Agenda, decisions and minutes

Budget, Cabinet - Dydd Mercher, 22ain Chwefror, 2023 14:30

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1/2/3, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr

Media

Eitemau
Rhif Eitem

139.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd JP Blundell fuddiant personol yn yr adroddiad Strategaeth Gyfalaf, gan fod ganddo fuddiant yn un o'r eitemau a grybwyllwyd ynddo.

140.

Cadarnhau’r cofnodion pdf eicon PDF 268 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/01/2023

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Cymeradwyo cofnodion cyfarfod o’r Cabinet dyddiedig 17 Ionawr 2023 fel cofnod gwir a chywir.                  

 

141.

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2023-28 pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi diweddariad ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2023-28, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 1 Mawrth 2023.

 

Esboniodd fod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2023-2027 y Cyngor yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor i’w chymeradwyo ar 1 Mawrth 2023 ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol 2023-28 sydd wedi’i ddiweddaru. Mae’r ddwy ddogfen yn cyd-fynd â’i gilydd, gan alluogi’r darllenydd i wneud cysylltiadau amlwg rhwng amcanion llesiant y Cyngor a’r adnoddau a gyfeirir atyn nhw i’w cefnogi.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a bod angen cymryd camau penodol er mwyn cyflawni hynny.

 

Roedd paragraff 3.3 yr adroddiad yn cadarnhau bod 7 nod llesiant ar gyfer Cymru yn cael ei nodi yn y Ddeddf uchod ai bod  hi’n ofynnol i’r Cyngor ddangos ei gyfraniad at bob un o’r nodau hyn. Rhestrwyd y nodau llesiant hyn yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai’r Cynllun Corfforaethol oedd prif gyfrwng y Cyngor ar gyfer arddangos a chyfathrebu’r blaenoriaethau i bobl a busnesau lleol. Roedd hefyd yn rhan bwysig o'r fframwaith sicrwydd ar gyfer ei rheoleiddwyr. Mae Archwilio Cymru yn bwriadu sefydlu dulliau o brofi sut mae’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei weithredu (yn enwedig felly'r amcanion llesiant) ledled Cymru dros y 6 mis nesaf, a dyna pam y mae’r Cynllun mor greiddiol bwysig.

 

Roedd yr adborth ymchwil a’r cysylltu cynnar a wnaed wedi cyfuno set o egwyddorion drafft ac amcanion llesiant. Roedd y rhain yn rhan o’r ymgynghoriad cyllideb blynyddol a’r arolwg staff, a thrafodwyd y rhain ag Aelodau’r Cabinet, a’r grwpiau gwleidyddol.

 

Roedd yr egwyddorion a'r amcanion lles hyn wedi'u dwyn ynghyd yn y Cynllun Corfforaethol drafft sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Corfforaethol drafft yn gryno ac yn hygyrch gydag iaith syml. Roedd defnydd eang o ffeithluniau (er y bydd y rhain yn cael eu paratoi gan y dylunwyr yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor) gyda ffocws ar egwyddorion / ffyrdd o weithio yn ogystal â'r amcanion o ran lles. Mae ffocws trwy gydol yr adroddiad ar y sefyllfa ariannol a'r angen am newid, rhoi’r trigolion yn gyntaf a gwella atebolrwydd a chyfathrebu yn ogystal â  sefydlu cyfrifoldeb personol / cymunedol ochr yn ochr â gwasanaethau'r Cyngor. Yn fyr, roedd y Cynllun wedi’i osod yn gliriach; yn gryno ond yn amlygu’r wybodaeth berthnasol ac felly'n haws ei ddarllen a'i ddeall na'r fersiynau blaenorol.

 

Byddai manylion am yr amcanion a'r dangosyddion perfformiad (neu ganlyniadau allweddol) sy'n deillio o'r Cynllun Corfforaethol, yn rhan o Gynllun Cyflawni'r Cynllun Corfforaethol, i'w baratoi ochr yn ochr â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ym mis Mawrth ac Ebrill 2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod newidiadau sylweddol wedi’u gwneud i’r Cynllun Corfforaethol ers y cysylltu cychwynnol â’r Pwyllgor Trosolwg a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 141.

142.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2023-24 hyd at 2026-27 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn cyflwyno i'r Cabinet y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod 2023-24 i 2026-27. Roedd hyn yn cynnwys:

 

• Rhagolwg ariannol ar gyfer 2023 i 2027;

• Cyllideb refeniw fanwl ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod; a

• y rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2022 - 2023 hyd at 2032 - 2033

 

Mae’r Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn nodi blaenoriaethau gwasanaeth ac adnoddau’r Cyngor ar gyfer y pedair blynedd ariannol nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar 2023-2024.

 

Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu’r egwyddorion a’r rhagdybiaethau manwl sy’n llywio penderfyniadau’r gyllideb a gwariant y Cyngor. Mae’n amlinellu’r cyd-destun ariannol y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddo ac yn ceisio lliniaru unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen tra ar yr un pryd yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd sy’n codi.

 

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sut mae’r cyngor yn bwriadu ymateb i’r pwysau cynyddol ar wasanaethau’r sector cyhoeddus, a waethygwyd yn ystod y pandemig COVID-19, ac yn syth ar ôl hynny, gan yr argyfwng costau byw presennol. Mae’n nodi’r dulliau a’r egwyddorion y bydd y cyngor yn eu dilyn i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ariannol gynaliadwy ac yn cyflawni’r amcanion llesiant corfforaethol

 

Mae’r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid yn adrodd yn ôl yn chwarterol i’r Cabinet yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar y sefyllfa refeniw sy’n cael ei ragamcanu ar gyfer 2022/2023. Bydd yn amlinellu’n fanwl yr effaith ar y gyllideb o’r pwysau o ganlyniad i’r costau ychwanegol a wynebir gan y Cyngor drwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i amodau economaidd sy'n gwaethygu, chwyddiant cynyddol a chyfraddau llog yn cynyddu. Adlewyrchwyd y rhain gan gynnydd mewn prisiau, codiadau cyflog uwch na’r disgwyl a chynnydd sylweddol mewn prisiau tendro am nwyddau a gwasanaethau.

 

Nid oedd y setliad ariannol terfynol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru i fod i gael ei gyhoeddi tan ddiwedd y mis hwn. O ganlyniad, mae'r gyllideb hon yn cael ei chynnig ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2022. Er nad ydym yn rhagweld unrhyw newid sylweddol yn y cyllid rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol, bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor yn ddiweddarach.

 

Paratowyd y gyllideb ar ôl ymgynghori ag aelodau etholedig, fforwm cyllideb ysgolion a rheolwyr gwasanaethau. Yn amodol ar y risgiau a nodwyd, roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer rheoli adnoddau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024 a thu hwnt.

 

Roedd Atodiad 3 yr adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fanwl.

 

Roedd adran un o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys trosolwg ariannol o'r Cyngor. Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, y bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod y Cyngor wedi gorfod gwneud gostyngiadau yn y gyllideb yn y blynyddoedd blaenorol ac mae Siart 1 yn y rhan hon o’r adroddiad yn nodi bod gostyngiadau cyllidebol o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 142.

143.

Strategaeth Cyfalaf 2023-24 Ymlaen pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn cyflwyno Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023-24 i’r Cabinet (yn Atodiad A yr adroddiad), a oedd yn cynnwys Dangosyddion Darbodus, a’r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw Blynyddol 2023-24 (Adran 7 o Atodiad A), cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, cadarnhaodd ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu Strategaeth Gyfalaf sy’n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd wrth wneud y penderfyniadau hyn.

 

Mae'r Strategaeth yn nodi cynllun y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, a sut y caiff hynny ei ariannu, dros y 10 mlynedd nesaf. Wrth wneud penderfyniadau buddsoddi hirdymor, mae'n hollbwysig bod penderfyniadau'n seiliedig ar wybodaeth glir, gan gynnwys cynllun hirdymor o gynlluniau rheoli. Lle mae angen buddsoddiad cyfalaf i gyflawni blaenoriaethau'r cyngor, y Strategaeth yw'r fframwaith y gall y Cyngor ddibynnu arno i ddatblygu proses glir, gyson a gwybodus wrth wneud penderfyniadau buddsoddi cyfalaf.

 

Mae'r ddogfen yn rhan annatod o gyllideb a fframwaith polisi'r Cyngor ac yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau'r Cyngor.

 

Roedd 13 egwyddor sy'n llywio penderfyniadau cyllideb a gwariant y Cyngor hwn, gyda thair ohonyn nhw’n cyfeirio'n benodol at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Y rhain oedd:

 

• mae penderfyniadau buddsoddi cyfalaf yn cyd-fynd â strategaeth gyfalaf y cyngor ac yn lliniaru unrhyw risgiau statudol gan ystyried adenillion ar fuddsoddiad a gwerthusiad cadarn o’r opsiynau;

 

• defnyddir benthyca darbodus i gefnogi'r rhaglen gyfalaf dim ond lle mae'n fforddiadwy ac yn gynaliadwy o fewn terfynau benthyca cyffredinol y cyngor a'r gyllideb refeniw dros y tymor hir;

 

• mae penderfyniadau ar drin asedau dros ben yn seiliedig ar asesiad o'r cyfraniad posibl i'r gyllideb refeniw a'r rhaglen gyfalaf.

 

Roedd y Strategaeth Gyfalaf hefyd yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn, ychwanegodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid :

 

• mae buddsoddiad cyfalaf yn canolbwyntio ar gyflawni amcanion a blaenoriaethau lles y Cyngor.

• sicrhau llywodraethu cadarn wrth wneud penderfyniadau.

• sicrhau bod cynlluniau cyfalaf yn fforddiadwy, cynaliadwy a darbodus

• hyrwyddo'r defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael.

 

Roedd y Cynllun yn manylu ar sut y bydd unrhyw fuddsoddiadau arfaethedig mewn tir ac adeiladau yn gofyn am gwblhau astudiaeth ddichonoldeb lawn i werthuso ymarferoldeb y prosiect cyfalaf, ac i asesu pa mor ymarferol ydy cyflawni hyn cyn i'r Cyngor fuddsoddi amser ac arian yn y prosiect hwnnw.

 

Nododd y Strategaeth fod nifer o feysydd arwyddocaol y bydd angen eu hariannu yn y dyfodol, gan gynnwys adferiad economaidd, datgarboneiddio a digartrefedd, digideiddio ac amddiffynfeydd arfordirol. Fel yr adroddwyd i’r Cyngor drwy gydol y flwyddyn hon, mae pwysau ariannol eraill hefyd yn codi o ganlyniad i’r pandemig a Brexit, sydd i’w gweld mewn cynlluniau presennol, a rhagwelir y bydd hyn yn parhau am beth amser wrth symud ymlaen. Mae’r pwysau’n cynnwys anawsterau yn y gadwyn gyflenwi ac mae hyn yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 143.

144.

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023-24 pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno i’r Cabinet Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023-24 (Atodiad A i’r adroddiad), a oedd yn cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys, cyn eu cyflwyno i’r Cyngor ar gyfer derbyn cymeradwyaeth.

 

Eglurodd fod swyddogaethau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn cael eu rheoleiddio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Roedd hyn yn rhoi pwerau i awdurdodau fenthyca a buddsoddi yn ogystal â darparu rheolaethau a chyfyngiadau ar y gweithgaredd hwn.

 

Yn unol â Chod Darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus ar gyfer Cyllid Cyfalaf, mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, sy’n nodi ei gyfrifoldebau, ei ddirprwyo a’i drefniadau adrodd a’r Prif Swyddog Ariannol.

 

Mae’r Strategaeth arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad. Cyflawnodd y Cyngor ei weithgareddau rheoli’r trysorlys yn unol â chod darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus, sydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn amgylchedd cynyddol gymhleth ac i ategu newidiadau i reoliadau. Roedd y cod yn ei gwneud yn ofynnol bod amcanion, polisïau ac arferion ffurfiol a chynhwysfawr, strategaethau a threfniadau adrodd yn ôl yn eu lle ar gyfer rheoli a rheoli gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn effeithiol ac mai rheoli a rheoli ‘risg’ yn effeithiol yw prif amcanion y gweithgareddau hyn.

 

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod gan y Cyngor Strategaeth Rheolaeth Trysorlys integredig lle mae benthyca a buddsoddiadau yn cael eu rheoli yn unol â’r arferion proffesiynol gorau. Bydd y Cyngor yn ceisio benthyca arian os oes angen naill ai i ddiwallu anghenion llif arian tymor byr, neu i ariannu cynlluniau cyfalaf a gymeradwyir o fewn y rhaglen gyfalaf. Felly, nid oedd unrhyw fenthyciadau gwirioneddol a gymerwyd yn gysylltiedig yn gyffredinol ag eitemau penodol o wariant neu asedau.

 

Roedd y Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli arian a fuddsoddwyd ac effaith ar y refeniw o ganlyniad i newid mewn cyfraddau llog. Felly mae nodi, monitro a rheoli risg yn llwyddiannus, yn ganolog i'n Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Pe bai unrhyw beth yn newid yn sylweddol, byddai Strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Bydd effaith barhaus y rhyfel yn yr Wcráin ar y DU, ynghyd â chynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog uwch, polisi ansicr y llywodraeth a rhagolygon economaidd sy'n gwaethygu, yn ddylanwadau mawr ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2023-2024.

 

Ar 31 Rhagfyr 2022, roedd gan y Cyngor £99.8 miliwn o fenthyciadau a £94.05 miliwn o fuddsoddiadau. Dangosir manylion am sefyllfa’r ddyled a buddsoddiad allanol yn Nhabl 1 o fewn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

 

Amlygodd y Strategaeth y rhagwelir efallai y bydd angen i'r Cyngor fenthyca yn ystod y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, gall y sefyllfa hon newid pe na bai cynlluniau cyfalaf yn symud ymlaen fel y rhagwelwyd, neu i'r gwrthwyneb ychwanegir cynlluniau pellach at y Rhaglen Gyfalaf nad ydyn nhw’n cael eu hariannu'n llawn gan grant neu gyfraniadau refeniw, neu gynlluniau newydd yn cael eu hychwanegu lle bydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 144.

145.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.