Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Mai, 2021 14:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

657.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd, fuddiant personol yn eitem 8, Cyn Ystad Ddiwydiannol Heol Ewenny: Cyllid CCR ac Ailddatblygiad Arfaethedig oherwydd ei fod yn aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac y byddai'n ymwneud yn y pen draw â gwneud penderfyniad ar y cynnig hwn. Fe'i penodwyd i'r Cabinet hwnnw gan yr awdurdod hwn ac felly roedd yn datgan budd personol. Roedd hefyd yn Gadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn ymwneud ag ystyried ffyrdd o symud y cyfleuster parcio a theithio ar y safle hwn yn ei flaen.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ddiddordeb personol yn eitem 10, Ail-Gomisiynu Gwasanaethau Byw â Chefnogaeth Arbenigol, oherwydd bod ganddi gyfrifoldebau cyd-rianta ar gyfer plentyn ag anghenion cymhleth sy'n mynd trwy'r broses bontio.

658.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 136 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 09/03/2021 a 06/04/2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD             .Bod cofnodion cyfarfod 09/03/21 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

659.

Bwrdeistref Ddoethach - Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad yn rhoi’r cefndir, y datganiad sefyllfa cyfredol a chynnig i’r Cabinet i argymell i’r Cyngor y dylid cynnwys cyllideb o £595,000 yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer gweithredu’r cynnig Bwrdeistref Ddoethach - Teledu Cylch Cyfyng (CCTV). Esboniodd fod y system teledu cylch cyfyng bresennol ar draws y fwrdeistref wedi bod mewn gwasanaeth ers 20 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnnw, uwchraddiwyd y system sawl tro i'w chadw'n weithredol heb orfod gwario symiau mawr. Roedd y system bellach wedi cyrraedd y pwynt lle roedd yr offer ar ddiwedd ei oes waith ac roedd problemau cydweddoldeb yn dod i’r golwg yn amlach gan nad oedd rhannau newydd yn cael eu cynhyrchu mwyach gan arwain at ddadgomisiynu camerâu.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod gwasanaeth teledu cylch cyfyng y Cyngor wedi helpu'r Cyngor a'r Heddlu i ymgymryd â dull un sector cyhoeddus wrth atal a mynd i'r afael â materion â blaenoriaeth fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais, lladrad ac wedi cael effaith sylweddol ar sut mae preswylwyr yn teimlo’n ddiogel. Roedd y ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfrannu'n amlwg at ostwng y cyfraddau troseddu cyffredinol yn yr ardal a gwelwyd tystiolaeth o'r ffigurau digwyddiadau rhwng Mehefin 2017 a Mai 2019 a nododd fod y gwasanaeth teledu cylch cyfyng a ddarparwyd gan CBSPAO wedi cynorthwyo’n llwyddiannus gydag ymchwiliadau 1484 o ddigwyddiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 146 o ddigwyddiadau ym Maesteg, 89 o ddigwyddiadau ym Mhorthcawl, a 29 o ddigwyddiadau ym Mhencoed.  Roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CSP) wedi nodi’n ddiweddar y gallai fod yn barod i wneud cyfraniad parhaus at wasanaeth cynaliadwy. Roedd trafodaethau yn parhau ar hyn o bryd ochr yn ochr â thrafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog ynghylch cyfraniad cyfalaf tuag at gynnig Bwrdeistref Ddoethach - Teledu Cylch Cyfyng.

 

Esboniodd y Pennaeth Partneriaethau y byddai unrhyw uwchraddiad i'r ddarpariaeth teledu cylch cyfyng yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Teledu Cylch Cyfyng Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a deddfwriaeth diogelu data.  Amlinellodd gostau refeniw blynyddol cyfredol rhedeg y gwasanaeth teledu cylch cyfyng 24/7 fel y nodwyd ym mharagraff 8.2 o'r adroddiad. Rhagwelwyd, o dan y cynnig newydd, y byddai cyfanswm y costau rhwydwaith, cynnal a chadw a meddalwedd parhaus yn gostwng £20,000 y flwyddyn yn amodol ar ymarfer caffael llwyddiannus.

 

Esboniodd y Pennaeth Partneriaethau y byddai Bwrdeistref Ddoethach yn helpu'r Cyngor i fonitro a rheoli adnoddau, gyda'r nod o arbed amser ac arian. Byddai'r rhwydweithiau a'r gwasanaethau presennol yn cael eu gwneud yn fwy effeithlon trwy ddefnyddio technolegau digidol er budd preswylwyr a busnesau yn yr ardal. Byddai'r technolegau hyn yn helpu i ddarparu gwell rheolaeth traffig, parcio craff, gwell gwasanaethau d?r a gwastraff, goleuadau mwy effeithlon a defnyddio ynni’n fwy effeithlon mewn adeiladau a seilwaith mwy diogel, ymhlith buddion eraill. Gallai’r Cyngor ddarparu gwasanaeeth Wi-Fi trwy osod gwasanaethau Wi-Fi ar y seilwaith Teledu Cylch Cyfun presennol. Byddai mabwysiadu model “defnydd cyhoeddus diderfyn am ddim” yn annog defnyddwyr i ymweld  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 659.

660.

Contract Rheoli Plâu pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad yn rhoi’r cefndir, y sefyllfa bresennol a’r opsiynau i’r Cabinet i bennu’r ffordd ymlaen a ffefrir o ran gwasanaeth rheoli plâu yn dilyn adroddiad blaenorol y Cabinet ar 19 Ionawr 2021 pan gytunwyd i archwilio opsiynau amgen pellach. Cymeradwyodd y Cabinet hefyd atal y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Gontract y Cyngor i ymrwymo i gontract tymor byr gyda'r darparwr gwasanaeth rheoli plâu cyfredol Rentokil tra bod opsiynau pellach yn cael eu harchwilio. Dywedodd fod Rentokil wedi cytuno i ymestyn y contract cyfredol tan fis Hydref 2021, a’u bod wedi dweud hefyd mai hwn oedd yr estyniad hiraf y byddent yn cytuno iddo o dan delerau'r contract cyfredol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y cyflwynwyd tri opsiwn i'r Cabinet ym mis Ionawr 2021 ond y penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet oedd ymestyn y contract cyfredol wrth archwilio opsiynau pellach. Roedd ymgynghoriad cyhoeddus ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’ 2019 wedi gofyn am farn ar gynigion penodol i leihau cyllideb ar draws cyfarwyddiaethau’r Cyngor ac roedd yn cynnwys cwestiwn i gael barn preswylwyr ar wasanaeth rheoli plâu. Nododd 58% o'r ymatebwyr eu bod o'r farn nad y Cyngor oedd yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth rheoli plâu. Gofynnwyd cwestiwn atodol i ymatebwyr ynghylch a ddylai'r cyngor ystyried codi tâl am y gwasanaethau hyn a dim ond 16% o'r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn a nododd y dylai'r gwasanaeth barhau i fod yn rhad ac am ddim i breswylwyr.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro at y gofyniad i'r contractwr ymateb i bob cais am drin pla yn y cartref o fewn 3 diwrnod gwaith. Nid oedd hyn yn ddelfrydol oherwydd bod gofyn wedyn i’r preswylwyr aros am yr ymweliad gan nad oedd modd cytuno ar amser ymlaen llaw. Oherwydd hyn, gwnaed lefel uchel o alwadau yn ofer gan nad oedd preswylwyr yn yr eiddo pan gyrhaeddodd y technegydd rheoli plâu. Roedd hyn yn bwysig ar gyfer contract newydd o ran manyleb. Mae’r arwyddion o’r farchnad yn awgrymu y bydd cost contract y dyfodol yn debygol o gynyddu.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod y Rheolwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cysylltu â'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru i nodi pa wasanaeth rheoli plâu domestig sy’n cael ei gynnig i'w preswylwyr. O'r 21 awdurdod y cysylltwyd â nhw, ar wahân i ddau opsiwn arall a nodwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ni ddarparodd unrhyw awdurdod unrhyw opsiynau amgen pellach gan fod y mwyafrif naill ai'n darparu gwasanaeth y mae’n rhaid talu amdano’n llawn, neu heb ddarparu gwasanaeth o gwbl. Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y pum opsiwn i'w hystyried.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r swyddogion am eu gwaith a dywedodd y byddai'n well ganddi opsiwn a oedd yn rhad ac am ddim. O'r 5 opsiwn, roedd 2 yn cynnwys codi tâl a byddai'n well ganddi i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 660.

661.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Dogfen Ymgynghori Cyhoeddus Y Cynllun Adneuo pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi Drafft Adneuo’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (LDPDD) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin 2021 am gyfnod o 8 wythnos yn unol â’r Cytundeb Datblygu a gymeradwywyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2020.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y LDPDDD wedi ei baratoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn sail i baratoi CDLl Newydd 2018-2033. Roedd y ddogfen yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â Rheoliad 17 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005. Ar ôl ei gwblhau a'i fabwysiadu, byddai'r CDLl Newydd yn disodli'r CDLl presennol (2006-2021) fel y Cynllun Datblygu statudol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Pwysleisiodd mai dogfen ymgynghori oedd hon a byddai'r holl sylwadau a dderbynnir yn cael ystyriaeth ddyledus cyn anfon fersiwn derfynol at Lywodraeth Cymru i'w mabwysiadu. Yna byddai archwiliad Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yn gyhoeddus a byddent yn craffu ar y ddogfen eto. Ar yr adeg hon, gallai'r Arolygydd ychwanegu neu dynnu rhannau o’r cynllun ac yna byddent yn adrodd yn ôl gyda'r cynllun yr oeddent am i'r Cyngor ei fabwysiadu. Yna cyfrifoldeb y Cyngor llawn fyddai mabwysiadu'r CDLl ai peidio. 

 

Esboniodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu ar gyfer y rhai nad oeddent yn gyfarwydd â'r broses, fod y CDLl yn strategaeth lefel uchel y mae'n rhaid i'r Cyngor ei chynhyrchu. Roedd yn rhoi mewn termau defnydd tir nodau a dyheadau cyffredinol yr awdurdod ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a blaenoriaethau Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn ddarn sylweddol, hanfodol o waith y byddai'r awdurdod hebddo yn agored i ddatblygiadau hapfasnachol a chynllunio trwy apêl.

 

Amlinellodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth rai o'r agweddau eraill a fyddai'n cael eu darparu gan y CDLl newydd gan gynnwys lleoedd cynaliadwy trwy nodi lleoedd. Byddai'r CDLl yn ceisio darparu cartrefi di-garbon sy'n cefnogi'r strategaeth datgarboneiddio. Ychwanegodd y byddai'r pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth y CDLl presennol yn lleihau'n raddol o 2021 gan roi'r Cyngor mewn sefyllfa lle byddai'n agored i heriau gan y diwydiant datblygu. Felly roedd yn hanfodol eu bod yn parhau i ddatblygu’r CDLl newydd.  Esboniodd strwythur y ddogfen ac amlinellodd y gwahanol gydrannau. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn gwerthfawrogi'r holl waith mawr a oedd wedi mynd i'r ddogfen ers ei thrafod gyntaf yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu. Gallai weld y pwyslais ar adeiladu cymunedau newydd a mynd i'r afael â'r angen am fwy o dai yn y cymunedau. Roedd yna gynlluniau a allai fod yn ddadleuol i rai preswylwyr ond pwysleisiodd mai hwn oedd y cam ymgynghori. Gofynnodd am sicrwydd y byddent yn buddsoddi yn y cymunedau a oedd ganddynt eisoes yn ogystal â buddsoddi mewn rhai newydd ac a fyddai'r Cyngor yn gweithio ar anghenion tai mewn ffordd gyfannol. Roedd demograffeg yn newid gyda mwy o bobl sengl ac roedd yn rhaid iddynt ystyried gwahanol strategaethau fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 661.

662.

Defnyddio Cytundebau Perfformiad Cynllunio a Mesurau Adfer Cost Eraill ar gyfer Penderfynu Ceisiadau Cynllunio pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn gofyn am awdurdodiad y Cabinet i ddefnyddio Cytundebau Perfformiad Cynllunio (PPA) gyda datblygwyr fel rhan o system o adfer costau wrth ddelio â chynigion datblygu mawr yn bennaf ac i gyflwyno mesurau adfer costau ychwanegol. Esboniodd fod PPA yn cael eu defnyddio'n helaeth ledled y DU a'u bod yn cael eu derbyn gan adeiladwyr tai a datblygwyr fel ei gilydd. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yr adroddiad a'r hyn yr oedd yn gobeithio ei gyflawni. Dylid ystyried PPA fel offeryn effeithlonrwydd, a oedd yn darparu amserlen glir i symud cynigion datblygu sylweddol yn eu blaen gyda buddion economaidd cysylltiedig yn ogystal â lle bo angen, darparu adnoddau ychwanegol i sicrhau parhad gwasanaeth. Pwysleisiodd na ddylid ystyried PPA fel ffordd o ‘brynu’ caniatâd cynllunio neu oresgyn y broses gynllunio arferol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweld nifer o gynigion datblygu mawr yn dod i’r golwg dros y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, roedd ehangu melin bapur WEPA ym Maesteg yn brosiect sylweddol gyda buddion economaidd dilynol yn lleol ac yn rhanbarthol. Roedd y cais hwn wedi profi’r timau yn eithaf sylweddol o’r cam gyn-ymgeisio i’r cyfnod ôl-benderfyniad ac ar un adeg roedd angen mewnbwn amser llawn nifer o swyddogion. Yn yr achos hwn, roedd y prosiect yn sensitif i amser ond fe'i cyflwynwyd yn brydlon yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio er bod ffrydiau gwaith eraill yn y gwasanaeth wedi'u gohirio o ganlyniad. Byddai defnyddio PPA mewn achosion o’r fath yn darparu fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer prosesu'r cais o'r cam cyn ymgeisio hyd at ryddhau amodau ynghyd â'r potensial i sicrhau adnoddau ychwanegol i gynorthwyo o ran gwneud gwaith yr aelodau staff hynny sy'n ymwneud yn llawn amser â'r prosiect.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y byddai PPA yn cael eu defnyddio ar gyfer cynlluniau datblygu mwy ond y gellid eu defnyddio hefyd ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad a oedd yn gofyn am ymateb arbennig gan yr ACLl. Gallai hyn gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy neu ddatblygiad hanfodol ar safleoedd sensitif. Gellid defnyddio PPA hefyd fel rhan o ymateb i ymgynghoriadau ar geisiadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Cyflwynwyd y ceisiadau hyn i Weinidogion Cymru a'u penderfynu trwy'r Arolygiaeth Gynllunio, a oedd yn cymryd y rhan fwyaf o'r ffi gynllunio. Yn yr achos hwn, byddai'r awdurdod lleol yn ymgynghorai statudol a byddai'n gyfrifol am gyflawni'r amodau ac unrhyw orfodaeth ddilynol.  Roedd yn hanfodol felly y gellid adennill unrhyw gostau a gafwyd trwy sicrhau cyngor beirniadol gan y datblygwr.

Ychwanegodd, pan fyddai’r CDLl yn cael ei adnewyddu a'i fabwysiadu, roedd disgwyl cynnydd mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd strategol.  Roedd angen iddynt allu rheoli'r ceisiadau hyn mor effeithiol â phosibl yn ychwanegol at y ceisiadau arferol o ddydd i ddydd.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y newidiadau arfaethedig i'r gwasanaeth cyngor cyn-ymgeisio cyfredol y telir amdano a'r gwasanaethau ychwanegol a ychwanegwyd mewn ymateb i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 662.

663.

Cyn Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni : Cyllid CCR ac Ailddatblygiad Arfaethedig pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y cynnydd sydd wedi'i wneud er mwyn cyflwyno adfywiad defnydd cymysg o hen Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni, Maesteg, a cheisio cymeradwyaeth i symud ymlaen â’r cyfnod diwydrwydd dyladwy ar gyfer cais am arian grant er mwyn sicrhau cyllid Cardiff Capital Region (CCR) ar gyfer y seilwaith a'r gwaith adfer angenrheidiol. Darparodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y berthynas barhaus â Pontardawe Coal & Metals Company Limited (PCMCL) a’r bwriad ar y cyd gyda’r partïon i hwyluso'r gwaith o adfer, marchnata a gwerthu tir yn Ffordd Ewenni (Hen Safle Cooper Standard), Ystâd Ddiwydiannol Ewenni, Maesteg.

 

Fe esboniodd ei bod yn hen safle Ystad Ddiwydiannol Ffordd Ewenni yn ardal wag o 19.71 erw o dir sy'n eiddo’n rhannol i CBSPAO ac yn rhannol gan PCMCL. Mae PCMCL yn is-gwmni i Clowes Development (UK) Ltd, cwmni datblygu eiddo a buddsoddi sylweddol sy'n eiddo i'r teulu sydd wedi’u lleoli yn Derby. 

 

Roedd CBSPAO yn berchen ar 7.52 erw (Cyn Safle Cooper Standard) tra bod PCMCL yn berchen ar 12.19 erw (Cyn Safle Budel Pac Cosi), gyda hyn yn adlewyrchu rhaniad perchnogaeth o ran y nifer o erwau o tua 40% CBSPAO a 60% o dir sy'n eiddo i PCMCL. Mae'r ddwy ochr wedi cwblhau gwaith dymchwel a chlirio safleoedd yn barod i'w ddatblygu o'r blaen er bod y diffyg hyfywedd wedi arwain at y safle 19.71 erw yn parhau heb ei ddatblygu ac mewn cyflwr adfeiliedig.

 

Yn dilyn asesiad o'r cais, penderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu gymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau'r rhwymedigaethau cynllunio. Diwygiwyd y cynnig cychwynnol hwn wedyn mewn ymgais i wella hyfywedd y cynllun a phenderfynodd y Pwyllgor hwn i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun diwygiedig hwn ym mis Mehefin 2016. Cytunwyd hefyd yn flaenorol  â PCMCL ar gyfer gwaredu tir sy'n eiddo i CBSPAO ac awdurdodwyd y rhain gan y Cabinet ar 10 Mai 2016.

 

Yna amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau wybodaeth benodol, fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad, am waith angenrheidiol pellach ar y safle hwn, er mwyn ei wella. O ystyried y costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn, yn ol y Cyfarwyddwr nid oedd datblygu'r ardal bellach yn hyfyw yn ariannol heb gymorth ariannol ychwanegol.

 

Ym mis Medi 2020 fe lansiwyd y Cardiff Capital Region (CCR) Housing Viablility Gap Fund. Mae'r gronfa hon yn rhaglen buddsoddi tai sy’n werth £35 miliwn wedi'i thargedu i oresgyn methiannau tystiolaethol yn y farchnad mewn perthynas â hyfywedd ariannol ledled De-ddwyrain Cymru. Roedd swyddogion wedi cydweithio â PCMCL i baratoi cyfres gynhwysfawr o ddogfennau cais a chyflwyno'r cynllun i'w ystyried fel rhan o'r gronfa hon.

 

Yn dilyn cyfnod o werthuso gan CCR a CBRE, fe nododd adroddiad i Gabinet CCR ar 15 Mawrth 2021 amserlen ddangosol o safleoedd a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyllid, gyda Hen Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni, ar y rhestr fer gyda chyllid o £3.5 miliwn.

 

Parhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, drwy ddweud mai bwriad y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 663.

664.

Llwybr Ymddiriedolaeth Cŵn pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad, er mwyn gofyn am gymeradwyaeth i gymryd rhan a chynnal Llwybr Snoopi Bach gan Ymddiriedolaeth C?n ym Mhorthcawl yn 2022; i drefnu cytundeb rhwng  Dogs Trust Trustee Limited a Dogs Trust Promotions Limited a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO), ac amlinellu'r gost gysylltiedig ar gyfer yr Awdurdod Lleol.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad cefndir fod Tîm Datblygu Corfforaethol y Dogs Trust wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO), i gynnal llwybr bach ym Mhorthcawl fel estyniad i brif Lwybr C?n Caerdydd gyda Snoopi yn 2022.  Roedd yr amserlen arfaethedig bresennol am gyfnod o 10 wythnos o fis Mawrth i fis Mehefin 2022, er y gallai hyn newid gan ei fod yn ddibynnol ar yr amgylchiadau yn nes at yr amser.

 

Fe esboniodd fod y cynnig wedi’i seilio ar y llwybr Gwyllt mewn Celf (Wild in Art) a'i fod wedi hen sefydlu. Hyd yma, mae dros 50 o lwybrau wedi’i sefydlu ledled y byd. Enghraifft ddiweddar oedd llwybrau C?n Eira Caerdydd (Cardiff Snowdogs) yn 2017, a ddenodd 350k o ymwelwyr dros  gyfnod o 10 wythnos ac a gynhyrchodd £10.5m i'r economi leol. Roedd y prosiect yn awyddus i weld ehangu llwybrau eraill cysylltiol gydag o leiaf 6 cerflun o Snoopi i’w weld ar draws y rhanbarth.

 

Mae'r cynnig Llwybr y C?n yn cyflawni nifer o amcanion llesiant corfforaethol y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi'r economi leol. Un o'r tair blaenoriaeth gyffredinol yng Nghynllun Rheoli Cyrchfannau Pen-y-bont ar Ogwr 2018 - 2022 oedd codi'r proffil a denu mwy o ymwelwyr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy Gysylltiadau Cyhoeddus wedi'u targedu a marchnata a datblygu portffolio amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys denu digwyddiadau newydd o arwyddocâd rhanbarthol neu genedlaethol.

 

Byddai'r cynnig yn cael ei gyflwyno fel estyniad i brif lwybr Caerdydd, gyda mynediad hawdd i ymwelwyr ac o leiaf 6 cerflun o fewn y gyrchfan.  Byddai hyn yn cael ei nodi er mwyn creu o leiaf ymweliad hanner diwrnod.

 

Yn ogystal â'r manteision cymunedol, twristiaeth a manteision economaidd, roedd rhaglen Ddysgu gynhwysfawr yn gysylltiedig â'r prosiect a fyddai’n anelu at gysylltu â 130 o ysgolion ar draws rhanbarth De Cymru. Rhagwelir y bydd llawer ohonyn nhw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Byddai tîm Cyfarwyddwr Corfforaethol Llwybrau C?n Cymunedau yn rheoli pob agwedd ar gynllunio a darparu llwybrau, heb unrhyw ofyniad i CBSPAO gymryd rhan allweddol, ac eithrio helpu i recriwtio cyfranogwyr rhaglenni dysgu a hwyluso cyswllt ag amrywiol adrannau'r Cyngor mewn perthynas â'r llwybr.

 

Roedd yn ofynnol i CBSC ymrwymo i Gytundeb Nawdd gydag Ymddiriedolwyr Dogs Trust Trustee Limited a Dogs Trust Promotions Limited. Ychwanegwyd bod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda'r partïon perthnasol ynghylch telerau'r Cytundeb Noddi hwn.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Gymunedau ymhellach

os, yn dilyn y trafodaethau na ellir cytuno ar y telerau terfynol rhwng y partïon neu fod unrhyw risgiau wedi dod i’r amlwg i CBSPAO na ellir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 664.

665.

Ail-gomisiynu Gwasanaethau Byw â Chymorth Arbenigol pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Fe gyflwynodd  y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad er mwyn:-

 

·         Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu'r cynllun ail-gomisiynu arfaethedig ar gyfer gwasanaethau Byw â Chymorth Arbenigol, ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

·         Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) i gynnal ymarfer caffael i wahodd tendrau i sefydlu Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparwyr sy’n darparu gwasanaethau arbenigol;

·         Ceisio awdurdod i amrywio'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â'r gwasanaethau byw â chymorth arbenigol yn Clos Penglyn, a hynny trwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Contract (CPR) 3.2.9.3.

 

Dechreuodd drwy ddweud bod y Cyngor, ers 2015, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym maes iechyd, wedi caffael tri gwasanaeth byw â chymorth arbenigol i bobl ag anableddau dysgu. Roedd y gwasanaethau hyn wedi'u lleoli mewn tai o'r enw Clos Penglyn, Condors Rest a Viesther, a adwaenir ar y cyd fel y prosiect Closer to Home, ac fe'u meddiannwyd gan un ar ddeg o unigolion. 

 

Nod y prosiect Agosach at y Cartref (Closer to Home) oedd darparu gwasanaethau byw â chymorth lleol ac arbenigol i bobl ag anabledd dysgu oedd a lefel uchel o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Unigolion a fyddai fel arall yn byw y tu allan i'w hardal leol mewn darpariaeth breswyl fwy arbenigol. Roedd gan yr holl bobl a oedd yn byw yn y cynlluniau hyn eu tenantiaeth eu hunain a threfniadau cymorth pwrpasol wedi'u cynllunio o amgylch eu hanghenion unigol.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod grwpiau gweithredol a strategol hefyd a oedd yn goruchwylio'r gwaith o reoli'r cynlluniau o ddydd i ddydd ynghyd a chyfeiriad strategol y prosiect Agosach at y Cartref.

 

Yn dilyn adolygiad manwl o'r cynlluniau generig yn 2018-19 a gynhaliwyd gan dîm Trawsnewid ac Adolygu Gofal Cymdeithasol i Oedolion y Cyngor ar effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir ynghyd a'r canlyniadau, daethpwyd i'r casgliad y byddai tri o'r cynlluniau a adolygwyd yng Nglyn y Mel, Pencoed, Byngalo Tregroes, Pencoed a 107 Cwrt Coed Parc, Maesteg yn fwy addas i'w cynnwys o fewn trefniant gwasanaeth arbenigol, oherwydd anghenion y saith unigolyn sy'n byw yn y lleoliadau hyn. Penderfynwyd grwpio pob un o'r chwe cynllun gyda'i gilydd o dan y categori Gwasanaeth Agosach at y Cartref.  Roedd gan y cynlluniau hyn a nodwedd gyffredin hefyd, swf bod elfen o gyllid yn dod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mhob un ohonyn nhw.

 

Dywedodd ei fod wedi’i gytuno gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod angen Strategaeth Comisiynu Agosach at y Cartref newydd a bod gr?p cynllunio newydd wedi'i ffurfio i baratoi’r dadansoddiad o’r anghenion a chreu'r gwasanaethau llety a gofal a chymorth gorau posibl.  

 

Gan droi at y sefyllfa bresennol, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod digwyddiad profi'r farchnad wedi'i gynnal ar 19 Ebrill 2021 lle rhoddodd y darparwyr a oedd yn bresennol adborth gadarnhaol iawn ar sut yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 665.

666.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i’r cyrff llywodraethu ysgolion a restrir ym mharagraff 4.1 a 4.2 yr adroddiad.

 

Fel cefndir i’r adroddiad, fe ddywedodd fod swyddogion, yn unol â 'Chanllawiau ar benodi llywodraethwyr awdurdodau addysg lleol' a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 14 Hydref 2008, wedi ystyried ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer swyddi gwag presennol ac arfaethedig ar gyfer swyddi llywodraethwyr awdurdodau lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion (gweler paragraff 4.1 ac Atodiad A, i'r adroddiad).

 

Eglurodd fod pob un o'r 8 ymgeisydd a restrwyd ar gyfer y 6 ysgol sydd yn nhabl paragraff 4.1 yr adroddiad yn bodloni'r meini prawf cymeradwy ar gyfer penodi'n llywodraethwyr awdurdodau lleol ac nad oedd cystadleuaeth am unrhyw un o'r swyddi gwag felly fe benodwyd yr ymgeiswyr hyn.

 

Fodd bynnag, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod 28 o swyddi gwag o hyd a bod angen eu llenwi mewn 20 ysgol, fel y dangosir yn yr Atodiad amgaeedig.

 

Estynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei ddiolch i bawb a oedd wedi gwirfoddoli ac annog pobl eraill a warchodir gan y gymuned, i ystyried dangos diddordeb mewn gwneud cais am y swyddi gwag nad oeddent wedi'u llenwi ar hyn o bryd. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r rhain yn parhau i gael eu llenwi maes o law.

 

PENDERFYNWYD:                                      Cymeradwyodd y Cabinet y penodiadau a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

667.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim