Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 12fed Chwefror, 2019 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

308.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

309.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 246 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/01/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 22 Ionawr 2019 fel cofnod gwir a chywir.

 

310.

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 Wedi'i adolygu ar gyfer 2019-20 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Swyddog Gweithredol Dros Dro am gymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-22 ar gyfer 2019-20 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Dywedodd wrth y Cabinet fod gan y Cyngor ddyletswydd i osod amcanion lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i osod amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol presennol sy'n cynnwys 2018-22 yn nodi tri amcan llesiant corfforaethol a'i fod wedi'i adolygu ar gyfer 2019-20.   Wrth adolygu'r Cynllun, mae'r Cyngor wedi datblygu ei amcanion llesiant ymhellach a'r blaenoriaethau hyn, wrth gael eu cymeradwyo, fydd amcanion llesiant y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Dros Dro fod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar 14 Ionawr wedi ystyried y cynllun drafft a ddiwygiwyd a'i fod wedi gwneud cyfres o sylwadau adeiladol o ran newidiadau a chynnwys.  Cafodd y sylwadau eu hystyried a, lle bynnag y bo'n ddichonol, roedd newidiadau priodol wedi'u gwneud i'r Cynllun drafft.  Dywedodd wrth y Cabinet y caiff y Cynllun ei adolygu'n flynyddol, gan ystyried amgylchiadau newidiol a'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion lles i sicrhau y bodlonnir gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddft Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Pan gaiff ei gymeradwyo, bydd y Cynllun yn disodli'r Cynllun Corfforaethol presennol a chaiff ei atgyfnerthu gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cynlluniau busnes y Gyfarwyddiaeth a chynlluniau gwasanaeth.

 

Cofnododd yr Arweinydd ei ddiolch i'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu a oedd wedi bod yn drylwyr iawn yn ei waith craffu ar y Cynllun Corfforaethol ac a oedd wedi cyfrannu at y Cynllun diwygiedig.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod y Cynllun Corfforaethol a ddiwygiwyd wedi'i osod yn glir a'i fod yn hawdd i'w ddilyn a gofynnodd i'r wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys yn y Cynllun:

 

  • Rhagor o wybodaeth am gartrefi a mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i atal digartrefedd ac yn benodol, nifer yr hosteli a'r arwynebedd llawr sydd ar gael
  • Dangosydd ynghylch canran yr aelwydydd a oedd wedi'u eu hatal yn llwyddiannus rhag digartrefedd
  • Eglurder ynghylch nifer y pyllau nofio a chanolfannau bywyd yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod strategaeth ddrafft ar leihau a lliniaru nifer yr achosion o ddigartrefedd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a fyddai'n cael ei gynnwys yn y Cynllun.  Anogodd pob Aelod i gysylltu â swyddogion i leisio barn ar y Cynllun diwygiedig i sicrhau ei fod yn cynrychioli'r holl Aelodau.  Dywedodd fod ymrwymiad yn y Cynllun i ddatblygu canolfan chwaraeon d?r ym Mhorthcawl i'w gwella fel cyrchfan i dwristiaid, ailddatblygu Neuadd Tref Maesteg yn ganolfan celfyddydol a diwylliannol a'r buddsoddiad parhaus yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band B.

 

PENDERFYNWYD: y byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2018-22, wedi'i adolygu ar gyfer 2019-20, yn amodol ar y newidiadau a restrir isod, a'i gyflwyno i'r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ar 20  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 310.

311.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2019-23, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29.

 

Dywedodd wrth y Cabinet fod y SATC wedi'i llywio'n sylweddol gan flaenoriaethau'r Cyngor ac er bod lleihad o flwyddyn i flwyddyn o ran Cyllid Allanol Cyfun (AEF) wedi golygu y bu lleihad cyllidebol sylweddol ar draws meysydd gwasanaeth, mae'r Cyngor yn parhau i chwarae rôl sylweddol iawn yn yr economi leol, a'i fod yn gyfrifol am wariant blynyddol gros o oddeutu £4 miliwn ac mai'r Cyngor oedd y cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ochr yn ochr â'r SATC 2019-23.  Roedd y ddwy ddogfen wedi'u halinio i'w gilydd, gan alluogi cysylltiadau amlwg rhwng blaenoriaethau'r Cyngor a'r adnoddau sy'n cael eu cyfeirio i'w cefnogi.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y SATC yn amlinellu'r egwyddorion a'r tybiaethau manwl sy'n sail i gyllideb a phenderfyniadau gwario'r Cyngor, y cyd-destun ariannol y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddo a lliniaru unrhyw risgiau ariannol phwysau yn y dyfodol, wrth fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi ar yr un pryd.

 

Darparodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro Drosolwg Ariannol Corfforaethol i'r Cabinet, gan nodi y bydd cyllideb gros y Cyngor oddeutu £420m tra bydd y gyllideb refeniw net a gynllunnir ar gyfer 2019-20 yn £270.809m.    Dywedodd fod oddeutu £180m o'r gwariant hyn yn cael ei wario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cefnogi mewn ysgolion.  Roedd llawer o gost y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol hefyd yn berthnasol o ran cyflogau, gan gynnwys gweithwyr casglu sbwriel, gweithwyr gofal preswyl, staff hamdden a gofalwyr maeth.  Mae'r Cyngor hefyd yn wynebu incwm llai i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig.  Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy'n amlinelli'r ymagweddau y bydd yn eu cymryd i reoli'r pwysau hyn wrth barhau i sicrhau, cyhyd ag y bo'n bosib, y gellir darparu gwasnaethau sy'n diwallu anghenion y gymuned.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet fod y Cyngor yn bwriadu gwario £111m ar wasanaethau a ddarperir gan Addysg yn 2019-20, gan gefnogi 22,792 o ddisgyblion.  Gwariant ar ysgolion yw'r maes unigol mwyaf o ran gwariant yn y Cyngor.  Ac eithrio Addysg, maes gwariant mwyaf y Cyngor yw Gofal Cymdeithasol, gwasanaethau Cymorth Cynnar a Digartrefedd, sydd â chyfanswm cyllideb o £73m, sef 27% o gyllideb refeniw net y Cyngor.  O hyn, mae'r Cyngor yn cynnig gwario £71m ar wasanaethau gofal cymdeithasol a lles.  Dywedodd fod gan waith y Cyngor yn y maes cyhoeddus effaith fwy uniongyrchol a gweladwy yn y gymuned, a bod y Cyngor yn cynllunio gwario £19.5m ar y gwasanaethau hyn.  Un o flaenoriaethau'r Cyngor yw Cefnogi'r Economi a bydd y Cyngor yn gweithio fwyfwy mewn modd cydweithredol gyda'r naw cyngor sy'n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Rhanbarth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 311.

312.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.