Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services - Committee

Eitemau
Rhif Eitem

399.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Phil White

400.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

401.

Cynnig i Addasu Ardal Gwella Busnes Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cabinet i;

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r trefniadau ariannol a nodir ynddo.

2)    Dirprwyo awdurdod i arweinydd y cyngor i fwrw pleidleisiau'r Cyngor ym Mhleidlais yr AGB. Roedd yr adroddiad yn argymell i’r awdurdod gytuno i bleidleisio o blaid y bleidlais ddiwygio.

3)    Pe bai pleidlais lwyddiannus i ddiwygio’r AGB, i ddirprwyo awdurdod i'r prif swyddogion perthnasol i gymeradwyo, i gwblhau, ac i weithredu telerau'r weithred i amrywio'r cytundeb gwasanaethau sylfaenol a'r cytundeb gweithredu gyda Chwmni'r AGB.

 

Nododd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Cabinet ym mis Mai a Mehefin 2016 a oedd yn manylu ar y broses o sefydlu Ardal Gwella Busnes (AGB) Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ardal CF31. Yn sgil pleidlais o blaid, sefydlwyd yr AGB a Chwmni Ardal Gwella Busnes CF31 Cyf ("Cwmni'r AGB") i reoli’r AGB, ac maent wedi bod yn weithredol ers 1 Hydref 2016. 

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod y ddogfen Adnewyddu'r Cais sydd o fewn yr adroddiad wedi cael ei hanfon at berchnogion y hereditamentau a’i bod yn cynnwys manylion am y newidiadau arfaethedig i'r AGB. Roedd y newidiadau arfaethedig fel a ganlyn;

 

  • Ffin -  Ail-lunio ffin yr AGB, mae map o'r ffin fel y byddai pe derbynnir y cynigion i addasu i’w weld yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn. Byddai hyn yn ychwanegu 12 hereditament arall i'r ardal.

 

  • Gwerth ardrethol – Newid gwerth ardrethol yr hereditamentau o fewn y ffin o £6,000 i £5,000.

 

  • Cynyddu’r taliad Ardoll o 1.25% i 1.5%.

 

  • Bydd y tymor AGB arfaethedig yn bum mlynedd, o 1 Hydref 2019 hyd at 30 Medi 2024.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol eglurhad o amserlen y Bleidlais, a oedd yn amlinellu'r Weithred, y Gofynion Rheoleiddio a’r Bleidlais Ddiwygio.    Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol beth oedd y goblygiadau ariannol i'r Cyngor dros gyfnod o 5 mlynedd fel talwyr ardrethi busnes, gan y byddai gan y Cyngor chwe eiddo o fewn ardal yr AGB arfaethedig pe byddai pleidlais o blaid.  

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei gefnogaeth i'r cynigion i ddiwygio'r AGB, a diolchodd i'r Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Eglurodd mai menter masnachwr tref oedd yr AGB yn hytrach na phrosiect y Cyngor. Dywedodd hefyd ei fod yn fodlon â’r tymor arfaethedig o 5 mlynedd, yn hytrach na'r tymor presennol o 3 blynedd, gan mai 5 mlynedd yw’r hyd safonol ar gyfer AGB.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod yr AGB yn helpu i ddarparu gwasanaethau anstatudol, rhai nad oedd modd eu darparu yng nghanol y dref am flynyddoedd lawer, ac ychwanegodd y byddai busnesau nad oeddent yn rhan o'r AGB yn debygol o elwa ohono.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn falch fod busnesau wedi ymgysylltu’n gadarnhaol, a’i fod yn dangos eu brwdfrydedd dros wella canol y dref, a chynigiodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 401.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z