Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Hydref, 2022 14:30

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1/2/3, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Time STC 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

39.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 374 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/07/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 yn gywir.

40.

Adfywio Glannau Porthcawl: Neilltuo Tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn hysbysu'r Cabinet ynghylch y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i'r hysbyseb am y bwriad i neilltuo tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay i gefnogi Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl. Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd i'r Cabinet ystyried y sylwadau a gafwyd o ganlyniad i'r hysbysiadau cyhoeddus ac ymatebion y swyddogion i'r sylwadau hynny, ac i'r Cabinet roi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r gwaith o neilltuo tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay i ddibenion cynllunio, fel yr oedd wedi'i amlinellu'n goch ar y Cynllun Neilltuo, er mwyn hwyluso cyflawniad Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gefndir y cynigion gan gynnwys manylion yr ymgyngoriadau a gynhaliwyd. Amlinellodd y tir i'w neilltuo a'r broses o neilltuo, a thrafod angen y cyhoedd am y defnydd presennol a'r defnydd cynllunio arfaethedig. Eglurodd sut yr aethpwyd ati i hysbysebu'r bwriad i neilltuo'r tir, ac amlinellodd y sylwadau a gafwyd a sylwadau'r swyddogion mewn ymateb i'r materion a godwyd. Eglurodd y byddai angen ystyried yr holl ystyriaethau ariannol fesul prosiect, ac y byddai adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i'r Cabinet a/neu'r Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun yn y dyfodol i waredu/neu ddatblygu'r tir a fyddai'n cael ei neilltuo a'r ardal adfywio ehangach. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r swyddogion am yr adroddiad ac am esbonio'r broses. Ychwanegodd fod ymweliad wedi cael ei gynnal â'r safle dan sylw yn ddiweddar, gyda Chynghorwyr eraill a swyddogion Nid oedd hyn golygu lleihau'r man agored a cholli Parc Griffin ond, yn hytrach, creu estyniad i ddyblu'r hyn a oedd yno'n bresennol. Roedd yr ardal ochr yn ochr â Maes Parcio Hi Tide, yr hen Monster Park, yn adnodd nad oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Byddai'r ardal honno'n datblygu i fod yn rhan o Barc Griffin, ac o gymorth i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd rhai mân newidiadau i’r cynlluniau gwreiddiol, ac un o'r newidiadau hynny oedd creu llwybr hir llinol ar hyd Llyn Halen, a oedd mor hir a 2 gae pêl droed. Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen i weld y canlyniad terfynol.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad ac ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen i weld cynlluniau manylach. Nid oedd yn deall peth o'r data technegol yn y cyfoeth o wybodaeth a oedd yn cael ei ddarparu i'r Aelodau Cabinet, a chan aelodau o'r cyhoedd a oedd yn gwrthwynebu neilltuo'r tir. Roedd hi'n falch o allu cymryd rhan yn y daith gerdded ac o allu dychmygu'r ardal. Ar ôl cael negeseuon e-bost a oedd yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn unig, roedd hi'n falch o weld bod rhai preswylwyr yn eu cefnogi. Roedd Porthcawl yn edrych yn arbennig o flêr, ac nid oedd rhyw lawer o arian wedi cael ei fuddsoddi yno ers blynyddoedd lawer, felly i sicrhau bod Porthcawl yn parhau i fod yn gyrchfan i ymwelwyr, ac i sicrhau hyfywedd Porthcawl ym mhob tywydd am flynyddoedd i ddod, roedd y cynnig hwn yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 40.

41.

Galw Penderfyniad y Cabinet i mewn: Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff ar ôl 2024 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (PTChC) ganfyddiadau ac argymhellion y PTChC gerbron y Cabinet, o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022, yn dilyn penderfyniad 4 Aelod Craffu i alw penderfyniad y Weithrediaeth i mewn yng nghyswllt: Y Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff ar ôl 2024.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor archwilio'r penderfyniad, a chynnal trafodaethau manwl â'r Aelod Cabinet dros Gymunedau a'r Swyddogion a wahoddwyd, penderfynodd y Pwyllgor na fyddai'r Penderfyniad yn cael ei gyfeirio'n ôl i'w ailystyried gan y Cabinet, ond gwnaeth yr Argymhellion canlynol i'r Cabinet:

 

a) Os caiff y contract Gwastraff ei ystyried unrhyw bryd yn y dyfodol, y dylid cyflwyno hynny gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar adeg briodol, fel bo modd craffu cyn gwneud penderfyniad a chynnig mewnbwn effeithiol i unrhyw benderfyniad a wneir. Gofynnodd y Pwyllgor i hyn gynnwys unrhyw gyngor arbenigol a gomisiynwyd ar gyfer model gwasanaeth gwastraff y dyfodol, cyn cyfeirio ymlaen i'r Cabinet, fel y crybwyllwyd ym mharagraff 9.5 o adroddiad y Cabinet;

b) O hyn allan, bod ystyriaeth a thrafodaeth lawn ac agored ynghylch mesurau wrth gefn yn ogystal ag astudiaeth fanylach o opsiynau eraill posibl ar gyfer darparu'r gwasanaeth gwastraff;

c) Bod yr opsiynau eraill a ystyriwyd wrth i'r Cabinet ddod i'r penderfyniad cyfredol i gael contract gwastraff byrdymor o 2024 hyd 2026, yn cael eu cyhoeddi i'r cyhoedd, er mwyn sicrhau proses cwbl agored a thryloyw.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r Cadeirydd a'r Pwyllgor Craffu am gynnal trafodaeth a dadl agored ynghylch dyfodol y gwasanaeth. Roedd yn croesawu craffu cyn penderfynu - gallai hynny fod o gymorth i sicrhau penderfyniadau gwell yn y tymor hir.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd yn anghytuno ag unrhyw beth a ddwedwyd, ac ychwanegodd  y byddai angen i'r Cabinet fod yn fwy agored gyda'i gwestiynau. Yr oedd wedi gofyn y cwestiynau hynny, ond nid oedd wedi gwneud hynny mewn fforwm cyhoeddus.

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu mewnbwn y PTChC a'i drafodaethau cynhwysfawr, a fyddai'n ddefnyddiol ac yn sail iddynt adeiladu arni yng nghamau nesaf y datblygiad. 

 

Cytunodd Cadeirydd y PTChC i fynegi diolch wrth aelodau'r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet wedi ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, ac yn cytuno i roi ymateb ysgrifenedig i'r Pwyllgor.

42.

Cynnig i Gyflwyno Gwaharddiad ar Roi Anifeiliaid Byw fel Gwobrau ar Dir y Cyngor a Throsolwg o Waith i Sicrhau Safonau Uchel o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid ar draws y Fwrdeistref Sirol pdf eicon PDF 307 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio adroddiad er mwyn cyflwyno gwaharddiad ar roi anifeiliaid byw fel gwobrau ar yr holl dir sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rhoddodd drosolwg i’r Cabinet o waith y Cydwasanaethau Rheoleiddio i sicrhau safonau uchel o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Amlinellodd Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio gylch gwaith y tîm ac egluro bod y Gwasanaeth yn cydweithio'n agos â'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) a phartneriaid eraill i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i anifeiliaid, a hynny'n aml mewn amgylchiadau heriol. Roedd yr RSPCA yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd i godi ymwybyddiaeth ynghylch sefyllfa anifeiliaid. Un o'r ymgyrchoedd hynny a oedd wedi ennyn cryn ddiddordeb ymhlith y cyhoedd oedd y ffaith bod anifeiliaid, pysgod aur fel arfer, yn dal i gael eu rhoi i bobl fel gwobrau mewn ffeiriau a digwyddiadau eraill ar draws y wlad. Dim ond drwy newid yn y gyfraith y gellid sicrhau gwaharddiad llwyr ar yr arferiad, ond roedd yr RSPCA yn apelio ar i Gynghorau yng Nghymru wahardd rhoi anifeiliaid fel gwobrau ar unrhyw dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Byddai hynny'n sicrhau na fyddai lles yr anifeiliaid hynny'n cael ei beryglu, yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y broblem ac yn arwain y ffordd i ddod â'r arferiad i ben. Drwy gyflwyno gwaharddiad, byddai'r Cyngor yn ymuno â nifer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gan gynnwys Caerffili, Casnewydd, Wrecsam a Bro Morgannwg, lle'r oedd rhoi anifeiliaid byw fel gwobrau ar dir sy'n eiddo i'r cyhoedd wedi'i wahardd.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i Bennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio a'i thîm am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud. Roedd nifer o breswylwyr wedi cysylltu ag ef yngl?n â hyn ac roedd yn falch o weld y cynnig yn cael ei gyflwyno.

 

Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd y dylid cynnwys amod ychwanegol, sef ein bod ni fel Cyngor yn sicrhau bod ein preswylwyr yn deall mai nhw sy'n gyfrifol am blismona hyn, a bod angen ymateb fel cymuned gyfan i'r broblem.

 

Cytunodd y Cabinet i dderbyn yr amod ychwanegol. 

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

·      Yn nodi gwaith y Cydwasanaethau Rheoleiddio i sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol.

·      Yn nodi ac yn cefnogi ymgyrch yr RSPCA i wahardd yr arferiad o roi anifeiliaid byw fel gwobrau.

·      Yn cymeradwyo cyflwyno gwaharddiad ar roi anifeiliaid byw fel gwobrau ar yr holl dir sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

·      Yn cytuno y dylid sicrhau bod preswylwyr yn cael gwybod ei bod hi'n ddyletswydd arnyn nhw i blismona'r gwaharddiad, a bod angen ymateb fel cymuned gyfan.   

 

43.

Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio 2021-22 pdf eicon PDF 716 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio ar gyfer 2021-22 i'w nodi. Esboniodd gefndir y Cytundeb Cydweithio a oedd yn sail i waith y Cydwasanaethau Rheoleiddio a Phwyllgor y Cydwasanaethau Rheoleiddio. Yn unol â'r Cytundeb Cydweithio, roedd yn ofynnol i'r Cydwasanaethau lunio Adroddiad Blynyddol a oedd yn trafod perfformiad gweithredol ac ariannol y gwasanaeth yn y flwyddyn gynt. Roedd Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio ar gyfer 2021-2022 yn edrych yn ôl ar y seithfed flwyddyn yng ngweithrediad y Cydwasanaeth. Roedd yn amlinellu perfformiad yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22, y cynnydd a wnaed wrth gyflawni'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Busnes y Cydwasanaethau Rheoleiddio, a chrynodeb o'r cyfrif refeniw a'r datganiad o wariant cyfalaf.

 

Amlinellodd Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio yr agweddau allweddol ar berfformiad gweithredol ar draws y rhanbarth, ac yn benodol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd i nodi'r adroddiad, ac ychwanegodd ei bod yn falch o gael gwybod yn uniongyrchol am waith a gyflawnwyd gan gydweithwyr y Cydwasanaethau Rheoleiddio. Roedd un o phreswylwyr ei hardal yn un o'r rhai yr effeithiwyd arno gan adeiladwr. Nid oedd y preswylwyr yn gwybod bod hyn ar gael iddynt, a dylid gwneud mwy i'w hyrwyddo er mwyn amddiffyn preswylwyr. Roedd hi'n debygol y byddai hyn yn effeithio ar nifer cynyddol o bobl sy'n agored i niwed o hyn ymlaen, yn enwedig wrth iddynt geisio arbed costau drwy ddefnyddio masnachwyr twyllodrus. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai adroddiad dilynol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w hysbysu ynghylch y cynnydd diweddaraf a gwneud penderfyniadau ynghylch y camau nesaf yn gysylltiedig â'r parth gweithredu ynghylch ansawdd yr aer. Cyfeiriodd at y defnydd o'r ap s?n, sef menter newydd a oedd yn mynd o nerth i nerth. Roedd yn galluogi preswylwyr i recordio s?n - technoleg a oedd yn cael ei chroesawu.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn nodi Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaethau Rheoleiddio ar gyfer 2021-22.

44.

Hunanasesiad Corfforaethol pdf eicon PDF 706 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hunanasesiad corfforaethol y Cyngor, fel sy’n ofynnol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr adroddiad hunanasesu a oedd ynghlwm yn Atodiad 1, i’w gyflwyno i'r Cyngor i’w gymeradwyo ar 19 Hydref 2022.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y broses a adroddwyd gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mehefin, ac a gyflwynwyd i aelodau'r panel Asesu Perfformiad Corfforaethol ym mis Mehefin a Gorffennaf, bellach wedi'i chwblhau.  Roedd y canfyddiadau a'r dyfarniadau wedi'u cydgasglu mewn un adroddiad syml, hygyrch. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (LlC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), roedd yr adroddiad hunanasesu a’r asesiad llesiant blynyddol wedi'u cyfuno i greu un ddogfen a oedd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1. Hon oedd blwyddyn gyntaf y broses hunanasesu ac wrth iddynt symud ymlaen byddai'n esblygu ac yn gwella.  Hon oedd blwyddyn olaf y Cynllun Corfforaethol cyfredol a gallai cyfle godi i ddiweddaru rhai o’r amcanion llesiant yn y dyfodol. 

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus am fynd â'r Cabinet drwy'r ddogfen. Roedd hon yn broses wahanol a dylai fod yn haws i'r preswylwyr ei deall.

 

Cytunodd yr Arweinydd y byddai lle i wella yn y dyfodol. Roeddent wedi edrych ar yr hyn yr oedd awdurdodau eraill yn ei wneud a byddent yn adrodd yn ôl ar arfer da. Byddai cyfnod hwy o ymgysylltu yn y dyfodol. Ychwanegodd mai hunanasesiad ar adeg benodol oedd hwn, sef Mawrth 2022, ac y gallai llawer ddigwydd mewn ychydig fisoedd.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cefnogir adroddiad hunanasesu corfforaethol 2021-22 a oedd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1, i'w gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 19 Hydref 2022.

45.

Adolygu Targedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-23 pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-23 fel yr amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad, cyn eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo ar 19 Hydref 2022.

 

Yn rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer y Cynllun Corfforaethol ar ei newydd wedd, esboniodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn y cyfnod adfer ar ôl COVID-19, a bod cydnabyddiaeth o'r ffaith bod hynny'n dal i effeithio ar y cylch cynllunio, gan ei gwneud hi'n fwy heriol gosod targedau ar gyfer 2022-23 mewn rhai achosion. Cytunodd y Cyngor fod angen dull hyblyg o osod targedau'r cynllun corfforaethol er mwyn sicrhau bod y broses o gynllunio busnes yn gadarn ac effeithiol. Eglurodd fod atodiad A yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol, a phe baent yn cael eu cefnogi gan y Cabinet a'u cymeradwyo gan y Cyngor, byddent yn cael eu cyhoeddi ar ffurf atodiad i'r Cynllun Corfforaethol cyfredol.

 

Cefnogodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am rywfaint o esboniad ynghylch pam bod targedau wedi'u gostwng, yn enwedig mewn ymateb i'r tîm adnoddau cymunedol. O ran y tîm adnoddau cymunedol, atebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddweud bod gweithgarwch wedi gostwng yn ystod COVID, ac mai canlyniad hynny oedd gostyngiad yng nghanran y bobl yr oedd eu hanghenion gofal wedi gostwng. Ar ôl ailalluogi, roeddent wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl nad oedd ganddynt anghenion gofal ar ôl bod drwy'r gwasanaeth ailalluogi. Roedd hon yn enghraifft allweddol a ddangosai pam nad oedd rhai o'r targedau o fewn y cynllun yn ddefnyddiol iawn.  Gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar fesurau mwy ystyrlon yn y dyfodol, a oedd yn rhoi'r darlun cyfan.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Cymunedau at y pwynt ynghylch datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol, a'r gwaith rhagorol a oedd yn digwydd yn y maes hwnnw. Pwysleisiodd y dylai'r targedau a osodir fod yn heriol. Dylai'r targed o 30% ar gyfer ailgylchu fod yn fwy heriol, gan eu bod eisoes wedi cyrraedd 40.7% ar gyfer 21/22. Awgrymodd newid y targed i 40%.

 

Ar ôl ailystyried, eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd y targedau yr oeddent yn bwriadu eu gosod yn gysylltiedig â chyflogaeth, addysg a hyfforddiant i'r rhai sy'n gadael gofal yn ddigon uchelgeisiol. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd ynghylch gosod targedau uwch gan fod heriau'n bodoli'n gysylltiedig â data yn y maes hwn. Roedd Bwrdd Gwella Canlyniadau i Blant wedi cael ei sefydlu, a oedd yn elwa ar gynghorydd annibynnol, ac ar ôl ailystyried, nid oedd y targedau'n ddigon uchelgeisiol. Roedd y cyflawniadau gwirioneddol yn uwch na'r targed a chynigiodd y dylid newid yr adroddiad er mwyn anelu i gyflawni'r hyn yr oeddent wedi'i wneud yn y flwyddyn gynt o leiaf.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cymeradwyo targedau diwygiedig y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-2023, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad, (yn amodol ar y newidiadau i'r targedau a gynigiwyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Cyfarwyddwr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45.

46.

Sefydlu Bwrdd Cynghori gydag Awen i Gefnogi Cyfeiriad Strategol a Datblygiad Partneriaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu ymagwedd Bwrdd Cynghori i gefnogi'r gwaith llywodraethu a phartneriaeth ag Awen drwy Weithred i Amrywio'r cytundeb partneriaeth.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gefndir y bartneriaeth ag Awen. Yn sgil llwyddiant y bartneriaeth ac er mwyn sicrhau gwell cysondeb rhwng sefydliadau wrth gynllunio'n strategol, eglurodd ei bod hi'n adeg briodol i wella effeithiolrwydd y trefniadau ac i sicrhau bod gan aelodau a swyddogion y Cyngor gysylltiad gwell â'r cytundeb partneriaeth ag Awen.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y partneriaid wedi dod i’r casgliad y byddai ymagwedd gr?p cynghorol o gymorth i gynyddu deialog a thryloywder, ymgysylltu â gwaith cynllunio strategol a oedd yn ymwneud yn benodol â Phen-y-bont ar Ogwr, adolygiad o gynnydd a pherfformiad, cyfleoedd i adnabod a rhannu heriau a phroblemau, a hefyd i sicrhau ffocws a datblygiad parhaus. Roedd Cylch Gwaith drafft wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 er gwybodaeth, a byddai'n cael ei adolygu a'i ffurfioli yng nghyfarfod cyntaf y Bwrdd Cynghori.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad cynhwysfawr. Roedd hyn yn syniad gwych ac roedd gweithio gyda Halo wedi dangos iddynt sut y gallai partneriaeth dda weithio. 

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Dirprwy Arweinydd a phwysleisiodd mai’r hyn a oedd yn wirioneddol bwysig i’w nodi oedd maint y defnydd drwy gydol y pandemig a’r gefnogaeth yr oeddent yn ei rhoi'n gyson i breswylwyr. A ninnau ar ddechrau argyfwng costau byw, roedd angen rhoi trefniadau llywodraethu ar waith.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd mai'r cynnig oedd cynnwys Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 3, sef y pwyllgor perthnasol, ar Fwrdd y Bartneriaeth. Roedd y trefniant hwn yn adlewyrchu trefniant Bwrdd Cynghori Halo ac yn fodel llwyddiannus yr oeddent wedi seilio'r bartneriaeth hon arno. 

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

·      yn cymeradwyo'r newid arfaethedig i ymagwedd Bwrdd Cynghori, er mwyn rhoi cefnogaeth well i'r bartneriaeth a threfniant y contract cyfredol, ac i hysbysu Awen ynghylch y newid cytunedig;

·      yn penderfynu ar gynrychiolaeth y Bwrdd Cynghori

yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i negodi a chytuno ar delerau terfynol y Weithred Amrywio, ac i drefnu i gyflawni'r Weithred Amrywio ar ran y Cyngor, yn amodol ar arfer yr awdurdod dirprwyedig hwnnw mewn ymgynghoriad â Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol a'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid.

47.

Darparu Gofal a Chymorth yn y Sefydliad Diogel pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch yr angen i newid y trefniadau gofal a chymorth i garcharorion ag anghenion cymwys yn CEM Parc, er mwyn cyflawni dyletswydd y Cyngor i ddiwallu anghenion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd yn hysbysu’r Cabinet y byddai’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet:

 

·         i drosglwyddo’r gofal a chymorth a ddarperir ar hyn o bryd gan G4S Health Services (UK) Ltd i’r Cyngor, gan nodi y byddai staff G4S presennol yn cael eu trosglwyddo drwy TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)) ac

·         i adolygu'r trefniadau'r contract presennol â G4S ac ymrwymo i gytundeb diwygiedig neu gytundeb newydd.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gyfrifoldebau'r Awdurdod, fel sy'n ofynnol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O fis Rhagfyr 2022, esboniodd y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn cynnig darpariaeth uniongyrchol ar gyfer anghenion iechyd y boblogaeth o garcharorion yn CEM Parc. Fodd bynnag, byddai dyletswydd o hyn i ddarparu/gomisiynu'r elfen gofal cymdeithasol o fewn y carchar. Ni allai'r BIP ddarparu gofal cymdeithasol rheoledig heb ymrwymo i gytundeb partneriaeth ffurfiol â'r Cyngor; ac er bod darpariaeth integredig yn parhau i fod yn opsiwn dymunol posibl ar gyfer y dyfodol, roedd y dyddiad cau ar gyfer trosglwyddo'r darparydd gofal yn golygu nad oedd modd mynd ar drywydd yr opsiwn hwnnw ar hyn o bryd. Roedd hi'n annhebygol y gellid bodloni'r terfyn amser, gan nad oedd y BIP ar hyn o bryd yn ddarparydd gofal cofrestredig i ddibenion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Nid oedd y Cyngor yn gallu comisiynu cwmni gofal cartref annibynnol i ddarparu’r gofal hwn oherwydd y cyfyngiadau yn CEM Parc fel y nodwyd mewn adroddiad blaenorol i’r Cabinet ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd yr adroddiad hwnnw'n cydnabod yr anawsterau o ran darparu gwasanaethau yn y carchar, a rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth ar gyfer hepgoriad, o dan y Rheolau Gweithdrefn Contractau, o'r gofyniad i ofyn am dendrau cystadleuol ar gyfer darparu gofal a chymorth yn CEM Parc, gan mai ond un sefydliad oedd â'r gallu technegol i ddarparu'r gwasanaeth.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r unig opsiwn ymarferol oedd ar gael a fyddai'n galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol oedd i'r Cyngor gymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am y gwasanaeth gofal cymdeithasol a ddarperir ar hyn o bryd gan G4S Health Services (UK) Ltd. Byddai trefniadau'r contract presennol rhwng y Cyngor a G4S yn cael eu hadolygu. Ychwanegodd fod trafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal â'r Adran Adnoddau Dynol a chynigiwyd y byddai'r staff gofal presennol a gyflogir gan G4S ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo drwy TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)) i'r Cyngor gan olygu bod modd cadw gwybodaeth a sgiliau presennol. Byddai ymgynghoriad ar drosglwyddo yn cael ei gynnal â'r gweithwyr, ynghyd â dadansoddiad o'r goblygiadau o ran strwythur presennol y staff, cyn y dyddiad cytunedig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 47.

48.

Canlyniad Hysbysiad Cyhoeddus i Agor Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu i Ddisgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Tremaen. pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu’r Cabinet ynghylch canlyniad yr hysbysiad cyhoeddus am y cynnig i agor darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan sefydlu canolfan adnoddau dysgu (CAD) ar gyfer disgyblion ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Tremaen.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) wedi mabwysiadu ymagwedd ragweithiol drwy gomisiynu adolygiad cynllunio strategol o ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn 2020. Un o'r meysydd a nodwyd ar gyfer darpariaeth ychwanegol oedd Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer plant ag ASA. Nodwyd bod angen agor CAD ychwanegol i blant ag ASA. Roedd gwaith wedi dechrau i addasu Ysgol Gynradd Tremaen drwy'r grant cyfalaf Cynnal a Chadw Ysgolion, a fyddai'n caniatáu'r gofod angenrheidiol i agor CAD ASA.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr hysbysiad cyhoeddus statudol wedi'i gyhoeddi ar 30 Mehefin 2022, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu oedd 27 Gorffennaf 2022. Cadarnhaodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod rhybudd statudol, ac roedd modd felly i'r Cabinet wneud penderfyniad ynghylch gweithredu'r cynnig. Esboniodd y goblygiadau ariannol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau, ac roedd yn hapus i gymeradwyo'r adroddiad.

 

Cytunodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion da iawn i'r gymuned, ac y byddai'r ystafell ddosbarth newydd yn agor yn nhymor y gaeaf.

 

PENDERFYNODD:        Y Cabinet

·      nodi na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus; a

chymeradwyo gweithredu’r cynnig gan bennu dyddiad agor yn nhymor yr hydref 2022.

49.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Gynradd Coety - Caniatâd i Ddechrau Ymgynghoriad Statudol pdf eicon PDF 232 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn proses ymgynghori statudol mewn perthynas â newid rheoledig i ehangu Ysgol Gynradd Coety i fod yn ysgol 2.5 dosbarth mynediad gyda blwyddyn feithrin ac ynddi 88 o leoedd cyfwerth ag amser llawn. O gymeradwyo'r cynnig, byddai'n dod i rym o ddechrau tymor y gwanwyn 2025.

 

Er mwyn ymateb i'r galw am leoedd yn Ysgol Gynradd Coety, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod swyddogion wedi cynnal arfarniad o opsiynau a ddangosai fod angen cynyddu darpariaeth yn yr ysgol. Arweiniodd yr arfarniad at nodi opsiwn a ffafrir ar ffurf estyniad deulawr a fyddai'n cynnwys pedair ystafell ddosbarth, ac ar 15 Mehefin 2022 cafwyd cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys y cynllun yn y rhaglen gyfalaf.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'r cynnig yn arwain at gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Coety o 420 i 520 o leoedd i ddisgyblion 4 i 11 oed (hynny yw, ysgol 2.5 dosbarth mynediad). Nifer derbyn cyhoeddedig yr ysgol ar ôl yr ehangu fyddai 75. Hefyd, o ganlyniad i'r datblygiad, byddai cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth feithrin bresennol o 76 o leoedd cyfwerth ag amser llawn i 88 o leoedd cyfwerth ag amser llawn. Ar gyfer y cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Coety, ychwanegodd fod angen i'r awdurdod lleol wneud addasiad rheoledig o dan God Trefniadaeth Ysgolion 2018. Roedd yn ofynnol cynnal ymarfer ymgynghori llawn â rhanddeiliaid, gan gynnwys corff llywodraethu'r ysgol, staff, rhieni, disgyblion a phartïon eraill â buddiant. Byddai'r ddogfen ymgynghori yn nodi goblygiadau'r cynnig ac yn dilyn y cyfnod hwn o ymgynghori, byddai adroddiad pellach ar ganlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i ystyried canlyniad y broses honno. Byddai angen i'r Cabinet wedyn benderfynu a ddylid awdurdodi cyhoeddi rhybudd statudol. Pe bai rhybudd o'r fath yn cael ei gyhoeddi, byddai'n gofyn am wrthwynebiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod statudol o 28 diwrnod.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd hyn yn newyddion gwych i Ysgol Gynradd Coety a phreswylwyr Coety a Pharc Derwen. Dyma oedd y cam cyntaf yn y broses, a byddent yn cydweithio'n agos â'r gymuned a'r Aelodau a Chorff Llywodraethu'r Ysgol i sicrhau bod yr ysgol hon yn addas i bawb.

 

Yn ogystal â'r broses statudol o ymgynghori ynghylch ysgolion, ychwanegodd yr Arweinydd fod proses gynllunio statudol hefyd a fyddai'n gyfle i'r gymuned roi adborth. Roedd argaeledd mannau yn yr awyr agored eisoes yn fater a oedd wedi codi, a byddai hyn yn cael ei ystyried yn rhan o'r broses.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd bryderon ynghylch recriwtio staff i'r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a gofynnodd sut y byddai'r broses honno'n cael ei rheoli.

Atebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg drwy ddweud bod staffio yn her yn yr holl ysgolion, ac mai un o'r heriau yn Ysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 49.

50.

Canlyniad yr Hysbysiad Cyhoeddus i Agor Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu i Ddisgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymedrol yn Ysgol Cynwyd Sant pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu’r Cabinet ynghylch canlyniad yr hysbysiad cyhoeddus am y cynnig i agor darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan sefydlu canolfan adnoddau dysgu (CAD) ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol (ADC) yn Ysgol Cynwyd Sant.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) wedi mabwysiadu ymagwedd ragweithiol drwy gomisiynu adolygiad cynllunio strategol o ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn 2020. Un o'r meysydd a nodwyd ar gyfer darpariaeth ychwanegol oedd Cyfnod Allweddol 2 i blant ag ADC sy'n mynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nodwyd bod angen agor CAD i blant ag ADC a oedd yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd gwaith adeiladu wedi'i gynllunio ar gyfer adeilad nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol Cynwyd Sant. Byddai hynny'n darparu'r gofod y byddai ei angen ar gyfer y CAD ADC. Roedd hyn yn cael ei gyllido drwy'r grant cyfalaf Cynnal a Chadw Ysgolion.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr hysbysiad cyhoeddus statudol wedi'i gyhoeddi ar 30 Mehefin 2022, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu oedd 27 Gorffennaf 2022. Cadarnhaodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol, ac roedd modd felly i'r Cabinet wneud penderfyniad ynghylch gweithredu'r cynnig.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd hyn yn newyddion gwych i'r Awdurdod ac i Ysgol Cynwyd Sant ac yn cryfhau'r ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu'r cynnydd yn gysylltiedig â hyn, ac yn nodi'r gefnogaeth a gafwyd gan gymuned yr ysgol. Roedd yn edrych ymlaen i weld y ddarpariaeth yn agor yn nhymor y gaeaf.

 

PENDERFYNWYD:        Bod y Cabinet

·      yn nodi na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus. ac

yn cymeradwyo gweithredu'r cynnig.

51.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i'r cyrff llywodraethu ysgolion a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ar gyfer y saith lle gwag presennol i lywodraethwyr awdurdod lleol yn y chwe ysgol yn y tabl, fod pob ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymeradwy i'w penodi'n llywodraethwr awdurdod lleol, ac nad oedd cystadleuaeth am y swyddi gwag hyn. Yn unol â hynny, argymhellodd y penodiadau. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r adroddiad fe'i hysbyswyd nad oedd y Cyng. Alex Williams bellach yn dymuno cael ei ystyried ar gyfer swydd llywodraethwr awdurdod lleol yn Ysgol Gyfun Pencoed. Gan hynny, argymhellwyd i'r Cabinet y dylid cymeradwyo'r penodiadau a nodir ym mharagraff 4.1 ac eithrio'r Cynghorydd Alex Williams.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg i'r aelodau o'r cyhoedd a'r Aelodau a oedd wedi cynnig eu henwau. Roedd llawer o leoedd gwag o hyd mewn ysgolion lleol ac erfyniodd ar i eraill ymgeisio am y swyddi pwysig hyn. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyng. Alex Williams am ei gyfraniad yn Ysgol Gyfun Pencoed.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r penodiadau a nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, yn amodol ar ddileu'r Cyng. Alex Williams ar gyfer Ysgol Gyfun Pencoed.

52.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Canlyniad Hysbysiad Statudol Ysgol Heronsbridge pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad yr hysbysiad statudol a gyhoeddwyd ar gyfer adeilad newydd Ysgol Heronsbridge, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i newid dyddiad gweithredu'r cynnig i ddechrau tymor y gwanwyn 2026, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi ac anfon llythyr penderfyniad, fel y rhagnodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018 (y Cod).

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir y cynnig, ac egluro bod yr adroddiad ymgynghori, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 14 Mehefin 2022, wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a'r rhanddeiliaid wedi cael gwybod am hynny. Daeth cyfnod yr hysbysiad statudol i ben ar 27 Gorffennaf 2022, ac ni chafwyd unrhyw sylwadau yn erbyn y cynnig. Eglurodd fod adolygiad manwl wedi cael ei gynnal o'r rhaglen gyflawni ar gyfer yr ysgol newydd, a chyngor wedi'i dderbyn gan ymgynghorwyr mewnol ac allanol ynghylch hynny. Oherwydd natur arbenigol yr ysgol, byddai angen digon o amser i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnal rhaglen strwythuredig i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y corff llywodraethu, staff a disgyblion. Roedd yn hanfodol  ysgol a chydweithwyr Iechyd gael mewnbwn yn y cam pwysig hwn o'r broses. Gan hynny, dylid newid y dyddiad agor a gynigiwyd ar gyfer yr ysgol newydd i ddechrau tymor y gwanwyn 2026, er mwyn caniatáu amser o fewn y rhaglen i ymgysylltu mewn modd priodol â rhanddeiliaid. Ychwanegodd fod yr awdurdod lleol wedi ymgynghori â Chorff Llywodraethu Ysgol Heronsbridge ynghylch y newid arfaethedig, ac roedd y Cadeirydd wedi cadarnhau bod y dyddiad diwygiedig wedi'i dderbyn. Ar yr un pryd, fodd bynnag, pwysleisiodd pa mor bwysig oedd defnyddio'r cyfnod ymgynghori estynedig i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau y byddai'r adeilad newydd yn gwneud cyfiawnder â'r disgyblion a'r Fwrdeistref Sirol. Dywedodd y Cadeirydd fod y corff llywodraethu yn disgwyl y gorau i'w ddisgyblion, ac roedd hynny i ddechrau'n golygu cynnal ymgynghoriad manwl a'r holl rhanddeiliaid yn y cam dylunio cyn dechau'r gwaith adeiladu.

 

Roedd gofyn i'r Cabinet nawr ystyried canlyniad y broses statudol a phenderfynu a ddylid gweithredu'r cynnig. Gallai'r Cabinet naill ai benderfynu derbyn, gwrthod neu addasu'r cynnig.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd yn newyddion gwych bod hyn yn symud ymlaen ar y cyd â’r Pennaeth, y Corff Llywodraethu, y rhieni a'r disgyblion fel ei gilydd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr achos o blaid hyn yn gryf, a bod angen taer am adeilad llawer mwy i'r ysgol. Byddent yn sicrhau bod y dyluniad o'r ansawdd uchaf, ac yn edrych ar arfer gorau ledled Cymru. Yr oedd newydd ymweld â Th? Hafan a oedd wedi elwa’n ddiweddar ar waith moderneiddio ac estyniad. Roedd hyn yn gyfle gwirioneddol i ystyried yr amgylchedd yr oeddent wedi'i greu yno i blant ag anghenion cymhleth.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a fyddai modd trefnu i'r Cabinet ymweld â'r ddarpariaeth gyfredol,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 52.

53.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Heronsbridge, Caffael pdf eicon PDF 272 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y strategaeth caffael i ddylunio ac adeiladu'r ysgol newydd; yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â'r broses gaffael;  yn hysbysu'r Cabinet y bydd yn derbyn adroddiad yn y dyfodol ynghylch canlyniad arfarniad o opsiynau mewn perthynas â darpariaeth breswyl a seibiannol y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant; ac yn hysbysu'r Cabinet y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno iddo yn y dyfodol cyn dyfarnu'r prif gontract adeiladu, yn nodi'r sefyllfa o ran costau a chyllideb y prosiect.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir y cynigion ac wedyn egluro'r sefyllfa gyfredol ac amlinellu'r opsiynau amrywiol. Esboniodd y byddai swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gweithio gyda'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth ddylunio'r ysgol newydd, i ystyried opsiynau gyda chostau cysylltiedig i adleoli'r gwasanaeth preswyl a seibiannol ochr yn ochr â'r ysgol newydd. Byddai adroddiad yn cael ei roi ar ganlyniad y broses hon yn un o gyfarfodydd nesaf y Cabinet. Gan mai proses dau gam fyddai'r gwaith dylunio ac adeiladu, ychydig o gostau a fyddai'n cael eu creu yn gysylltiedig â dylunio, ac ni fyddai unrhyw ymrwymiad i fwrw ymlaen i'r ail gam. Atgoffodd y Cabinet fod yr Adran Landlord Corfforaethol ar ganol caffael safle Fferm yr Ynys ar gyfer yr ysgol arfaethedig. Roedd hi'n bwysig nodi bod elfen o risg yn gysylltiedig â'r broses hon. Pe na bai'r pryniant hwn yn mynd rhagddo, byddai'r mater yn cael ei adrodd yn un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol, gan ofyn am gymeradwyaeth i roi'r gorau i'r cynnig fel yr oedd wedi'i gyhoeddi. Heblaw am yr uchod, argymhelliad y Bwrdd oedd y dylid cychwyn y broses o ddylunio'r ysgol newydd, a'i chynnal ar yr un pryd â chwblhau pryniant y safle.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol a daeth i'r casgliad y byddai'n rhaid defnyddio arian o gyllidebau refeniw'r Cyngor i dalu unrhyw ffioedd/costau dylunio ofer yn gysylltiedig â'r datblygiad. Eglurodd fod y goblygiadau ariannol wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Dywedodd mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf i'r Cyngor ei ysgwyddo erioed, ac roedd yn fenter enfawr. Ar ôl cymeradwyo'r adroddiad blaenorol, eu cyfrifoldeb hwy oedd sicrhau bod yr ysgol yn barod i ddisgyblion cyn gynted ag a oedd yn bosibl.

 

Ar ôl cwrdd â phreswylwyr presennol Harwood House, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y llety yn gyfyngedig. Byddai'r galw am y cyfleuster hwn yn cynyddu, a byddai lleoli'r cyfan gyda'i gilydd yn golygu y gellid sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau. 

 

Gallai'r Arweinydd weld eu bod yn amlwg wedi gorfod rhoi ystyriaeth ofalus i effaith sylweddol pwysau chwyddiant ar y diwydiant adeiladu. Roedd hyn yn wahanol i brosiectau blaenorol lle bu'r prisiau'n fwy sefydlog. Roedd hon yn ffordd deg a thryloyw o nodi costau ychwanegol wrth iddynt godi, ac roedd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 53.

54.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Canlyniad Hysbysiad Statudol Ysgol Gymraeg Bro Ogwr pdf eicon PDF 244 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am ganlyniad yr hysbysiad statudol a gyhoeddwyd mewn perthynas ag Ysgol Gymraeg (YG) newydd Bro Ogwr, yn gofyn am gymeradwyaeth i weithredu'r cynnig o ddechrau tymor yr hydref 2025, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi ac anfon llythyr penderfyniad, fel y rhagnodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018 (y Cod).

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir y cynnig ac eglurodd fod y Cabinet, ym mis Mehefin 2022, wedi cael gwybod am ganlyniad y broses ymgynghori statudol ac wedi cymeradwyo cyhoeddi'r adroddiad ymgynghori a'r hysbysiad statudol yn gysylltiedig â'r cynnig. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar 30 Mehefin 2022 am gyfnod o 28 diwrnod, gan wahodd unrhyw un i wrthwynebu'n ffurfiol mewn ysgrifen yn ystod y cyfnod hwn.

Daeth yr hysbysiad statudol i ben ar 27 Gorffennaf 2022, ac fe gafwyd un neges e-bost ynghylch agosrwydd y safle presennol at y safle arfaethedig newydd ar Ffordd Cadfan, ac yn holi ynghylch gofynion teithio llesol a theithiau dysgwyr. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad, ac roedd gofyn i'r Cabinet bellach roi ystyriaeth lawn i ganlyniad y broses a phenderfynu a ddylid gweithredu'r cynnig ai peidio.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hwn eto'n cynrychioli newyddion da, a'r ysgol gynradd hon fyddai'r fwyaf o unrhyw iaith yn y Fwrdeistref, ac yn gam pwysig ymlaen er mwyn tyfu'r Gymraeg.   

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod yn hynod falch o gael eilio’r adroddiad hwn ar sail ei leoliad ar safle tir llwyd. 

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet:

·           yn nodi canlyniad yr hysbysiad statudol a gyhoeddwyd i wneud addasiad rheoledig i ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr i ysgol 2.5 dosbarth mynediad,

gyda darpariaeth feithrin a fyddai'n cynnwys 90 o leoedd cyfwerth ag amser llawn, yn ogystal â dosbarth arsylwi ac asesu 8 lle ar dir oddi ar Ffordd Cadfan;

·           yn penderfynu gweithredu'r cynnig o ddechrau tymor yr hydref 2025; ac

yn cymeradwyo cyhoeddi ac anfon llythyr penderfyniad, fel sy'n ofynnol yn y Cod.

55.

Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg - Tref Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 383 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn manylu ar ganlyniad y broses gwerthuso opsiynau ar gyfer sicrhau

darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr ac

yn gofyn am gymeradwyaeth i gydleoli'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer

ardal tref Pen-y-bont ar Ogwr ag Ysgol Gymraeg (YG) Bro Ogwr.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd amlinelliad o gefndir yr adroddiad, ac esboniodd fod Swyddogion wedi ystyried rhestr hir o safleoedd yn ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ar sail eu haddasrwydd a'u lleoliad i ddatblygu'r cyfleuster gofal plant. Roedd tîm y prosiect wedi ystyried y safleoedd posibl ac wedi penderfynu mai'r opsiwn a fyddai'n cael ei ffafrio ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg fyddai ei chydleoli ag YG Bro Ogwr. Pe bai'r cynnig i ehangu YG Bro Ogwr i greu darpariaeth 2.5 dosbarth mynediad ar safle Ffordd Cadfan ym Mracla yn mynd rhagddo, byddai'r ddarpariaeth gofal plant yn rhan annatod o'r ysgol, ond gyda mynediad ar wahân i'r rhan honno o'r adeilad. Roedd ymgorffori'r ddarpariaeth yn yr adeilad newydd yn cynnig arbedion maint. Pe na bai'r cynnig am yr ysgol newydd yn mynd ragddo, gellid lleoli'r ddarpariaeth ar safle presennol YG Bro Ogwr. Fodd bynnag, byddai angen adeiladu cyfleuster gofal plant ar wahân y gellid ei leoli ar yr ardal o laswellt gyferbyn i brif fynedfa'r ysgol. Byddai cydleoli'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg â'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn annog cysylltiadau pontio ardderchog ac yn hyrwyddo'r Gymraeg, drwy gael darpariaeth drwy'r holl flynyddoedd yn yr un lleoliad. Adroddwyd canlyniad yr arfarniad o opsiynau a gynhaliwyd gan dîm y prosiect gerbron y Bwrdd Rhaglen Strategol Moderneiddio Ysgolion, a chytunodd y Bwrdd ar yr opsiwn a ffafrir ac a argymhellir yn yr adroddiad hwn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hwn yn ategu'r adroddiad blaenorol, ac fel y nodwyd eisoes, byddai'n galluogi cysylltiadau pontio ardderchog.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod dwsin o safleoedd o leiaf wedi cael eu hystyried, ond mai prif fantais y safle hwn oedd ei fod yn galluogi pontio llyfn o'r blynyddoedd cynnar i addysg gynradd. 

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo cydleoli darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr ag YG Bro Ogwr.

56.

Moderneiddio Ysgolion, Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr - Newid Dyddiad Agor Ysgol Cyfrwng Saesneg pdf eicon PDF 796 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad

a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo Opsiwn A (rhaglen gyflawni ddangosol

) fel y rhaglen a ffafrir er mwyn darparu'r ysgolion, ac i

newid dyddiad agor cynlluniedig

ysgol cyfrwng Saesneg newydd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr i fis Medi 2024.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir yr adroddiad, gan ddweud bod y Cabinet wedi cymeradwyo cyflwyno Cam 1 Model Cydfuddiannol 'Cais am Brosiect Newydd' i Lywodraeth Cymru ar 14 Medi 2021. Roedd Gleeds wedi ailystyried y rhaglen ac roedd ei raglen ddangosol diwygiedig

wedi'i hatodi (Atodiad 1), ac yn dangos dau opsiwn amgen er mwyn darparu'r ysgolion newydd.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y 2 opsiwn. Ac ystyried bod dyddiadau’r rhaglen ddiwygiedig bellach yn wahanol iawn i’r rhai a ddarparwyd yn wreiddiol ac a gyhoeddwyd wedi hynny yn yr hysbysiad statudol, byddai angen i’r Cabinet ystyried yr opsiynau a oedd wedi'u nodi ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, a phenderfynu a ddylid newid y dyddiad gweithredu, fel sy'n ofynnol yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018. Yn yr achos hwn, roedd Gleeds (sef y cwmni rheoli prosiect a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr holl gynlluniau Model Cydfuddiannol) wedi darparu'r rhaglenni diwygiedig gan y byddai gweithredu'r cynigion ar y dyddiadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn afresymol o anodd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr ymgynghorwyd â chyrff llywodraethu'r ysgolion yr oedd hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt (Ysgol Gynradd Afon y Felin, Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol y Ferch o'r Sgêr) ynghylch newid dyddiad gweithredu'r cynllun i ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg i fis Medi 2024, ac roedd yr ymateb yn gefnogol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Credai mai dyma oedd y cam cywir. Byddai opsiwn A yn eu galluogi i adeiladu'r ysgolion a'u hagor ar yr un pryd, ac ni fyddai'r naill ysgol yn cael ei thrin yn wahanol o gwbl i'r llall. Roedd yr Aelodau Lleol a'r cyhoedd yn falch dros ben o weld y cynlluniau hyn yn dwyn ffrwyth. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod hyn yn fuddsoddiad a oedd yn cael ei groesawu yn narpariaeth ysgolion cynradd Corneli.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

a. Yn cymeradwyo Opsiwn A fel y rhaglen a ffafrir er mwyn darparu'r ysgolion; a

b. Am newid dyddiad agor cynlluniedig ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr i fis Medi 2024.

 

57.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2021-2022 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu’r Cabinet am ganlyniadau’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP), ac y gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Dadansoddiad o Fylchau a'r Cynllun Gweithredu i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn rhan o ADGP 2021-2022.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod hi'n ofynnol yn ôl y rheoliadau i gyflwyno ADGP llawn a Chynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru bum mlynedd ar ôl yr asesiad cyntaf. Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau, hyd y bo'n rhesymol ymarferol, darpariaeth gofal plant a oedd yn ddigonol i fodloni gofynion rhieni yn eu hardal, i'w galluogi i ddechrau gweithio neu aros yn eu gwaith; neu dderbyn addysg neu hyfforddiant lle gellid disgwyl yn rhesymol i hynny fod o gymorth iddynt gael gwaith.' Roedd y dadansoddiad o fylchau (Atodiad 1 yr adroddiad) yn crynhoi prif ganlyniadau'r ADGP, yn nodi bylchau mewn darpariaeth ar draws y fwrdeistref sirol, ac yn llywio'r cynllun gweithredu pum mlynedd (Atodiad 2 yr adroddiad).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bodloni ei ddyletswydd statudol i ddarparu gofal plant digonol i deuluoedd a oedd yn gweithio. Fodd bynnag, roedd yr ADGP wedi canfod bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant ac yn yr wybodaeth a oedd ar gael. Roedd y bylchau hyn yn cyd-fynd â'r rhai a nodwyd gan Dîm Gofal Plant yr awdurdod lleol, a oedd yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth weithredol ac arbenigedd yn y sector gofal plant. Roedd y dadansoddiad bylchau yn sail i’r cynllun gweithredu pum mlynedd a byddai’n llywio’r blaenoriaethau a nodwyd gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yr awdurdod lleol, gan sicrhau bod yr awdurdod lleol yn parhau i gyflawni ei ddyletswydd statudol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y goblygiadau ariannol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r swyddogion am yr adroddiad. Roedd hwn yn adroddiad rheolaidd a luniwyd yn rhan o'r ddyletswydd statudol tuag at sicrhau Gofal Plant Digonol. Er nad oedd dyraniad CBSP wedi'i gadarnhau hyd yma, byddai'r arian yn dod i'r amlwg i gefnogi'r bylchau a oedd wedi'u nodi.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a chytuno bod hwn yn gynnig hael iawn gan Ben-y-bont ar Ogwr i'r preswylwyr. Roedd ganddi bryderon ynghylch yr elfen cyllid grant. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid grant i'r awdurdod am 3 i 5 mlynedd, ond nid oedd y cyllid hwn yn hirdymor, a sut oeddent am sicrhau darpariaeth wedi hynny? Roedd angen i Lywodraeth Cymru roi syniad o'r amserlen, a sut y byddent yn ei gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw. Ychwanegodd ei bod yn hapus i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi'r pryderon hyn.    

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn fuddsoddiad i'w groesawu gan Lywodraeth Cymru ac y dylem ganfod beth oedd y graddfeydd amser a'r gofynion cyn gynted ag a oedd yn bosibl. Gallai hwn fod yn swm mawr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 57.

58.

Monitro Cyllideb 2022-23 - Rhagolygon Refeniw Ch 2 pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar 30 Medi 2022. Esboniodd gefndir yr adroddiad ac egluro bod amcanestyniadau'r gyllideb yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd gerbron y Cabinet bob chwarter, yn rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad. Roedd y gallu i sicrhau gostyngiadau cytunedig i'r gyllideb hefyd yn cael ei adolygu'n barhaus a'i adrodd gerbron y Cabinet yn rhan o'r broses hon.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid at gyllideb refeniw net y Cyngor a'r gwariant diwedd blwyddyn rhagamcanol ar gyfer 2022-23, fel

y dangoswyd yn Nhabl 1 yr adroddiad. Esboniodd mai’r sefyllfa gyffredinol a ragwelir ar 30 Medi 2022 oedd gorwariant net o £3.433 miliwn, a oedd yn cynnwys gorwariant net o £6.098 miliwn ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £2.665 miliwn ar gyllidebau’r Cyngor cyfan.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid oblygiadau’r gostyngiad sylweddol i gronfa Galedi LlC a'r ceisiadau i Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â Covid. Rhoddodd y newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch trosglwyddiadau cyllidebol ac addasiadau technegol, ac effaith chwyddiant ar gyflogau a phrisiau. Yn ystod y misoedd diwethaf roedd y Cyngor wedi wynebu costau ychwanegol nid yn unig o ganlyniad i’r pandemig, ond costau cynyddol hefyd o ganlyniad i Brexit, effaith y rhyfel yn yr Wcráin, a chynnydd mewn chwyddiant nas gwelwyd ers dros ddegawd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid amlinelliad o'r cynigion ar gyfer lleihau'r gyllideb, gostyngiadau cyllidebol y flwyddyn gynt a gostyngiadau yn y gyllideb ar gyfer 2022-23. Rhoddodd grynodeb o'r sefyllfa ariannol ar gyfer pob prif faes gwasanaeth a'r amrywiadau mwyaf sylweddol, ac adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid mai dyma'r tro cyntaf yn ei gyrfa mewn llywodraeth leol iddi orfod adrodd am bwysau cyllidebol mor sylweddol yn ystod y flwyddyn. Roedd hi am sicrhau'r Cabinet bod y pwysau hyn yn cael eu hadlewyrchu ledled Cymru, ac nad oeddent y unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd pwysau sylweddol bellach ar gyllideb eleni, ac ychwanegodd eu bod yn monitro hyn o hyd ac y byddent yn dychwelyd gydag adroddiadau diweddaru a'r sefyllfa'r gyllideb. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, roedd pethau'n newid o'r naill ddiwrnod i'r nesaf, felly roeddent yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y sefyllfa wedi troi'n ddifrifol iawn, a'i fod yn sicr nad oedd wedi gweld rhagolygon ariannol fel hyn o'r blaen. Yn ei holl flynyddoedd yn ymateb i'r cyni ariannol, nid fu'r cyni hwnnw mor ddifrifol â'r heriau o'u blaen heddiw.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad, ond nid oedd yn hapus ynghylch sefyllfa'r gyllideb ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd hi am godi ymwybyddiaeth yr Aelodau ynghylch y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gan dynnu sylw'n arbennig at y ffaith bod yr holl amcanestyniadau cyfredol yn dangos y byddai ganddi orwariant o £7.499 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd y gorwariant mewn meysydd fel anableddau dysgu,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 58.

59.

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf Ch2 2022-23 pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn rhoi'r

newyddion diweddaraf ynghylch sefyllfa'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022-23 ar 30 Medi 2022 (Atodiad A), ac yn gofyn am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 hyd 2031-21 (Atodiad B), ac yn gofyn i'r Cabinet nodi rhagolygon y Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2022-23 (Atodiad C).

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid gefndir yr adroddiad a rhoi diweddariad ynghylch

Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2022-23 ers iddi gael ei chymeradwyo diwethaf gan y Cyngor

, gan gynnwys unrhyw gynlluniau neu gymeradwyaeth ar gyfer grantiau newydd. Cyfeiriodd at dabl 1 yn yr adroddiad a oedd yn dangos y newid i raglen gyfalaf pob Cyfarwyddiaeth rhwng sefyllfa gymeradwy'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2022 (Chwarter 1) a Chwarter 2. Roedd Tabl 2 y rhoi crynodeb o ragdybiaethau cyllid cyfredol y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022-23. Roedd nifer o gynlluniau eisoes wedi'u nodi fel rhai a lle byddai angen llithro'r gyllideb i'r blynyddoedd nesaf (2023-24 a thu hwnt). Nododd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y cynlluniau a oedd yn creu'r llithriant hwnnw o £7.207 miliwn.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y cynlluniau newydd wedi'u cyllido'n allanol a gymeradwywyd, a'r cynlluniau wedi'u cyllido'n fewnol a oedd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf. Rhoddodd y newyddion diweddaraf am waith monitro dangosyddion darbodus a dangosyddion eraill yn 2022-23 a gwaith monitro'r strategaeth cyfalaf.   

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod rhywfaint o newyddion gwell yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yr oeddent yn ddiolchgar iawn amdano. Y gobaith nawr oedd y gallent fwrw ymlaen â'r cynlluniau a amlinellwyd yn Atodiad A o fewn y gyllideb.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer ystafell ddosbarth symudol ychwanegol ym Mro Ogwr yn ychwanegol at y cynllun i ailddatblygu'r ysgol, gan fod galw mawr iawn am leoedd. Roedd hyn yn eu galluogi i gynnig lleoedd ynghynt na'r hyn a gynlluniwyd. Croesawodd hefyd y cyllid ar gyfer y cynllun Gwella Eiddo Canol Trefi er mwyn gwneud defnydd o'r newydd o eiddo a oedd wedi bod yn wag ers tro byd, ar ben Canolfan Siopa Rhiw.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

• Yn nodi'r diweddariad i Chwarter 2 Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2022-23 hyd 30 Medi 2022 (Atodiad A yr adroddiad);

• Yn cytuno y dylid cyflwyno'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B) i'w chymeradwyo gan y Cyngor;

• Yn nodi rhagolygon y Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2022-23 (Atodiad C)

60.

Rheoli Trysorlys - Chwarter 1 2022-23 pdf eicon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar ragamcan o'r

Dangosyddion Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022-23. Esboniodd gefndir yr adroddiad a rhoi diweddariad ynghylch y sefyllfa gyfredol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod y Cod Rheoli Trysorlys yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor bennu nifer o Ddangosyddion Rheoli Trysorlys ac adrodd arnynt. Roedd manylion yr amcangyfrifon ar gyfer 2022-23 wedi'u nodi yn Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor, yn erbyn rhagamcanion cyfredol, wedi'u dangos yn Atodiad A. Dangosai'r rhain fod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid ychydig o fanylion ychwanegol am y 2 fuddsoddiad o £8 miliwn gyda Chyngor Thurrock mewn ymateb i'r pryderon a godwyd o sawl tu ynghylch a ddylent fod yn buddsoddi yn y Cyngor ai peidio, gan ei fod yn profi problemau ar hyn o bryd. Rhoddodd sicrwydd i'r Cabinet fod y ddau fuddsoddiad wedi'u gwneud yn unol â'r Strategaeth Rheoli Trysorlys, a hefyd yn unol â'r rhestrau benthyca a oedd wedi'u hargymell gan y Rheolwr Trysorlys a chynghorwyr allanol. Cafwyd cyngor ynghylch benthyca i Gyngor Thurrock yn achos y ddau fuddsoddiad, a gwnaed y buddsoddiadau hynny cyn y cafwyd unrhyw newid i'r cyngor ynghylch y Cyngor hwnnw. Roeddent wedi buddsoddi gyda'r Cyngor hwnnw ers blynyddoedd ac roedd y Cyngor bob amser wedi ad-dalu ar amser ac yn unol â'r cytundebau a sefydlwyd. Ychwanegodd fod Cyngor Swydd Essex bellach wedi'i benodi i rôl Comisiynydd ac Arolygydd Gwerth Gorau yn Thurrock, a olygai mai Cyngor Swydd Essex a oedd bellach yn rheoli materion ariannol Cyngor Thurrock. Roedd Cyngor Swydd Essex wedi cadarnhau y byddai Thurrock yn ad-dalu'r holl arian a fuddsoddwyd iddo, a phe bai angen, byddai'n benthyca drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, i gymryd lle'r buddsoddiadau hynny. Roedd sicrwydd wedi'i roi bod y ddau fuddsoddiad yn ddiogel, ac y byddent yn derbyn yr arian hwnnw'n ôl. Yr ail fater oedd ei bod hi ar hyn o bryd yn anodd iawn rhagweld sut y byddai'r fini-gyllideb ddiweddaraf yn effeithio ar y Cyngor, a beth oedd ei heffaith ar y marchnadoedd. Roedd yr hyn a oedd yn digwydd mewn marchnadoedd cenedlaethol a byd-eang yn dylanwadu'n fawr ar waith rheoli trysorlys, felly byddent yn monitro hynny, ac roedd y cyfraddau llog a oedd yn cael eu cynnig am fuddsoddiadau'n cynyddu, felly byddai'r arian yn gweithio ychydig caletach i'r awdurdod. Pe bai cyfraddau'n codi'n uwch na'r disgwyl, ychwanegodd y byddent yn adolygu'r benthyciadau a oedd ganddynt, yn derbyn cyngor allanol ac yn adrodd gerbron y Cabinet cyn dod i benderfyniad terfynol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Adnoddau i'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid am esbonio sut roedd y broses rheoli trysorlys yn gweithio. Roedd yn elfen hollbwysig ym mhroses ariannol unrhyw awdurdod lleol, ac roeddent yn derbyn cyngor ariannol arbenigol annibynnol. Roeddent yn aml yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru cyn bod angen ei dynnu i lawr, ac yn gwneud y defnydd gorau o'r cyllid hwnnw.

 

Er mwyn bod mor dryloyw ac agored ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 60.

61.

Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli Trysorlys 2021-22 pdf eicon PDF 547 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar y Dangosyddion Rheoli Trysorlys gwirioneddol ar gyfer 2021-22. Rhoddodd amlinelliad o gefndir yr adroddiad a'r sefyllfa bresennol, gan gynnwys cyd-destun economaidd eu gweithgarwch rheoli trysorlys y llynedd. Yn ystod y flwyddyn, cafodd y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf, a Rheoli Trysorlys eu diweddaru. Golygai hynny na allent bellach fenthyca i fuddsoddi er mwyn creu enillion ariannol yn bennaf. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roeddent wedi cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol mewn perthynas â rheoli trysorlys, ac roedd manylion y gweithgareddau wedi'u dangos yn yr adroddiad. Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, balans y buddsoddiadau a oedd yn cael eu dal gan Ben-y-bont ar Ogwr oedd £84 miliwn, a oedd yn cynnydd yn y balans o gymharu â'r flwyddyn gynt.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

1. Yn nodi'r gweithgareddau rheoli trysorlys blynyddol ar gyfer 2021-22.

2. Yn nodi'r Dangosyddion Rheoli Trysorlys gwirioneddol ar gyfer 2021-22 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021-22.

62.

Cymeradwyaeth i Dendro Polisïau Yswiriant Blynyddol pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i symud ymlaen i dendro am ddyfynbrisiau cystadleuol ar gyfer polisïau yswiriant blynyddol y Cyngor, a oedd i'w hadnewyddu ar 31

Mawrth 2023. Gwerth blynyddol cyfredol y polisïau yswiriant blynyddol oedd £1,038,326.85. Cyfanswm gwerth dangosol Cytundeb Hirdymor pum mlynedd oedd £5,191,634.25. Ychwanegodd y byddai adroddiad pellach ar ganlyniad goblygiadau ariannol y broses dendro ar gyfer y polisïau yswiriant blynyddol yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet i'w ystyried ymhellach.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn cefnogi'r adroddiad.

 

PENDERFYNODD:       Y Cabinet

1 . gymeradwyo dechrau'r broses dendro ar gyfer yr holl bolisïau yswiriant blynyddol, i gychwyn ar 31 Mawrth 2023, ar gyfer Cytundeb Hirdymor hyd at bum mlynedd o hyd.

2.  nodi y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ar ganlyniad y broses dendro ar gyfer caffael y polisïau yswiriant, ac yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract o ganlyniad i'r broses honno.

63.

Y Cyfansoddiad a Chanllaw'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 501 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer fersiwn ddiwygiedig y cyfansoddiad a chanllaw'r cyfansoddiad, mewn perthynas â swyddogaethau'r Weithrediaeth,  cyn eu cyflwyno i'r Cyngor llawn.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod Adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau Sir Cymru lunio a diweddaru cyfansoddiad ysgrifenedig a oedd yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru, copi o reolau sefydlog yr Awdurdod, copi o god ymddygiad Aelodau'r Awdurdod a gwybodaeth arall a fyddai'n cael ei hystyried yn briodol gan yr Awdurdod. Roedd Adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (y Ddeddf) bellach yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gyhoeddi canllaw i'r cyfansoddiad a oedd yn esbonio cynnwys cyfansoddiad y Cyngor mewn iaith syml. Roedd yn rhaid i'r prif gynghorau hefyd gyhoeddi eu cyfansoddiad a chanllaw'r cyfansoddiad yn electronig a darparu copi

caled ohono, ar gais, naill ai'n rhad ac am ddim neu am bris penodol (nad oedd yn fwy na'r gost o ddarparu'r copi).

 

Er bod y cyfansoddiad drafft diwygiedig (Atodiad 1) yn ymddangos yn dra gwahanol i'r fersiwn gyfredol, eglurodd y Swyddog Monitro fod y ddogfen i raddau helaeth yn cynnwys yr un elfennau ag a oedd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd canllaw'r cyfansoddiad wedi'i gynnwys yn atodiad 2 yr adroddiad. Roedd canllaw yn crynhoi holl ddarpariaethau'r cyfansoddiad hefyd wedi'i gynnwys yn Atodiad 3 yr adroddiad. Cafodd y cyfansoddiad a'r  canllawiau enghreifftiol eu hystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 7 Gorffennaf 2022, ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid ffurfio Gweithgor gyda chefnogaeth y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i adolygu pob agwedd ar y cyfansoddiad. Diolchodd y Swyddog Monitro i'r Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd am ei gwaith yn gwirio'r cyfansoddiad fesul llinell i sicrhau ei fod yn briodol i'r Cyngor. Ychwanegodd fod atodiad 4 yn rhoi crynodeb o'r materion a nodwyd drwy drafodaethau'r Gweithgor, ac yn cynnig cyfres o argymhellion i'w hystyried yn deillio o waith y Gr?p, er mwyn gwella trefniadau'r Cyngor i lywodraethu'n dda.  Pe bai’r Cabinet o blaid cymeradwyo argymhellion y Gweithgor a’r cyfansoddiad i’r graddau yr oeddent yn ymwneud â swyddogaethau'r Weithrediaeth, gellid gweithredu'r cyfansoddiad a'r canllaw yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor Llawn, fel eu bod yn weithredol o 1 Rhagfyr 2022.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'r Swyddog Monitro am ysgrifennu'r cyfansoddiad, yn enwedig yr atodiadau, mewn ffordd symlach.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai gweithgor trawsbleidiol oedd y gweithgor.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r gweithgor am ei waith caled a'i gyfraniadau.   

 

PENDERFYNODD:        Y Cabinet

 

1. Gymeradwyo argymhellion y Gweithgor Gwasanaethau Democrataidd i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau'r Weithrediaeth (Atodiad 4 yr adroddiad y cyfeiriwyd ato);

2. Cymeradwyo'r cyfansoddiad diwygiedig (yn Atodiad 1) a chanllaw'r cyfansoddiad (Atodiad 2 a 3) mewn perthynas â swyddogaethau'r Weithrediaeth;

3. Nodi y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 19 Hydref 2022 yn gofyn am gymeradwyaeth i fabwysiadu'r cyfansoddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 63.

64.

Atal Rheolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor a Dyfarnu Contract i Gyflenwi Gweithwyr Dros Dro pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i roi trefniadau dros dro ar waith

ar gyfer contract y cyngor i ddarparu gweithwyr dros dro, ac i atal rhannau perthnasol Rheolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i aildendro'r contract.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol fod y contract am weithwyr dros dro yn rhoi sgiliau a phrofiad allweddol i'r Cyngor mewn amrywiaeth o amgylchiadau lle nad oedd yn bosibl recriwtio ar sail barhaol. Gallai hyn fod oherwydd prinder sgiliau yn y farchnad, angen brys i lenwi swydd oherwydd absenoldeb wedi'i gynllunio neu heb ei gynllunio a galw tymhorol neu gyllid byrdymor.  Roedd y contract presennol gyda’r asiantaeth gweithwyr dros dro yn weithredol drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a byddai'r contract hwnnw'n dod i ben ar 10 Tachwedd 2022, heb unrhyw bosibilrwydd o'i estyn am gyfnod pellach.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu cytundeb fframwaith newydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Nod y cytundeb fyddai diwallu anghenion awdurdodau lleol yng Nghymru gan gydnabod yr heriau recriwtio a wynebir mewn llywodraeth leol a’r angen cynyddol am weithwyr asiantaeth mewn rhai ardaloedd. Er mwyn caniatáu amser i gaffael ar gyfer y cytundeb fframwaith newydd hwn, ac i'r cyngor gynnal ei ymarfer ei hun, gofynnwyd am barhau â'r contract presennol. Byddai cyfnod o hyd at 18 mis yn galluogi’r cyngor i archwilio fframweithiau proffesiynol penodol yn ogystal â fframwaith y GCC ac i ystyried unrhyw ddatblygiadau cenedlaethol eraill o ran caffael gweithwyr asiantaeth. Er mwyn sicrhau parhad a gwybodaeth y darparydd presennol, cynigiwyd bod y Cabinet yn atal rhan berthnasol o Reolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynnal ymarfer caffael cystadleuol. Yn lle hynny cynigiwyd dyfarnu'r contract i'r darparydd cyfredol, yn seiliedig ar drefniadau'r contract cyfredol hyd 10 Mai 2024, gyda dewis i ymestyn ar sail adolygiadau chwe-misol er mwyn sicrhau cymaint o hyblygrwydd ag a oedd yn bosibl.

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad wedyn esbonio bod ganddi rai pryderon ynghylch staff asiantaeth. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyfleu'n glir fod angen iddynt weithredu mesurau diogelu ariannol ar gyfer gweithwyr asiantaeth. Credai fod gweithlu CBSP o dan anfantais oherwydd y dull o dalu staff asiantaeth, ond roedd hi'n fodlon cynnig yr adroddiad fel mesur dros dro.   

Roedd yr Arweinydd yn croesawu'r dull cenedlaethol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn cydnabod y byddai'n cymryd amser i gyflawni hynny. Yn y cyfamser, roedd angen trefnu i sicrhau gweithwyr dros dro a oedd yn hanfodol er mwyn i'r awdurdod allu gweithredu.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

1.  Yn cymeradwyo parhau â'r cyflenwad o weithwyr dros dro, fel bo modd cynnal adolygiad llawn a phroses dendro sy'n cydymffurfio'n llwyr â'r gofynion.

2.  Yn atal rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor yn gysylltiedig â'r gofyniad ynghylch aildendro'r contract arfaethedig; a

3.  Yn awdurdodi'r Rheolwr Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 64.

65.

Blaenraglenni Gwaith y Cabinet, y Cyngor a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo eitemau i'w cynnwys ar Flaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer cyfnod 1 Tachwedd 2022 hyd 28 Chwefror 2023, ac i'r Cabinet nodi Blaenraglenni gwaith y Cyngor a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer yr un cyfnod.

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd y dylid cymeradwyo'r adroddiad, a holodd ynghylch yr amseru - roedd hi'n ymwybodol bod y rhaglen waith wedi newid y llynedd oherwydd dyddiadau setliad y gyllideb. Gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei ystyried eleni.

 

Atebodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol drwy ddweud bod ansicrwydd o hyd ynghylch dyddiadau, gan y byddai'r setliad yn hwyr. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, dirprwywyd awdurdod i'r Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol i newid unrhyw ddyddiadau pe bai angen hynny os oedd y setliad yn hwyr.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y sefyllfa bresennol wrth graidd llywodraeth y DU, a'r rhagolygon ariannol ar gyfer cyllid cyhoeddus a oedd yn newid bron bob dydd. Yr hyn a oedd yn drist oedd y sgil-effeithiau difrifol iawn i gyllid pob awdurdod lleol yn y wlad, gan gynnwys Cymru, oherwydd byddai canlyniadau i'r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud, a byddai'r penderfyniadau hynny'n sicr o effeithio ar y gyllideb, ac nid oedd unrhyw sicrwydd ynghylch cynllunio a sefydlogrwydd ariannol. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg y gellid bod angen newid dyddiadau'r gyllideb, ac awgrymodd y gallai Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ddechrau meddwl am eitemau a chynllunio ymlaen llaw. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod rhaglen waith Pwyllgor Craffu 3 yn dangos bod yr adroddiad ar gyfer cyfarfod 14 Tachwedd 2022 eto i'w gadarnhau. Ychydig iawn o amser yr oedd hyn yn ei roi i'r Gyfarwyddiaeth lunio adroddiad.

 

Cytunodd yr Arweinydd fod hwn yn bwynt da ac y dylid ei godi gyda'r Cadeirydd Craffu a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol.  

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet:

 

1.    Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Tachwedd 2022 hyd 28 Chwefror 2023 yn Atodiad 1 yr adroddiad;

2.         Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer yr un cyfnod â'r uchod, y naill yn Atodiad 2 a'r llall yn Atodiad 3 yr adroddiad.   

66.

Adroddiad Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol y Cabinet fod un adroddiad er gwybodaeth wedi cael ei gyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd, sef Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2021 i 2022. Cafodd yr adroddiad hwn a'r llythyr eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ddiweddar. Gofynnodd i'r Cabinet nodi peth o'r data yn yr adroddiad. Cafwyd 55 o gwynion yn erbyn yr awdurdod, ac roedd hynny'n cymharu â 31 yn 2020 hyd 2021. Yn ei Lythyr Blynyddol, awgrymodd yr Ombwdsmon, fod cwynion am gyrff cyhoeddus wedi'u hatal yn ystod y pandemig a bod eu niferoedd wedi cynyddu yn dilyn hynny. Roedd y ffigur ar gyfer 2021/2022 yn cynrychioli 0.37 o gwynion wedi'u derbyn fesul 1000 o breswylwyr, ac o blith y cwynion hynny, ymyrrodd yr Ombwdsmon yn saith o’r achosion, setlwyd pump drwy weithio gyda’r Ombwdsmon, a datryswyd un achos yn gynnar.

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a gofynnodd am ryw syniad o gynnwys y cwynion, yn enwedig mewn perthynas â'r gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. 

 

Esboniodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol fod dadansoddiad cryno wedi'i atodi i'r adroddiad, ac yn ogystal â hynny, y byddai adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Ebrill ac ynddo ragor o fanylion. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod nifer y cwynion a gafwyd yn gyson â chyfartaledd Cymru. Bu cynnydd yn nifer y cwynion ynghylch cod ymddygiad Cynghorwyr Tref a Chymuned ac yn y rhan fwyaf o achosion nid oedd angen gweithredu. Awgrymodd yr Arweinydd y dylid ystyried cryfder y g?yn i weld a oedd ffordd arall o ymdrin â'r sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD:         bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen a nodwyd yn yr adroddiad

67.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

68.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

DATRYSWYD:     O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, caiff y cyhoedd eu heithrio o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ganlynol o fusnes gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4

a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

Ar ôl cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd mewn cynnal yr esemptiad, ym mhob amgylchiad sy'n ymwneud â'r eitem, yn gorbwyso budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth.

 

69.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 190722

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a           gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 yn gywir.