Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 13eg Rhagfyr, 2022 14:30

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Time STC 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

88.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant

89.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 264 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/11/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                      Bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

90.

Polisi Lwfansau Maethu wedi'i Ddiweddaru pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a oedd yn rhoi manylion i'r Cabinet am y Polisi Lwfansau Maethu wedi'i ddiweddaru.

 

Dywedodd fod Gwasanaethau Maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2022 wedi cyflwyno eu Polisi Ariannol Maethu newydd i'r Cabinet i'w gymeradwyo, gan geisio cymeradwyaeth hefyd i ddirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant i weithredu'r polisi newydd.

 

Yn ystod cyfnod gweithredu'r polisi, nodwyd gwall gweinyddol fel yr adlewyrchir ym mharagraff 3.2 yn ymwneud â Lwfansau Maethu. Amlygwyd yr anghysondebau hyn yn felyn yn yr adran hon o'r adroddiad.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, er gwaethaf yr uchod, na chafodd unrhyw Ofalwr Maeth swm gwallus a diwygiwyd y Polisi i gynnwys yr wybodaeth ariannol gywir fel y’i nodir yn yr adroddiad.

 

Aeth ymlaen i gynghori bod y Polisi Ariannol Maethu  wedi'i ddiweddaru ymhellach ym mis Gorffennaf 2022 i newid cyfraddau'r lwfans (yn dilyn cytundeb yn y Cabinet) i ddyfarnu cynnydd o 7% i'r lwfansau a dalir i holl Ofalwyr Maeth Pen-y-bont ar Ogwr (a fyddai'n cael eu hôl-ddyddio i fis Ebrill 2022 a’u cymhwyso i flwyddyn ariannol 2022/23) a chyflwyno pythefnos o seibiant gyda thâl i holl Ofalwyr Maeth Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn olaf, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y cynnydd o 7% i Lwfansau Gofal Maeth a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022 bellach wedi'i dalu i Ofalwyr Maeth, gan ychwanegu bod y gwall gweinyddol yn y Polisi wedi'i ddiwygio yn ystod y cyfnod gweithredu.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod Maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr o safon uchel iawn ac roedd hi'n falch iawn o ddweud bod Gofalwyr Maeth 'Becky a Pete' wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth yn ddiweddar yn gynharach eleni.

 

Am fod nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal yn cynyddu, ychwanegodd fod angen i ni gael mwy o ofalwyr maeth yn cyflwyno eu hunain i gefnogi'r bobl ifanc hyn.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y cafwyd diddordeb yn y ffurflen ymholiadau am ofal maeth, yn dilyn ymgyrch hysbysebu lwyddiannus yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD:                   (1)      Bod y Cabinet yn nodi bod y gwall yn y Polisi Lwfansau Maethu fel y’i nodir ym mharagraff 3.3 o'r adroddiad wedi'i ddiwygio ac wedi ei weithredu.

 

                                                   (2) Bod y Cabinet yn nodi ymhellach fod y Polisi wedi'i ddiwygio ymhellach ar gyfer 2022/23 i gynnwys y cynnydd o 7% i Lwfansau Gofal Maeth a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022.

91.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 264 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwr awdurdod lleol i’r corff llywodraethu ysgol a restrir ym mharagraff 4.1 (yr adroddiad).

 

Yn unol â 'Chanllawiau ar benodi llywodraethwyr awdurdodau addysg lleol' y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 14 Hydref 2008, dywedodd fod swyddogion wedi ystyried ceisiadau a ddaeth i law am y swydd wag bresennol i lywodraethwr awdurdod lleol ar gorff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.

 

Roedd cystadleuaeth am y swydd wag a manylwyd ar y ddau ymgeisydd yn y tabl yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ar ôl rhoi sylw priodol i'r cryfderau a gyflwynwyd yn y ceisiadau gan y ddau ymgeisydd, fod y swyddogion wedi penderfynu argymell penodi Mr Ben Morgan.

 

Tynnodd yr Aelod Cabinet - Addysg sylw’r Aelodau a Swyddogion at y ffaith fod nifer sylweddol o swyddi Llywodraethwyr Ysgol yn wag o hyd fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a bod angen eu llenwi, felly gofynnodd iddynt rannu'r ffaith hon gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn llywodraethwr yn unrhyw un o'r ysgolion lle'r oedd swyddi gwag o'r fath.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r penodiad a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

92.

Ysgol Egin a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg Porthcawl pdf eicon PDF 551 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad er mwyn:

 

           manylu ar ganlyniad y broses o arfarnu opsiynau ar gyfer darparu ysgol egin a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Porthcawl; a

           gofyn am gymeradwyaeth i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol egin a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i ardal Porthcawl ar dir ar safle Ysgol Gynradd Porthcawl.

 

Er mwyn rhoi cefndir, dywedodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi rhyddhau £30m ledled Cymru ym mis Mawrth 2018 ar gyfer prosiectau a oedd yn ymrwymo i gefnogi a thyfu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes addysg. Byddai'r cyllid hwn yn cynorthwyo cyflawni ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Roedd archwiliad digonolrwydd gofal plant o leoliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi nodi bylchau yn y ddarpariaeth hanfodol hon. Yn sgil y bylchau hyn, ynghyd â diffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg, penderfynwyd canolbwyntio cynigion Pen-y-bont ar Ogwr ar ofal cofleidiol, gofal plant a sesiynol cyfrwng Cymraeg.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Porthcawl wedi'i nodi ymhlith y pedwar lleoliad allweddol a fyddai'n elwa ar ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ystyriwyd y byddai cyfleusterau o'r fath yn y lleoliadau strategol hyn yn helpu i gefnogi’r pontio o ofal plant i addysg gynradd cyfrwng Cymraeg. Gwnaethpwyd cais llwyddiannus am arian i Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth o'r fath mewn rhai ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Porthcawl.

 

Aeth ymlaen drwy gynghori bod gwerthusiad o opsiynau wedi canfod mai tir ar safle presennol Ysgol Gynradd Porthcawl oedd y lleoliad mwyaf addas ar gyfer ysgol egin a chyfleuster gofal plant. Er mwyn gwneud yn iawn am y tir a ddefnyddir ar gyfer y cyfleuster newydd, byddai cae pob tywydd yn cael ei ddarparu yn Ysgol Gynradd Porthcawl.

 

Mae'r ysgol egin arfaethedig yn 'ddosbarth cychwyn' gyda 30 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn, a 30 o leoedd derbyn, yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd.

 

Y bwriad oedd gweithredu a rheoli egin-ddarpariaeth gan Ysgol y Ferch o'r Sg?r, ac y byddai disgyblion yn pontio i'r ysgol honno ym Mlwyddyn 1 i gwblhau eu haddysg gynradd; hynny yw, nes i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gael ei sefydlu ym Mhorthcawl yn rhan o fand o'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn y dyfodol, a gymeradwyodd y Cabinet mewn egwyddor yn flaenorol.

 

Bydd gan y cyfleuster gofal plant arfaethedig le ar gyfer 16 o leoedd gofal plant amser llawn (32 rhan- amser), ynghyd â 6 lle ar gyfer darpariaeth 0 i 2 sy'n cynnig gofal llawn o adeg geni o bosib i bedair oed. Roedd hyn yn cynnwys darpariaeth ar ôl ysgol a gwyliau, i gynnig gofal cofleidiol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Y bwriad oedd y bydd darparwr preifat yn gweithredu'r cyfleuster hwn.

 

Nodwyd Porthcawl yn flaenorol fel lleoliad allweddol a fyddai'n elwa ar ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ystyriwyd y byddai cyfleusterau o'r fath yn helpu i gefnogi’r pontio o ofal plant i addysg gynradd cyfrwng Cymraeg.

 

Ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 92.

93.

Deddf Tai (Cymru) 2014 pdf eicon PDF 303 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad i dynnu sylw at y newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth digartrefedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r categori Angen Blaenoriaeth newydd, ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â chymhwyso'r 'prawf bwriadoldeb' i'r categori newydd hwnnw.

 

Yn unol â deddfwriaeth, dywedodd fod Deddf Tai (Cymru) 2014 (y Ddeddf), yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i gynorthwyo'r rhai sydd dan fygythiad digartrefedd o fewn 56 diwrnod drwy gymryd pob cam rhesymol i atal/lleddfu digartrefedd. Ceir dyletswydd i atal digartrefedd o dan y Ddeddf ni waeth a oes gan yr ymgeisydd gysylltiad lleol â Phen-y-bont neu a yw'r ymgeisydd yn fwriadol ddigartref. Mae'r rhai sy'n gwneud cais digartrefedd, ond sydd heb gysylltiad lleol, yn cael cyngor a chymorth yn unig gan y Cyngor oni bai, er enghraifft, eu bod yn ffoi rhag trais/cam-drin domestig.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, os na lwyddir i atal digartrefedd, fod dyletswydd i leddfu digartrefedd yr ymgeisydd ac i gymryd pob 'cam rhesymol' i wneud hynny.

