Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 20fed Mehefin, 2023 14:30

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

183.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Dim

 

184.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Y Cyng Farr – Eitem 17, Rhagfarnu

Y Cyng Huw David Eitem 17 – Rhagfarnu

185.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 257 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 09 05 2023

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion y 09/05/2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

186.

Polisi Taliadau Uniongyrchol pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i bolisi newydd (sydd ynghlwm yn Atodiad 1) ar gyfer defnyddio taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl, ac anghenion cymorth yn achos gofalwyr di-dâl.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar grynodeb o daliadau uniongyrchol a'r polisi newydd fel y nodir yn Atodiad 1. Eglurodd fod y polisi newydd hwn yn galluogi'r Cyngor i ymateb yn uniongyrchol i argymhellion a wnaed gan Archwilio Cymru ar ôl ei adolygiad cenedlaethol o daliadau uniongyrchol (2022) a ddarperir o dan Atodiad 2.

 

Ychwanegodd y bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol i ystyried deddfwriaeth neu ganllawiau newydd. Bydd adolygiad trylwyr yn cael ei gynnal bob tair blynedd hefyd fel rhan o lywodraethu da.

 

Mae'r Dirprwy Arweinydd yn croesawu'r adroddiad a'r polisi newydd. Mynychodd y cyfarfodydd ym mis Mawrth a chymerodd sylw o'r sylwadau a wnaed gan drigolion a defnyddwyr y polisi. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a phwysleisiodd bwysigrwydd cyd-ysgrifennu'r polisi. Gofynnodd pa waith yr oeddem yn ei wneud gyda'r Bwrdd Iechyd er mwyn mynd i'r afael ag un o'r argymhellion a wnaed gan Archwilio Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod nifer o unigolion a fydd wedi ariannu pecynnau gofal a ddarperir iddynt ar y cyd ac roedd hyn yn rhywbeth y gallai'r Awdurdod Lleol ddarparu cymorth gydag ef o safbwynt y polisi taliadau uniongyrchol. Ychwanegodd bod gwaith yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru hefyd i adolygu'r polisi gofal iechyd presennol i Gymru a'r gobaith yw y byddai hyn yn caniatáu i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud mewn ffordd symlach.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn ystyried a chymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer taliadau uniongyrchol sydd ynghlwm fel Atodiad 1.

 

187.

Polisi Atal Osgoi Treth pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Bolisi Atal Osgoi Treth diwygiedig i'r Cabinet i'w gymeradwyo. 

 

Eglurodd fod gan y Cyngor bolisïau Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo ac Atal Gwyngalchu Arian i gefnogi trefniadau effeithiol i atal a chanfod gweithredoedd o lwgrwobrwyo a llygredd sy'n cael eu monitro a'u hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Mae'r Polisi Atal Osgoi Treth yn mynd i'r afael yn benodol ag atal osgoi talu treth ac yn darparu dull cydlynol a chyson ar gyfer pob gweithiwr ac unrhyw berson sy'n cyflawni gwasanaethau ar gyfer ac ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi Atal Osgoi Treth ar 9 Chwefror 2021. Mae'r Polisi Atal Osgoi Treth diwygiedig ynghlwm fel Atodiad A, gyda'r newidiadau wedi'u hymgorffori.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau yr adroddiad a dywedodd fod y polisi hwn yn wynebu i mewn gan ei fod yn canolbwyntio mwy ar Aelodau a Swyddogion. Roedd yn bodoli wrth ochre ein polisi gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a gwyngalchu arian a oedd yn canolbwyntio ar ochr yr awdurdod sy'n wynebu'r cwsmer.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Llesiant Cymunedol pa gamau fyddai'n cael eu cymryd fel awdurdod os ydym yn gweld bod rhywun wedi bod yn osgoi treth.

 

Sicrhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau nad oeddem wedi cael unrhyw achosion o osgoi talu treth, ond pe bai'n digwydd, byddai hyn yn cael ei anfon ymlaen i'n Uwch Ymchwilydd Twyll a'n gwasanaeth archwilio mewnol, a byddai ble y byddai'n cael ei gyfeirio wedyn yn dibynnu ar yr hyn y byddai'r ymchwiliad hwnnw'n ei ganfod.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob Aelod a Swyddog yngl?n â hyn. Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid bod modelau hyfforddi ar gael i'r holl staff ar y Fewnrwyd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi Atal Osgoi treth diwygiedig

 

188.

Alldro Cyllideb Refeniw 2022-23 pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am berfformiad ariannol refeniw'r Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Esboniodd fod Tabl 1 yn dangos y gymhariaeth o'r gyllideb yn erbyn yr alldro gwirioneddol ar 31 Mawrth 2023. Roedd Tabl 2 yn dangos yr hawliadau gwariant Covid-19 ar gyfer 2022-23.

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid pan gafodd y gyllideb ei phennu ar gyfer 2022-23, mai ychydig iawn o gyllid a ddyrannwyd i gyfarwyddiaethau ar gyfer chwyddiant cyflog a phrisiau, gan nad oedd y rhan fwyaf wedi'u pennu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth yn cael ei chadw'n ganolog mewn cyllidebau ar draws y cyngor, i'w dyrannu pan fyddai rhagor o wybodaeth yn hysbys am godiadau penodol mewn prisiau cytundebol. Roedd adran 3.1.13 yr adroddiad yn dangos yr addasiadau technegol o chwarter 4.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y gostyngiadau yn y gyllideb a oedd yn weddill o 2021-22 a oedd wedi'u dwyn ymlaen. Roedd Tabl 4 yn dangos y gostyngiadau yn y gyllideb ar gyfer 2022-23 gyda phwynt 3.2.4 o'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynigion lleihau mwyaf arwyddocaol.

 

Tynnodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at atodiadau'r adroddiad a oedd yn darparu'r wybodaeth ganlynol:

 

  • Atodiad 1 - Monitro Gostyngiadau Cyllideb y Flwyddyn Flaenorol
  • Atodiad 2 - Cynigion Lleihau Cyllideb Olrhain Risg 2022-23 Mawrth 2023
  • Atodiad 3 Monitro Cyllideb Refeniw 2022-23
  • Atodiad 4 - Cronfeydd Wrth Gefn wedi'u Clustnodi Chwarter 4

 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau i'r Swyddogion am yr adroddiad. Gofynnodd am y tanwariant mewn cyllidebau eraill ar draws y Cyngor, faint o'r tanwariant sydd angen ei gadw yn y gyllideb sylfaenol a faint y gellir ei wario ar gyfer blaenoriaethau eraill.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hyn yn cael ei adolygu eto drwy'r broses o bennu cyllideb y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, dylid ystyried sawl tanwariant yn ofalus, er enghraifft y tanwariant sylweddol ar ein Cyllid Cyfalaf yn ogystal â chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae costau benthyca yn codi ac felly mae angen ystyried cymryd arian o feysydd o danwariant yn agosach ac yn fwy gofalus.

 

Cafwyd mwy o gwestiynau a thrafodaethau ar yr adroddiad sydd i'w gweld yma.

 

PENDERFYNWYD: Nododd y Cabinet y sefyllfa alldro refeniw ar gyfer 2022-23.

 

189.

Alldro Rhaglen Gyfalaf 2022-23 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd â'r nod o:

 

  • Gydymffurfio â gofyniad 'The Prudential Code for Capital Finance in Local Authorities' (argraffiad 2021) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i adrodd am berfformiad yn erbyn pob dangosydd rhagolwg bob chwarter.

 

  • darparu manylion yr alldro cyfalaf ar gyfer 2022-23 (Atodiad A)

 

  • nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill gwirioneddol ar gyfer 2022-23 (Atodiad B)

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod Atodiad A yn rhoi manylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf sy'n dangos y gyllideb sydd ar gael yn 2022-23 o'i gymharu â'r gwariant gwirioneddol. Ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Mawrth 2023 mae ychydig o fân newidiadau wedi bod i Raglen 2022-23 y tynnwyd sylw atynt ym mhwynt 3.1.2 o'r adroddiad. Roedd y gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 yn £58.760 miliwn yn awr.

 

Dywedodd fod angen £27.875 miliwn o lithriant y rhagwelir ei wario yn 2023-24. Tynnwyd sylw at y rhain ym mhwynt 3.1.4 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2022-2 ym mis Chwefror 20223, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022-23. Roedd Atodiad B yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2021-22, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2022-23 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a'r dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2022-23 yn seiliedig ar alldro'r Rhaglen Gyfalaf. Mae'r rhain yn dangos bod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r dangosyddion cymeradwy.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a'r cynnydd ar safle ystad ddiwydiannol Ffordd Ewenni yn ogystal â'r diweddariad ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gofynnodd mewn perthynas â'r tai fforddiadwy a'r dyraniad ar gyfer hyn, am gadarnhad o'r swm a'r rheswm dros ei adrodd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid mai arian adran 106 a dderbyniwyd y llynedd oedd yr £844,000, a'i fod wedi'i glustnodi. Bydd adroddiad i'r Cabinet yn fuan ar Strategaeth Ddigartrefedd ddrafft a fydd yn amlinellu ein dyheadau o ran yr hyn sydd angen ei wneud i gynyddu'r tai sydd ar gael ar draws y fwrdeistref. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn.

 

 

PENDERFYNWYD: bod y Cabinet:

 

  • yn nodi alldro cyfalaf ar gyfer 2022-23 (Atodiad A)

 

  • nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill gwirioneddol ar gyfer 2022-23 (Atodiad B)

 

190.

Alldro Rheoli'r Trysorlys 2022-23 pdf eicon PDF 521 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd â'r nod o:

 

  • Gydymffurfio â gofynion 'Treasury Management in the Public Services: Code of Practice' (y Cod TM) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i adrodd trosolwg o weithgareddau'r trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

  • Adroddiad ar y Dangosyddion Rheoli gwirioneddol y Trysorlys ar gyfer 2022-23.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid bod y rhyfel yn Wcráin yn parhau i gadw chwyddiant byd-eang yn ystod 2022-23 yn uwch na thargedau'r banc canolog ac roedd rhagolygon economaidd y DU yn parhau'n gymharol wan gyda'r posibilrwydd o ddirwasgiad bach. Parhaodd y cefndir economaidd rhwng Ionawr a Mawrth 2023 i gael ei nodweddu gan brisiau ynni a nwyddau uchel, chwyddiant uchel, a'r effaith gysylltiedig ar gyllidebau a gwariant cartrefi.

 

Ychwanegodd fod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi i 10.1% yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023. Roedd hyn yn gynnydd o 5.5% ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, ond ychydig yn is na mis Chwefror 2023 sef 10.4%, Ar ei uchaf cyrhaeddodd y CPI 11.1% ym mis Hydref 2022. Er bod costau tanwydd wedi gostwng, mae costau bwyd, hamdden a diwylliant wedi cyfrannu at chwyddiant uwch. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod gweithgareddau Rheoli Trysorlys 22-23 i'w gweld yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd crynodeb o sefyllfa dyled a buddsoddi'r Cyngor yn Nhabl 1 gyda rhagor o wybodaeth am hyn yn atodiad A hefyd.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau yr adroddiad a chredai ei fod yn dangos y ffordd effeithiol y mae'r Cyngor yn rheoli ei arian gyda chydbwysedd rhwng risg a chyfrifoldeb. Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn adlewyrchu'r newidiadau yn yr economi i raddau helaeth a'r cynnydd mewn cyfraddau yn gyffredinol. Ychwanegodd hefyd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi chwarae rhan bwysig ym mhroses fonitro rheoli'r trysorlys.

 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • Yn nodi'r gweithgareddau trysorlys blynyddol ar gyfer 2022-23

 

  • Yn nodi'r Dangosyddion Rheoli Trysorlys gwirioneddol ar gyfer 2022-23 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022-23.

 

191.

Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2023-2026 pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd (EFS) 2023-2026 fel sydd ynghlwm yn Atodiad A.

 

Eglurodd fod cynllun strategol tair blynedd y gyfarwyddiaeth yn rhan bwysig o fodel cyflawni'r gyfarwyddiaeth gan ei fod yn galluogi aliniad clir â pholisi cenedlaethol a blaenoriaethau a bennwyd yn lleol. Nid oedd dyletswydd statudol i lunio cynllun tair blynedd, fodd bynnag, roedd y gyfarwyddiaeth yn awyddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y gwaith o ddarparu gwasanaethau, dros y tymor canolig, yn cael ei gydlynu'n dda a, lle bynnag y bo modd, yn diwallu anghenion derbynwyr gwasanaethau. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid a grwpiau allweddol yn ystod y broses ac amlinellwyd y rhain yn adran 3 .4 yr adroddiad. Roedd manylion pellach yn adran 3 yr adroddiad hefyd.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Addysg yr adroddiad a diolchodd i bawb a gyfrannodd eu barn a helpu'r gyfarwyddiaeth i ymgorffori'r safbwyntiau hyn yn natblygiad y Cynllun. Ychwanegodd ei bod yn bwysig bod hwn yn adroddiad cydweithredol a oedd yn cael ei ddangos yma.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd  2023-2026

 

192.

Canlyniad Arolwg Estyn o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad i'r Cabinet ar ganlyniadau arolwg diweddar Estyn o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

 

Eglurodd fod Estyn wedi treialu trefniadau arolygu sy'n cefnogi adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru yn ystod tymor y gwanwyn a'r haf 2022. Nid yw'r adroddiadau arolygu newydd yn cynnwys graddau crynodol mwyach, ond yn hytrach maent yn manylu ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu. Cafodd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ei harolygu gan Estyn, gan ddefnyddio'r dull newydd, ym mis Mawrth 2023 a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 5 Mehefin 2023. Roedd testun llawn yr adroddiad ar gael ar wefan Estyn.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn falch o ddweud na chafodd yr ysgol unrhyw argymhellion gan ESTYN, sef y tro cyntaf i ysgol cyfrwng Cymraeg gyflawni hyn. Tynnodd sylw at rai o'r pwyntiau allweddol a wnaed gan ESTYN y manylwyd arnynt yn adran 3 yr adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Addysg yr adroddiad a llongyfarchodd yr ysgol ar gyflawniad anhygoel. Ar ôl ymweld â'r ysgol yn ddiweddar dywedodd fod pawb oedd yn bresennol yn yr ymweliad ysgol yn cytuno ei bod yn ysgol wych a oedd yn ymfalchïo yn y plant a'u haddysg.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

193.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Model Buddsoddi Cydfuddiannol Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i:

 

  • gyflwyno cais Cam 2 y Model Buddsoddi Cydfuddiannol i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru mewn perthynas â chynllun Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr; ac

 

  • Enwebu'r Cynghorydd Jon-Paul Blundell i fod yn Gynrychiolydd Cyfranogol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar Fwrdd Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar 17 Mai 2023, bod yr awdurdod lleol wedi derbyn cymeradwyaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas ag Achos Busnes Amlinellol Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r gymeradwyaeth hon gan Lywodraeth Cymru i'r Achos Busnes yn galluogi cyflwyno cais Cam 2 Model Buddsoddi Cydfuddiannol (dylunio manwl, cynllunio a chydosod cadwyn gyflenwi) i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru yn awr.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg fod hwn yn gam pwysig ymlaen yn Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr a chroesawodd yr enwebiad iddo ef ei hun eistedd ar y bwrdd.

 

Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a'i bod yn garreg filltir bwysig wrth ailddatblygu'r ddarpariaeth gynradd yng Nghorneli. Hwn oedd y buddsoddiad unigol mwyaf oedd wedi digwydd yn yr ardal hon. Roedd cymuned Corneli wedi mynegi eu cyffro ynghylch hyn hefyd. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau carbon sero-net ar bob datblygiad yn y dyfodol a oedd yn gam pwysig yn ein strategaeth carbon niwtral.

 

PENDERFYNWYD: bod y Cabinet:

 

  • yn cymeradwyo cyflwyno cais Cam 2 y Model Buddsoddi Cydfuddiannol i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru mewn perthynas â chynllun Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, a

 

  • yn cymeradwyo enwebu a phenodi'r Cynghorydd Jon-Paul Blundell i fod yn Gynrychiolydd Cyfranogol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol.

 

194.

Moderneiddio Ysgolion: Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg Porthcawl - Canlyniad Ymgynghoriad pdf eicon PDF 974 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad i:

 

  • hysbysu'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ar gynnig Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg Porthcawl; a

 

  • gofyn am gymeradwyaeth i barhau i ddatblygu cynllun i sefydlu ysgol egin cyfrwng Cymraeg a darpariaeth gofal plant ar gyfer ardal Porthcawl ar dir ar safle Ysgol Gynradd Porthcawl.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at yr ymatebion a gafwyd mewn perthynas â'r broses ymgynghori a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad. Byddai'r Cabinet yn nodi bod yr ymatebion a gafwyd yn gadarnhaol ar y cyfan. Dywedodd fod Atodiad 3 yn tynnu sylw at yr ymateb gan Rhieni dros Addysg Gymraeg i ymgynghoriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y Cynnig ar gyfer ysgol egin cyfrwng Cymraeg a gofal plant yn ardal Porthcawl.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg bod awydd ym Mhorthcawl i ddarparu Ysgol Gynradd Gymraeg yno a gofynnodd am sicrwydd mai dyma yw'r sefyllfa. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai dyma'r cynllun yng nghamau nesaf y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg beth fyddai'n cael ei wneud i sicrhau na fyddai'r cynnydd mewn traffig yn cael effaith negyddol ar yr ardal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai angen cynnal Asesiad o'r Effaith ar Draffig gyda phob adeilad newydd. Byddai hyn yn cynnwys ymgysylltu â'r adran Briffyrdd yn ogystal â thrigolion yng nghyffiniau'r adeilad newydd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar gynnig Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg Porthcawl; ac

 

  • yn rhoi cymeradwyaeth i barhau i ddatblygu'r cynllun i sefydlu ysgol egin cyfrwng Cymraeg a darpariaeth gofal plant ar gyfer ardal Porthcawl ar dir ar safle Ysgol Gynradd Porthcawl.

 

195.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 243 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer penodi llywodraethwyr awdurdod lleol i gyrff llywodraethu'r ysgolion a restrir ym mharagraffau 3.1 a 3.2.

 

Eglurodd fod yr un swydd wag bresennol i lywodraethwr awdurdod lleol wedi'i nodi yn nhabl 1 yr adroddiad. Roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymeradwy ar gyfer ei benodi fel llywodraethwr awdurdod lleol ac nid oedd cystadleuaeth am y swydd wag. Roedd cystadleuaeth am un swydd wag yn Ysgol Heronsbridge ac roedd yr ymgeiswyr hyn wedi'u rhestru yn nhabl 2.

 

Oherwydd ei phrofiad helaeth fel llywodraethwr awdurdod lleol, yn sgil gwasanaethu am flynyddoedd lawer ar gorff llywodraethu Ysgol Heronsbridge, ac yn fwyaf diweddar yn rôl yr is-gadeirydd, argymhellwyd ailbenodi Mrs Marjorie Nash.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r penodiadau a nodir ym mharagraffau 3.1 i 3.3.

 

196.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi Aelodau i gydbwyllgorau, pwyllgorau'r Cabinet ac enwebu Aelodau i gyrff allanol. Roedd yr Awdurdod yn cael ei gynrychioli ar nifer o gyrff allanol a chydbwyllgorau fel y rhestrir yn Atodiad 1.

 

Cynigiwyd penodi Aelodau am gyfnod o flwyddyn ac eithrio pan fo dirymu penodiad yn gynharach yn briodol.

 

Cynigiodd y Prif Swyddog dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, lle mae'r Cabinet yn enwebu ar sail rôl Aelod yn yr Awdurdod y dylid cysylltu'r penodiad â'r rôl ac nid â'r Aelod unigol, e.e. Cadeirydd Craffu, Aelod Cabinet.  Gwneir pob penodiad gyda'r rhagdybiaeth bod y sawl a benodir yn cynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd manylion pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Gofynnodd i'r Cabinet nodi bod yr aelodau craffu wedi'u cynnwys ar yr enwebiad Rhianta Corfforaethol ond y gallai'r rhain newid gan fod y pwyllgorau unigol yn eu penderfynu.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet wedi penodi'r nifer gofynnol o Aelodau i'r cydbwyllgorau a chyrff allanol eraill fel y rhestrir yn Atodiad 1.

 

197.

Cymeradwyaeth Deddf Trwyddedu 2003 i gyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir adroddiad a oedd yn rhoi Asesiad Effaith Gronnol arfaethedig (Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr) i'r Cabinet ei ystyried a'i nodi. Roedd cymeradwyo Asesiad Effaith Gronnol (CIA) yn un o swyddogaethau'r Cyngor ac felly byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn yn y cyfarfod yfory.

 

Eglurodd fod y Cyngor, ar 18 Rhagfyr 2019, wedi cymeradwyo cyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol (CIA) ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr sy'n llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau yn Natganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor. Daeth y CIA i ben ym mis Rhagfyr 2022.

 

Mae CIA yn asesu amrywiol faterion yn ymwneud ag effaith safleoedd trwyddedig gan gynnwys trosedd ac anhrefn, niwsans cyhoeddus, taflu sbwriel ac effeithiau negyddol eraill ar ardaloedd penodol ac yn nodi'r dystiolaeth y mae'r Cyngor yn seilio ei benderfyniad arni i gyhoeddi CIA.

 

Dywedodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod Heddlu De Cymru wedi gofyn am gadw'r CIA yn ei ffurf bresennol, ac mae manylion hynny ynghlwm yn Atodiad B. Roedd rhagor o fanylion am y strydoedd y byddai'r CIA yn eu cwmpasu gan gynnwys manylion perthnasol eraill yn adran 3 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd mewn perthynas ag amodau trwydded safle, a ellid sicrhau bod y rhain ar gael yn haws i'r cyhoedd allu cael gafael arnyn nhw, heb fod angen cysylltu â'r tîm trwyddedu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y byddai'n edrych i weld a fyddai hyn yn bosibl wrth symud ymlaen.

 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn nodi'r adroddiad a'r opsiwn a nodir yn 3.19 uchod, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 21 Mehefin 2023.

 

 

198.

Cronfeydd Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig pdf eicon PDF 470 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i sefydlu a chyflwyno cyfres o gronfeydd grant fel rhan o'r rhaglen gyflawni ar gyfer Cynllun Buddsoddi Lleol Pen-y-bont ar Ogwr trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac i wneud diwygiadau i Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor i hwyluso dyfarnu cyllid grant.

 

Eglurodd fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn rhan allweddol o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, gan ffurfio rhan o gyllid cyflenwol, yn cynnwys Cronfa Codi'r Gwastad a'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Ym mis Gorffennaf 2022 dirprwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyflwyno Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Pen-y-bont ar Ogwr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'w gynnwys yng nghyflwyniad cyffredinol Cynllun Buddsoddi Lleol De-ddwyrain Cymru i Lywodraeth y DU. Fel rhan o'r broses gyllido roedd angen penodi un awdurdod lleol i ymgymryd â rôl yr 'Awdurdod Lleol Arweiniol' ar gyfer y rhanbarth ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n cyflawni'r rôl hon. Roedd cefndir pellach yn adran 2 yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod yr arian grant fel yr amlinellwyd yn adran 3.5 yr adroddiad wedi'i sefydlu a'i ddarparu. Er mwyn hwyluso'r rhain, roedd angen gwneud nifer o newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau. Nodwyd y rhain yn adran 3.11 yr adroddiad.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Lles Cymunedol pryd y byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad diweddaru yn adolygu'r broses ariannu grantiau. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai angen i'r adrodd yn ôl i'r Cabinet fod yn rheolaidd oherwydd yr amserlen gyflwyno gaeth.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Lles Cymunedol y byddai panel yn cael ei sefydlu. A yw aelodaeth y panel hwn wedi'i benderfynu?. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol nad oedd hyn wedi cael ei benderfynu eto ond bydd aelodau cabinet a swyddogion perthnasol yn cael eu neilltuo i hyn pan fydd trafodaethau wedi digwydd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod yn siomedig bod Llywodraeth y DU wedi cymryd cyhyd i ddarparu'r cyllid ar gyfer hyn ac roedd disgwyliad i Lywodraethau Lleol ddarparu'r cyllid hwn mewn byr amser.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yr adroddiad gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud canol tref Pen-y-bont ar Ogwr mor ddeniadol i fusnesau ag y gall fod. Ychwanegodd, wrth edrych ar straeon llwyddiant am adfywio canol trefi, mai'r busnesau crefft ac unigryw mae pobl yn chwilio amdanyn nhw. Gofynnodd sut yr oeddem yn mynd i gefnogi'r rhai sy'n gwneud cais am y grant hwn a sicrhau eu bod yn gallu marchnata eu hunain. 

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol mai bwriad rhan o'r arian yw rhoi'r datblygiad yr oedd ei angen arnynt i fusnesau i'w symud ymlaen i'r camau pellach sydd eu hangen ar gyfer dilyniant ac ehangu. Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd, drwy'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 198.

199.

Dyraniadau o dan Gynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned 2023-2024 pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyrannu cyllid cyfalaf i Gynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu prosiectau yn unol â'r argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn gan gynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned ar gyfer 2023-24.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £50,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer 2023-24 a'r blynyddoedd dilynol yn Rhaglen Gyfalaf gymeradwy'r Cyngor i gefnogi ceisiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned ar gyfer prosiectau cyfalaf. Gyda'r arian sydd wedi'i ddwyn ymlaen o 2022-23 y gyllideb sydd ar gael ar gyfer 2023-24 yw £116,419.57.

 

Eglurodd fod Cynghorau Tref a Chymuned wedi cael gwybod am Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned, 2023- 24 ar 9 Tachwedd 2022. Roedd manylion y ceisiadau grant yn ogystal â'r cymeradwyaethau yn adran 3 yr adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd yr adroddiad ond gofynnodd am gynnwys argymhelliad ychwanegol i adolygu'r meini prawf ymgeisio ar gyfer Cynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned. Eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd H Williams.

 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn cymeradwyo dyrannu cyllid cyfalaf o £62,814.00 o fewn y Rhaglen Gyfalaf bresennol i Gynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu prosiectau yn unol â'r ceisiadau penodol y manylir arnynt yn Nhabl 2 o Gynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned.

 

  • Sylwer y bydd cyllid o £53,605.57 yn cael ei ddwyn ymlaen i gefnogi prosiectau yn 2024-25 a thu hwnt.

 

  • Adolygu'r meini prawf ymgeisio ar gyfer Cynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned.

 

200.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

201.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, cafodd y cyhoedd eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod yr ystyriaeth o'r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y barnwyd, yn yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eitem, fod budd y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn bwysicach na budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth, oherwydd byddai'r wybodaeth yn rhagfarnu i'r ymgeisydd y cyfeirir ato.

 

202.

Cytundeb Cyd-fenter (Redstart) - Cais am Estyniad i Gontract