Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 25ain Chwefror, 2020 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services Section 

Eitemau
Rhif Eitem

473.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd HJ David – buddiant personol ag eitem rhif 7 ar yr agenda – Trosglwyddo Asedau Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau fel Llywydd Clwb Bowls Cefn Cribwr Athletic, Aelod o Glwb Cefn Cribwr Athletic a Chymdeithas Gymunedol Cefn Cribwr, sy’n sefydliadau y gallai asedau gael eu trosglwyddo iddynt.

 

Y Cynghorydd CE Smith - buddiant personol ag eitem rhif 7 ar yr agenda – Trosglwyddo Asedau Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau fel aelod o Gyngor Cymuned Trelales sydd wedi mynegi diddordeb mewn proses Trosglwyddo Ased Cymunedol ar gyfer Parc a Phafiliwn Bryntirion.

 

Y Cynghorydd D Patel - buddiant personol ag eitem rhif 7 ar yr agenda – Trosglwyddo Asedau Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau fel aelod o Gyngor Cymuned Dyffryn Ogwr sy’n sefydliad y gallai asedau gael eu trosglwyddo iddo.

 

Y Cynghorydd PJ White - buddiant personol ag eitem rhif 7 ar yr agenda – Trosglwyddo Asedau Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau fel aelod o Gyngor Tref Maesteg sy’n sefydliad y gallai asedau gael eu trosglwyddo iddo.       

474.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 79 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/01/2020 a 21/01/2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Y dylai cofnodion cyfarfodydd y Cabinet ar 14 a 21 Ionawr 2020 gael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

475.

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 a Adolygwyd ar gyfer 2020-21 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Swyddog Adran 151 Interim yn ceisio cefnogaeth i Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-22 a adolygwyd ar gyfer 2020-21 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod y Cynllun Corfforaethol 2018-2022 yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, y tri amcan llesiant a’r gwerthoedd ac egwyddorion sefydliadol sy’n tanategu’r modd y bydd y Cyngor yn gweithio i gyflawni ei flaenoriaethau. Wrth adolygu’r Cynllun, mae’r Cyngor wedi datblygu ei amcanion llesiant ymhellach a’r blaenoriaethau hyn, unwaith y byddant wedi’u cymeradwyo, fydd amcanion llesiant y Cyngor dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i amcanion gwella dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr Interim fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 13 Chwefror 2020 wedi ystyried y cynllun drafft diwygiedig ac wedi gwneud cyfres o sylwadau adeiladol ar gyfer pethau i’w diwygio a’u cynnwys. Mae’r sylwadau wedi cael eu hystyried a lle bynnag y bo’n ddichonadwy, mae diwygiadau priodol wedi cael eu gwneud i’r Cynllun drafft. Rhoddodd wybod i’r Cabinet y bydd y Cynllun yn cael ei ddiwygio’n flynyddol gan ystyried amgylchiadau newidiol a chynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion llesiant i sicrhau bod gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu hateb. Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo, bydd y Cynllun yn disodli’r Cynllun Corfforaethol cyfredol ac yn cael ei ategu gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cynlluniau busnes Cyfarwyddiaethau a chynlluniau gwasanaethau. 

 

Cofnododd yr Arweinydd ei ddiolch i’r swyddogion a oedd wedi cyfrannu at y Cynllun ac i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a oedd wedi bod yn drylwyr iawn wrth graffu ar y Cynllun Corfforaethol ac wedi cyfrannu at y Cynllun diwygiedig. Dywedodd mai un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol ym mis Ebrill 2019 fu trosglwyddo’r holl wasanaethau iechyd yn y Fwrdeistref Sirol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a oedd wedi cael ei adlewyrchu yn y rhagair i’r Cynllun Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD: Y dylai’r Cabinet gefnogi’r Cynllun Corfforaethol 2018-2022 a adolygwyd ar gyfer 2020-21 ac argymell bod y Cyngor yn ei gymeradwyo ar 26 Chwefror 2020.

476.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) 2020-21 i 2023-24 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Interim y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2020-24, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2020-21 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2019-20 i 2029-30.   

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod y SATC wedi cael ei harwain yn sylweddol gan amcanion llesiant y Cyngor ac, er bod gostyngiadau o un flwyddyn i’r llall mewn Cyllid Allanol Cyfanredol (CAC) wedi cael eu gwneud yn flaenorol a hynny wedi ei gwneud yn angenrheidiol gostwng cyllidebau ar draws meysydd gwasanaeth, bod y Cyngor yn dal i fod â rôl arwyddocaol iawn yn yr economi leol, ac yntau’n gyfrifol am wariant gros blynyddol o oddeutu £420M, ac yn dal i fod y cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet bod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo ochr yn ochr â’r SATC 2020-24, sy’n cynnwys rhagor o amcanion llesiant yr ailbennwyd eu ffocws a bod y ddwy ddogfen yn gyson â’i gilydd, gan ei gwneud yn bosibl gwneud cysylltiadau eglur rhwng blaenoriaethau’r Cyngor a’r adnoddau a gaiff eu cyfeirio i’w hategu. 

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim Drosolwg Ariannol Corfforaethol i’r Cabinet a thros y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r Cyngor wedi gwneud gwerth £68M o ostyngiadau yn y gyllideb. Tua £420m fydd cyllideb gros y Cyngor tra bo’r gyllideb refeniw net sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2020-21 yn £286.885M. Dywedodd fod tua £175M o’r gyllideb hon yn cael ei gwario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cymorth ysgolion. Mae cryn dipyn o gost gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol yn gysylltiedig â chyflogau hefyd, gan gynnwys gweithredwyr casglu gwastraff, gweithwyr gofal cartref, staff hamdden a gofalwyr maeth. Mae’r Cyngor yn wynebu bod â llai o incwm i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig. Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy’n nodi’r dulliau y bydd yn eu defnyddio i reoli’r pwysau hyn gan barhau i sicrhau, hyd y bo modd, y gellir darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y gymuned.    

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet bod y Cyngor yn cynnig gwario £121m ar wasanaethau a ddarperir gan yr adran Addysg yn 2020-21, gan gefnogi 59 o ysgolion ac un uned cyfeirio disgyblion. Gwariant ar ysgolion yw’r un maes gwariant mwyaf yn y Cyngor. Ar ôl Addysg, y maes y mae’r Cyngor yn gwario’r mwyaf o arian arno yw Gofal Cymdeithasol, sy’n cynnwys gofal cymdeithasol i blant ac i oedolion sy’n agored i niwed neu’n wynebu risg, ac mae’r Cyngor yn cynnig gwario £71m ar wasanaethau gofal cymdeithasol a llesiant. Dywedodd fod gwaith y Cyngor ar dir y cyhoedd yn cael effaith fwy uniongyrchol a gweladwy yn y gymuned, gyda’r Cyngor yn cynnig gwario £21.8m ar y gwasanaethau hyn. Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw Cefnogi’r Economi a bydd y Cyngor yn cydweithio’n fwyfwy gyda’r naw cyngor arall sy’n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n creu cronfa £1.2 biliwn i fuddsoddi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 476.

477.

Y Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Strategaeth Gyfalaf o 2020-21 Ymlaen pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys a’r Strategaeth Gyfalaf 2020-21 i 2029-30, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus cyn eu cyflwyno i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Interim fod rheoli trysorlys a rheolaeth ar wariant cyfalaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth, a bod ei weithgareddau rheoli trysorlys yn cael eu rheoleiddio gan ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r pwerau i fenthyca a buddsoddi yn ogystal â darparu rheolaethau a therfynau ar y gweithgarwch hwn. Rhaid i weithgarwch benthyca roi sylw i God Darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol a rhaid gweithredu’r swyddogaeth drysorlys ar y cyfan gan roi sylw i God Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer y rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a beth ddylid ei drin fel gwariant cyfalaf. Dywedodd fod y Cod Darbodus diwygiedig yn gosod gofyniad newydd ar awdurdodau lleol o 1 Ebrill 2019 i bennu Strategaeth Gyfalaf. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus ac mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys.

 

Hysbysodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim fod y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21 yn cadarnhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus a hefyd yn cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i roi sylw i God CIPFA a Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Strategaeth integredig yw’r Strategaeth Rheoli Trysorlys lle caiff benthyciadau a buddsoddiadau eu rheoli yn unol ag arfer proffesiynol gorau. Dywedodd fod y Cyngor yn benthyca arian naill ai i ddiwallu anghenion llif arian byrdymor neu i ariannu cynlluniau cyfalaf o fewn y rhaglen gyfalaf ond nad yw benthyciadau a gymerir yn gysylltiedig ag asedau penodol. Roedd y Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi cael ei hystyried a’i hadolygu’n drylwyr gan y Pwyllgor Archwilio. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim fod y Strategaeth Gyfalaf 2020-21 i 2029-30 wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 13 Chwefror 2020 er gwybodaeth. Mae’n cadarnhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn nodi fframwaith ar gyfer hunanreoli cyllid cyfalaf ac yn archwilio’r meysydd canlynol:

 

· Cynlluniau gwariant a buddsoddi cyfalaf

· Dangosyddion Darbodus

· Dyled allanol

· Rheoli Trysorlys

 

Mae’n adrodd ar gyflawni, fforddiadwyedd a risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau yngl?n â gwariant a buddsoddi cyfalaf. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn gysylltiedig â’r Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Rheoli Trysorlys, y SATC a’r Cynllun Rheoli Asedau. Mae’r Cyngor yn cynllunio gwariant cyfalaf o £56.434m yn 2020-21, ac amlygodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim y ffynonellau y byddai’n cael ei ariannu ohonynt.    

 

Fe grynhodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim y sefyllfa o ran buddsoddi a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 477.

478.

Trosglwyddo Asedau Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Pharciau a Phafiliynau pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol ddiweddariad ar y prosesau trosglwyddo asedau cymunedol ar gyfer meysydd chwarae a phafiliynau parciau i Gynghorau Tref a Chymuned a/neu glybiau chwaraeon dan drefniadau hunanreoli. Adroddodd hefyd ar gynigion i roi cymorth i wella a datblygu meysydd chwarae a phafiliynau parciau ar ôl eu trosglwyddo i sicrhau bod cyfleusterau’n dod yn fwy cynaliadwy. Roedd y mesurau a nodwyd wedi’u bwriadu hefyd i ysgogi Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor a sicrhau bod disgwyliadau clybiau chwaraeon yn cael eu rheoli’n briodol a bod trosglwyddiadau’n mynd rhagddynt ac yn cael eu cwblhau mewn modd amserol i ategu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

 

Adroddodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol fod y setliad dros dro ar gyfer y Cyngor yn dangos cynnydd ar y cyfan o 4.7% yn y gyllideb, o’i gymharu â’r dybiaeth “fwyaf tebygol” o -1.5% a oedd wedi’i chynnwys yn SATC wreiddiol y Cyngor ar gyfer 2020-21. Dywedodd nad oedd y setliad dros dro’n cydnabod nifer o bwysau newydd a wynebir gan y Cyngor; fodd bynnag, roedd yn gyfle i arbedion a oedd wedi’u hadnabod yn flaenorol yn y SATC gael eu hailystyried yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor. Dywedodd hefyd fod yr arbediad yn y SATC Derfynol o £300,000 ar gyfer meysydd chwarae a pharciau wedi cael ei ohirio tan flwyddyn ariannol 2021-22 i adlewyrchu lefel y gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol parhaus gan roi rhagor o amser i glybiau chwaraeon a’r Cyngor gwblhau trosglwyddiadau mewn modd trefnus; ac i alluogi’r Cyngor i ymgysylltu’n fwy effeithiol â chyrff llywodraethu chwaraeon a lle y bo’n bosibl datblygu strategaethau ar y cyd a mwy o waith mewn partneriaeth. Hysbysodd y Cabinet fod cyfarfodydd cadarnhaol cychwynnol eisoes wedi cael eu cynnal gydag Undeb Rygbi Cymru (URC), Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Criced Cymru.

 

Adroddodd hefyd y byddai angen i’r sefyllfa y tu hwnt i fis Ebrill 2021 gael ei hailasesu gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2020 i ystyried y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 a lefel y gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn enwedig nifer y trosglwyddiadau a gwblhawyd. Dywedodd fod lefel gyfredol y diddordeb mewn Trosglwyddo Asedau Cymunedol o du’r Cynghorau Tref a Chymuned a chlybiau chwaraeon lleol, y nifer fwy o adnoddau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu rhoi ar waith i gefnogi prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol, y ddeialog gadarnhaol gyda’r Cyrff Llywodraethu perthnasol, a’r pecynnau cymorth estynedig sydd bellach yn eu lle, yn golygu y bydd prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cyflymu’n sylweddol dros y flwyddyn nesaf. Amlygodd lefel y gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar 31 Ionawr 2020 a’r cynnydd o ran prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chlybiau chwaraeon.

 

Adroddodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol fod cynigion ar gyfer adnoddau staffio ychwanegol wedi cael eu nodi mewn achos busnes a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn fuan a bod cyllid ychwanegol wedi cael ei adnabod a’i glustnodi dros dro yn y Gronfa Rheoli Newid i gefnogi’r cais hwn am ragor o adnoddau a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 478.

479.

Cynnig i Dreialu’r Fenter Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC) pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar opsiynau i fwrw ymlaen â chynllun peilot Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC) Llywodraeth Cymru a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo’r opsiwn yr oedd yn ei ffafrio. Nododd y sefyllfa gyfredol o ran darpariaeth blynyddoedd cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn ymrwymiad i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed i rieni sy’n gweithio sy’n gymwys ar gyfer y ddarpariaeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn (39 wythnos o ddarpariaeth yn ystod y tymor ysgol a 9 wythnos y flwyddyn yn ystod gwyliau ysgol).    

 

Adroddodd mai dull newydd sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yw AGPC sydd wedi’i fwriadu i ddatblygu gweledigaeth holistaidd ar gyfer addysg a gofal plant i gefnogi plant yn eu blynyddoedd cynnar. Byddai treialu dull AGPC yn datblygu dealltwriaeth am yr heriau a’r cyfleoedd y gallai’r newid hwn eu dwyn a chanolbwyntio ar ddileu rhwystrau sy’n bodoli rhwng addysg a gofal i sicrhau bod unrhyw leoliad, boed yn ysgol neu’n lleoliad gofal plant preifat/gwirfoddol, yn gallu cynnig darpariaeth AGPC. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn cael cyllid ar gyfer y cynllun peilot AGPC; byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg ar gyfer ‘plant sy’n codi’n 4’; mae’r holl leoliadau sy’n mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun peilot, yn ysgolion ac yn lleoliadau yn y sector gofal plant, yn cael eu cefnogi i ddarparu 30 awr o AGPC; ni fydd rhieni sy’n gweithio’n waeth eu byd ym Mhen-y-bont ar Ogwr nag mewn awdurdodau lleol eraill (bydd rhieni sy’n gweithio’n gallu cael mynediad at oriau’r ‘Cynnig Gofal Plant’ yn ystod tymhorau lle mae darpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen ar gael, ochr yn ochr â darpariaeth gofal plant yn y gwyliau); caiff opsiynau sydd ar gael i rieni nad ydynt yn gweithio’u nodi ym mharagraff 4.8; a bydd gweithgarwch gwerthuso a monitro’n rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun peilot. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod hyd at £3.5m y flwyddyn ar gael i gefnogi’r cynllun peilot hwn. Dywedodd y byddai cefnogi’r cynllun peilot yn golygu bod angen i’r Cyngor ddatblygu, rheoli a phrosesu system ar gyfer talu’n fisol i ddarparwyr yn ogystal â gallu casglu gwybodaeth fonitro a gwerthuso. Nododd y pedwar opsiwn a oedd ar gael a dywedodd mai’r bwriad oedd y byddai’r cynllun peilot AGPC yn cychwyn ar ddechrau blwyddyn ysgol 2021-2022 (o fis Medi 2021). Rhoddodd wybod i’r Cabinet y bydd AGPC yn cael ei ariannu yn ôl cyfradd o £4.50 yr awr i bob lleoliad yn unol â’r gyfradd a delir am ofal plant dan y Cynnig Gofal Plant a bod 64% o deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhieni sy’n gweithio sy’n gymwys dan y Cynnig Gofal Plant cyfredol. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y dylid mynd ar drywydd ‘Popeth i bob rhiant’ ac mai dyna fyddai’n rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 479.

480.

Cydwasanaeth Addysg Consortiwm Canol De Cymru pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar gynnig i sicrhau ymrwymiad y Cabinet i ddyfodol hirdymor Cydwasanaeth Addysg Consortiwm Canol De Cymru. 

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau sylweddol i’r modd y darperir addysg yng Nghymru ac yn hydref 2018, fe roddodd pum Aelod Cabinet Addysg Cydbwyllgor Consortiwm Canol De Cymru gomisiwn i’r ISOS Partnership gynnal adolygiad annibynnol o Gonsortiwm Canol De Cymru i sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben ac yn hyfyw o safbwynt ariannol hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol. Dywedodd fod y Cydbwyllgor wedi cymeradwyo cais bod y pum awdurdod lleol yn rhannu adroddiad ISOS gyda chabinetau’r pum awdurdod lleol sy’n rhan o Gonsortiwm Canol De Cymru cyn diwedd mis Chwefror 2020, a bod y pum Cyngor yn ystyried ac yn ailddatgan eu hymrwymiad i ddull ar y cyd o wella ysgolion trwy Gonsortiwm Canol De Cymru. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wybod i’r Cabinet bod adroddiad ISOS yn darparu tystiolaeth gadarn fod perfformiad addysgol Rhanbarth Canol De Cymru wedi bod yn rhagori gryn dipyn ar berfformiad addysgol y tri rhanbarth arall yng Nghymru. Dywedodd fod y mwyafrif o benaethiaid y rhanbarth yn gadarnhaol yngl?n â’r cymorth, y cyngor a’r arweiniad a roddir gan y Cydwasanaeth. O ystyried newidiadau sylfaenol i’r dirwedd addysgol yng Nghymru yn erbyn cefnlen o bwysau parhaus ar y cyllid, roedd yn hollbwysig bod y gwasanaeth yn esblygu i ddiwallu anghenion mewn modd hyblyg a chynaliadwy. Dywedodd fod y Cydbwyllgor Aelodau Cabinet Addysg wedi bod yn rhagweithiol ac wedi comisiynu’r adolygiad gan ISOS i fynd ati’n annibynnol i werthuso perfformiad y Cydwasanaeth, adnabod y meysydd i’w gwella a sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben ac yn hyfyw o safbwynt ariannol ar gyfer yr hirdymor. Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod peth ansicrwydd wedi bod yn un o’r pedwar rhanbarth ynghylch dyfodol hirdymor eu cydwasanaethau cynghori addysgol. Dywedodd fod ymrwymiad eglur yn cael ei geisio gan bob un o’r pum Cyngor i ddyfodol hirdymor Consortiwm Canol De Cymru i roi rhywfaint o sicrwydd i ysgolion a staff Consortiwm Canol De Cymru mewn cyfnod o drawsnewid sylweddol i’r sector addysg yng Nghymru. Byddai ymgysylltu sylweddol â phenaethiaid a llywodraethwyr fel rhan o ailfodelu Consortiwm Canol De Cymru, ac wrth gyflawni rhaglenni gwaith yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yngl?n â sut yr oedd yr ysgolion wedi cael eu dethol i gyfranogi yn yr adolygiad o Gonsortiwm Canol De Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai’n darparu’r wybodaeth honno ar gyfer y Cabinet.  

 

PENDERFYNWYD: Yn seiliedig ar y ffaith bod adolygiad annibynnol o waith Consortiwm Canol De Cymru wedi pennu y bydd y Cydwasanaeth mewn sefyllfa dda i gyflawni swyddogaethau gwella ysgol yn effeithiol, a chynorthwyo ysgolion i reoli’r prif ddiwygiadau ledled y rhanbarth, ynghyd ag adborth cadarnhaol a gafwyd gan benaethiaid mewn sesiynau Craffu diweddar, cytunodd y Cabinet i gefnogi penderfyniad Cydbwyllgor Consortiwm Canol De  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 480.

481.

Gwaith Peirianneg Amddiffyn yr Arfordir i’r Morglawdd Gorllewinol a Phromenâd y Dwyrain, gan gynnwys Trwyn y Rhych, Porthcawl pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaeth Cymunedol yn ceisio cymeradwyaeth yn unol â rheolau caffael i wahodd tendrau am waith amddiffyn yr arfordir i’r Morglawdd Gorllewinol a Phromenâd y Dwyrain, Porthcawl yr amcangyfrifwyd y byddent yn costio mwy na £5 miliwn. 

 

Adroddodd fod y Morglawdd Gorllewinol, Promenâd y Dwyrain a Thrwyn y Rhych wedi’u cynnwys yng Nghynllun Rheoli Traethlin De Cymru (Trwyn Larnog i Bentir y Santes Ann) 2 (CRhT2), yn Uned Senario Polisi 7. Dywedodd fod gwaith ailbwyntio’n cael ei wneud i strwythurau’r morgloddiau a hwnnw’n cael ei ariannu o’i ddyraniad yn y gyllideb flynyddol, sy’n rhoi lefel sylfaenol o waith cynnal a chadw i gragen allanol y strwythurau ac nad yw’n ymdrin ag unrhyw faterion strwythurol mewnol nac o ran hydroleg. Dywedodd hefyd fod yr angen i amddiffyn y glannau’n barhaus rhag llifogydd ac erydiad yr arfordir yn cael ei gydnabod yn y CRhT2 a bod y Cyngor yn cynnal arolygiadau rheolaidd o’r strwythurau gan wneud atgyweiriadau cynhaliol yn ôl y gofyn i leihau’r tebygolrwydd o fethiant catastroffig. 

 

Dywedodd fod gwella’r strwythurau hyn wedi cael ei adnabod fel blaenoriaeth a bod y Cyngor, trwy adfer y strwythurau cyfredol a’u diogelu at y dyfodol, yn buddsoddi mewn deilliannau cynaliadwy ar gyfer gymuned i sefydlu mesurau i liniaru llifogydd a cholled eiddo a allai ddigwydd. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn arfarniadau cychwynnol, wedi gwahodd y Cyngor i gyflwyno Achos Busnes Llawn ar gyfer y gwaith adfer a bod y Cyngor ar hyn o bryd yn disgwyl am gadarnhad bod y cynllun wedi’i gymeradwyo. Rhoddodd wybod i’r Cabinet, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, y gallai’r cynllun fod yn gymwys i gael cyllid yn ôl cyfradd o 75% gan Lywodraeth Cymru. Mae’r 25% arall a fyddai’n ofynnol wedi cael ei adnabod yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor. Dywedodd y byddai proses dendro ar gyfer y contract yn cael ei chynnal trwy’r broses dendro ar-lein yn unol â strategaeth gaffael gymeradwy’r Cyngor, gyda throsolwg gan yr adain Gaffael. Bydd y tendrwr llwyddiannus yn cael ei adnabod trwy broses dendro ansawdd/pris a byddai unrhyw gontract yn cael ei ddyfarnu gan ddilyn gweithdrefnau caffael a dyfarnu priodol. Yn dilyn proses dendro a dyfarnu lwyddiannus, barnwyd y byddai’r contract yn gontract 12-18 a fydd yn dechrau yng ngwanwyn/haf 2020.

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyodd y Cabinet awdurdodiad i dendro am y gwaith amddiffyn yr arfordir i strwythurau’r Morglawdd Gorllewinol a Phromenâd y Dwyrain ac wedi hynny i ddyfarnu’r contract i’r tendr sydd fwyaf manteisiol yn economaidd.   

482.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

483.

Eithrio’r Cyhoedd

Nidoedd y cofnodion/adroddiad canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylai’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod tra bo’r eitem ganlynol o fusnes yn cael ei hystyried gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i hesemptio fel a ddiffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi’u heithrio o’r cyfarfod, gan mai’r farn dan yr holl amgylchiadau a oedd yn ymwneud â’r eitem oedd bod lles y cyhoedd pe bai’r esemptiad yn cael ei gynnal yn gwrthbwyso lles y cyhoedd pe bai’r wybodaeth yn cael ei datgelu.   

484.

Cymeradwyo Cofnodion wedi’u Hesemptio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion Eithrio cyfarfod y 21/01/2020

 

485.

Gwerthu Tŷ'r Ardd, Heol Sunnyside, Pen-y-bont ar Ogwr