Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Ionawr, 2022 14:30

Lleoliad: o bell - trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

766.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Smith ddatgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn eitem 14 - Penodi Llywodraethwyr Llywodraeth Leol gan ei fod ef yn Llywodraethwr.

767.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 257 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/12/21

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:Cymeradwyo cofnodion 14/12/2021 fel cofnod gwir a chywir.

768.

Diweddariad ar y Rheoliadau i Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a’r Newidiadau o ganlyniad i Gyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad gyda’r bwriad o wneud y canlynol:

 

  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CBC) yn unol â’r ddarpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
  • Ystyried Rheoliadau Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru 2021, a ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2021, mewn perthynas â sefydlu a gweithredu CBC, gyda’r swyddogaethau llesiant economaidd, trafnidiaeth a chynllunio strategol oedd yn dod i fodolaeth ar yr 28ain o Chwefror 2022;
  • Ystyried Adroddiad Cabinet Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Caerdydd dyddiedig Medi 2021, oedd yn nodi sut y bydd swyddogaethau’r Cyd-bwyllgor presennol yn cael eu trosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru ar y 1af o Fawrth 2022 a nodi’r argymhellion;
  • Nodi’r digwyddiadau sydd bellach wedi digwydd ers yr Adroddiad hwnnw ac ystyried Adroddiad Cabinet Cyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dyddiedig Rhagfyr 2021 oedd yn nodi’r dull “trac deuol” fydd yn cael ei roi ar waith yn awr cyn i Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru osod ei gyllideb statudol gyntaf ar yr 31ain o Ionawr 2022;
  • rhoi gwybod i’r Cabinet am y camau nesaf i ddatrys y rhwystrau presennol i weithrediad llawn y model “codi a symud” sy’n ceisio dod â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r CBC ynghyd yn y pen draw yn un model cydlynol o lywodraethu economaidd rhanbarthol.

 

Darparodd y Prif Weithredwr gefndir gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys darpariaethau i greu Cydbwyllgorau Corfforaethol (CJC) fel cyfrwng ar gyfer cydweithredu rhanbarthol cyson rhwng prif gynghorau. Y nod oedd sicrhau bod yna drefniadau rhanbarthol cyson, gwydn ac atebol ar gyfer cyflawni tair swyddogaeth bwysig, sef (i) cynllunio defnydd tir strategol (ii) cynllunio trafnidiaeth strategol a (iii) datblygu economaidd.


Eglurodd y Prif Weithredwr fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) ers ei sefydlu yn 2016 wedi darparu ystod o raglenni a mentrau uchel eu gwerth ar draws y rhanbarth, gan roi cyfanswm o tua £198 miliwn o fuddsoddiadau. Mae’r strategaeth fuddsoddi wedi’i seilio ar ddiwallu anghenion sylfaenol lleol – darparu cynlluniau trafnidiaeth cynaliadwy, cyflwyno seilwaith ar gyfer cerbydau gydag allyriadau isel iawn (ULEV), cau bylchau hyfywedd ar safleoedd diwydiannol ar gyfer tai, cymorth ar gyfer sgiliau a safleoedd datblygu strategol – ochr yn ochr ag amrywiaeth o fuddsoddiadau wedi'u targedu'n well i gyfateb i’r farchnad o amgylch yr economi arloesi a  chynyddu dwyster ymchwil a datblygu hanfodol.

 

Ychwanegodd fod egwyddorion allweddol wedi'u datblygu i fanteisio ar y buddsoddiad a wnaed, drwy fframwaith buddsoddi a oedd wedi blaenoriaethu dylanwad y sector preifat a natur sgiliau uchel y swyddi a grëwyd. Hyd yma, roedd y trosoledd rhagamcanol oddeutu £2.5 biliwn gyda tharged o 6,900 o swyddi. Yn allanol, mae’r ysbryd cystadleuol wedi cynyddu gyda dwy wobr Strength in Places yn cael eu dyfarnu o fewn cyfnod o ddwy flynedd gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, sy’n rhychwantu sectorau blaenoriaeth diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Diwydiannau Creadigol a bron i £100 miliwn o fuddsoddiad uniongyrchol newydd.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y manylion ar drosglwyddo Swyddogaethau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd De-ddwyrain Cymru – Llywodraethu a Chyflawni.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 768.

769.

Monitro Cyllideb 2021-22 - Rhagolygon Refeniw Chwarter 3 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar yr 31ain o Ragfyr 2021, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i drosglwyddiadau cyllideb rhwng £100,000 a £500,000, fel sy’n ofynnol dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at y tabl yn adran 4 yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y sefyllfa ariannol ar yr 31ain o Ragfyr 2021, a’r Gymhariaeth rhwng y gyllideb a’r alldro disgwyliedig.

