Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 8fed Chwefror, 2022 14:30

Lleoliad: o bell drwy Timau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

785.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd CE Smith - eitem 10 ar yr agenda - Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Canlyniad Ymgynghoriad ar Gynnig Moderneiddio Ysgolion i Ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig - Buddiant personol gan fod ganddo neiaint a nithoedd sy’n awr yn mynychu ac a fydd yn mynychu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig.

 

Y Cynghorydd J Gebbie - eitem 10 ar yr agenda - Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Canlyniad Ymgynghoriad ar Gynnig Moderneiddio Ysgolion i Ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig - Buddiant sy’n rhagfarnu fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Y Cynghorydd D Patel – eitem 8 ar yr agenda – Ymagwedd at Gyflogadwyedd yn y Dyfodol – Buddiant personol gan ei bod yn adnabod y swyddog y cyfeirir ato yn yr adroddiad, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Y Cynghorydd HJ David – eitem 8 ar yr agenda – Ymagwedd at Gyflogadwyedd yn y Dyfodol – Buddiant personol gan ei fod yn adnabod y swyddog y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

 

Y Cynghorydd HM Williams – eitem 8 ar yr agenda – Ymagwedd at Gyflogadwyedd yn y Dyfodol – Buddiant personol gan ei fod yn adnabod y swyddog y cyfeirir ato yn yr adroddiad.   

786.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 312 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/01/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 fel cofnod gwir a chywir yn amodol ar wneud un newid drwy aralleirio'r frawddeg ganlynol yng nghofnod rhif 770 - Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26, paragraff 14 drwy ddileu’r frawddeg a ganlyn “Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a dywedodd, er ei fod yn rhagdueddol, fod ei feddwl yn agored ac yn croesawu unrhyw fewnbwn gan Aelodau” a rhoi’r geiriau a ganlyn yn ei lle “Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad ac mae ei feddwl yn agored ac yn croesawu unrhyw fewnbwn gan Aelodau.”   

787.

Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Domestig, Ward Caerau 2012 a 2013 pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth i gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru erbyn 28 Chwefror 2022, i sicrhau cynnig dros dro o gyllid tuag at wneud gwaith adfer hanfodol sydd ei angen ar eiddo yng Nghaerau yn dilyn methiant y gwaith inswleiddio waliau a wnaed yn 2012/13. Gofynnodd hefyd am gefnogaeth y Cabinet i wneud cais i ddyraniad cyfalaf y Cyngor gael ei gymeradwyo a'i gynnwys fel rhan o'r achos busnes a gyflwynid, er mwyn sicrhau y câi cynllun cynhwysfawr ei ddatblygu i fynd i'r afael â phob eiddo yr effeithiwyd arno.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cabinet wedi cael gwybod o’r blaen ym mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021 am fethiant y gwaith inswleiddio waliau, a oedd wedi dangos arwyddion sylweddol o dd?r yn mynd i mewn a lleithder i dai yng Nghaerau. Roedd wedi derbyn awdurdod dirprwyedig gan y Cabinet i ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol oedd yn ymwneud â'r rhaglenni gwaith i osod inswleiddiad waliau yng Nghaerau yn 2012/13 ac edrych i mewn i’r dewisiadau i fynd i'r afael â'r gwaith oedd wedi bod yn fethiant a’i gywiro. Cytunwyd hefyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet yn amlinellu canlyniad ymgysylltu parhaus â sefydliadau fel OFGEM, y rheoleiddiwr ynni, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn neilltuol, pan fyddai unrhyw atebion wedi cael eu cytuno.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith inswleiddio waliau wedi cael ei wneud ar 104 eiddo yng Nghaerau bryd hynny, gyda'r Cyngor yn gweinyddu'r cyllid ar gyfer 25 o'r tai hyn gan ddefnyddio cynllun Arbed, drwy arian a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod gwaith wedi'i gwblhau ar y 79 eiddo arall gan ddefnyddio'r rhaglen arbed ynni cymunedol (CESP) a noddir gan Lywodraeth y DU, heb unrhyw ran gan y Cyngor yn y gwaith. Dywedodd wrth y Cabinet mai safbwynt y Cyngor oedd dod o hyd i ateb cynhwysfawr gyda’r rhanddeiliaid eraill er mwyn mynd i’r afael â’r holl waith inswleiddio waliau oedd wedi methu, ni waeth pwy a wnaeth ariannu na gweinyddu’r gwaith gwreiddiol.

 

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid mewn egwyddor ar yr amod fod y Cyngor yn cyflwyno achos busnes manwl i’w gymeradwyo erbyn y dyddiad cau, sef 28 Chwefror 2022. Mae'r cynnig o gyllid yn seiliedig ar achos busnes amlinellol cychwynnol a gyflwynwyd gan y Cyngor y llynedd ac ar y sail y bydd y Cyngor hwn hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at y cynllun yn ei gyfanrwydd. Dywedodd ei bod yn anodd iawn ar hyn o bryd amcangyfrif yn gywir gyfanswm cost y rhaglen lawn gan fod nifer o bethau anhysbys, oherwydd, yn dilyn arolwg a gynhaliwyd yn 2019, fod y problemau’n bodoli i wahanol raddau yn y cartrefi a arolygwyd. Dywedodd wrth y Cabinet y gallai'r gost o dynnu'r cladin presennol a gosod peth newydd fod yn seiliedig ar hyd at £30,000 y cartref, gyda chyfanswm cost y rhaglen lawn yn £3.5 miliwn. Ar sail hynny, câi cais ei wneud i'r Cyngor gyfrannu £855,000 o gyllid. Dywedodd fod trafodaethau’n parhau rhwng Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 787.

788.

Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2022-23 i 2025-26 a Phroses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) ar gynigion Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor (SATC) i’r Cabinet.

 

Dywedodd fod y COSC, er hwylustod, wedi ystyried canfyddiadau'r Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb a'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar 1 Chwefror 2022 i benderfynu a ddylid anfon yr argymhellion ymlaen i'r Cabinet, fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb. Dywedodd fod y COSC wedi derbyn yr argymhellion a'r sylwadau gan y Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb (PYGG) a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gynigion SATC ac wedi cytuno i'w cyflwyno i'r Cabinet.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd ei ddiolch i Gadeirydd y COSC am gyflwyno'r argymhellion i'r Cabinet ac ychwanegodd y byddai'r Cabinet yn ystyried ac yn ymateb i'r argymhellion a dderbyniwyd. Dywedodd fod rhai o'r argymhellion a gynigiwyd wedi cael eu gweithredu eisoes, tra byddai argymhellion eraill yn gofyn am ddarn mwy manwl o waith.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i aelodau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, sy’n drawsbleidiol am eu cyfranogiad yn y gwaith o graffu ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Mynegodd yr Arweinydd hefyd ei werthfawrogiad o waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb.

 

Sicrhaodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Gadeirydd y COSC, mewn perthynas ag Argymhelliad 6, fod y Cabinet eisoes yn lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfrifoldebau ychwanegol a roddir ar y Cyngor drwy’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod â chyllid i’w canlyn. Mewn perthynas ag Argymhelliad 8, dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y Cabinet yn ymwybodol iawn o effaith Covid a Covid hir ar gostau gofal cymdeithasol, a’i fod yn edrych ar ddyblygu swyddogaethau’r swyddfa gefn er mwyn rhyddhau amser gweithwyr cymdeithasol. Mewn perthynas ag argymhelliad 9, mae cynnig yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru a San Steffan ariannu diwygio’r system gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl gyda’r nod strategol o ariannu gofal cymdeithasol sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mewn perthynas ag argymhelliad 10, dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ail-gydbwyso’r farchnad rhwng gwasanaethau a gomisiynir a gwasanaethau mewnol dan ystyriaeth, gyda golwg ar y Cyngor yn cartrefu pobl ifanc gan yn y tymor hir. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at argymhelliad 5 a gofynnodd a oedd yr adolygiad yr oedd yn ei argymell yn ymwneud â chost darparu addysg feithrin amser llawn. Dywedodd Cadeirydd y COSC nad oedd consensws trawsbleidiol ar yr argymhelliad hwn a bod geiriad yr argymhelliad wedi cael ei adael yn amhendant.  

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at argymhelliad 11, oedd yn ymwneud â’r Cabinet yn edrych i mewn i’r potensial o gynyddu taliadau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd mai Llywodraeth Cymru oedd yn rheoleiddio ac yn pennu’r rhan fwyaf o’r taliadau a godir, megis y cap ar gyfer gofal cartref. Dywedodd Cadeirydd y COSC wrth y Cabinet y byddai'n gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 788.

789.

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor ar 24 Chwefror 2021 wedi cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf, yn ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021-22, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2020-21 i 2030-31 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC). Cawsai’r rhaglen gyfalaf ei diweddaru yn ystod y flwyddyn gyda chynlluniau newydd, diwygiadau i becynnau ariannu oedd yn bod eisoes a newidiadau i broffiliau cyflawni. Roedd dyfarniadau grant newydd, canlyniadau prosesau tendro a diweddariadau ar gynlluniau oedd yn bod eisoes, yr oedd angen eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf, wedi digwydd ers i’r Cyngor gymeradwyo’r rhaglen ddiwethaf ar 19 Ionawr 2022. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Cabinet y câi rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2021-22 i 2031-2032 ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor, ar 22 a 23 Chwefror 2022 yn y drefn honno, fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022- 23 i 2025-26, ochr yn ochr â’r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022-23 i 2031-32. Dywedodd fod yna nifer o bwysau ariannol yn codi o ganlyniad i amodau presennol y farchnad, yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig a Brexit.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22 i 2030-31, a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2002, yn £212,439 miliwn, ac y daw £118.094 miliwn ohono o adnoddau’r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a benthyca, gyda'r £94.345 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol. Dywedodd wrth y Cabinet fod angen cynnwys y cynlluniau newydd canlynol yn awr yn y rhaglen gyfalaf, y mae rhai ohonynt yn cael eu hariannu’n gyfan gwbl neu’n rhannol â grant, ynghyd ag eraill sydd angen eu diwygio:

 

  • Fflyd Ddi-Garbon Sero Net
  • Metro+ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Stad Ddiwydiannol Heol Ewenni
  • Adfywio Porthcawl
  • Hwb Plant Brynmenyn
  • Rhaglen Diogelwch Ynni Cymunedol / Cam 1 Arbed
  • Offer TGCh – Ysgolion
  • Cynllun Peilot Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru
  • Llety Ychwanegol Ysgol Arbennig Heronsbridge

 

Wrth gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig, gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar effaith Brexit a Covid ar y Cyngor ac ar gostau byw oedd wedi gweld cynnydd yn y prisiau a gyflwynwyd gan dendrwyr wrth dendro am gynlluniau. Tynnodd sylw at y tendr diweddar, fel enghraifft, o ddwy groesfan i gerddwyr lle roedd y swm a dendrwyd 2.5 gwaith y gost a ragwelwyd. Croesawai gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a fyddai’n golygu bod Metro+ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Ystad Ddiwydiannol Heol Ewenni yn dwyn ffrwyth. Soniodd yr Arweinydd am bwysigrwydd y cyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, na allai’r cynlluniau ddigwydd hebddo. 

 

Pwysleisiai Aelod y Cabinet dros Gymunedau bwysigrwydd y cyllid ar gyfer mabwysiadu Ynyslas, Porthcawl, i’r trigolion. Gofynnodd am esboniad ar y buddsoddiad ychwanegol mewn offer TGCh ar gyfer ysgolion. Eglurodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 789.

790.

Pencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn, Clwb Golff Brenhinol Porthcawl 2023 pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau am gymeradwyaeth i gyfraniad o gyllid a chymorth swyddogion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Bencampwriaeth Agored Golffwyr H?n 2023, i ymrwymo i Gytundeb Hawliau ac i barhau â gwaith i sefydlu Clwb Brenhinol Porthcawl fel lleoliad a all gynnal y Bencampwriaeth Agored.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal y brif bencampwriaeth golff gyntaf yng Nghymru pan gynhaliodd Clwb Brenhinol Porthcawl y Bencampwriaeth Agored i Bobl H?n yn 2014, gyda thros 43,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad, a chreu effaith economaidd amcangyfrifedig o £2.16 miliwn. At hynny, cyfrifwyd bod gwerth cyfatebol y cyfryngau drwy sylw teledu cynhwysfawr ar gyfer Porthcawl a'r Fwrdeistref Sirol yn £5.2 miliwn pellach. Dychwelodd y digwyddiad i Glwb Brenhinol Porthcawl yn 2017, a mynychwyd ef gan dros 32,000 o bobl, gyda gwerth cyfatebol y cyfryngau byd-eang ar gyfer Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Clwb Brenhinol Porthcawl, wedi’i gyfrifo yn £7.8 miliwn. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n yn dychwelyd i Glwb Brenhinol Porthcawl yn 2023 ac er bod y digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd, y deuai â buddion i'r economi leol ac y byddai’n hyrwyddo Porthcawl fel cyrchfan ar draws y byd. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi darparu’r tair Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n rhwng 2014 a 2024 â grant o £5 miliwn a bod trefnwyr y digwyddiad wedi gwneud cais am gyfraniad o £50 mil gan y Cyngor. Y cyfraniad arfaethedig o £50 mil yw cyfanswm y pecyn cyllid wedi’i gapio y gofynnwyd amdano gan y Cyngor tuag at y digwyddiad i dalu’r costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu’r cyfan o’r costau a nodir yn yr adroddiad, fel y’u hystyrid yn briodol gan y Daith Ewropeaidd (ET), yn gyfnewid am y buddion, a nodir yn yr adroddiad, i'r Cyngor a'r effaith sylweddol a amcangyfrifid ar yr economi leol. Tynnodd sylw at y manteision y byddai’r Bencampwriaeth yn eu dwyn i'r Cyngor.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y caiff gr?p cyswllt ei sefydlu gyda chynrychiolaeth swyddogion perthnasol a chynrychiolydd y Daith Ewropeaidd. Bydd y gr?p yn ceisio darparu cyngor ac arweiniad i’r Daith Ewropeaidd i’w helpu i wneud penderfyniadau, meithrin perthynas rhwng y Daith Ewropeaidd a rhanddeiliaid lleol a nodi cyfleoedd mewn perthynas â datblygu partneriaethau lleol, ymgysylltu â busnesau a hyrwyddo a marchnata, y gallai’r Daith Ewropeaidd eu datblygu.

 

Wrth gymeradwyo'r cynigion, gwnaeth Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio sylwadau ar arwyddocâd y digwyddiad i Borthcawl, y Fwrdeistref Sirol ac yn genedlaethol, na ellid ei orbwysleisio. Dywedodd fod dychweliad Pencampwriaeth Agored Golffwyr H?n wedi dangos y record sydd gan y Cyngor o gynnal y digwyddiad gyda'i bartneriaid. Dywedodd hefyd y byddai’r gr?p cyswllt yn ymdrechu i gael buddion i'r gymuned gyda'r posibilrwydd o docynnau am ddim ar gael i blant dan anfantais. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi'r syniad o wneud y gamp yn fwy hygyrch a chynhwysol i blant dan anfantais.

 

Holodd Aelod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 790.

791.

Agwedd at Gyflogadwyedd yn y Dyfodol pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau am y llwyddiant ledled y Sir drwy gyflenwi Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a gofynnodd am gymeradwyaeth i’r Fframwaith ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Dyfodol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, oedd yn adeiladu ar gynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cynigiwyd defnyddio’r fframwaith fel sail i swyddogion weithio ar y cyd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru i sicrhau adnoddau addas yn y dyfodol ar gyfer gwaith cyflogadwyedd, fydd yn cymryd lle’r rhai oedd ar gael o’r blaen drwy gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd y Cyngor yn arwain ar drafodaethau gyda rhanddeiliaid priodol wrth ddatblygu gweithio mewn partneriaeth a threfniadau cysylltiedig. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai hi, mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid yn cyflwyno cynigion i sicrhau adnoddau ar gyfer cyflogadwyedd drwy gronfeydd priodol ac yn cytuno ar waith partneriaeth a chytundebau cysylltiedig y gall y Cyngor gytuno iddynt, yn unol â'r Cynllun Dirprwyo. Dywedodd y câi unrhyw gynigion ariannu, a ddeuai o ganlyniad, eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol fel yr ystyrid yn briodol er gwybodaeth neu i gael penderfyniad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod pob un o'r 10 awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar hyn o bryd yn darparu gweithgaredd cyflogadwyedd i gynorthwyo pobl i mewn i gyflogaeth neu i'w helpu i symud ymlaen i gyflogaeth fwy cynaliadwy neu â chyflog gwell. Ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE, ni fydd Cyllid Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gael mwyach i gefnogi prosiectau i sicrhau buddion parhaus i unigolion, cymunedau ac economi’r Fwrdeistref Sirol. Mae'r prosiectau a ariennir gan ESF sy'n dal i fod yn weithredol bellach yn dod i mewn i gyfnod cau a rhaid i bob prosiect gau, yn unol â rheolau'r UE, erbyn Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, er mwyn osgoi bwlch mewn darparu gwasanaethau cyflogadwyedd, fod Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol (RSP) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi mabwysiadu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau, sy’n gosod gweledigaeth glir ynghylch anghenion sgiliau dyfodol y CCR a'r gweithgareddau y mae angen i bartneriaid rhanbarthol eu darparu i gyflawni hyn. Dywedodd, er mwyn adeiladu ar hyn, fod 10 Awdurdod Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cydweithio i greu un fframwaith clir a chyson ar gyfer prosiectau cyflogadwyedd yn y dyfodol yn y rhanbarth, yn seiliedig ar weledigaeth a rennir, egwyddorion cyffredin, ac offer cyffredin. Dywedodd wrth y Cabinet fod y fframwaith yn seiliedig ar egwyddorion a rennir, sy’n adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd o dros 20 mlynedd o brofiad o gyflawni prosiectau cyflogadwyedd ar draws y rhanbarth.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau na ellid gorbwysleisio pwysigrwydd y cynigion cyflogadwyedd, a dywedodd yr hoffai weld ymgysylltu â phobl sydd wedi elwa o’r blaen ar gymorth Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i ddychwelyd i gyflogaeth. Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn gyfle mawr i'r Fwrdeistref Sirol ac anogodd drigolion oedd mewn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 791.

792.

Cynllun Strategol 3 Blynedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gynllun strategol 3 blynedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr i’w gymeradwyo. 

 

Dywedodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gwasanaethau gofal cymdeithasol plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sylfaenol i gyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddiogelu, amddiffyn a gwella canlyniadau ar gyfer y plant mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref Sirol. Roeddent wedi gweld cynnydd yn angen a chymhlethdod plant a theuluoedd ers y pandemig, gyda chynnydd o 40% yn y rhai oedd yn cysylltu â gofal cymdeithasol plant. Dywedodd wrth y Cabinet fod gofal cymdeithasol plant, fel mewn llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ledled y DU, wedi profi heriau o ran cadw a recriwtio gweithwyr  cymdeithasol plant.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y cynllun strategol 3 blynedd ar gyfer gofal cymdeithasol plant Pen-y-bont ar Ogwr yn egluro pwrpas gofal cymdeithasol plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliant, ymddygiad a gwerthoedd wrth gyflawni'r diben hwnnw yn ogystal â'r camau strategol y manylir arnynt yn y cynllun. Dywedodd y caiff y cynllun ei lywodraethu drwy ‘Fwrdd Gwella Canlyniadau i Blant’ dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr. Bydd y Bwrdd yn darparu adroddiadau rheolaidd ar gynnydd i Fwrdd Rheoli Corfforaethol y Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Bydd y Bwrdd yn darparu goruchwyliaeth, her a chyfeiriad rheolaidd ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu hargymell i wneud cyflawni'r cynllun hwn yn bosibl. Bydd y Bwrdd yn elwa o gyngor arbenigol annibynnol a ddarperir gan arbenigwr mewn gofal cymdeithasol Plant, fydd yn cynghori ar y blaenoriaethau a nodwyd, y mesurau a’r cynnydd.

 

Wrth ganmol y cynnig, gwnaeth Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar sylwadau ar yr angen am y cynllun strategol 3 blynedd oherwydd y cynnydd o 40% yn nifer y plant oedd angen gofal. Dywedodd fod angen adeiladu ar y partneriaethau yr oeddent wedi eu datblygu a bod yn rhagweithiol er mwyn rhoi sefydlogrwydd i blant.  

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau at yr heriau o ran recriwtio a chadw staff a gofynnodd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai un o'r pethau allweddol i fynd i'r afael â recriwtio a chadw yn gadarnhaol yw i'r Cyngor ddatblygu ei staff ei hun, drwy'r secondiadau a'r hyfforddeiaethau. Roeddent yn edrych ar y cyfuniad o weithwyr cymdeithasol a staff nad oeddent yn staff gwaith cymdeithasol, gan ystyried arfer da mewn awdurdodau lleol eraill. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau pa gamau oedd yn cael eu cymryd i dorri’r cylch fel bod plant sydd â phrofiad o ofal yn cael cyfleoedd bywyd a chyflogaeth. Soniodd am bwysigrwydd rhoi’r un cymorth i blant â phrofiad o ofal ag a gâi ei roi i blant pobl eu hunain er mwyn iddynt gael y cyfleoedd gorau oll. Dywedodd y byddai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 792.

793.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Canlyniad yr Ymgynghoriad ar Gynnig y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion i Ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig pdf eicon PDF 886 KB

Cofnodion:

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2021, wedi ystyried canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb a chymeradwyo cychwyn proses ymgynghori statudol ynghylch ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig i fod yn ysgol â dau ddosbarth derbyn a meithrinfa â 75 o leoedd i'w lleoli ar safle’r ysgol iau ac i agor o fis Medi 2025. Yn unol â hynny, cynhaliwyd ymarferiadau ymgynghori rhwng 30 Tachwedd 2021 a 12 Ionawr 2022 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. 

 

Dywedodd fod y ddogfen ymgynghori yn gwahodd safbwyntiau a sylwadau i'w cyflwyno mewn perthynas â'r cynnig ac y byddai angen i'r Cabinet ystyried yr adroddiad ymgynghori a phenderfynu pa ffordd ymlaen a ffefrid. Dywedodd pe bai'r Cabinet yn symud ymlaen â'r cynnig, mai’r cam nesaf fyddai cyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu'r cynigion, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 diwrnod ac y câi unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol eu gwahodd yn ystod y cyfnod hwn. Dywedodd wrth y Cabinet pe na bai gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus yna gellid gweithredu'r cynnig gyda chymeradwyaeth y Cabinet. Pe bai yna wrthwynebiadau yn ystod cam yr hysbysiad cyhoeddus hwn, cyhoeddid adroddiad yn crynhoi’r gwrthwynebiadau ac ymateb yr awdurdod i’r gwrthwynebiadau hynny. Dywedodd y byddai angen i'r Cabinet ystyried y cynnig yng ngoleuni'r gwrthwynebiadau ac y gallai wedyn dderbyn, gwrthod neu addasu'r cynnig.

 

Wrth ganmol yr argymhellion, dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y cynigion wedi cael eu hailystyried oherwydd pryderon a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Dywedodd y bydd y cyfleuster newydd arfaethedig yn wych i Fynydd Cynffig a diolchodd i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, oedd wedi bod o gymorth i lunio dyfodol datblygiad ysgol iau bresennol Mynydd Cynffig. Dywedodd hefyd fod trafodaethau'n parhau gyda deiliaid y rhandiroedd a’r Corfflu Hyfforddiant Awyr i sicrhau y câi eu hanghenion eu bodloni. Soniodd am gynaladwyedd y cynnig gan y lleolir yr ysgol am y tro cyntaf ar un safle, fydd o fudd i’r staff a’r disgyblion. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cynigion wedi cael eu croesawu â brwdfrydedd gwirioneddol pan oedd ef ynghyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio a Chadeirydd y Llywodraethwyr ac un o aelodau'r Ward wedi ymweld â'r ysgol. Dywedodd y bydd yr ysgol yn cynnwys 2 faes chwarae pob tywydd ac y byddai hefyd o fudd i'r gymuned ehangach. Cyfeiriodd at y pryderon a fynegwyd gan Rieni dros Addysg Gymraeg nad oedd yr effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi derbyn sylw gyda'r cynnydd yn nifer y lleoedd fydd ar gael ym Mynydd Cynffig. Dywedodd y bydd y Cyngor yn ehangu’r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg yn y clwstwr hwnnw gyda’r bwriad i ehangu Ysgol y Ferch o’r Sgêr a’r cynigion ar gyfer egin-ysgol ym Mhorthcawl. Gwnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylwadau ar bwysigrwydd bod y cynigion ar gyfer ehangu Mynydd Cynffig yn gweithio er budd y gymuned. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu addysg gyfrwng Cymraeg a Saesneg gref iawn yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 793.

794.

Blaenraglenni Gwaith y Cabinet, y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i eitemau gael eu cynnwys ar y Flaenraglen Waith am y cyfnod o 1 Mawrth 2022 hyd 5 Mai 2022 ac i'r Cabinet nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am yr un cyfnod.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod cyhoeddi'r Blaenraglenni Gwaith yn bwysig i sicrhau tryloywder wrth wneud penderfyniadau.   

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

·      Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod o 1 Mawrth 2022 hyd 5 Mai 2022 yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

·      Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am yr un cyfnod, fel y dangosir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3 yr adroddiad, yn y drefn honno.

 

795.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn hysbysu'r Cabinet am yr adroddiad gwybodaeth canlynol, a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod arferol diwethaf.

 

Llongyfarchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr arweinwyr, athrawon, disgyblion a chyrff llywodraethu'r ysgolion a restrwyd yn Arolygon Estyn ar y cynnydd yr oeddent oll wedi'i wneud.    

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi’r ddogfen a restrwyd yn yr adroddiad:

Teitl                                                                               Dyddiad Cyhoeddi

Arolygiadau Estyn ar gyfer                                              2 Chwefror 2022

Ysgol Gynradd Plasnewydd,

Ysgol Gynradd Cwm Ogwr,

Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ac

Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath

796.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys.