r Swyddog Eiddo Gwag ddod yn gydlynydd ar y Gweithgor Eiddo Gwag.    

204.

Rhesymoli Gwasanaethau Bws a Gefnogir 2018/2019 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybodaeth am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd i leihau cymhorthdal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws gan £188,000 fel y'i cytunwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Ceisiodd farn y Cabinet i weld a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i'r cynnig gwreiddiol ar sail yr ymgynghoriad cyhoeddus a sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.    

 

Nododd bod y Cyngor a Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau bysus rhanbarthol a lleol drwy gymorthdalu llwybrau nad ydynt yn hyfyw’n fasnachol.  Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithio ar lwybrau sy’n galluogi preswylwyr i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.    Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod targed arbedion o £188,000 yn 2018/19 wedi’i adnabod yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, fyddai’n gadael £130,000 i wasanaethau bws a gefnogir.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau dabl oedd yn amlygu llwybrau bysus y cynhigir y dylid canslo eu cymhorthdal ariannol. Y rhain oedd yn sail i'r ymgynghoriad.  Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar y gostyngiadau arfaethedig i’r gwasanaeth er mwyn casglu barn pobl ar effaith bosibl y gostyngiadau er mwyn cwrdd â’r gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb sef £188,000 yn 2018/19, yn rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.  Amlygodd yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad gan nodi ei bod hi’n glir bod y rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu bod colli gwasanaethau bws lleol yn bryder i gymunedau.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet nad oedd yn amlwg ar hyn o bryd pe byddai elfen fasnachol y gwasanaethau bws yn dal i weithredu ar y llwybrau a ariennir yn rhannol, neu pe byddai’r elfen fasnachol yn cael ei hehangu i'r gwasanaethau sydd wedi'u cymhorthdalu ar hyn o bryd.  Nid oedd yn wybyddus chwaith a fyddai’r gweithredwr Trafnidiaeth Gymunedol presennol yn gallu disodli unrhyw un neu bob un o’r llwybrau bws arfaethedig ar gyfer eu diddymu.  Bydd swyddogion yn dal i weithio a chysylltu â’r gweithredwr Trafnidiaeth Gymunedol i ganolbwyntio ar yr ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi derbyn gwasanaethau bws lleol gostyngedig ac wedi ceisio sicrhau bod y gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol a ddarperir mor effeithiol â phosibl.  Cafodd yr ymgynghoriad ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac amlygodd y materion a godwyd gan y Pwyllgor a’r ymatebion gan swyddogion i’r pwyntiau hynny er ystyriaeth y Cabinet. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybod i’r Cabinet pe na byddai lefel llawn yr arbediad ar gyfer £188,000 a gymeradwywyd yn y MTFS o ganlyniad i'r cynnig i waredu cymhorthdaliadau ar gyfer y llwybrau a nodwyd, byddai angen ei fodloni drwy ryw ffordd arall, un ai o arbedion ychwanegol rhywle arall yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau neu i fantoli drwy ddynodi cyllid o'r gyllideb fychan sydd heb ei ddynodi o ganlyniad i gynyddu'r Dreth Gyngor o 4.2% i 4.5%. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i ddinasyddion y Bwrdeistref am ymgysylltu yn y broses ymgynghori a bod y cyfarfodydd cyhoeddus a fynychodd ef wedi'u cynnal yn dda ac yn bwyllog.  Roedd o’r farn bod sgôp i gynnal y cymhorthdal ar gyfer y 3 gwasanaeth oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 204.

205.

Capita Glamorgan Consultancy Limited pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Ceisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gymeradwyaeth i newid Cyfarwyddwr enwebedig y Cyngor ar y Bwrdd Menter ar y Cyd; rhoi p?er i'r Prif Weithredwr i gytuno a gweithredu newidiadau arfaethedig i Erthyglau Cymdeithasu'r Cwmni ac i fynd i mewn i Gytundeb Amrywiad a phwerau i gytuno a gweithredu unrhyw ddiwygiadau i'r dyfodol i Erthyglau Cymdeithasu ac i fynd i mewn i unrhyw Gytundebau Amrywio i'r dyfodol ar y cyd â Phennaeth Cyllid; dirprwyo unrhyw hawliau rhanddeiliaid (gan gynnwys hawliau pleidleisio) i'r Cyngor a phwerau rheoli eraill sydd ar gael i'r Cyngor fel rhanddeiliad y cwmni a rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr ar y cyd â Phennaeth Cyllid lle bydd gan unrhyw ganiatâd o’r fath oblygiadau ariannol i’r Cyngor i roi unrhyw ganiatâd sydd ei angen gan y Cyngor i sicrhau unrhyw gydymffurfiaeth statudol gan y Cwmni.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod Capita Joint Venture yn arddangos cydweithio partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r sector preifat wrth ddatblygu a chyflawni gwasanaethau.  Mae hefyd yn cefnogi blaenoriaeth y Cyngor o ran cefnogi economi llwyddiannus drwy gadw swyddi o safon yn yr ardal a bod â’r arbenigedd ar gael yn lleol i daclo projectau priffyrdd, trafnidiaeth ac adfywio yn y rhanbarth.   

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod Ymgynghoriaeth Capita Morgannwg yn Gwmni Cyd-fenter rhwng Capita Symonds Limited (51% o'r cyfrannau), Cyngor RhCT (28% o’r cyfrannau), Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (15% o'r cyfrannau) a Chyngor Merthyr Tudful (6% o'r cyfrannau).  Dechreuodd y Cwmni JV fasnachu ar 1 Medi 2008 a bellach mae'n masnachu dan yr enw brand 'Redstart' ers 2017. 

 

Nododd ym mis Chwefror 2016, cytunwyd bod angen newid yr Erthyglau Cymdeithasu, roedd y diwygiadau eisoes wedi’u negodi a’u cytuno, oedd hefyd wedi arwain at ddiwygiadau i’r Cytundeb Menter ar y Cyd a'r Cytundeb Gwasanaethau.  Cadarnhaodd hefyd bod dyrannu’r pwerau’n digwydd yn unol â’r ffordd y mae awdurdodau lleol eraill yn gweithredu.               

 

PENDERFYNWYD:            Y byddai’r Cabinet:

 

1.      yn cymeradwyo penodiad deiliad y swydd Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion i ddisodli Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yn Gyfarwyddwr y Cwmni, i’w gadarnhau yng nghyfarfod Bwrdd nesaf y Cwmni.

 

2.      yn dirprwyo’r pwerau i’r Prif Swyddog Gweithredol i gytuno a gweithredu’r diwygiadau arfaethedig i Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni ar y cyd â’r Pennaeth Cyllid ar ran y Cyngor, ac i fynd i mewn i Gytundeb Diwygiad i newid y Cytundeb Menter ar y Cyd a’r Cytundeb Gwasanaethau.

 

3.      dirprwyo pwerau i’r Prif Swyddog Gweithredol i gytuno a dyrannu unrhyw ddiwygiadau i’r dyfodol i Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni ar y cyd â Phennaeth Cyllid ar ran y Cyngor ac i fynd i mewn i unrhyw Gytundebau Diwygio i’r dyfodol i ddiwygio darpariaethau'r ddogfennaeth gyfreithiol fydd yn berthnasol i'r Cyngor mewn perthynas â sefydlu Cwmni Cydfenter a phan fydd y Prif Swyddog Gweithredol yn meddwl ei bod hi'n angenrheidiol, bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn adrodd i'r Cabinet ar ddiwygiadau o'r fath i'r Erthyglau Cymdeithasu neu Gytundebau Amrywiad.

 

4.      dirprwyo unrhyw hawliau rhanddeiliaid (gan gynnwys hawliau pleidleisio) y Cyngor a phwerau rheoli eraill sydd ar gael i'r Cyngor fel rhanddeiliad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 205.

206.

Adolygiad Parcio pdf eicon PDF 174 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar gynigion i’r Cabinet i ystyried rheolaeth parcio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ac opsiynau a strategaethau i’r dyfodol. 

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod y Cyngor yn gyfrifol am 28 o feysydd parcio oddi ar y stryd, caiff 10 o’r rheiny eu rhedeg fel meysydd parcio talu ac arddangos, mae 10 ohonynt yn rhai arhosiad byr, 2 yn arhosiad byr a hir a 5 yn arhosiad hir.  Nododd bod y Cyngor wedi derbyn llawer o geisiadau am reolaeth parcio preswyl ond oherwydd materion yn ymwneud â gorfodaeth a'r gost, nid yw wedi gallu bwrw ymlaen a gweithredu ceisiadau o'r fath.  Yn ei gyfarfod ar 1 Ebrill 2014 cytunodd y Cabinet ar argymhellion ar strategaeth i gyflwyno parcio i breswylwyr.  Gwnaeth y Cyngor hefyd gomisiynu adolygiad o feysydd parcio cyhoeddus ynghyd â’r cynllun parcio ceir i staff / aelodau.  Fodd bynnag, cafodd hyn ei ohirio oherwydd datblygiad y Rhiw a symudiadau staff o ganlyniad i gau adeilad Sunnyside. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau nad yw'r strwythur tariff presennol ar gyfer meysydd oddi ar strydoedd wedi newid ers 2007. Nododd gan fod maes parcio Rhiw wedi dod yn ôl i ddefnydd ar ôl ail-ddatblygu, roedd yn briodol i ailsefydlu'r adolygiad rheolaeth parcio i gynnwys nifer o faterion eraill oedd wedi dod i'r amlwg i swyddogion. 

