Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 15fed Medi, 2020 14:30

Lleoliad: o bell trwy Skype

Cyswllt: Gwasanaethau Democraticaidd 

Nodyn: Note: Please note that due to the requirement for social distancing this meeting will not be held at itsusual location. This will be a virtual meeting and Council Members and Officers will be attending remotely. If you have any queries regarding this, please contact abinet_committee@bridgend.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

526.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o fuddiant canlynol:

 

Y Cynghorydd D Patel – buddiant rhagfarnol yn Eitem 16 gan ei bod wedi'i henwi yn yr adroddiad. Buddiant personol yn Eitem 17 gan fod ei phortffolio Cabinet wedi'i enwi yn yr adroddiad. Gadawodd y Cynghorydd Patel y cyfarfod tra bod eitem 16 yn cael ei hystyried.

 

Y Cynghorydd EM Williams – Buddiant personol yn eitem 14 ar yr Agenda, gan fod ei wyrion yn derbyn Teithio gan Ddysgwyr.

 

Y Cynghorydd CE Smith - Buddiant personol yn eitem 15 ar yr Agenda, gan fod ganddo nithoedd a nai a fynychodd Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig.

527.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 147 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/06/2020 and 21/07/2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Bod cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 a 21 Gorffennaf 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

528.

Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd 2020 pdf eicon PDF 734 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoliadol, adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd (APR) Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2020, sy’n seiliedig ar setiau data ansawdd aer a gafwyd yn 2019. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn cyflwyno fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru cyn 30 Medi 2020, yn ogystal ag i ystyried y Cynllun Gweithredu Drafft mewn perthynas ag allyriadau aer yn Park Street, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yna cyflwynodd Swyddogion o’r adran Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) i gyflwyno'r adroddiad.

 

Cynghorwyd yr Aelodau, o dan Adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, bod gan bob awdurdod lleol rwymedigaeth i adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd, ac i benderfynu a yw amcanion ansawdd aer i ddiogelu iechyd yn debygol o gael eu cyflawni.  Pan fo adolygiadau ansawdd aer yn nodi nad yw'r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, neu nad ydynt yn debygol o gael eu cyflawni, mae adran 83 o Ddeddf 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer ('AQMA'). Mae Adran 84 o'r Ddeddf yn sicrhau bod rhaid gweithredu wedyn ar lefel leol, a amlinellwyd mewn Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) penodol, i sicrhau bod ansawdd aer yn yr ardal a nodwyd yn gwella. 

 

Rhoddodd yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol, a atodir yn Atodiad 1 i'r prif adroddiad, fanylion am y data a gadarnhawyd ar gyfer monitro ansawdd aer a gynhaliwyd yn 2019 o fewn CBSP.

 

Cafodd Gorchymyn AQMA Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ei weithredu'n swyddogol ar 1 Ionawr 2019. Mae’r ardal a ddynodwyd yn Orchymyn Rhif 1 Ardal Rheoli Ansawdd Aer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Park Street wedi ei amlinellu yn Ffigur 1, a ddangosir ar y cynllun ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Amlinellodd Adroddiad Cynnydd Blynyddol (APR) 2020 y diwygiadau a wnaed i rwydwaith monitro NO2 anawtomatig a ddefnyddiwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2019. Digomisiynwyd y lleoliadau monitro NO2 anawtomatig presennol i ganiatáu cydymffurfiaeth barhaus, a chomisiynwyd lleoliadau monitro NO2 newydd er mwyn cryfhau’r ddealltwriaeth mewn ardaloedd monitro presennol, megis AQMA Park Street a Cowbridge Road.

 

Mae APR 2020 yn cadarnhau bod ansawdd aer wedi parhau i fod yn bryder cyffredin yn 2019, ar hyd Park Street gan gyd-daro â ffin ddaearyddol Gorchymyn AQMA Park Street, Pen-y-bont ar Ogwr a godwyd ar 1 Ionawr 2019. Nododd hefyd bod cyfartaleddau blynyddol uwch o ran lefel ansawdd aer i’w cael yn agos i Park Street, ar hyd rhwydweithiau ffyrdd cyfagos lle mae cysylltiad perthnasol yn amlwg. Mae Ffigur 2 yn dangos y safleoedd monitro anawtomatig sydd wedi'u lleoli yn AQMA Park Street a’r cyffiniau. Eglurwyd rhagor o fanylion am hyn yn yr adroddiad.

 

Roedd yn hanfodol bod y safleoedd monitro a amlygwyd yn cael eu harchwilio'n ofalus a bod camau addas yn cael eu cymryd pan fo angen. Gall camau o'r fath olygu diwygio Gorchymyn AQMA Park Street, gan gynnwys diwygio'r ffin ddaearyddol er mwyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 528.

529.

Panel Adfer Trawsbleidiol - Canfyddiadau ac Argymhellion Cam 1 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol adroddiad (ar ran y Pwyllgor) i hysbysu’r Cabinet am Ganfyddiadau ac Argymhellion Cam 1 y Panel Adfer Trawsbleidiol sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i'r Bwrdd Gweithredol nodi y bydd gwaith y Panel Adfer Trawsbleidiol yn parhau, gydag adolygiadau rheolaidd o'r gwaith er mwyn helpu i sicrhau effeithiolrwydd ac ymateb i unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol y cytunwyd i sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar 13 Gorffennaf 2020. Mae aelodau'r Panel Adfer yn cynnwys y 12 Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ynghyd â 4 Aelod ychwanegol: 2 Llafur; 1 Cynghrair Annibynnol, ac 1 Ceidwadwr, i’w henwebu gan Arweinwyr Gr?p.  Sefydlwyd y Panel gyda'r nod o lunio, hysbysu, a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adfer y Cyngor, a fyddai’n sail i'r cyfnod o adfer yn sgil pandemig Covid-19.

