Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1/2/3, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr

Cyswllt: Mark Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

470.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

471.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft 2020-21 i 2022-23 a'r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb y Cyngor (BREP) adroddiad ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC). Diben yr adroddiad oedd cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i’r Cabinet, mewn perthynas â:

 

·         Canfyddiadau BREP oedd wedi eu hamgáu yn Atodiad A ac Atodiad B i’r adroddiad.

·         Ymatebion yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â chynigion cyllideb drafft y Cabinet, oedd wedi eu hamgáu yn Atodiad C.

 

Fel gwybodaeth gefndir, esboniodd fod Aelodau BREP, wrth ystyried yr heriau cysylltiedig â’r gostyngiadau parhaus yn y gyllideb, yn cydnabod yr angen i fabwysiadu ymateb y ‘Cyngor cyfan’ wrth reoli’r toriadau disgwyliedig mewn gwasanaethau, yn erbyn cefndir o alw cynyddol a’r rhagolwg ariannol heriol.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cadarnhau rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) a BREP yn yr ystyr mai gan y ddau gorff yma y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol am fonitro’r gyllideb drwy gydol y flwyddyn.

 

Roedd cylch gorchwyl BREP wedi ei amlinellu ym mharagraff 4 yr adroddiad.

 

Aeth ymlaen i ddweud y byddai COSC yn  ystyried canfyddiadau BREP a phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 4 Chwefror 2020, er mwyn penderfynu a ddylid anfon yr argymhellion ymlaen i’r Cabinet fel rhan o broses ymgynghori’r gyllideb. Rhannwyd y rhain i’r Atodiadau y cyfeiriwyd atynt uchod oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Wedyn rhoddodd Cadeirydd BREP grynodeb o beth o’r wybodaeth allweddol oedd wedi ei chynnwys yn yr Atodiadau i’r adroddiad, ac yn dilyn hynny, gwahoddodd yr Arweinydd unrhyw sylwadau neu gwestiynau gan aelodau'r Cabinet.

 

Mynegodd yr Is-arweinydd ei ddiolch i BREP, holl aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r adran Graffu am eu gwaith caled yn sicrhau bod cynigion cysylltiedig â Strategaeth Gyllido Tymor Canol y Cyngor wedi cael eu rhannu, eu hystyried a’u harchwilio. Roedd yn cydnabod y ffaith fod Craffu yn yr Awdurdod yn drawsbleidiol ac felly, bod unrhyw sylwadau oedd yn cael eu bwydo’n ôl i’r Cabinet ar y gyllideb yn ffurfio ‘Dull Un Cyngor’. Câi argymhellion yr adran Graffu eu harchwilio gan y Cabinet gyda chymorth y Bwrdd Rheoli Corfforaethol a cheid ymateb ffurfiol iddynt fel rhan o’r brif adroddiad Strategaeth Gyllido Tymor Canol a gâi ei ystyried gan y Cabinet ac wedyn ei benderfynu gan y Cyngor llawn. Roedd hefyd yn canmol y ffordd drylwyr y craffwyd ar gynigion cyllideb y Cyngor, a gydnabuwyd yn gadarnhaol fel ‘arfer gorau’ gan reoleiddwyr y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at Argymhelliad 2 yn Atodiad A i’r adroddiad, lle y ceid y sylw ‘bod angen gwneud gwaith pellach i dorri’r dull seilo o gyllidebu’. Ei deimlad ef oedd bod y Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf wedi torri i ffwrdd oddi wrth y dull ‘seilo’.

 

Roedd Cadeirydd BREP yn cydnabod hyn a’r ffaith fod y Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf wedi gwella yn y maes hwn, wrth i’r gweithlu deneuo mewn ymateb i doriadau mewn setliadau. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod BREP a rhai Aelodau eraill o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn teimlo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 471.

472.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z