Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio, a’r angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cabinet a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

497.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

498.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 128 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/02/20 a 10/03/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfodydd y Cabinet ar 25 Chwefror a 10 Mawrth 2020 yn cael eu cymeradwyo’n gofnod gwir a chywir.

499.

Cynllunio ar gyfer Adfer yn sgil Effaith COVID-19 pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Ceisiodd y Prif Weithredwr gymeradwyaeth ar gyfer dull arfaethedig o gynllunio ar gyfer adfer yn sgil pandemig a rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y Panel Adfer trawsbleidiol arfaethedig, yr adroddir ac y cytunir ar ei fanylion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, ac y bydd yn helpu i lywio, hysbysu a chynghori’r Cabinet ar ymateb y Cyngor a’i gynllun adfer.

 

Adroddodd fod Llywodraeth y DU, ar 23 Mawrth, wedi gosod cyfyngiadau cenedlaethol ar symud mewn ymateb i bandemig byd-eang COVID-19 mewn ymdrech i helpu gostwng lledaeniad y coronafeirws ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y Cyngor wedi bod trwy newid mawr dros y tri mis diwethaf, yn aml yn ymateb ar frys i newidiadau mewn amgylchiadau, canllawiau a rheoliadau.  Dywedodd fod gwasanaethau wedi’u creu, rhai gwasanaethau wedi’u hatal, staff wedi’u hadleoli ac arferion gweithio newydd wedi’u rhoi ar waith, gan gynnwys galluogi pobl sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny.  Dywedodd fod y ffocws wedi bod ar gyflwyno gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i’r bobl fwyaf agored i niwed yng nghymunedau’r Cyngor, ac ar geisio atal lledaeniad y firws er mwyn achub bywydau.  Byddai angen i lawer o’r newidiadau barhau y tu hwnt i gyfnod hwn yr argyfwng ac, o bosibl, ddod yn rhan o’r ‘normal newydd’ i’r Cyngor. 

 

Hefyd, oherwydd cyflymder a difrifoldeb y newidiadau yr oedd eu hangen, dywedodd fod trefniadau llywodraethu brys wedi’u rhoi ar waith yn unol â chyfansoddiad y Cyngor a’i gynllun dirprwyo er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr ymateb yn briodol i faterion brys ac, yn aml, critigol.  Dywedodd fod cyfarfod rheoli ‘Aur’ brys y Cabinet/Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CCMB) wedi’i sefydlu’n ddyddiol, ac yn hysbysu’r cyfarfodydd hyn yr oedd Adroddiadau Sefyllfa Dyddiol ac, yn ddiweddarach, Adroddiadau Sefyllfa Wythnosol gan bob Cyfarwyddiaeth yn amlinellu risgiau a phroblemau allweddol a materion yr oedd angen penderfynu arnynt.  Roedd penderfyniadau ffurfiol wythnosol wedi’u dosbarthu trwy gydol y cyfnod hwn i Arweinwyr Gr?p a Chadeiryddion Craffu.  Yn ogystal, darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad dyddiol i Arweinydd y gr?p mwyaf nad yw’n gr?p gweinyddol a chynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol gyda holl arweinwyr y grwpiau gwleidyddol a’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr, i sicrhau bod aelodau etholedig yn cael eu hysbysu a’u cynnwys cymaint â phosibl yn yr amgylchiadau eithriadol.

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod ymateb y staff wedi bod yn eithriadol er mwyn parhau i gyflwyno gwasanaethau hanfodol yn effeithiol. Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, parhawyd i gyflwyno gwasanaethau rheng flaen hanfodol ond mewn ffyrdd gwahanol, a chafodd perthynas waith gadarn gyda Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a’r trydydd sector ei datblygu a’i gwella.  Dywedodd fod gofal cymdeithasol, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a’r ganolfan cyswllt cwsmeriaid wedi cydweithio i ddarparu cymorth i unigolion a warchodir.  Darparwyd darpariaeth gofal plant brys mewn canolfannau i blant gweithwyr allweddol, a bu’n rhaid i’r gwasanaeth arlwyo fynd ati’n gyflym i gynllunio a threfnu bod prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu.  Cydnabu gymorth rhagorol gwasanaethau llai gweladwy wrth ymateb yn gyflym i ddosbarthu grantiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 499.

500.

Alldro’r Gyllideb Refeniw 2019-20 pdf eicon PDF 692 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid ddiweddariad ar berfformiad ariannol refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.  Rhoddodd hi wybod i’r Cabinet fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20.  Crynhodd yr alldro cyfan ar 31 Mawrth 2020, a ddangosodd danwariant net o £563,000, a drosglwyddwyd i Gronfa’r Cyngor, a oedd yn dod â’r balans i £9.339m yn unol ag Egwyddor 9 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod Cyfanswm cyllidebau Cyfarwyddiaethau wedi darparu tanwariant net o £1.765 miliwn a bod tanwariant net o £7.690 miliwn yng nghyllidebau’r Cyngor Cyfan, gyda’r gofyniad i ddarparu cronfeydd wrth gefn newydd, wedi’u neilltuo, ar gyfer amrywiaeth o ymrwymiadau gwariant a risgiau newydd yn y dyfodol i dalu costau penodol yn gwrthbwyso hynny.  Y prif reswm dros danwario £6.050 miliwn yn ‘Cyllidebau Corfforaethol Eraill’ yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori awdurdodau lleol y byddai cyllid grant ychwanegol yn cael ei ryddhau yn ystod 2019-20 i dalu’r cynnydd yng nghost pensiynau athrawon (£2,006,096), pensiynau’r gwasanaeth tân (£272,405), a chodiad cyflog athrawon (£343,701), y cyfan wedi’u hariannu’n llawn yn wreiddiol drwy’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid wybod i’r Cabinet fod y tanwariant yn cuddio’n sylweddol y pwysau cyllidebol sylfaenol yng nghyllidebau rhai gwasanaethau yr adroddwyd arnynt yn ystod y flwyddyn ac sy’n parhau o hyd, ym meysydd gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol a Chasglu a gwaredu gwastraff; mae nifer o ostyngiadau hanesyddol i’w cyllidebau heb eu gwireddu o hyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y sefyllfa net hefyd yn cyfrif am incwm y dreth gyngor o £1.502m yn ystod y flwyddyn ariannol.  Un o’r prif resymau dros incwm cronnus y dreth gyngor oedd oherwydd cyfuniad o ddileu’r gostyngiad a’r Strategaeth Eiddo Gwag, sydd wedi cael effaith arwyddocaol.  Mae eiddo ychwanegol a adeiladwyd yn ystod 2019-20 wedi cyfrannu hefyd at incwm cronnus y dreth gyngor. 

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid y sefyllfa o ran monitro cynigion i ostwng cyllidebau; o’r cynigion cyllidebol gwerth £2.342m sy’n weddill, roedd £1.883m wedi’i wireddu, gan adael balans o £459,000.  O’r cynigion i ostwng cyllidebau ar gyfer 2019-20, sef cyfanswm o £7.621m, rhoddodd wybod i’r Cabinet fod targed o £806,000 yn brin.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid sylw ar y sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2020, gan amlygu’r gwahaniaethau mwyaf sylweddol.  Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid  wybod i’r Cabinet am yr hyn sy’n ansicr yng nghyllidebau eraill y Cyngor cyfan ac effaith ariannol pandemig Covid-19 ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2020-21; bydd unrhyw gyllid sy’n weddill o gyllidebau’r cyngor cyfan yn cael eu dwyn ymlaen i ateb pwysau.  Crëwyd cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi yn gysylltiedig â covid-19 o £3m ar ddiwedd y flwyddyn, a phan fyddwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 500.

501.

Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd – Cam 2 pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Ceisiodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol gymeradwyaeth i gychwyn Cam 2 Cynllun Grant Cartrefi Gwasg Tasglu’r Cymoedd; cytuno ar gyfraniad cyfatebol o 35% tuag at pob grant a roddir; ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Cam 2; a dirprwyo’r awdurdod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyflwyno a rheoli’r Grantiau Cartrefi Gwag yn Ardal Pen-y-bont ar Ogwr Tasglu’r Cymoedd ar gyfer Cam 2.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Cam 1 (peilot) y Cynllun Cartrefi Gwag, a barodd o Hydref 2019 i Fawrth 2020, heb i’r Cyngor orfod cyfrannu’n ariannol o gwbl at y cam hwn o’r cynllun Grantiau Cartrefi Gwag.  Amlinellodd ganlyniadau Cam 1 y rhaglen, gydag 8 cais llwyddiannus yn cael eu gwneud yn ystod y cam hwn.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid o £4,500,000 ar gyfer cam 2 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Rhondda Cynon Taf yn holl Ardaloedd Tasglu’r Cymoedd.  Gofynnwyd i’r Cyngor ymrwymo i Gam 2 y cynllun Grantiau Cartrefi Gwag a chytuno ar gyfraniad o 35% o gyllid cyfatebol tuag at bob grant, ar sail nifer y grantiau eiddo gwag y mae’r awdurdod eisiau eu cefnogi.  Mae’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu cyllid cyfatebol o hyd at £20,000 fesul grant a ddyfernir, gydag unrhyw gyllid grant ychwanegol dros y swm hwn yn cael ei ariannu’n llawn o’r grant.  Amlinellodd gymhwysedd ac amodau Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, gofynion cyffredinol y cynllun a dirprwyo awdurdod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf weinyddu’r cynllun yn ardal weinyddol y cyngor hwn o fewn Ardal Tasglu’r Cymoedd.

 

Wrth gymeradwyo’r cynllun, gwnaeth yr Arweinydd sylw am fuddsoddi yng nghymunedau’r cymoedd, creu cartrefi i deuluoedd lleol a chael gwared ar eiddo gwag blaenorol a oedd yn amharu ar ardaloedd.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet

 

  • Yn cymeradwyo ymrwymo i Gam 2 Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd;
  • Yn nodi ac yn derbyn y risgiau a’r problemau a amlygir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad;
  • Yn dirprwyo awdurdod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyflwyno cam 2 y Cynllun Cartrefi Gwag a rheoli’r cynllun yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr Tasglu’r Cymoedd yn unol â pharagraff 4.2;

Yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio, i drafod a chytuno ar delerau’r cytundeb lefel gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac ymrwymo i’r cytundeb lefel gwasanaeth.   

502.

Cynllun Adfer Economaidd Lleol pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i ddechrau ar broses Cynllunio Adfer Economaidd Lleol, rhoi Tasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar waith a nodi’r cyllid sydd ar gael i gefnogi ‘Cronfa Dyfodol Economaidd’.

 

Dywedodd fod llawer o gyfyngiadau wedi’u rhoi ar waith yn gysylltiedig â gweithgarwch cymdeithas a’r economi o ganlyniad i’r coronafeirws a’r ‘cyfyngiadau symud’ cenedlaethol dilynol.  Dywedodd fod Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ‘Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi’ yn amlinellu methodoleg glir a strwythuredig ar gyfer ystyried opsiynau i symud yr economi a chymdeithas yn eu blaen o’r cyfyngiadau presennol sydd ar waith.  Dywedodd wrth y Cabinet fod y Fwrdeistref Sirol yn cael ei hun mewn sefyllfa ddigynsail, gyda newid cyson yn digwydd yn gyflym, a bod arweiniad gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn datblygu gyda’r sefyllfa ac y bydd yn parhau i wneud dros y misoedd ac, o bosibl, y blynyddoedd i ddod.  Dywedodd fod y Cyngor wedi chwarae rhan allweddol yn hwyluso, yn cydlynu ac yn arwain y trefniadau angenrheidiol ar gyfer delio ag effaith yr achosion o’r coronafeirws ar gymunedau a busnesau. 

 

Adroddodd fod proses o Gynllunio Adfer Economaidd Lleol wedi’i gosod yn y cyd-destun hwn yn cyflwyno amrywiaeth eang o heriau, ac er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid wedi cydweithio hyd yn hyn i gyflwyno amrywiaeth eang o ymatebion i’r achosion o coronafeirws, roedd llawer o hyn wedi bod yn ymatebion tymor byr.  Byddai angen o hyd am y gallu i ymateb, ar y cyd ag ymagwedd ragweithiol tymor hwy at Gynllunio Adfer Economaidd Lleol, a byddai’r ymagwedd hon yn cael ei chysylltu ag ymagwedd ehangach y Cyngor tuag at Gynllunio Adfer holistig. 

 

Amlinellodd gynnig ar gyfer dechrau’r broses o Gynllunio Adfer Economaidd Lleol trwy roi’r canlynol ar waith:

 

·         Tasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr

·         Rhaglen ymgysylltu economaidd

·         Cyllideb benodol wedi’i chlustnodi i gefnogi’r gweithgareddau hyn – y Gronfa Dyfodol Economaidd.

 

Yr Arweinydd fyddai’n cadeirio’r Tasglu a byddai’n adeiladu ar, ac yn ychwanegu gwerth at, gamau gweithredu wedi’u cymryd gan Lywodraethau Cymru a’r DU a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a’r Tasglu fyddai yn y sefyllfa orau i sicrhau cyllid a chyfleoedd i Ben-y-bont ar Ogwr trwy nodi a gweithredu’r mesurau penodol a lleol y mae eu hangen i gefnogi preswylwyr a busnesau’r Cyngor yn y tymor byr, canolig a hir.  Dywedodd y bydd y tasglu’n datblygu cynllun economaidd ar gyfer dyfodol y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn cynnwys camau i helpu busnesau i addasu i’r tirlun economaidd sy’n newid a gwella gwydnwch, ynghyd â chefnogaeth i breswylwyr ddatblygu sgiliau newydd, a chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.  Bydd gwaith yn cyd-fynd â gr?p Cynllunio Adfer Strategol y Cyngor ac yn cyfrannu ato.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet y byddai Cronfa Dyfodol Economaidd o £1.687 miliwn yn cefnogi rhoi camau gweithredu â blaenoriaeth y tasglu ar waith a chyflwyno cynllun economaidd y dyfodol.  Pan fyddai cyllid allanol yn cael ei gynnig, dywedodd na fyddai hwn yn cael ei dderbyn hyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 502.

503.

Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Roedd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd yn ymofyn creu Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019.

 

Adroddodd fod Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), ym mis Hydref 2018, wedi llunio adroddiad ar gyflwr cynhesu byd-eang, gan nodi y bydd cynhesu parhaus yn nhymereddau’r byd yn cynyddu’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd llifogydd, sychderau a gwres eithafol, a’u heffaith o ganlyniad.  Datganodd yr adroddiad bwysigrwydd cyfyngu ar gynhesu byd-eang a gofyniad am weithredu ar raddfa ac ar gyflymder digynsail.  Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac, yn dilyn hyn, eu bod wedi ymrwymo i gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.  Yn ogystal, mae ymrwymiad i gydlynu gweithredu er mwyn helpu meysydd eraill yr economi i gamu’n bendant rhag tanwyddau ffosil, yn cynnwys academia, diwydiant a’r trydydd sector.

 

Adroddodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod gan y Cyngor ran hanfodol i’w chwarae trwy reoli ei adnoddau a’i asedau ei hun a’r ffordd y mae’n gweithio gyda phreswylwyr, sefydliadau a busnesau lleol, ac yn eu cynorthwyo, i ymateb i’r heriau yn adroddiad yr IPCC.  I gefnogi hyn, ac amlinellu rhai camau gweithredu uniongyrchol, cynigiwyd bod Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd yn cael ei datblygu i gynnwys y canlynol:

 

  • Pwyllgor o aelodau trawsbleidiol i oruchwylio’r Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd;
  • Creu rôl swyddog bwrpasol i arwain:
    • Cydlynu holl wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
    • Cydweithredu â phartneriaid sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector allweddol.
    • Ymgysylltu â phreswylwyr lleol.

 

  • Datblygu Cynulliad Dinasyddion Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar yr Argyfwng Hinsawdd;
  • Datblygu Strategaeth Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr a chynllun gweithredu â blaenoriaethau, gan gynnwys costau a gweithdrefnau monitro ac adrodd ar berfformiad;
  • Cynnal Uwchgynhadledd flynyddol Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar Gynaliadwyedd.

 

Adroddodd y bydd yr adnoddau blynyddol sy’n ofynnol i arwain y Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, sef £215,000, yn cael eu hariannu o’r gyllideb £2 filiwn sydd newydd ddod ar gael yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Bydd y £215,000 ar gyfer rhaglen blwyddyn lawn, sef costau staff o £65,000 a chyllideb refeniw o £150,000. 

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y cynigion a oedd yn cynnwys creu rôl bwrpasol, Pwyllgor o aelodau trawsbleidiol a chydweithredu â phartneriaid allweddol i gyflwyno’r strategaeth.  Dywedodd yr Arweinydd y bydd gan y prosiectau ysgogiad cyllidol a bod Pen-y-bont ar Ogwr mewn lle da i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn codi yn y dyfodol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod yn credu bod y prosiectau yn gyflawnadwy ac yn arloesol, fel prosiect Ynni D?r Pwll Glo Caerau.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y byddai prosiect Ynni D?r Pwll Glo Caerau yn ysgogi llai o ddibyniaeth ar danwyddau ffosil i gynhesu cartrefi pobl ac, o bosibl, ar safleoedd partneriaid y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cabinet yn cymeradwyo creu Rhaglen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 503.

504.

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 2010 – Adroddiad Blynyddol Ymchwiliadau i Lifogydd pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol gymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol Ymchwiliadau i Lifogydd 2019-20 ynghylch ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd ac adrodd arnynt a, hefyd, ceisiodd gymeradwyaeth ar gyfer y camau i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010. 

 

Adroddodd fod Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 yn gosod nifer o ddyletswyddau statudol ar Awdurdodau Lleol yn eu rôl fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ac, o ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal, mae’n rhaid i’r Cyngor, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, i’r graddau ag yr ystyria y bo hynny’n angenrheidiol, ymchwilio i ba Awdurdodau Rheoli Risg sydd â swyddogaethau rheoli risg llifogydd perthnasol a pha un a yw pob un o’r Awdurdodau Rheoli Risg hynny wedi arfer, neu’n bwriadu arfer, y swyddogaethau hynny mewn ymateb i’r llifogydd.  Dywedodd, lle y mae awdurdod yn cynnal ymchwiliad, mae’n rhaid iddo gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad a hysbysu unrhyw Awdurdod Rheoli Risg perthnasol.

 

Adroddodd fod Adroddiad Blynyddol Ymchwiliadau i Lifogydd wedi’i baratoi ar gyfer 2019-20 yn unol ag Adran 19 Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod stormydd y gaeaf wedi dod â heriau sylweddol, gyda swyddogion yn delio â sawl digwyddiad llifogydd a gorfod dadflocio ceuffosydd, a diolchodd i’r tîm o swyddogion am eu gweithredoedd.  Hefyd, rhoddodd wybod i’r Cabinet fod hawliadau’r Cyngor i Lywodraeth Cymru am ad-daliadau yn sgil y camau a gymerodd y Cyngor yn ystod stormydd y gaeaf wedi llwyddo, gyda chyfraniad y Cyngor yn cael ei ostwng o 25% i 15%.  Dywedodd fod y Cyngor wedi llwyddo hefyd yn ei gais i Lywodraeth Cymru am waith i Bromenâd y Dwyrain ym Mhorthcawl.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau i’r staff am eu proffesiynoldeb, eu diwydrwydd a’u hymroddiad wrth fynd i’r afael â’r problemau llifogydd yn ystod y stormydd difrifol.  Wrth ychwanegu ei ddiolch, canmolodd yr Arweinydd y staff am weithio mewn amodau anodd a pheryglus a gorfod delio â sawl digwyddiad ar yr un pryd.

 

Holodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y gwaith archwiliol a oedd yn cael ei gynnal ar y geuffos yn Commercial Street.  Dywedodd y  Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod gwaith arolwg archwiliol y geuffos yn mynd yn ei flaen a bod llaid wedi’i waredu ohoni.       

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet

 

(1)        Yn cymeradwyo’r camau gweithredu a gymerwyd i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 fel y’u hamlinellir yn Adroddiad Blynyddol Ymchwiliadau i Lifogydd 2019-20;

 

(2)        Yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Ymchwiliadau i Lifogydd 2019-20. 

505.

Darparu Gwasanaethau Diogelwch Traethau a Dŵr mewn Partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar ddarparu gwasanaethau Diogelwch Traethau a D?r gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn 2020 yn dilyn yr achosion o’r Coronafeirws. Hefyd, ceisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu trefniant partneriaeth hirdymor newydd gyda’r RNLI i gynnal gwasanaeth tymhorol achub bywydau ar draethau lleol a, thrwy wneud hynny, ceisio hawlildiad o dan baragraff 3.2.3 Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor o’r gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau trwy gystadleuaeth agored a chytundeb i lunio contract gyda’r RNLI.

 

Esboniodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod y Coronafeirws wedi cael effaith sylfaenol ar gyflwyno gwasanaethau yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn ymgymryd â nhw yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud yn genedlaethol. Darparwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd fod swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr  a staff yr RNLI, dros yr wythnosau diwethaf, wedi cymryd rhan mewn proses bedwar cam i bennu lefel gwasanaeth sy’n ymarferol ac yn ddiogel. Rhestrwyd y pedwar cam yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod cynllunio ar gyfer darpariaeth 2020 wedi dod o dan ddylanwad:

 

  • Y cyfnod rhybudd cyn diwygio cyfyngiadau’r Llywodraeth
  • Gallu ac argaeledd achubwyr bywyd i’w defnyddio ac, mewn ambell achos, eu hyfforddi ar fyr rybudd
  • Y logisteg gyffredinol sy’n ofynnol i gynnal gwasanaeth effeithiol
  • Proffil risg y traeth (sydd, efallai, wedi newid yn sgil cyfyngiadau ar deithio a gofynion cadw pellter cymdeithasol)
  • Data achub hanesyddol
  • Adolygu pa seilwaith sydd eisoes yn ei le ac ymhle’r oedd y bylchau.

 

Esboniodd fod swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r RNLI wedi dod i gytundeb ynghylch darparu gwasanaethau diogelwch traethau a d?r ar gyfer tymor yr haf 2020.  Roedd y ddarpariaeth a lansiwyd yn cynnwys y canlynol, a oedd yn destun monitro ac y gallai newid:

 

· Bae Rest: 20 Mehefin gyda 6 Medi yn ddyddiad gorffen.

· Traeth Coney/Sandy Bay: 4 Gorffennaf gyda 6 Medi yn ddyddiad gorffen.

· Bae Trecco: 4 Gorffennaf gyda 6 Medi yn ddyddiad gorffen (yn amodol ar gadarnhad cyllid gan barc gwyliau Parkdean ym Mae Trecco)

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd mai’r cynnig, felly, oedd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r RNLI yn dod i gytundeb partneriaeth tair blynedd newydd i weithredu gwasanaethau tymhorol i achub bywydau ar draethau Porthcawl, yn dechrau yn 2021.  Esboniodd y cyfraniad cyllid craidd o £38,000 y flwyddyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac y byddid yn ceisio cyllid ychwanegol oddi wrth randdeiliaid allweddol er mwyn cynyddu lefel yr adnodd sydd ar gael. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd am yr adroddiad a’r gwaith ar y gwasanaeth hanfodol hwn.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod Aelodau’r Cabinet yn pryderu am effaith cyni ar wasanaeth y badau achub a’u bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 505.

506.

Grant Cynnyrch Hylendid Amsugnol Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyraniad grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau ailgylchu Cynnyrch Hylendid Amsugnol, atal Rheolau Gweithdrefnau Contract perthnasol y Cyngor a dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gweithrediadau – Cymunedau gydweithio â Kier i brynu cerbydau ac offer er mwyn cefnogi’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol.

 

Esboniodd fod y Cyngor, tra’n caffael contract gwastraff y Cyngor yn 2017, wedi cyflwyno casgliad ar wahân ar ochr y ffordd ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol a’u hailgylchu. Dywedodd fod hwn wedi bod yn wasanaeth poblogaidd ers ei gyflwyno a bod 1,187 tunnell fetrig o’r gwastraff hwn wedi’i atal rhag mynd i dirlenwi yn 2019-20. Ar hyn o bryd, roedd gan y gwasanaeth tua 7,000 o ddefnyddwyr cofrestredig ar ddiwedd Mai 2020, ac roedd y gwasanaeth yn cael ei reoli’n rheolaidd i osgoi ymweliadau diangen â phobl nad oes arnynt angen y gwasanaeth hwn mwyach.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol cynaliadwy i gynifer o bobl ledled Cymru â phosibl, trwy gyllid cyfalaf Awdurdodau Lleol ar gyfer offer a thrwy ystyried atebion triniaeth yn y dyfodol ar gyfer ailgylchu’r cynnyrch hwn. Roedd manylion pellach i’w gweld yn adran 3 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod y Cyngor wedi ymgymryd ag ymarfer marchnad feddal i bennu p’un a ellid prynu’r cerbydau arbenigol gofynnol am bris tebyg i’r cerbydau yr oedd Kier Environmental Services yn eu caffael. Trwy’r ymarfer hwn, ymddengys fod cynnydd mewn costau o oddeutu £5000 y cerbyd, o gymharu â’r costau a drafodwyd gan Kier.

 

Ceisiodd awdurdod dirprwyedig i gysylltu â Kier i brynu dau gerbyd ar gyfer Cynnyrch Hylendid Amsugnol ac y byddai’r cerbydau’n aros ym mherchenogaeth y Cyngor. Ond, Kier fyddai’n cynnal diogelwch ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw’r cerbydau trwy gydol cyfnod y contract. Ar ddiwedd cyfnod y contract, byddai’r cerbydau’n cael eu dychwelyd i’r Cyngor a byddai’r Cyngor yn elwa o ostyngiad ariannol yng nghost flynyddol y contract ar gyfer yr eitemau hyn a byddai hyn yn gofyn am amrywiad i’r contract gwastraff presennol.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod Canolfan Ailgylchu Cymunedol a Gorsaf Drosglwyddo Tondu yn gweithredu o dan drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yn ystod 2019, arolygodd CNC y safleoedd a rhoi cyfarwyddyd am waith gwella draenio er mwyn caniatáu i’r ardaloedd storio allanol barhau i gael eu defnyddio. Mewn ymdrech i gyfyngu risg cyfyngiadau gan CNC, rhoddodd Kier gyfarwyddyd ar unwaith i gontractwr osod a thrwsio’r draenio ar y safleoedd hyn.

 

Ychwanegodd fod y Cyngor yn gosod Canolfan Ailgylchu Cymunedol a Gorsaf Drosglwyddo Tondu ar brydles i Kier a bod y brydles yn gosod ymrwymiad ‘cynnal a chadw a thrwsio’ ar Kier. Fodd bynnag, cydnabu’r gwasanaeth fod y gwaith draenio hwn yn mynd y tu hwnt i’r gofynion hyn a bod yr addasiadau hyn o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth CNC i wella safonau gweithrediadau safle. Byddai’r gwaith draenio hwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 506.

507.

Gofal Cymdeithasol Plant – Trefniadau Mabwysiadu Rhanbarthol: Gwerthuso Opsiynau pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, adroddiad yn hysbysu’r Cabinet am ganlyniad y gwerthusiad annibynnol o’r trefniadau mabwysiadu rhanbarthol presennol a’u priodoldeb yn sgil creu Partneriaeth Ranbarthol newydd Cwm Taf Morgannwg.  Hefyd, ceisiodd hi gymeradwyaeth gan y Cabinet i fwrw ymlaen â’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ers 1 Ebrill 2019, wedi’u darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn hytrach na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, fel bod penderfyniadau yn cyd-fynd ar draws iechyd a llywodraeth leol.

 

Ychwanegodd fod y newidiadau i’r ffiniau wedi effeithio ar nifer o wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er nad oedd y tarfu ar wasanaethau cyffredinol efallai wedi bod mor arwyddocaol â’r tarfu ar y Byrddau Iechyd.  Esboniodd fod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr angen gwerthusiad trylwyr o’r trefniadau mabwysiadu rhanbarthol cydweithredol presennol o gymharu ag opsiynau eraill, oherwydd y trosglwyddiad.  Mae’r opsiynau i’w gwerthuso wedi’u crynhoi isod:

 

Opsiwn 1: Parhau â’r trefniadau cydweithredol rhanbarthol presennol h.y. bod Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn aros yn rhan o Ranbarth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aros yn rhan o Ranbarth Bae’r Gorllewin gynt (Gorllewin Morgannwg bellach).

 

Opsiwn 2: Bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gadael cydweithrediad rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ac yn ymuno â chydweithrediad rhanbarthol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd.

 

Opsiwn 3: Bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn creu Cydweithrediad (Mabwysiadu) Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod y prosiect wedi’i gynnal yn ystod misoedd Hydref i Ragfyr 2019 a’i fod yn cynnwys cyfres o gyfweliadau wyneb yn wyneb gydag unigolion a grwpiau bychain, gweithdy gyda staff o’r tîm rhanbarthol presennol, galwadau cynadledda a darllen a dadansoddi nifer o ddogfennau.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yr ystyrid y byddai angen i’r trefniadau presennol, o safbwynt cyflwyno gwasanaethau, barhau yn y tymor canolig o leiaf, ond er hynny, roedd hyn eisoes wedi ac y byddai’n parhau i beri rhai heriau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran ei drefniadau partneriaeth a chynllunio strategol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i’r cyfarwyddwr corfforaethol am yr adroddiad cynhwysfawr a chroesawodd yr argymhellion. Dywedodd fod y penderfyniadau wrth edrych at y dyfodol yn synhwyrol iawn i’r gwasanaeth mabwysiadu ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Ychwanegodd y byddem yn parhau i weithio tuag at alinio ymhellach o fewn rhanbarthau’r byrddau iechyd ac o ran y gwaith y gwna’r Cyngor.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod pwysigrwydd ac angen mawr i bobl fabwysiad plant mewn gofal ac, er ei bod yn broses hir, roedd yn broses drylwyr gan fod dyletswydd gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tuag at y plant hyn. 

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 507.

508.

Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – Band B Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol Band B diwygiedig i Lywodraeth Cymru sy’n newid Cynllun De-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr am Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd (dau ddosbarth mynediad a dosbarth meithrin). Hefyd, ceisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnal arfarniad opsiynau ac astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cabinet, ym mis Hydref 2017, wedi cymeradwyo blaenoriaethau Band B Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn cynnwys ysgol â 2.5 dosbarth mynediad ynghyd â dosbarth meithrin i ardal de-ddwyrain bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ar y pryd, cytunodd y Cabinet hefyd i ymgymryd â gwaith dichonoldeb pellach ar gyfer Ysgol Gynradd newydd i Fynydd Cynffig a fyddai, yn dibynnu ar y canlyniad a’r cyllid sydd ar gael, yn gallu cael ei gyflwyno fel cynllun â blaenoriaeth ym Mand C.

 

Ychwanegodd fod cymeradwyaeth ddilynol y Cabinet wedi’i gael ym mis Ionawr 2020, i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ysgol dwy ffrwd, dau ddosbarth mynediad, a dosbarth meithrin (h.y. darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ar safle datblygu arfaethedig Parc Afon Ewenni.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod system wresogi safle babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi methu’n drychinebus ym mis Tachwedd 2019 a bod y gwaith trwsio wedi gorfodi’r ysgol i gau am dair wythnos. Dosbarthwyd disgyblion a staff i ysgolion cyfagos dros dro er mwyn i’r dysgu a’r addysgu barhau. Roedd arolwg o gyflwr yr adeilad a gynhaliwyd pan oedd yr ysgol ar gau wedi gostwng cyflwr yr ysgol o’i gyflwr blaenorol, hynny yw “C”, i gategori “D”. Ychwanegodd fod penderfyniad wedi’i wneud ar 13 Mawrth 2020 i gau’r ysgol a darparu gofod addysgu arall fel mater o frys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y cynllun i ddarparu ystafelloedd dros dro wedi’i roi ar dendr trwy gystadleuaeth fechan dan Lot 11 Fframwaith Caffael Cyfalaf Ysgolion De-ddwyrain Cymru (SEWSCAP 3). Gwerthuswyd y cynigion i sefydlu pa dendr oedd yn fwyaf manteisiol yn economaidd. Darparwyd rhagor o gefndir yn adran 3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig, sy’n ail-gydbwyso’r rhaglen rhwng y gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain (fel yr amlinellir ym mharagraff 3.9 yr adroddiad hwn), wedi’i hystyried gan y panel cyfalaf. Roedd y panel wedi argymell bod y Gweinidog yn cymeradwyo’r diwygiad hwn. Fodd bynnag, nid oedd cadarnhad swyddogol o benderfyniad y Gweinidog wedi cyrraedd eto.

 

Ychwanegodd eu bod wrthi’n dyfarnu’r Tendr ar gyfer prynu adeiladau dros dro i safle babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig. Er bod ymrwymiad ariannol sylweddol i gyflenwi adeiladau, mae’r pryderon cyffredinol am ddau safle ar wahân yr ysgol gynradd, ynghyd â maint yr adeilad iau, yn parhau.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd oblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd â’r Goblygiadau Ariannol a restrir yn adrannau 6 a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 508.

509.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer eitemau i’w cynnwys yn y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 31 Hydref 2020.

 

Esboniodd fod llawer o darfu wedi bod i’r rhaglen gyfarfodydd oherwydd pandemig Covid 19 a, hyd yn hyn, nid oeddem wedi cael Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i osod y cyfarfodydd yn ffurfiol yng nghalendrau Aelodau.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio fod darpar gyfarfodydd y Cabinet, y Cyngor a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi’u hamserlennu a’u bod wedi’u hamlinellu yn Atodiadau 1-3 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet:

 

           Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 31 Hydref 2020 yn Atodiad 1;

 

           Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel y’u dangosir yn Atodiadau 2 a 3 yn y drefn honno.

510.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys. 

511.

Eithrio’r Cyhoedd

Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyhoedd, o dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, yn cael eu heithrio o’r cyfarfod tra’r oedd yr eitem fusnes ganlynol yn cael ei hystyried gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio, fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12, 14 ac 16 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Yn sgil cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi’u heithrio o’r cyfarfod, oherwydd ystyrid bod y lles i’r cyhoedd wrth gynnal yr eithriad, yn yr holl amgylchiadau yn gysylltiedig â’r eitem, yn drech na’r lles i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.

512.

Cymeradwyo Cofnodion wedi’u Heithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 25/02/20 a 10/03/20

513.

Grant Cyfalaf arfaethedig y Gronfa Gofal Integredig i Linc Cymru

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z