 

Cyfarfu'r Panel Adfer Trawsbleidiol chwe gwaith yn ystod mis Awst ac fe'u cefnogwyd gan yr Uwch Swyddog Democrataidd – Craffu, dau Swyddog Craffu, a Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Democrataidd a Chyfreithiol.  Yn ystod ei gyfarfodydd, ystyriodd y Panel Adfer Trawsbleidiol gyflwyniadau gan wahoddedigion, gan gynnwys: Swyddogion Tîm y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB); Prif Weithredwr, Rheolwr Gweithredol, a Llywiwr Cymunedol o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO); y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Phennaeth y Gwasanaethau i Oedolion; Cyfarwyddwr Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr; y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a’r Rheolwr Gr?p - Tai.

 

Ychwanegodd fod y Panel Adfer Trawsbleidiol, yng Ngham 1, wedi mabwysiadu dull strwythuredig o ddethol meysydd allweddol o'r rhai a nodwyd i dderbyn blaenoriaeth, a hynny er mwyn bwydo i mewn i'r broses adfer, a’u bod wedi nodi materion allweddol yn dilyn archwiliad.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi derbyn adroddiad ar ganfyddiadau'r Panel Adfer Trawsbleidiol ar 7 Medi 2020, a chymeradwyodd y dylid anfon argymhellion y Panel i'r Cabinet fel rhan o'r broses adfer, er mwyn bwydo’r broses o adlinio Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol y camau dilynol a gynigiwyd ar gyfer y Panel Adfer, ac ystyriodd a oedd yn dymuno i waith y Panel barhau y tu hwnt i fis Medi.  Cydnabuwyd bod adferiad y Fwrdeistref Sirol yn sgil pandemig Covid-19 yn rhaglen sylweddol a chymhleth sy’n allweddol i fywiogrwydd economaidd a gwydnwch cymunedol y fwrdeistref sirol a'i thrigolion.

 

Cwblhaodd y Cadeirydd ei chyflwyniad drwy gyfeirio’r Aelodau at yr 16 Argymhelliad a wnaed gan y Panel Adfer Trawsbleidiol ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, sydd wedi’u hatodi i'r adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Aelodau'r ddau gorff uchod am y gwaith yr oeddent wedi'i gyfrannu, fel yr adlewyrchir yn Atodiad yr adroddiadau.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai'r argymhellion yn cael eu harchwilio ar y cyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 529.

530.

Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl: Safleoedd Salt Lake a Sandy Bay pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad i'r Cabinet, a hynny er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am gyflwyniad safleoedd ymgeisiol i’r Cynllun Datblygu Lleol a'r fframwaith defnydd tir arfaethedig ar gyfer y cynllun strategol hwn. Roedd hefyd am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y bwriad i farchnata'r safle manwerthu bwyd sydd ar ran o faes parcio The Green a Salt Lake, ac, yn olaf, roedd am ofyn am benderfyniad ffurfiol i awdurdodi swyddogion i ddechrau'r holl gamau angenrheidiol i gaffael tir i gefnogi prosiect Adfywio Glannau Porthcawl, gan gynnwys camau paratoadol i wasanaethu Gorchymyn Prynu Gorfodol.

 

Cadarnhaodd fod dau ddarn o dir o fewn safle Adfywio Glannau Porthcawl y mae'r prif dirfeddianwyr yn awyddus i hyrwyddo eu datblygiad ac yna eu gwarediad:

 

1.    Tir ar safle maes parcio Salt Lake (cam 1) sy'n eiddo i'r Cyngor yn unig.

2.    Tirddaliadau sylweddol ar safleoedd Coney Beach a Sandy Bay (cam 2), sy'n eiddo i'r Cyngor a thirfeddiannwr mawr arall.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at rai o'r camau nesaf wrth gyflawni'r prosiect hwn.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol, fod y safle, ar hyn o bryd, wedi'i ddynodi ar gyfer datblygiad cymysg o fewn y Cynllun Datblygu Lleol presennol. Cefnogir y dynodiad hwn gan y Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd, y cyfeirir atynt yn aml fel y "Seven Bays Project – Porthcawl Waterfront SPGl". Mae'r safle wedi'i gyflwyno fel safle ymgeisiol i'w ystyried fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol 2018-2033 (CDLl) newydd.

 

Eglurodd fod y prif dirfeddianwyr, er mwyn dangos tystiolaeth o allu a hyfywedd y safle, wedi cynhyrchu fframwaith defnydd tir a phrif gynllun drafft i'w hystyried fel rhan o broses y CDLl. Dangoswyd y cynllun defnydd tir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Aeth Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol ymlaen i gadarnhau bod y Cyngor, fel y cam cyntaf wrth gyflwyno'r cynllun Cam 1 ar dir maes parcio Salt Lake, yn bwriadu marchnata safle manwerthu bwyd o tua 2.2 erw ar ran ogleddol o faes parcio The Green a Salt Lake. Dangosodd Atodiad 2 yr adroddiad amlinelliad coch o'r safle lle bwriedir gwneud hyn. 

 

Rhagwelwyd y bydd y marchnata'n dechrau yn gynnar yn nhymor yr hydref 2020, ac y bydd ceisiadau'n cael eu derbyn a'u gwerthuso erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y flwyddyn newydd, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac i geisio cymeradwyaeth i waredu'r safle.

 

Mae safle'r siop fwyd yn elfen allweddol o'r uwch gynllun ehangach sydd wedi'i lunio ar gyfer Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl, a'r bwriad yw iddi weithredu fel rhagflaenydd a chatalydd ar gyfer camau datblygu ar draws y safle ehangach yn y dyfodol.

 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod y prif berchenogion tir yn y safleoedd Cam 2, Sandy Bay a Coney Beach, yn awyddus i gyflwyno eu tirddaliadau i'w gwaredu. Mae rhai parseli tir gwag lle mae angen glanhau'r teitl neu sydd o dan berchnogaeth trydydd parti ac y mae angen eu caffael.

 

Bydd y Cyngor yn ceisio caffael tir y trydydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 530.

531.

Gwasanaeth Mewnol ar gyfer Dioddefwyr Camdriniaeth Ddomestig pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad uchod a gofynnodd i'r Cabinet a ellid ei ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol, a hynny er mwyn cael trafodaethau pellach a manylach gyda rhanddeiliaid.

 

Cytunodd yr Aelodau â'r cynnig hwn.

 

PENDERFYNIAD:                        Fod y Cabinet wedi cytuno i ohirio'r eitem hon er mwyn mynd ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid.

 

532.

Cynllun Atal ac Ymateb Covid-19 ar gyfer Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Atal ac Ymateb COVID-19 ar gyfer Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

 

Er cefndir, dywedodd wrth yr Aelodau fod llythyr ar y cyd gan Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, wedi’i ddanfon ar 27 Gorffennaf 2020, ac ynddo gofynnwyd i Fyrddau Iechyd Lleol arwain y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Atal ac Ymateb Covid-19 Lleol mewn partneriaeth â Phrif Weithredwyr Awdurdodau Lleol.

 

Roedd y Cynllun Ymateb Diogelu Iechyd y Cyhoedd a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru yn cynnwys 3 elfen allweddol, fel a ganlyn:-

 

1.          Atal Coronafeirws (COVID-19) rhag lledaenu drwy olrhain cysylltiadau a rheoli achosion.

2.         Samplu a phrofi gwahanol bobl yng Nghymru.

3.         Goruchwylio'r boblogaeth.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y 3 elfen hyn wedi'u cymeradwyo gan Gynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr.

 

Mae llythyrau a chanllawiau dilynol gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y dylai gweithredu system genedlaethol a lleol integredig yn effeithiol fod yn seiliedig ar chwe egwyddor, fel yr amlinellir yn ail ran paragraff 3.2 yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr, fod gan Awdurdodau Lleol rôl ganolog yn y gwaith o reoli ymateb Covid-19 yng Nghymru. Dangoswyd hyn wrth ddarparu gofal cymdeithasol a chymorth i'r preswylwyr mwyaf agored i niwed; y canolfannau gofal plant sy'n rhoi cymorth i weithwyr allweddol hanfodol a chefnogi plant sy'n agored i niwed; cynnal gwasanaethau hanfodol a'r rôl hollbwysig sydd gan awdurdodau lleol yn y rhaglen Test Trace Protect (TTP) ac ymateb i ddigwyddiadau neu achosion.

 

Aeth yn ei flaeni egluro fod y Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol (RSOG), yn goruchwylio chwe ffrwd waith, sef:

 

           Goruchwylio;

           Samplu a Phrofi;

           Olrhain Cysylltiadau a Rheoli Achosion;

           Cyfathrebu Risg ac Ymgysylltu â'r Gymuned;

           Diogelu, a;

           Brechu torfol Covid-19

 

Mae Cynllun Atal ac Ymateb Cwm Taf Covid-19, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn darparu dull cadarn o ymdrin ag ymateb effeithiol y rhanbarth i fygythiad Covid-19, gan nodi'n glir hefyd sut y byddai'n parhau i wneud hynny.

 

Yn Atodiad 4 o'r Cynllun ceir amlinelliad o’r ystyriaethau ar gyfer mesurau gwella lleol, pan fo cynnydd mewn achosion wedi galw am fesurau ychwanegol i reoli trosglwyddiad yr haint. Roedd Cynllun Gweithredu a dogfennau cysylltiedig hefyd yn cefnogi prif Gynllun.

 

Mae'r Cynllun hefyd yn nodi trosolwg o'r dangosyddion gwyliadwriaeth allweddol a'r amserlen adrodd (cyfeiriwyd at Atodiad 5 o'r adroddiad).

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod tystiolaeth ddiweddar iawn yn dangos fod y firws ar gynnydd unwaith eto trwy rannau o Gymru, er nad oedd cymaint ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd.

 

Cwblhaodd y Prif Weithredwr yr adroddiad drwy gadarnhau y bydd adolygiadau rheolaidd o'r Cynllun yn cael eu cynnal drwy'r Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau effeithiolrwydd gweithredu neu'r angen am newid. Bydd y cynllun hefyd yn cael ei adolygu mewn ymateb i unrhyw faterion rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg. Bydd unrhyw newidiadau arwyddocaol yn cael eu cymeradwyo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 532.

533.

Cynllun Corfforaethol Diweddaraf 2018-2022 wedi’i adolygu ar gyfer 2020-21, yn dilyn effaith Covid-19 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-2022 a adolygwyd ar gyfer 2020-21, yn dilyn effaith Covid-19 (Atodiad A i'r adroddiad), ac i gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol Diwygiedig (Atodiad B) i'r Cyngor gael ei gymeradwyo.

 

Bydd pandemig Covid-19 yn effeithio ar allu'r Cyngor i wneud cynnydd o ran cyflawni’r amcanion llesiant a nodir yn y Cynllun Corfforaethol newydd.  Felly, byddai'n ddoeth ailedrych ar yr ymrwymiadau a'r targedau presennol ac ailffocysu'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweddill 2020-21. 

 

Yn Atodiad A i'r adroddiad eglurhaol amgaewyd dyfyniad o'r Cynllun Corfforaethol wedi'i adnewyddu a oedd yn nodi newidiadau arfaethedig.  Roedd hyn yn cynnwys rhai mân newidiadau i ymrwymiadau CBSP yn ogystal â rhai newydd i adlewyrchu'r meysydd blaenoriaeth allweddol y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt ar gyfer gweddill 2020-21.

 

Mae nifer o fesurau llwyddiant newydd yn y Cynllun hefyd, yn ogystal â rhai cyfredol lle mae'r targedau wedi'u hailystyried.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod ymrwymiadau/gwelliannau newydd wedi'u nodi mewn coch yn y Cynllun newydd, yn ogystal â newidiadau i unrhyw dargedau. Lle'r oedd ymrwymiadau/mesurau wedi'u dileu, dangoswyd y rhain ond â llinell trwyddynt.

 

Pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r newidiadau yn Atodiad A, byddai’r ymrwymiadau a'r mesurau diwygiedig yn disodli'r ymrwymiadau a'r mesurau hynny a nodir yn y Cynllun Corfforaethol presennol, a byddai’n dod yn Gynllun Corfforaethol 2018-2022 wedi'i ddiweddaru a’i adolygu ar gyfer 2020-2021 fersiwn 2. Amgaewyd hwn yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Byddai cyflawni'r uchod yn cael ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a Chynlluniau Busnes y Gyfarwyddiaeth, y byddai'r ddau ohonynt yn cael eu monitro'n agos yn y dyfodol canolig/interim.

 

Awgrymodd yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol rai ychwanegiadau/diwygiadau i'r Cynllun Corfforaethol diwygiedig ac adlewyrchwyd y rhain yn y penderfyniad isod.

 

Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad nad oedd angen byrdwn y Cynllun Corfforaethol i gynnwys yr holl wasanaethau a ddarparodd yr Awdurdod, ond yn hytrach y dylai gyflwyno Cynlluniau Gwella'r Cyngor, yn enwedig yn wyneb y pandemig.

 

PENDERFYNIAD:                          Fod y Cabinet yn cymeradwyo’r diweddariadau i Gynllun Corfforaethol 2018-22 a adolygwyd ar gyfer 2020-21, sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad, ac yn cytuno ar gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig yn Atodiad B i'r Cyngor, gyda'r cafeatau canlynol:

 

  1. Atodiad A – Amcan Llesiant 1 – Cefnogi Economi Gynaliadwy Lwyddiannus – Maes Blaenoriaeth: Twf a Ffyniant – Naratif pellach i'w gynnwys ar waith sy'n cael ei wneud i leihau nifer yr eiddo gwag yng nghanol trefi a hyrwyddo'r economi i'r eiddo manwerthu hynny sydd mewn busnes ar hyn o bryd.

 

     2.     Atodiad A – Amcan Llesiant 2 - Helpu Pobl a Chymunedau i fod yn fwy Iach a Chryf.

 

       a)  Lle cyfeirir at weithio mewn partneriaeth, ychwanegu at hyn drwy gynnwys y trydydd sector, yn ogystal â Chynghorau Tref a Chymuned, a Grwpiau Cymuned.

b)  Ychwanegu darpariaeth yngl?n â'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gefnogi 'pobl sy'n cysgu ar y stryd' i'w cadw oddi ar y strydoedd, yn ogystal â'r gwaith sy'n cael ei wneud  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 533.

534.

Datblygu Cynllun Gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol CBSP 2020-2024 ac i’w fabwysiadu.

 

Dywedodd fod yn rhaid i'r Cyngor, o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gyhoeddi cynllun gweithredu sy'n cynnwys amcanion sy'n disgrifio sut yr eir i'r afael â materion cydraddoldeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y pedair blynedd nesaf.

 

Cyflwynwyd adroddiadau cynnydd blynyddol sy'n disgrifio'r gwaith sy'n gysylltiedig â gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol 2016-2020 i Bwyllgorau Cydraddoldebau’r Cabinet ers 2016. Bydd adroddiadau cynnydd blynyddol yn parhau i gael eu cyflwyno yn ystod oes Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 10 Mawrth 2020 (atodiad 1 i'r adroddiad). Er mwyn datblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb (atodiad 2) roedd y Cyngor wedi:

 

·         Adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 – 2020 a'n cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod hwn

·         Rhoi rhagor o ystyriaeth i bob un o'r naw nodwedd warchodedig a gwmpesir gan dri phrif nod y ddyletswydd gyffredinol, ynghyd â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, a gweithredoedd eraill a waherddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

·         Ystyried gweithredu'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol (a ohiriwyd bellach tan fis Mawrth 2021)

·         Ystyried materion cenedlaethol a lleol yn ogystal ag ymgyrch Black Lives Matter ac effaith COVID-19

·         Defnyddio’r adborth a geir yn rheolaidd gan grwpiau cydraddoldeb ac amrywiaeth lleol a thrwy Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr, megis pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau a sut y gallwn helpu wrth gefnogi, hyrwyddo a gwella ymwybyddiaeth o faterion fel troseddau casineb a Mis Hanes LGBTQ

·         Gweithio gyda gwasanaethau i ddatblygu camau gweithredu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, i’w cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf

 

Yna cyfeiriodd yr adroddiad at y broses ymgynghori a oedd wedi digwydd o ran y Cynllun Gweithredu, a’r 25 o ganlyniadau a 58 o gamau gweithredu a ddeilliodd ohono.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod pob un o'r amcanion yn y cynllun gweithredu yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig perthnasol, pum ffordd o weithio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, a'n blaenoriaethau corfforaethol.

 

Byddai cynllun gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn cael ei adolygu'n flynyddol, a hynny er mwyn dangos cynnydd yn erbyn camau gweithredu, i ymgorffori meysydd gwaith newydd i'r cyngor, i adlewyrchu unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, ac i ddatblygu unrhyw amcanion newydd drwy gydol y cynllun.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol y Cynllun Gweithredu a oedd, yn ei barn hi, yn eglur a’n hawdd ei ddefnyddio o ran sefydlu'r hyn yr oeddem wedi ymrwymo iddo. Roedd yn arbennig o falch o weld ymrwymiad i'r ymgyrch menopos, chwarae, llwgu yn ystod y gwyliau, ac ymestyn y gwaith o fonitro bylchau cyflog i gynnwys unrhyw fylchau posibl rhwng gweithwyr BAME a gweithwyr anabl. Gan fod y Cynllun Gweithredu'n esblygu, roedd yn edrych ymlaen at weld mwy o waith yn cael ei ychwanegu ato yn y dyfodol, ar bobl ag anableddau cudd a pherthnasoedd iach er enghraifft.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio hefyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 534.

535.

Cynllun Cyflawni Gwasanaethau - Ein Gweledigaeth Strategol 5 Mlynedd pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad i’r Cabinet er mwyn rhoi adborth ymgynghori cyhoeddus iddynt ar gyfer Cynllun Cyflawni drafft y Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant – Ein Gweledigaeth 5 Mlynedd 2020 - 2025. 

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Cyflawni a Chynllun Gweithredu Gwasanaethau 5 Mlynedd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

 

Er cefndir, cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Cynllun Cyflawni Gwasanaethau 5 Mlynedd drafft y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (2020-2025) yn adeiladu ar y Strategaeth Gomisiynu ddeng mlynedd flaenorol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r ddogfen 'Gweledigaeth ar Waith, Canlyniadau Gwell i Blant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd' Gofal Cymdeithasol Plant.  Mae'r dogfennau hyn wedi bod yn hanfodol wrth lywio strategaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac, yn eu tro, wedi llywio'r ystod o raglenni trawsnewid hanfodol a fu’n ymateb i alw cynyddol a phwysau ariannol. Roedd y diweddariad o’r Cynllun Cyflawni Gwasanaethau wedi'i atodi fel Atodiad 1 i'r adroddiad, tra bod ei Gynllun Gweithredu ategol i'w weld ar dudalen 572 o'r adroddiad (pecyn).

 

Parhaodd drwy ddweud bod y Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau drafft wedi'i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu'r Cyngor ar 13 Chwefror 2020.  Cododd y Pwyllgor rai sylwadau nodedig sydd wedi'u hychwanegu i’r  Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau ers hynny, ac maent wedi’u cynnwys ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion fod yr  ymgynghoriad ar ddrafft Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau 5 Mlynedd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2020-2025 wedi’i lansio ar 9 Mawrth 2020, ac fe'i cyd-gysylltwyd gan Adran Ymgynghori ac Ymgysylltu'r Cyngor.  Crëwyd crynodeb o'r Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau a datblygwyd arolwg a oedd yn cynnwys 11 cwestiwn.

 

Anfonwyd yr arolwg at bob un o'r 1,401 o aelodau Panel Dinasyddion hefyd, yn eu ffurfiau dewisol, ac at 170 o grwpiau rhanddeiliaid a nodwyd gan y tîm Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant drwy gyswllt e-bost. Aeth BAVO ati hefyd i rannu’r ymgynghoriad â'u rhanddeiliaid er mwyn cael adborth ar Gynllun Cyflenwi Gwasanaethau 2020-2025.

 

Derbyniodd yr arolwg 297 o ymatebion drwy gyfuniad o arolygon ar-lein a  rhai papur.  Mae data demograffig cymdeithasol y Panel Dinasyddion yn adlewyrchu croestoriad da o boblogaeth y fwrdeistref sirol ac roedd yr holl ymatebwyr yn byw yn y fwrdeistref sirol.

 

Cadarnhaodd fod y 'penawdau' gan ymatebwyr yr arolwg wedi'u cynnwys ym mharagraff 4.9 o'r adroddiad.

 

Yn dilyn y broses ymgynghori, lluniwyd adroddiad a oedd yn darparu canfyddiadau'r adborth ac roedd hwn ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau wedi'i ddrafftio'n wreiddiol yn barod ar gyfer y broses ymgynghori yn 2019-20, ond fod effaith COVID-19 wedi arwain at oedi cyn datblygu'r adroddiad ac, o ganlyniad, mae llawer o'r ffigurau ariannol yn y cynllun yn seiliedig ar ffigurau 2019-20 yn hytrach nag amcanestyniadau o'r flwyddyn ariannol gyfredol, sef 2020-21.  Byddai'r ffigurau'n cael eu diweddaru'n unol â hynny cyn cyhoeddi'r Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau.  

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad, gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 535.

536.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol Awdurdodau Lleol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Ebrill 2019 – Mawrth 2020 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad a'i ddiben oedd hysbysu Pwyllgor y Cabinet o adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r adolygiad blynyddol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth y Gwasanaethau i Blant gyda chyfraniadau gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

O ran cefndir yr adroddiad, mae’r cod ymarfer ar gyfer adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ym mis Ebrill 2019 yn amlinellu bwriad AGC i ysgrifennu a chyhoeddi llythyr blynyddol ar gyfer awdurdodau lleol, a fyddai'n:

 

·         rhoi adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd gan AGC yn ystod y flwyddyn;

·         adrodd ar y cynnydd y mae'r awdurdod lleol wedi'i wneud wrth weithredu argymhellion o arolygiadau a/neu adolygiadau o ymarfer plant ac oedolion;

·         amlinellu ein blaenraglen waith.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod y llythyr adolygu blynyddol wedi'i gyhoeddi ar 3 Awst 2020 a’i fod yn crynhoi adolygiad AGC o berfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran cyflawni ei swyddogaethau statudol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.

 

Mae cynnwys llythyr perfformiad 2019-20 wedi’i seilio ar y gweithgaredd gwerthuso perfformiad a gynhaliwyd gan yr arolygiaeth yn ystod y flwyddyn. Y gweithgaredd hwn oedd arolygu gwasanaethau oedolion h?n ym mis Medi 2019, a thrafodaethau ac ymweliadau amrywiol â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ystod y flwyddyn. Cafodd gweithgarwch â ffocws a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer mis Mawrth 2020 ei ohirio oherwydd COVID-19.

 

Roedd y llythyr perfformiad blynyddol ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Crynhodd y cryfderau a'r meysydd i'w gwella yn unol ag egwyddorion Deddf 2014 o dan benawdau Llesiant, Pobl, Atal a Phartneriaethau. Roedd y cynnwys yn adlewyrchiad cywir o drafodaethau'r AGC gyda'r gyfarwyddiaeth a'u canfyddiadau parhaus sydd wedi'u rhannu'n gyson â CBSP.

 

Roedd y cynllun gweithredu a ddatblygwyd yn sgil yr arolygiad o oedolion h?n ym mis Medi 2019 wedi'i atodi yn Atodiad 2, er gwybodaeth i'r Aelodau.  

 

Sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Blant yr Aelodau fod y gwelliannau a argymhellwyd gan AGC yn cael eu datblygu, ond bod nifer sylweddol o feysydd cryf yn y maes gwasanaeth hwn hefyd a gafodd gydnabyddiaeth yn arolygiad yr AGC.

 

Ychwanegodd fod amserlenni Asesiadau Plant wedi gwella ers yr arolygiad, gan fod y targedau ar ddiwedd mis Mawrth ar 74%, a’u bod bellach yn cyrraedd 96%. Roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal yn dal yn weddol uchel, er bod y cyfnod clo wedi effeithio ar rywfaint o'r gwaith yn ymwneud â'r maes hwn. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau i Blant yn falch o ddweud nad oedd unrhyw blant ar hyn o bryd mewn lleoliadau sydd ddim yn cael eu rheoleiddio.

 

Ychwanegodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion fod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl H?n wedi cael ei ystyried gan y Cabinet ychydig cyn y cyfnod clo. Roedd targedau gwella o fewn hyn yn cael eu datblygu a, lle bo hynny'n berthnasol, roedd dyddiadau targed  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 536.

537.

Pwyllgor y Cabinet - Cylch Gorchwyl ac Adolygiad Aelodaeth Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad mewn perthynas â'r mater uchod.

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, yn ymrwymo i "archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill, ac os oes angen, i ddiwygio'r ffordd y maent yn derbyn gofal". Atgyfnerthir hyn gan y strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb, gyda gofal cymdeithasol yn 1 o'r 5 maes blaenoriaeth, gyda chamau i'w cymryd a'u cyflawni fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad.

 

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn cychwyn ar raglen waith a gweithgarwch ymgysylltu helaeth i ddatblygu dull 'newydd' o ymdrin â rhianta corfforaethol. Mae'r dull newydd yn ymwneud â gwneud pethau'n wahanol, a manteisio ar alluoedd sefydliadau unigol, gan gynnwys Siarter Wirfoddol newydd y cyfeirir ati ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Mae'r rhaglen waith yn cynnwys ymgysylltu â charfan eang o blant â phrofiad o ofal i nodi beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu iddynt, a beth yw eu disgwyliadau o'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio’n rheolaidd. Gan weithio gyda'r garfan hon, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyd-lunio Siarter Wirfoddol y gall sefydliadau ei mabwysiadu i nodi eu hymrwymiad a'u cynnig unigryw i ofalu am blant profiadol. Bydd y Siarter Wirfoddol hon yn galluogi'r holl randdeiliaid, ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, ac yn y meysydd sydd wedi’u datganoli a’r rhai sydd heb, i ymrwymo i ddatganiad cyffredin o wella cymorth a gweithredu wrth weithio gyda phlant sydd â phrofiad o ofal. Rhagwelir y bydd y Siarter yn caniatáu i lofnodwyr ddisgrifio sut y maent yn ymgysylltu â phlant sydd phrofiad o ofal a'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud yn wahanol neu ei gynnig yn ogystal â phlant sy'n cael profiad o ofal yn y dyfodol.

 

Parhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant drwy ddweud y byddant hefyd, er mwyn adeiladu ar y cytundebau fel y'u nodir yn y Siarter Wirfoddol, yn ceisio defnyddio pwerau deddfwriaethol presennol i gryfhau canllawiau statudol, i egluro rolau a chyfrifoldebau, ac i ymestyn dyletswyddau ar draws y sector cyhoeddus. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy fabwysiadu'r egwyddorion a amlinellir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

Mae aelodaeth Pwyllgor Cabinet presennol y Cyngor - Rhianta Corfforaethol yn cynnwys 15 Aelod Etholedig (6 ohonynt yn Aelodau Cabinet a chanddynt hawliau pleidleisio), y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB) a’r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol. Dangoswyd Cylch Gorchwyl presennol y Pwyllgor ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Yng nghyfarfod diwethaf Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet, trafododd yr Aelodau sut y gellid ei gryfhau a beth fyddai gwerth ymestyn aelodaeth i asiantaethau partner allweddol. Yn bwysig, roedd y Pwyllgor hefyd yn awyddus i sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal (neu blant â phrofiad o ofal) yn cael eu clywed.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar rôl estynedig partneriaid i gynorthwyo yn y modd uchod, gan eu bod hefyd yn rhieni corfforaethol, a chroesawodd y syniad o glywed mwy o leisiau Gofalwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 537.

538.

Polisi Teithio gan Ddysgwyr pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad, a'i ddiben oedd:

 

·         rhoi diweddariad i’r Cabinet ar ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori a gymeradwywyd gan y Cabinet ynghylch y newidiadau arfaethedig i Bolisi Teithio gan Ddysgwyr yr awdurdod lleol; 

·         cynorthwyo'r Cabinet i benderfynu a ddylid parhau ag unrhyw un o'r cynigion ai peidio;

·         nodi sut y byddai'r cynigion yn cyfrannu at yr arbedion cyffredinol i strategaeth ariannol tymor canolig y Cyngor; ac

·         adrodd ar ganlyniadau'r adolygiad strategol annibynnol o drafnidiaeth.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad mai un o nodau ac amcanion yr adroddiad oedd canfod sut y gallai'r Cyngor wireddu’r arbedion a nodwyd ar gyfer maes Teithio gan Ddysgwyr, a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r gorwariant sylweddol presennol.

 

O ran cefndir yr adroddiad, dywedodd wrth y Cabinet fod nifer sylweddol o gymhlethdodau yn cael eu hamlinellu ynddo, a rhoddodd grynodeb ohonynt fel a ganlyn:-

 

  1. Mynd i'r afael â chyfrifoldeb statudol yr Awdurdod Lleol a nodwyd ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ac, yn benodol, pellteroedd statudol ac argaeledd llwybrau cerdded i ysgolion.
  2. Mae'r gyllideb Teithio gan Ddysgwyr o dan bwysau sylweddol, oherwydd bod arbedion o £1.9m wedi'u gwneud ers 2014/15 heb unrhyw newid polisi cyfatebol.
  3. Er y gwnaethpwyd newid polisi o'r fath yn 2015, nid oedd yn ddigon arwyddocaol i gyfrif am yr holl arbedion disgwyliedig a nodwyd yn yr MTFS
  4. Mewn gwirionedd, mae costau wedi cynyddu ar draws sawl agwedd ar gludiant i'r ysgol, er enghraifft ar gyfer disgyblion ADY, disgyblion anabl, a disgyblion ag anghenion meddygol cymhleth.
  5. Daeth yr asesiadau o lwybrau diogel (i ysgolion) i ben yn ddiweddar, gan gefnogi ein gallu i weithredu newid polisi gyda'r nod o wneud arbedion sylweddol a dod â’n hunain o ddiffyg, ac i fynd i'r afael â manylion yr hyn a gyflwynwyd yn y Polisi Teithio gan Ddysgwyr 2015 presennol. Er enghraifft, bydd gan rai disgyblion sydd â brodyr a chwiorydd gymhwysedd i gael cludiant, a rhai sydd heb rai yn anghymwys. Mae rhai disgyblion h?n a arferai dderbyn cludiant i'r ysgol ar bellter y polisi blaenorol yn parhau i elwa ohono, tra bo disgyblion ieuengach ddim.

 

Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, dywedodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad fod y Cabinet wedi cytuno ar ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2019.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth a Pherfformiad Busnes yr Aelodau at dudalen 639 o'r adroddiad (Tabl 1) i weld yr arbedion MTFS a chynnydd y gyllideb yn eu cyfanrwydd, a wnaed er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau ariannol hwn.

 

Yna cyfeiriodd at dudalen 642 o'r adroddiad a’r pum cynnig a ystyrir yno i fynd i'r afael â rhai o'r materion y cyfeirir atynt uchod, ac a nodwyd yn y rhan hon o'r adroddiad eglurhaol ac yn y ddogfen Ymgynghori â'r Cyhoedd (Atodiad 1 i'r adroddiad).

 

Rhoddodd Tabl 2 yr adroddiad fanylion am sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar ddisgyblion a myfyrwyr.

 

O ran yr ymgynghoriad, cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p –  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 538.

539.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band B - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn ymwneud â'r cynigion diweddaraf mewn perthynas â'r ysgol uchod.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, yn enwedig bod y Cabinet, ym mis Ebrill 2009, wedi cymeradwyo nifer o brosiectau unigol a ddeilliodd o astudiaeth ddichonoldeb a oedd yn adolygu darpariaeth dysgu 3 i 18 yn ardal Cefn Cribwr, Corneli, Mynydd Cynffig a'r Pîl.  Cafwyd cymeradwyaeth i ddatblygu prosiect a fyddai’n darparu ar gyfer y bwriad i gyfuno Ysgolion Babanod ac Iau Mynydd Cynffig. Derbyniodd y Cabinet adroddiadau cynnydd pellach o'r dyddiad hwnnw hyd at y dyddiad presennol.

 

Eglurodd fod safle babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, ym mis Tachwedd 2019, wedi dioddef methiant trychinebus ei system wresogi a bod y gwaith atgyweirio wedi arwain at gau adeilad yr ysgol dros dro.

 

Yn sgil yr arolwg cyflwr adeilad dilynol, gostyngwyd cyflwr yr ysgol o'i lefel blaenorol, sef "C", i gategori "D" (hynny yw, 'Gwael – diwedd oes a/neu mewn perygl o gau yn fuan, angen gwaith sylweddol ar unwaith/brys'). Roedd natur y dadfeilio a’r amrywiaeth o faterion a amlygwyd yn yr arolwg yn gwneud gwaith atgyweirio ynysig i elfennau ffabrig unigol yr ysgol yn heriol iawn, ac yn anymarferol yn economaidd. O ganlyniad i'r risg iechyd a diogelwch i ddisgyblion a staff, cytunwyd y byddai adeilad yr ysgol yn cau ac y byddai llety addysgu amgen yn cael ei ddarparu fel mater o frys.

 

Cafwyd cyllid drwy'r rhaglen gyfalaf er mwyn caffael llety dros dro.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr Aelodau fod cymeradwyaeth y Cabinet wedi'i derbyn ar 30 Mehefin 2020 i ail-flaenoriaethu Band B, gan gyflwyno'r cynllun ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig. Derbyniwyd cymeradwyaeth i gyflwyno SOP diwygiedig i Lywodraeth Cymru i adlewyrchu hyn ac i swyddogion ddechrau arfarniad opsiynau ac astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer yr ysgol gynradd newydd arfaethedig. Mae paragraff 4.5 o'r adroddiad yn nodi rhestr hir o opsiynau addysg a ystyriwyd ar gyfer yr ysgol hon.

 

O ran cam nesaf y broses achosion busnes, cyflwynwyd rhestr fer o opsiynau addysg, sef:

 

Opsiwn 1                    Gwneud dim

 

Opsiwn 2                     Adnewyddu bloc babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, yr adeilad iau 'fel ag y mae'. Mae'r ysgol yn aros ar ddau safle ar wahân (ar y rhestr fer – gwneud y lleiaf)

 

Opsiwn 3                     Estyniad newydd ar gyfer adran fabanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ar y safle iau (ar y rhestr fer – canolig)

 

Opsiwn 4                    Adeilad newydd yn lle Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig - 2FE a darpariaeth feithrin 75 lle ar safle iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig (ar y rhestr fer – gwneud y mwyaf)

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod canlyniad y gwerthusiadau'n dangos y dylid datblygu'r astudiaeth ddichonoldeb ar safle iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig. Bydd yr astudiaeth yn cydredeg â phroses achos busnes Llywodraeth Cymru. Rhagwelir mai’r opsiwn 'gwneud y mwyaf' fyddai’n gofyn am gymryd y mwyaf o dir, ac felly'r opsiwn hwn, sef adeilad newydd newydd yn lle Ysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 539.

540.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i’r cyrff llywodraethu ysgolion a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Eglurodd fod pob un o'r 8 ymgeisydd a restrwyd ar gyfer y 6 ysgol sydd yn nhabl paragraff 4.1 yr adroddiad yn bodloni'r meini prawf cymeradwy ar gyfer penodi'n llywodraethwyr awdurdodau lleol ac nad oedd cystadleuaeth am unrhyw un o'r swyddi gwag

 

Ychwanegodd fod atodiad A yr adroddiad yn manylu ar y 25 swydd wag arall yr oedd angen eu llenwi mewn 20 ysgol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio bwysigrwydd bod gweddill y swyddi gwag mewn ysgolion, fel y cyfeirir atynt uchod, yn cael eu llenwi cyn gynted ag y bo modd.

 

PENDERFYNIAD:                          Cymeradwyodd y Cabinet y penodiadau o Lywodraethwyr ALl a restrir ym mharagraffau 4.1 yr adroddiad.

 

541.

Cabinet, Pwyllgor y Cabinet Rhianta Corfforaethol a Phwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol adroddiad, a'i ddiben oedd:

 

  1. ceisio cymeradwyaeth ar gyfer trefnu cyfarfodydd y Cabinet, Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet, a Phwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar gyfer y cyfnod Hydref 2020 - Ebrill 2021.

 

  1. cynnig Hyrwyddwyr Plant a Chydraddoldeb a fydd yn cadeirio Pwyllgor y Cabinet Rhianta Corfforaethol a Phwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb.    

 

  1. cadarnhau'r broses ar gyfer enwebu Hyrwyddwyr o bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.

 

  1. ceisio cymeradwyaeth y gwahoddedigion i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb fel y'u henwebwyd gan bob un o'r grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir ar y Cyngor.

 

Dangoswyd amserlen arfaethedig cyfarfodydd y Cabinet ar gyfer y cyfnod Rhwng mis Hydref 2020 a mis Ebrill 2021 ym mharagraff 4.1.2 o'r adroddiad. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai'r cyfarfodydd yn dilyn cylch 4 wythnos.

 

Manylwyd ar y dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet a Phwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ym mharagraffau 4.2.1 a 4.3 o'r adroddiad, yn y drefn honno.

 

Rhoddodd yr adroddiad ragor o wybodaeth am gynigion aelodaeth ynghylch Aelodau Gwadd i eistedd ar Bwyllgorau uchod y Cabinet, ac esboniwyd y rhain ym mhrif gorff yr adroddiad, gyda'r Gwahoddedigion a enwir ar gyfer Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb yn cael eu dangos ym mharagraff 4.3.3. Roedd yr Aelodau a wahoddwyd a ddangoswyd yn seiliedig ar reolau cydbwysedd gwleidyddol ar aelodaeth o gyrff y Cyngor.

 

Yn olaf, cynigiodd yr adroddiad Hyrwyddwyr Aelodau Cabinet ar gyfer y meysydd gwasanaeth uchod ymhellach, a fyddai hefyd wedyn yn Gadeiryddion pob un o Bwyllgorau'r Cabinet. 

 

PENDERFYNIAD:  

 

(1)        Fod y Cabinet yn cymeradwyo'r rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd ar gyfer y Cabinet, Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet, a chyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar gyfer y cyfnod Hydref 2020 - Ebrill 2021 fel yr amlinellir ym Mharagraffau 4.1.2, 4.2.1 a 4.3.1 o'r adroddiad.

(2)        Bod yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn cael ei benodi'n Aelod Arweiniol dros Blant a Phobl Ifanc, yn Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc, a’n Gadeirydd Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.

(3)        Cymeradwyo'r broses ar gyfer penderfynu ar wahoddedigion Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet fel yr amlinellir ym mharagraff 4.2.3 (o'r adroddiad).

(4)        Bod yr Aelod Cabinet, Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol, yn cael ei benodi'n Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac yn Gadeirydd Cydraddoldeb Pwyllgor y Cabinet.

(5)        Cymeradwyodd y Cabinet yr enwebiadau ar gyfer gwahoddedigion i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar sail 4 Aelod o'r Gr?p Llafur, 2 Aelod o'r Gr?p Ceidwadol, 2 Aelod o Gr?p Annibynnol y Gynghrair, ac 1 yr un o Grwpiau Annibynnol Llynfi a Phlaid Cymru fel yr amlinellir yn 4.3.3 o'r adroddiad.       

 

542.

Nodi Adroddiad Gwybodaeth pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol adroddiad a oedd yn hysbysu’r Cabinet o Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod diwethaf, ac sydd angen ei nodi (ac a oedd ynghlwm).

 

Dangoswyd manylion yr Adroddiad Gwybodaeth ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad eglurhaol.

 

PENDERFYNIAD:                 Fod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

543.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

544.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaet h eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llyw odraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio). Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y c yhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:           O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, caiff y cyhoedd eu heithrio o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn

cynnwys gwybodaeth esempt fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad, yn yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eitem, yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.

 

545.

Cadarnhau Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 30/06/2020 a 21/07/2020.

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:             Bod cofnodion eithriedig y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 a 21 Gorffennaf 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.