 

Cyflwynodd y Ddeddf newidiadau hefyd o ran sut i gymhwyso'r 'prawf bwriadoldeb'. Cafodd Llywodraeth Cymru wared ar y prawf bwriadoldeb ar gyfer pob teulu â phlant hyd yn oed os canfyddir eu bod yn fwriadol ddigartref. Dywedodd fod cafeat i hyn, sef y byddai’n berthnasol dim ond os nad ydynt wedi'u canfod yn fwriadol ddigartref yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf. Amlinellwyd y diffiniad o fwriadol ddigartref ym mharagraff 3.5 o'r adroddiad.

 

Roedd paragraff 3.6 o'r adroddiad yn rhestru'r gwahanol gategorïau digartrefedd a ystyrir gan y Cyngor o dan feini prawf penodol a gwmpesir gan ddeddfwriaeth a/neu a gytunwyd gan y Cabinet mewn cyfarfod blaenorol.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth ymhellach fod y Ddeddf hefyd yn nodi 10 categori o aelwydydd oedd i'w hystyried ag angen blaenoriaeth.  Ystyrir Angen Blaenoriaeth ar gyfer darparu llety dros dro a'r ddyletswydd ddigartrefedd derfynol i sicrhau llety parhaol.

 

Ar ddechrau pandemig Covid-19, cyflwynodd Llywodraeth Cymru (LlC) ymagwedd 'Cynnwys Pawb' at ddigartrefedd, a chyfarwyddodd awdurdodau lleol nad oedd neb i fod heb lety oherwydd y gorchymyn iechyd cyhoeddus sy’n gwneud pawb ag Angen Blaenoriaeth. Felly, ataliwyd y prawf bwriadoldeb i ymateb i'r sefyllfa frys ar y pryd gan arwain at fwy o niferoedd yn cael llety dros dro mewn gwestai, llety Airbnb ac ati.

 

Er na fydd rhai aelwydydd yn cael eu hystyried yn rhan o gr?p angen blaenoriaeth, byddant yn dal i gael yr un cymorth er na fyddant yn gymwys i gael llety dros dro.

 

Gwnaethpwyd y newidiadau presennol a weithredwyd gan LlC gyda'r bwriad o adolygu'r Ddeddf gyfan yn y dyfodol ac felly cynigir bod y Cyngor yn cymhwyso'r diffiniad bwriadoldeb i'r categori newydd o aelwydydd 'Digartref ar y Stryd' tan y bydd hyn yn digwydd.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol, hyd yn oed pe bai unigolion yn ceisio bod yn fwriadol ddigartref, y byddai'r Cyngor gyda'i bartneriaid yn dal i ofalu amdanynt a cheisio eu perswadio i sicrhau rhyw fath o lety. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn hawdd, gan nad oedd rhai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 93.

94.

Parhau'r Gwasanaethau Cymorth Tai ar Coity Road pdf eicon PDF 311 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i addasu contract presennol yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor, er mwyn caniatáu parhau â gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar Coity Road.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Cabinet, yn dilyn ymarfer caffael yn 2018, fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) gontract ar waith gyda'r Wallich, ar gyfer cyflawni tri phrosiect cymorth cysylltiedig â thai ar Coety Road, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dechreuodd y contract rhwng y Cyngor a’r Wallich ar 1 Ebrill 2018 a daeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Arferwyd opsiwn i estyn y contract am gyfnod hyd at 24 mis, heb ddewis pellach wedyn i estyn.

 

Ychwanegodd mai gwerth y contract blynyddol presennol oedd £358,170 a bod hwn wedi'i ariannu gan Grant Cymorth Tai CBSPO. Cyfanswm gwerth y contract oedd £1,790,850.

 

Ailadroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, gyda'r contract presennol ar waith gyda'r Wallich i ddod i ben ar 31 Mawrth 2023, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract CBSPO, fod angen ymarfer caffael i sicrhau y darperir gwasanaeth yn barhaus.

 

Ar 1 Rhagfyr 2022 daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym a bydd adroddiad i'r Cabinet yn y dyfodol yn amlinellu goblygiadau ehangach y Ddeddf, ond mae'n amlwg y bydd goblygiadau i ddarparwyr llety dros dro a llety â chymorth. Eglurwyd rhai o'r rhain yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd gohirio’r broses gaffael a fydd yn ofynnol i sicrhau darpariaeth barhaus ac estyn y contract presennol sydd ar waith gyda'r Wallich, tra bod goblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cael eu deall yn llawn.

 

Y pryder a achoswyd drwy broses gaffael yn dechrau nawr, er mwyn sicrhau contract newydd erbyn 1 Ebrill 2023, oedd y gallai'r manylion a nodir mewn Manyleb Gwasanaeth ar hyn o bryd ddyddio’n gyflym iawn yn sgil newidiadau posib Llywodraeth. Yn ogystal, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth y byddai mwy o ddiddordeb yn debygol mewn proses dendro gan ddarpar ddarparwyr pan fyddai goblygiadau'r Ddeddf yn cael eu deall yn llawn. 

