Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees 

Eitemau
Rhif Eitem

457.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

458.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 100 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/12/19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo bod cofnodion 17/12/2019 yn wir ac yn gywir.

459.

Monitro Cyllideb 2019-20 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 3 pdf eicon PDF 766 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch sefyllfa ariannol refeniw'r Cyngor ar 31 Rhagfyr 2019.

 

Esboniodd fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-2020. Yn rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, caiff amcanestyniadau'r gyllideb eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd gerbron y Cabinet bob chwarter. Bydd cyflawniad gostyngiadau cytunedig i'r gyllideb hefyd yn cael ei adolygu yn rhan o'r broses.

 

Yn gryno, cymharodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y gyllideb â'r alldro a ragwelwyd ar 31Rhagfyr 2019, y manylwyd arno yn Nhabl 1 yr adroddiad. Ymhelaethodd ar y tanwariant o £4.391 miliwn gan nodi mai'r prif reswm wrth wraidd hynny oedd bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Awdurdodau Lleol ynghylch cyllid grant ychwanegol sy'n cael ei neilltuo i dalu cost ychwanegol pensiynau athrawon, pensiynau'r gwasanaeth tân yn ogystal â'r cynnydd yng nghyflogau athrawon. Roedd hyn yn creu cyfanswm o £2,006,096, £272,405 a £343,701, yn yr un drefn.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y Cyngor wedi derbyn ei setliad llywodraeth leol dros dro  ar gyfer 2020-2021 oddi wrth Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019. Cyflwynwyd adroddiad gerbron y Cabinet ar 14 Ionawr 2020 ar ddrafft o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 hyd 2023-24, a nodai flaenoriaethau gwariant y Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a rhannau o’r gyllideb a fyddai'n cael eu targedu i sicrhau arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2020-2024 a chyllideb refeniw drafft fanwl ar gyfer 2020-21.

 

Dywedodd na chafwyd unrhyw drosglwyddiadau yn gysylltiedig â'r gyllideb, ond y bu amryw o addasiadau technegol rhwng cyllidebau ers adrodd rhagolygon chwarter 2 gerbron y Cabinet ar 22 Hydref 2019. Amlinellwyd y rhain yn y tabl yn yr adroddiad, yn 4.1.6.

 

Oherwydd y pwysau cynyddol ar Gynghorau Cymru dros oes y SATC, esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod angen datblygu cynigion cylchol i sicrhau gostyngiad o gyfanswm o £29.332 miliwn i’r gyllideb dros y pedair blynedd nesaf, yn seiliedig ar y senario fwyaf tebygol. Roedd gostyngiadau cyllidebol blaenorol a gafwyd yn 2016-17 hyd 2018-19 yn tystio i hyn, lle na lwyddwyd i gyflawni gwerth £3.242 miliwn o gynigion i leihau'r gyllideb yn llawn.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y gostyngiadau cyllidebol yr oedd eu hangen yn y Cyfarwyddiaethau Addysg a Chymorth i Deuluoedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Chymunedau. Manylwyd ar y rhain yn Nhabl 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y nodwyd y canlynol fel egwyddor 7 y SATC "Mae cynigion arbed wedi'u datblygu'n llawn ac yn cynnwys graddfeydd amser realistig i'w cyflawni, cyn eu cynnwys yn y gyllideb flynyddol. Bydd Cronfa Wrth Gefn ar gyfer Gostyngiadau Cyllideb yr SATC yn cael ei chynnal i liniaru rhag unrhyw achosion o oedi nas rhagwelwyd". Sefydlwyd Cronfa Wrth Gefn ar gyfer Gostyngiadau Cyllideb yn 2016-17. Defnyddiwyd y gronfa wrth gefn hon i fodloni cynigion penodol i ostwng y gyllideb yn y blynyddoedd cynt ar sail untro, gan ddisgwyl mesurau amgen. Roedd y gronfa'n cael ei defnyddio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 459.

460.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 3 2019-20 pdf eicon PDF 562 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a oedd:

 

  • Yn rhoi'r diweddaraf am Raglen Gyfalaf 2019-20 ar 31 Rhagfyr 2019 (Atodiad A)
  • Yn gofyn am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor er mwyn cymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 hyd 2028-29 (Atodiad B)
  • Yn nodi rhagamcan o ddangosyddion darbodus a dangosyddion eraill ar gyfer 2019-20 (Atodiad C)

 

Dywedodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 fel y cawsant eu diwygio, yn cynnwys darpariaethau manwl o'r rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu.

 

Ychwanegodd fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2019-20 hyd 2028-29 yn rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC). Diweddarwyd a chymeradwywyd y rhaglen gyfalaf ddiwethaf gan y Cyngor ar 23 Hydref 2019.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod yr adroddiad hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y meysydd a ganlyn:

 

  • Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019-20
  • Rhaglen Gyfalaf 2019-20 Ymlaen
  • Monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill
  • Monitro'r Strategaeth Gyfalaf

 

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019-20

Mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 ar hyn o bryd yn creu cyfanswm o £33.700 miliwn, y mae £15.057 miliwn ohono wedi'i fodloni o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi, a'r £18.643 miliwn sy'n weddill o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol. Roedd gwybodaeth bellach am raglen gyfalaf bob cyfarwyddiaeth o 2019 wedi'i chynnwys yn nhabl 1 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod tabl 2 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ragdybiaethau ariannu cyfredol rhaglen gyfalaf 2019-20.

 

Ychwanegodd fod Atodiad A yn rhoi manylion cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2019-20 o gymharu â'r gwariant a ragamcanwyd.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod nifer o gynlluniau eisoes wedi'u nodi'n gynlluniau lle'r oedd angen llithro'r gyllideb i flynyddoedd nesaf 2020-21 a thu hwnt. Roedd angen cyfanswm o £5.158 miliwn o lithriant yn chwarter 3, a oedd yn cynnwys y cynlluniau a ganlyn:

 

  • Neuadd y Dref Maesteg (£1.6 miliwn)
  • Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.768 miliwn)
  • Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
  • (£0.387 miliwn)
  • Ravens Court (£0.442 miliwn)
  • TAC Parciau/Pafiliynau/Canolfannau Cymunedol (£0.66 miliwn)
  • Asedau Anweithredol (£0.48 miliwn)

 

Rhaglen Gyfalaf 2019-20 a Thu Hwnt

Ers mis Hydref 2019, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol ac incwm ychwanegol wedi'u cymeradwyo, a bod hynny wedi'i ymgorffori yn y rhaglen gyfalaf, gan gynnwys y canlynol:

 

  • Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.284 miliwn)
  • Cymorth cyfalaf ar gyfer gweithredu ac ehangu casgliadau
  • cartref ar wahân ar gyfer gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol (£0.238 miliwn)
  • Cronfa Gwella Eiddo Canol Tref (£0.1 miliwn)
  • Grant Byw yng Nghanol y Dref (£0.05 miliwn)

 

Dywedodd fod newidiadau o bwys i gynlluniau eraill hefyd:

 

  • Cynllun Rheoli Risg Arfordirol - Porthcawl (£6.032 miliwn)
  • Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif
  • Darpariaeth Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg
  • Grant Cynnal a Chadw Ysgolion
  • Gwaith ar Anghenion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 460.

461.

Ardrethi Annomestig: Rhyddhad Dewisol: Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu 2020-21 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a ofynnai i'r Cabinet fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu gan Lywodraeth Cymru.

 

Esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai'r cynllun ar gael i gefnogi busnesau o fewn y sector manwerthu yng Nghymru, ac y byddai'n cael ei weithredu ar y cyd â'r Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, yn unol â'r manylion yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod rhyddhad o hyd at £2,500 ar gael ar gyfer eiddo manwerthu cymwys wedi'i feddiannu, a chanddo werth ardrethol o hyd at £50,000 ym mlwyddyn ariannol 2020-21, yn amodol ar gyfyngiadau ar gymorth gwladwriaethol. Ychwanegodd y gallai amcangyfrif o oddeutu 1000 o drethdalwyr ledled y Fwrdeistref elwa ar filiau ardrethi is o dan y cynllun hwn.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y gall y Cyngor ddewis mabwysiadu'r cynllun, ond nad oedd ganddo unrhyw ddisgresiwn dros unrhyw elfen ohono. Pe bai'r cynllun yn cael ei fabwysiadu, ychwanegodd y byddai'r busnesau hynny a wnaeth elwa ar y cynllun yn 2019-20 ac a oedd yn dal i fodloni meini prawf Llywodraeth Cymru, yn derbyn rhyddhad yn awtomatig ar gyfer 2020-21.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod hyn yn newyddion cadarnhaol i fusnesau bychain, ac roedd yn falch o weld bod yr awdurdod yn gallu dysgu yn sgil yr hyn a wnaed yn flaenorol a gwella hynny. Gobeithiai y byddai'r busnesau cymwys yn cyflwyno'r ceisiadau angenrheidiol er mwyn elwa ar y rhyddhad. Sicrhaodd yr aelodau y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yng nghyfarfod nesaf y Cyngor llawn er mwyn lledaenu ymwybyddiaeth ynghylch yr uchod.