 

Eglurodd fod tanwariant net o £2.525 miliwn yn cynnwys tanwariant net o £2.072 miliwn ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £7.457 miliwn ar gyllidebau'r cyngor cyfan, wedi'i wrthbwyso gan ddyraniad net o £7.004 miliwn i gronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi. Roedd yr hyn yr oedd y sefyllfa ragamcanol yn seiliedig arno wedi'i restru yn 4.1.2 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd fod y tanwariant a ragwelir ar gyllideb y Cyngor yn chwarter 3 yn cuddio'n sylweddol y pwysau cyllidebol sylfaenol mewn rhai meysydd gwasanaeth yr adroddwyd amdanynt yn 2020-21 ac oedd yn dal i fodoli yn 2021-22. Roedd y prif bwysau ariannol mewn Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Digartrefedd a Gwastraff. Amlinellwyd y rhesymau am y rhain yn adrannau 4.1.4 trwy 4.1.7 o'r adroddiad.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid effeithiau pandemig Covid-19 a beth oedd amcangyfrif o’r costau gan y Cyngor mewn ymateb i hyn. Rhoddodd ffigurau ar hawliadau gwariant Covid-19 hyd at ddiwedd Tachwedd 2021 yn ogystal â cholled incwm Covid-19 hyd at Chwarter 2 2021-22. Roedd manylion am hyn yn adran 4 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y bu nifer o drosglwyddiadau cyllidebol ac addasiadau technegol rhwng cyllidebau ers i Ragolwg Refeniw chwarter 2 gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref. Adroddwyd ar sefyllfa'r gyllideb gan ragdybio y bydd y trosglwyddiadau hyn yn cael eu cymeradwyo. Roedd y manylion yn 4.1.22 o'r adroddiad.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o sefyllfa tanwariant yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ond gallai’r darlun fod wedi bod yn wahanol oni bai am gronfa galedi Llywodraeth Cymru. Diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith yn tynnu’r arian i lawr oddi wrth Lywodraeth Cymru. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a dywedodd efallai na fydd y gronfa galedi yno yn y flwyddyn ariannol nesaf ac felly ei bod yn bwysig i'r awdurdod dynnu'r hyn a allent o'r cronfeydd hyn.

 

Soniodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod yr adroddiad yn amlygu tanwariant o ganlyniad i Covid. Gofynnodd a oedd unrhyw achosion eraill dros y tanwariant fel cadwyni cyflenwi ac ati.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yna broblemau ychwanegol ac mai cadwyni cyflenwi oedd un o'r rhai mwyaf amlwg.  Ychwanegodd nad oedd hwn yn fater unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr ond i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae hyn hefyd wedi effeithio ar allu contractwyr i ymgymryd â gwaith ychwanegol, sydd yn ei dro wedi effeithio ar faint y cynnydd a wnaed ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 769.

770.

Strategaeth Gyllido Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26 pdf eicon PDF 537 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar yr 31ain o Ragfyr 2021, ac roedd yn gofyn am gymeradwyaeth i drosglwyddiadau cyllideb rhwng £100,000 a £500,000, fel sy’n ofynnol dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Eglurodd fod y Cyngor ar y 24ain o Chwefror 2021 wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £298.956 miliwn ar gyfer 2021-22. Fel rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, roedd rhagamcanion cyllideb yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd i'r Cabinet bob chwarter.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y sefyllfa ariannol ar yr 31ain o Ragfyr 2021 oedd wedi ei grynhoi yn Nhabl 1 yr adroddiad. Manylwyd ar y sefyllfa ragamcanol yn 4.1.2 yr adroddiad gydag effeithiau Covid 19 fel y crybwyllwyd mewn adroddiad blaenorol wedi eu disgrifio yn 4.1.12.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi parhau i gefnogi addysg, ymyrraeth gynnar, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau lles i sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) yn ailadrodd bod y Cyngor wrth symud ymlaen yn edrych ar gynifer o ffyrdd ag y gallwn i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ganddo er mwyn gallu parhau i ddiogelu'r gwasanaethau hyn.

 

Ychwanegodd y byddai'r Cyngor yn ceisio codi incwm ychwanegol lle bynnag y bo modd, ond mai cyfyngedig fyddai’r cyfleoedd i wneud hynny o ystyried heriau Covid-19. Byddai'r Cyngor yn parhau i chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau i ddarparu cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd. Roedd arbedion ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys adolygu a rhesymoli cyflenwadau a gwasanaethau'r cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn bwriadu gwario 131 miliwn ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Roedd cyllid cyfalaf ychwanegol hefyd ar gael i gefnogi, adeiladu ac adnewyddu ein hysgolion fel rhan o raglen band B o dan raglen Moderneiddio'r Unfed Ganrif ar Hugain.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn bwriadu gwario 78 miliwn ar wasanaethau gofal cymdeithasol a lles yn y flwyddyn i ddod. Strategaeth y Cyngor yw trawsnewid sut rydym yn gweithio gyda phobl gan sicrhau bod y gwasanaethau yn gynaliadwy yn y tymor hir.

 

Nododd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y Trosolwg Ariannol Corfforaethol a oedd yn cynnwys y pwysau sy'n gwasgu adnoddau. Crynhowyd y rhain yn adran 4.1.1 yr adroddiad. Tynnodd sylw at yr arbedion yr edrychwyd arnynt oedd yn cwmpasu rhai meysydd allweddol a restrir isod:

 

  • mesurau effeithlonrwydd cyffredinol
  • arbedion eiddo
  • modelau darparu gwahanol
  • newidiadau yn y gwasanaethau a ddarperir
  • addysg
  • gofal cymdeithasol a lles
  • newidiadau adrannol

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, oherwydd y cyhoeddiad hwyr ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, na dderbyniwyd y setliad dros dro i Lywodraeth Leol tan yr 21ain o Ragfyr 2021.


Roedd y setliad drafft yn nodi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 770.

771.

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 3 2021-22 pdf eicon PDF 624 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid Perfformiad a Newid adroddiad, a’i ddiben oedd:

 

  • Cydymffurfio â gofyniad Cod Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf Awdurdodau Lleol, (argraffiad 2017) 
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22, ar 31 Rhagfyr 2021 (Atodiad A)
  • ceisio cytundeb gan y Cabinet i gyflwyno adroddiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig 2021-22 i 2030-31 (Atodiad B)
  • nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad C)

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 ar hyn o bryd yn dod i gyfanswm o £49.603 miliwn, a bod £28.495 miliwn ohono’n cael ei dalu o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda’r £21.108 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn dangos y Rhaglen Gyfalaf fesul Cyfarwyddiaeth ar gyfer 2021-22. Dywedodd fod y llithriad i flynyddoedd i ddod ychydig dros £30 miliwn a bod hyn yn golygu nad oedd llawer o gynlluniau yn mynd i wario'r gyllideb a ddyrannwyd iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac y byddant felly'n llithro i'r flwyddyn nesaf. Mae’r cynlluniau hyn yn parhau yn y rhaglen gyfalaf ac felly roedd yr arian yn dal i fod wedi ei ddyrannu iddynt.

 

Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at dabl 2 oedd yn manylu ar Adnoddau Rhaglen Gyfalaf 2021-22. Roedd Atodiad A yr adroddiad yn rhoi manylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos unrhyw rai newydd oedd wedi eu cymeradwyo, trosglwyddiadau arian a llithriad i gyllideb ddiwygiedig 2021-22. Crynhodd nifer o gynlluniau lle roedd angen llithriad a manylwyd arnynt yn 4.4 o'r adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod nifer o gynlluniau newydd wedi eu hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf ers i’r  adroddiad cyfalaf diwethaf gael ei gymeradwyo ym mis Hydref. Manylwyd ar y rhain yn 4.5 o'r adroddiad. Roedd manylion y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Ychwanegodd gyda'r cynlluniau amrywiol yn galw am lithriad i'r flwyddyn nesaf, y byddai'r Cyngor angen benthyca llai o arian nag a ragwelwyd yn wreiddiol, oedd yn golygu na fyddai'r Cyngor yn mynd i unrhyw ddyled benthyciad ar gyfer y flwyddyn ariannol.

           

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar ein Rhaglen Gyfalaf ond rhoddodd sicrwydd bod y cynlluniau’n dal yn flaenoriaeth. Croesawyd y cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i ehangu fflyd y Cyngor o gerbydau allyriadau isel yn ogystal â chyllid tuag at y paneli solar ffotofoltäig yn Nepo Bryncethin.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol am y llithriad yn Neuadd y Dref Maesteg a sut y byddai hyn yn effeithio ar ddyddiad y gystadleuaeth.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Cynllun Neuadd y Dref Maesteg yn un pwysig iawn a bod cyflwyno  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 771.

772.

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori â’r Heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a chyrff perthnasol eraill mewn perthynas â’r canlynol:

 

·         Estyniad i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol sy'n ymwneud â rheoli alcohol

·         Estyniad i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus presennol sy’n ymwneud â’r cyfyngiad ar fynediad i fan cyhoeddus yn yr ardal rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd, Maesteg

·         Estyniad i'r GDMAC presennol sy'n ymwneud â Rheoli C?n

·         Amrywio rheolaeth yr ardal alcohol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gynnwys yr ardal a adwaenir fel y parc chwarae ar Heol Quarella, Wildmill

·         Gan nodi, yn dilyn yr ymgynghoriad, y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r cabinet er mwyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch ymestyn ac amrywio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

 

Esboniodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod yn ddeddf ar 18 Mehefin 2019 a’i fod yn ymwneud â rheoli alcohol, cyfyngu ar fynediad i fannau agored cyhoeddus a rheoli c?n. Daw i ben ar 18 Mehefin 2022. Mae GDMAC yn parhau mewn grym am dair blynedd oni bai ei fod yn cael ei ddileu gan yr awdurdod lleol. Amlinellwyd mwy o fanylion ynghylch GDMAC yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yn rhaid cynnal ymgynghoriad ynghylch unrhyw Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ychwanegol, neu amrywiad neu estyniad i GDMAC presennol. Roedd y manylion yn adran 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd pe bai'n cael ei gymeradwyo, y byddai'r ymgynghoriad yn cychwyn ar 7 Chwefror 2022 ac yn parhau am gyfnod o 12 wythnos. Byddai’r ymgynghoriad yn gofyn am farn yngl?n â’r canlynol:

 

·         ymestyn y GDMAC presennol sy’n ymwneud â rheoli alcohol yng Nghaerau, Pencoed, Porthcawl, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr ar yr un telerau yn union.

·         ymestyn y GDMAC sy’n cyfyngu mynediad rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 17:30 ar un diwrnod a 09:00 y diwrnod wedyn ac ar ddydd Sul a’r holl wyliau banc am 24 awr.

·         ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol ynghylch rheoli c?n yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un telerau yn union.

·         peidio ag ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus sy'n ymwneud â chyfyngu mynediad rhwng Stryd Wesley a Stryd Lloyd, Caerau.

 

Roedd rhagor o fanylion am y GDMAC yn adran 4 yr adroddiad gyda’r gorchymyn presennol ynghlwm yn Atodiad 1, map yn dangos yr ardaloedd estynedig yn Atodiad 2 a’r gorchymyn cyfredol yn ymwneud â rheoli c?n ynghlwm yn Atodiad 3.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’r adroddiad a chredai y byddai gan lawer o drigolion, yn enwedig yn ei ward ef, ddiddordeb mawr yn yr ymgynghoriad cyhoeddus oherwydd nifer o faterion oedd wedi codi yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Arweinydd fod Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn arf defnyddiol wrth fynd i'r afael ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 772.

773.

Prosiect Rhanbarthol Connect Engage Listen Transform (CELT) pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn gofyn am ganiatâd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) ymrwymo i Gytundeb Perthynas rhanbarthol yn ymwneud ag ariannu a chyflawni Prosiect Connect Engage Listen Transform (CELT), a ariennir drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU (CRF) gydag amrywiol Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

 

Eglurodd fod dod â Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i ben yn ystod 2022 a 2023 wedi creu angen i gael cyllid newydd yn enwedig yr hyn oedd yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd. Roedd y 10 Awdurdod Lleol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi bod yn gweithio fel Gr?p Clwstwr Awdurdodau Lleol i drafod cyfleoedd ariannu newydd a allai ddisodli cyllid cyflogadwyedd ESF.

 

Dywedodd fod Llywodraeth y DU wedi creu cronfa newydd o’r enw y Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) a thrwy gydweithio â’i gilydd fod yr holl awdurdodau lleol sy’n ffurfio’r CCR wedi datblygu prosiect CELT a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) ar ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Lywodraeth y DU ar y 18fed o Fehefin 2021. Gofynnodd elfen CBSP o’r prosiect am £274,817 gan y CRF yn seiliedig ar ganlyniadau gweithio gyda 140 o gleientiaid a chael 26 i mewn i gyflogaeth yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd cefndir pellach yn adran 3 o'r adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod CBST wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU ar y 4ydd o Dachwedd 2021 fod cais CELT wedi cael ei gymeradwyo’n llwyddiannus. Ar yr adeg pan gyfunodd CBST gais y CCR, cyflwynwyd canlyniadau gwahanol yn erbyn cais CBSP am gyllid. Mae set newydd o dargedau a drafodwyd gwahanol i'r rhai a nodwyd yn 3.4 wedi'u cytuno a byddant yn cael eu hadlewyrchu yn y Cytundeb Perthynas. Roedd manylion hyn yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd at yr angen am Gr?p Cyflawni Gweithredol, oedd angen cynrychiolydd o bob Awdurdod Lleol. Cynigiwyd enwebu Rheolwr Cyflogadwyedd a Menter i gynrychioli CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar Fwrdd Rheoli Strategol CELT a bod Arweinydd Tîm Cyflogadwyedd yn cael ei enwebu i gynrychioli CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar Gr?p Cyflawni Gweithredol CELT.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau sylw at y goblygiadau ariannol a dywedodd fod prosiect CELT yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ofyniad gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr am arian cyfatebol. Bydd y Cytundeb Perthynas yn nodi manylion cyllid y prosiect a ddyrannwyd i CBS Pen-y-bont ar Ogwr (£274,817).

 

Soniodd yr Arweinydd fod nifer o fentrau ar waith eisoes; fodd bynnag, roedd pob un ohonynt drwy'r rhaglen gyflogadwyedd. Gofynnodd a oedd dim risg o ddyblygu na'r tebygolrwydd y byddai pobl yn syrthio drwy unrhyw fylchau. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod hwn ar wahân; er ei fod yn rhan o'r adran gyflogadwyedd ei fod yn gynllun oedd yn cyd-fynd â'r gwaith a wnaed eisoes. Ychwanegodd y gallai fod yn fwy ystyrlon i bobl oedd eisoes yn y cynlluniau presennol.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’r adroddiad ac roedd yn braf gweld y cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 773.

774.

Cynllun Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 606 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i adnewyddu Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddewis yn 2014 fel un o'r tair ardal arddangos ar gyfer Rhaglen System Glyfar a Gwres (SSH) Llywodraeth y DU. Rhoddodd y Cabinet awdurdod i CBSP gyfranogi yn y Rhaglen SSH mewn adroddiad a gyflwynwyd ar 3 Chwefror 2015. Cynlluniwyd y rhaglen i greu offer arloesol a fyddai’n ei gwneud yn bosibl datgarboneiddio gwres ar draws y DU yn unol â thargedau lleihau carbon 2050.

 

Dywedodd mai un o'r arfau a grëwyd o fewn y Rhaglen System Glyfar a Gwres oedd Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYAL). Ni fabwysiadodd CYAL ddull traddodiadol o ddatblygu strategaeth gan nad oedd yn cynnig yn glir beth, pryd a sut y byddai angen i weithgareddau ddigwydd er mwyn cyrraedd targedau datgarboneiddio 2050. Yn hytrach, cynigiodd y CYAL lwybr tuag at gyflawni'r targedau hynny. Roedd cefndir pellach ar CYAL yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Chwefror 2019, fod Llywodraeth y DU wedi symud targedau lleihau carbon y DU i ffwrdd oddi wrth ostyngiad o 80% erbyn 2050 i un o Sero Net erbyn 2050. Seiliwyd CYAL Pen-y-bont ar Ogwr ar gyrraedd y gostyngiad targed o 80%. Yn dilyn y newid yn nhargedau Llywodraeth y DU ar gyfer lleihau carbon, bu CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried ei sefyllfa mewn perthynas â’i CYAL a daeth i’r casgliad bod angen adnewyddu’r cynllun er mwyn ei gadw’n berthnasol. Wrth adnewyddu’r cynllun, ystyriwyd targed Sero Net Llywodraeth y DU erbyn 2050, rhoi’r gorau i werthu cerbydau tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2030 a’r rôl y gallai hydrogen ei chwarae mewn sicrhau Pen-y-bont ar Ogwr Sero Net. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod dwy senario wedi cael eu rhoi gerbron gyda golwg ar rôl hydrogen a'i effaith ar Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd Ffigur 2 a 3 yn dangos Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio hydrogen a heb ei ddefnyddio. Roedd y CYAL llawn wedi'i adnewyddu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod tîm Ynni CBSP wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â chysylltu â Llywodraeth Japan ar brosiect ar gyfer ynni hydrogen. Esboniodd fod llywodraeth y DU yn treialu defnyddio hydrogen fel math o b?er ar gyfer cludiant. Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd ar CBS Pen-y-bont ar Ogwr eisiau ei ystyried hefyd fel llwybr datgarboneiddio yn y dyfodol. Amlinellodd y goblygiadau ariannol fel y nodir yn adran 8 yr adroddiad.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau, er nad oedd llawer o fanylion yn cael eu dangos ar gyfer y cyfnod 2020-30, nad oedd yn hysbys pa dechnolegau newydd fyddai’n dod i fod ac yn disodli’r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dechnolegau newydd heddiw, ac felly roedd yn bwysig manteisio ar y cyfleoedd hynny oedd o'n blaenau a gwneud newidiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 774.

775.

Aelodaeth 100 y DU pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn rhoi crynodeb byr o 100 y DU, yr hyn y gallai aelodaeth ei olygu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) a chynnig bod y Cyngor yn ceisio sicrhau aelodaeth.

 

Esboniodd fod 100 y DU yn cael ei ddisgrifio fel fforwm ar gyfer “yr arweinwyr lleol mwyaf uchelgeisiol ar draws y DU” i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Roedd yn gwmni preifat cyfyngedig trwy warant heb unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau. Maent yn gweithio gyda’r aelodau mwyaf uchelgeisiol – Clwb Arweinwyr Lleol Net Sero – sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gael eu cymunedau i Net Sero cyn gynted â phosibl, ac erbyn 2045 fan bellaf. Mae’n cyfrif ymhlith ei aelodaeth tua 60 o awdurdodau lleol, gan gynnwys Cyngor Dinas Birmingham, Cyngor Caerdydd, Dinas Caeredin, Cyngor Dinas Glasgow, Cyngor Dinas Bryste, a Chyngor Cernyw. Ychwanegodd fod llawer o fanteision wedi'u cynnwys yn yr aelodaeth a restrwyd yn 3.7 yr adroddiad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai’n rhaid i CBS Pen-y-bont ar Ogwr lofnodi a mabwysiadu'r addewid sero net er mwyn dod yn aelod. Mae’r addewid sero net yn cynnwys y 3 ymrwymiad a ganlyn:

 

  • Bod wedi gosod targedau Sero Net uchelgeisiol sef 2030 ar gyfer allyriadau t? gwydr ar gyfer gweithrediadau cynghorau a 2045 fan bellaf ar gyfer allyriadau ardal gyfan (mae eithriad i hyn ar gyfer siroedd ac awdurdodau cyfun).
  • Adrodd ar allyriadau carbon yn flynyddol ar gyfer cwmpas 1 a chwmpas 2, ar gyfer allyriadau cynghorau ac allyriadau ardal gyfan.
  • Ymrwymo i gyfyngu ar y defnydd o wrthbwyso ac, os caiff ei ddefnyddio, i fod mor lleol â phosibl.

 

Mae'r tabl yn adran 4 yr adroddiad yn nodi statws presennol CBSP mewn perthynas â'r addewid aelodaeth a'i ymrwymiadau gan gynnwys yr heriau.


Roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau yn credu bod hyn yn atgyfnerthiad cadarnhaol i gynlluniau datgarboneiddio CBSP ac yn ein gosod ar binacl y CCRCD o ran rhannu gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a chytunodd ei fod yn caniatáu i CBS Pen-y-bont ar Ogwr rannu arferion gorau a dysgu’n uniongyrchol am y technolegau newydd oedd yn cael eu datblygu a’u gweithredu a chaniatáu i CBS Pen-y-bont ar Ogwr ennill tir pellach yn yr ymgyrch i ddatgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • Yn cymeradwyo bod y Cyngor yn dod yn aelod o 100 y DU;

 

Yn cymeradwyo bod yr Arweinydd yn ymateb i’r gwahoddiad swyddogol a dderbyniwyd ar y 13eg o Ebrill 2021 drwy e-bost yn cadarnhau aelodaeth y Cyngor ac, fel yr argymhellwyd gan 100 y DU, yn llofnodi’r addewid ac yna cymryd rhan yn y trefniadau cyhoeddusrwydd yn dilyn hyn.   

776.

Gweithredu Cronfa Fusnes Rhaglen Trawsnewid Trefi (TT) 2021-2022 pdf eicon PDF 280 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru i symud y rhaglen Trawsnewid Trefi (TT) yn ei blaen: Cronfa Fusnes o fewn 3 Canol Tref y Fwrdeistref Sirol, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.

 

Esboniodd fod adroddiad Cabinet Medi 2021 yn rhoi trosolwg ar lwyddiant y rhaglen TRI / TT hyd yma a gofynnodd am gymeradwyaeth i ymestyn y rhaglen hyd fis Mawrth 2022. Yn dilyn cymeradwyo'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, mae cynnydd wedi bod yn mynd ymlaen i ddwyn amrywiaeth o brosiectau i ffrwyth. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu grant o £1,166,000 i'w rannu rhwng 10 Awdurdod Lleol y De-ddwyrain.

 

Darparodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fanylion cynlluniau nodedig hyd yma oedd yn cynnwys:

 

  • Family Value - derbyniodd 38-40 Stryd Commercial ym Maesteg £250,000 i ddod ag ef yn ôl i ddefnydd ar gyfer manwerthu ar y llawr gwaelod a phreswylio uwchben.

 

  • New Look - 6 i 7 Stryd Talbot wedi derbyn £250,000 ar gyfer ehangu a gwella amodau.

 

  • Derbyniodd Zia Nina – 28 Dunraven Place £250,000 ar gyfer gwaith adnewyddu.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn gweithredu fel y corff arweiniol ar gyfer rhanbarth y De-ddwyrain ac y bydd yn adrodd i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Adfywio Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, fydd yn cynnwys Bwrdd Adfywio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae RhCT yn ei gwneud yn ofynnol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr a'r awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o ranbarth y De-ddwyrain ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda RhCT i hwyluso tynnu'r arian grant i lawr a sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau cyllid grant LlC.

 

Tynnodd sylw'r Cabinet at y risgiau yr oedd angen bod yn ymwybodol ohonynt, sef nad oedd swm penodol wedi'i ddyrannu i bob Awdurdod Lleol yn y De-ddwyrain. O'r herwydd ni fyddai prosiectau'n cael eu dyfarnu ond pan fyddent yn barod i fynd ac os oedd cyllid ar gael. Mae angen monitro cadarn gan swyddogion CBSP a RhCT.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn braf gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud i nifer o adeiladau ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd yn adeiladau tirnod oedd o fudd i lawer o'r trigolion. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, o fis Mawrth 2022 ymlaen, fod 19 o geisiadau wedi cael eu cyflwyno eisoes ar gyfer y gronfa sy’n dangos pa mor boblogaidd a llwyddiannus y bu’r cynllun o ran gwella ardaloedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.

 

Ategodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y sylwadau a dywedodd ei bod yn gadarnhaol gweld cymaint o sefydliadau manwerthu yn defnyddio cyllid ar gyfer gwelliannau gan fod llawer o'r adeiladau ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd amser i'w gwella oherwydd eu natur sensitif.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

777.

Adnewyddu Prydles Tŷ Clwb a Phafiliwn Clwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghaeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd i ystyried cynnwys darn bach o dir ychwanegol, yn cynnwys y rhwydi criced presennol, y storfa a darn bach o dir y tu ôl i'r pafiliwn yng Nghaeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr, fel rhan o'r cynllun adnewyddu prydles T? Clwb a Phafiliwn Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr i Ymddiriedolwyr Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd fod Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr (CCTP) ar hyn o bryd yn meddiannu eu T? Clwb a'u Pafiliwn yn rhinwedd prydles 21 mlynedd a ddechreuodd ar 1 Medi 1998 am rent hedyn pupur. Roedd y tir oedd wedi’i gynnwys yn y brydles hon wedi’i ddangos ag ymyl goch ar y cynllun oedd ynghlwm yn Atodiad A.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y brydles bresennol yn dod i ben ar 31 Awst 2019 a bod CCTP yn dal yr awenau ar hyn o bryd o dan yr un telerau â'r brydles hon sydd wedi dod i ben.  O dan delerau'r brydles, CCTP oedd yn gyfrifol am adeiladu'r T? Clwb a'r Pafiliwn. Ariannwyd y datblygiad hwn yn rhannol gan grant Sportlot oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfleusterau newid fod ar gael i glybiau chwaraeon eraill yn ystod misoedd y gaeaf at ddefnydd chwaraeon gaeaf.

 

Dechreuodd trafodaethau cychwynnol ar gyfer caniatáu’r brydles adnewyddu beth amser yn ôl a chawsant eu cwblhau ddiwedd 2019. Yn ystod y trafodaethau hyn gofynnodd CCTP am i'r tir y mae eu rhwydi ymarfer criced wedi'u lleoli arno a darn bach o dir ychwanegol at ddibenion storio y tu ôl i'r pafiliwn gael eu cynnwys yn y brydles adnewyddu. Mae cynnwys y tir ychwanegol hwn yn y brydles adnewyddu yn rhoi cyfle i'r Cyngor unioni'r sefyllfa ac mae’n cynyddu cyfanswm arwynebedd y tir i 0.2789 erw (1,128 metr sgwâr). Dangosir hwn ag ymyl goch ar y cynllun sydd ynghlwm yn Atodiad B. Roedd cefndir pellach yn rhan 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y cytunwyd ar delerau ag Ymddiriedolwyr CCTP a bod hysbysiad pwerau dirprwyedig CMMPS-20-014 (dyddiedig 1 Ionawr 2020) wedi awdurdodi adnewyddu prydles T? Clwb a Phafiliwn Clwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghaeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr i CCTP.

 

Dywedodd y byddai’r Cabinet yn gwybod y cynigir datblygu strategaeth unigol ar gyfer rheoli safle ehangach Caeau Trecelyn yn y dyfodol. Mae hwn yn un o'r safleoedd y mae'r Cyngor wedi'i nodi sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth fel parc cyhoeddus gan aelodau'r cyhoedd yn ogystal â darparu cyfleusterau chwaraeon ffurfiol (pafiliynau a meysydd chwarae). O ganlyniad, oherwydd maint y safleoedd, defnydd y cyhoedd, nifer y clybiau dan sylw, a/neu’r angen am welliant / datblygiad, mae’r Cyngor wedi penderfynu y dylid ystyried dewisiadau eraill yn ychwanegol at y Trosglwyddiad Ased Cymunedol arferol i glybiau chwaraeon, gyda strategaethau unigol yn cael eu datblygu ar gyfer pob safle yn dilyn gwerthuso’r dewisiadau.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau am eglurhad ar y trefniadau o gwmpas y brydles newydd a bod yr amodau yr un fath, dim ond bod tir ychwanegol wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 777.

778.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i gyrff llywodraethu’r ysgolion a restrwyd ym mharagraffau 4.1 a 4.2.

 

Eglurodd, ar gyfer yr 20 o leoedd gwag i lywodraethwyr awdurdod lleol yn yr 16 ysgol yn y tabl yn adran 4 yr adroddiad, fod pob ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymeradwy ar gyfer ei benodi’n llywodraethwr awdurdod lleol ac nad oedd cystadleuaeth am y lleoedd gwag. Argymhellwyd bod yr holl ymgeiswyr a restrwyd yn cael eu penodi.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Mr Kendal yn rhiant lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ond wedi gwneud cais i fod yn llywodraethwr awdurdod lleol yn yr un ysgol. Ni allai ddal y ddwy swydd ac felly roedd cael ei gymeradwyo i fod yn llywodraethwr awdurdod lleol yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymddiswyddo o’i le presennol fel rhiant-lywodraethwr yn yr ysgol ac na fyddai’r penodiad fel llywodraethwr awdurdod lleol yn dod i rym nes bod yr ymddiswyddiad wedi cael ei dderbyn a’i gydnabod yn ffurfiol gan gadeirydd corff llywodraethu’r ysgol a’r awdurdod lleol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i’r holl ymgeiswyr am roi eu henwau ymlaen. Roedd yn rôl brysur a heriol ond yn un bwysig. Dywedodd, os oedd gan unrhyw un arall ddiddordeb mewn gwneud cais am rôl, fod 47 o leoedd gwag ar gael o hyd. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r penodiadau y manylwyd arnynt ym mharagraffau 4.1 a 4.2 yr adroddiad.

779.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd i roi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid ynghylch Cynllun Strategol drafft y Gymraeg mewn Addysg (CSGA).

 

Esboniodd fod y Cabinet wedi cymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2014 ac wedi hynny ei fod wedi cael ei gymeradwyo gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2014. Cafodd y Cynllun ei adolygu a’i ddiweddaru’n flynyddol cyn ceisio cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ar y CSGA drafft gyda rhanddeiliaid rhwng 27 Medi a 19 Rhagfyr 2021. Roedd manylion hyn yn y ddolen a ddarparwyd yn 4.1 yr adroddiad. Roedd canlyniad yr ymgynghoriad wedi'i ddadansoddi ac ysgrifennwyd yr adroddiad ar yr ymgynghoriad (Atodiad 1). Roedd yr awdurdod lleol wedi ystyried yr ymatebion a ddaeth i law yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad ac wedi diwygio'r CSGA drafft yn unol â hynny (Atodiad 2). Byddai’r Cynllun deng mlynedd cyntaf yn dechrau ar 1 Medi 2022 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2032. Roedd rhagor o fanylion yn adran 4 yr adroddiad.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a dywedodd fod yr holl sylwadau wedi cael eu nodi a'u hystyried a lle'n bosibl eu hymgorffori yn y cynigion ac edrychai ymlaen at yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn ac roedd yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad llawn a gawsom gan y gymuned Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad â phartïon â diddordeb fel y disgrifiwyd yn Adroddiad yr Ymgynghoriad sydd ynghlwm; ac

 

yn cymeradwyo’r newidiadau i’r WESP drafft.

780.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 375 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gychwyn proses ymgynghori statudol i wneud newid rheoledig er mwyn ehangu Ysgol Gymraeg (YG) Bro Ogwr yn ysgol 2.5 dosbarth mynediad (DM), a meithrinfa gyda’r hyn sy’n cyfateb i 90 lle llawn amser, ynghyd â dosbarth ag 8 lle ar gyfer arsylwi ac asesu, ar dir oddi ar Ffordd Cadfan. Byddai’r cynnig yn dod i rym o ddechrau tymor yr hydref 2025.

 

Eglurodd y cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb ar y safle ym Mryn Bracla o ran y dewis addysg a ffefrir ar gyfer cynllun Gogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl ystyried y cymhlethdodau technegol a'r costau posibl oedd yn gysylltiedig â datblygu'r ysgol ym Mryn Bracla, penderfynodd y Cabinet adael y safle hwnnw allan o unrhyw ystyriaeth yn y dyfodol mewn perthynas ag YG Bro Ogwr a rhoddwyd caniatâd i swyddogion ystyried dewisiadau eraill ar gyfer yr ysgol newydd.

 

Ychwanegodd fod y Cabinet, ym mis Tachwedd 2021, wedi derbyn adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chyfarwyddwr y Cymunedau, oedd yn manylu ar ganlyniad astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â’r tir oddi ar Ffordd Cadfan ac wedi cadarnhau addasrwydd y safle i’w ddatblygu. Yn yr un cyfarfod cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â chaffael y safle. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, er mwyn ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr (h.y. 2.5 DM arfaethedig, 90 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn ynghyd â dosbarth arsylwi ac asesu ag 8 lle), fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol cynnal ymgynghoriad gyda chorff llywodraethu'r ysgol, staff, rhieni, disgyblion a phartïon â diddordeb. Dyma’r cam cyntaf yn y broses statudol.  Os caiff ei chwblhau, rhagwelir ar hyn o bryd y daw’r cynnig hwn i rym ar ddechrau tymor yr hydref 2025. Bydd y ddogfen ymgynghori’n nodi goblygiadau'r cynnig. Yn dilyn y cyfnod hwn o ymgynghori, byddai adroddiad pellach ar ganlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet iddo gael ystyried canlyniad y broses honno. Yna byddai angen i'r Cabinet benderfynu a ddylid awdurdodi cyhoeddi hysbysiad statudol. Pe câi hysbysiad o'r fath ei gyhoeddi, byddai'n gwahodd gwrthwynebiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod statudol o 28 diwrnod. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr adroddiad a dywedodd ei fod yn uchelgais gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ond bod angen barn pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy ymgynghoriad a bod hon yn rhan bwysig o symud hyn ymlaen. Credai ei bod yn bwysig cael ysgol yr 21ain ganrif gyfrwng Cymraeg a bod y lleoliad hwn yn ddewis addas i wasanaethu'r ardaloedd oedd ei hangen.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd at hyn gan ddweud bod angen cynyddol yng ngogledd ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr am leoedd ychwanegol ac y byddai hyn yn ehangiad mawr ar nifer y lleoedd oedd ar gael. Roedd yn gobeithio y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 780.

781.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn hysbysu'r Cabinet am yr Adroddiadau Gwybodaeth i'w nodi oedd wedi'u cyhoeddi ers ei gyfarfod arferol diwethaf.

 

Dywedodd fod yr adroddiadau gwybodaeth a ganlyn wedi’u cyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y Cabinet:-

 

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Chwarter 3, 2021-22 - 12 Ionawr 2022

 

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 - 12 Ionawr 2022

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi'r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

782.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

783.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Pharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddai’r eitemau busnes canlynol yn cael eu hystyried am eu bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.

                                  Yn  dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitemau, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth, am y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr a grybwyllwyd felly.

784.

Cymeradwyo Cofnodion a Eithriwyd

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 14/12/21

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cofnodion oedd wedi eu heithrio yn y cyfarfod dyddiedig 14/12/2021 fel cofnod gwir a chywir.