 

Cwblhaodd yr adroddiad drwy gynghori, os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i addasu’r contract presennol, y bydd proses gaffael yn cael ei chynnal yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract CBSPO, er mwyn sicrhau contract newydd gyda dyddiad cychwyn o 1 Hydref 2023. Er mwyn caniatáu ymarfer caffael llawn gan gynnwys gweithredu contract newydd ac ystyried TUPE, byddai'r broses yn dechrau tua mis Mawrth 2023.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth fod cost addasu'r contract a fanylwyd ym mharagraff 4.9 yr adroddiad, o fewn 10% o werth y contract cyffredinol presennol. Byddai cost yr addasiad yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai CBSPO.

 

Pwysleisiodd Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol mor bwysig oedd bod CBSPO yn deall sut y bydd y Ddeddf yn newid y systemau presennol sydd ar waith a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y sector, gan fod pwysau digynsail gydag achosion o bobl ddigartref. Gobeithiai y byddai gennym  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 94.

95.

Diwygio’r Rheolau Gweithdrefn Contract pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad er mwyn:

 

           ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i ddiwygio'r trothwy ariannol is ar gyfer cael tri dyfynbris ar gyfer gwaith, nwyddau a gwasanaethau rhwng £5,000 a £10,000 o fewn y Rheolau Gweithdrefn Contract i ddod i rym o 1 Ionawr 2023;

 

           argymell i'r Cyngor welliant i'r Cyfansoddiad i ymgorffori'r diwygiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contract.

 

Trwy gyfrwng gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd fod gofyn i'r Cyngor sicrhau bod y Rheolau Gweithdrefn Contract, sy'n rhan o Gyfansoddiad y Cyngor, yn adlewyrchu pwysau presennol y farchnad ac yn addas at ddiben.

 

Mae’r Rheolau Gweithdrefn Contract hefyd yn cynnwys y rheolau a'r canllawiau ar gyfer caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Eu bwriad yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith y DU, sicrhau bod arferion gorau'n cael eu dilyn a bod gwerth gorau’n cael ei gyflawni wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.

 

Gan droi at y sefyllfa bresennol, dywedodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod yn rhaid i wasanaeth gael tri dyfynbris er mwyn caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith dros £5,000. Bu hyn yn anhydrin oherwydd nifer y dyfynbrisiau ar draws y Cyngor, gan arwain at oedi cyn darparu gwasanaethau. Roedd nifer o resymau dros hyn a gafodd eu hamlinellu yn yr adroddiad, ac ymhelaethodd arnynt.

 

Esboniodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod ymarfer meincnodi wedi dangos bod cynnydd i £10,000 ar gyfer cael tri dyfynbris yn unol â chynghorau cyfagos a chynigiwyd bod CBSPO yn dilyn yr un trywydd â hyn.

 

 Cyfeiriodd y Cabinet at gopi o'r diwygiadau arfaethedig i’r Rheolau Gweithdrefn Contract i'r perwyl hwn, a ddangosir drwy newidiadau wedi'u tracio yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet - Adnoddau yr adroddiad a fyddai'n gwneud CBSPO yn unol ag awdurdodau cyfagos eraill o ran y cynnydd yn y trothwy ac sy'n ein galluogi i wynebu pwysau chwyddiant yn well.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am sicrwydd y byddai trywydd archwilio o hyd mewn perthynas â phenderfyniadau caffael a fyddai'n cael eu gwneud, er gwaethaf y newid arfaethedig i’r Rheolau Gweithdrefn Contract.

 

Bu’r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol yn tawelu meddyliau’r Aelodau fod proses i'w dilyn o hyd, h.y. cael tri dyfynbris, a fydd yn cael ei threfnu gan y Tîm Cymorth Busnes a'i chymeradwyo gan Reolwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y byddai adroddiad cynnydd ar y Rheolau Gweithdrefn Contract yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r Cabinet ymhen 6 mis.

 

Cadarnhaodd hefyd yn olaf fod ambell awdurdod cyfagos a oedd yn cael tri dyfynbris ar gyfer gwaith yr amcangyfrifir ei fod yn £15,000 a hyd yn oed yn fwy na hynny.

 

PENDERFYNWYD:                                   Bod y Cabinet:

 

(i)            Yn cymeradwyo'r newid i'r trothwy ariannol is o £5,000 i £10,000 ar gyfer cael tri dyfynbris o fewn y Rheolau Gweithdrefn Contract fel y dangosir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, i ddod i rym o 1 Ionawr 2023;

 

           Yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 95.

96.

Proses Ymgynghori ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu gweithdrefn ddiwygiedig wrth ymgynghori ag aelodau, unigolion a sefydliadau lleol ac wrth roi hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud â Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) parhaol, er mwyn symleiddio'r broses wrth symud ymlaen.

 

Esboniodd fod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymhlith ei phrif flaenoriaethau 'newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig er mwyn lleihau anafiadau a marwolaethau sy'n gysylltiedig â thraffig a gwneud cerdded a beicio yn fwy diogel a deniadol'.

 

Cynigiwyd felly, trwy alluogi nifer llawer ehangach o gyfyngiadau 20mya, y byddai hyn yn sicrhau manteision diogelwch sylweddol ar y ffyrdd, yn enwedig mewn cymdogaethau difreintiedig. Yn y tymor hirach, roedd disgwyl i leihau’r farn am berygl ffyrdd arwain at fwy o gerdded a beicio, a fydd yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn disodli rhai teithiau ceir byr ac yn cynorthwyo gostyngiadau pellach mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau. Roedd mwy o gerdded a beicio hefyd yn debygol o arwain at fwy o gydlyniad cymdeithasol, sy'n dwyn manteision cymdeithasol ac iechyd pellach. Byddai cyflymder is hefyd yn arwain at ostwng s?n traffig, tra bydd effeithiau ar ansawdd aer yn niwtral ar eu gwaethaf a bydd cynnydd amser teithio yn fach.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ymhellach, fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, fod Tasglu 20mya wedi ei greu i weithio'n agos gydag

Awdurdodau Lleol i adnabod y ffyrdd hynny a fyddai'n eithriad i'r

ddeddfwriaeth.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi nodi dros 100 o eithriadau, y bydd angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) ar bob un ohonynt, naill ai ar gyfer cadw neu ddiwygio terfynau cyflymder. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r statws 20mya fesul dipyn ar gyfer rhai ffyrdd gan Lywodraeth Cymru oedd mis Medi'r flwyddyn nesaf.

 

Amlinellwyd ym mharagraffau 4 o'r adroddiad y broses ymgynghori yn gyffredinol i'w chynnal cyn y cam hysbysiad cyhoeddus statudol a chyn y gellir gweithredu GRhT parhaol. Yn ddibynnol ar faint a graddfa'r broses GRhT, gall hyn arwain at ddefnyddio dulliau ymgysylltu gwahanol, eglurodd. Roedd yr adran hon o'r adroddiad hefyd yn rhestru'r ymgyngoreion statudol yr oedd gofyn i'r Cyngor ymgysylltu â nhw, a oedd yn cynnwys Aelodau lleol.

 

Roedd gweddill prif gorff yr adroddiad yn esbonio'r broses gyfreithiol ynghylch rhwymedigaethau statudol y Cyngor wrth gynnig gwneud GRhT, ynghyd â'r broses y mae'n rhaid ei dilyn os oes unrhyw wrthwynebiadau neu apeliadau i gynnig neu gynigion o'r fath.

 

Yna, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau oblygiadau ariannol yr adroddiad yn olaf, h.y. bod y costau ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a noddir gan yr Awdurdod naill ai'n cael eu hariannu o fewn cyllidebau presennol, neu gan drydydd parti. Nid oedd goblygiadau ariannol felly’n deillio o gynigion yr adroddiad.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau yr adroddiad a chynghorodd y byddai Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i gynigion yngl?n â'r cynllun 20mya fel bod aelodau'r cyhoedd yn fwy ymwybodol o'r bwriad hwn.

 

Ychwanegodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 96.

97.

Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2022-2027 pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-2027 a chymeradwyo gweithredu'r camau a ddeilliodd o hynny.

 

Eglurodd fod Cynllun Rheoli Cyrchfan (CRhC) yn ddatganiad o'r bwriad i reoli cyrchfan er budd twristiaeth, dros gyfnod penodedig, sy'n nodi'r ffyrdd y gall gwahanol randdeiliaid gydweithio i gael effaith gadarnhaol. Mae'r CRhC newydd yn ddatganiad o fwriad a rennir i reoli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr rhwng 2022 a 2027.

 

I’r perwyl hwn, bydd CBSPO yn gweithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru, endidau rhanbarthol megis Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, awdurdodau cyfagos, a rhanddeiliaid allweddol megis cynghorau tref a chymuned, darparwyr llety, atyniadau twristaidd, darparwyr gweithgareddau a busnesau lleol eraill sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod newid sylweddol wedi digwydd, ers cynhyrchu’r CRhC diwethaf, ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol, gyda phandemig Covid-19, ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd a chynnydd mewn costau byw. Cafodd y rhain oll oblygiadau i'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Er bod llawer wedi newid, mae llawer o botensial i'r dyfodol hefyd.

 

Mae CBSPO wedi nodi twristiaeth fel rhan o'i economi sylfaenol gydag ymateb adfer sy'n cynnwys ffrydiau ariannu ychwanegol, prosiectau amwynderau cyhoeddus, uwchraddio seilwaith a chymorth i'r sector llety.

 

Roedd Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-2027, ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Os caiff ei fabwysiadu gan y Cabinet, y bwriad oedd gosod y fframwaith ar gyfer cefnogi'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth dwristiaeth hyd at 2027.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod camau a geir yn y Cynllun Gweithredu Cyrchfan wedi'u datblygu i gynnig y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, canolbwyntio ar gyfleoedd strategol allweddol ar gyfer datblygu, gwneud y gorau o gyfleoedd ariannu allanol a, lle bo modd, darparu mewn partneriaeth. Byddai'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau a restrir ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad.

 

Nodau'r Cynllun Rheoli Cyrchfan oedd:

 

- creu twf economaidd sy'n dwyn buddion i bobl a lleoedd;

- hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol;

- darparu cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd;

- ymgorffori buddion iechyd (er enghraifft trwy hyrwyddo teithio llesol, gweithgaredd corfforol neu les meddyliol sy'n gysylltiedig â chael profiad o’r amgylchedd naturiol.)

 

Bydd cyflawni camau gweithredu mewn perthynas â thwristiaeth yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o ardaloedd a chyfleoedd sy'n cyflwyno'r effaith fwyaf posibl i’r Fwrdeistref Sirol a defnyddio ystod o gyfleoedd ariannu allanol pan fyddant ar gael, a byddai hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth. Byddai hyn, yn ei dro, yn cynorthwyo i gyflawni a gweithredu'r camau a amlinellir yn Atodiad 1 a hyrwyddo BSPO yn llwyddiannus fel cyrchfan gydlynol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet - Adfywio bwysigrwydd cael Cynllun fel hwn ar waith, er mwyn llywio, hybu ac annog twristiaeth o fewn y Fwrdeistref Sirol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod gan BSPO amgylchedd naturiol gwych, yn enwedig o fewn ardaloedd y tri phrif gwm, Ogwr, Garw a Maesteg. Teimlai y byddai'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 97.

98.

Pen-y-bont ar Ogwr 2030 - Strategaeth Carbon Sero Net pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn ffurfiol.  Mae'r adroddiad yn argymell y dylid mabwysiadu'r strategaeth a gweithredu’r cynlluniau gweithredu y manylir arnynt ynddi, fel y gall Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ennill statws sero net erbyn 2030.

 

O ran cefndir, dywedodd yr adroddiad fod Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) wedi llunio adroddiad ar gyflwr cynhesu byd-eang ym mis Hydref 2018. Nododd yr adroddiad y bydd cynhesu tymheredd byd-eang parhaus yn cynyddu tebygolrwydd llifogydd, sychder a gwres eithafol yn sylweddol, ac felly eu heffaith ganlyniadol.

 

Yna, datganodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac yn dilyn hyn, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

 

Bu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn atgoffa’r Cabinet fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) ym mis Mehefin 2020 wedi cymeradwyo adroddiad a oedd yn gosod y rhannau hollbwysig y mae’n rhaid i CBSPO eu chwarae drwy reoli ei adnoddau a'i asedau ei hun, ynghyd â'r ffordd y mae’n gweithio gyda thrigolion, sefydliadau a busnesau lleol ac yn eu cefnogi i ymateb i'r heriau a nodwyd yn adroddiad IPCC.

 

Uchelgais a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw targed i Awdurdodau Lleol Cymru fod yn garbon sero-net erbyn 2030. Mewn ymateb, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gydag Arweinwyr llywodraeth leol wedi sefydlu Panel Strategaeth Datgarboneiddio, gyda chefnogaeth y 22 awdurdod lleol i gyd, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Phrifysgol Caerdydd.

 

Ar ôl penodi'r Ymddiriedolaeth Garbon i weithio gyda CBSPO ar ddatblygu Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030, roedd Swyddogion wedi cynnal nifer o weithgareddau rhagweithiol a rhestrwyd y rhain ym mharagraff 3.8 o'r adroddiad.

 

Atodwyd fersiwn derfynol Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Datblygwyd hyn yn dilyn adolygiad manwl o ddata yn unol â Chanllaw Adrodd Carbon Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru a thrwy ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Yn bwysig, nid y Strategaeth fydd yr unig sbardun ar gyfer sero-net, gan y byddai'n rhan o Gynllun Corfforaethol y Cyngor, tra bydd angen i bolisïau, strategaethau a chynlluniau parhaus i gyd adlewyrchu'r ymrwymiad i sero net. Bydd hyn yn sicrhau y caiff ei gofleidio'n llawn ar draws y sefydliad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Carbon Sero Net 2030 yn cael ei gynnal dros gyfnod o ddeuddeg wythnos rhwng 8 Mehefin a 30 Awst 2022. Cafodd yr ymgynghoriad 360 o ymatebion i’r arolwg ar-lein, a chwblhawyd 35 achos arall o ymgysylltu wyneb yn wyneb. Cafodd yr adroddiad ymgynghori ei gynnwys yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Roedd dadansoddiad o’r ymatebion a gafwyd yn dangos bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi Strategaeth Carbon Sero Net ddrafft Pen-y-bont ar Ogwr 2030 a'r blaenoriaethau ynddi.

 

Yr Arweinwyr Carbon ar gyfer bwrw ati i gyflwyno Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 oedd:

 

o          Rheoli Carbon – Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 98.

99.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

100.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            O dan adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, fod y cyhoedd yn cael ei eithrio o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau canlynol o fusnes gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

                                Yn dilyn cymhwyso'r prawf buddiant cyhoeddus, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gan eithrio’r cyhoedd o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod buddiant y cyhoedd o cynnal yr esgusodiad, yn yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eitem, yn drech na buddiant y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.

101.

Hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road: Ailddatblygiad Arfaethedig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn cysylltiad ag adfywio hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road, Maesteg.

 

Ychwanegodd y gofynnir hefyd am gymeradwyaeth gan y Cabinet i ymrwymo i Gytundeb Cydweithio Menter ar y Cyd (JV) gyda'r tirfeddiannwr cyfagos, Pontardawe Coal and Metal Company Limited (PCML), ar sail y prif delerau drafft a amlinellir o fewn Atodiad 2 i'r adroddiad, a fyddai'n caniatáu i'r partïon ddefnyddio'r cyllid grant a sicrhawyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a bwrw ati i adfer, marchnata a gwerthu'r tir.

 

I roi ychydig o gefndir, cynghorodd fodsafle hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road yn ddarn o dir gwag 19.71 erw sy'n eiddo’n rhannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) ac yn rhannol i PCML. Roedd PCML yn is-gwmni i Clowes Development (UK) Ltd, cwmni buddsoddi a datblygu eiddo sylweddol sy’n eiddo i deulu. Darparwyd cynllun perchnogaeth yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Roedd y cydweithio rhwng y partïon wedi’i hen sefydlu ac yn dyddio'n ôl i 2013. Yn 2013 cyflwynwyd cais cynllunio amlinellol ar gyfer y safle 19.71 erw cyfan gan PCML ac yn dilyn asesiad o'r cais, penderfynodd Pwyllgor Rheoli Datblygu'r Cyngor gymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau'r rhwymedigaethau cynllunio. Diwygiwyd y cynnig cychwynnol hwn wedyn mewn ymgais i wella hyfywedd y cynllun a phenderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu roi caniatâd cynllunio i’r cynllun diwygiedig hwn ym mis Mehefin 2016. Cytunwyd yn flaenorol hefyd ar delerau â PCML ar gyfer gwaredu tir a oedd yn eiddo i CBSPO ac fe’u hawdurdodwyd gan y Cabinet ar 10 Mai 2016.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, er bod diwygiadau 2016 wedi gwella hyfywedd y cynllun o'i gymharu ag iteriad 2013, daeth yn amlwg wedyn fod costau adfer a seilwaith sylweddol sy'n parhau i wneud y cynllun yn anhyfyw o safbwynt masnachol, ac felly mae'r cynllun wedi arafu.

 

Er gwaethaf y materion hyfywedd yngl?n â'r cynllun, roedd ailddatblygu'r safle yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol ac mae Swyddogion wedi parhau i weithio'n agos gyda'r tirfeddianwyr cyfagos i'r perwyl hwn.

 

Yn dilyn cyfnod o werthuso gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) a'i gynghorwyr a benodwyd (CBRE), nododd adroddiad i Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar 15 Mawrth 2021 atodlen ddangosol o safleoedd a oedd ar y rhestr fer o ran cyllid gyda Hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road ar y rhestr fer am £3.5 miliwn o gyllid. Ar ôl cyfnod o werthuso pellach a diwydrwydd dyladwy, cymeradwyodd Cabinet CCR £3.5 miliwn o gyllid grant yn ffurfiol ar 29 Tachwedd 2021.  Yn unol â chymeradwyaeth Cabinet CBSPO ar 18 Mai 2021, bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn cyd-drafod telerau'r contract ariannu ac yna aeth CBSPO i gontract gyda CCR ar 22 Tachwedd 2022.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ymhellach, ochr yn ochr â thrafodaethau â CCR yngl?n â'r cyllid, fod gwaith contract wedi symud ymlaen ar uwchgynllun diwygiedig ar gyfer y safle (a ddarperir yn Atodiad 3 i'r adroddiad, yn ogystal â Chytundeb Cydweithio Menter ar y Cyd â  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 101.

102.

Adfywio Glannau Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad eithriedig, er mwyn hysbysu'r Cabinet am bosibilrwydd caffael buddiannau eiddo teuluol Evans sy'n rhan o Ardal Adfywio Glannau Porthcawl (AAGP) gan Lywodraeth Cymru (LlC) a gofyn am awdurdodiad y Cabinet i amrywio’r Cytundeb Perchennog (CP) presennol, sy'n bodoli rhwng teulu Evans a'r Cyngor,  er mwyn i LlC gaffael tir sy'n eiddo i'r teulu Evans a chymryd eu rôl o fewn y CP pe bai'r partïon yn cytuno ar delerau addas.

 

Cadarnhaodd fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud tuag at gyflwyno datblygiad cynhwysfawr ar draws Ardal Adfywio Glannau Porthcawl (AAGP). Fel y manylir yn yr adroddiad, mae'r cynnydd hwn wedi cynnwys gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG), paratoi Strategaeth Creu Lleoedd, ymgynghori arni a’i chymeradwyo, a chymeradwyo dyraniad o dir at ddibenion cynllunio ym Mharc Griffin a Sandy Bay.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Swyddogion yn parhau i weithio tuag at sicrhau adfywiad defnydd cymysg ar draws AAGP a bod y cam nesaf o waith yn cynnwys paratoi cynllun seilwaith a dyluniad cysyniad lle agored, a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus y disgwylir iddo gael ei gynnal o fewn chwarter cyntaf 2023.

 

Esboniodd fod y tir sy’n eiddo i deulu Evans, ynghyd â thir yn Sandy Bay sy'n eiddo i'r Cyngor a thir ychwanegol sy'n destun y GPG, yn ffurfio safle datblygu Traeth Coney a Sandy Bay a nodwyd ar gyfer adfywio defnydd cymysg fel rhan o Gynllun Adfywio Glannau Porthcawl, fel yr adlewyrchir trwy ddyraniad cyfredol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), dyraniad arfaethedig y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl a fabwysiadwyd. Dangosodd cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1 faint y priod berchenogaeth tir a oedd yn destun dyraniad y CDLl a’r CDLlN, gan ei fod yn berthnasol i dir ar Draeth Coney a Sandy Bay.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ymhellach fod y CP presennol rhwng teulu Evans a'r Cyngor yn gyfrwng addas ar gyfer cyfuno buddiannau eiddo pob parti, er mwyn cwblhau gwarediadau ar y cyd sy'n hwyluso cyflwyno datblygiad cynhwysfawr ar draws y lleiniau sy’n eiddo i deulu Evans a'r Cyngor.

 

O ystyried yr uchod ac ystyried gwybodaeth fanwl bellach a geir yn yr adroddiad cynhwysfawr, roedd teulu Evans a'r Cyngor yn cydnabod y gall penderfyniad teulu Evans i werthu ei fuddiannau ymlaen llaw i barti addas ddwyn buddion i’r ddwy ochr. Yn achos teulu Evans, y fantais allweddol fyddai'r gallu i wireddu gwerth ei fuddiant eiddo yn y tymor byr. I'r Cyngor, byddai gwerthiant gan Deulu Evans i drydydd parti addas yn fodd o hwyluso cyflawni’r datblygiad gan barhau i ddiogelu safle'r Cyngor mewn perthynas â derbyniadau yn y dyfodol a'r gallu i gyflawni datblygiad cynhwysfawr ar draws hyd a lled  safle datblygu Traeth Coney a Sandy Bay.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cyfeirio at wybodaeth ynghylch posibilrwydd Llywodraeth Cymru yn caffael cynigion tir yn CBSPO, gyda ffocws penodol ar dir llwyd lle gallai fod cyfleoedd i hwyluso'r gwaith o ddarparu tai a chynyddu'r gyfran o dai fforddiadwy, sydd wedi'u  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 102.