Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 14eg Rhagfyr, 2021 14:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

750.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn eitem 17 ar yr agenda - Ailgomisiynu Gofal a Chymorth yn y Cartref gan fod aelodau o’i theulu yn derbyn cymorth yn y cartref gan y darparwyr oedd ar y rhestr yn yr adroddiad, ac aeth allan o’r cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.  

751.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 391 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/11/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet, 16 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir.

752.

Canlyniad Ymgynghoriad ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’ pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid. Perfformiad a Newid adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn 2021, ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’, oedd yn gofyn i ddinasyddion gynorthwyo i benderfynu ar weledigaeth tymor hwy ar gyfer y fwrdeistref. Ei fwriad oedd deall beth oedd y cyhoedd yn teimlo oedd wedi gweithio’n dda, a ble mae angen i’r Cyngor barhau i wneud newidiadau neu welliannau wrth iddo ymadfer o bandemig Covid-19, er mwyn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy’n iawn ar gyfer y cymunedau dros y 5 i 10 mlynedd nesaf.

 

Hysbysodd y Cabinet fod yr ymgynghoriad wedi ei gynnal dros gyfnod o 8 wythnos o 20 Medi 2021 hyd 14 Tachwedd 2021, pan ofynnwyd i atebwyr rannu eu safbwynt ar ystod o feysydd gan gynnwys y canlynol: 

 

·         Perfformiad dros y 12 mis diwethaf;

·         Cefnogaeth i Fusnes, Twristiaeth a’r economi;

·         Llesiant;

·         Mynediad wyneb yn wyneb i gwsmeriaid;

·         Digidoleiddio;

·         Buddsoddiad mewn gwasanaethau;

·         Ffioedd a thaliadau;

·         Lefelau’r Dreth Gyngor;

·         Y Dyfodol.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid. Perfformiad a Newid y Cabinet fod eleni wedi gweld gostyngiad o 39% yn y rhyngweithiadau i’r ymgynghoriad a gostyngiad o 48% yn yr holiaduron a gwblhawyd o gymharu â’r llynedd. Dywedodd fod y tîm ymgynghori ac ymgysylltu wedi mynychu 17 o gyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod byw, oedd wedi arwain at 275 o ryngweithiadau wyneb yn wyneb gyda phobl mewn digwyddiadau ar-lein, oedd yn golygu 37% o gynnydd ar y flwyddyn ddiwethaf. Amlinellodd y prif ffigurau a’r themâu mewn perthynas â’r meysydd y gofynnwyd i’r atebwyr rannu eu barn amdanynt. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn siomedig nodi lefel yr ymatebion i’r ymgynghoriad eleni, o gymharu â’r llynedd, ond er hynny diolchodd i’r rheiny a gymerodd yr amser i ymateb a dywedodd y câi eu sylwadau ar wasanaethau’r Cyngor eu cymryd i ystyriaeth. Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau na ddylai swyddogion fod yn siomedig o angenrheidrwydd wrth ystyried lefel yr atebion gan y byddai’r trigolion i gyd wedi bod yn ymdrin â materion mwy pwysig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y pandemig. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r Cabinet yn ystyried y sylwadau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a diolchodd i’r tîm ymgynghori ac ymgysylltu am gynnal yr ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad â phartïon â diddordeb fel y disgrifiwyd yn adroddiad yr ymgynghoriad.          

753.

Cynlluniau Cludiant Strategol pdf eicon PDF 631 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad a roddai drosolwg ar brosiectau cludiant strategol y Cyngor ar hyn o bryd a rhai posibl yn y dyfodol ac roedd yn edrych am flaenoriaethau i gynlluniau symud ymlaen ar gyfer unrhyw gyfnodau yn rhaglen Metro De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol neu unrhyw gyllid neu fecanwaith darparu arall. 