 

PENDERFYNWYD Bod y Cabinet:

 

Yn mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig y Stryd Fawr a Manwerthu ar gyfer 2020-21, fel y manylwyd yn Atodiad A.

462.

Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth i'r Cabinet ymrwymo i gontract â Knox and Wells Ltd i ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.

 

Esboniodd mai adeilad rhestredig gradd 2 mewn ardal gadwraeth oedd Neuadd y Dref Maesteg. Yr oedd mewn man amlwg yng Nghanol Tref Maesteg ac yn ganolbwynt i'r celfyddydau ac i weithgareddau cymunedol yng Nghwm Llyfni. Byddai'r gwaith ehangu yn golygu bod modd cael mwy o gyfleusterau fel ystafelloedd hyfforddi a llyfrgell ac ati.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod yr awdurdod wedi defnyddio tîm amlddisgyblaethol i ddarparu'r dyluniad cysyniadol a'r gost ar gyfer y gwaith trwsio, adfer ac estyn arfaethedig ar Neuadd y Dref Maesteg. Roedd y tîm dylunio yn cynnwys:

 

  • The MACE Group - Rheoli prosiect ac ymgynghori ynghylch costau

 

  • Knox and Wells Ltd - Contractwyr Dylunio ac Adeiladu (wedi'u penodi ar hyn o bryd ar gyfer eu gwasanaethau dylunio proffesiynol)

 

  • Purcell Architects - Penseiri

 

  • Musker Sumner partnership - Peirianwyr Sifil

 

  • Hoare Lea - Ymgynghorwyr Mecanyddol a Thrydanol

 

 

Hyd yma mae'r tîm dylunio wedi:

 

 

  • cynnal amryw o arolygon o fewn yr adeilad

 

  • datblygu'r dyluniadau ymlaen yn unol â chanfyddiadau'r arolwg

 

  • darparu cynllun costau arfaethedig

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod Neuadd y Dref wedi cau ym mis Hydref 2019, a bod Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi gwagio'r adeilad. Oherwydd oedi wrth ddychwelyd tendrau is-gontractwyr, cafwyd ychydig oedi cyn dechrau adeiladu. Fodd bynnag, mae'r prosiect bellach wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen ymrwymo i ail gam y contract dylunio ac adeiladu, fel bo modd cychwyn gwaith adeiladu. Gwerth contract yr elfen hon fydd £6.5 miliwn o gyfanswm cost y prosiect o £8.2 miliwn a oedd wedi'i gynnwys yn adroddiad Diweddariad Rhaglen Gyfalaf Chwarter 3 a gyflwynwyd gerbron y Cabinet ar 21 Ionawr 2020, a gerbron y Cyngor i'w gymeradwyo ar 22 Ionawr 2020.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol amlinelliad i'r Aelodau o'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb a'r asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a oedd wedi'u cynnwys yn adrannau 6 a 7 o'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cynllun hwn yn fuddsoddiad hirdymor, ac er ei bod hi'n anodd cynllunio'r mathau hyn o gostau, ei fod yn fuddsoddiad gwerth chweil er mwyn diogelu adeilad pwysig am flynyddoedd i ddod. Adleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio y sylwadau hyn, ac ychwanegodd ei fod yn gynllun strategol ar gyfer canol y dref.

 

Nododd y Prif Weithredwr ei bod hi'n bosibl y ceir llawer o sylw i'r cynllun yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi'n bwysig felly sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol pa mor bwysig yw’r ymrwymiad i fuddsoddi yn yr adeilad am y tymor hir.

 

Adleisiodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y sylwadau hyn. Diolchodd i Halo ac ARWEN am eu cefnogaeth drwy gydol y broses, ac roedd yn edrych ymlaen at gael gweld y canlyniad wrth i'r gwaith ar y cyfleuster pwysig hwn gael ei gwblhau.

 

Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y byddai'r Cyngor llawn yn cymeradwyo datblygiad Neuadd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 462.

463.

Cynllun Shopmobility Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynigion i fodloni'r gofyniad i ostwng cyllideb y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn gysylltiedig â gweithredu Cynllun Shopmobility Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymuned gefndir y cynllun, a dywedodd mai CBSPO oedd yn ei weithredu ym maes parcio aml-lawr Bracla, a'i fod yn rhoi amrywiaeth o ddyfeisiau symudedd ar fenthyg i aelodau'r cyhoedd sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas. Roedd y cyfleuster ar agor rhwng 08:30 ac 17:00.

 

Er mwyn defnyddio'r cynllun, esboniodd fod angen i gwsmeriaid ymuno (yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd) a thalu ernes o £2 wrth ddefnyddio'r peiriannau. Wrth eu dychwelyd roedd cwsmeriaid wedyn yn gallu gofyn am y £2 yn ôl, ond roedd hi'n werth nodi bod mwyafrif y cwsmeriaid yn fodlon cyfrannu'r £2.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mai'r nod oedd galluogi'r cynllun i fod yn fwy hunangynhaliol a dibynnu llai ar gymhorthdal y Cyngor. Dywedodd wrth yr Aelodau fod costau cyfredol y cynllun wedi'u hamlinellu yn 4.2 yn yr adroddiad. Yr oedd amryw o newidiadau wedi'u cynnig i'r cynllun, a amlinellwyd yn 4.7 yn yr adroddiad. Ceir crynodeb ohonynt isod:

 

  • Newid yr amser agor o 08:30am - 5pm i 10am - 4pm
  • Cyflwyno ffi gofrestru flynyddol o £5
  • Cyflwyno ffi o £5 wrth logi cyfarpar
  • Gwneud cais am Gyllid Grant

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod proses ymgynghori wedi'i chynnal lle'r oedd 48% o'r ymatebwyr o blaid archwilio opsiynau codi tâl am y gwasanaeth Shopmobility. Fodd bynnag, dywedodd fod 39% o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r ffi llogi o £5 ac yn teimlo y byddai'n anfforddiadwy i'r mwyafrif o ddefnyddwyr. O ran yr amseroedd agor, nid oedd 80% o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r cais hwnnw, ond yn 20% o'r ymatebion nodwyd y gallai hyn effeithio naill ai ar y gallu i siopa'n gynnar neu ar apwyntiadau meddygol.

 

Ychwanegodd fod y safbwyntiau wedi cael eu hystyried a chynigion diwygiedig wedi'u cyflwyno yn eu sgil, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

  • Diwygio'r cynnig i newid yr amseroedd agor i 10am tan 4pm, er mwyn agor o 9:15am tan 4pm, gan leihau'r amser gweithredol o 51 awr i 40.5 awr. 
  • Newid y ffi a gynigiwyd o £5 i £3. Ar sail defnydd 2018-19, byddai hyn yn creu cyfraniad ariannol o £12,168.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad, a dywedodd fod yr ymgynghoriad wedi bod yn gadarnhaol ac wedi cynnwys llawer o safbwyntiau.  Adleisiodd yr Aelod Cabinet Cymunedau bwynt yr Arweinydd, a dywedodd fod y cynigion terfynol yn dangos ein bod yn gwrando ar y cyhoedd, yn gwerthfawrogi eu barn ac yn rhoi ystyriaeth i'w safbwyntiau.

 

Roedd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cytuno â'r pwyntiau hyn ac yn falch o weld ystyriaeth o safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth yn yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb.

 

Gofynnodd i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am eglurhad ynghylch lefel y defnydd am ei bod hi'n ymddangos fel pe bai'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 463.

464.

Lleoliadau Profiad Gwaith i Weithwyr sydd yn Gadael y Lluoedd Arfog pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet ynghylch cyflwyno Cynllun Lleoliad Profiad Gwaith i weithwyr sy'n gadael y Lluoedd Arfog yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.

 

Esboniodd fod Cynllun Gwarantu Cyfweliad wedi cael ei gyflwyno'n ddiweddar, a sefydlwyd er mwyn rhoi sicrwydd o gyfweliad i rai sy'n gadael y Lluoedd Arfog. Byddai'r Cynllun Lleoliad Profiad Gwaith yn gweithredu ochr yn ochr â Rhaglen Profiad Gwaith CBSPO sydd wedi'i hen sefydlu, a oedd yn cynnig lleoliadau i unigolion o ystod eang o oedrannau a chefndiroedd.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y goblygiadau a oedd yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r modd yr oedd y Cynllun Lleoliad Profiad Gwaith yn cyfrannu at y nodau llesiant. Amlinellodd y pum ffordd o weithio a ystyriwyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau i'r Prif Weithredwr am yr adroddiad, ac fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, roedd yn croesawu'r cynllun hwn. Esboniodd fod cyn-filwyr yn aml yn ei chael hi'n anodd ymaddasu ar ôl gadael y lluoedd arfog, a dychwelyd i fyw mewn amgylchedd dinesig.