 

Amlinellodd yn fanwl y cynigion ynghyd ag argymhellion ar bob un o’r materion a ganlyn:

 

  • Tariffau presennol ar gyfer bob un o feysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor a Pharcio i Staff.
  •  Parcio i Breswylwyr yn Nhref Pen-y-bont ar Ogwr
  • Parcio Aros Cyfyngedig ar gyfer Parcio ar y Stryd, Porthcawl
  • Posibilrwydd o ddefnyddwyr yn talu mewn meysydd parcio eraill yn y Bwrdeistref Sirol
  • Darparu pwyntiau gwefru trydanol ym maes parcio'r Rhiw
  • Dulliau talu ar beiriannau talu ac arddangos presennol
  • Peiriannau Talu ac Arddangos yn cydymffurfio â’r Safonau
  • Codi tâl am drwyddedau gollyngiad i Gontractwyr yng Nghanol Tref Pen-y-bont
  • Diogelwch – Agor a chloi meysydd parcio a galw allan
  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol
  • Gwydnwch strwythurol pob maes parcio ym Mhen-y-bont

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau na ddisgwylir y byddai’r newidiadau mewn tariffau parcio yn achosi llawer o newid na gwarediad o ddefnyddwyr presennol yn y meysydd parcio, er bod hyn yn dal i fod yn risg. Nodwyd bod symleiddio’r strwythur tariffau'n cael ei ystyried fel ei fod yn cefnogi ymwelwyr i ganol y dref, a gallai annof arhosiad hirach.  Roedd wedi’i rhagweld ar hyn o bryd, er nad oedd yn warantedig, y byddai’r newidiadau arfaethedig yn creu gweddill dros y drefn codi tâl ar hyn o bryd tua £50,000, fyddai'n cael ei ddefnyddio i leihau'r diffyg ar y gyllideb a gwneud gwaith trwsio cyffredinol i feysydd parcio presennol lle bo'n bosibl.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet y disgwylir i’r newid mewn prisiau ym Maes Parcio Rest Bay greu gweddill o dua £20,000; fodd bynnag byddai’n rhaid ailfuddsoddi unrhyw gynnydd yn Locks Common.  Nododd bod dyraniad cyfalaf o £128,000 er mwyn cyflwyno parcio i breswylwyr yn nhref Pen-y-bont fyddai'n cael ei ddefnyddio i gyflwyno'r cynllun arfaethedig.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 206.

207.

Strategaeth Presenoldeb Ysgol pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Ceisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teulu gymeradwyaeth y Strategaeth Presenoldeb Ysgol ar gyfer 2018-2021. 

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod cysylltiad amlwg rhwng cyrhaeddiad addysgol da a lefelau uchel o bresenoldeb, tra bod presenoldeb gwael a chyrraedd yr ysgol yn hwyr yn cael effaith andwyol ar addysg plentyn, a gall gael effaith sylweddol ar ei lesiant.  Nododd bod y strategaeth presenoldeb ysgol wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i ystyried canllawiau cenedlaethol ac arfer da. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teulu bod graddau presenoldeb ysgol wedi gweld cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd academaidd 2013-2016.  Gwelwyd mân ostyngiad yn 2016-2017, gyda phresenoldeb ysgolion cynradd yn 95.1% a chyda sgôr 5ed yng Nghymru, tra bod presenoldeb ysgolion uwchradd ar gyfer yr un cyfnod yn 94.2% ac yn 7ed yng Nghymru.  Roedd y mân ostyngiad mewn presenoldeb yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru a Chonsortiwm Canol y De.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod cymorth a chanllawiau ar gael i bob ysgol gan y Gwasanaeth Lles Addysg ac asiantau cymorth eraill, a bod pnaeli presenoldeb yn dal i gael eu gweithredu er mwyn rhannu arfer da mewn ysgolion, er fod angen gwaith pellach i sicrhau cysondeb ledled ysgolion yr awdurdod.             

 

Wrth gymeradwyo’r Strategaeth Presenoldeb Ysgolion nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod yn barhad o’r strategaeth flaenorol.  Roedd yn bryderus am ddefnydd Hysbysiadau Cosb Benodedig gan rhai awdurdodau lleol, ond cafodd sicrwydd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teulu bod y rhain yn cael eu defnyddio fel cosb olaf yn unig.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teulu wybod i'r Cabinet bod yr awdurdod wedi cyflwyno 40 o Hysbysiadau Cosb Benodedig yn y 5 mlynedd diwethaf am beidio â mynychu’r ysgol.   

 

PENDERFYNWYD:       Y byddai'r Cabinet yn ffurfiol yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu polisi presenoldeb ysgol yr awdurdod lleol ar gyfer 2018-2021.    

208.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys.