Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 16eg Tachwedd, 2021 14:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

735.

Datgan diddordeb.

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

736.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 311 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/10/2021

Cofnodion:

CYTUNWYD:           Y dylid cadarnhau cofnodion cyfarfod 19 Hydref 2021 o’r Cabinet fel bod yn wir ac yn gywir.

737.

Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol – Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2021 pdf eicon PDF 883 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Menter ac Arbenigol Cynnydd Blynyddol (Gwasanaethau Rheolaethol ar y Cyd) adroddiad, oedd yn ceisio cymeradwyaeth o Adroddiad Cynnydd Blynyddol (APR) Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol (LAQM) yn seiliedig ar setiau data ansawdd aer a gasglwyd yn 2020, i gyflwyno fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru (LlC). Adroddodd hefyd ar y cynnydd tuag at Gynllun Gweithredu Drafft Ansawdd Aer ar gyfer Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd y Parc.

 

Adroddodd Y Rheolwr Gweithredol - Gwasanaethau Menter ac Arbenigol ei bod hi’n ofynnol dan Adran 82 o Ddeddf Amgylchedd 1995 i bob awdurdod lleol i adolygu ac asesu ansawdd yr aer yn eu hardaloedd, a phwyso a mesur a yw’r amcanion ansawdd aer i amddiffyn iechyd yn debygol o gael eu cyflawni. Lle mae’r adolygiadau ansawdd aer yn dangos nad yw’r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, neu’n annhebygol o gael eu cyflawni, mae Adran 83 o Ddeddf 1995 yn gofyn i awdurdodau lleol bennu Ardal Reoli Ansawdd Aer (‘AQMA’). Mae Adran 84 o’r Ddeddf yn sicrhau bod angen gweithredu wedyn ar lefel leol yn unol â’r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) er mwyn sicrhau gwelliant yn ansawdd yr aer yn yr ardal dan sylw.

 

Hysbysodd y Cabinet fod yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol yn cynnig manylion yn ymwneud â’r data a gadarnhawyd ar gyfer y monitro ansawdd aer a gynhaliwyd o fewn y Fwrdeistref Sirol ac yn gyffredinol, fod ansawdd yr aer yn dal i gydymffurfio â’r amcanion ansawdd aer perthnasol fel y nodir yn y Rheolau. Eglurodd fod effaith amlwg y trefniadau cyfnod clo llym a roddwyd ar waith ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig a’r cyfnodau clo dilynol, wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn traffig ar y ffyrdd yn unol â’r gwaharddiad ar deithio sydd heb fod yn hanfodol a’r gofyniad i weithio o gartref os oedd modd. Ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2020, gwelwyd cyfartaledd lleihad o 22% mewn crynodiad cymedrig blynyddol NO2 a brofwyd mewn safleoedd monitro tiwbiau trylediad fin y ffordd, mewn cymhariaeth â 2019. Fodd bynnag, roedd ansawdd aer yn dal i fod yn ofid ar hyd Stryd y Parc, Pen-y-bont, gan gyd-daro â ffin yr Ardal Reoli Ansawdd Aer.

 

Adroddodd Y Rheolwr Gweithredol - Gwasanaethau Menter ac Arbenigol Cynnydd Blynyddol oherwydd yr oedi derbyn caniatâd cynllunio a chytundebau cyfreithiol, fod system fonitro ansawdd aer awtomataidd (AMS) bellach wedi’i lleoli ar dir Ty? Cyfarfod y Crynwyr ar Stryd y Parc. Mae’r safle monitro’n mesur a chofnodi lefelau NO2 a PM10 ar sail 24/7, ac yn llunio rhan o Rwydwaith Ansawdd Aer Cymru. Cyflwynodd ddiweddariad o Gynllun Gweithredu Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol Stryd y Parc yn yr ystyr bod Gr?p Llywio o wahanol adrannau’r Cyngor ac asiantaethau partner wedi’i sefydlu i ddatblygu syniadau ac i sicrhau Cynllun Gweithredu effeithiol. Daeth y Gr?p Llywio i’r casgliad, gyda chefnogaeth adborth o sesiwn ymgysylltu mai ciwio a llif traffig anghyson yw prif achos lefelau ansawdd aer gwael ar Stryd y Parc. Datblygwyd y canlynol fel yr opsiynau lliniaru mwyaf ffafriol: gweithredu cyffordd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 737.

738.

Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont (LDP) – Cytundeb Cyflwyno wedi’i Ddiwygio pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar yr angen i adolygu Cytundeb Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (DA), er mwyn i’r Cabinet gytuno i’r Cytundeb Cyflwyno ac argymell y dylai’r Cyngor gymeradwyo’r addasiadau i Amserlen y Cynllun Datblygu Lleol a chymeradwyo cyflwyno’r Cytundeb Cyflwyno i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at yr Awdurdodau Cynllunio Lleol i’w cynghori i ymgymryd ag adolygiad o’r dystiolaeth dechnegol sy’n sail i’r Cynllun Datblygu Lleol ochr yn ochr â’r strategaeth a’r polisïau a ffafrir o safbwynt canlyniadau’r pandemig Coronafeirws. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynghori y dylid addasu’r Cytundeb Cyflwyno i ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol i amserlen y Cynllun Datblygu Lleol yng ngoleuni’r oedi a achoswyd yn sgil y pandemig. Dywedodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod Blaen Ddrafft o’r Cynllun Datblygu Lleol wedi bod dan ymgynghoriad a bod y symud ymlaen i’r cam nesaf, sef ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio, wedi’i ohirio yn sgil yr angen i adolygu’r Cytundeb Cyflwyno, gan fod angen adolygu a mireinio’r dystiolaeth ategol sylfaenol o ganlyniad i’r sylwadau a dderbyniwyd gan ein cymunedau a’n rhanddeiliaid allweddol. Hysbysodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y Cabinet fod y Cyngor eisoes wedi gwneud camau sylweddol o safbwynt llunio’r Cynllun Datblygu Lleol Drafft o fewn y rhanbarth – un o’r cynghorau lleol cyntaf i gyrraedd y cam hwn.

 

Adroddodd Arweinydd y Gr?p Polisi Cynllunio Strategol fod 1,200 o sylwadau wedi’u derbyn, a bod nifer yr ohebiaeth yn cael ei thrin ac o’u gwblhau, byddai swyddogion yn coladu’r ymatebion ac yn cyflwyno adborth ar yr ymgynghoriad i’r Cyngor. Amlinellodd y llinynnau gwaith oedd angen eu cytunol cyn cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol Drafft ym mis Mehefin 2022, ynghyd â’r adolygiadau i’r amserlen. Dywedodd ei bod hi’n hollbwysig fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwrw ymlaen â’r adolygiad statudol o’r Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn osgoi ‘cynllunio drwy apêl’ a datblygiadau ar hap yn cael eu cyflwyno y tu allan i’r system gynllunio datblygiad heb fod yn unol â strategaeth y Cynllun, gan gryfhau fframwaith y Cyngor o safbwynt penderfynu yngly?n â cheisiadau cynllunio a chynnig gwell sicrwydd i gymunedau yn y cyswllt hwn.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol yn falch i weld fod cymaint o drigolion wedi ymwneud â’r broses Cynllun Datblygu Lleol, a oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o ymatebion mewn cymhariaeth â holl ymgynghoriadau’r Cyngor, er gwaethaf y pandemig. Mae’r amserlen ddiwygiedig yn rhoi amser i swyddogion ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd. Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau bod angen diogelu’r Cynllun Datblygu Lleol i’r dyfodol a bod angen edrych ar dueddiadau’r dyfodol wrth i fwy o bobl weithio o gartref a’r math o dai fydd eu hangen. Dywedodd yr Arweinydd fod llinynnau hanfodol oedd angen eu hystyried megis hen safle Ford, er mwyn sicrhau seiliau cadarn i’r Cynllun Datblygu Lleol. Tynnodd sylw’r Aelodau i’r sesiwn Datblygu Aelodau arfaethedig yn ymwneud â Nodyn Cyngor Technegol 15 –  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 738.

739.

Prosiectau Blaenoriaeth Cronfa Cydraddoli pdf eicon PDF 281 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar Gronfa Cydraddoli Llywodraeth y DU (LUF) gan geisio ardystiad ar y pecyn arfaethedig o brosiectau oedd yn cael eu datblygu ar gyfer etholaethau Pen-y-bont i’w gyflwyno i gylch ymgeisio’r rhaglen LUF yn y dyfodol ac i ddefnyddio adnoddau’r Cyngor a Llywodraeth y DU i wneud hynny. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod y Gronfa Gydraddoli (LUF) wedi’i chreu gan Lywodraeth y DU yn Adolygiad Gwariant 2020, gyda hyd at £4.8 biliwn wedi’i neilltuo tan 2024-25 ledled y DU. Bydd y Gronfa Gydraddoli’n buddsoddi mewn isadeiledd lleol a phrosiectau cyfalaf sy’n cael effaith weledol ar bobl a’u cymunedau. Mae hyn yn cynnwys ystod o flaenoriaethau buddsoddi lleol gwerth uchel, gan gynnwys cynlluniau trafnidiaeth leol, prosiectau adfywio trefol ac economaidd ac asedau diwylliannol ategol. Dywedodd wrth y Cabinet mai cyllid ar gyfer un cais ar gyfer pob Aelod Seneddol (AS) fydd Awdurdodau Lleol yn ei dderbyn, cyn belled â bod yr etholaeth honno’n gorwedd yn gyfan gwbl o fewn ei ffiniau ac mae bob Awdurdod Lleol yn gymwys i wneud un cais ychwanegol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth posibl yn yr ardal. Golyga hyn y gall y Cyngor wneud 3 chais, un ar gyfer bob etholaeth, Pen-y-bont ac Ogwr, a thrydydd ar gyfer prosiect trafnidiaeth strategol. Gall ceisiadau etholaethol fod werth hyd at £20m, gyda chyfle ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mwy sylweddol a gwerthfawr, o hyd at £50m, a phob cais yn cael ei annog i gyfranni isafswm o 10% o gyllid gan gyfranwyr lleol a thrydydd parti.

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar y cynllun arfaethedig ar gyfer etholaeth Pen-y-bont, sy’n ymwneud ag ailddatblygu’r Pafiliwn Mawr ym Mhorthcawl, i gynnwys: gofod digwyddiadau newydd ar lefel y llawr cyntaf (Esplanade); gofod digwyddiadau newydd ar y to a’r caff i gynnig golygfeydd o’r môr ac ar draws Môr Hafren; theatr Stiwdio newydd ac adnoddau ategol, mwy o adnoddau lles gwell yn cynnwys adnodd newid; gofod esblygu busnesau neu weithdai ar lefel y stryd ac adnoddau swyddfa newydd.

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am y cais arfaethedig ar gyfer etholaeth Ogwr i greu Cynllun Datblygu Menter Pen-y-bont (EDP) er mwyn hybu cyflogaeth drwy fuddsoddiad mewn safleoedd wedi’u blaenoriaethau ac isadeiledd, gan gefnogi agwedd strategol y Cyngor tuag at ddatblygiad economaidd. Mae angen Cynllun Datblygu Menter Pen-y-bont yn sgil diffyg argaeledd adeiladau modern, darfodiad a gostyngiad yn yr arwynebedd llawer sydd ar gael gan effeithio ar amrywiaeth o sectorau economaidd. Bydd y cynllun yn cynnig cefnogaeth i gymunedau’r cymoedd drwy sefydlu busnesau newydd; datblygu gwytnwch yn ystod blynyddoedd cynnar masnachu; cael mynediad i farchnadoedd newydd a chadwyni cyflenwi newydd a darparu adeiladau busnes ar gyfer busnesau cychwynnol a busnesau newydd. Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn digwydd yn neu’n agos at wardiau sy’n dioddef o amddifadedd lluosog, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer busnesau cychwynnol ac adleoli ar gyfer cymunedau Cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. 

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar y cais ar gyfer y prosiect trafnidiaeth arfaethedig a fyddai’n arwain at ailadeiladu pont ffordd Penprysg, fel bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 739.

740.

Gwelliant i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol (FPRs) o fewn Cyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Interim am welliannau i Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor o fewn Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Interim fod rheolaeth materion ariannol y Cyngor yn digwydd yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol fel y nodir yn Rhan 4 o’r Cyfansoddiad. Cafodd y Rheolau Gweithdrefn Ariannol eu hadolygu gan swyddogion, a gwnaed nifer o newidiadau er mwyn eu diweddaru ac adlewyrchu prosesau a gweithdrefnau ariannol newydd, a deddfwriaeth a chanllawiau newydd, oedd bellach yn weithredol, gan newid y ffordd roedd y Cyngor yn gweithredu.

 

CYTUNWYD:           Fod y Cabinet:

        yn cymeradwyo’r gwelliannau i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol a atodwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad;

   yn nodi fod adroddiad ar wahân yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor gan ymgorffori’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol diwygiedig yn y Cyfansoddiad.

741.

Y Gwir Gyflog Byw pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol ar gynnydd o safbwynt gweithredu’r Gwir Gyflog Byw (RLW) a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo gwneud cais i ddod yn gyflogwyr achrededig Cyflog Byw.

 

Adroddodd fod yn rhaid i bob cyflogwr, yn unol â’r gyfraith, dalu’r cyflog byw cenedlaethol i bob cyflogai 23 oed a throsodd, ac isafswm cyflog cenedlaethol i bob cyflogai o dan 23 oed, ac mai’r raddfa gyflog byw cenedlaethol cyfredol oedd £8.91 yr awr o Ebrill 2021. Mae ymgyrch sefydliad y Real Living Wage Foundation (RLW) i weithwyr gael cyfradd sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen i fyw ac a gyfrifir yn annibynnol gan ystyried ffactorau ehangach na’r rhai a ddefnyddir i osod y cyflog byw cenedlaethol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol, ern ad oedd yn sefydliad achrededig, roedd y Cyngor wedi ymrwymo i dalu’r Gwir Gyflog Byw i’w weithwyr ei hun yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Ddoe roedd sefydliad y Real Living Wage Foundation wedi gosod cyfradd newydd o £9.90 yr awr a phe bai’r Cyngor yn dod yn achrededig, byddai’n gweithredu’r raddfa hon o Ebrill 2022 ymlaen. 

 

Roedd swyddogion wedi cyfarfod â Cynnal Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliad y RLW Foundation yng Nghymru gan sefydlu llwybr tuag at achrediad er mwyn sicrhau fod staff y Cyngor yn derbyn y Gwir Gyflog Byw. Dywedodd fod elfen fwy anodd achrediad yn ymwneud â’r gofynion am wasanaethau comisiynu a chaffael a bydd cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu gyda chymorth Cynnal Cymru i osod camau er mwyn annog contractwyr a chyflenwyr i dalu’r Gwir Gyflog Byw. Mae’r Cyngor, fel rhan o’r Strategaeth Gaffael Gorfforaethol wedi ymrwymo i gynyddu buddion cymunedol a ddarperir gan gyflenwyr, ond ni allai’r Cyngor fandadu cyflenwyr cyfredol i ddod yn gyflogwyr Gwir Gyflog Byw hanner ffordd drwy eu cytundebau. Dywedodd y byddai’r Gwir Gyflog Byw yn cael sylw drwy amodau gwerth cymdeithasol pan fyddai cytundebau’n cael eu hadnewyddu neu eu comisiynu. O dderbyn achrediad, bydd yn destun monitro blynyddol a bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad blynyddol hefyd.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol y Cabinet o oblygiadau ariannol gweithredu’r Gwir Gyflog Byw gan y gallai greu pwysau cyllidebol sylweddol, nad yw’n cael ei ystyried yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar hyn o bryd. O’i weithredu ar draws y gwasanaethau a gomisiynir yn allanol ceir oblygiadau ariannol sylweddol a phwysau cyllidebol cylchol mawr, nad ydynt yn amlwg ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, wrth ganmol y cynnig, ei fod yn cynrychioli diwrnod da a chyfeiriad clir ar gyfer y Fwrdeistref Sirol i fod yn economi â chyflog uchel. Dywedodd Aelod y Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y bydd ei weithredu’n cael effaith gadarnhaol ar staff y gwasanaethau cymdeithasol a bod y pandemig wedi dangos pa mor ddibynnol oedd y fath staff. Wrth gefnogi’r cynnig, diolchodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol y Dirprwy Arweinydd am ei weithredu. Diolchodd yr Arweinydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 741.

742.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Chyd Bwyllgorau pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Swyddog Cyfreithiol a Gwasanaethau Rheolaethol, AD a Pholisi Corfforaethol am gymeradwyaeth i benodiad Aelod newydd ar gyfer Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf Morgannwg.

 

CYTUNWYD:           Y byddai’r Cabinet yn penodi’r Cynghorydd Matthew Voisey fel un o’r tri chynrychiolydd ar Gyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf Morgannwg.

 

743.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol a Gwasanaethau Rheolaethol, AD a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn hysbysu’r Cabinet o’r adroddiad gwybodaeth ganlynol a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf. 

 

CYTUNWYD:           Fod y Cabinet yn cydnabod cynoeddi’r ddogfen a restrwyd yn yr adroddiad:  

 

Teitl                                                                                    Dyddiad Cyhoeddi

 

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman 2020 – 2021                10 Tachwedd 2021

 

744.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

745.

Exclusion of the Public

Nid oedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Pharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

CYTUNWYD:           O dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol Act 1972 yn unol â gwelliant Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) Gorchymyn 2005 fod y cyhoedd i’w gwahardd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau busnes canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth i’w eithrio yn ôl diffiniad Paragraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodiad 12A o’r Ddeddf.

 

Yn dilyn y cais am brawf diddordeb y cyhoedd, cytunwyd yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, y dylid ystyried yr eitemau a ganlyn yn breifat, gan wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd o gynnal y gwaharddiad yn gorbwyso buddion y cyhoedd yn achos yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r eitemau.

746.

Derbyn Cofnodion wedi’u Heithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 19/10/2021

747.

Caffael Tir oddi ar Ffordd Cadfan, Bracla, gan Gysylltu â Band B y Rhaglen Foderneiddio Ysgolion

748.

Sefydlu Cytundeb Fframwaith ar gyfer y Ddarpariaeth Gwasanaethau Byw gyda Chefnogaeth

749.

Prynu Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar y cynnydd ym mhryniant posibl Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont yn Cheapside gyda’r nod o gefnogi dyheadau Coleg Pen-y-bont i adleoli eu prif gampws i Ganol y Dref, a gofynnwyd am ganiatâd i fwrw ymlaen â’r pryniant. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod swyddogion wedi derbyn caniatâd gan y Cabinet ym mis Mehefin 2021 i barhau â’r trafodaethau gyda Heddlu De Cymru o safbwynt prynu Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont drwy gyfrwng Protocol Cydleoli Ystadau a Throsglwyddo Tir Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd caniatâd i swyddogion hefyd geisio a derbyn cyllid grant oddi wrth LlC i gefnogi’r pryniant sylfaenol a dymchwel adeilad cyfredol y Swyddfa Heddlu yn y dyfodol. Mae cyllid grant wedi’i sicrhau i brynu’r safle a dymchwel yr adeilad, gyda’r nod o gael y Cyngor i brydlesu’r safle i Goleg Pen-y-bont, gan eu galluogi i adleoli campws Heol y Bont-faen i ganol y dref. Roedd gwerth y tir wedi’i bennu gan y Prisiwr Ardal yn £650 mil, a phawb yn gytûn ar y pris. Mae’r cytundeb werthu’n cynnwys cytundeb prydlesu yn ôl i Heddlu De Cymru am 12 mis, er mwyn rhoi cyfle digonol iddyn nhw gael eu swyddfeydd ar safle eu Pencadlys newydd yn barod. Mae swyddogion yn dal i weithio gyda Heddlu De Cymru i’w helpu i ddod o hyd a datblygu swyddfa loeren lai yng Nghanol y Dref er mwyn parhau â phresenoldeb dyddiol yr heddlu.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Cabinet fod yr argymhelliad i ddod â champws Coleg i ganol y dref yn dod â bywiogrwydd mawr ei i ganol y dref, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr, dod â gwelliannau i’r parth cyhoeddus a sicrhau amgylchedd sero carbon net i ddysgwyr. Pwysleisiodd yr oblygiadau ariannol i’r Cyngor yn achos cyfnod cyntaf y prosiect.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywiad y swyddogion am eu gwaith wrth ddatblygu’r cynllun a diolchodd hefyd i Lywodraethwyr Coleg Pen-y-bont am eu brwdfrydedd am y cynllun, a fydd yn arwain at weld addysg bellach ac uwch yn cael ei gyflwyno yng nghanol y dref, gydag adnoddau ar gyfer y cyhoedd a gofod ar gyfer y celfyddydau perfformio’n cael ei ddatblygu. Dywedodd fod y risg na fyddai’r Cyngor yn prynu i mewn i’r prosiect yn uchel ar gofrestr risg y Coleg a’i fod yn gobeithio y byddai’r caffaeliad arfaethedig o safle gorsaf yr heddlu’n troi’r risg yn wyrdd ar gofrestr risg y Coleg.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at yr agwedd gadarnhaol tuag at y datblygiad fel cynllun adfywio canol y dref ond dywedodd bod angen bod yn ofalus rhag effeithio’n andwyol ar drigolion canol y dref yn enwedig o safbwynt parcio. Ceisiodd sicrwydd na fyddai’r cyfnod adeiladu’n effeithio’n ddrwg ar y trigolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet y byddai dulliau adeiladau ystyrlon yn cael eu hystyried fel y byddai gwaith cloddio ac ati’n digwydd gyda chyfyngiadau ar yrru a phentyrru daear. Eglurodd y byddai ymgyrch i hysbysu’r cyhoedd yn cael ei chynnal. Dywedodd hefyd fod trwyddedau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 749.