 

Hysbysodd y Cabinet y byddai’r prosiectau a nodwyd hefyd yn ffurfio sail i flaenoriaethau cludiant strategol Pen-y-bont ar Ogwr mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru (LlC), Trafnidiaeth Cymru a Rhwydwaith y Rheilffyrdd ac yn hwyluso ymhellach y defnydd o gludiant cyhoeddus a seilwaith teithiol llesol drwy eu gwneud yn fwy cyfleus a defnyddiol. Byddai’r cynlluniau hefyd yn cyfrannu tuag at leihau’r ôl troed carbon, gan annog newid dulliau teithio i deithio cynaliadwy a thrwy leihau tagfeydd cerbydau, gan ddarparu gwell mynediad at gludiant cyhoeddus, gostyngiad mewn traffig a’r buddion amgylcheddol cysylltiedig. Byddent hefyd yn ei gwneud yn bosibl gwella amlder gwasanaethau trên, yn enwedig y llwybr o Faesteg i Gaerdydd, sydd wedi ei adnabod fel coridor trafnidiaeth allweddol. Byddai’r cynlluniau hefyd yn rhoi cyfle i gynlluniau adfywio lleol yn y dyfodol o gwmpas meysydd y prosiect gyda’r buddion economaidd a chymdeithasol cysylltiedig.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau mai Dinas-Ranbarth Caerdydd drwy ei rhaglen Metro ynghyd â Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r prif fecanwaith cyllido ar gyfer prosiectau cludiant strategol mawr o fewn y rhanbarth. Mae’r prosiectau cyfredol yn cynnwys cyfleuster bysiau Cyswllt Metro Porthcawl yn ogystal â gwaith dichonolrwydd a chynllunio ar Bont Heol Penprysg/Teithio Llesol newydd a dileu’r groesfan reilffordd ym Mhencoed. Mae cynlluniau teithio llesol hefyd yn dibynnu’n bennaf ar gyllid LlC (sy’n cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru), gyda’r rhaglen honno’n cael blaenoriaeth ar wahân. Gall prosiectau seilwaith cludiant eraill (gan gynnwys gwelliannau i deithio llesol a phriffyrdd) gael eu cyllido drwy gyfraniadau datblygwyr (drwy gytundebau cynllunio Adran 106), drwy fentrau cyllido grantiau eraill a  chefnogaeth o fewn yr awdurdod ambell waith. 

 

Hysbysodd hi’r Cabinet ei bod yn hanfodol bod y Cyngor yn cytuno ar restr o gynlluniau y gellir eu cyflwyno fel rhan o unrhyw gynigion cyllido cludiant yn y dyfodol yn ogystal â nodi prosiectau cydnabyddedig y gellid eu hyrwyddo wrth geisio cyfraniadau datblygwyr drwy gytundebau cynllunio Adran 106. Amlinellodd y cynlluniau arfaethedig a rhai presennol fel a ganlyn:

 

·         Rhaglen Teithio Llesol

·         Gorsaf Reilffordd Arhosfa Bracla

·         Gwella Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr

·         Cyfnewidfa Heol Ewenni (Maesteg)

·         Lein Leol Ford

·         Seilwaith Bysiau Cyflym Cymoedd Garw ac Ogwr

·         Cyffordd 36 (M4)

·         Pont Heol Penprysg

·         Cyswllt Metro Porthcawl

·         Gwelliannau Blaenoriaeth i Fysiau Porthcawl i’r Pîl/Pen-y-bont ar Ogwr

·         Adleoli Gorsaf Reilffordd y Pîl a Pharcio a Theithio

 

Roedd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau, wrth ganmol y cynlluniau cludiant strategol, yn falch i weld y gwaith mewn partneriaeth â Dinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy raglen y Metro ar Gyswllt Metro Porthcawl, sydd ar hyn o bryd wedi symud ymlaen yn sylweddol a Phont Heol Penprysg. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y cynlluniau i gyd i’w canmol a’u bod yn dangos dychymyg ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 753.

754.

Map Rhwydwaith Teithio Llesol pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno’r map rhwydwaith teithio llesol (MRhTLl) i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau a ragnodwyd, sef 31 Rhagfyr 2021.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru lunio mapiau llwybrau presennol, a rhai yn y dyfodol, o rwydweithiau cerdded a beicio a chyflawni gwelliannau teithio llesol flwyddyn ar ôl blwyddyn ar hyd y llwybrau a fapiwyd a’u cyfleusterau cysylltiedig. Term yw teithio llesol a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded a beicio fel cyfrwng cludiant i gyrchfan ac nid er mwyn hamddena’n unig. Tynnodd sylw at mor gymhleth yw’r gwaith o ddatblygu llwybrau teithio llesol oherwydd gofynion iechyd a diogelwch a phroblemau meddiant tir y mae’n rhaid eu goresgyn. Dywedodd fod y fersiwn bresennol o’r MRhTLl wedi cael ei gymeradwyo yn 2017 a bod y MRhTLl diwygiedig, oedd wedi cael ei ddatblygu drwy broses drwyadl o gasglu data, ymgynghori a gwerthuso, i fod i gael ei gyflwyno erbyn 31 Rhagfyr 2021. Amlinellodd y 3 cham yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y MRhTLl. Hyd yma, roedd gwerth £3 miliwn o lwybrau wedi cael eu creu yn y Sir, gyda Llywodraeth Cymru yn neilltuo £70 miliwn ledled Cymru i ddatblygu llwybrau Teithio Llesol. Roedd swyddogion ar hyn o bryd yn dadansoddi’r holl adborth i’r ymgynghoriad statudol ac yn gwneud newidiadau terfynol i’r MRhTLl.

 

Roedd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau, wrth ganmol y MRhTLl, yn falch i nodi bod Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau wedi tynnu sylw at gymhlethdod y gwaith o gyflawni llwybrau teithio llesol. Roedd ef yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bwriad drwy neilltuo £70 miliwn ar gyfer datblygu llwybrau teithio llesol ledled Cymru. Diolchodd i’r tîm am ei waith yn datblygu’r MRhTLl ac am oresgyn yr heriau o ddatblygu llwybr llesol Heol y Bont-faen, sydd wrthi’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd. Roedd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn falch i weld yr uchelgais y tu ôl i’r MRhTLl ond yn meddwl y gallai ei gyflawni gael ei gyfyngu gan fodelu ariannol gyda chysylltiadau ar goll ar rai llwybrau. Roedd yn dda gan yr Arweinydd nodi bod Llywodraeth Cymru wedi dyblu’r swm oedd ar gael ar gyfer datblygu llwybrau teithio llesol; fodd bynnag, mae’r amserlenni ar gyfer cyflawni’r llwybrau llesol yn gywasgedig a byddai’n well pe câi cyllid ei roi ar gael dros nifer o flynyddoedd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

1.    Yn nodi’r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr

     adroddiad.

 2.  Yn dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i gyflwyno fersiwn derfynol y MRhTLl a’r ddogfennaeth gysylltiedig i Lywodraeth Cymru am ei chymeradwyaeth.       

755.

Newidiadau yn y Polisi Gorfodi ar gyfer rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig am Droseddau Amgylcheddol pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau yn gofyn am gymeradwyaeth i newidiadau arfaethedig i Bolisi Gorfodi’r Cyngor ar gyfer rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod angen diwygio Polisi Gorfodi’r Cyngor ar gyfer rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig am droseddau amgylcheddol er mwyn ymgorffori troseddau yn unol â Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978, fydd yn cynyddu cyfrifoldeb gorfodi. Dywedodd mewn perthynas â thipio anghyfreithlon, y gellir cynnig Hysbysiad Cosb Benodedig yn lle cael collfarn am y drosedd, drwy dalu cosb benodedig yn amrywio rhwng £150 a £400. Tâl y Cyngor mewn cysylltiad â’r drosedd hon yw cosb benodedig o £200 (gyda £120 yn cael ei dderbyn wrth dalu’r gosb yn fuan). Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol cyfagos yn awr wedi dechrau gweinyddu’r gosb benodedig o £400 (gyda £200 yn cael ei dderbyn wrth dalu’r gosb yn fuan). Hysbysodd hi’r Cabinet yr argymhellir bod y Cyngor hwn yn ymgorffori lefel debyg o gosb er mwyn atal unrhyw droseddwr rhag gwahaniaethu rhwng ffiniau’r fwrdeistref wrth gyflawni trosedd o’r fath.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod ychwanegu deddfwriaeth yngl?n â throseddau gwastraff masnachol wedi ei gynnwys i ddelio â phroblemau gwastraff mewn rhannau yng nghanol trefi. Argymhellwyd bod hyn yn cael ei gynnwys yn y polisi er mwyn galluogi Swyddogion i ymdrin â busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau o ran gwastraff ac i’w gwneud yn bosibl rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig pan fo’n briodol.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau hefyd fod troseddau cerbydau wedi eu cynnwys yn y polisi, yn cynnwys y gallu i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig am adael cerbyd, a phan fo cerbydau yn cael eu parcio ar y ffordd i’w gwerthu, gan achosi niwsans i drigolion yn yr ardal. Dywedodd ei fod wedi ei fwriadu ar gyfer sefyllfaoedd lle mae masnachwyr yn gwerthu mwy na dau gerbyd o’u heiddo mewn ardaloedd preswyl gan achosi problemau i drigolion. Cynigir hefyd yn y polisi roi Hysbysiadau Cosb Benodedig i fasnachwyr sy’n trwsio cerbydau ar ochr y ffordd. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, wrth gymeradwyo’r diwygiadau i’r Polisi Gorfodi, y byddai’n peri bod yr awdurdod yn cydymffurfio â’r awdurdodau Lleol cyfagos i atal pobl rhag gwahaniaethu rhwng ffiniau wrth ystyried tipio anghyfreithlon. Dywedodd er mai addysgu’r cyhoedd fyddai’r flaenoriaeth, fod y gallu i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig yn ddewis pwysig. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau yn ystyried ei bod yn bwysig i’r awdurdod gael y gallu i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig ac y câi’r incwm o hyn ei ailfuddsoddi yn y gwasanaeth. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Gorfodi diwygiedig ar gyfer rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig am Droseddau Amgylcheddol.           

756.

Cysgodfannau Bysiau Hysbysebu mewn Perchnogaeth Breifat pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau yn gofyn am gymeradwyaeth i ymgymryd â Gweithred Amrywio er mwyn amrywio telerau cytundeb presennol mewn perthynas â chodi a chynnal cysgodfannau bysiau a chaniatáu hawliau hysbysebu ar gysgodfannau bysiau.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Clear Channel UK Ltd, sy’n darparu 25 o gysgodfannau bysiau y maent yn eu glanhau ac yn eu cynnal, wedi gofyn i’r awdurdod am amrywiad yn nhelerau’r cytundeb er mwyn cwrdd â gofynion hysbysebu cyfredol. Er mwyn amrywio’r Cytundeb, mae’n ofynnol i’r Cyngor ymgymryd â Gweithred Amrywio gyda Clear Channel UK Ltd. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau a fyddai cysgodfannau bysiau newydd yn cael eu gosod yn lle’r hen rai er mwyn cael arwyddion digidol i gwrdd â gofynion hysbysebu cyfredol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai hi’n dod yn ôl gyda manylion pellach ynghylch y rhaglen o newid hen gysgodfannau bysiau am rai newydd. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a fyddai arwyddion digidol a fyddai’n arddangos yr hysbysebion ar gysgodfannau bysiau yn niwtral o ran carbon. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddent yn edrych i mewn i hyn er mwyn sicrhau bod yr hysbysebu yn ffotofoltaidd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet, ar yr amod fod telerau’r Weithred Amrywio yn cael eu cytuno fel yr eglurwyd yn Adran 4 yr adroddiad:

·   Yn cymeradwyo ymgymryd â’r Weithred Amrywio i amrywio’r Cytundeb Cysgodfannau Bysiau rhwng y Cyngor a Clear Channel UK Ltd;

·  Yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau i drafod a chytuno ar delerau terfynol y Weithred Amrywio a threfnu bod y Weithred Amrywio yn cael ei gweithredu ar ran y Cyngor ar yr amod fod yr awdurdod dirprwyedig hwnnw yn cael ei arfer mewn ymgynghoriad â Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol ac Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a Phrif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid.        

757.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Sylwadau a Chwynion 2020/21 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am Adroddiad Blynyddol 2020/21 ar sylwadau a chwynion y gwasanaethau cymdeithasol fel sy’n ofynnol dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet am yr angen i awdurdodau lleol gael gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer ystyried unrhyw sylwadau neu gwynion a gâi eu gwneud ynghylch cyflawni eu swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol. Tynnodd sylw at elfennau allweddol Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod gan achwynwyr, ar ôl dihysbyddu’r weithdrefn gwyno, yr hawl i gyfeirio eu pryder i’w ystyried gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod yr Adroddiad Blynyddol yn gosod pwyslais nid yn unig ar gwynion ond hefyd ar y sylwadau a’r ganmoliaeth a dderbyniwyd dan ddefnyddwyr y gwasanaeth er mwyn rhoi darlun cytbwys. Dywedodd fod y gwasanaethau yn awyddus i ddysgu oddi wrth y wybodaeth a gasglwyd a defnyddio hon i hysbysu datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol ac unrhyw welliannau i’r gwasanaeth. Roedd hefyd yn cynnwys ystadegau yn ymwneud â chwynion yr ymdriniwyd â hwy yn unol â Gweithdrefn Gwynion Gorfforaethol yr Awdurdod, gyda’r mwyafrif o gwynion wedi derbyn sylw a’u datrys yn anffurfiol (cyn cyrraedd Cam 1 y weithdrefn gwyno). Roedd hyn yn sicrhau bod pryderon yn cael eu datrys yn gyflym ac yn cadw achwynwyr rhag gorfod defnyddio’r weithdrefn gwyno ffurfiol heb fod rhaid. Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sylw at enghreifftiau yn yr Adroddiad Blynyddol lle roedd teuluoedd defnyddwyr gwasanaeth wedi rhoi adborth cadarnhaol iawn a chanmoliaeth i’r staff yn Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant am fynd uwch ben a’r tu hwnt mewn blwyddyn oedd wedi cael ei drysu gan Covid-19 a phan oedd cyfyngiadau sylweddol yn eu lle. Gellid bod wedi disgwyl mwy o gwynion; fodd bynnag, roedd y staff wedi addasu i ffyrdd newydd o weithio.    

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod adroddiad 2020/21 yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ynghylch y sylwadau a’r cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yngl?n â Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant. Dywedodd yr ymgymerid â’r rhan fwyaf o'r gwaith a gâi ei wneud o fewn Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â naill ai’r Swyddog Monitro a/neu’r Gwasanaethau Cyfreithiol a bod perthynas waith gref rhwng staff cwynion y gwasanaethau cymdeithasol a thîm staff y gwasanaethau cyfreithiol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i holl dîm y Gwasanaethau Cymdeithasol am y gwaith eithriadol yr oedd wedi ei gyflawni yn y flwyddyn a aeth heibio yn cynorthwyo’r trigolion mwyaf bregus.     

 

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant beth oedd yn digwydd pan dderbynnid c?yn a beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud i ymateb i g?yn. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet ei bod yn bwysig cyfarfod â’r achwynwr a datrys y mater yn fuan a’i bod yr un mor bwysig cefnogi staff a sicrhau bod y staff wedi derbyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 757.

758.

Taliad Untro Ychwanegol i Ofalwyr Maeth a Gofalwyr Lleoliadau Oedolion Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr am gynnig i wneud taliad untro i Ofalwyr Maeth a Gofalwyr Lleoliadau Oedolion Pen-y-bont ar Ogwr fel cydnabyddiaeth o’r gwaith caled yr oeddent wedi ei gyflawni drwy gydol Pandemig Covid.

 

Dywedodd fod y cyfnod clo wedi achosi cau ysgolion a phlant a phobl ifanc yn aros gartref ar hyd y dydd, gydag ychydig iawn o gyfle i gymdeithasu gyda’u cyfoedion a bod hynny wedi amharu ar eu bywydau. Roedd plant mewn gofal wedi dioddef yr effaith ychwanegol o fethu â chyfarfod gyda’u teulu wyneb yn wyneb a’r rhieni maeth yn ystod y cyfnod hwn yn hwyluso cyswllt gyda’r plant hyn dros y ffôn neu gan ddefnyddio Facetime, gan ymgymryd â’r rôl hon yn aml am y tro cyntaf gydag ychydig o baratoad, hyfforddiant na mynediad hawdd at gymorth. Dywedodd fod gofalwyr maeth a darparwyr oedd yn rhedeg llety â chymorth wedi dangos lefelau uchel o wytnwch, gan gynnig y safonau uchaf o ofal i’r plant yr oeddent yn gofalu amdanynt, yr oedd llawer ohonynt yn ymddwyn yn heriol o ganlyniad i’w profiadau o drawma. Hysbysodd y Cabinet mai effaith arall y pandemig oedd yr effaith ar oedolion ag anabledd dysgu oedd yn byw gyda theuluoedd lleoliadau oedolion. Nid oedd y gr?p hwn o bobl yn gallu cymryd rhan yn eu gweithgareddau dyddiol arferol bellach oherwydd y cyfyngiadau ar redeg gwasanaethau dydd, na chael cyswllt wyneb yn wyneb gyda’u cyfeillion a’u perthnasau.

 

Dywedodd fod dau daliad wedi cael eu gwneud i’r gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o fenter genedlaethol yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad staff oedd wedi darparu gofal hanfodol i’r dinasyddion mwyaf bregus yn ystod pandemig Covid-19. Ni chafodd gofalwyr maeth, y darparwyr oedd yn rhedeg llety â chymorth, a theuluoedd lleoliadau oedolion eu gwobrwyo yn y ffordd hon er gwaethaf eu hymrwymiad a’r swyddogaeth sylweddol yr oeddent yn ei chyflawni mewn diogelu plant agored i niwed, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu yr oeddent yn gofalu amdanynt yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr fod yna brinder pobl a all ddarparu gofal maeth a lleoliadau llety â chymorth i blant a phobl ifanc nad ydynt yn medru byw gartref gyda’u teuluoedd biolegol. Dywedodd nad oedd gan y Cyngor yn fewnol ddigon o ofalwyr maeth a darparwyr oedd yn rhedeg llety â chymorth ac felly, ochr yn ochr â recriwtio gofalwyr newydd ei bod yn hanfodol dangos i’r gofalwyr presennol mor werthfawr ydynt a chymaint y maent yn cael eu gwerthfawrogi, er mwyn eu cadw. Mae’r sefyllfa’n debyg mewn perthynas â recriwtio teuluoedd lleoliadau oedolion sydd wedi bod yn broblemus, er bod yna nifer fechan o deuluoedd wrthi’n cael eu hasesu ar gyfer ymuno â’r cynllun. Effaith arall y pandemig oedd bod oedolion ag anabledd dysgu, oedd yn byw gyda theuluoedd lleoliadau oedolion, yn methu â chymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol yn ystod y dydd.

 

Fe wnaeth yr Aelod o’r Cabinet dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 758.

759.

Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ar gyfer Disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymedrol (ADC) yn Ysgol Cynwyd Sant pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd am gymeradwyaeth i ymgynghori’n ffurfiol â rhieni, staff a chorff llywodraethol Ysgol Cynwyd Sant a phartïon eraill â diddordeb ynghylch y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymedrol (ADC) yn Ysgol Cynwyd Sant.

 

Dywedodd fod awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig yn profi cynnydd yn y galw am wasanaethau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a bod y gost o ddarparu hyn yn aml yn fwy na’r gyllideb. Mae hyn wedi gosod pwysau ar yr holl awdurdodau lleol i gwrdd â’r anghenion hyn a darparu’r adnoddau ar eu cyfer, a hynny’n fwy anodd oherwydd pwysau ychwanegol a achoswyd gan COVID-19. Dywedodd fod y Cyngor wedi mabwysiadu dull rhagweithiol drwy gomisiynu adolygiad o’r ddarpariaeth cynllunio strategol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn 2020. Un o’r meysydd a nodwyd ar gyfer agor darpariaeth yw cyfnod allweddol 2 mewn ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg i blant ag ADC. 

 

Hysbysodd y Cabinet y byddai’r disgyblion yn cael profiadau fel unigolion, mewn grwpiau bychain ac fel dosbarth cyfan, fel bo’n briodol ac y câi eu cynnydd ei fonitro’n fanwl, a’u cynlluniau unigol eu hadolygu’n rheolaidd. Byddai disgyblion prif ffrwd eraill yn Ysgol Cynwyd Sant hefyd yn elwa o’r cynnig hwn gan ei fod yn ceisio ehangu’r cyfleusterau dysgu arbenigol yn yr ysgol a darparu arbenigedd a chyngor i’r holl staff. 

 

Hysbysodd y Cabinet hefyd am oblygiadau ariannol y cynnig a bod pwysau cyllideb o £60 mil wedi ei gymeradwyo i ddarparu dosbarth ADC ar gyfer plant cyfnod allweddol 2, sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, fel rhan o Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig 2021-22.  

 

Fe wnaeth Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio, wrth gymeradwyo’r cynnig i gynnal ymgynghoriad, ddiolch i arweinyddiaeth yr ysgol am fod yn agored i’r cynnig, fyddai’n llenwi bwlch yn y ddarpariaeth. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r dysgwyr yn elwa nid yn unig o fod yn rhan o addysg prif ffrwd ond o gael cymorth arbenigol yn yr ysgol.  

 

Gofynnodd yr Arweinydd a yw cymorth ADC yn cael ei ddarparu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill o fewn y Sir. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y Cabinet fod cymorth ADC yn cael ei ddarparu drwy’r Gymraeg lle roedd gofyn. 

 

PENDERFYNWYD: Cytunodd y Cabinet:

· ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag ADC yn Ysgol Cynwyd Sant; a

· Adrodd yn ôl am ganlyniad yr ymgynghoriad wrth y Cabinet.     

760.

Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ar gyfer Disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Tremaen. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd am gymeradwyaeth i ymgynghori’n ffurfiol â rhieni, staff a chorff llywodraethol Ysgol Tremaen a phartïon eraill â diddordeb ynghylch y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Tremaen.

 

Dywedodd fod awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig yn profi cynnydd yn y galw am wasanaethau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a bod y gost o ddarparu hyn yn aml yn fwy na’r gyllideb. Mae hyn wedi gosod pwysau ar yr holl awdurdodau lleol i gwrdd â’r anghenion hyn a darparu’r adnoddau ar eu cyfer, a hynny’n fwy anodd oherwydd pwysau ychwanegol a achoswyd gan COVID-19. Dywedodd fod y Cyngor wedi mabwysiadu dull rhagweithiol drwy gomisiynu adolygiad o ddarpariaeth cynllunio strategol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn 2020. Un o’r meysydd a nodwyd ar gyfer darpariaeth ychwanegol yw cyfnod allweddol 2 ar gyfer plant ag ASA a bod angen wedi ei nodi i agor CAD ychwanegol ar gyfer plant ag ASA.

 

Hysbysodd y Cabinet y byddai’r disgyblion yn cael profiadau fel unigolion, mewn grwpiau bychain ac fel dosbarth cyfan, fel bo’n briodol ac y câi eu cynnydd ei fonitro’n fanwl, a’u cynlluniau unigol eu hadolygu’n rheolaidd. Byddai disgyblion prif ffrwd eraill yn Ysgol Gynradd Tremaen hefyd yn elwa o’r cynnig hwn gan ei fod yn ceisio ehangu’r cyfleusterau dysgu arbenigol yn yr ysgol a darparu arbenigedd a chyngor i’r holl staff. 

 

Hysbysodd y Cabinet hefyd am oblygiadau ariannol y cynnig a bod pwysau cyllideb o £82 mil wedi ei gymeradwyo i ddarparu CAD/dosbarth ASA ysgol gynradd ychwanegol ar gyfer plant cyfnod allweddol 2, fel rhan o Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig 2021-22.  

 

Fe wnaeth Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio, wrth gymeradwyo’r cynnig i gynnal ymgynghoriad, ddweud y byddai yn darparu lle ychwanegol at yr hyn oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn Ysgol Iau Llangewydd ac Ysgol Gynradd Pencoed gan fod y ddwy Ganolfan Adnoddau Dysgu hynny’n llawn. Dywedodd fod galw parhaus ar draws y Sir a bod bwlch mewn darpariaeth o’r fath yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd hefyd fod Ysgol Gynradd Tremaen yn ganolfan rhagoriaeth a phe bai’r cynnig yn mynd rhagddo, y byddai’r ysgol yn cyflwyno’r ddarpariaeth newydd hon yn llwyddiannus iawn.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y Cabinet fod yr holl ysgolion yn y Sir yn gynhwysol ac y byddai’r ddarpariaeth hon yn cyflwyno darpariaeth ychwanegol at yr hyn sy’n bod eisoes yn Ysgol Iau Llangewydd ac Ysgol Gynradd Pencoed. Dywedodd fod Ysgol Gynradd Tremaen yn ganolog ei lleoliad ac yn rhan o glwstwr Ysgol Gyfun Brynteg.

 

PENDERFYNWYD: Cytunodd y Cabinet:

·      ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag ASA yn Ysgol Gynradd Tremaen; ac

adrodd yn ôl am ganlyniad yr ymgynghoriad wrth y Cabinet.      

761.

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu 2022-2025 pdf eicon PDF 277 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Pennaeth y Cyd-wasanaethau Rheoleiddio am gefnogaeth i gyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu’r Cyngor ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd 2022-2025, a’i anfon ymlaen i’r Cyngor am gymeradwyaeth a’i gyhoeddi yn unol â’r rheoliadau.

 

Dywedodd fod yn rhaid i’r Cyngor, fel awdurdod trwyddedu, gyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu bob tair blynedd oedd yn llywodraethu’r polisi, rheoli a phroses gwneud penderfyniadau yn ymwneud â mangreoedd gamblo. Roedd ymgynghoriad ffurfiol wedi cael ei gynnal cyn cyhoeddi’r datganiad newydd. Dywedodd fod atebion wedi cael eu cyflwyno i’r ymgynghoriad a bod argymhellion wedi cael eu gwneud i ddiwygio’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu ac mai swyddogaeth y Cyngor oedd ei gymeradwyo. Hysbysodd y Cabinet fod yr adolygiad wedi ystyried effaith ddigynsail pandemig y Coronafeirws ar fusnesau sy’n darparu cyfleusterau gamblo.

 

Wrth gymeradwyo’r Datganiad o Egwyddorion diwygiedig, roedd yn dda gan Aelod y Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol nodi’r gostyngiad mewn mangreoedd gamblo, ond canlyniad hyn fu cynnydd mewn gamblo ar-lein. Dywedodd yr Arweinydd mai canlyniad gamblo ar-lein yw nad yw’n cael ei reoleiddio ac y gall fynd yn gaethiwus a bod hyn wedi cael ei gydnabod gan y Prif Swyddog Meddygol fel testun pryder o ran iechyd. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cefnogi anfon y Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu, yn cynnwys y diwygiadau y tynnwyd sylw atynt yn Atodiad A ynghyd â’r diwygiad ychwanegol yn 4.6 yr adroddiad, i’r Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyhoeddi yn unol â’r rheoliadau.    

762.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys.

763.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Paragraff 14 o Ran 4 a Paragraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitemau busnes canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitemau, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth.

764.

Cymeradwyo Cofnodion a Eithriwyd

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 16/11/2021

765.

Ailgomisiynu Gofal a Chymorth Rheoledig yn y Cartref