Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: o bell trwy Skype

Cyswllt: Gwasanaethau Democraticaidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

514.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwblgan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan yCyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiannau personol yn Eitemau 8 a 9 ar yr Agenda fel a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd HM Williams – Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Abercerdin

Cynghorydd Addysg RE Young – Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Bryn Castell ac Ysgol Gynradd Litchard

Y Cynghorydd D Patel – Llywodraethwr Ysgol yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ac yn y broses o ailddatgan ei diddordeb fel Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Cwm Ogwr

Y Cynghorydd PJ White – Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Nantyffyllon a Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gyfun Maesteg

Y Cynghorydd CE Smith – Llywodraethwr Ysgol Babanod Cefn Glas a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr

 

Datganodd y Cynghorydd Smith fuddiant personol pellach yn Eitem 10 ar yr Agenda, gan y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad.

 

515.

Monitro Cyllideb 2020-21 Rhagolwg Refeniw Chwarter 1 pdf eicon PDF 672 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am sefyllfa ariannol refeniw'r Cyngor ar 30 Mehefin 2020 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer trosglwyddiadau cyllideb rhwng £100k a £500k, fel sy'n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Eglurodd fod yr adroddiad hwn ychydig yn wahanol i adroddiadau chwarterol blaenorol o'r fath, oherwydd yr heriau a achoswyd gan y pandemig Covid yn y chwarter cyntaf eleni.

 

Atgoffodd y Cabinet fod y Cyngor, ar 26 Chwefror 2020, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £286.885m ar gyfer 2020-21. Fel rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, adolygir amcanestyniadau cyllideb yn rheolaidd a'u hadrodd i'r Cabinet bob chwarter.

 

Y sefyllfa gyffredinol a rhagwelir ar 30 Mehefin 2020 yw gorwariant net o £3.051 miliwn, sy'n cynnwys gorwariant net o £2.803 miliwn ar gyfarwyddiaethau a gorwariant net o £248,000 ar gyllidebau corfforaethol. Cyfeiriwyd at Dabl 1 yn yr adroddiad. Mae'r sefyllfa a rhagwelir yn seiliedig ar:-

 

          Gynnwys ad-daliadau gwariant a wnaethpwyd hyd yma ar wariant COVID-19 gan Lywodraeth Cymru (LlC).

• Eithrio gwariant COVID-19 sy’n cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Cymru ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn.

•Eithrio gwariant COVID-19 nad yw wedi'i hawlio na'i ysgwyddo eto yn chwarteri 2 i 4.

• Eithrio cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer colli incwm gan nad yw lefel y cymorth wedi'i chadarnhau.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, at yr effaith a gafodd Covid-19 ar yr awdurdod lleol o ran gwariant, fel y nodir ym mharagraff 4.1.3 o'r adroddiad. Roedd hyn wedi digwydd, a byddai'n parhau i ddigwydd yn y dyfodol, a'r canlyniad oedd na allai’r Cyngor gyflawni ei arbedion yn llawn yn ogystal â derbyn lefelau incwm is.

 

Ychwanegodd y byddai angen i'r Cyngor adolygu ei flaenoriaethau a'i gyllidebau o ystyried effaith y pandemig, a’u hail-ganolbwyntio er mwyn symud tuag at gyfnod adfer mwy sefydlog wrth adael y cyfnod clo.

 

Roedd paragraff 4.1.5 o'r adroddiad yn rhoi manylion y cymorth ariannol a roddwyd i'r Cyngor mewn rhai meysydd allweddol, er mwyn helpu i liniaru rhai o effeithiau'r pandemig, tra bod paragraff 4.1.6 yn dangos hawliadau gwariant Covid-19 ar gyfer Chwarter 1 ar ffurf tabl, hawliadau a oedd yn parhau i gael eu gwneud i Lywodraeth Cymru bob mis. Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod hawliadau wedi'u gwneud am gyfanswm o £3m, a hyd yma roedd £2m wedi dod i law. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu 50% o gostau holl Gynghorau Cymru wrth ganiatáu i staff weithio gartref.

 

Roedd y Cyngor hefyd wedi cyflwyno cais am golli incwm i Lywodraeth Cymru ar gyfer chwarter cyntaf 2020-21. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £78m o gyllid i liniaru colled incwm, ond nid oes cytundeb ar hyn o bryd ar sut y bydd hwn yn cael ei ddosbarthu. Mae amcangyfrif Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y chwarter cyntaf i’w weld yn Nhabl 3 yr adroddiad, sef £2.518m.

 

Amlygodd adran nesaf yr adroddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 515.

516.

Alldro Rhaglenni Cyfalaf 2019-20 ac Adroddiad Chwarter 1 2020/21 pdf eicon PDF 568 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd:-

 

 

  • a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) 'The Prudential Code for Capital Finance Local Authorities (argraffiad 2017)’

 

  • 1

 

  • 1 Mehefin 2020 (Atodiad B i'r adroddiad)

 

  • ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 i 2029-30 (Atodiad C i'r adroddiad)

 

  • 1 (Atodiad D i'r adroddiad)

 

Cyfeiriodd at sefyllfa bresennol yr adroddiad, a roddodd wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019-20. Mae'r gyllideb wreiddiol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 20 Chwefror 2019 wedi'i diwygio a'i chymeradwyo ymhellach gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn i ymgorffori cyllidebau a gyflwynwyd o 2018-19 ac unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Cyfanswm y rhaglen ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2020 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, oedd £30.137 miliwn, daw £13.964 miliwn ohono o adnoddau CBSP, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn, a benthyciadau a glustnodwyd, gyda'r £16.173 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol.

 

Rhoddodd Atodiad A fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen

gyfalaf, gan ddangos y gyllideb sydd ar gael yn 2019-20 o gymharu â'r gwariant gwirioneddol. Dim ond ym mis Chwefror 2020 y cymeradwywyd y rhaglen ddiwygiedig, felly ychydig o atodiadau a fu ers hynny heblaw'r prif newidiadau canlynol:

 

cymeradwyaethau newydd o £1.964 miliwn o ganlyniad i gynllun grant newydd gan Llywodraeth Cymru - Grant Hwb ar gyfer Seilwaith

 

  • Daeth £0.403 miliwn o gyllid yn ôl o 20-21 i adlewyrchu proffiliau gwariant.

 

  • Arweiniodd hyn at y gyllideb ddiwygiedig o £32.504m.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid felly mai cyfanswm y gwariant ar 31 Mawrth 2020 oedd £22.822m, gan arwain at gyfanswm tanwariant o £9.682m.

 

Eglurodd adran nesaf yr adroddiad fod nifer o gynlluniau wedi'u gohirio oherwydd sefyllfa Covid-19, gan lithro i 2020-21, a bod angen £9.073m ar eu cyfer, dangoswyd y rhain ym mharagraff 4.1.4 o'r adroddiad.

 

Rhoddodd adran nesaf yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21, ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, ac mae'n ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 â chyfanswm o £62.305 miliwn, daw £40.313 miliwn ohono o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a benthyciadau, gyda'r £21.992 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Manylwyd ar y Rhaglen Gyfalaf fesul Cyfarwyddiaeth ar gyfer 2020-21 yn Nhabl 1 ym mharagraff 4.2.1 o'r adroddiad.

 

Rhoddodd Tabl 2 ym mharagraff 4.2.2 o'r adroddiad amlinelliad o Adnoddau Rhaglen Gyfalaf 2020-21, a disgrifiodd sut y byddai’r cyfanswm o ychydig dros £62m yn cael ei ariannu.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid at Atodiad B i'r adroddiad, a roddodd fanylion y cynllun unigol o fewn y Rhaglen Gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2020-21, o'i gymharu â'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 516.

517.

Grant Llywodraeth Cymru - Cynllun Peilot Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi cefndir a goblygiadau ariannol a gweithredol y prosiect uchod i'r Cabinet, ac i ofyn i'r Cabinet argymell i'r Cyngor gynnwys yr arian cyfatebol ar gyfer y cynllun ynddynt.

 

Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno 2 fenter i ganolbwyntio ar sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio drachefn, fel y disgrifir yn yr adroddiad.

 

Mae rhannau gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr o fewn dalgylch Tasglu'r Cymoedd.

 

Ar 30 Mehefin 2020 cymeradwyodd y Cabinet gam 2 o Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd, a rhoddwyd cymeradwyaeth i ymrwymo i gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCT), a fydd yn rhedeg ac yn gweinyddu'r Grant ar gyfer y rhannau gogleddol hynny o'r Sir yn unig. 

 

Mae'r 2 brosiect yn wahanol, mae'r fenter Tasglu’r Cymoedd ar gael i bobl sy'n dymuno prynu t? gwag, neu berchnogion eiddo gwag, i wneud cais am grant, ar yr amod bod y t? wedi bod yn wag am 6 mis a’u bod yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu prif gartref am o leiaf 5 mlynedd.  Mae prosiect Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin yn grant sydd wedi'i gynllunio i ganiatáu i landlordiaid ddod ag eiddo'n ôl i ddefnydd, ac i dderbyn hawliau enwebu at ddibenion tai cymdeithasol o wneud.

 

Roedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno mewn egwyddor i ddyrannu cyllid cyfalaf o hyd at £169,000 ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn 2020-21 i sefydlu cynllun peilot blwyddyn.  Mae'r cynnig o arian grant yn amodol ar y Cyngor yn darparu arian cyfatebol o 35%, sef yr un ganran o arian cyfatebol y mae'r Cyngor yn ei ddarparu o dan y prosiect Tasglu’r Cymoedd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cynnig hwn yn seiliedig ar y cyfrifiadau a amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Byddai angen nodi lleoliadau penodol lle mae angen am dai i gymryd rhan yn y prosiect.

 

Ni ellir cymhwyso'r cynllun ar y cyd â chynlluniau eraill, a gwrthodwyd cais i Lywodraeth Cymru i drosi'r cynllun hwn yn brosiect Tasglu’r Cymoedd er mwyn sicrhau cynnig cyson ledled y sir.  Gwrthodwyd cais pellach hefyd i ganiatáu i'r arian hwn gael ei ddefnyddio fel cyllid atodol i'r RSL brynu eiddo gwag.

 

Cynigiwyd bod y Cabinet yn cytuno i gymryd rhan yn y peilot, ac yn argymell bod y Cyngor yn darparu'r arian cyfatebol o hyd at £91,000.  Gall cyfyngiadau Covid-19 a'r amser sydd ar ôl o’r flwyddyn ariannol hon effeithio ar y canlyniad terfynol ac efallai na chyflawnir 13 eiddo. Felly, bydd lefel y grant a'r arian cyfatebol yn cael ei haddasu ar sail pro rata.

 

Teimlai'r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol, y dylai cynigion grant tebyg i'r math a grybwyllir yn yr adroddiad fod ar gael i berchnogion eiddo ac ati, y tu allan yn ogystal ag o fewn i ardal y cymoedd.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad, gan ychwanegu bod eiddo gwag a/neu adfeiliedig yn niweidio’r dirwedd,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 517.

518.

Estyniad i'r contract - Gwasanaeth Byw gyda Chymorth Clos Penglyn pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio awdurdod i amrywio'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â'r gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn, a hynny trwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Contract (CPR) 3.2.9.3.

 

Eglurodd fod y contract presennol ar gyfer darparu gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu cymhleth ac awtistiaeth wedi'i gomisiynu yn 2016, ac fe'i dyfarnwyd i DRIVE Ltd yn dilyn ymarfer tendro. Daw'r contract presennol sydd ar waith gyda DRIVE Ltd i ben ar 31 Awst 2020, heb unrhyw ddarpariaeth i’w ymestyn.

 

Oherwydd effaith sylweddol ac annisgwyl pandemig Covid-19, a'r cyfyngiadau symud dilynol i reoli heintiau pellach, ni fu'n bosibl i swyddogion gynnal ymarfer ail-gomisiynu fel y bwriadwyd yn wreiddiol, na thendro'r gwasanaeth yn gystadleuol.

 

O ystyried ansicrwydd ynghylch hyd y mesurau 'cyfnod clo' presennol sydd ar waith, cynigir y dylid ymestyn y contract presennol gyda DRIVE Ltd ar gyfer darparu gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn am 12 mis arall, hyd 31 Awst 2021, sef yr amser sydd ei angen er mwyn cynnal ymarfer ail-gomisiynu. Bydd y gweithgaredd ailgomisiynu yn golygu ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a bydd yn dibynnu ar leddfu cyfyngiadau presennol cyfnod clo Covid-19. Mae problemau capasiti hefyd gan fod aelodau'r Tîm Comisiynu yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n gysylltiedig â Covid 19, mae hyn oll yn gofyn estyniad pellach o 12 mis.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod darpariaeth o dan CPR 3.2.9.3 i geisio addasu contract sy'n bodoli eisoes o dan rai amgylchiadau, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

           Cwblhaodd yr eitem hon drwy gadarnhau bod effaith pandemig Covid-19 yn achos dros addasu, yn sgil amgylchiadau na allai'r Cyngor fod wedi'u rhagweld wrth ymrwymo i'r contract gwreiddiol gyda Drive. Ni fyddai natur gyffredinol y contract yn cael ei newid, a bydd yr holl delerau cytundebol eraill yn aros yn ddigyfnewid, yr unig amrywiad arfaethedig yw’r estyniad o 12 mis. Nid yw'r addasiad arfaethedig yn fwy na 50% o werth gwreiddiol y contract.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad, i gael rhagor o fanylion am werth yr addasiad arfaethedig.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar o blaid ymestyn y contract am 12 mis, oherwydd y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod y newidiadau a wneir wedi mynd i'r afael â rhai o'r pryderon cynyddol a amlygwyd yn yr adroddiad, ac roedd o’r farn y dylid diweddaru'r Aelod(au) lleol yr ardal ar benderfyniad y Cabinet yn y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD:                        Fod y Cabinet yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â Chlos Penglyn drwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall hyd at 31 Awst 2021, yn unol â CPR 3.2.9.3.

 

519.

Nodi Adroddiad Gwybodaeth pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad a oedd yn hysbysu’r Cabinet o Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod diwethaf, ac sydd angen ei nodi (ac a oedd ynghlwm).

 

Dangoswyd manylion yr Adroddiad Gwybodaeth ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad eglurhaol.

 

PENDERFYNWYD:                Fod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

520.

Polisi Teithio gan Ddysgwyr pdf eicon PDF 590 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad, a'i ddiben oedd:

 

·         adrodd ar ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori a gymeradwywyd gan y Cabinet ynghylch y newidiadau arfaethedig i Bolisi Teithio gan Ddysgwyr yr awdurdod lleol; 

·         cynorthwyo'r Cabinet i benderfynu a ddylai symud ymlaen ag unrhyw un o'r cynigion ai peidio;

·         nodi sut y byddai'r cynigion yn cyfrannu at yr arbedion cyffredinol i strategaeth ariannol tymor canolig y Cyngor;

·         gofyn am atal rheolau gweithdrefn contract yr awdurdod lleol mewn perthynas ag ail-dendro contractau bws, bws mini, bws mini arbennig a rhai contractau tacsi; A

·         adrodd ar ganlyniadau'r adolygiad strategol annibynnol o drafnidiaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio fod nifer sylweddol o argymhellion wedi'u cynnwys ar dudalen 107 yr adroddiad gan yr adran Graffu, a’i fod o'r farn y dylid rhoi mwy o ystyriaeth iddynt cyn i'r Cabinet wneud penderfyniad o ran yr adroddiad.

 

Teimlai felly y dylid gohirio'r adroddiad i gyfarfod y Cabinet a drefnwyd ar gyfer 15 Medi 2020 am y rheswm uchod a chefnogwyd y cynnig hwn yn unfrydol gan holl aelodau'r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD: Fod y Cabinet yn gohirio’r adroddiad hwn i'w gyfarfod nesaf, er mwyn rhoi ystyriaeth bellach i argymhellion y cydbwyllgor SO&SC 1 ac SO&SC 2 dyddiedig 6 Gorffennaf 2020.

 

521.

Adborth ar Gam 4 yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gysyniadau posibl ar gyfer darpariaeth Ôl-16 ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac argymhellion ar gyfer Dyfodol yr Arolwg pdf eicon PDF 954 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyniad byr i adroddiad ar yr adborth o ymgynghoriad cyhoeddus Cam 4 yr adolygiad i ddarpariaeth ôl-16 ar draws CBSP.  Yna gwahoddodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 i drafod manylion yr adroddiad.

Eglurodd mai diben yr adroddiad oedd rhoi adborth ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 2/12/2019 a 21/02/2020 ar Gam 4 yr adolygiad o ddarpariaeth addysg ôl-16 ar draws CBSP.  Dywedodd fod yr ymgynghoriad yn cyflwyno tri opsiwn i'w hystyried a disgrifiwyd y rhain ym mharagraff 3.2. o'r adroddiad.

Adroddodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 fod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ymarfer cadarn a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein, sesiynau gweithdy gyda 1,235 o ddysgwyr mewn ysgolion a choleg, cyfarfodydd cyhoeddus i rieni/gofalwyr, a sesiynau ymgysylltu â staff a llywodraethwyr mewn ysgolion a'r coleg (341 yn bresennol).

Wrth gyfeirio at ganlyniadau'r arolwg ar-lein, nododd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 mai Opsiwn 3, cadw dosbarthiadau chwech ym mhob ysgol uwchradd, oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd, gyda 75% o ymatebwyr yn cytuno'n gryf â'r opsiwn hwn ac 85% yn ei raddio fel eu dewis cyntaf.

Gan ganolbwyntio ar baragraff 3.7.1 o'r adroddiad, tynnodd sylw'r Cabinet at y modd yr arddangosir canlyniadau’r gwahanol leoliadau ysgol, gan hwyluso gwell dealltwriaeth o’r data yn ogystal â'r adborth gan Fryntirion a Choleg Cymunedol y Dderwen, dwy ysgol a oedd wedi darparu cyfran arbennig o uchel o ymatebwyr.  Yn ogystal â’r dadansoddiad canrannol o'r ymatebion, roedd yr adran hefyd yn nodi’r tri darn o adborth ysgrifenedig a welwyd amlaf o bob un o'r canlyniadau a awgrymwyd.

Nododd hefyd, er bod 47% o’r holl ymatebwyr yn 'anghytuno'n gryf' ag Opsiwn 2, Canlyniad B, roedd ymatebion Ysgol Gyfun Pencoed i'r gwrthwyneb, gyda 72% mewn 'cytundeb' â'r cynnig am academi STEAM newydd y coleg ar gampws Pencoed.

Eglurodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 ei fod, ym mharagraff 3.8 o'r adroddiad, wedi rhoi dadansoddiad manwl o ganlyniadau'r arolygon a gwblhawyd gan ddysgwyr yn y sesiynau gweithdy fel y gallai aelodau'r Cabinet gymharu a chyferbynnu'r ystod o ymatebion ar draws pob lleoliad ysgol uwchradd.  At hynny, rhoddodd paragraffau 3.8.1 i 3.8.10 o'r adroddiad fanylion am gyfran gymharol y dysgwyr o'r gwahanol gyfnodau allweddol a oedd wedi cymryd rhan yn y gweithdai.

Ym mharagraff 3.9, tynnodd y Swyddog sylw at y prif themâu a ddaeth i'r amlwg o'r ohebiaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd gan CBSP a’r safbwyntiau a fynegwyd yn y cyfarfodydd agored.

Yna cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 at baragraffau 4 o'r adroddiad, a dywedodd mai'r adran hon oedd yn rhoi'r safbwynt diweddaraf ar y prif faterion a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad.  Y mater a oedd wedi creu'r sylw mwyaf oedd teithio a chyflwynwyd gwybodaeth allweddol yngl?n â hyn ym mharagraff 4.1. Nododd y cysylltiad rhwng yr adran hon o'r adroddiad gyda'r adroddiad ar Deithio gan Ddysgwyr yr oedd y Cabinet wedi'i ohirio tan ei gyfarfod ym mis Medi.

Aeth ymlaen wedyn i sôn am feysydd polisi a strategaeth ehangach eraill a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 521.

522.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band B, Model Buddsoddi Cydfuddiannol Partneriaeth Addysg Gymraeg - Cytundeb Partneru Strategol pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau llywodraethu y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), a gofynnodd i'r Cabinet ystyried cytuno i'r cynigion ym mharagraff 1.1 o'r adroddiad.

 

         Roedd Adrannau 3.1 a 3.2 o'r adroddiad yn manylu ar benderfyniadau'r Cabinet mewn perthynas â'r cynlluniau Band B, ac yn cadarnhau'r amlen ariannu o £68.2m a gymeradwywyd.

Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Ysgolion fod MIM, wedi'i gynllunio i ariannu prosiectau cyfalaf mawr oherwydd prinder cyllid cyfalaf. Mae'n seiliedig ar strwythurau Partneriaeth Cyhoeddus-Preifat traddodiadol, ond gyda'r egwyddorion craidd canlynol wedi'u hymgorffori, nodir y rhain mewn pwyntiau bwled yn adran 3.3 o'r adroddiad.

 

O dan y MiM, bydd partneriaid y sector preifat yn adeiladu ac yn cynnal asedau cyhoeddus ac, yn gyfnewid am hynny, bydd y Cyngor, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn talu ffi i'r partner preifat am gostau adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu'r prosiect. Ar ddiwedd y contract mae'r ased yn dychwelyd i'r Cyngor.

Ychwanegodd fod y Cabinet yn ymwybodol mai 81% yw cyfradd ymyrraeth ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau MIM.

 

Ers mis Hydref 2019 mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal proses gaffael i ganfod partner yn y sector preifat i gydweithio ar gyflawni cynlluniau MIM, o dan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Dyma'r unig ffordd o gyflawni prosiectau Band B a ariennir gan refeniw. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n penodi partner sector preifat. Bydd yn ofynnol i’r partner llwyddiannus o’r sector preifat ffurfio Partneriaeth Addysg Cymru Co (WEPco) gydag is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru, a’r bartneriaeth fydd yn darparu’r gwasanaethau seilwaith.

 

Atgoffodd yr Aelodau ymhellach fod y Cabinet wedi penderfynu ariannu dau gynllun drwy MIM o'r blaen.

O ran y Cytundeb Partneriaeth Strategol, y cyfranogwyr i'r trefniadau fydd nifer o awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach. Bydd y Cyfranogwyr a WEPCo yn llunio Cytundeb Partneriaeth Strategol (SPA) (Atodiad 1 i'r adroddiad a gyfeirir ato).

 

Mae'r Cytundeb Partneriaeth Strategol yn darparu ar gyfer dull gweithredu hirdymor y partïon o fewn partneriaeth gydweithredol, yn an-wrthwynebol ac yn agored, er mwyn cefnogi'r gwaith o gynllunio, caffael, a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol yn effeithiol yng Nghymru, ac i ddarparu gwasanaethau seilwaith. Disgwylir i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol gael ei weithredu ym mis Medi 2020.

 

Tymor cychwynnol y Cytundeb Partneriaeth Strategol yw 10 mlynedd. Gall hyn gael ei ymestyn o 5 mlynedd gan unrhyw un neu fwy o Gyfranogwyr. O dan y Cytundeb Partneriaeth Strategol, mae'n ofynnol i WEPCo ddarparu gwasanaethau partneru i'r Cyfranogwyr fel y nodir ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Yna, mae paragraff 4.3 yn nodi pa wasanaethau y mae gan WEPCo hawliau unigryw i'w darparu i’r Cyfranogwyr o ran datblygu prosiectau, gwasanaethau partneru, a gwasanaethau prosiect ar gyfer prosiectau cymwys - gan gynnwys Band B. Cafwyd cyfle hefyd i gyflawni prosiectau cyfalaf ar sail anghyfyngedig.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen Ysgol at Atodiad 2 yr adroddiad, a oedd yn rhoi crynodeb manylach o'r Cytundeb Partneriaeth Strategol.

 

Ychwanegodd mai Bwrdd Partneriaeth Strategol (SPB) yw’r cyfrwng gwarchodol ar gyfer yr ymrwymiadau hyn, a’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 522.

523.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

524.

Gwahardd y Cyhoedd

 Nid oedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, caiff y cyhoedd eu heithrio o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn

cynnwys gwybodaeth esempt fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd mewn cynnal yr esemptiad, ym mhob amgylchiad sy'n ymwneud â'r eitem, yn drech na budd y cyhoedd mewn datgelu'r wybodaeth.

 

525.

Grant Cyfalaf Arfaethedig o Gronfa Gofal Integredig i Linc Cymru

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z