Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 9fed Mai, 2023 14:30

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

175.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

176.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 225 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 11/04/2023

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo’r cofnodion dyddiedig 11/04/2023 fel               cofnod gwir a chywir.

177.

Polisi Rheoli Risg Corfforaethol pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol wedi ei ddiweddaru.

 

Eglurodd fod y polisi wedi ei ddiweddaru yn Atodiad A yr adroddiad yn nodi'r archwaeth am risg, neu’r graddau o risg yr oedd y Cyngor yn barod i'w oddef ar draws ystod eang ei weithgareddau.

 

Dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol i'r Polisi Rheoli Risg, ond bod y polisi wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno rhaglen feddalwedd rheoli risg fyddai'n cael ei rhoi ar waith yn chwarter 2 blwyddyn ariannol 2023-24.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a’r tryloywder yr oedd yn ei gynnig. Ychwanegodd fod y polisi yn galluogi Aelodau i ddeall proses rheoli risg y Cyngor ac y byddai'r feddalwedd newydd yn darparu rhywfaint o ddata defnyddiol i gyfrannu at reoli risg.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd sut yr oedd y gofrestr risg ranbarthol yn cael ei hymgorffori yn y polisi hwn. Eglurodd y Prif Swyddog pan fyddai’r asesiad risg corfforaethol wedi cael ei ddiweddaru, y byddai’r Swyddogion yn sicrhau bod y materion allweddol yn eu maes gwasanaeth yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad risg corfforaethol ac y byddai hyn yn cynnwys y materion a godwyd ar lefel ranbarthol. Rhoddodd sicrwydd y câi risgiau rhanbarthol eu hadlewyrchu yn yr Asesiad Risg Corfforaethol pe baent yn effeithio ar CBSP.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod hyn yn bwysig o ystyried pwysigrwydd cynyddol rôl y trefniadau partneriaeth rhanbarthol. Gofynnodd gyda golwg ar yr amserlen a oeddem yn cadw at yr amser. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ein bod ar amser a bod yr Asesiad Risg Corfforaethol i gael ei dderbyn yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mehefin. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar hyd at ddwy risg yn fanwl a bydd y Brif Swyddfa berthnasol yn amlinellu’r risg a’r camau lliniaru i fynd i’r afael â’r risg honno.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Rheoli Risg  Corfforaethol wedi ei ddiweddaru.

178.

Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau pdf eicon PDF 468 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau wedi ei ddiweddaru yn Atodiad A, ac i gadarnhau llofnodwyr awdurdodedig cyllid ar gyfer cymeradwyo derbyn grant ar ran y Cyngor. Esboniodd fod Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau cyfredol y Cyngor, oedd yn ei le, wedi cael ei gymeradwyo gan y Cabinet yn 2019.

 

Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at gymwysiadau allweddol y Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau, a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. Rhoddodd grynodeb o ganfyddiadau’r adroddiad Archwilio a’r gwersi o ddatganiad perfformiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru, a nodwyd yn adran 11 o Atodiad 1.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a dywedodd ei fod yn rhoi tryloywder i'r Polisi. Nodai’r adroddiad archwilio risgiau isel ond roedd y rhain wedi cael eu hadlewyrchu yn y polisi pan gafodd ei ddiweddaru. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn ac ychwanegodd ei fod yn falch o weld bod ein blaenoriaethau corfforaethol diweddaraf yn cael eu hadlewyrchu yn hyn.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am sicrwydd bod ein prosesau’n gymesur â lefelau’r cyllid yr oedd cais yn cael ei wneud amdano, gan roi enghraifft o swm bach o arian oedd yn gofyn am lofnodi contract. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sicrwydd ynghylch hyn.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd hyn a rhoddodd enghraifft o arian grant a ddarparwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr i sefydliad a oedd â phrosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd tra hefyd mor ddi-dor â phosibl.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi Rheolaeth Ariannol Grantiau yn Atodiad A a'r rhestr o swyddogion cyllid yn unol â pharagraff 4.3.

179.

Adolygiad o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Yng Nghwm Taf Morgannwg pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ganfyddiadau’r adolygiad o drefniadau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg (Atodiad A) a’u goblygiadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni geisio dod yn un Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Cwm Taf Morgannwg a chymeradwyo mewn egwyddor uno Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cwm Taf a Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid gefndir i'r adroddiad fel y nodir yn adran 3. Ychwanegodd fod 9 argymhelliad penodol wedi cael eu nodi yn yr adolygiad a bod y rhain wedi cael eu cynnwys yn 4.1 o'r adroddiad.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adfywio yr adroddiad ond roedd yn bryderus ein bod yn ymestyn yn rhy eang. Mae'r trefniadau presennol yn canolbwyntio ar Ben-y-bont ar Ogwr yn unig ac yn gweithio'n dda ac ofnai y gallem golli’r cysylltiad personol/lleol gyda'r preswylwyr. Dywedodd hefyd ein bod wedi derbyn grant o £750,000 i'w ddefnyddio tuag at gamerâu teledu cylch cyfyng a chymorth ar gyfer hyfforddiant i fenywod. A ydym yn mynd i wanhau hynny hefyd drwy ehangu i'r rhanbarth ehangach.

 

Sicrhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet fod gennym nifer o drefniadau partneriaeth rhanbarthol eraill fel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a bod gan y rhain strategaethau cyffredin oedd yn canolbwyntio ar faterion ac anghenion lleol ac y byddai hyn yn parhau gyda threfniadau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol hon hefyd. Yn dilyn trafodaethau pellach, gofynnodd Aelodau’r Cabinet i adroddiad pellach gael ei gyflwyno i’r Cabinet maes o law, fyddai’n cynnwys trefniadau craffu a chynlluniau ar gyfer delio ag eithafiaeth a gwrthderfysgaeth.

 

PENDERFYNWYD: bod y Cabinet:

 

  1. yn nodi'r adolygiad o drefniadau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac yn cymeradwyo mewn egwyddor uno Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cwm Taf a Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr;

 

  1. yn nodi y caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i'r Cabinet i ystyried cefnogaeth a threfniadau strwythur;

 

3.    yn cytuno i dderbyn adroddiad diweddaru fyddai’n edrych ar drefniadau craffu yn ogystal â threfniadau lleol a chynlluniau ar gyfer delio ag eithafiaeth a gwrthderfysgaeth.

180.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Canlyniad Proses Ymgynghori Ysgol Gynradd Coety pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn gwneud y canlynol:

 

       hysbysu'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ynghylch ehangu Ysgol Gynradd Coety;

 

       cyflwyno canfyddiadau'r ymgynghoriad mewn adroddiad ymgynghori manwl (Atodiad A);

 

       gofyn am benderfyniad ynghylch y canlynol mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Coety:

 

       gofyn am gymeradwyaeth i naill ai cyhoeddi'r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt a chyhoeddi hysbysiad cyhoeddus fel y nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018;

 

       rhoi'r gorau i'r cynigion; neu

 

       ailwampio'r cynigion yn sylweddol ac ail-ymgynghori ar y dewisiadau canlynol:

 

  • newid categori iaith yr Ysgol i gyfrwng Cymraeg; neu
  • newid categori iaith yr Ysgol i ddwyieithog.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Coety, oedd yn ysgol gyda dau ddosbarth mynediad wedi ei lleoli ar Barc Derwen, wedi cael ei hadeiladu yn ystod Band A y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a'i hagor ym mis Tachwedd 2015. Ers hynny, adeiladwyd datblygiadau tai ym Mharc Derwen oedd yn golygu bod angen estyniad i Ysgol Gynradd Coety.

 

Ar 15 Mehefin 2022, cafwyd cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys y cynllun yn y rhaglen gyfalaf a defnyddio adnoddau cyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) i ariannu’r estyniad. Unwaith y byddai’r cyfraniad adran 106 wedi dod i law (tua £300 mil i gyd), byddai’r cyllid hwn yn disodli rhywfaint o gyllid CBSP. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Esboniodd fod y ddarpariaeth feithrin wedi cael ei hadolygu cyn dechrau'r ymgynghoriad a bod y wybodaeth am hyn wedi cael ei nodi yn 4.1 o'r adroddiad. Mae'r cynnig i ehangu'r ysgol yn rhan o strategaeth ehangach i gynyddu nifer y lleoedd i ddisgyblion i wasanaethu ardal gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr ac mae strategaeth fesul cam wedi cael ei mabwysiadu i ehangu'r ddarpariaeth gynradd fel y nodir yn 4.2 yr adroddiad. Roedd rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd i’w gweld yn adran 4 yr adroddiad. Ychwanegodd fod angen ystyried yn neilltuol hefyd p’un ai am addysg gyfrwng Cymraeg ynteu am addysg Saesneg yr oedd y galw yng Ngogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr fel yr amlinellwyd yn 4.6 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod crynodeb o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion yr awdurdod lleol wedi cael eu darparu yn yr adroddiad ymgynghori fel y manylir arno yn Atodiad A yr adroddiad hwn. Byddai angen i'r Cabinet ystyried yr adroddiad ymgynghori a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Pe bai'r Cabinet yn dymuno symud ymlaen â'r cynnig, cam nesaf y broses fyddai cyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu'r cynnig, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 diwrnod. Câi gwrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol eu gwahodd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg yr adroddiad a diolchodd i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn ogystal â Chynrychiolwyr Fforwm y Gymraeg mewn Addysg oedd yn gweithio gyda CBSP yn ein hymrwymiad i Addysg Gyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref. Rydym hefyd wedi ystyried yr asesiad effaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 180.

181.

Dyddiadau Arfaethedig ar gyfer Cyfarfodydd y Cabinet, Cydraddoldeb Pwyllgorau'r Cabinet A Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet pdf eicon PDF 393 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyo rhaglen dyddiadau cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet a Phwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2023 – 2024.

 

Nododd y gallai Cyfarfod Cyllideb y Cabinet, oedd wedi ei drefnu ar gyfer 20 Chwefror 2024 gael ei newid, am ei fod yn dibynnu ar amserlen Setliad Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Adfywio yr adroddiad ac roedd yn falch o weld bod gwyliau’r ysgol yn cael eu hosgoi lle roedd modd. Dywedodd fod gan lawer o Swyddogion ac Aelodau blant a’i bod yn anodd ar adegau sicrhau presenoldeb mewn cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r rhaglen o ddyddiadau cyfarfodydd ar gyfer y Cabinet, Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet a Phwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad hwn.

182.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim