Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services - Committee
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Y Cynghorydd Phil White |
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cynnig i Addasu Ardal Gwella Busnes Pen-y-bont ar Ogwr PDF 3 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cabinet i;
1) Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r trefniadau ariannol a nodir ynddo. 2) Dirprwyo awdurdod i arweinydd y cyngor i fwrw pleidleisiau'r Cyngor ym Mhleidlais yr AGB. Roedd yr adroddiad yn argymell i’r awdurdod gytuno i bleidleisio o blaid y bleidlais ddiwygio. 3) Pe bai pleidlais lwyddiannus i ddiwygio’r AGB, i ddirprwyo awdurdod i'r prif swyddogion perthnasol i gymeradwyo, i gwblhau, ac i weithredu telerau'r weithred i amrywio'r cytundeb gwasanaethau sylfaenol a'r cytundeb gweithredu gyda Chwmni'r AGB.
Nododd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Cabinet ym mis Mai a Mehefin 2016 a oedd yn manylu ar y broses o sefydlu Ardal Gwella Busnes (AGB) Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ardal CF31. Yn sgil pleidlais o blaid, sefydlwyd yr AGB a Chwmni Ardal Gwella Busnes CF31 Cyf ("Cwmni'r AGB") i reoli’r AGB, ac maent wedi bod yn weithredol ers 1 Hydref 2016.
Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod y ddogfen Adnewyddu'r Cais sydd o fewn yr adroddiad wedi cael ei hanfon at berchnogion y hereditamentau a’i bod yn cynnwys manylion am y newidiadau arfaethedig i'r AGB. Roedd y newidiadau arfaethedig fel a ganlyn;
Rhoddodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol eglurhad o amserlen y Bleidlais, a oedd yn amlinellu'r Weithred, y Gofynion Rheoleiddio a’r Bleidlais Ddiwygio. Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol beth oedd y goblygiadau ariannol i'r Cyngor dros gyfnod o 5 mlynedd fel talwyr ardrethi busnes, gan y byddai gan y Cyngor chwe eiddo o fewn ardal yr AGB arfaethedig pe byddai pleidlais o blaid.
Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei gefnogaeth i'r cynigion i ddiwygio'r AGB, a diolchodd i'r Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Eglurodd mai menter masnachwr tref oedd yr AGB yn hytrach na phrosiect y Cyngor. Dywedodd hefyd ei fod yn fodlon â’r tymor arfaethedig o 5 mlynedd, yn hytrach na'r tymor presennol o 3 blynedd, gan mai 5 mlynedd yw’r hyd safonol ar gyfer AGB.
Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod yr AGB yn helpu i ddarparu gwasanaethau anstatudol, rhai nad oedd modd eu darparu yng nghanol y dref am flynyddoedd lawer, ac ychwanegodd y byddai busnesau nad oeddent yn rhan o'r AGB yn debygol o elwa ohono.
Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn falch fod busnesau wedi ymgysylltu’n gadarnhaol, a’i fod yn dangos eu brwdfrydedd dros wella canol y dref, a chynigiodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 401. |