 

Ychwanegodd fod y cynllun yn gam cadarnhaol er mwyn cyflwyno llywodraeth leol i gr?p gwahanol o bobl a chanddynt sgiliau gwahanol i'w cynnig. Yr oedd yn falch mai CBSPO fyddai'r llywodraeth leol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno menter fel hon.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at dystiolaeth frawychus yn gysylltiedig â'r rhai a oedd yn gadael y lluoedd arfog, gan ddweud bod iselder, digartrefedd a hunanladdiad yn llawer rhy gyffredin. Yr oedd yn falch ganddo gael gweld CBSPO yn darparu'r cynllun er mwyn cefnogi cyn-filwyr wrth iddynt adael y lluoedd arfog. Gofynnodd a ellid rhannu'r cynllun hwn â'r holl gategorïau a oedd yn rhan o'r lluoedd arfog, fel eu bod yn ymwybodol o gynigion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet:

 

  • Yn nodi bod cynllun lleoliad profiad gwaith yn cael ei weithredu ar gyfer gwethwyr sydd ar fin gadael y Lluoedd Arfog.

 

 

465.

Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i gyrff llywodraethu'r ysgolion a restrwyd yn yr adroddiad, ac i hysbysu'r Cabinet nad oedd penodiad llywodraethwr awdurdod lleol blaenorol wedi mynd rhagddo.

 

Esboniodd fod cyfanswm o 7 swydd wag, a bod 7 ymgeisydd wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer llywodraethwyr awdurdod lleol. Dyma'r penodiadau a argymhellwyd:

 

 

Enw

Ysgol

Cyng. David Unwin

Ysgol Brynteg

Mrs Cheryll Board

Ysgol Gyfun Pencoed

Cyng. Sean Aspey

Ysgol Gyfun Porthcawl

Mrs Amanda Williams

Ysgol Gynradd Bracla

Mr Christopher Davies

Ysgol Iau Llangewydd

Mr Gary Chappell

Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Mrs Janet Jones

Ysgol Gynradd y Drenewydd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ychwanegodd fod atodiad A yr adroddiad yn cynnwys manylion y 25 o swyddi gwag eraill yr oedd angen eu llenwi mewn 17 o ysgolion.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr Aelodau, yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Medi 2019, wedi cymeradwyo penodi llywodraethwr lleol i gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Notais. Fodd bynnag, nodwyd yn ddiweddarach nad oedd swydd wag i lywodraethwr yr awdurdod lleol ar y pryd, a bod y swydd wag wedi'i hysbysebu ar ddamwain. Dywedodd fod y sawl a benodwyd wedi cael gwybod am hynny, a bod y tîm bellach yn ymchwilio ymhellach i'r mater.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio i'r gwirfoddolwyr a oedd wedi'u cynnig eu hunain am y swyddi, a gofynnodd a ellid hysbysebu'r swyddi gwag a oedd yn weddill ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd nad oedd angen i Gynghorwyr lenwi'r swyddi, ond y gallai aelodau o'r cyhoedd a oedd yn barod i wasanaethu'r gymuned hefyd ymgeisio.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  1. Yn cymeradwyo'r penodiadau a restrwyd ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

Yn nodi'r wybodaeth a amlinellwyd yn 4.3 yn yr adroddiad.

466.

Adroddiadau i'w Nodi er Gwybodaeth pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad i hysbysu'r Cabinet am adroddiad i'w nodi er gwybodaeth a oedd wedi'i gyhoeddi ers ei gyfarfod diwethaf.

 

Rhoddodd amlinelliad o'r adroddiad ar Adroddiad Rheoli Trysorlys - Chwarter 3 2019-20, a gyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2020.

 

Dywedodd fod y ddogfen wedi cael ei rhannu'n electronig ag Aelodau Etholedig drwy e-bost, a'i gosod ar wefan CBSPO.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn nodi'r adroddiad.

467.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

468.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol, gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth esempt fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 ac/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, oherwydd ystyriwyd yn yr holl amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â'r eitem, fod y budd i'r cyhoedd yn sgil cynnal yr esemptiad yn gorbwyso'r budd i'r cyhoedd yn sgil datgelu'r wybodaeth, oherwydd byddai'r wybodaeth yn niweidiol i'r ymgeiswyr y cyfeirid atynt.

469.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Band B

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z