Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

713.

Y Cynghorydd P J White

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Gyda thristwch y cyhoeddodd yr Arweinydd fod y Cynghorydd Phil White wedi marw’n ddiweddar a gofynnodd i bawb oedd yn bresennol gynnal munud o ddistawrwydd a myfyrdod tawel.

Cadwodd pawb oedd yn bresennol funud o ddistawrwydd fel arwydd o barch.

714.

Pwyllgor y Cabinet ar Gydraddoldebau

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd y bu rhaid newid dyddiad cyfarfod nesaf Pwyllgor y Cabinet ar Gydraddoldebau ym mis Tachwedd o 25 Tachwedd fel y cynlluniwyd yn wreiddiol i 8 Tachwedd. Roedd amser dechrau’r cyfarfod yn dal i fod am 10.00a.m. ac roedd y Cadeirydd yn cytuno ar y newid hwn ac roedd y rhai a wahoddwyd gan aelodau'r Pwyllgor wedi cael eu hysbysu yn unol â hynny.

715.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o fuddiant canlynol:

 

Y Cynghorydd HM Williams - eitem 6 ar yr agenda - Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2021-22 – Buddiant personol fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Abercedin.

 

Y Cynghorydd N Burnett - eitem 6 ar yr agenda - Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2021-22 – Buddiant personol fel aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Brynteg.

 

Y Cynghorydd N Burnett - eitem 6 ar yr agenda - Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2021-22 – Buddiant rhagfarnus am fod ei thad yn noddwr Clwb Rygbi Pêl-droed (RFC) Pen-y-bont ar Ogwr. Aeth y Cynghorydd Burnett allan o’r cyfarfod tra roedd yr eitem hon dan ystyriaeth.

 

Y Cynghorydd CE Smith - eitem 6 ar yr agenda - Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2021-22 – Buddiant personol fel aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr.  

 

Y Cynghorydd CE Smith - eitem 10 ar yr agenda - Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig - Buddiant personol am fod gan aelodau o’i deulu blant sy’n mynychu neu fydd yn mynychu’r ysgol. 

716.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 276 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/09/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 14 Medi 2021 fel cofnod gwir a chywir. 

717.

Adroddiad Blynyddol 2020-2021 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid Adroddiad Blynyddol 2020-21 i gael ei ystyried ac i argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd fod yn rhaid i’r awdurdod, yn unol ag arweiniad statudol, adolygu cynnydd ei amcanion llesiant a chyhoeddi adroddiad i asesu i ba raddau y mae’r amcanion hyn yn cyfrannu at y 7 nod llesiant. Rhaid iddo hefyd gyhoeddi ei asesiad o’i berfformiad am y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref. 

 

Tynnodd sylw at y ffaith fod y Cynllun yn diffinio 32 ymrwymiad i gyflawni’r tri amcan llesiant ac yn rhestru 46 o fesurau llwyddiant ar gyfer monitro cynnydd. Gan gymryd Covid-19 i ystyriaeth a’r modd y cafodd adnoddau eu hailgyfeirio, tynnwyd y targedau ar gyfer 14 o’r mesurau llwyddiant. Dywedodd fod Strategaeth Ariannol y Tymor Canol (SATC) yn nodi sut y byddai’n gwneud y defnydd gorau o’i adnoddau i gynorthwyo i gyflawni’r amcanion llesiant a’r dyletswyddau statudol, gan gynnwys rheoli pwysau a risgiau ariannol dros y bedair blynedd oedd i ddod. 

 

Dywedodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Adroddiad Blynyddol yn gwerthuso pa mor dda yr oedd y Cyngor yn gwneud o ran cyflawni ei ymrwymiadau a sicrhau’r canlyniadau cynlluniedig ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio ei fesurau llwyddiant a thystiolaeth arall. Dywedodd fod 13, allan o’r 32 ymrwymiad, wedi cael eu cwblhau, gyda 19 wedi cyrraedd y rhan fwyaf o’u cerrig milltir. Hysbysodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet y gellid cymharu 25, allan o’r 46 dangosydd a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol, yn erbyn eu targed a bod 12 wedi cyrraedd eu targed, 2 heb gyrraedd eu targed o 10% ac 11 wedi colli’r targed o fwy na 10%.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau ynghylch mor gynhwysfawr oedd yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y llu o newidiadau a phwysau digynsail a wynebwyd gan y Cyngor yn ystod y pandemig. Dywedodd fod y Fwrdeistref Sirol yn lle da i fyw a gofynnodd am wybodaeth pan oedd ymatebwyr yn anfodlon ac yn meddwl nad oedd y lle da i fyw. Dywedodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hi’n rhoi mwy o fanylion am yr ymatebion ynghylch lle da i fyw i’r Cabinet.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr adborth cadarnhaol am berfformiad y Cyngor gan reoleiddwyr, megis Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru, a’i fod ef yn falch i weld y pwysigrwydd oedd yn cael ei osod ar swyddogaeth Trosolwg a Chraffu a hefyd y ffordd y mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo ar draws yr awdurdod.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau at berfformiad Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a gwblhawyd yn ystod 2020-21 pan drosglwyddwyd 13 o asedau i’r gymuned i’w rhedeg yn ystod y pandemig a holodd pam yr oedd y statws yn cael ei ddangos yn goch. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y statws yn cael ei ddangos yn goch am fod y targed wedi ei golli o fwy na 10%. Llongyfarchodd hi’r Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r tîm  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 717.

718.

Monitro Cyllideb 2021-22 – Rhagolygon Refeniw Chwarter 2 pdf eicon PDF 717 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid ar ddiweddariad ynghylch sefyllfa ariannol refeniw y Cyngor fel ar 30 Medi 2021. Hysbysodd y Cabinet fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror 2021 wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £298.956 miliwn ar gyfer 2021-22 ac fe wnaeth hi grynhoi’r gyllideb refeniw net a’r alldro a ragwelid ar gyfer 2021-22, oedd yn dangos tanwariant net o £2.084 miliwn, yn cynnwys £170 mil net o danwariant ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £5.9108 miliwn ar gyllidebau ar draws y Cyngor, oedd yn cael ei wrthbwyso gan neilltuo swm net o £4.004 miliwn i gronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi. Dywedodd fod y tanwariant yn cuddio’r sefyllfa sylfaenol, sy’n golygu y bydd cronfa galedi Llywodraeth Cymru, er ei bod wedi ei hymestyn hyd 31 Mawrth 2022, yn cael ei thorri i lawr yn raddol gyda’r disgwyliad y bydd gwasanaethau yn dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig. Er bod pwysau ariannol yn bodoli mewn Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Digartrefedd a Gwastraff. Mae’r Cyngor wedi llwyddo i hawlio £15 miliwn mewn gwariant a thros £5.5 miliwn drwy hawliadau incwm a gollwyd yn 2020-21. Dywedodd y bydd y Cyngor yn parhau i hawlio o’r Gronfa Galedi yn erbyn meini prawf cymhwyster ac y bydd cyfarwyddiaethau yn parhau i dderbyn y costau a achoswyd o ganlyniad i effaith barhaus pandemig Covid-19. Rhoddir diweddariadau i’r Cabinet yn adroddiadau chwarterol monitro’r gyllideb refeniw.  

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid am y sefyllfa gyda golwg ar gynigion gostyngiadau yn y gyllideb oedd yn dod i gyfanswm o £1.760 miliwn yn 2021-22, oedd ar hyn o bryd yn dangos diffyg amcangyfrifedig yn y targed arbedion o £65 mil. Dywedodd mai’r cynnig gostyngiad mwyaf sylweddol yn y gyllideb oedd yn annhebygol o gael ei gyflawni’n llawn oedd ail-leoli’r Ganolfan Ailgylchu Gymunedol o Landudwg i’r Pîl, fyddai’n arwain at ddiwedd taliadau prydles ar y safle presennol (£60,000). Bydd y safle newydd yn y Pîl yn agor unwaith y bydd y gwaith cysylltiedig o wella’r gyffordd a’r ffordd wedi ei gwblhau; caiff y ddau safle eu cynnal nes y bydd y safle newydd yn gwbl weithredol. Ni chaiff yr arbediad ei weld yn llawn tan 2022-23. Dywedodd y bydd y Cyfarwyddwyr yn dal i weithio gyda’r staff i gyflawni eu cynigion neu ddewisiadau gwahanol ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn yr alldro a ddisgwylir ar gyfer y flwyddyn. Hysbysodd hi’r Cabinet hefyd am y lefel uchel o swyddi gweigion a ddaeth i fod, oedd hefyd yn effeithio ar gyflawni gostyngiadau yn y Gyllideb.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet am adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi, lle mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal cronfeydd ariannol digonol wrth gefn i gwrdd ag anghenion y sefydliad. Dywedodd mai’r swm net a neilltuwyd i’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi yn ystod chwarter 2 yw £4.004 miliwn (£4.341 miliwn o ychwanegiadau sy’n cael eu gwrthbwyso  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 718.

719.

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf Chwarter 2, 2021-22 pdf eicon PDF 628 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid  adroddiad i gydymffurfio â gofyniad Cod Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol; rhoddodd ddiweddariad ar y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 fel ar 30 Medi 2021; gofynnodd am gytundeb i gyflwyno adroddiad i’r Cyngor am ei gymeradwyaeth i raglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 ac i nodi’r Dangosyddion Darbodus ac eraill a ragamcennir ar gyfer 2021-22.

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid ar ddiweddariad i raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22 ers i’r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, oedd yn ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a grantiau a gafodd eu cymeradwyo. Roedd y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 ar hyn o bryd yn rhoi cyfanswm o £76.600 miliwn, ac mae £54.378 miliwn o hyn yn dod o adnoddau’r Cyngor ei hun,

gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi ac o fenthyciadau, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol. Fe wnaeth y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid dynnu sylw at y sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth.  Rhoddodd grynodeb o’r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020-21 a dywedodd fod adnoddau cyfalaf yn cael eu rheoli er mwyn sicrhau bod y budd ariannol mwyaf yn deillio i’r Cyngor, a all gynnwys ailalinio cyllid i gynyddu grantiau’r llywodraeth. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fanylion ynghylch y cynlluniau a nodwyd y byddai arnynt angen gweld y gyllideb yn llithro i flynyddoedd i ddod, sy’n gyfanswm o £12.826 miliwn. Dywedodd fod nifer o gynlluniau oedd yn cael eu cyllido’n allanol, oedd wedi cael eu cymeradwyo, ynghyd â chynlluniau oedd yn cael eu cyllido’n fewnol, wedi cael eu hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf, oedd yn cynnwys: 

 

  • Cronfa Teithio Llesol
  • Ail-leoli Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolbwynt Cymunedol Ysgol Gynradd Abercedin
  • Maes Chwaraeon Amlddefnydd Ysgol Gyfun Brynteg
  • Gwelliannau i Hygyrchedd a Diogelwch ar y Ffyrdd
  • Gweithiau bychain
  • Pentref Iechyd a Lles.
  • Neuadd y Dref Maesteg - To Deheuol yr Anecs; Llygredd yn y Tir a’r Nenbontydd
  • Prosiect WiFi Camerâu Cylch Cyfyng

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid hefyd ar fonitro Dangosyddion Darbodus ac eraill ar gyfer 2021-22 i 2023-24 ynghyd â rhai dangosyddion lleol. Bwriad y Strategaeth Gyfalaf yw rhoi trosolwg ar y ffordd y mae gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a rheolaeth y trysorlys yn cyfrannu’n weithredol i ddarparu gwasanaethau yn ogystal â throsolwg ar y ffordd y mae’r risgiau cysylltiedig yn cael eu rheoli a’r goblygiadau ar gyfer cynaladwyedd yn y blynyddoedd i ddod. Roedd nifer o ddangosyddion darbodus wedi eu cynnwys, a’u cymeradwyo gan y Cyngor. Yn unol â gofynion y Cod Darbodus, mae’n ofynnol i’r Prif Swyddog Cyllid sefydlu gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion darbodus sy’n edrych i’r dyfodol a’r gofyniad penodedig. Rhoddodd fanylion y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2020-21, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2021-22 a nodwyd yn Strategaeth Gyfalaf y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 719.

720.

Polisi Ffioedd a Thaliadau pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid am gymeradwyaeth i Bolisi Ffioedd a Thaliadau diwygiedig. 

 

Dywedodd y gofynnwyd i’r Cyngor, fel rhan o broses cymeradwyo Strategaeth Gyllido Tymor Canol (SGTC) 2016-17 i 2019-20, gymeradwyo Polisi Creu Incwm a Chodi Tâl, oedd yn anelu at sefydlu dull cyson ar draws gwasanaethau’r Cyngor ac amlinellodd yr egwyddorion allweddol oedd i gael eu cymhwyso. Roedd hyn yn cynnwys, lle mae penderfyniad wedi ei wneud i godi tâl am wasanaeth, y bydd y Cyngor yn ceisio adfer y gost yn llawn, ac eithrio lle y ceir penderfyniad pendant sy’n gyson â blaenoriaethau’r Cyngor, gan gydnabod y câi’r gwasanaeth wedyn ei sybsideiddio gan drethdalwyr y Cyngor. At hynny, yn unol â’r SGTC, dylid cynyddu’r taliadau yn gyffredinol yn ôl y cynnydd ym Mynegai Prisiau Defnyddwyr ynghyd ag 1%. 

 

Hysbysodd y Cabinet fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC), wrth graffu ar y SGTC, wedi argymell: “y dylid adolygu'r polisi Ffioedd a Thaliadau yn 2021-22 i'w newid o "chwyddiant +1%", i "chwyddiant" yn unig gyda'r bwriad o'i weithredu o'r gyllideb yn 2022-23.”  Dywedodd fod y polisi wedi cael ei adolygu, gan gymryd sylwadau’r COSC i ystyriaeth, ac mai’r prif newidiadau i’r polisi yw’r canlynol:

 

·         Tabl yn dangos ystyriaethau’r strategaeth codi tâl (Tabl 2 y polisi Ffioedd a Thaliadau);

·          Cynnwys mwy o fanylion am y broses o adolygu ffioedd a thaliadau, a’r rhagdybiaethau cyffredinol ar gyfer hyn yn Adran 7 y polisi, wedi eu diwygio i:

 

           Mae hyn yn golygu, yn gyffredinol, y dylid cynyddu’r taliadau yn ôl Mynegai Prisiau Defnyddwyr. (y dyddiad priodol ar gyfer cynnydd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr fydd yr un ar gyfer mis Rhagfyr cyn dechrau’r flwyddyn ariannol, fel yr eglurwyd yn y Strategaeth Gyllido Tymor Canol).

 

  • Cyfeiriad at Bwerau Dirprwyedig wedi eu diweddaru (paragraff 7.3).
  • Y broses sydd i gael ei dilyn lle na chynigir cynyddu ffioedd a thaliadau (paragraffau 7.4 – 7.6).
  • Adran ar gyhoeddi ffioedd a thaliadau (Adran 9).

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, wrth ganmol y Polisi Ffioedd a Thaliadau diwygiedig, y byddai’n dod â mwy o dryloywder ac roedd ef yn cydnabod mewnbwn y swyddogaeth Drosolwg a Chraffu mewn argymell y newid hwn. Dywedodd fod dwylo’r Cyngor wedi eu clymu o ran pennu llawer o ffioedd, sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gall y Cyngor benderfynu ar daliadau am barcio ceir a ffioedd yr harbwr. Roedd ganddo hefyd fwy o ryddid wrth benderfynu rhenti masnachol, ond byddai’n gosod rhenti ar lefel fyddai’n annog twf cyflogaeth a busnes.

 

PENDERFYNWYD:  

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Ffioedd a Thaliadau wedi ei ddiweddaru yn Atodiad A yr adroddiad.      

 

721.

Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheolaeth y Trysorlys 2021-22 pdf eicon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid gan gydymffurfio â gofyniad ‘Cod Ymarfer Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus’ Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth: i gynhyrchu Adroddiadau Rheoli’r Trysorlys dros dro a Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021-22.   

 

Esboniodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid mai Rheoli’r Trysorlys yw rheoli llifau arian y Cyngor, benthyciadau a buddsoddiadau, a’r risgiau cysylltiedig. Caiff rheoli'r Trysorlys yn y Cyngor ei gynnal o fewn fframwaith Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth: Cod Ymarfer Argraffiad 2017 (Cod CIPFA) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys (SRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Mae Cod CIPFA hefyd yn gofyn i’r Cyngor osod nifer o Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys, sef paramedrau sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn galluogi’r Cyngor i fesur a rheoli i ba raddau mae’n agored i risgiau rheoli’r trysorlys, ac mae’r rhain wedi eu cynnwys drwy’r adroddiad hwn i gyd. At hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) Ganllawiau diwygiedig ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol ym mis Tachwedd 2019 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Fuddsoddi cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Mae Strategaeth Gyfalaf y Cyngor 2021-22, gan gydymffurfio â gofynion CIPFA, yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus, oedd wedi eu cynnwys yn y SRhT mewn blynyddoedd cynt, ynghyd â manylion ynghylch buddsoddiadau’r Cyngor y tu allan i’r trysorlys. Dylid darllen y Strategaeth Gyfalaf a’r SRhT ochr yn ochr am eu bod wedi eu rhyng-gysylltu gan fod cynlluniau cyfalaf yn effeithio’n uniongyrchol ar fenthyca a buddsoddiadau a’u bod wedi eu cymeradwyo gyda’i gilydd gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021. Cynghorwyr rheoli’r trysorlys yw Arlingclose. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod hanner cyntaf 2021-22, gyda’r SRhT am 2021-22 wedi ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021, a’r adroddiad Hanner Blwyddyn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 20 Hydref 2021. Cyflwynodd grynodeb o'r gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 a hysbysodd y Cabinet fod gan y Cyngor arian dros ben ar gyfer buddsoddi. Balans y buddsoddiadau ar 30 Medi 2021 oedd £79.84 miliwn gyda chyfradd llog o 0.06% ar gyfartaledd, sy'n ostyngiad sylweddol o'r un amser y llynedd pan oedd y gyfradd gyfartalog yn 0.24%, oedd yn dangos effaith y gostyngiadau mewn cyfraddau llog o ganlyniad i'r pandemig. 

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet nad oedd y Cyngor wedi cymryd benthyciad tymor hir ers mis Mawrth 2012. Rhagwelid y byddai angen i'r Cyngor fenthyca £30.37 miliwn yn ystod y flwyddyn, gan ragdybio y byddai gan y Cyngor £43 miliwn mewn cronfeydd defnyddiadwy wrth gefn y gallai eu defnyddio yn y tymor byr i ariannu gwariant. Dywedodd fod cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy y Cyngor ar 31 Mawrth 2021 yn £114 miliwn, cynnydd o’r £83 miliwn ar 31 Mawrth 2020, nad oedd wedi ei ragweld pan gymeradwywyd y SRhT. Derbyniodd y Cyngor £20.6 miliwn o Gronfa  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 721.

722.

Diweddariad ar Beilot Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd ar ddiweddariad ynghylch peilot arfaethedig Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC), lle roedd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror 2020 wedi penderfynu darparu 30 awr o ddarpariaeth ar gyfer rhieni pob plentyn 3 a 4 blwydd oed yn unrhyw leoliad, o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed am 48 wythnos (h.y. 39 wythnos o ddarpariaeth yn ystod y tymor a 9 wythnos o ddarpariaeth gwyliau ysgol).   Roedd cyllid o hyd at £3.5 miliwn y flwyddyn ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi peilot. 

 

Hysbysodd ef y Cabinet fod Rheolwr ECEC, yn ystod y prosiect peilot, wedi sefydlu nifer o grwpiau ffocws a gweithgorau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws sector y blynyddoedd cynnar a gynhelir ac nas cynhelir. Nod y peilot oedd cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli rhwng addysg a gofal, er mwyn sicrhau y gallai unrhyw leoliad, boed yn ysgol neu'n ofal plant preifat / gwirfoddol, gynnig darpariaeth ECEC.   Dywedodd fod y rhwystrau posibl yn sylweddol, yn cynnwys absenoldeb fframwaith arolygu ar y cyd rhwng Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru a fyddai'n cynnwys y sector meithrin a gynhelir a gwarchodwyr plant. Y rhwystr mwyaf allweddol oedd y diffyg lle priodol oedd ar gael ar safleoedd ysgolion ar gyfer datblygu gofal plant ECEC a fyddai'n cydymffurfio â chyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Roedd diffyg cyllid cyfalaf hefyd o fewn dyraniad ECEC, gan ei gwneud yn anodd i ysgolion addasu lle i gyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac i'r sector a gynhelir ehangu eu hadeiladau i wneud lle i niferoedd mwy o blant.

 

Adroddodd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud, er ei bod wedi ymrwymo i raglen drawsnewid ddeng mlynedd i ddatblygu athroniaeth ECEC, bod ei blaenoriaethau, ers yr etholiad ym mis Mai 2021, wedi newid mewn ymateb i’r pandemig a’r rhaglen adfer a gynlluniwyd ac y bydd y peilot yn cael ei derfynu. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ariannu cefnogi gweinyddiaeth peilot ECEC am flwyddyn ariannol 2021-22, er mwyn gwneud strategaeth ymadael briodol a chynlluniedig yn bosibl, ochr yn ochr â gwerthusiad trylwyr o'r gwaith hyd yn hyn. Dywedodd wrth y Cabinet y bydd rhai ymchwiliadau a pheth gwaith rhychwantu yn parhau yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn cofnodi a dod ag eglurder ynghylch y problemau a'r rhwystrau ac yn wir er mwyn cynnig atebion posibl. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn parhau i ddatblygu ymhellach y ddealltwriaeth o'r problemau a nodwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu unrhyw ddull ECEC pellach yng Nghymru yn llawnach ac yn fwy addas.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd fod swyddogion wedi nodi gweithgareddau oedd yn berthnasol i wasanaethau blynyddoedd cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac wedi canfod llawer o feysydd i'w datblygu. Roedd hefyd wedi ennill mwy o wybodaeth ar draws sector y blynyddoedd cynnar ac addysg gynnar a bydd hyn yn cyfoethogi ac yn gwella ymhellach yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 722.

723.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig pdf eicon PDF 398 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn sôn am ganlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â lleoli Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd gyda 2 ddosbarth derbyn arfaethedig, ynghyd â meithrinfa gyda 75 o leoedd, ar y safle iau; a gofynnai am gymeradwyaeth i ymgymryd â phroses statudol mewn perthynas â'r cynnig.

 

Adroddodd fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ym mis Medi 2020, wedi cymeradwyo cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar safle newydd ar gyfer Ysgol Iau Mynydd Cynffig. Daeth yr astudiaeth ddichonoldeb i'r casgliad mai'r fantais fwyaf nodedig o ddatblygu'r safle yw bod y cyfan ym mherchnogaeth y Cyngor. Dywedodd fod potensial i gynyddu'r rhan y gellir ei datblygu drwy ymgorffori gerddi rhandiroedd cyfagos a rhannau sydd ar brydles, ar yr amod fod y cyfleusterau hyn yn cael eu hadleoli.   Gallai'r darnau hyn ychwanegu 1.85 acer bosib at y safle, gan sicrhau ei fod o faint digonol i ddarparu ar gyfer ysgol uchelgeisiol gyda dau ddosbarth derbyn. Defnyddir un safle gan Gorfflu Hyfforddi’r Llu Awyr, sy'n destun prydles ac mae’r ail safle, sef gerddi rhandiroedd, yn cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Rhandiroedd Pwll-y-garth dan gytundeb.  

 

Dywedodd na fydd cyfamodau cyfyngol sy’n effeithio ar y tir yn atal datblygu ysgol newydd. Mae cofrestriad llain o dir, sydd wedi'i leoli rhwng adeilad yr ysgol a'r cae chwarae, bellach wedi'i gwblhau ac mae'r Cyngor wedi cael teitl meddiannol iddo. Mae angen gwaith o hyd i ddileu hawliau’r briffordd ar y tir ac mae angen gorchymyn stopio ac mae ymgynghorwyr wedi'u cyflogi i gynnal asesiad trafnidiaeth. Dywedodd hefyd fod ymchwiliad safle wedi'i gynnal ac nad oes unrhyw bryderon mewn perthynas â chyflwr y tir a dim ond mân faterion halogiad.

 

Adroddodd fod swyddogion wedi nodi’r angen am 60 o leoedd meithrin. Fodd bynnag, mae angen darparu 15 lle meithrin cyfwerth ag amser llawn ychwanegol ar gyfer plant 3 oed sy’n dod i fyny. Dywedodd yr ystyrid bod safle iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn cyflwyno lleoliad priodol a buddiol ar gyfer datblygu'r ysgol gynradd arfaethedig. Roedd yn gwneud datrysiadau addas yn bosibl i faterion hollbwysig, sef safle digonol i'w ddatblygu a mynediad priodol i'r safle, ac roedd swyddogion technegol o'r farn y gellid dod o hyd i atebion i faterion eraill hefyd y deuir o bosibl ar eu traws. 

 

Dywedodd fod £10.2 miliwn wedi'i ddyrannu yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y prosiect hwn ac mai  65% oedd cyfradd ymyrryd Llywodraeth Cymru. Byddai angen ariannu’r 15 lle ychwanegol cyfwerth ag amser llawn ar gyfer plant 3 oed oedd yn dod i fyny allan o gyfalaf a byddent yn rhan o gyfanswm costau’r prosiect. Dywedodd y gallai'r cynllun gynhyrchu arbedion cost refeniw o ganlyniad i symud o nifer o safleoedd i un safle.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai'r cynnig hwn oedd yr un buddsoddiad mwyaf mewn addysg ym Mynydd Cynffig a’i fod yn edrych ymlaen at glywed sylwadau'r holl randdeiliaid ar y cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd, fyddai'n destun ymgynghoriad. Diolchodd i lywodraethwyr ac uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol am eu hymrwymiad i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 723.

724.

Adnewyddu Contractau mewn Gofal cymdeithasol i Oedolion pdf eicon PDF 315 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gan Dimensions UK ddau gontract gyda'r awdurdod ar gyfer Darparu llety Byw â Chymorth Arbenigol i bobl ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol cymhleth, gan gynnwys amodau sbectrwm awtistig (yn Condors Rest) ac ar gyfer Cytundeb Fframwaith Byw â Chymorth 2020-2024. Dywedodd fod Dimensions UK, yn dilyn ymarfer ailstrwythuro corfforaethol, wedi sefydlu Dimensions Cymru Cyfyngedig i’r diben o gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a darparu gwasanaethau lleol a rhanbarthol yng Nghymru. Gwnaed cais i newid dau gontract o Dimensions-UK i Dimensions Cymru, er mwyn sicrhau bod yr holl faterion busnes a chytundebol yn dod o dan gyfrifoldeb Dimensions Cymru. Mae yn y ddau gontract ddarpariaeth sy'n caniatáu i'r darparwr drosglwyddo'r contract gyda chaniatâd y Cyngor.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles hefyd fod y Cyngor wedi ymrwymo o’r blaen i gytundeb lefel gwasanaeth (CLG) gyda Hafal ar gyfer darparu Gwasanaeth Seibiant ac Adferiad Tymor Byr i ofalwyr. Roedd Hafal wedi uno â thair elusen arall i ddod yn Adferiad Recovery Limited a gwnaed cais i newid y CLG i Adferiad Recovery Limited.


Dywedodd fod y CLG yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r darparwr drosglwyddo'r contract gyda chaniatâd ysgrifenedig y Cyngor.

 

Adroddodd fod diwydrwydd dyladwy wedi'i wneud ar Dimensions-UK (fel y Rhiant Gwmni) a Dimensions Cymru ac ar Adferiad Recovery Limited ac nad oedd unrhyw bryderon mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir gan Hafal a Dimensions Cymru Cyfyngedig ac nad ystyrid bod yna risgiau gweithredol wrth newid y CLG a'r Contractau.

 

Nododd Aelod y Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, wrth gymeradwyo’r cynigion i newid y CLG a’r contractau, fod y sefydliadau'n ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·      yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda Dimensions-UK mewn perthynas â darparu llety Byw â Chymorth Arbenigol yn Condors Rest trwy gydsynio i newid y contract hwnnw i Dimensions Cymru yn unol â CPR 3.3.4;

·      yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda Dimensions-UK mewn perthynas â’r Cytundeb Fframwaith Byw gyda Chymorth drwy gydsynio i newid y contract hwnnw i Dimensions Cymru yn unol â CPR 3.3.4;

·      yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles roi caniatâd ysgrifenedig i'r newidiadau uchod a gwneud gweithredoedd newydd gyda Dimensions-UK a Dimensions Cymru Cyfyngedig mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 a Phrif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol ac i drefnu bod gweithredoedd newydd yn cael eu gweithredu ar ran y Cyngor, ar yr amod fod  awdurdod dirprwyedig o'r fath yn cael ei arfer mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol;

·      Yn awdurdodi newid y CLG ar gyfer darparu Gwasanaeth Seibiant ac Adferiad Tymor Byr i Ofalwyr o Hafal i Adferiad Recovery Ltd;

yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles roi caniatâd ysgrifenedig ar gyfer newid y CLG i ddarparu Gwasanaeth Seibiant ac Adfer Tymor Byr i Ofalwyr mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 724.

725.

Amrywiad i'r Cytundeb Partneriaeth Pobl Hŷn (cytundeb A33) - Rhyddhau Capasiti Gwasanaeth o fewn y Tîm Adnoddau Cymunedol pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am gymeradwyaeth i amrywio'r Cytundeb Partneriaeth Trosfwaol cyfredol ar gyfer gwasanaethau cymunedol integredig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynnwys darpariaeth ar gyfer cynllun peilot fyddai'n defnyddio Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd o fewn y Tîm Adnoddau Cymunedol. Dywedodd mai bwriad y cynllun peilot yw ceisio lleihau'r risgiau cyfredol sy'n gysylltiedig â llai o gapasiti yn y gwasanaeth oherwydd yr anallu i recriwtio i swyddi gwag gweithwyr gofal cymdeithasol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), yn ystod y trefniadau trosglwyddo ar gyfer newid ffiniau’r bwrdd iechyd, wedi dangos ymrwymiad i barhau i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau gofal canolraddol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phobl H?n. Dywedodd fod y cytundeb partneriaeth ffurfiol, yn dilyn trafodaethau o ran cynnwys a strwythur y cytundeb hwn, wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2019.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Cabinet y bydd effaith hirdymor Covid-19, ochr yn ochr â phwysau hysbys poblogaeth sy'n heneiddio, cyfraddau dementia cynyddol ac anghenion mwy cymhleth a heriol yn arwain at alwadau cynyddol ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau. Mae'r galwadau ar y gwasanaethau gofal a chymorth yn y cartref wedi cynyddu'n sylweddol, gan ddangos cynnydd o 7-8% yn yr oriau o ofal cartref a ddarparwyd ym mis Awst 2021 o'i gymharu ag ym mis Ebrill 2020, cyn i'r pandemig ddigwydd. Mae'r galw hefyd wedi cynyddu am wasanaethau ysbyty a chymunedol, gyda'r ddau yn gweithredu dan bwysau sylweddol. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am yr angen brys i weithio mewn partneriaeth â BIPCTM i gynyddu capasiti'r gwasanaeth. Cynigiwyd y dylai BIPCTM recriwtio 4 Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol Cyfwerth ag Amser Llawn (cytundebau 6 x 25 awr) band 2 i strwythur integredig cyfredol y Tîm Adnoddau Cymunedol i ddarparu cefnogaeth i bobl er mwyn lleihau'r angen am fewnbwn gofal cymdeithasol. Nod hyn oedd rhyddhau gallu gofal cymdeithasol o fewn y system bresennol a gwella argaeledd pecynnau gofal asesu tymor byr yn yr ardal.


Dywedodd mai'r bwriad oedd i'r peilot ddilyn gweithdrefnau rheoli tebyg i’r rhai sydd ar waith ar gyfer trefniadau ar y cyd presennol yn y Tîm Adnoddau Cymunedol. 

 

Wrth ganmol y cynnig, amlygodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fanteision gweithio mewn ffordd integredig sy'n gryfder yn y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·      wedi ystyried cynnwys yr adroddiad, yr heriau presennol yr oedd y cynnig hwn yn ceisio eu lliniaru; ac

yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid a'r Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio, i drafod a llunio cytundeb amrywio i'r Cytundeb Partneriaeth Trosfwaol ar gyfer gwasanaethau cymunedol integredig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynnwys darpariaeth ar gyfer cynllun peilot sy'n defnyddio Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd o fewn y Tîm Adnoddau Cymunedol yn unol â'r cynnig a nodwyd yn yr adroddiad.         

726.

Cyllid Cyrchfan Denu Twristiaeth y Cosy Corner pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau ar ddiweddariad i sicrhau cyllid drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth i symud ymlaen gyda phrosiect ar y Cosy Corner, Porthcawl, ac i dderbyn cynnig o gyllid a gwneud y cytundebau gofynnol.

 

Dywedodd hi, yn dilyn bwriad Elusen Credu Cyfyngedig i benodi gweinyddwyr a thynnu cyllid yn ôl ar gyfer prosiect y Ganolfan Forwrol, a ariannwyd drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth Croeso Cymru (TAD), fod y Cyngor wedi terfynu'r cytundeb ar gyfer y brydles oedd yn ymwneud â'r Ganolfan Forwrol ar safle Cosy Corner. Dywedodd fod Swyddogion wedi cynnal arfarniad amlinellol o'r dewisiadau tymor byr i ganolig oedd ar gael i'r Cyngor i geisio cael gafael ar arian posibl drwy raglen TAD ar gyfer Cosy Corner. Pe bai'r cyllid yn dod ar gael, ac yn dibynnu ar adnoddau, cynigid gwneud gwelliannau ar gyfer sefydliadau cymunedol; yr economi leol a’r cynnig twristiaeth; defnyddwyr y marina ac ar gyfer y gymuned ehangach.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, yn dilyn awdurdodiad gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 i gyflwyno cais am welliannau i Cosy Corner drwy'r rhaglen TAD, fod Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi cwblhau asesiad o chwech o'r naw maen prawf. Roedd WEFO hefyd wedi gofyn am wybodaeth bellach ar gyfer y camau asesu oedd yn weddill a chadarnhad o arian cyfatebol a sicrwydd cymorth gwladwriaethol. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2021, rhoddodd y Cabinet awdurdod i fynd ymlaen â'r datblygiad mewn perygl ac i ddefnyddio cyllid cyfatebol o £384,615 er mwyn sicrhau grant posibl o £1 filiwn. Penodwyd penseiri yn dilyn ymarfer caffael er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.  

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod cronfa wrth gefn  o £500 mil wedi'i chlustnodi wedi cael ei sefydlu ar gyfer y prosiect, gan gynyddu cyllideb y prosiect cyfalaf i £1,884,615, gyda £230 mil pellach wedi'i ychwanegu o'r Gronfa Adfywio Strategol ar gyfer newidiadau mewn prisiau. Erbyn hyn, cafwyd cadarnhad o gynnig o gyllid o £1 filiwn gan WEFO a Llywodraeth Cymru, gyda'r cyllid oedd yn weddill o £1,114,615 yn cael ei ariannu o adnoddau'r Cyngor. Dywedodd fod yn rhaid cwblhau'r prosiect erbyn mis Rhagfyr 2022 a gofynnid am awdurdodiad i dderbyn y cynnig o gyllid ac i wneud y cytundebau gofynnol i symud y prosiect yn ei flaen.

 

Wrth ganmol y cynigion ar gyfer Cosy Corner, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, er bod y prosiect ar wahân i ddatblygiad y Llyn Halen, y byddai'n integreiddio ag ef. Dywedodd y bydd y weledigaeth ar gyfer Cosy Corner yn ddefnyddiol fel cyrchfan dwristiaeth, bydd gwelliannau i lun y stryd yn cyd-fynd â'r ardal sy'n eiconig. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau i'r Tîm Adfywio am y gwaith yr oedd wedi'i wneud hyd yma ar y prosiect ac roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei gwblhau. Roedd yr Arweinydd yn croesawu’r prosiect hefyd, oedd yn gweithredu yn erbyn amserlenni tynn ac edrychai ymlaen at ei weld yn dod i fod.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

yn dirprwyo awdurdod i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 726.

727.

Rhaglen Infuse pdf eicon PDF 248 KB

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau ar y cynnydd o ran datblygu Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Rhaglen Infuse a gofynnai am gymeradwyaeth i ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy ar gyfer y Rhaglen Infuse. Hysbysodd hi’r Cabinet fod Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cymeradwyo’r Gronfa Her CCR gwerth £10 miliwn i ganolbwyntio ar ailadeiladu cyfoeth lleol mewn sefyllfa ôl-COVID, drwy ddatrys heriau cymdeithasol a fydd yn cael effaith economaidd a chyfleoedd ar raddfa fasnachol o bosibl. 

 

Dywedodd fod y Rhaglen Infuse wedi'i chynllunio i ddatblygu sgiliau arloesi, gan gyflwyno swyddogion i broses a chysyniadau newydd, gan ddarparu amgylchedd diogel ar eu cyfer. Bydd yn cael ei harwain gan her, gan nodi dau faes thematig sydd o bwys mawr i'r Rhanbarth, yn edrych ar broblemau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio, a bydd yn rhedeg am 3 blynedd tan fis Rhagfyr 2023. Bydd cyfranogwyr yn gweithio o fewn un o dair ffrwd waith Ymchwil a Datblygu, Data neu Gaffael, a bydd cyfleoedd i gydweithio a rhannu rhwng timau ac ymgysylltu'n fanwl ag uwch arweinwyr. Y bwriad oedd y byddai swyddogion yn gweithio mewn chwe charfan gyda 120 o swyddogion ledled y rhanbarth yn cymryd rhan dros gyfnod y rhaglen. Dywedodd, er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth fel Cyd-fuddiolwr gyda Chyngor Sir Fynwy, ynghyd â'r Cyd-Fuddiolwyr eraill.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau, wrth ganmol y rhaglen arloesol, y byddai’n ddull rhagweithiol o ddatgarboneiddio tuag at 2030, gan wella fflyd y Cyngor a lliniaru tlodi tanwydd. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i’r staff oedd yn rhan o'r rhaglen weithio mewn ffyrdd gwahanol.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet:

·       yn nodi’r cynnydd mewn datblygu Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Rhaglen Infuse;

 yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid i gytuno a chymeradwyo telerau'r Cytundeb Partneriaeth Infuse, unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach a oedd yn ategol i'r cytundeb hwnnw ac i drefnu bod y cytundebau hynny'n cael eu gweithredu ar ran y Cyngor.             

728.

Cynllun Gwres Caerau pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau am weithgaredd diweddar mewn perthynas â Chynllun Gwres Caerau a gofynnai am gymeradwyaeth i newid cwmpas Cynllun Gwres Caerau a chyflwyno ail-broffil o'r prosiect i Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO).

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Cynllun Gwres Caerau wedi'i sefydlu fel prosiect arloesol iawn oedd yn cynnig tynnu gwres allan o dd?r a gynhwysir mewn hen weithfeydd pyllau glo sydd dan dd?r, i ddarparu adnodd ar gyfer eiddo yn Caerau. Câi'r d?r ei gludo drwy rwydwaith o bibellau i'r eiddo gyda'r tymheredd yn cael ei gynyddu i lefel ofynnol y preswylwyr gan bwmp gwres o'r ddaear. Dywedodd fod natur arloesol y prosiect wedi cyflwyno nifer o heriau, yn fwyaf arbennig sut i ddefnyddio d?r mwynglawdd yn fasnachol fel adnodd, sut i ennill cwsmeriaid ar gyfer rhwydwaith gwres sy'n gwasanaethu'r farchnad dai i raddau helaeth a sut i greu prosiect masnachol fforddiadwy a hyfyw. Penderfynodd y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2021 i symud ymlaen gyda dewis cyfunol o gynllun d?r mwyngloddio arddangosol, yn gwasanaethu'r ysgol, a rhwydwaith gwres gyda ffynhonnell wres wahanol yn gwasanaethu cartrefi a chysylltiad gwifren breifat o'r fferm wynt. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod gwaith pellach wedi cael ei wneud ar y cynnig a gymeradwywyd yn sail i ail-broffilio cynllun busnes y prosiect i WEFO. Dywedodd fod nifer o heriau wedi'u canfod, oedd eto i arwain at gyflwyno'r ail-broffil, yn fwyaf arbennig, hyfywedd ariannol ar ôl cynnwys ardrethi busnes, cofrestru cwsmeriaid domestig i'r rhwydwaith gwres, gan gyrraedd dyddiad targed cyflawni'r prosiect sef Mehefin 2023 a chyflawni prosiect ariannol hyfyw.   Amlinellodd asesiad o bob her a disgrifiodd y dewisiadau oedd yn addas ar gyfer symud ymlaen, sef cau'r prosiect neu gael gwared ar elfen rhwydwaith gwres Tudor Estate o'r prosiect a chyflawni prosiect arddangos d?r mwynglawdd gyda threfniant gwifren breifat o'r fferm wynt yn darparu cyflenwad trydan am gost is i'r pwmp gwres yn Ysgol Gynradd Caerau. Dywedodd y byddai angen i WEFO gytuno bod cau'r prosiect yn dal i gyd-fynd â meini prawf y cyllid a gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer dewis B, i baratoi a chyflwyno i WEFP ail-broffil ar gyfer prosiect arddangos d?r mwyngloddio wedi'i ganoli ar yr ysgol gan ddefnyddio pwmp gwres a chysylltiad gwifren breifat â'r fferm wynt leol.  

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau oblygiadau ariannol cost y cynllun a hysbysodd y Cabinet y byddai angen cyflwyno'r ail-broffil, gyda set newydd o ffigurau i'r Swyddog Adran 151 i'w gytuno cyn ei gyflwyno i WEFO a chyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad ail-broffil WEFO ac i amlinellu'r camau nesaf mewn perthynas â'r cynllun, gan gynnwys y goblygiadau ariannol.   

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Young, am ei waith yn hyrwyddo'r prosiect a nododd y dylid dilyn dewis B gan ei fod yn brosiect arddangos a’i fod yn cyd-fynd ag agenda datgarboneiddio'r Cyngor. 

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y Cabinet hefyd fod yr Awdurdod Glo wedi dangos diddordeb arbennig yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 728.

729.

Estyniad i’r Contract am Wasanaethau Bysiau 65 a 70. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau am gymeradwyaeth i addasu contract presennol i ganiatáu estyniad o 12 mis i Wasanaeth Rhif 65 (Pen-y-bont ar Ogwr i Talbot Green drwy Heol-y-Cyw) a Gwasanaeth Rhif 70 (Pen-y-bont ar Ogwr i Cymer drwy Faesteg) yn unol â Rheol Gweithdrefn Contractau (CPR) 3.3.6. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y contract wedi'i ddyfarnu am gyfnod o 12 mis, gan ddod i ben ar 31 Hydref 2021, gyda’r dewis i ymestyn am gyfnodau o hyd at 12 mis yr un, a hyd at gyfnod ymestyn o 48 mis ar y mwyaf. Dywedodd fod pandemig Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol ar deithio ar fysiau gyda nifer y teithwyr yn syrthio, tra roedd pellhau cymdeithasol a gofynion glanhau ychwanegol wedi gosod beichiau a chostau ychwanegol ar weithredwyr. Cafwyd trafodaethau gyda'r Tîm Caffael Corfforaethol i ystyried y dewisiadau oedd ar gael ynghylch naill ai ail-dendro neu ymestyn y contract. Nodwyd bod tarfu wedi bod ar y farchnad oherwydd effaith y pandemig ac mai cyflymder yr adferiad fyddai’n penderfynu'r broses briodol o adnewyddu / ymestyn ac efallai mai aros i weld oedd y peth priodol i’w wneud yn y lle cyntaf.  Gyda’r cyfyngiadau yn dal yn eu lle ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, a niferoedd heb eu hadennill hyd at y lefelau cyn y pandemig, byddai'r cyfyngiadau cyfredol yn y sector yn effeithio ar unrhyw broses dendro gyfredol. Roedd llai o nawdd yn dilyn COVID-19 yn debygol iawn o gynyddu costau contractau a dendrwyd yn sylweddol yn unrhyw brosesau caffael dilynol a gynhelid o dan yr amgylchiadau presennol, a chynigiwyd ymestyn y contract cyfredol am 12 mis arall ar sail yr un lefel o dâl ac yn ystod yr amser hwnnw y câi’r contract ei ail-dendro. 

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

yn cymeradwyo addasu contract y gwasanaeth bysiau yn unol â CPR 3.3.6 i ganiatáu ar gyfer estyniad o 12 mis i'r contract ar gyfer Gwasanaeth Rhif 65 a Gwasanaeth Rhif 70 o 01 Tachwedd 2021.

730.

Y Flaenraglen Waith - y Cabinet, y Cyngor a Chraffu pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i eitemau gael eu cynnwys ar y Flaenraglen Waith am y cyfnod o 1 Tachwedd 2021 hyd 28 Chwefror 2022 ac i'r Cabinet nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a Throsolwg a Craffu am yr un cyfnod.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol, wrth ganmol yr adroddiad, fod cyhoeddi'r Blaenraglenni Gwaith yn bwysig ar gyfer tryloywder wrth wneud penderfyniadau.    

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·      Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod o 1 Tachwedd 2021 i 28 Chwefror 2022 yn Atodiad 1;

Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a Throsolwg a Craffu am yr un cyfnod ag uchod, a ddangosir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3 yr adroddiad, yn y drefn honno.

731.

Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio 2020-21 pdf eicon PDF 375 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Siaradodd Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio am Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio am 2020-21. 

 

Hysbysodd y Cabinet, yn unol â'r Cytundeb Cydweithio (JWA), ei bod yn ofynnol i’r Cydwasanaethau Rheoleiddio gynhyrchu Adroddiad Blynyddol, yn ymdrin â pherfformiad gweithredol ac ariannol y gwasanaeth am y flwyddyn flaenorol a’i gyflwyno i Gabinet pob awdurdod sy’n bartner er gwybodaeth. Tynnodd sylw at agweddau allweddol perfformiad gweithredol ledled y rhanbarth. Hysbysodd y Cabinet fod y pandemig wedi arwain at don o gamau gweithredu digynsail dan reolaeth y Llywodraeth, yr oedd yn ofynnol i swyddogion eu gorfodi ar weithgareddau ychwanegol, ar fusnesau ac ar unigolion. Dywedodd nad oedd perfformiad y staff ar draws y gwasanaeth wedi bod yn ddim llai nag ysblennydd. Diolchodd hefyd i’r staff am eu hymrwymiad i ostwng lefelau salwch yn sylweddol ar gyfer 2020-21 i 6.32 person Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE), o'i gymharu â 10.13 cyfwerth ag amser llawn yn y flwyddyn flaenorol. Hysbysodd y Cabinet am waith swyddogion yn adfer defnydd eiddo preifat gwag ac roedd swyddogion hefyd wedi bod yn weithgar yn y Llysoedd yn dod â masnachwyr twyllodrus a throseddwyr stepen drws o flaen eu gwell.   

 

Fe wnaeth yr Arweinydd gyfleu ei werthfawrogiad i staff y Cydwasanaethau Rheoleiddio am eu perfformiad, yn enwedig gorfod cau nifer o fusnesau oherwydd y cyfyngiadau oedd yn eu lle a achoswyd gan y pandemig ac yna gorfod eu gorfodi wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi.  Roedd yn falch o weld y camau a gymerwyd gan swyddogion drwy'r llysoedd yn dod â masnachwyr twyllodrus a throseddwyr stepen drws o flaen eu gwell, oedd wedi elwa a chamfanteisio ar drigolion. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol i'r holl dimau o fewn y Cydwasanaethau Rheoleiddio sy'n amlddisgyblaethol eu natur o fewn y byd cyhoeddus. Llongyfarchodd y Tîm Lles Anifeiliaid ar ennill gwobrau’r RSPCA am ei waith. 

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol i Bennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio am ei arweinyddiaeth i’r timau, sy'n allweddol yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau, yn yr hyn sy'n wasanaeth sy'n perfformio'n dda. Diolchodd yr Arweinydd hefyd i Bennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio am ei arweinyddiaeth i'r gwasanaeth ac am y diwylliant y mae wedi'i sefydlu yn y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio ar gyfer 2020-2021.                            

732.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: 

O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitem fusnes ganlynol am ei bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitem, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth.

733.

Sefydlu Cytundeb Fframwaith ar gyfer Darparu Gwasanaethau Arbenigol Byw â Chymorth.

734.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z